Yng Ngwlad y Gwyddel/Rhag Ymadrodd
Gwedd
| ← Yng Ngwlad y Gwyddel | Yng Ngwlad y Gwyddel gan John Morgan Edwards |
Cynhwysiad → |
RHAG YMADRODD.
ADGOF melus yw y llinellau hyn. am awr ddiddan dreuliais yng nghwmni'm cefnder,—y Gwyddel, tra'n crwydro yn ei wlad dlos.
Siom gaiff y llenor a'r hanesydd, yn ddiau, wrth eu darllen, am mai nid i'r rhai hyn yr ysgrifenwyd hwy, ond i'r darllennydd mwyn, i'w ddifyrru wrth y pentan hirnos gaeaf, neu ar ei awr ginio, ac er cysur i Befan hoff sy'n mhell o Walia Wen.
Hoffwn pe crëent awydd crwydro gwledydd dieithr, yn lle ymdyrru i gyrchfa pobloedd yng Nghymru.
- J. MORGAN EDWARDS.
- Llun y Pasg, 1903.