Neidio i'r cynnwys

Yng Ngwlad y Gwyddel/Mynyddoedd a Llynnoedd

Oddi ar Wicidestun
Bwlch Dunloe Yng Ngwlad y Gwyddel

gan John Morgan Edwards

Te a Hanes

VII.—MYNYDDOEDD A LLYNNOEDD.

PAN fethem ddyfalu o ba le y deuai y llais swynol, gwelem rhyngom a'r goleu eneth ddeng mlwydd oed yn sefyll ar y ffordd, ac yn amneidio â'i llaw i fyny i'r creigiau. Meddyliais mai brenhines y tylwyth teg ydoedd, a'i bod yn arwain y "bodau bach" â'i llaw i ganu,—yr oedd mor hardd, gwallt melyn ysgafnach nag anadl, dannedd o liw ewyn y don, a phrydferthwch y wawr oedd ar ei gwedd hi. Ofnwn iddi ddiflannu o'm golwg neu ymguddio yn y brwyn, ac yr oeddwn ar ymddiddan â hi pan glywais lais uwch fy mhen,—

"Eich ewyllys da, jintlmen, am y gân a'r eco?"

Mewn cilfach yno gwelwn y Gwyddel hen a'n cyfarchai, gan ddal bwa ei grwth gyferbyn a'i wallt gwyn. Yr oedd yn anhawdd credu mai yr hen wr a'i grwth barodd y fath lawenydd ofnus ynnom, ac mai'r adlais barai i'w lais ddyfod atom fel o bydew erchyll; a llawen iawn oedd Pat wrth weld ein braw a'n penbleth.

"Yn y gilfach yma," meddai, "yr wyf yr haf yn chwareu fy hen grwth er difyrrwch i'r teithwyr, ac elw i minnau. Byw ar y mel mae'r wenynen y gaeaf gasgla'r haf,—felly finnau, jintlmen, ar eich elusen chwi ac ereill,"

"Sut y gwyddoch ein bod yn dyfod, a phryd i ddechreu chware?"

"O! fy nith fach sydd yn y ffordd yn gwylio, a phan fydd teithiwr wrth y Llyn Du amneidia arnaf â'i llaw. Glywsoch chwi'r canu yn y llyn?"

"Do; ond llais merch ddeuai i fyny o'r dwfr ?"

"Ie, Nora fy nith oedd yn canu gyda mi. Mae yn canu mor dlws a Siren ei hun. Siren? Wyddoch chwi ddim pwy oedd hi? Wel, hyhi roddodd y crwth a'r delyn i ni. Merch lednais, ry dlos i ddal goleuni'r dydd ydoedd, ac felly trigiannai dan y dwfr y dydd, a deuai am dro wedi'r gwyll i'r tir. Ond pan ar ei nos-daith unwaith gwelodd laslanc, a theimlodd fod ei chalon yn mynd gydag ef—mae'r merched yn hoffi colli ambell waith, wyddoch. Ac wedi gweld y bachgen dymunol hwnnw, deuai Siren am dro'n amlach,—digon naturiol, ynte? Ond nid oedd yn tycio, druan; ac un hwyr, dan bwys calon doredig,—wnaiff cariad ddim byd heb ddwy galon, ni cheisia fyw ar un, tyr hi,—plygodd ei phen wrth garreg ger y llyn, disgynnodd ei gwallt sidanaidd hir dros ei hysgwyddau gwyredig—dechreuodd y gwynt chwareu arno, a daeth cerddoriaeth ardderchog o hono. Bore drannoeth cafwyd Siren yno,— ar ffurf telyn. Ha," ebai'r hen Wyddel, "pa ryfedd fod y delyn yn taro tant tyneraf y galon,—boed lon, boed brudd, gan nad ydyw ond trawsffurfiad o ferch bur fu farw ar allor cariad ?" Tynnodd ei law trwy ei wallt didrefn, a thros y tannau eil-waith, ac heb ymwybod bron dechreuodd chware'r crwth, a chanu'r hen alaw Wyddelig "Gang fane" ar eiriau fel hyn,—

"Hence it came that this soft Harp so long hath been known To mingle love's language with sorrow's sad tone, Till thou did'st divide them, and teach the proud lay, To be love when I'm near thee, and grief when away."

Yr oedd ei lais yn doredig, a gadawai'r nodau uchaf i'r crwth eu chwareu ei hun. Canodd aml i alaw Wyddelig i ni. Yr oeddynt yn bur dlws a nodweddiadol o'r Gwyddel, ond alawon Cymru o bob alawon,—"Dyffryn Clwyd," a "Thoriad y Dydd,"—yw y mwyaf swynol i mi.

"Mae henaint yn gwneyd fy llais yn waeth," ebai'r hen grythor, "a'm crwth yn well. Cana di, Nora bach?" Canodd yr eneth fach yn swynol a naturiol. Gwyn fyd na bai pob merch yn canu mor ddirodres a hon,—dim o'r ffug-wên a'r mosiwn. Ond mor naturiol yr olwg arno oedd yr hen wr pan y canai ei grwth iddi. Elai y bwa'n naturiol o hono ei hun dros y tannau ganddo, cauai yntau ei lygaid yn dyn,—cyflyma y canai tynna yn y byd y cauai hwy. Pan redai ei fwa dros y nodau uchaf rhedai gwên dros ei wyneb melyn,—gwelid hi'n donnau ar ei dalcen crych elai dros ei goryn, a diflannai yn ei wegil. Siglai ei ben fel pendil cloc, yn ol amseriad y dôn. Ond o bob aelod, gyda'i dafod y caffai fwyaf o lafur a thrafferth,—piciai allan o'i enau yr ochr yma'n awr, yna'r ochr arall,—fel pen ffwlbart yn ei dwll pan ar gyfyng-gyngor a a allan ai peidio. Bryd arall deuai allan yn ei hyd a gorffwysai ennyd ar ben ei drwyn hir. Dedwydd iawn oedd yr olwg olaf gawsom arnynt yn eistedd ar y graig. Ymadawsom yn gyfeillion, a chanai yr hen a'r ifanc pan elem i lawr i'r ffordd, rywbeth tebyg i hyn,—

Cuishlih ma chree,
A wyddost di
Fel y gwnaeth y gwalch a fi!
Torri 'mowlen, colli fy niod,
Priodi fy merch, cusanu fy mhriod!
O Cuishlih ma chree!


"O Cuishlih ma chree," ebe'r creigiau ar eu hol, fel seindorf lawn, fel y tybiwn braidd mai rhyw Isaiah oedd yn eistedd ar gwr cwmwl du hedai uwch ben, ac yn gorchymyn "Cenwch nefoedd, gorfoledda ddaear, a bloeddiwch chwithau fynyddoedd ganu." Raid i Greawdwr y bydoedd ddim bod mewn angen moliant, —mae ganddo gyfoeth dihysbydd yn ei fynyddoedd o ddefnydd cân. Os blina hen deulu'r codwm ei foliannu tyr y creigiau allan i ganu,—"Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai y rhai hyn, y llefai y cerrig yn y fan."

Ymhellach i fyny 'roedd bwthyn,—hafoty. Ar ben y drws safai y bugail, yr oedd heb orffen cau ei esgidiau, heb wasgod am dano, nac ond un bresus wrth ei lodrau clytiog, a rhwng ei wefusau cysglyd yr oedd cetyn pridd a chauad tyllog arno.

"Myrff!" ebai wrth Befan, "tyrd a blewyn o dy baco?"

"Dydw i ddim yn smocio," atebai hwnnw.

Hir y parhaot,—bod mewn mynydd fel fi heb fygyn sydd yn arw, ac wedi arfer ei gael,—nid yw colli pryd yn ddim wrth hynny."

Yr oedd ei fwthyn yn ddigon del a glân, ac er mewn lle unig elai ugeiniau o bedestwyr heibio iddo'n ddyddiol. Yr oedd plant bach fel blodau rhwng y creigiau yn chware, a rhedai ambell un atom gan waeddi,—

"Shamrock sir, shamrock!" cherdded wrth ein hochr a gofyn elusen am y ddeilen fach gron y tybia'r Gwyddel y byd o honi. Croesai ein llwybr y nant droion dros bontydd anghelfydd, a dilynem ef igam-ogam rhwng cerrig anferth, fel welir ym mwlch Llanberis, dreiglodd o'r mynydd oddi arnom, ac wedi deng munud o gerdded dygn safem ar ben rhediad dwr, a chawsom egwyl i ffarwelio â'r Gogledd cyn edrych ar y De. O olygfa unig drannoeth diliw! cerrig a chreigiau wedi eu taflu ymhlith drafflith fel petai mynyddoedd bobtu'r Bwlch wedi bod yn brwydro â'u gilydd. Fel darlun o wawd a dialedd y safai mynydd y Purple; yr oedd yr eryr olaf wedi gadael ei nyth arno, ac ymgydiai y griafolen unig oedd rhyngom a'r goleu ar ei grimell am graig rhag syrthio. Parai yr heulwen dywynnai ar gopa y Tomies i'w gysgodion ymddangos yn fwy trwm ac erchyll, a dyrchafai y Macgillicuddy Reeks eu pen hunanol yn uwch i'r nefoedd yn unig er dangos hagred a gwyllted oedd. Rhwng yr erchwynion o fynyddoedd hyn gorweddai y Llynnoedd Duon mewn breuddwyd,—mor ddu fel na feiddiai dim grychu eu gwyneb prudd, a chyda eu glàn yr oedd llwybr llychlyd i'r mynydd. Y fath ddistawrwydd llewygol! Y fath olygfa oer,—droai haf yn aeaf ac a roddai wynrhew yn Awst ar fy mysedd! Dacw deithiwr unig yn cerdded y llwybr gydag ochr y llyn. Wrth ei weled daeth pererin Bunyan yn fyw i'm meddwl, a chofiais am hen lyn oer arall y bydd raid i mi ei deithio'n unig cyn bo hir,—y glyn garw hwnnw sydd o flaen pechadur pan dery ei draed wrth y mynyddoedd tywyll. A mi yn brudd ryfeddol clywais swn canu,—o lle deuai nis gwn, ond tybiwn mai'r pererin unig
Y DYFFRYN DU

welais yn y glyn ganai; ond clywwn y geiriau yn eglur—

"Ymdeithydd ydwyf gyda thi,—alltud fel fy holl dadau. Yr Arglwydd yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf. Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed, canys yr wyt ti gyd â mi,—dy wialen a'th ffon a'm cysurant."

Edrychais eilwaith ar Fwlch Dunloe a gwelwn wyrddlesni tragwyddol ar fryniau y gogledd drwyddo, a chwmwl gwyn fel aden angel yn sefydlog uwch ei ben, ac adlewyrchai ei liw ar y glyn du. Cofiais am gariad Gŵr na leiha, ac am waed ddiffoddodd fellt Sinai, ac aeth y glyn arall yn oleuach a lleihaodd fy ofn, a theimlwn y gallwn ei gerdded dan ganu.

Tua'r de 'roedd bryniau geisient ymguddio yng nghysgod eu gilydd,—golygfa gynhyrchai fwy o brudd-der nag o ofn. Oddi arnom rhedai nant ddu, ond eu hewyn, elwir yn Gearhameen, neu'n afon Cummeenduff, o "lyn y brithyll coch,"—Lough- na-bricdreag. Rhy flinedig oeddym i gerdded y glyn prydferth i'w tharddiad. Y Glyn Du yw enw'r cwm yma,—Cummeenduff Glen, neu Coom-a-Dhur, a therfyna yn sydyn yn y mynydd,—fel petai y cwmni a'i gwnai wedi torri ar ganol ei wneuthur. Cyflymai'r nant i'r môr, a dilynem ninnau hi â dim ond brwyn, defaid, a Duw, yn ein hamgylchu.

Gwrym! Dacw haid o ferched! Gwneyd mawn y maent,—beth arall allai eu dwyn i le mor anghyfannedd? Erbyn mynd yn nes atynt yr oedd yno luaws gyd â hwy,—Saeson ac Americaniaid, ar eu taith i gyfarfod cwch i'w cario yn ol i Killarney. O'u cylch yr oedd merched y mynyddoedd yn ceisio gwerthu rhyw fân bethau,—catiau, cadachau, hosanau, wisci, a llaeth. Amrywiai y merched o bymtheg i ugain oed; yr oeddynt yn brydferth, ond nid yn dal. Gwallt fel y nos oedd ganddynt, aeliau trymion a dau lygad llon danynt, a gwrid-goch iawn oedd eu gruddiau. Shawl fawr feddent dros eu pen, ond er eu bod yn gwerthu hosanau yn daer i ereill, yn droednoeth goesnoeth y cerddent hwy. Yr oeddynt yn ffraeth iawn, ond nid yn dafod-ddrwg,-yn weddus, pur, a diymwad; ac nid yn fuan yr anghofia y Sais anfoesgar y wers gafodd gan un o honynt, pan dybiodd oddiwrth eu gwisg ddieithr eu bod yn amgen i hynny.

Yr oedd y dyrfa, pan aethom atynt, wrth garreg fawr safai ar garreg arall, ac er ei bod yn dunelli o bwysau, nid oedd ond modfedd o honi yn cyffwrdd â'r garreg oedd dani; a dyma hanes y garreg yn ol y Gwyddel a'n harweiniai,—

"Hon, jintlmen, yw 'Carreg Loghan,' neu 'Graig y Glorian.' O ba le y daeth, nid oedd dysgedigion y dyddiau aeth heibio yn gwybod, ac yn fyr nid wyf finnau, sydd yn byw ar eu hol hwy, 'n gwybod ychwaith. Y dyb yw mai'r Derwydd a'i gosododd yma.

Mae'n ugain troedfedd o dryfesur, a phwysa dunelli lawer. A'r rhyfeddod yw, jintlmen, ei bod wedi ei gosod mor gywrain, ac i sefyll ar cyn lleied o'r garreg sydd dani, fel y gellir ei siglo'n hawdd." Tarodd ei law arni a siglodd y garreg. "Ac yn wir," ebai wedi hynny, "gallai aderyn ond anadlu ei siglo'n hawdd, a'm barn i, jintlmen, yw mai y bonheddwr gordeddodd raff o dywod ar draeth Bau Castle Gough a'i rhoddodd yma."

Deuai llynnoedd Killarney a'i gilfachau coediog i'r golwg, ac ambell i fwthyn unig yma ac acw, ac aethom gyda'r lluaws dros waen gorsiog tua'r ffordd oedd danom. Dilynai y merched ni, a phoenent rywun yn barhaus, ac ebai un lygadlon with Befan,—

"Cymerwch wydriad o wisci a llaeth."

"Y fi! Fyddaf fi ddim yn yfed dim cryfach na the."

"Choelia i mohonoch," ebai'r eneth, "neu ni fuasech mor lân a phrydferth pe buasech yn llwyrymwrthodwr!"

Ac adlewyrchai ei gwên ar wyneb Befan fel y credwn mai ef wenai dan y compliment. Cefais glywed y frawddeg ddiniwed aml i waith cyn y nos, ond pan yn adrodd yr hanes i gorach o Sais deugain oed,—dyfodd hynny wnaeth yn ei ddeng mlwydd cyntaf, ac i hwnnw ddweyd iddo yntau hefyd gael yr un compliment gan y "feri wan," ni sibrydwyd y frawddeg wrthyf mwy. Wedi i'r ferch weld nad oedd modd torri ein syched,—

"Rhoddwch swllt, ynte," ebai, "am chwe cheiniog i mi?"

"I be hynny?"

"Er mwyn i mi gael fy arian priodi;' yr wyf yn ddeunaw oed—bydd y mwyafrif yn priodi yr oed yma. A rhaid i mi ennill coron o arian cyn priodi—dyna yr arferiad."

Yr oedd pont dros afon rychiog yn ymyl a rhaid oedd talu swllt am groesi hon, a bu hynny yn foddion i ni gael gwared â'r merched a'n hebryngai dros y mynydd. Safai tyrfa o Wyddelod, bugeiliaid a llogwyr ceffylau wrth y bont, a siaradai y meibion a'r merched yn ddi daw, a deuai eu swn fel su cacynen mewn bys coch ar ein holau. Yr hen Wyddeleg sydd mor hoff ganddynt siariadent, ac yn yr iaith honno y clywais ysgwrs olaf bugeiliaid y mynyddoedd. Deuai y llyn uchaf i ymyl y bont, ac mewn cilfach ynddo yr oedd cychod i gario y gwŷr a'u llogodd adref i Killarney. Yr oedd yn braf enbyd i rwyfo, ond cofiem am yr ystorm sydyn a'n goddiweddodd pan yn croesi o ynys Innisfallen, fel nad oedd fawr siomedigaeth gennym pan ddywedodd y cychwr nad oedd ganddo le i ni. Cychwynasom ar hyd llwybr lleidiog anhygyrch. Brithid y llyn orweddai wrth ein hochr â mân ynysoedd. Yr oedd coed bythwyrddion ar ynys Mac-Carthy Moore, ac ambell gedrwydden dal yn eu mysg.

Dacw ynys Ronayne, y Sais gododd dŷ arni er cael llonyddwch a gorffwysfa; ac Ynys yr Eryr lle nythai yr aderyn hwnnw gynt; ac ynysoedd y Dderwen, y Juniper, a'r Arbutus, elwir felly am fod coed o'r un enw'n tyfu arnynt, ac yn edrych arnom yng nghwr isaf y llyn gwelem ynys Llygad Colman.

Codai "Nyth yr Eryr" yn fynydd trionglog rhyngom â'r gogledd, coed yn dryfrith gylch ei odreu a chreigiau ysgythrog yn gopa iddo. Wedi cerdded tua milltir darfyddodd ein llwybr mewn cors, ac nis gwyddem ninnau i ba gyfeiriad i gerdded. Wedi llwyddo i gamu o dwmpath i dwmpath dros y gors, daethom i goed, i dywyllwch, a dyrysni. Eisteddasom yn flinedig yn y coed wedi cerdded dros ddeg milltir ar hugain, heb fwyd er y bore, a'r gwyll yn prysur oddiweddyd y dydd. Ymha le yr oeddym—allem ni fentro cysgu yn y goedwig? Canai aderyn yn siriol uwch ben, gwenai blodeu bach gwynion gylch fy nhraed, a gorchuddiai mwswgl melyn y llawr. Gorweddais a'm pen arno. Dyna friglyn crin yn torri dan droed—troed beth? a brigau'r coed yn ysgwyd! Neidiais i fyny i gael fy llyncu gan———

Nodiadau

[golygu]