Yng Ngwlad y Gwyddel/Bwlch Dunloe
| ← Amaethwyr y Mynyddoedd | Yng Ngwlad y Gwyddel gan John Morgan Edwards |
Mynyddoedd a Llynnoedd → |
VI.—BWLCH DUNLOE.
CHWYTHAI y gwynt i'r gogledd, elem ninnau yn araf tua'r de a Bwlch rhamantus Dunloe. Yr oeddym wedi gadael y fferm olaf,—y plant yn codi tatws, y wraig yn pobi, a'r gŵr yn segura. Dirwynai ein llwybr trwy le tra hagr, dan lethr llechweddau caregog, a rhedyn a grug yn ceisio ymwthio rhwng y cerrig aml. Ond yr oedd y ffordd mewn cyflwr da gan gymaint y teithio sydd arni, a drwg oedd gennyf, wrth ei gweld felly, nad oedd fy ngheffyl haiarn gyda mi. Os oes gennyt fis neu lai, ddarllennydd hynaws, i'w hebgor yng ngwyliau'r haf, nis gwn am un man mwy dymunol iti i'w dreulio na rhwng mynyddoedd Kerry, nac am bobl garedicach, ychwaith, i gydfyw â hwy na'r trigolion. Mae'r ffyrdd yn rhagorol i gerdded neu olwyno,—ffyrdd tebyg i'r un a gyda glannau y Teifi, neu o Dy Ddewi i Hwlffordd, neu yr un adawa ochr Llyn Tegid am Ddolgellau, geir yno.
Yr oedd yr haul wedi mynd dros hanner ei gwrs pan eisteddem ar ganllaw pont gerrig henafol,—yr oedd cerrig ei bwa gymaint ar eu cyllell braidd a rhai Pont y Gŵr Drwg. Ni welais ddwfr mor ddu erioed na'r nant elai tanom, nac ewyn mor wyn a'i hewyn hi,—yr oedd fel dannedd gwynion dyn du. Wrth dalcen y bont tyfai bedwen arian a mwswg melyn fel gwythiennau aur gylch ei bôn. Hawdd fuasai breuddwydio amser heibio mewn lle mor unig a thawel ac mor gyfoethog mewn golygfeydd.
Ymledai deheudir yr Iwerddon o'n blaen,—faint o orthrwm a thrais fu ynddo? Diwrnod cymylog a niwliog oedd diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg yma. Yr adeg hynny rhoddodd y Llywodraeth y tir, i gadw trefn ac i Seisnigeiddio, i nifer o anturiaethwyr o orllewin Lloegr,—rhai hynod am bechod a chreulondeb, ac nid y lleiaf yn hyn oedd Peter Carew anllad. Meddai ef hawl fel disgynnydd Fitzstephen yn nyddiau Harri'r Ail i dir yn Carlow a Cork, ebai ef; ond nid felly y credai y trigolion, a chododd y Desmoniaid yn 1576 mewn gwrthryfel yn ei erbyn. Yr oedd hir ddioddef wedi eu dysgu mai gwaith ofer oedd disgwyl trugaredd a chyfiawnder gan Sais. Ceisiwyd cymorth Ffrainc, ond glaniodd Fiztmaurice ac ychydig Yspaenwyr yn Smerwick. Unodd Syr John o Desmond hwy,—newydd ei ryddhau o garchar Dublin ar yr amod iddo gadw heddwch; a ffodd ei frawd Iago o'r carchar i gynorthwyo yn yr ymdrech am anibyniaeth. Ymgasglodd y Desmoniaid ar hyd glannau y Shannon a godreu mynyddoedd Kerry dan arfau, ac unwyd â hwy gan dair mil o denantiaid y Geraldines wrth goedwig fawr heb fod nepell o Limerick. Collodd eu llywydd, Fitzmaurice, ei fywyd yn fuan; ond llwyddodd ei olynydd, Syr John o Desmond, i yrru'r Saeson a'i harweinydd, Syr William Drury, i hen gastell Killmallock. Drud i'r Gwyddelod fu canlyniad y fuddugoliaeth, canys anfonodd y llywodraeth ddwy fintai o filwyr dan arweiniad Syr William Polham ac Ormonde o Dublin a Kilkenny, a chyfarfyddodd y ddwy fyddin yn Tralee,—anialwch o waed a chyrff oedd eu llwybr hwy. Wedi cael defnydd tân a dinistr o'r llongau oedd yn eu cyfarfod yno a malurio hen gastell Carrigafoyle, ymdeithiodd y milwyr arfog trwy wlad lawn o drigolion tlawd a noeth a diamddiffyn, gan eu lladd a'u difa. Aethant i bellfannau Kerry, i Dingle a Valentia, gan mor wancus am waed gwirion oeddynt. Mae hanes eu hymdaith yn erchyll,—
Lladd pawb, lladd pob oed,
Lladd yr hyna a'r ienga 'rioed,-
milwyr wedi meddwi ar waed. Dyma ddywed Ormonde yn ei fost wnaeth, -"Lleddais 88 o gapteniaid, a 1547 o fradwyr hynod ereill, a 4000 o drigolion." Wedi y galanas dychrynllyd yma glaniodd y cymorth hirddisgwyliedig o Spaen yn Smerwick, ond fis yn rhy hwyr; yr oedd Munster wedi ei darostwng. Er hynny daeth gobaith eilwaith i galon y gorchfygedig; pan glywodd Syr John o Desmond fod pedair llong ac wyth gant o Spaenwyr ac Eidalwyr ar draeth y de i'w bleidio, daeth allan o'i ymguddfan yn anialwch Aherlow. Gwyliodd y Saeson pan elynt trwy lyn cul Glenmalure. Taflodd gerrig a saethau arnynt a mawr y difrod a wnaeth ar ei elyn,—cafodd y mwynhad o weld Peter Carew ymhlith y meirw. Clywodd y llywodraeth fod cynorthwy wedi dyfod i'r Gwyddel, a chyflymodd Lord Gray o Dublin gyda Syr Walter Raleigh ac Edmund Spenser tua'r de i gymeryd Smerwick, a bu raid i'r wyth gan tramorwr roddi eu harfau i lawr a cherdded allan i'w saethu gan Raleigh.
Dychryn ac angau deyrnasai ymhob man. "Pwy bynnag," ebe'r hanesydd, "deithiai trwy Munster ni chyfarfyddai na dyn na phlentyn, ac ni welai anifail," ac mae'r darluniad byw o'r trueni oedd yno gan Spenser yn anhygoel bron. Cariwyd gwehilion Lloegr i etifeddu y 547,628 cyfer gollodd Desmond trwy ryfela yn erbyn y Llywodraeth, a dechreuwyd y "Plantation of Munster." Ond nid lle hapus oedd yno i elynion y Gwyddel ffarmio. Ymosodid arnynt o bob cyfeiriad gan y rhai alwent eu hunain yn Robin Hood, fel mai da oedd ganddynt droi tua Lloegr yn ol. Pwy yw y nesaf i geisio adennill yr Iwerddon,—anialwch ac anghyfanedd-dra sydd yn y de? Mae dau frawd Desmond,—John ac Iago,—wedi eu dal a thorri eu pennau, a daliwyd yntau hefyd, er ffoi o fryn i fryn, yn ei gaban cerrig gododd ar fryn Slievenish ger Tralee, a rhoddwyd ef i farwolaeth greulon. Dacw Huw Goch yn codi ei fwa,—gwae'r Saeson.
Ond rhaid gadael hanes, y mae gennym ugain milltir rhyngom a bwyd a llety. Gyda ein bod yn gadael y bont ac yn troi am gornel sydyn, dyma ergyd o ganon dros y lle, a bu ei heco yn llamu o graig i graig gyda thwrw syfrdanol yn hir. Beth ddaeth ag arfau tân i le felly?
Ai tybed i ddau bererin gael eu camgymeryd am ddau elyn? Tra y ceisiwn ddarbwyllo fy hun fod fy aelodau yn ddianaf eto, dyma ben Gwyddel i'w weld rhyngof a'r goleu dros ymyl y graig, a'i ddwy glust fel dau fotwm corn bobtu i'w geg lydan wenai a gwaeddai,—
"A triffl twards thi powdar, i ar honer?"
"A faint am y shots?" gofynnai Befan.
"O'doedd dim shots yn y gwn. Clywsoch, yn to, am Pat? Wel i chi yr oedd Pat heb ddim pres, a phenderfynodd ymosod ar ryw ddyn elai heibio. Cyn hir daeth dyn ariannog yr olwg arno ar hyd y ffordd, a neidiodd Pat o'r gwrych.
"Eich arian ne'ch bywyd' ebe Pat gan anelu â'i ddryll ato.
"Cewch fy arian oll am y pistol' ebe'r dieithr ddyn.
"O'r gore,' meddai Pat, gan dderbyn dyrnaid o aur melyn yn ei le.
"Wel,' ebe'r teithiwr, gan ddal y gwn at ben Pat, 'tyrd a'r arian yn ol ne mi saethaf di.'
"Purion! Saetha fi,' gwaeddai Pat, does yna ddim shots yn y gwn.'
"Felly finnau," ychwanegai'r Gwyddel wedi iddo orffen chwerthin am ben ei stori, "cadw swn heb shots."
"I beth y gollyngasoch yr ergyd?" "I beth? Ond i'ch honor glywed yr eco, ac mae ych honor yn rhy fawr i basio heb daflu chwech i mi yn siwr,—ac eco dda yw hi, hi yw yr ore yn y byd."
"Pam yr ydych yn galw yr eco yn hi,—ar y rhyw fenywaidd?"
"Am ei bod yr un fath a'i rhyw,— chewch chi byth y gair olaf ganddi." Gyda i ni dalu i hwn a'i adael a throi trofa arall, yr oedd yno eto ŵr o'r un llwyth, a choesau cyn feined a rhai ceiliog rhedyn, yn sefyll ar dalp o graig a chornet yn ei law. Cyn ein gweld braidd dechreuodd ganu ei gorn, ac ar hynny dyma y creigiau yn biwglo i gyd; ond nid oeddynt trwy drugaredd, yn tynnu'r ystumiau dirdynnol a wnai canwr y cornet,—elai ei fochau yn fawr fel mwdwl gwair; a disgynnent eilwaith yn ddim, fel na welid ond trwyn a chornet. Peidiodd a chanu pan welodd fod perygl i ni ei basio yn ddisylw, a daliodd ei gorn gyferbyn a'i gap, ac ebai,—
"Ceiniog neu fwy, eich honor, am yr eco?" a chulhai ei wyneb fel ffidil pan ddiweddodd ei frawddeg, a bradychai ei wên ei ddannedd pygddu; ac o'n prinder nid oedd modd ei wrthod. Mae'r Gwyddel yn bur barod i ofyn tâl am a wna, neu elusen os na wna ddim, ac mae a fynno yr Americanwr a'r Sais lawer ei fod felly, trwy geisio ei ddenu i wneyd neu ddweyd rhywbeth yn ei dylodi am arian. Mae'r Cymro o flaen ei gefnder yn hyn, nid yw ef mor hoff o gardota. Ni welais neb yng Nghymru, er crwydro o Benllyn i Benfro, ac eithrio'r gŵr wrth Fedd Gelert, yn gofyn elusen gan ddieithrddyn. Ond mae'r Gwyddel yn rhagori ar y Sais yn hyn. Y Sais yn cardota? Ydyw, yn ei wlad ei hun,—"er na welwyd y cyfiawn yn cardota ei fara." Oni fuost, ddarllennydd mwyn, yn cerdded o dref yn Lloegr am dawelwch gylch glannau'r afon dan yr helyg? Welaist ti'r hen wr hwnnw'n moes grymu cyn ised a'r llidiart agora, a'r ferch honno dâl am fenthyg baban er taro teimlad yr un a heibio yn fwy, neu'r hen wraig yr un lliw a'r ffordd ymhellach draw? Felly y Gwyddel ym mynyddoedd Kerry, er nad i'r un graddau â'r Sais. Y mae yntau yn dygn gynllunio pa fodd y caiff ryw beth oddiwrth bawb ddaw i gysylltiad âg ef o fodd neu anfodd.
Yr oedd trofa arall yn y ffordd, a chyn wired a hynny safai gŵr o gyfansoddiad cadarn ar gwr craig. Pan welodd hwn ni ymunionodd, gan osod ei ddwy law ar ei ochr, ac wedi casglu ei wefusau yn grwn at eu gilydd, fel genau potel inc, gwaeddodd â'i holl egni nes dysgu'r creigiau wneyd oernadau cyffelyb. Yna meddai, mewn llais merchedaidd fel petai dim neilltuol wedi digwydd,—
"Ceiniog am yr eco, eich honor?" Ond O! cyn i ni ddod i gyd-ddealltwriaeth ymunionodd eilwaith; cymerodd ei wynt ato ac agorodd ei enau o'n blaen nes i ni o'n hanfodd weld lining ei wasgod, a pharodd drafferth i'r eco yr ail dro lamu o graig i graig, a moes ymgrymodd o'n blaen fel petai ry wylaidd i lefaru. Ar delerau neilltuol y cafodd hwn ein hatling,—"na waeddai ond hynny yr awr nesaf," a thybiai Befan ein bod yn berthynasau agos i Job cyn y gwnaem hyd yn oed hynny âg ef.
Yn ymyl yr oedd hen ogof diriwyd er ys llawer canrif. Dywed rhai mai teml ydoedd, am fod llythrennau Ogamaidd ar y cerrig bwaog sydd yn nenfwd iddi, ac mai'r derwydd fu ynddi yn addoli. Ond aneglur iawn oedd y marciau Ogam, a thebycach oedd y lle i dŷ, ac mai'r Iberiad gwallt-ddu hoff o dawelwch fu ynddo yn byw, wedi ei erlid i fynyddoedd y gorllewin gan y Gwyddel. Nid mewn ogof yng ngwaelod mynydd y byddai'r derwydd yn arfer addoli, elai yn nes i'r nefoedd na hynny. Ar ben bryn braidd yn ddieithriad y codai efe ei allor gerrig. Cafwyd cyrff ac esgyrn dynol yn yr ogof wrth ei hagor, a chadarnha hynny syniad rhai mai bedd oedd yno unwaith. Plygai rhedyn Mair gwyn a melyn dros yr ymyl fel petai rhyw ysbryd wedi colli ei wallt wrth adael y lle, ac yn uwch i fyny tyfai bedwen arian wyrai gan henaint tua genau yr ogof, —yr oedd popeth yn gwywo gylch y lle, a dyma y rheswm, os oes coel ar air Gwyddel,—
"Mae traed 'sprydion yn oer ofnadwy, syr, a phan yn cymeryd eu nos-daith mae eu pedion rhewllyd deifio popeth ddaw i gyffyrddiad â hwy."
Yr oedd oriau rai cyn y nos, felly cawsom deithio ymhell cyn i fodau'r gwyll yn ddeffro. Yr oeddym wedi cyrraedd pen y rhiw, ac ai'r ffordd trwy lecyn gwastad creigiog cyn codi'n serth i'r Bwlch, a chaffai'r nant hamdden yma i wneyd mân lynnoedd wrth ei phwys mewn mawn-dir; Cummeer Thomeen yw enw'r llynnoedd hynny, a du fel y nos yw eu dwfr. Yngwaelod y Bwlch mae llety i'r fforddolion droi i mewn i ddadluddedu, ond rhaid fod y lludded yn fawr a'r syched yn angerddol i ddenu dyn i'r fath le diolwg, er holl hyawdledd y gŵr geisiai wrth ei swydd ddenu rhai i mewn. Yr oedd maelfa yno hefyd, lle gwneid ac y gwerthid dodrefn,—dodrefn prydferth ac o wneuthuriad cywrain o bren du'r fawnog, yr Irish bog oak sydd mor hynod.
Brynnwch chi'r un cwpwrdd, cader, neu ddreser dda?" ebe gŵr byr a'i wyneb cyn futred a'i farclod.
"Ma'r ffordd ymhell i'w cario adref."
"Ymhell! Byddwn yn anfon dodrefn i'r America ac Awstralia,—welwch chi'r gader yma? Yn hon, neu'n hytrach, mewn un yr un fath a hi, yr oedd y Sultan yn bwyta ei frecwest heddyw."
"Beth oedd ei fwyd o tybed?" gofynnai Befan.
"O! ham and eggs, 'rwy'n coelio i chwi," ebe'r byr.
Pan ganfu mai â dau hen lanc y ceisiai fargeinio, boddlonodd ar werthu cetyn i un a chyllell bapur yr un lliw a'i ddannedd i'r llall.
Gadawsom ef a'i siop, a rhythai Bwlch Dunloe arnom pan ddechreuem gerdded y ffordd gul ai rhwng ei ddwy erchwyn serth. Mae'r Gwyddel yn meddwl y byd o'i Gap of Dunloe, chwedl yntau, a hwn yn ddiau fuasai ei dduw,—ac nid fi a'i beiai-oni bai iddo glywed am Dduw gwell a charedicach. Finn Mac-Couhal dorrodd y Bwlch, medd traddodiad, â'i gleddyf, er hwylustod i'w fyddin fynd ymlaen. Fingal o' Fin yr Alltud yw enw y gwron hwn yn yr Alban ac Arthur Fawr yng Nghymru. Marw yn y frwydr, druan, wnaeth Finn cyn rhyddhau'r Gwyddel o'i gaethiwed, ac mae iau y gorthrwm yn drom ar aml i war wyredig rhwng mynyddoedd Kerry heddyw. Hwyrach y daw Finn yn ol—mae'r Gwyddel yn ei ddisgwyl beth bynnag.
I un fagwyd ym Mhenfro neu Faldwyn buasai'r Bwlch yn olygfa ddieithr a tharawiadol; ond i un o Arfon neu fynyddoedd Eryri buasai yn ei gynefin, ac ni welai ddim i gyfiawnhau'r ansoddeiriau wastreffir gan deithwyr i ddarlunio y lle. Mewn tlysni ni ddeil ei gydmharu âg Aberglaslyn, a buasai'n dychrynnu pe gwelai Fwlch Llanberis. Eto efelychiad o Fwlch Llanberis yw, a llwydda'n rhyfedd mewn ambell fan i fod yn debyg iddo. Cyfyd mynyddoedd y Tomies un ochr i'r llwybr, gan gystadlu yn noethter eu creigiau â'r Macgillicuddy Reeks sydd gyferbyn a hwy. Mae'n lle tlws, a barddonol, a thawel,—dim i'w glywed ond y nant drystiog danom, ac ambell "grawc" gras gan aderyn neu ddieflyn o'r creigiau oddi arnom, a dim i'w weled ond
Y gwrym! Dacw fod ar lun dyn yn llamu o'r mynydd i'n cyfarfod, ei shawl ymron colli oddi ar ei hysgwyddau, a'i gwallt fel pe'n ofni ei dilyn, yn disgyn gyda'r gwynt o'i hol. Meddyliais am Eliza'n croesi'r rhew, tybed fod rhyw feistr creulon yn ymlid hon? Ar hyn yr oedd yn ymyl.
"Gwd mornin, jintlmen, gwd mornin! Eily o Connor, the coleen bawn, wyf fi. Clywsoch am danaf yn to?" ac edrychai arnom yn graff.
Gwelais lawer o "bobol y tins" yn pabellu o dro i dro wrth lidiar y ffordd, ond prin y tybiwn i mi weld hon, na'i bath erioed. Yr oedd mor felen a'r canary ac mor hyll a phechod, eto galwai ei hun yn coleen bawn,— yn eneth brydferth. Yn droednoeth goesnoeth yr oedd, a rhaid fod ei gwadnau cyn galeted a chalon Pharaoh i gerdded ffordd mor garegog a hynny. Hosanau oedd gan hon ar werth,—rhyfedd mor ofalus am ereill, ac mor esgeulus o honynt eu hunain, yw rhai.
"Wel, os na phrynnwch bar o sane gennyf, mi wn," ebai gan wincio ar Befan, "y cymrwch wydriad bach, ynte," a thynnodd botel ddu a glas o'i mynwes.
"Yfed wisci? Na, ac yr wyf yn synnu
Ond i ysgoi araeth ddirwestol gofalodd am ddweyd na fyddai hi byth yn profi'r fath stwff; ond ei bod yn ei gario er mwyn y teithwyr sychedig elai dros y Bwlch. Yna danghosodd ddarlun.
"Prynnwch fy llun,—Eily o Connor, the coleen bawn. Bum ieuanc, a'r pryd hynny hynodid fi gan hoenusrwydd a harddwch, ond fel y gwelwch newidiodd priodi a helbulon byd fy ngwedd, —prynnwch fy llun."
Pan gafodd ei dymuniad, rhedodd i lawr i boeni rhyw ddieithriaid ereill a'n dilynai, a dringem ninnau i Fwlch Dunloe oedd fel drws y nefoedd o'n blaen Islaw yr oedd y Llyn Du,— Black Lough, heb grych ar ei wyneb, fel pyg rhewedig. Tebyg i Lyn Creiglyn Dyfi yw, ac fel y llyn hwnnw nid oes pysgodyn o'i fewn. I'r llyn yma y taflodd Patrig Sant sarff olaf yr Iwerddon; a hyn, ebe hwy, yw'r rheswm nad oes dim byw, ag eithrio'r sarff, ynddo. Mae ei ddyfroedd yn ddu fel angeu a distawrwydd y bedd o'i gylch. Ust! Swn canu, a'r llais yn dyfod yn syth o ganol y llyn! Dyna lais melodaidd merch a thannau telyn yn glir! Mor swynol, ond pam y fath lawenydd dan y fath lyn! Ai dan y llyn y maent, ynte yn uffern,-na, does na thelyn na merch yno. Rhaid i mi gael gweld o ba le y daw, petai raid i mi, fel Ned Puw gynt, ei ddilyn i ogof ddi-ben draw.
