Yng Ngwlad y Gwyddel (testun cyfansawdd)
| ← | Yng Ngwlad y Gwyddel (testun cyfansawdd) gan John Morgan Edwards |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Yng Ngwlad y Gwyddel |



YNG
NGWLAD
Y
GWYDDEL.
*
GWRECSAM:
ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB.
1903.
RHAG YMADRODD.
ADGOF melus yw y llinellau hyn. am awr ddiddan dreuliais yng nghwmni'm cefnder,—y Gwyddel, tra'n crwydro yn ei wlad dlos.
Siom gaiff y llenor a'r hanesydd, yn ddiau, wrth eu darllen, am mai nid i'r rhai hyn yr ysgrifenwyd hwy, ond i'r darllennydd mwyn, i'w ddifyrru wrth y pentan hirnos gaeaf, neu ar ei awr ginio, ac er cysur i Befan hoff sy'n mhell o Walia Wen.
Hoffwn pe crëent awydd crwydro gwledydd dieithr, yn lle ymdyrru i gyrchfa pobloedd yng Nghymru.
- J. MORGAN EDWARDS.
- Llun y Pasg, 1903.
CYNHWYSIAD.
DARLUNIAU.
Y LLYN UCHAF, KILLARNEY,
Wyneb-ddarlun.
Y LLYN ISAF, KILLARNEY,
BWLCH DUNLOE,
Y DYFFRYN DU,

Yng Ngwlad y Gwyddel.
1.—CYCHWYN.
MAE'N hanner nos, a'r môr yn fyw dan y lleuad hanner llawn. Y mae awyr glir dryfrith o ser uwch ben; ond cyfyd cwmwl du fel angau o'r gorwel ar ororau'r Iwerddon. Dringai'r llong un don er disgyn yn afrosgo dros don arall, ac fel y gadawem y lan, ai'r tonnau'n fwy a'r goleuadau amryliw ar draeth Lloegr yn llai amlwg. Ar y dec, yng nghanol rhaffau a phecynnau, yr oedd teulu Gwyddelig tlawd, a cheisient drefnu eu hunain mor hapus ag y gallent dros eu mordaith ddeng awr. Yfent wisci'n helaeth, "rhag clefyd y môr," chwedl y gŵr a basiai'r botel i'w wraig a'i blant, ond ofer er hynny fu'r feddyginiaeth. Yn y caban yr oedd dau wr ifanc yn mynd adref o un o chwareudai Lerpwl.
"Ie, Gwyddel ydwyf," ebe un, pan ofynnais a fedrai Wyddelaeg, "ond nis gallaf air o'r iaith. Ni chlywais ei llefaru erioed, ac nid wyf yn malio'r un botwm a glywaf hi chwaith."
"Ai felly cawn ni'r Gwyddelod oll," ebe Bevan, "mor ddibwys o'u hiaith a'u gwlad?"
Rhedai plant gwinglyd o gylch y meinciau oedd ar y bwrdd i chware. mic, ond nid yn hir y buont wrthi cyn i ysgytiadau'r llong wneyd pob troed yn ddigon llonydd. Ar ochr y llong safai tair merch,—fel tair canwyll wêr geiniog, mewn arswyd o'r dyfodol. Yn fy ymyl yr oedd. Bevan, wedi cau ei gôt yn dŷn, a'i holl egni'n ceisio cadw ei ddeudroed dano ar y llong feddw; a lliw'r môr oedd ar ei wyneb gwelw, pan welais ef olaf, yn cerdded tuag ochr y llong.
Mae'r wawr yn torri, a'r gruddfan torcalonnus, trwy drugaredd, yn llai. Anhawdd iawn yw gwahanu nos a dydd, a phetai heb y llinyn gwyn o ewyn sy'n gorwedd gyda'r traeth, buasai mor anhawdd a hynny penderfynu lle mae'r môr yn diweddu a thir y Gwyddel yn dechreu. Fel y ciliai'r gwyll deuai'r mynyddoedd yn nes, a gwyrdd iawn oedd y glaswellt arnynt dan wlith y bore. Ar y bryniau acw y bu'r Eblani yn codi eu caerau o bridd a cherrig, a than y cwmwl mŵg acw sy'n hofran uwch Dublin yr oedd eu tref Eblana. Tybir mai yr un oedd yr hwn fu ar y bryniau hyn gyntaf ag a fu ar fynyddoedd Cymru,—yr Iberiad gwallt-ddu gorff egwan. Er eiddiled ei gorff oedd yr Iberiad, tramwyodd lawer trwy lawer gwlad, cyn cyrraedd ynys nas gallai fynd ymhellach. Cloddiodd ogofeydd ar hyd y Cyfandir, a gadawodd hwy filwaith cyn y daeth i fryniau yr Ynys Werdd. O'r Aifft ac Arabia y cychwynnodd tua'r gorllewin,—fel llawer llwyth ar ei ol. Teithiodd ochr Ewrob gyda thraethellau Môr y Canoldir, ac er ei ymlid gan lawer gelyn mae. eto'n fyw. Mae'r Iberiad i'w weld yn yr Iwerddon heddyw,—bum yn sgwrsio âg ef pan yn bugeilio ei ddefaid rhwng mynyddoedd Kerry, ac yn torri ystad o wair iddo wrth Fwlch Dunloe. Mae wedi ei erlid i gwr eithaf yr ynys, ac wedi colli ei iaith Hamitaidd yn hollol erbyn hyn, ond mae'n hoff iawn eto o hanes, englyn, a chân. Nid mewn ogof fel cynt y mae'n byw, ty a'i do yn wellt neu lafrwyn sydd ganddo gyda glannau llynnoedd Killarney. Mae ganddo fwy o lestri alcan yn awr nag o rai pridd, ac ychydig arfau haiarn yn lle'r rhai fflint wnai mor gywrain gynt. Daeth y Celt ar ei ol gan ei yrru i'r mynyddoedd a chwalu ei Eblana ar lan y Liffey, a chodi yn ei lle dref arall a'i galw'n Bally-ath-Cliath.
Erbyn hyn yr oedd y llong yn troi i enau'r afon, a'r teithwyr ar y bwrdd, pawb yn fyw, ond nid mor fywiog a siaradus a phan welais hwy gyntaf.
"Dacw fynydd y 'Pwys Siwgwr,'" ebe Gwyddel wrthyf, "o ran ei ddull pigfain y gelwir ef felly,—nid am fod siwgwr ynddo. Y goleudy yw hwn, rhag i'r llong daro ar y creigiau cuddiedig." "A oedd yn goleuo, tybed, pan laniodd y Daniaid?"
"Y Ffeniaid! ofynsoch chi," ebe'r gwr llygad-wibiog yn llawen.—"O'r Daniaid. Wn i ddim am danyn nhw."
Mae llawer canrif wedi mynd heibio er pan hwyliai Daniaid yn eu cychod gwaelod—wastad gylch gororau Cymru a'r Iwerddon, a gwlaw llawer blwyddyn wedi disgyn ar ol eu traed lladronllydd, fel mai anhawdd dangos y man y glaniasant gyntaf; ond dywed hanes iddynt. fordwyo i enau'r Liffey, chwalu hen dref yr Iberiad a'r Celt, a chodi ar ei lludw ddinas alwyd ganddynt yn Dubh-lynn,—y Llyn Du. Gormesodd y Daniaid y Cymro nes i Lywelyn ab Seisyllt eu gorchfygu yn Aber Gwili, a'u gyrru i'r môr; a thrahaus a chreulon fuont hefyd wrth y Gwyddel, nes yr arweiniodd Brien Boru fyddin anferth i'w herbyn a'u gorchfygu, â lladdfa fawr ar gwr eu dinas, yng Nglontarf, 1014. Syrthiodd yr arweinydd a'i fab yn yr ymdrech mae'n wir, ond cafodd y Gwyddel ei waredu oddiwrth ei elyn, a dechreuodd ei ryddid flodeuo er i rewynt anghydfod beri iddo'n fuan wywo.
Yr oedd y porthladd yn llawn llongau o bob gwlad, a da oedd cael ffarwelio a'r "Graig Ddu" a'i gadael ynddo yn eu mysg. Cerddem dros raffau a chadwyni di rif ar hyd y cei, gan fynd heibio i dai isel, tlawd, a budr.
Araf iawn y rhedai y Liffey,— hiraethai am y bryniau adawodd. Hedai adar gwyn gwyn uwch yr afon, a synnwn fod adar can wynned. eu plu yn hoffi y dwfr aflan. Ar bont O'Connel troisom ar y dde, a chawsom fan hapus a glân i aros dros y Saboth, a da oedd hynny, gan fod gennym daith bell drannoeth, draws yr ynys i lynnoedd Killarney.
Yr oedd gorsaf Pont y Brenin yn orlawn fore Llun, ac nid hawdd. oedd cael lle yn y gerbydres gyflym a â'r llythyrau i Queenstown; ond cawsom le cyn hir, diolch i ffawd nad oeddym yn dew, ac i dlodi nad oeddym yn baciog. Cychwynnodd y tren yn araf, er fod dau ddyn tew anferth yn gwaeddi am iddo stopio, a gwr aml baciog yn galw'n ofer am borter.
"Diolch," ebe Bevan yn ddigon. priodol, "nad wyf fi fel y rhai hyn." Aeth Phoenix Park,—lle llofruddiwyd Cavendish a Burke,—a'i goed a'i binaclau o'r golwg, a llithrem ymlaen trwy wlad dlos, oedd yn fwy gwerdd nag arfer ar ol y gwlaw y noson cynt. Gwelsom y Tŵr Crwn, —hen gastelli sydd a fynnont gymaint â hanes yr ynys, y cyntaf wrth bentref Clondalkin. Hwn yw'r perffeithiaf yn yr ynys, ac er fod y gwylwyr fu ynddo'n huno'n dawel, mae ef eto yn parhau i wylio'r gwastadedd, er nad yw'n peri arswyd fel cynt i'r preswylwyr. Eisteddai yn fy ymyl Wyddel a'i wisg mor Wyddelig ag a welswn erioed,—clos pen glin a sanau glas cen y garreg; gwasgod bedwar botwm, er na chauid ond un; côt fel un gwas lifre felen hen, a het befar gantal cul goryn isel am ei ben. Gŵr diddan oedd, a dywedodd a danghosodd lawer o bethau i mi.
"Lucan yw enw'r pentref yna," meddai am le prydferth yn y gwas— tad, "lle hynod am chwedlau ac eirin Mair. Mae'n rhy niwliog i chwi weld hen Abaty Celbridge draw. Yno y byddai Deon Swift yn arfer neilltuo, ac acw y mae cartref Esther Vanhomrigh,—y Vanessa gymer ran mor fyw yn ei Cadenus and Vanessa,' a thyf y coed llawryf eto uwch y llecyn y cymerodd rhai o'r ymddiddanion le."
Wedi trafaelio tuag ugain milltir, croesir camlas rêd draws yr ynys o'r afon Liffey i'r Shannon, ac a'r wlad yn llai prydferth er nad yn llai dyddorol. Meddyliwn am sir Fôn, cyn mynd un dydd Gwyl Dewi i'r Traeth Coch, mai doldir gwastad ffrwythlawn oedd yr ynys honno, a meddyliwn yr unwedd am yr Iwerddon ei bod hithau fel ei henw'n fythol werdd, ond yn lle hynny dyma fi yng nghanol—Cors Allen, mawn, corsydd, a phrysgyll. Mawn orchuddiai'r lle, ac edrychai'r ceulennydd o bell fel chwareli. Torrir y geulan yn ddwfn iawn,—gwelais un yn ddeuddeg mawnen o ddyfnder. Yr oedd y mawn wedi eu "codi," a chollent o'r golwg yn fân dyrrau duon. Deuai'r hen wragedd, —yn bennoeth a throednoeth goes-noeth, gyda throl a mul yno i'w "gwneyd," ac nid yn aml y gwelir y fath nifer o wragedd a mulod. Mawn iawn oedd yno,—gwell lawer nag a ga pobol Mawddwy ar Fwlch y Groes, a ffermwyr Trawsfynydd yn y Feidiog.
"Dacw fynydd Allen," ebai'm cyfaill, am fryn godai dri chan troedfedd uwchlaw crawcwellt melyn y fawnog; yr oedd tŵr ar ei ben crwn ac eglwys mewn coed wrth ei odreu. Sonia Ossian am dano yn un o'i ganeuon, a bu'r cawr Finn Mac-Couhat yn byw arno, ebe traddodiad, ac adroddir aml i chwedl am dano, a thebyg iawn ydynt i orchestion Idris Gawr yng Nghymru.
Undonog a gwastad y parhai y daith, ac araf iawn y rhedai'r afon Allen o'r gors. Yr oedd ty to gwellt yma ac acw, a moch, a ieir a gwyddau o'i gylch, a phlant mor fudr a'r moch yn chwareu wrth ei dalcen.
"Curragh Kildare yw'r anialwch yma," ebai'm cyfarwyddwr. "Mae'n chwe milltir o hyd a dwy o led. Tir y Goron yw, ac mae gwersyll digon eang i ddeng mil o wŷr arno. Ar y gair dacw'r milwyr draw!" a gwelwn hwy fel môr o waed yn symud rhyngom a'r goleu.
"Ymladdwyd brwydr yma ryw dro?"
"Dyn do, o dro i dro, lawer ysgarmes waedlyd. Acw y syrthiodd Arglwydd Montemarisco, ac y torrodd Iarll Penfro ei ben yn 1234, ac yma y gorchfygwyd y Gwyddelod dan arweiniad Prior Connell, gan y Saeson yn 1406. Tybir mai beddau'r milwyr yw'r gwrymiau sydd yma ac acw ar hyd y cytir. Rhedegfeydd ceffylau a hela llwynog gynhelir yma'n awr."
Pan yn colli o olwg y milwyr, elem trwy gaeau o faip, a rhyfedd oedd gweld cynifer o ferched ifanc rhwng y rhesi yn eu trin. Yr oedd. y cynhaeaf gwair yn ddiweddar a'r ŷd glas yn gorwedd dan yr hirwlaw.. Wedi gadael y mawndir a'r gwastadedd, daethom i Kildare,—tre'r dderwen. Rhan o'r dref yn unig welem, ymguddiai mewn coed derw yng nghesail bryn bychan. Mae hen gastell crwn gweddol gyfa'n aros eto ar y boncyn uwch y dref, a danghosir eto olion hen fynachty Bridget Santes. Bu'r Daniaid yn ymosod ar y dref yma cyn i'r Saeson adeiladu'r castell sydd heddyw'n adfeiliedig wrth ei godreu, a chynhaliwyd Senedd ynddi yn 1339.
Wedi croesi pont Monastereven,—pum can troedfedd o hyd, estynna dros gamlas, ceir golygfa dlos ar hen Abaty Moore, mewn coed clyd ar lan yr afon Barrow. Yr oedd y gwair allan ymhob man,—peth ar lawr, arall yn fydylau pengul hirion, a difir iawn oedd gwylio'r Gwyddel yn cribinio wrth fynd heibio. Wedi gadael Portarlington,—tref hynod unwaith am ei Phrotestaniaeth, elem. trwy ddyffryn tyfadwy rhwng bryniau gweddol uchel,—y Mynyddoedd Creigiog ar un llaw, a'r Slieve Bloom ar y llall, nes cyrraedd tref ddymunol a ennwyd Maryborough, er parch i'r frenhines Mary.
"Draw ar graig Dun Mall acw," ebe'r Gwyddel, "mae adfeilion hen gastell Dunamase. Bu llawer cadfridog yn ceisio ei gymeryd,—hwn yw'r castell anhawddaf i fynd ato yn yr Ynys. Dywed traddodiad mai'r cewri a'i cymerodd trwy neidio oddiar y bryn acw,—dros y dyffryn yr awn trwyddo, a lladd y gwylwyr, ac mae ol eu traed acw eto." Bu'r castell ym meddiant Strongbow, ac yn nwylaw aml un arall cyn i Gromwell a'i filwyr ei chwalu yn 1650. Pellaf yr aem i'r wlad, tlotach, tlotach yr ai. Byr oedd y gwair, ac ni chodid cymaint o yd, a mawnoglyd oedd y tir.
"Dacw fynydd Tamed y Gŵr Drwg," ebai'm cyfaill cyfarwydd, gan gyfeirio at fwlch rhwng dau fynydd, ol genau y gŵr barus enwodd yn torri'r ddaear. "Ond methodd a chnoi ei damaid a thaflodd ef o'i enau ar y dyffryn draw, a gelwir ef yn Graig Castell,—daw i'r golwg toc."
Thurles,—noddfa gadarn,—oedd y dref nesaf elem trwyddi. Durlas O'Forgarty oedd enw'r fan pan orchfygodd y Gwyddel y Daniaid yma yn y ddegfed ganrif. Mewn coed ar lan yr afon mae Mynachlog y Groes, adeiladwyd 1182, a choed o'i chylch. Mae'r hen furiau'n aros ac yn dangos llawer o'u gwychder cyntefig; ond mae'r darn o'r wir groes oedd ynddi yngholl,—rhodd y Pab i Donald O'Brien, nai Brien Boru. Yma hefyd mae archesgobaeth y Pabydd, lle y cynhaliwyd y synod hynod honno yn 1850 dan lywyddiaeth Cardinal Cullen.
Rwan spiwch mewn munud,— dacw Damed y Gŵr Drwg," a gwelem dalp anferth o graig ar y gwastad danom, yn cyfateb i'r bwlch. yn y mynydd. Tyf coeden neu ddwy yn ei gysgod, a saif rhyw ddwsin o dai dano, lle'r oedd gweision a chynorthwywyr y Castell saif ar y graig, yn byw.
"Pwy adeiladodd y Castell acw ar ben y 'tamed'?"
"Cormac Mac Carthy," ebe'r Gwyddel, "mae'n debyg wnaeth y capel a'r tŵr crwn tua 1127. Yn ddiweddarach y gwnawd yr eglwys. gadeiriol yno, a dywedir y byddai 'maen coroni' Westminster Abbey yn cael ei gadw ynddi ambell dro."
Yn 1495 torrodd anghydfod rhwng Iarll Kildare a'r archesgob, a llosgwyd yr eglwys gadeiriol â thân. Drwg oedd gan y brenin am hyn, a galwodd am yr iarll.
"I beth y llosgaist ti'r eglwys gadeiriol?" gofynnai'r brenin.
"Ni buaswn yn ei llosgi, eich mawrhydi," ebe'r iarll, "pe gwybyddwn cyn hynny nad oedd yr archesgob ynddi."
II.—CYRRAEDD.
CYD-DEITHIAI â ni o Pontarlington Wyddel byr of gorff, doniol a ffraeth, a hawdd gweld ar ei wedd a'i wisg nad aethai deng mlynedd a deugain o'i oes heibio heb ddwyn iddo gyda hwy lawer o galedi a thlodi. Gyrru gwartheg o Killarney i Dublin oedd ei waith, ebai ef, a theithiai tuag adref i fynyddoedd Kerry. Gyrrid gwartheg o Gymru i Lundain gynt; mae rhai o'r hen yrwyr eto'n fyw, a difyr iawn yw eu clywed, ar garreg y bibell hirnos gaeaf, yn adrodd eu hanes. Yr oedd. y gŵr byr yn ysmygwr heb ei ail, ac fel y mynnai pethau fod, daeth i gerbyd lle nad oedd ysmygu'n cael ei ganiatau. Tra y lodiai ei getyn du â thybaco cryf llaith, edrychai ym myw llygad pob un o'r teithwyr, er gweld a gydymdeimlent âg ef. Daliai ei getyn yn ei ddwrn, pwysai ei fawd fudr ar y tybaco, a chydiai â'r llaw arall mewn matsen, tra y perliai ei lygaid dan ei dalcen cul. Goleuodd y fatsen a dechreuodd danio, a da iddo oedd fod ganddo drwyn helaeth, ynte elai ei ddau lygad yn un gan mor gryf y tynnai ei ddau fygiad cyntaf, a chollwyd ei ben mewn cwmwl o fŵg.
"Dim smocio yma," ebai gŵr sur a gwyneb fel lluchfa eira.
Er holl hyawdledd y gyrrwr gwartheg bu raid iddo roddi ei dân allan, er hynny daliai ei getyn rhwng ei ddannedd duon. Ond yr oedd y demtasiwn yn rhy gref iddo, tynnodd y caead tyn tyllog,—fel caead bocs pupur, oedd ganddo ar ben ei bibell, a thaniodd eilwaith.
"Dim smocio yma, syr," ebe'r gŵr sur.
"Wel, te, os na chaf smocio yn y garets, rhaid i mi gael gwneyd ryw sut, alla i ddim byw."
Yna aeth at ddrws y cerbyd, ac eisteddodd arno â'i draed a'i ben allan, gan fygu fel odyn wrth ei fodd.
Trwy fwg y Gwyddel gwelwn rhyngof a'r de fynyddoedd y Galtee a chwmwl gwyn yn gorwedd arnynt. a bryn Slieve-na-muck yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin. Tlawd iawn yr olwg arni oedd y wlad, a byr hynod oedd gwelltyn yr yd glas dyfai yma ac acw, a gwellt oedd to y tai. Edrychai'r lle yn anghyfannedd,—fel petai bla neu haint wedi difa'r trigolion, a synnwn weled cymaint o adeiladau heb do ar eu muriau isel.
"Pam mae'r tai yma heb do arnynt?" gofynnai Befan i wr eisteddai wrth ei ochr.
"O! methu talu'r rent yr oedd y tyddynwyr druan, a daeth y land- lordiaid, y dynion gwaethaf ar ddaear Duw,-gan dynnu'r to a throi y teuluoedd tlawd dros y drws," ebe gŵr y clôs pen glin, a'i lygaid yn dân. Edrychai'n gyffrous ar ei gyd-deithwyr, fel pe'n chwennych gweld un o'r rhai gasâi mor fawr. Plygodd ei ben rhwng eu ddwylaw gan edrych ar waelod y cerbyd, a murmurai eilwaith rhyngddo ei hun,"—Y dynion gwaethaf ar ddaear Duw."
"Dyma fi," meddai, gan godi ei ben yn sydyn a dal ei law allan,—llaw dystiai mai gweithiwr caled. oedd ei pherchennog, "dyma fi, druan, fel alltud yn gorfod gadael yr Iwerddon,—gwlad sydd mor anwyl i mi. Cyn hir bydd mil o donnau'n curo rhyngof a'r man ym ganed. Gwell fuasai gennyf farw mewn ogof ar un o fynyddoedd fy ynys a mwynhau rhyddid, na'i gadael. Ond heddyw gormes a thrais ddaw yma i'm rhan. Mae gennyf wraig a theulu lliosog i'w cadw, a rhaid i mi droi tua thir y Gorllewin i edrych am le iddynt fyw. Duw am llwyddo!"
Ni holais ychwaneg o'i amgylchiadau; amlwg oedd ei fod wedi dioddef llawer, ac mai nid o'i fodd y gadawai ei wlad. Daeth Deserted Village Goldsmith yn fyw i'm cof, a'r darluniau geir yno o rai cyffelyb i'm cyd—deithiwr.
Gyda i ni adael Knocklong,—gwersyllfa ar y bryn lle bu y Ffeniaid yn ymladd yn ddiweddar, a'i hen gastell adfeiliedig,—daethom i Killmallock neu Cill Mocheallog, eglwys Molach Sant. Hen dref ddirywiedig yw hon heddyw, ond yn amser Edward III. yr oedd yn enwog, ac iddi gaerau a phedwar porth, a heriodd aml i elyn hyd nes yr amgylchwyd hi gan Gromwell a'i filwyr. Syrthiodd ei muriau yr adeg honno a diflannodd ei gwychder gyda hwy, ac mae mwy o swyn yn y lle yn awr i'r hanesydd a'r hynafiaethydd nag i neb arall. Yma yr oedd cartref y Desmoniaid fu'n arglwyddiaethu ar y rhan yma o'r wlad, a dywed traddodiad fod yr olaf o'r hen deulu parchus hwn yn cynnal ei lys dan lyn Gwrr,—Lough Gwrr, rhyw ddeng milltir i'r gogledd o'r hen dref, ac y gellir gweled mŵg gwyn ei balas ambell fore ym Mai yn dyrchafu o'r llyn, a'i binaclau rhwng y tonnau ar ddiwrnod ystormus.
Cyflymai y tren ymlaen a delem i dir gwell fel y deuai y de a'r môr yn nes. Yr orsaf nesaf oedd Buttevant, neu Boutez-en-avant,—gwthiwch ymlaen," sef oedd hynny rhyfel-gri y Barrys drigai yn y parthau hyn. Treiliodd y bardd Seisnig Spenser lawer o'i amser yn Buttevant, a chanodd yn dlws i'r afon Awbeg, sy'n troelli gyda godrau y dref. Bu'n ysgrifennydd i Lord Grey yng nghastell Kilcolman, ac yno y cyfansoddodd y tri llyfr cyntaf o'i Faerie Queen. Yr oedd Spenser yn yr hen gastell hwn pan dorrodd y gwrthryfel allan yn 1588, a phan daflai'r gwrthryfelwyr ffaglau tân i'w losgi. Dihangfa gyfyng gafodd y bardd a'i wraig,—ond bu eu geneth bach farw yn y fflamau. Mae eiddew yn tyfu'n wyrdd heddyw lle bu'r tân ar yr unig dŵr sy'n sefyll o'r hen gastell; a gwelir peth o'r grisiau eto a gerddai Raleigh a Spenser mor fynych, a danghosir ffenestr gul lle y byddai y bardd a'i wraig Eliza yn arfer eistedd i fwynhau yr olygfa geir o honi.
"Mallow! Mallow! Mallow!" ebai o weision y ffordd haiarn, "Newidier am Killarney ar llynnoedd!" Ar hynny, mawr oedd y berw a'r cythrwfl ymysg y teithwyr, pawb yn rhedeg a'i becyn ar ei gefn,—fel morgrug pan â'r bladyr yn sydyn trwy eu nyth. Aeth y tren a'n cyd-deithwyr tua'r de, a chawsom ninnau beth egwyl i weld y dref cyn troi tua'r gorllewin. Mallow yw Trefriw neu Landrindod yr Iwerddon. Yma y daw'r hen a'r methedig; y gwael o gorff a chariad i ennill nerth. Ond dengys yr hen adfeilion yma ac acw hyd y dref mai nid y cloffion a'r anafusion fynychai y dref gynt. Saif ar lan yr afon Dwr-du, ac mae muriau'r castell gododd Elizabeth i wylio'r rhyd uwch y dwr eto. Ar gwr deheuol y dref mae castell Garr wnaeth Iago I., ond chwalwyd ef yn 1682, a chwareuai plant bach o'i gylch, ac eisteddai hen wŷr ar ei feini mewn heddwch y dydd y gwelais. ef. Malla y gelwid y lle gynt, a'r pryd hynny yr oedd yn orsaf filwrol enwog, gan ei fod yn sefyll mewn man mor gyfleus er atal y gelyn tua'r gogledd a'r gorllewin; ond heddyw y mae tawelwch yno, a chàn fân ferchetos ar eu gwyliau yr hynodir y lle yn yr haf, a chàn gŵn hela llwynog y gaeaf. Aeth ein hamser yno yn gyflym, a chysgodai coed caeadfrig y ffordd y cerddem yn ol i'r orsaf. Cychwynnodd ein tren i'r fic,—mewn prydlondeb, mae'r Iwerddon ymhell o flaen Cymru, ac araf iawn yr ai dros y bont hir estynna tros afon y Dwr-du. Fel ei henw, felly mae dwfr yr afon yma, a thybiwn fod llygad y dydd yn fwy gwyn, a'r glaswellt dyfai gylch ei glan yn fwy gwyrdd, nag odid i ddim welais erioed. Hon yw Rhein yr Iwerddon, ac y mae llawer o ddilynwyr Strongbow a Chromwell wedi eu claddu ar ei glan, a gwnawd ei dwfr du droion yn rhudd gan waed y lladdedigion. Mae'n hanner milltir o led cyn arllwys i'r môr islaw tref henafol Youghal. Ar ei glan yno mae gardd Syr Walter Raleigh, lle y plannwyd tatws gyntaf yn yr ynys. Unwaith casglu afalau y tatws wneid. i'w bwyta, cyn deall mai yn y pridd yr oedd y ffrwyth, a byth er hynny hoff iawn gan y Gwyddel bytaten.
Mae ty Syr Walter Raleigh eto'n sefyll yno,—Myrtle Grove,—a danghosir lle byddai ei berchennog yn arfer ysmygu. Raleigh ddaeth a'r arferiad rhyfedd yma i gyrraedd y Gwyddel, a dywedir i hynny gostio'n ddrud iddo. Un dydd, tra'r oedd. yn mwynhau ei bibell mewn cilfach yn yr ardd, pwy ddigwyddodd fynd. heibio ond ei gogyddes a thynied o ddŵr yn ei llaw. Dychrynnodd y ferch yn fawr wrth weld mŵg yn dod o enau ei meistr, a thaflodd y dwfr oll am ei ben, gan waeddi am ychwaneg o ddwfr a chymorth i waredu ei meistr.
Yr oedd ein ffordd yn troelli i fyny gyda godrau y mynyddoedd tua tharddle y Dwr—du, ac fel y dynesem tua'r gorllewin ai'r afon yn llai a'r ewyn yn wynnach, a'r wlad yn debycach i Gymru. Tebyg iawn i fryniau Penfro yw y Bochra, a Hillary yw y mynydd uchaf yn y gadwyn honno. Safodd ein tren yng ngorsaf fynyddig Kantwick,—bryn y baedd gwyllt, a lle'r una'r afon Allua â'r Dallua mae pentref o'r un enw, a hen gastell anorffenedig wrtho. Islaw i ni yr oedd Knocknaclashy, lle'r ymladdwyd brwydr waedlyd yn 1652. Wedi gadael hen gastell Brisbane gododd Dermot Mac Carthy, yr oedd y wlad yn dod yn fwy rhamantas a gwyllt a'r mynyddoedd yn fwy uchel a garw,-rhedyn, brwyn, a cherrig, a gwartheg duon bach yn pori rhyng- ddynt, ac ambell ddafad, a bwch gafr yma ac acw, ac aderyn unig yn hedeg o garreg i garreg. Gorweddai cymylau gwynion ar gopâu y mynyddoedd fel na welem eu pennau, a rhedai nant ffrydiog, fel o'r cwmwl, yma a thraw ar hyd eu hochrau, a phan oeddym wedi ymgolli yn harddwch y wlad safodd y tren yn Killarney.
I un gwinglyd aflonydd nid cosbedigaeth fach yw cael ei gau yn un o ddwsin mewn cerbyd cul am saith awr, a da iawn oedd gan ddau newynog gael disgyn a meddwl am lety a diddosrwydd. Ychydig baciau feddem. Yr oedd Befan wedi llwyddo i roddi ein holl gelfi mewn screpan rhwng fy nwy ysgwydd, ac ymddiriedodd i mi hefyd umbarelo mawr, tra y cariai ffon anferth ei hun. Nid oedd gennym hanes llety. Er holi llawer am un, yr unig ateb gaem,—"Peidiwch mynd i'r fan ar fan beth bynnag," gan roddi rheswm sylweddol dros hynny, ond ni chymeradwyai neb un man. Mewn pryder felly cyfeiriem tua drws yr orsaf, ond yno safai tyrfa o arweinyddion a bodau ereill medrus ar boeni'r dieithr, a chlywsom yn fuan trwy gyfrwng deg ceg ar hugain y fath oernadau allai trigain ysgyfaint wneyd. "Guide, sir, guide!" ebai un, tra y ceisiai arall foddi ei lais trwy waeddi yr un peth yn uwch. "Lodgings, lodgings!" meddai ereill, nes dysgu'r creigiau i adsain yr un geiriau.
Yn y cyffro ceisiais ddweyd gair yng nghlust Befan, ond nid oedd modd i ni ddeall ein gilydd, a dilynai'r gwaeddwyr ni'n dorf. Pallodd amynedd Bevan, safodd, cydiodd ymlaen ei ffon, a chydag osgo fygythiol, gwaeddodd yn uchel,—
"Myn Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllandisiliogogoch!"
Trwy offerynoliaeth y ffon, osgo Befan, a'r Gymraeg, safodd pawb, a throdd yr oll ond dau yn ol. Daliai y ddau hyn i'n dilyn o fewn hyd rhaff go gref, gan waeddi,—"Lodgings, sir, lodgings!" Gan fod y ddau eisieu i ni fynd i ddau le gwahanol, a ninnau ein dau ddim am wahanu, teimlem beth anhawster gyda pha un o'r ddau yr elem; ond trodd Befan yn ol a gofynnodd iddynt,—
"Allwch chi baffio? Pwy di'r mistar?"
"Y fi." "Nage fi."
Cyn i ni braidd droi heibio cornel y stryt honno, daeth un o honynt hyd i ni, a dywedodd wrthym, fel y gwnaeth wrth gannoedd o'n blaen, mewn iaith a gormod o ansoddeiriau ynddi i fod yn wir, ragoroldeb ei westy ef ar bob gwesty, nid yn unig yn y dref enwog honno, ond yn yr holl ynys; a phan yn siarad cadwai lygad sefydlog ar ffon Befan. O dan yr amgylchiadau dilynasom ef i weled. a oedd y pethau hyn felly.
III.—YNYS INNISFALLEN.
AETHUM i'r Iwerddon gyda'r hen syniad mai gŵr cas gwyllt oedd yno, ac mai mewn llaid ac aflendid y preswyliai. Hyn glywais am dano mewn llawer man, ond ni fu gennyf syniad uchel erioed am y parod i enllibo y Gwyddel,—yn neilltuol y gŵr a'm taerai fod baw a gwaeth rhwng croen budr y Gwyddel a'i esgyrn. Gwir nad yw pob pentref yn lân, ac fod aml i beth yn hynodi'r bythynod o flaen glanweithtra,—ac onid felly y mae ymhob. gwlad? Mewn pentref heb fod ond prin filltir o Rydychen gwelais fwy o fudreddi ac aflendid nag a welais yn un parth o wlad y Gwyddel. Nid doeth yw cyhuddo'r Gwyddel of bechod mae ereill mor euog, os nad yn fwy euog yn wir, o hono ag yntau. Mae darllen llyfr teithio ambell Sais trahaus trwy Gymru ryw ganrif yn ol yn dangos anhegwch o'r mwyaf,— gŵr yn llawenhau, gan dreblu ei ansoddeiriau, i ddarlunio yn frwnt ddull ein cyn-dadau o fyw. Pe tail hwnnw ond cerdded peth yn ei wlad ei hun cawsai weld fod ei frodyr yn waeth eu cyflyrau ganwaith. Cyn sylwi ar y brycheuyn tynner y trawst.
Mae'r Gwyddel yn dlawd, ac nid yw yn lân iawn chwaith,—ei grefydd. yw y rheswm am hynny, Budreddi a thlodi'n ddieithriad, ebe Protestaniaid, yw hanes pawb lle ffynna'r Babaeth. Ond mae'r Gwyddel yn hynod bur a charedig, ei natur dda ef ei hun sydd yn cyfrif am hyn. Ceisiaf yn fyr ei ddarlunio yn ei dŷ tlawd, neu yn ei faes yn llafurio, fel y gwelais ef. Ond, na cham-ddefnyddier a ddywedir i sarhau'r Gwyddel. Pe gwyddwn hynny, gwell fuasai gennyf i'm llaw wywo cyn iddi ysgrifennu dim dueddo i ddifrio un garaf mor fawr,—un ddioddefodd gymaint o anghyfiawnder a gorthrwm; neu a baro i'r Gwyddel wrido wrth ei ddarllen,—un sydd a dyfodol. mor ddisglaer o'i flaen pe cai ymreolaeth a gwared o'r iau drom rydd ei grefydd ar ei ysgwyddau llesg.
Dilynem y gŵr bach a'n harweiniai i'r gwesty trwy heolydd. Killarney, a synnem fel y llwyddodd y Gwyddel i godi tref mor ddymunol. mewn cilfach mor anghysbell a mynyddig,—tai gwychion o bob rhyw uchter; heolydd llydain,—ac oni bai mai trannoeth oedd dydd eu glanhau buasent yn well yr olwg arnynt; masnachdai ac adeiladau destlus a gwestai cartrefol ymhob man. Safodd ein tywysydd wrth ddrws gwesty, a gwelem ar unwaith fod llawer of wir yn yr hyn ddywedodd parthed harddwch y ty.
Gwraig fèr oedd gwraig y gwesty, —buasai'n rhaid wrth linyn hwy i fesur ei hamgylchedd nac i fesur ei hyd. Meddai wyneb crwn, fel lleuad lawn,—peth pur anghyffredin yn yr Iwerddon, a dwy rudd goch a thrwyn smwt o'r unlliw yn gorwedd yn hapus rhyngddynt.
"Oes, mae yma le i ddau a dim ond dau," meddai, a llanwai ei chorff y drws pan giliai i orchymyn gwasanaeth-ferch atom. Meddyliais ar ddull ac acen y forwyn pan ddaeth mai Cymraes ydoedd. Siaradai fel melin,—nid oedd modd dweyd gair, a meddai gloch ymadrodd gyda'r oreu glywais erioed.
"Allwch chi Wyddeleg?" gofynnai Befan.
"'Rwy'n coelio y gallaf wir, wedi fy magu ym mynyddoedd Kerry. Does arnaf fi ddim cywilydd ei harddel chwaith. Mae yma lawer o ferched gweini yn y dre yma, rhai fu yn cydchware yn droednoeth â mi, wedi dod i wisgo hosanau ac esgidiau, yn gwadu eu hiaith. Na, welwch chi mo Ellen O'Connor yn gwneyd hynny. Na, ni wadaf fi byth fy iaith hoff," meddai, a theimlad yn ei llais, "a chywilydd calon i'r neb a wna. Yng Ngwyddeleg y dysgodd fy nhad fi ganu ar ei lin,—dyna hefyd oedd iaith fy mam: yng Ngwyddeleg y dysgai honno fi weddio pan benliniwn yn blentyn wrth ei hochr, ac yn yr iaith honno y cynghorodd fi olaf pan elai i lawr i rydau'r afon ddu."
"Y te'n rhy gry'?" ebai fel gwibiad aderyn. "Da iawn. Chewch chi ddim mynd oddi yma a dweyd fod Ellen O'Connor yn gwneyd te gwan," a chyn diflannu braidd daeth yn ol a dwfr.
"Da gen i fydd gweled jintlmen yn dod yma, ond wfft i dŵr o ferched, mae trafferth gyda hwy, gwell gen i dendio ar ddeuddeg of ddynion nag ar un ferch."
Clywais yr hen ystori hon mewn gwesty droion. Y mae gan Befan chwiorydd, ac yr oedd ef yn dweyd fod yr eneth yn camgymeryd. Yr oedd cwrs o'r dydd eto'n aros, a thystiai'r forwyn y gallem weld y Llyn Isaf a Chastell Ross, "a bydd hynny yn ddigon i'ch argyhoeddi mai Killarney yw'r lle tlysaf yn y byd."
Ymwelwyr oedd fwyaf ar y strydoedd pan elem heibio,—Saeson ac Americaniaid, a difyrrent eu hunain trwy sefyll gylch y stondinau i glywed arabedd y gwerthwyr yn hytrach na phrynnu eu nwyddau. Gwerthai un hen wraig ffrwythau gwledydd tramor, un arall getyn neu grochan bach o bren du'r fawnog; ond gwerthu ffyn a phastynau wnai y mwyaf ei athrylith o honynt oll, ac o'i gylch ef yr oedd tyrfa. Ni feddai hwn draed na dwylaw o fawr lun, ond gwnai hyawdledd ei dafod i fyny'n ddwbl am y gwendidau hynny.
"Phrynnwch chi mor pastwn yma bobol?" ebai gan ddal darn o ddraenen ddu ddaneddog, "a finne yn ei gynnig am lai na gwerth y staen rois arno. Gwelais amser na fuasai raid i mi sefyll yma,—deuai pawb ataf i'w nhol gan roi imi y pris ofynnwn. Amser terfysglyd. oedd hwnnw, a gwnawd penglog aml un yn rhidill gan y ceinciau hyn. Heddwch sy'n awr, mae'r byd yn mynd yn waeth, daw'n well, daw, dyn daw, a chadwaf fy stoc yn barod."
Gadawsom y gwerthwyr a'u dadwrdd gan ddilyn ffordd lydan dan goed cauadfrig dyfai o bobtu iddi, a phrin y teimlem belydrau yr haul fachludai trwy y dail.
"Yda'n ni'n agos i Gastell Ross?" gofynnais i Wyddel a'n cyfarfyddai, a gwyneb can felyned a chroen drwm ganddo.
"Na, ffordd Tywysog Cymru yw hon, ac i Glengariff a Bantry yr elech pe dilynech hi. Trowch yn ol a danghosaf i chwi y ffordd."
"Gwnaethom ei gyfarwyddyd, a cheisiem ganddo ymddiddan â ni yn y Wyddeleg.
"Ychydig o Wyddeleg allaf," ebai, "ac anfynych y siaredir hi yn y parthau hyn. Cewch ei chlywed yn y mynydd tua Bwlch Dunloe,—hi yw iaith y bugeiliaid eto, er na siaredir hi'n gywir nac yn agos ganddynt,—gibberish yw. Tua glannau y Shannon a Galway y ceir y Wyddeleg buraf."
"Beth yw eich gwaith?"
"Gweithio gyda'r amaethwyr y byddaf ond fy mod allan o le yn awr. Gyrrodd yr hir wlaw y cynhaeaf gwair yn rhy hir i'm meistar fy nghadw yn hwy, felly bu raid i mi ymadael cyn y diwedd."
"Faint yn'r wythnos gaech?"
"Tri swllt ar ddeg."
"Beth gaech i foreu—bryd?"
"Tatws."
"Beth gaech i ginio?"
"Tatws."
"Beth i de?"
"Dim byd."
"Gaech chi uwd i swper?"
"Tatws."
"Tri phryd yn dydd a thatws bob pryd?"
"Ie."
Caled iawn yw bywyd y gweithiwr Gwyddelig, druan, ond er yn dlawd mae'n hapus a diddan iawn ei gwmni. Bu gweithwyr Cymru felly, —onid oeddynt yn hapusach pan yn bwyta bara haidd nag ydynt pan yn mwynhau eu tost a'u bara wics? Os cyrhaedda'r Gwyddel fanteision y Cymro nis gall fod byth yn ddedwyddach nag yw heddyw yn ei fwthyn tlawd ar lan llynnoedd Killarney.
Danghosodd y Gwyddel i ni ffordd ar y chwith a'n dygai trwy goed y castell a'r llyn, ac nid hir y buom yn cerdded y ffordd honno cyn dod at hen furiau adfeiliedig castell Ross saif ar gwr ynys o'r un enw. Milltir yw hyd yr ynys,—nid ynys oedd yn naturiol, ond yn amser terfysg torrwyd y llinyn tir a'i hunai wrth ystad Kenmare. Daeth heddwch wedi hynny a thaflwyd pont dros y rhwyg dorrwyd, fel y gall y cerbydwr a'r pedestriwr fynd iddi'n hwylus. Rhed llwybrau a rhodfeydd yn brydferth. trwyddi, a thyf blodau o'u deutu'n dlws. Eisteddai dieithriaid dan y coed cysgodol pan giliai'r haul yn gyflym tua'r gorllewin, a safai ereill mewn cilfâchau ar y lan yn gwylio'r tonnau'n ymlid eu gilydd i ganol y llyn.
Mae ol yr Iberiad eto yn yr ynys yn chwilio am gopor, a darganfyddwyd ei forthwyl carreg a'i fwyall fflint pan ailagorwyd y gwaith yn 1804. Ond daeth dwfr i foddi'r pwll, ac erlidiwr i yrru'r Iberiad yn uwch i'r mynyddoedd, a chodwyd castell yn ddychryn i'r trigolion ar gwr yr ynys. Saif yr hen gastell a'i dŵr pedair ongl mewn gwisg of eiddew gwyrdd heddyw, a swn hiraethus sydd ym murmur y tonnau dyr yn ewyn ar ei furiau unig. Tybiwn mai er difyrrwch i'r dieithr, ac er harddwch i'r lle, y codwyd ef, ond tystiai'r gŵr a'm harweiniai yn amgen.
"Na, na, nid heddwch fel heno ful yma erioed," ebai y gŵr byr gwelw wyneb safai ar y lawnt o'm blaen a'i draed fel chwarter i dri. "Ynghanol yr eilfed ganrif a'r bymtheg yr oedd Kerry, a'r holl ynys o ran hynny, yn derfysg drwyddi; a'r Gwyddelod dan arfau i gyd, ac yn feddiannol ar bob castell yn y parthau hyn ond un, —Ballingarry. Y pryd hynny yr oedd Cromwell a milwyr Lloegr yma yn ceisio ennill y wlad. Lord Muskerry ofalai am y castell, a thybid am ei fod ar ynys nas gallesid ei gymeryd byth."
"Lwyddodd Cromwell i'w ennill?"
"Do, do. Arweiniodd Ludlow ei fyddin—pedair mil o wŷr traed a gwŷr meirch, a chymerodd fantais ar ofergoeledd y Gwyddel. Yr oedd. hen broffwyd wedi dweyd, proffwyd oedd mor anwyl i'r Gwyddel ag oedd Ieremiah i'r Iddew, nas gorchfygid y castell nes yr amgylchynnid ef gan longau rhyfel. Clywodd Ludlow gyfrwys hyn, a dygodd gychod lawer o Castlemaine a rhwyfodd ei filwyr gylch y castell. Pani glywodd y rhai oedd yn y castell hynny, gollyngasant eu harfau i lawr, a rhoddwyd baner y Puritaniaid ar ben y tŵr heb un frwydr."
Wrth esgyn grisiau troiog y tŵr dywedai ein harweinydd am O'Donoghue fu'n byw yn y casteil ac yn arglwyddiaethu ar drigolion Kerry, ac adroddodd aml stori bert am y gŵr grymus hwnnw.
"Dyma," meddai, gan gyferio ei fys at ffenestr gul,—rhy gul mae arnaf ofni eirwiro'r traddodiad, "y ffenestr y llamodd O'Donoghue a'i farch trwyddi i'r llyn is law rhag ei ddal gan y gelyn."
Mae llawer o fân ynysoedd yn y llyn, ac y mae eu henwau braidd oll yn dal cysylltiad â'r cawr ddyn hwn. Gelwir un hen graig yn "geffyl" O'Donoghue,—mae'r marchog yng ngwaelod y dwr; ac y mae ei "stabl" yn ymyl, a danghosir hefyd ei "fwrdd," ei bwlpud," a'i "garchar."
Yn ymyl y castell mae cychod ar log, a rhwyfasom yn un o honynt i Ynys Inisfallen,—lle y bu Finian Sant, hen ddisgybl i Awstin Fynach, fyw a marw. Afraid yw dweyd mai hon yw Ynys brydferthaf Lough Leane,—y Llyn Dysg,—canys y mae'r ffaith ddarfod i'r mynach godi ei dŷ ynddi a byw arni cyhyd yn profi hynny. Dewisai'r mynach y llecyn harddaf ymhob man i osod ei linynnau i lawr. Felly y gwnaeth yng Nghymru,—yn Ystrad Fflur a'r Faner,—a gwnaeth yr unwedd yn yr Iwerddon, Sefydlodd ar ynys fechan werdd a ffrwythlawn, ac ni chlywail ddim o honi i aflonyddu ar ei weddi ond su y tonnau ar y lan, a murmur y nentydd a red hyd lethrau mynydd Mangerton pan lifent. Mae muriau'r mynachty yno eto. Ni adeiladwyd hwy'n gadarn erioed, gan yr ystyriai'r mynach fod y dwfr a'i hamgylchai a'r parch dalai'r trigolion iddo yn ddigon o ddiogelwch. "Edrychid ar yr ynys erioed," medd yr hanesydd, "fel paradwys a lle sanctaidd a diogel, a chedwid ynddi drysorau a phethau gwerthfawrocaf y wlad." Ond er mor gysegredig ydoedd, daeth mab O'Donoghue yno. yn 1180, gan ladd a difa yn ei afiaeth, "a Duw yn fuan a gospodd," ebe'r hanesydd, "am y gwaith erchyll a'r brad trwy ddwyn yr euog i fedd anamserol." Mae'r hen lawysgrifau,—Croniclau Innisfallen—sydd heddyw yn y Bodleian, ddarganfyddwyd yno, yn bwysig iawn i'r hanesydd Gwyddelig, am mai ynddynt y ceir ffeithiau cyntaf hanes y wlad. Adeilad hirgul oedd y mynachty, a drysau isel ddysgai ostyngeiddrwydd i'r byrraf ei gorff. Yn ymyl y capel mae beddau y rhai addolent ynddo unwaith, ac ar rai o'r cof feini mae llythrennau Ogamaidd aneglur, a gwelais ar un o honynt groes y Cristion, yn dangos mai i'r Iesu yr ymddiriedodd y gŵr sydd dani ei enaid. Gwnaeth y mynach hefyd yn ei oriau hamddenol ffordd wedi ei phalmantu o gylch yr ynys. Pan oeddym ar adael yr ynys daeth deu-ddeg o Saeson yno, arweinid gan Wyddel pert, ac aethom trwyddi eilwaith gyda hwy.
"Dyma y capel gododd Sant Finian Lobhar,—y gwahanglwyfus, ddiwedd y chweched ganrif, dyma y ciniaw-dy; ond, foneddigion, mae'r byrddau wedi eu symud chwaithach y bwyd, a'r seler wedi hen sychu," ebai'r Gwyddel.
Y ddeilen dri—dolen (shamrock) wisga'r Gwyddel ar ddydd ei sant fel y gwisga'r Cymro y geninen. Llysieuyn tlws ydyw y shamrock,—tebyg i ddail clofer, neu i'r dail tair dolen, a sylwodd un o'r cwmni nad oedd dim o hono yn tyfu yn yr ynys.
"Dim shamrock yn yr ynys sanctaidd hon!" ebai'r arweinydd yn syn. "Dyma fo," gan ddal dyrnaid o ddail gwyrddion mân rhyngddo a'r awyr.
"Clofer! Clofer ydyw hwnyna," ebai amryw.
"Nage'n wir, atebai'r Gwyddel yn frochus, gan ychwanegu rhes o eiriau rhy hir ac amheus i'w hadrodd.
"Mae hwn mor bur a'r shamrock sydd ar fron Mair fry."
Wedi hyn tywysodd ni at goeden gelynen anferth,—y fwyaf yn Ewrob, ebai teithwyr, ac mewn man arall danghosodd chwech o wahanol brennau yn tyfu o'r un cyff.
"Dilynwch fi," meddai, "i lannerch fwyaf cysegredig yr ynys sanctaidd yma." Tynnodd ei het, a chwalai y gwynt yr ychydig wallt gwyn feddai fel y mynnai. Wedi cerdded cwrs, safodd wrth goeden hen a'i gwraidd yn dechreu pydru.
"Yma," meddai, dan y goeden hon mae bedd Finian Sant. Yma y ciliodd o ddwndwr byd, ac yma y gorwedd tan gân udgorn acw i ddweyd wrth y tonnau na raid iddynt suo ei alargan yn hwy, a'i alw yntau at Mair a'i Mhab." Yr oedd teimlad yn llais yr hen Wyddel pan siaradai hyn; yna penliniodd ar un glin wrth y bedd. Rhoddodd ei het dyllog ar y lin arall, a'i benelin arni, gan ddal ei law dan ei ben gwyredig, ac wedi torri croes ar ei dalcen â'r llaw arall, estynnodd hi allan, gan ei dal mor llonydd a'r un hunai dano, a sibrydai rywbeth tebyg i hyn yn iaith bugeiliaid y mynyddoedd,—"Cwsg, Finian, cwsg. Aeth dy ddydd-gwaith drosodd, mae'n nos, cei orffwys. Yr oedd yn nos ar Kerry pan fuost farw; ond mae'r wawr fel. pe'n torri heddyw, a haul rhyddid ar godi i ymlid y gwyll,—am yr hwn y disgwyliaist yn ofer cyhyd. Mae dail yr hen goeden eto'n wyrdd uwch dy ben, a thyf glaswellt yn gwrlid gylch dy fedd unig. Plyg rhedyn Mair ei ben yn wylaidd gerllaw, a sua awel yr hwyr yn gwynfannus yn y shamrock gylchynna dy hun-dy. Syrth deigryn oddiar lygad y dydd wrth dy fedd ar y glasddydd, a rhydd ambell bererin ochenaid wrth fynd heibio'r fan y gorweddi. Os mai syml fu dy gladdedigaeth, ac os na welwyd neb ynddi yn wylo, mae'r tonnau yn gofalu am alargan i ti, a'r gwlith am ireiddio'th orweddfan yn foreuol. Carwn wybod dy hanes. Faint deithiaist trwy gymoedd yr Iwerddon, a'r fath olwg gefaist ar drigolion oddefai ormes a thrais? Pryd y blinaist ar ddwndwr y byd ac y ciliaist i'r ynys hon? Beth oedd dy gysur, Finian, yn dy gystudd, a phwy fu'n dal dy ben pan gysgaist dy hûn olaf?"
Yr oedd yr haul wedi machlud pan gododd y Gwyddel, a chwythai gwynt uchel. Yr wythnos o'r blaen yr oedd storm gyffelyb wedi codi yn sydyn, a bu raid i deulu Americanaidd dreulio noson yn yr ynys unig. Codai'r tonnau'n anferth. Cychod bregus feddem, ac nis gallai ond tri o'r criw rwyfo. Tra yn siarad â'r Gwyddel beth i'w wneyd, casglai rhai frigau at wneyd tân, meddyliai ereill am yr ysbrydion welent yn yr ynys, os aros ynddi dros y nos fyddai raid, ac edrychai ereill yn syn ar y tonnau brigwyn, gan ofni mai rhy berygl oedd croesi'n ol o Inisfallen.
IV.—GYDA LLYNNOEDD KILLARNEY.
TRA y penderfynai y criw pa un ai pabellu yn Innisfallen ynte gwthio'r cwch. i'r gwynt a'r tonnau wnaent, cerddais eilwaith gylch yr ynys henafol, ar hyd ffordd balmantodd y mynachod, yn berffaith foddlawn i dreulio noson arni, a cheisio bod yn fynach am ddeuddeng awr. Yn fy ymyl yr oedd muriau adfeiliedig y mynachty hynaf yn yr Iwerddon, ond mynachty Kildare, lle but dysg a chrefydd ganrifoedd yn ol yn flodeuog. Yr adeg honno y Gwyddel oedd y dysgedicaf ym Mhrydain. Ni fedrai neb ysgrifennu yn well nag ef, mae ei hen lawysgrifau yn synnu ysgrifenwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Meddai allu hynod i dorri'r priflythrennau a'u hamliwio'n dlws, a thynnai ddarluniau cywrain i egluro adnod neu frawddeg o'r Beibl, megis hanes Cain ac Abel.
Wrth edrych hanes yr Iwerddon ar y cyfddydd, pan mae traddodiad a ffaith braidd yn rhy anelwig i'w gwahanu, mae'r Gwyddel y pryd hynny'n hynod am ei ddysg, ac mae a fynno ei draddodiadau boreuaf â chelf ac addysg a chân. Sefydlodd Ollam Fodla gymanfa i'w chynnal yn Tara bob tair blynedd, ac i hon cyd-deithiai y pennaeth, y derwydd, a'r bardd; ac yn yr un lle cododd Cormac Ulphada dri choleg i ddysgu llenyddiaeth, y gyfraith, a thrin y cledd. Ond mae Tara heddyw'n adfeilion, a gorchuddia glaswellt hen lwybrau y beirdd a'r telynorion elai yno,—
The harp that once through Tara's halls
The soul of music shed,
Now hangs as mute on Tara's walls
As if that soul were fled,—
So sleeps the pride of former days,
So glory's thrill is o'er,
And hearts that once beat high for praise
Now feel that pulse no more!
Parhau i chwythu wnai'r gwynt, gan godi dyfroedd Lough Learne yn uchel, a gwynned oedd ewyn y tonnau â gwynebau y pymtheg ofnus safai mewn cyfyng cyngor ar lan yr ynys. Yr oedd y nos bron wedi erlid y dydd dros fynyddoedd y gorllewin cyn i ni benderfynu mai ceisio cyrraedd Killarney wnaem yn hytrach na bod allan fel Jacob gynt. Ar gais y Gwyddel cymerasom ddau o'i lwyth ef i'n cwch bregus, gan eu rhoddi i orwedd un bob pen i'r cwch, tra'r oedd pob gewyn i'r rhwyfwyr ar waith. Ymdrech fawr fu i gadw pen y llestr i'r tonnau godent fel beddau du o'n deutu'n gylch, a chyrraedd cilfach a glan; a da iawn oedd cael gorffwys ar y rhwyf. mewn lle diogel.
Y cwch arall! Yr oedd draw ymhell bell yn y llyn, yn drifftio mwy fel pellen tua Chraig y Gŵr Drwg oedd islaw iddo, debygem, nag a ddeuai ymlaen, a'r rhwyfwyr yn flin arnynt yn rhwyfo. Hanner awr bryderus oedd honno pan ofnem i'r cwch â'i gynnwys gael ei ddymchwelyd, tra yn barod, boddi neu beidio, i rwyfo i'w gwaredu. Er i bawb lanio'n ddiogel, cerddai pymtheg adref fel cynhebrwng heb yngan odid air â'u gilydd.
Yr oedd Sais tew tafod-gyflym gor-hoff o adrodd ei hanes ei hun yn cyd-swpera â ni yn y gwesty, a rhag blino ei ddoniau aethom i orffwys erbyn y daith hir gynlluniem dran- noeth. Cawsom ystafelloedd destlus a gwelyau glân. Pan gysgais teim- lwn y gwely'n mynd mynd fel ton- nau'r hen lyn y bum arno. Gwelwn fy hun mewn gwrthban yn grog- edig wrth gangen coeden dderwen. Chwythai y gwynt hwnnw gan fy siglo uwch rhyw ddyfroedd dyfnion. Dyna'r rhaff yn torri! Ond pan oedd fy sodlau bron cyrraedd y dŵr, curodd rhywun y drws gan waeddi fel petai mynydd rhyngof â hi chwaithach ystyllen,—
"Codwch, jintlemen, mae'n saith o'r gloch."
Nid oedd dim i'w weled ar yr heolydd na dim i'w glywed, pan beidiodd adlais y forwyn, ond cân yr adar wrth dalcen y ty. Yr oedd yn foreu dymunol, ond gorweddai niwl gwyn ar y llynnoedd, a phryderem pa un ai arwydd gwlaw neu deg oedd hynny.
"Os a'r niwl i'r mynydd,-teg; os chwal dros y llyn,-gwlaw," ebe'r forwyn, cyn sobred a phe dywedai adnod. "Haf gwlyb gawsom ni leni, ond mae'r ymwelwyr yn mwynhau eu hunain yn dda. Echdoe 'roedd yma dair yng ladi o Lundain, 'doedd waeth genni dendio arnyn nhw nag ar jintlmen damed,-codent yn fore, a welwn i mo honynt tan nos; a dwi'n siwr, jintlmen, na wela i ddim o honoch chithe tan nos." Llithrai tafod Ellen O'Connor fel rhidis dŵr tros raian, gwenai Befan tra'n darllen llythyr dderbyniodd y bore, oddi wrth ei dad, ebe fe. Ond gwnaeth ei wên ysgafn a'r mynych ddarllen i mi am unwaith eu ameu.
Codai'r niwl yn raddol pan gerddem ochr ogleddol Lough Learne, ac ai yn araf, fel y ddau unig edrychai arno, i gyfeiriad y mynydd tua Bwlch Dunloe.
Yr oedd coed caeadfrig gylch y ffordd, yr arbutus i'w gweld yn amlwg yn eu plith.

Pren sydd yn perthyn yn neilltuol i'r rhannau hyn yw'r arbutus; gwneir dodrefn hardd o hono, a gwerthir hwy am bris uchel. Tyf yn ganghennog, a chyn uched â'r fasarnen, ac yr oedd ffrwyth o liw dengar arno; ond ni fwyteais hwy rhag i'm cyflwr fod cyn waethed a milwyr Xenophon, fwytaodd y cyfryw ffrwyth ar eu taith yn erbyn y brenin mawr" gynt. Dan un o'r coed hyn eisteddai hen wraig werthai fân deganau. Deallodd hon, wrth ymddiddan ag ef, yn fuan fod gan Befan chwaer, a dandwyrodd ef i brynnu brooch, a daeth y wên a'r llythyr eto i'm cof.
Tua milltir wedi gadael Killarney mae Gwesty Brenhinol y Frenhines. yn guddiedig yn y coed. Gwagenni'n llawn o wair glas glas elai ato y bore hwnnw, a phobl heb nemawr o'r gwaed brenhinol yn eu gwythienau,—pe gwaeth er hynny,—a'u dilynent. Golwg dibris iawn oedd ar y wagner. Yr oedd ffurf ei ben yn drionglog, ac anhawdd oedd gweld ei gap ar ei goryn hir. Gwisgai ei ardysau'r ochr allan, a gwasgai ei goesau dan ei ddeulin yn dyn â hwy, ac yr oedd modfeddi rai rhwng godreu ei lodrau a thopiau ei esgidiau. Nid oedd na choler na chadach am ei wddf,—os bu un ryw dro,—ac ni chauai ond un o fotymau. ei wasgod, a symudai ei ddeu—droed fel dau ddog biswel yn afrosgo pan gerddai. Ychydig flew, fel col haidd, dyfai, rhwng byw a marw, ar ei en uchaf; a phan waeddai "We-wop!" daliai ei ben ar groes gornel, gan wneyd ceg hir-gul fel ceg sach giwana, lawn saig tybaco. Yr oedd yr hen wr gerddai ar ol y wagen yn llawer mwy dymunol yr olwg arno na'r wagner. Cot fel gwas lifre wisgai ef, a chlos pen glin, a botymau ifori arno. Hosanau glas cen y garreg oedd ganddo am ei draed, a chap unbig ar ei ben, a chymerai y bigfforch oedd ganddo yn ffon i'w gynorthwyo i gerdded.
"Cario gwair pur las ynte?"
"Ie braidd, wir; ond mae hwn yn wair pur dda hefyd. Does dim dichon cael tywydd; mae'n wlaw yma bob dydd ers mis. Gweithio'n galed y bore i drin y gwair,—gwlaw mawr cyn i ni chwalu chwaliadau—mae'n ddigon a thorri calon dyn."
"Sut yr ydych yn gallu cadw'r gwair i edrych cyn lased?"
"Mae hwn wedi bod yn ei fwdwl crwn ers tros fis, ac mewn mydylau felly,—ond peidio eu gwneyd yn hulogod mawr, mae'n cadw'n las, a bydd y gwair yma cyn lased galanmai ag yw yn awr, a chyn felysed a siwgwr."
Dechreuodd y Gwyddel wedi hyn holi ein hanes; ond gan nad oedd hwnnw'n werth ei adrodd, dymunasom iddo gynhaeaf hwylus, a chychwynasom tua'r gorllewin. Ar un tu i ni yr oedd y llyn i'w weld trwy gangau'r coed ddelweddai ynddo, ac ar y tu arall yr oedd caeau llechweddog o dir gwael a choediog; ac wedi cerdded tua thair milltir, troisom o'r ffordd i weld Aghadoe a'i hynafiaethau.
Nid oes a ddywed hyned yw Aghadoe, ond mae yn llecyn y bu addoli arno am ganrifoedd lawer. O flaen y Cristion bu y pagan a'r derwydd yma yn dal cymdeithas â'u duwiau, pa ffurf bynnag gymerent i wneyd hynny. Nid oedd raid
iddynt wrth brinder duwiau,-y llynnoedd tlysion a'r ynysoedd danynt, neu fynydd Mangerton ar eu cyfer, y dydd neu y gwyll. Meddai y Gwyddel syniad rhyfedd am fyd arall yn fore, a chredai yr elai ei enaid iddo i fyw. Grainae y galwai ef y wlad tu draw i'r llen,-Elysium y Rhufeiniwr; a Mac Oc, gwron amlwg yn llenyddiaeth yr Iwerddon, fel Emrys Wledig yn llenyddiaeth Cymru, ofalai am y rhandir hwnnw, a byd da a helaethrwydd beunydd arhosai y neb elai ato. "Rhyfeddol yw y tir hwnnw," ebe'r croniclydd, "tair coeden sydd ynddo yn llawn. ffrwyth byth. Un mochyn sydd yno. yn fyw, ac un arall beunydd yn barod i'w fwyta, a llestr llawn hefyd o gwrw rhagorol geir yno." Ond pa faint bynnag oedd y gwahaniaeth barn rhwng y rhai a fu yno yn addoli, mae marwolaeth wedi eu cymodi a gwneyd iddynt orwedd ochr yn ochr yng nghanol yr adfeilion. Rhyw gymysgedd ryfedd yw olion Aghadoe,—eglwys, castell, a thŵr crwn. Mae ychydig feddau o fewn muriau yr eglwys. Adeiladwyd un rhan o'r eglwys, meddir, yn y seithfed ganrif, ac mae hen ffenestr ar gynllun y Rhufeiniwr ynddi,—rhyfedd hynny, gan na fu Rhufeiniwr yn yr ynys! Cywrain iawn oedd y llaw gerfiodd ei phileri, ac a wnaeth y rhwyd-waith ar ei bwâu. Perthyn i'r drydedd ganrif ar ddeg mae y rhan arall o honi, a chul iawn yw y ddwy ffenestr sydd ynddo. Cofleidiai eiddew ei muriau maluriedig, fel pe'n ceisio cadw y meini mor hir ar eu gilydd ag oedd modd, ynte rhag iddynt dorri allan a dadlennu'r gorthrwm ddioddefodd y rhai fu yno'n addoli, pan gyhoeddwyd i'r Gwyddel, fel y gwnawd i'r Cymro'r un adeg, na chai glywed yr efengyl yn yr unig iaith a ddeallai; a phan fu raid i'r trigolion ffoi i'r mynyddoedd oddi wrth y bobl greulawn feddent iaith ddyfnach nag a ddeallent," at y mynachod crwydredig, i'w clywed yn cyhoeddi Crist a'i groes yn y Wyddeleg. Tarawiadol oedd gweld eglwys a chastell yn yr un man, a dichon mai yr un gododd yr amddiffynfa'ra rhan ddiweddaraf o'r eglwys. Pa fodd bynnag, dengys hanes yr Iwerddon fod dau gyfnod hynod am adeiladu addoldai wedi bod ynddi,—o'r bumed i'r seithfed ganrif, ac yn y drydedd ganrif ar ddeg. Yn 445 glaniodd Padrig i bregethu'r efengyl i'r trigolion. Yng Nghymru y ganwyd ef, ond cymerwyd ef yn garcharor gan Nial Naw Meichiau, brenin Iwerddon, pan ryfelai yn erbyn gwŷr Ynys y Cedyrn, a dygodd ef i ofalu am ei wartheg yn Antrim. Wedi bod yn alltud felly chwe blynedd, ffodd Padrig adref, ond mewn atebiad i lais rhyfedd ddywedodd wrtho,—"Dos, pregetha'r Hollalluog yng ngwlad dy alltudiaeth," dychwelodd. Bu llwyddiant arbennig ar ei waith, a thrwy ddylanwadu ar y penaethiaid enillai'r trigolion, a chodwyd ysgolion ac addoldai lawer. Deuai myfyrwyr y Cyfandir iddynt i chwilio am dawelwch a rhagorach dysg, a blodeuog iawn oedd hi ar bopeth Ond daeth dydd yr adeg honno. cymylog a niwliog; glaniodd y Daniaid ar draethellau'r ynys, a daeth anrhefn gyda'r môr-ladron hyn; di- lynwyd hwythau gan eu gwaeth a'u creulonach,—y Saeson,—ac yn y drydedd ganrif ar ddeg mae'r ynys yng ngofal barwniaid anghyfiawn, ac mor drahaus a'r rhai oedd ar or- orau Cymru ym Maldwyn a Chaer. Meddai y barwn tirol allu mawr yng Nghymru, ond yr oedd; ei allu yn llawer iawn mwy mewn ynys anghysbell fel yr Iwerddon. Yr oedd yn ddychryn i'r trigolion. Safai gastell ar bob rhyw fryn a dyffryn i'w amddiffyn ef a'i eiddo, ac yn doriad calon i'r preswylwyr. Gwnai gyfraith iddo ei hun, rhyw gymysgedd ryfedd o gyfraith Lloegr a'r hen gyfraith Wyddelig,—y Brehon. Yn ei ddydd goreu, ni ofalai am na Duw na dyn; ond pan heneiddiai, taflai yn y gwyll ei olygon dros ei oes,—oes o orthrymu'r gwan a blino'r weddw. Yna galwai am saer coed a gof cywrain o Normandi, ac adeiladai iddo ei hun fynachty i dawelu ei gydwybod euog,—un felly hwyrach gododd furiau yr eglwys yr eisteddwn arnynt. Fel yr eglwys, maluriedig yw y tŵr a'r castell, a gelwir un yn "gader" a'r llall yn "bulpud " yr esgob.
Nid oedd amser i ymdroi, yr oedd gennym daith rhy faith y diwrnod hwnnw, ac anhawdd iawn oedd maddeu i'r mafon duon dyfai'n frith bobtu'r ffordd. Yr oedd y gwrychoedd wedi eu plygu yn ddestlus,—un da am wrych yw'r Gwyddel, ac yr oedd dau ddifir yn torri'r gwrych, gyda chryman medi a choes hir i wneyd i fyny am fyrder eu corff, pan elem heibio. Rhoddasant eu pwysau'n rhannog ar y clawdd a'u cryman, pan welsant ni, mewn ag- wedd ddengar i dynnu ysgwrs.
"Troi am y Bwlch yn fore'n te?" ebe un, gyda gwên ddireidus.
"Y ni yw'r rhai cyntaf heddyw felly?"
"Ie, ond fydd neb braidd yn cerdded. Bydd y byddigions yn cymeryd car at odreu'r Bwlch, ceffyl drosto, a chwch ar hyd y llyn adre."
"Byddant yn gwybod cyn lleied felly am y wlad pan gyrhaeddant Killarney," ebe Befan, "ag a wyddent cyn cychwyn y bore. Rhaid cerdded trwy'r wlad; scwrsio â'r trigolion a'u gweld yn gweithio cyn y ceir syniad teg am dani."
"Hwyrach wir; ond fel arall y gwna byddigions," ebai drachefn. Syniad hwn, fel llawer un arall, oedd mai y bonheddwr yw hwnnw sydd ar ei oreu yn cadw ei ddwylaw a'i draed rhag gwneyd ond lleied byth ag allo.
"Beth yw'r adeilad acw?"
"Capel."
"Anibynwyr ?"
"Nage'n siwr, i'r eglwys yr ant hwy os oes 'ma rai,—yno yr a y Protestaniaid i gyd."
"Pa un ai Pabyddol ynte Protestanaidd yw'r rhan yma?"
"Pabyddol iawn yw Kerry oll. Yn Ulster a'r Gogledd mae'r Protestaniaid,-a Saeson yw'r rhan fwyaf o honynt yno." Pabyddol iawn wrth natur yw'r Gwyddel, mae mwy o rwysg a mawredd yn perthyn i'r grefydd honno.
"Ydi Kerry'n Doriaidd?"
"—! Toriaidd wir—! Na, gwrth-Barnelaidd yw Kerry oll, a dychwelodd ei thri aelod Seneddol gyda dwy fil a hanner o fwyafrif bob un."
Gadawsom y ddau Wyddel, rhag dadleu mewn lle mor unig; ac wedi croesi'r afon Laune dringasom i fryn bychan at Gastell Dunloe.
Mae Castell Dunloe wedi ei ail adeiladu, ond ni newidiwyd nemawr ar ei ffurf gyntefig. Gwylio rhyd yr afon Laune oedd ei waith yn ei ddydd, a chadw golwg ar Fwlch Dunloe welem fel adwy yn yr awyr rhyngom a'r gorllewin, rhag i'r Ffrancod a'r Hispaeniaid ddod trwyddo o'r môr. Gwelwyd aml i frwydr ac ysgarmes waedlyd o'i ffenestri culion yn amser Elizabeth, cyn i Ludlow ei gymeryd yn 1641. Ond tawelwch meudwyaidd breswyliai yno y bore hwnnw,-dim ond murmur yr afon Laune ffarweliai â'r mynyddoedd cyn ymarllwys i'r llyn, a swn olwynion cerbydau'r Saeson gyflymai i fyny'r Bwlch glywem. Islaw'r oedd Llynnoedd Killarney yn ymestyn o'r golwg tua'r dwyrain. Yr oedd ambell ran o'u glannau'n goediog fel glannau Llyn Tegid, a rhannau ereill cyn foeled ag ochr Llyn y Fyrnwy. Tua chodiad haul elai'r mynyddoedd yn llai, tua ei fachludiad yn fwy,-rhyw Benfro ac Eryri ochr yn ochr. Dacw fugail â'i gi yn dod o godi'r defaid, af ato i holi y ffordd.

V.—AMAETHWYR Y MYNYDDOEDD.
AETHOM oddiwrth gastell Dunloe, dros yr afon Laune, i gyfarfod y bugail ddeuai o'r mynydd gyda'i gi. Oni bai am acen y bugail buaswn yn tybied mai ag un 0 fugeiliaid y Berwyn y siaradwn, gan mor debyg yn ei wedd yr oedd iddynt,-yr oedd mor garedig hefyd a pharod i'm cyfarwyddo. Ychydig ddefaid feddai, ebe ef, a llai o eifr. Cafodd ddau aeaf pur dyner, ac er fod y lle yn uchel, rhedynog, a chreigiog, gwnaeth ei ddefaid yn ddiweddar yn dda. Pan ofynnais nôd clust ei ddefaid, atebodd â'i wên ynghil ei lygad,—
"Torri blaen y ddwy a hollti'r dde yn ei hyd."
Llefarai'n gyflym, gan ddechreu pob brawddeg, fel ffurf yn unig, feddyliwn, yn hytrach na diffyg crefydd, gyda dau air nad gweddus yma eu hadrodd. Gwelais amryw cyn nos o gyffelyb arddull ag ef, ac ymddanghosai y geiriau hyn mor naturiol iddynt ag y gwna geiriau llanw i feirdd. Wedi dangos y llwybr i ni tua'r Bwlch aeth tan chwibanu ar ei gi tuag adref.
Tlawd iawn yw yr olwg ar y wlad yn y parthau yma, ac anhawdd cael syniad trylwyrach am dylodi nag a geir yn ffermydd bach blaen cymoedd Kerry. Mae y fan ymhell oddiwrth lan a thref, ac ni chaiff y tyddynwyr fawr yn gyfnewid am yr ychydig gynnyrch gwyd eu tir. Y merched sydd yn dioddef fwyaf, a hwy sydd yn gweithio galetaf. Gwael iawn yw eu gwisg; ni feddant na hosanau nac esgidiau,-troednoeth goesnoeth ydynt. Shawl roddant dros eu pen pan fydd angen, ac os gwyddant rywbeth am blu a bonet ni welais i yr un ganddynt. Ychydig o wŷr welais yn gweithio, merched oedd wrthi yn y tŷ ac allan. O ganlyniad mae amaethyddiaeth ymhell iawn ar ol yn y cymoedd i'r hyn yw yn y gwas- tadedd, yn yr un sefyllfa y mae yma ag yn hanes boreuaf yr Iwerddon.
Fel y Cymro, byw ar gynnyrch ei dir y cawn ni'r Gwyddel yn nechreu hanes, a thalai ei ddyled a'i ddirwy mewn defaid a gwartheg, ac ni wyddai eto fod cyfoeth lawer dan ei draed ond iddo gloddio ato. Yr oedd pob llwyth,—sept,—yn byw ar ei ben ei hun a meddent ddarn o gytir rhyngddynt. Ymgyfenwent ar enw eu pennaeth a thalent warogaeth iddo. Pan fyddai tad farw rhennid ei dir yn gyfartal rhwng ei blant. Gwersyllent ar ynys weithiau, neu codent fythynod ar bolion ynghanol llyn neu gors,—fel Fenis yn awr. Bryd arall gwnaent eu nyth yn llochesfeydd y creigiau, neu ar y gwastatir, gan ei amgylchu â mur trwchus uchel, a cheir profion eto eu bod yn masnachu â'r Cyfandir yn fore.
Trown i Gymru tua'r un adeg a chawn gyffelyb olygfa, er fod y Celt yno mae'n wir wedi darganfod copor, alcan, a phlwm. Porfa yw y rhan fwyaf o'r tir, ac mewn pebyll neu dai gwael yr oedd y Cymry yn byw. Yr haf preswylient ar lethrau y mynyddoedd gyda'u defaid. Y gaeaf disgynnent i'r dyffrynnoedd, a'u gwartheg a'u hanifeiliaid gyda hwy, er cael porfa a chynhesrwydd. Nid oedd ganddynt le neilltuol i aros, mewn pabell yr oeddynt yn crwydro o fan i fan, gan osgoi gelyn ac edrych am gynhaliaeth. Y nesaf i ddim wyddis am ddaliad tir yng Nghymru, ond yn ffodus mae Gwent,-y rhan fu dan ddylanwad y Rhufeiniwr fwyaf, ac barhaodd yn Gymreig hyd ddyddiau Gruffydd ab Llywelyn, yn cael ei desgrifio yn y Doomsday Book wnaed gan Wilym Orchfygwr, ac yn ol hwn gwelwn fod mân bentrefi,—villæ,—Cymru ar y ffordd i gael eu huno dan un maer, praepositus,—a dengys hyn mai o villa y Rhufeiniwr y daeth maenor y Cymro. Dyma ddywed y Dooms-day Book am y rhan o Gymru sydd yn taro ar Gaerloew,—
"Dan Waswic, y maer (praepositus) mae xiii villæ; dan faer arall xiiii villæ, dan faer arall xiii, dan faer arall xiiii villæ. Rhydd y rhai hyn xlvii sextarii o fêl, xl o foch, a xli o wartheg, a xxviii o sylltau.
Dan yr un praepositus mae pedair villæ ddiffaethwyd gan Garadog frenin."
Colled fawr i'r Gwyddel oedd nad aeth y Rhufeiniwr yno i'w ddysgu. Bu Agricola yn sefyll ar draeth Cymru mewn cyfyng gyngor a hwyliai i'r Iwerddon, ond nid aeth, ac felly bu'r Gwyddel gwrs yn hwy na'r Cymro yn dysgu'r wers bwysig honno,—mewn undeb mae nerth.
Dilynem y llwybr troed dros weunydd a chloddiau cerrig. Mewn ambell gae'r oedd plant yn codi tatws, a moch o'u cylch yn llawer mwy diwyd na hwy gyda'r un gorchwyl. Mewn cae arall dacw hen Wyddel yn sefyll yn ymyl ei fwdwl gwair mewn amheuaeth a gaiff ei danu gan y tywydd ai peidio. O'n blaen yr oedd mynyddoedd y Tomies yn tywyllu rhyngom a'r de, ac yn eu hymyl safai y Macgilli- cuddy's Reeks yn ysgythrog uchel. Yn fuan daethom at dŷ ffarm,—hwn oedd y goreu yn yr ardal,—rhes o adeiladau gwael, a phalmant tyllog o'u blaen, a thomen leidiog yr ochr arall i'r palmant. Methem sylweddoli fod tŷ ynghanol beudai felly, ac wedi ein siomi am dŷ mewn dau neu dri drws, daeth pen bachgennyn dros ragddor y drws agosaf atom, ac yn yr ystafell honno yr oedd y teulu yn byw. Aethom ymlaen. ato; dwy ragddor,—yr uchaf yn agored,—oedd ar y drws. Yr oedd. y wraig yn brysur yn golchi dillad. Gwahoddodd ni i mewn, rhoddodd. ddwy gadair i ni eistedd ar ganol y llawr, ac edrychai braidd yn amheus arnom. Llawr pridd tyllog oedd ar y tŷ, ond yr oedd yn sych a glân. Anaml y bum mewn tŷ cyn dloted yr olwg arno, a thra y bu Befan yn ceisio denu ato y plant bach oedd a'u pennau yn picio allan o ddrws y siambar, sylwais o'm cwmpas. Isel iawn oedd bargod y tŷ a'r drws, ond gan nad oedd arno lofft, gallai dyn unioni wedi mynd i fewn, a pha agosaf i ganol y llawr y byddis, hyfaf yn y byd y gellid gwneyd hynny. Yn un pen i'r tŷ yr oedd y tân,—tân mawn ar lawr, dan fantell hen simddeu fawr, a chrochan ynghrog wrth gadwyn ddu uwch ei ben. Wrth ddau bost y pentan yr oedd cader yn fwy o addurn nag o ddefnydd â'i gwaelod yn wellt,—er fod yr oll o'r defnydd hwnnw wedi colli, a dibris iawn o'i gorff fyddai y dyn hwnnw eisteddai arni. Yn nhalcen arall y tŷ, lle ceir cwpwrdd gwydr yn gyffredin yng Nghymru, yr oedd bocs mawr anghelfydd ei wneuthuriad, a darnau o breniau culion ar ei wyneb fel rhesel,—tebyg i gut ffesant, a rhwng y rhai hyn gwthiai ieir a cheiliogod eu pigau allan i weld y dieithriaid neu i ddisgwyl ymborth, ac ychwanegai pob pig ei goreu at y twrw ddeuai o'r bocs, ac ni fu brain coed Cerrig Llwydion erioed mor uchel eu clochdar. Nid oedd na phapur na phictiwr ar yr un o furiau y tŷ, ac yr oedd y calch rhwng y cerrig heb ddim ond ei ol yn aros, a chredaf fod disgynyddion y pryf copyn cyntaf wnaeth ei we ar y trawst, pan osodwyd ef yno, wedi cael perffaith heddwch o ach i ach i fwynhau eu hen gartrefle. Nid oedd ffenestr yn ochr y tŷ oedd i'r tywydd, ac ar y mur hwnnw'r oedd silff fer ac ychydig lestri alcan glân arni,—plâts a bowls; a chwpwrdd bach, tebyg i'r un fedd y gôt yn cadw ei dwls; ac ynddo yr oedd bowlen siwgr, mwg wedi torri ei ddolen, ac er lleied y cwpanau te yr oedd mwy o honynt nac o sowseri i'w matsio; a hawdd gweld mai anfynych y cymerid hwy o hono,—ar ddydd priodas neu ddiwrnod claddu hwyrach. Yn y mur gyferbyn ag ef yr oedd ffenestr fechan, ac er nad oedd ond rhyw droedfedd scwar, a charpiau ar ran o honi, nid yn hawdd yr anghofiaf yr olygfa hanner dydd welais trwyddi,—y gwaenydd a'r crawcwellt ddechreuai felynu, a'r grug â'u blodau lliw'r gwin dyfai oddiarnynt,—y coed, y mynydd, a'r creigiau ymwthiai am yr amlaf i ddyfroedd Lough Larne ychydig islaw'r tŷ. Mae natur yn gofalu yn niffyg y trigolion am le tlws a glân. Neidiodd cath liw'r teigr i'r ffenestr, a rhyngddi hi a'r bratiau welwn i ddim. Yr oedd Befan erbyn hyn wedi llwyddo i ddenu'r plant o'r siambar at dalcen y bwrdd oedd dan y ffenestr,—geneth a dau fachgen. Edrychent yn iach a sionc, a chredaf, pe gwelid hwy wedi ymolchi, eu bod yn dlws iawn hefyd. Ymhen arall y bwrdd, wrth y rhagddor, yr oedd buddai,-buddai gnoc, a gwelwn fod yr offeryn hwn yr un mor ddefnyddiol ddiwrnod golchi a diwrnod corddi, gan fod dillad ynddi yn mwydo, ac wrth honno yr oedd y wraig yn golchi mewn crwc, tebyg i grwc halltu, safai ar ystol dri throed, a hawdd iawn oedd gweld terfyn y dŵr ar ei breichiau noeth, a deall hefyd mai ar ddiwrnod golchi yn unig y cyrhaeddai'r dwfr yr uchter hwnnw. Ond y wraig hon, o holl ferched yr Iwerddon, oedd y fwyaf dymunol a welais. Yr oedd yn dalach na'r cyffredin ac o gorff lluniaidd. Tebyg oedd hon i un o ferched Groeg, os yw'r syniad cyffredin am danynt yn gywir. Siaradai yn wylaidd a deallus, er fod ei Saesneg a'i Gwyddeleg yn anhawdd i'w deall. Tosturiwn weld un cyn hardded mewn lle cyn dloted, ac yn gweithio mor galed. Onid rhyw Fronwen alltudiwyd i fynyddoedd Kerry trwy drais yw? Bu raid i Bronwen ferch Brân Fendigaid adael Cymru a gwŷr Ynys y Cedyrn i ddioddef sarhad yn yr Iwerddon,—Ai hi yw hon? Na, cafodd y Fronwen honno fynd adref i Gymru i farw druan, a huna ym murmur afon Alaw ym Mon. I foddhau cywreinrwydd gofynnais ai yno y ganwyd hi.
"Nage," meddai, ond yr wyf yma. er ys deuddeng mlynedd, er pan briodais yn ddeunaw oed."
"Ydych chwi'n hapus ?"
"Yn berffaith hapus. Gallaswn briodi yn well mae'n wir, ond penderfynais na phriodwn arian byth, ond un wnai ddwy galon yn un,—a Healy y bugail oedd hwnnw." "Fu'n edifar gennych?"
"Na dim un awr, er i mi fod gwrs yn dod i ddull y mynyddwyr o fyw."
Er holi ei hanes cyn priodi yr oedd yn ofalus i beidio ei adrodd, ond amlwg oedd ei bod wedi aberthu cyfoeth a sefyllfa er cael y gŵr a garai. Ond trodd Befan y scwrs a gofynnodd,—
"Faint gewch am y menyn?"
"Wyth geiniog y pwys."
"Ydi'r gwartheg yn llaetha yn dda ?"
"Ydynt yn bur dda. Y Kerries, gwartheg duon bach, sydd gennym yn y cymoedd hyn. Ond cadwai fy nhad Yorkers,—y Kerries a gwartheg o Yorkshire wedi eu croesi. Gwartheg braf yw y rhai hyn, a rhoddant bedair galwyn y dydd o laeth, ond y maent yn rhy rywiog ar ein tir ni."
Buwyd yn daer arnom gymeryd bwyd, ond gwyddem am helyntion. diwrnod golchi, ac fod gennym daith hir cyn nos, ac ymadawsom â gwraig fwyn a phlant bach Ardenloe ar y telerau goreu. Wedi mynd i ben y grimell, ar hyd ffordd gario mawn, garegog, daethom i olwg amryw o fân dyddynod, tebyg i dai unos, a chaeau gwair bychain o'u cylch; ac yn un o'r caeau hyn yr oedd gwraig pob tyddyn feddyliwn yn cweirio gwair. Yr oedd deg o honynt yn troi gwair melyn hen. Disgynnai eu cribiniau ar y gwair yr un adeg, a chodent eu sodlau gwynion noethion ar unwaith. Gwisgent shawl goch dros eu hysgwydd, ac ymddanghosent o bell fel milwyr profedig yn ymdaith. Pan aethant i ben arall y cae, troesant yn ol gyflymed a deheued a phetai swyddog milwrol yn gwaeddi "Right about face!" arnynt. Ond pan welsant y ddau lefnyn main yn dynesu atynt, safasant gan edrych am ennyd mor syn a hwrdd mewn mieri,—taflasant eu cribiniau a rhedodd pob un gyflymed ag allai i'w thŷ.
Wel, yr oedd yn bryd i ninnau sefyll. Cofiais wrth weld yr ugain gwadan gwyn gyflymai adref, am ddarluniad Homer o'r cwn traed wynion y saethai Apollo atynt yn ei ddig. Ond ni feddem ni na bwa na saeth, a methem ddyfalu pa gynllun gymerem.
"Fase well i ni fynd yn ol i'r ffordd ?"
"Oes arnom ofn merched?" ebe Befan. "Gwelais ferched ifanc yn sir Fon yn ceisio am y drws cefn yn bur gwic rhag i mi eu gweld yn gweithio allan. Swil ydynt, awn ymlaen."
"Ond beth pe base eu gwŷr yn—
"Diaist, ar y gair, dacw nhw! Deng! Lle cawn ni fynd?"
Ar hynny gwelem tua deg ar hugain o Wyddelod ar gefnau meirch uchel yn y ffordd oddi arnom, a hetiau a chanteli fel rhedegfa Caer am eu pen, yn carlamu'n gyflym tua'r dyffryn, ac elai ein pryder yn llai fel y distewai swn traed y ceffylau yn y pellter. Anghofiodd Befan y graig amcanai gyrchu ati, a dechreuasom symud ymlaen yn araf tua chyfeiriad y deg cribin adawyd; ond cyn i ni. fynd yn nepell daeth y gwragedd allan eilwaith,—un a chunnog, arall a bwcied, ac ereill a llestri na arferir cario llaeth ynddynt yng Nghymru, a deuent am y cyntaf i'n cyfarfod.
"Jintlmen," ebe y frasaf ei cham, â'i gwyneb cyn felyned a chroen gwydd, "yr ydych yn mynd i fyny'r Bwlch, mae'r ffordd yn faith, a chwithau'n flin a newynog, dyma i chwi laeth geifr,—peth hynod ffraethlawn, am a welwch yn dda ei roddi i'w yfed," a chynhyddai ei gwên,—gwên nas gall ond Gwyddeles ei gwneyd, fel y delai i ddiwedd ei chyfarchiad. Erbyn hyn yr oedd y gweddill wedi ein hamgylchu, a chystadlent mewn dal eu llestri budron am yr agosaf atom. Yr oedd arnaf eisieu bwyd, ond adlewyrchai gwynebau y gwragedd a'r llestri ar y llaeth, neu pylai fy ngolwg nes peri i'm gredu nad oedd y llaeth yn lân. Rhaid i ddyn, ebe gwyddonwyr, fwyta peciaid o lwch, ond tybiwn os rhaid hynny, mai doethach ei gymeryd fesur ychydig nac ar un-waith, a pheth arall, nis gallwn gymeryd ond llaeth gan un, a sut y cytunwn â'r naw?
Gofynnais a allent ganu.
"Canu. Gallwn!" ebe perchen y gunnog.
"Ydi'r hen delyn Wyddelig mewn bri yma eto?"
"Ydyw; ond a nifer y chwareuwyr yn llai a nifer y telynau heb dannau yn fwy y naill flwyddyn ar ol y llall,"
"Allwch chwi ambell bennill telyn?"
"Gallwn ambell un. Canwch bennill i'r jintlmen, Shian O'Neill," meddai, gan gyfeirio at ferch lednais lygatddu.
Canodd yr eneth honno'n swil mewn llais tlws dengar eiriau tebyg i hyn,-
"Os i garu doist ti yma
Dod dy droed ar lawr yn ara,
Gwilia daro wrth yr ysgub
Esmwyth iawn yw cwsg fy modryb."
Gyda iddi orffen torrodd gwraig tua deugain oed allan i ganu cân y cryd, —cân suodd ei phlant i gysgu lawer gwaith. Elai ei chorff gyda'r dôn a gwingai ei throed fel petai yn gyrru y cryd, a phan yn gwneyd rhyw slyr neilltuol lluchiai'r llaeth o'r gunnog allan.
I would put my child to slumber, my own—and yet not so
As the wives of clowns may do it, as the babes of the clowns may go,
Beneath a yellow blanket, and beneath a sheet of tow,
But in a golden cradle that the wind rocks to and fro.
Sho-keen sho, hoo lo lo,
Sho-keen sho, you are my child,
Sho-keen sho, hoo lo lo,
Sho-keen sho, and you are my child.
Dyma y gweddill o "gân y cryd," y mae'n dlws iawn. Codir hi o'r Lullabies of Many Lands.
I would put my child to slumber-and must this be the way,
Between two Christmas seasons, on a bright and sunny day;
And in a golden cradle and upon a level floor,
Beneath the tree-tops lofty that the wind rocks evermore.
Sho-keen sho, hoo lo lo, &c.
Then sleep my child, and may it the sleep of safety be
And may you from this slumber arise in health and glee;
May neither death-stitch seize you, nor ugly smallpox strike
Nor any infants' sickness, dire colic and their like!
Sho-keen sho, hoo lo lo, &c.
Then sleep, my child and be it sweet sleep and safe to thee,
And may you from this slumber arise in health and glee
From dreams of pains and sorrow, oh! may your heart be free,
And may your mother never a son-less woman be!
Sho-keen sho, hoo lo lo,
Sho-keen sho, you are my child,
Sho-keen sho, hoo lo lo,
Sho-keen sho, and you are my child.
Yr oedd pob un o honynt yn llawn awydd canu, ac wedi cael tôn gan ddwy arall canasant gyda'u gilydd ac arweiniai Befan gyda'i ffon; a da oedd gennym eu gweled mor hapus yn eu tlodi.
"Lle mae'r gwŷr gennych? Pam na wnewch iddynt hwy weithio yn y gwair?"
"O jintlmen, maent hwy wedi mynd â'r ceffylau i lawr i gyfarfod y cerbydau o Killarney i'w llogi i gario dieithriaid dros y Bwlch," meddai un parod i amddiffyn ei gŵr. Hwy felly oedd y gwŷr meirch welsom ychydig cyn hynny. Ceffylau ardderchog sydd ganddynt, o gorff heini lliw coch, du neu las. Buasai aml foneddwr neu gadfridog yn falch o geffyl un o'r Gwyddelod tlodion hyn. Canasom ffarwel â'r gwragedd a phlygodd pob un yn swp, fel jac yn y bocs pan gauir arno, wrth dderbyn ein hatling. Pabyddion oeddynt.
Elem heibio i'w tai,—yr oeddynt yn ofnadwy o fudr. Rhedai saig domlyd o'r tŷ fel o'r beudy oedd dan yr unto âg ef, ac yr oedd y moch a'r chwid yr un mor gynefin â'r naill ac â'r llall. Na feddylied neb mai casineb at y Gwyddel bâr i mi ddweyd hyn,—pellaf peth yw hynny o fy meddwl. Y Babaeth sy'n cadw'r Gwyddel yn y llaid, a chymer y tirfeddiannwr fantais ar hynny i'w bwyso iddo. Pa bryd y daw cymoedd Kerry mor lân a chymoedd Cymru? Mae y mynyddwyr yn byw yn hen iawn. Mae'r merched yn dlws pan yn ieuanc, ond hagr erwin ydynt pan heneiddiant, ac yma y gwelais yr hyllaf welais erioed. Hen wraig oedd, yn sefyll wrth dalcen y beudy. Yr oedd yn anhawdd cael syniad am ei ffurf,—yr oedd mor wyrgam a musgrell. Yr oedd y rhychau dyfnion oedd yn ei gwyneb wedi eu llenwi gan faw, fel mai anhawdd penderfynu pa liw oedd ei chroen pan aned hi,—gallesid hau gwely wynwyn yn hawdd ar ei thalcen, a dwy res o foron bobtu i'w thrwyn. Nid hawdd oedd gwahanu'r buarth a'i thraed pan safai, ac ofnadwy oedd ei golwg pan syllai trwy ddau dwll lle bu llygaid arnom. Symudai ei gên pan geisiai lefaru'n afrosgo fel petai y gewynau a'i gyr wedi cancro, a lliw lludw mawn oedd ar ei hanadl hi. Ymddanghosai i mi fel un wedi codi o un bedd, ar ol canrif o orffwys, ar ei ffordd i ymolchi cyn syrthio i fedd arall. O'r genawes! Gwae fi dy weld erioed! Gwelaf di lawer gwaith eto mewn hunllef. Fel y diflannai o'r golwg, elem trwy anialwch o gerrig a brysgyll, a hapus oedd cofio wrth deithio'r fath le fod Patrig Sant wedi lladd yr olaf o seirff yr Iwerddon a'i thaflu i'r Llyn Du. Daethom i lawr at dŷ bychan, a delai y mŵg, wedi chwilio pob cornel o'r tŷ, allan ffordd yr elem ninnau i fewn. Trwy y mŵg gwelem wrth y tân ferch yn tylino, a baban wrth ei hymyl, mewn cawell pysgota.
"Pobi sy' ma?"
"Ie," ebai, tra yr hedai chwiaden heibio 'mhen allan. "Ond mae'r mŵg yma'n gas! Gallech feddwl ein bod yn ffrindiau mawr gyda'n gilydd gydol y dydd."
"Ydech chi yma ers talwm?"
"Er pan briodais yn ddwy ar bymtheg oed, ac ugain wyf yn awr. Mae'r merched yn priodi oll cyn bod yn ddeunaw braidd."
Er paroted ei pharabl oedd y wraig, yr oedd yn rhaid mynd allan, canys doluriai fy llygaid gan y mŵg fel petawn yn tynnu'r odyned. Ar y palmant safai llefnyn ugain oed a phladur ar ei fraich. Pan ofynnais enw'r tŷ, dywedai ar ei wir mewn geiriau barai i mi wylio symudiad y bladur yn fanwl, nas gallai ei sillebu. "A gaf fi ddod i'ch arwain dros y Bwlch,—dof am cyn lleied a swllt?" ebai.
Na, awn yn iawn, gweithia yn y gwair i gael dy gynhauaf cyn y Nadolig."
Dywedodd lawer o eiriau ar ein hol cyn i ni gael y bont bren groesai'r nant, ond clywais ei apel olaf ym murmur y dwfr,—
"Mae aml i Sais wedi mynd ar gyfrgoll a marw ar fynyddoedd y Tomies. I, lads,—dof am chwe cheiniog!"
VI.—BWLCH DUNLOE.
CHWYTHAI y gwynt i'r gogledd, elem ninnau yn araf tua'r de a Bwlch rhamantus Dunloe. Yr oeddym wedi gadael y fferm olaf,—y plant yn codi tatws, y wraig yn pobi, a'r gŵr yn segura. Dirwynai ein llwybr trwy le tra hagr, dan lethr llechweddau caregog, a rhedyn a grug yn ceisio ymwthio rhwng y cerrig aml. Ond yr oedd y ffordd mewn cyflwr da gan gymaint y teithio sydd arni, a drwg oedd gennyf, wrth ei gweld felly, nad oedd fy ngheffyl haiarn gyda mi. Os oes gennyt fis neu lai, ddarllennydd hynaws, i'w hebgor yng ngwyliau'r haf, nis gwn am un man mwy dymunol iti i'w dreulio na rhwng mynyddoedd Kerry, nac am bobl garedicach, ychwaith, i gydfyw â hwy na'r trigolion. Mae'r ffyrdd yn rhagorol i gerdded neu olwyno,—ffyrdd tebyg i'r un a gyda glannau y Teifi, neu o Dy Ddewi i Hwlffordd, neu yr un adawa ochr Llyn Tegid am Ddolgellau, geir yno.
Yr oedd yr haul wedi mynd dros hanner ei gwrs pan eisteddem ar ganllaw pont gerrig henafol,—yr oedd cerrig ei bwa gymaint ar eu cyllell braidd a rhai Pont y Gŵr Drwg. Ni welais ddwfr mor ddu erioed na'r nant elai tanom, nac ewyn mor wyn a'i hewyn hi,—yr oedd fel dannedd gwynion dyn du. Wrth dalcen y bont tyfai bedwen arian a mwswg melyn fel gwythiennau aur gylch ei bôn. Hawdd fuasai breuddwydio amser heibio mewn lle mor unig a thawel ac mor gyfoethog mewn golygfeydd.
Ymledai deheudir yr Iwerddon o'n blaen,—faint o orthrwm a thrais fu ynddo? Diwrnod cymylog a niwliog oedd diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg yma. Yr adeg hynny rhoddodd y Llywodraeth y tir, i gadw trefn ac i Seisnigeiddio, i nifer o anturiaethwyr o orllewin Lloegr,—rhai hynod am bechod a chreulondeb, ac nid y lleiaf yn hyn oedd Peter Carew anllad. Meddai ef hawl fel disgynnydd Fitzstephen yn nyddiau Harri'r Ail i dir yn Carlow a Cork, ebai ef; ond nid felly y credai y trigolion, a chododd y Desmoniaid yn 1576 mewn gwrthryfel yn ei erbyn. Yr oedd hir ddioddef wedi eu dysgu mai gwaith ofer oedd disgwyl trugaredd a chyfiawnder gan Sais. Ceisiwyd cymorth Ffrainc, ond glaniodd Fiztmaurice ac ychydig Yspaenwyr yn Smerwick. Unodd Syr John o Desmond hwy,—newydd ei ryddhau o garchar Dublin ar yr amod iddo gadw heddwch; a ffodd ei frawd Iago o'r carchar i gynorthwyo yn yr ymdrech am anibyniaeth. Ymgasglodd y Desmoniaid ar hyd glannau y Shannon a godreu mynyddoedd Kerry dan arfau, ac unwyd â hwy gan dair mil o denantiaid y Geraldines wrth goedwig fawr heb fod nepell o Limerick. Collodd eu llywydd, Fitzmaurice, ei fywyd yn fuan; ond llwyddodd ei olynydd, Syr John o Desmond, i yrru'r Saeson a'i harweinydd, Syr William Drury, i hen gastell Killmallock. Drud i'r Gwyddelod fu canlyniad y fuddugoliaeth, canys anfonodd y llywodraeth ddwy fintai o filwyr dan arweiniad Syr William Polham ac Ormonde o Dublin a Kilkenny, a chyfarfyddodd y ddwy fyddin yn Tralee,—anialwch o waed a chyrff oedd eu llwybr hwy. Wedi cael defnydd tân a dinistr o'r llongau oedd yn eu cyfarfod yno a malurio hen gastell Carrigafoyle, ymdeithiodd y milwyr arfog trwy wlad lawn o drigolion tlawd a noeth a diamddiffyn, gan eu lladd a'u difa. Aethant i bellfannau Kerry, i Dingle a Valentia, gan mor wancus am waed gwirion oeddynt. Mae hanes eu hymdaith yn erchyll,—
Lladd pawb, lladd pob oed,
Lladd yr hyna a'r ienga 'rioed,-
milwyr wedi meddwi ar waed. Dyma ddywed Ormonde yn ei fost wnaeth, -"Lleddais 88 o gapteniaid, a 1547 o fradwyr hynod ereill, a 4000 o drigolion." Wedi y galanas dychrynllyd yma glaniodd y cymorth hirddisgwyliedig o Spaen yn Smerwick, ond fis yn rhy hwyr; yr oedd Munster wedi ei darostwng. Er hynny daeth gobaith eilwaith i galon y gorchfygedig; pan glywodd Syr John o Desmond fod pedair llong ac wyth gant o Spaenwyr ac Eidalwyr ar draeth y de i'w bleidio, daeth allan o'i ymguddfan yn anialwch Aherlow. Gwyliodd y Saeson pan elynt trwy lyn cul Glenmalure. Taflodd gerrig a saethau arnynt a mawr y difrod a wnaeth ar ei elyn,—cafodd y mwynhad o weld Peter Carew ymhlith y meirw. Clywodd y llywodraeth fod cynorthwy wedi dyfod i'r Gwyddel, a chyflymodd Lord Gray o Dublin gyda Syr Walter Raleigh ac Edmund Spenser tua'r de i gymeryd Smerwick, a bu raid i'r wyth gan tramorwr roddi eu harfau i lawr a cherdded allan i'w saethu gan Raleigh.
Dychryn ac angau deyrnasai ymhob man. "Pwy bynnag," ebe'r hanesydd, "deithiai trwy Munster ni chyfarfyddai na dyn na phlentyn, ac ni welai anifail," ac mae'r darluniad byw o'r trueni oedd yno gan Spenser yn anhygoel bron. Cariwyd gwehilion Lloegr i etifeddu y 547,628 cyfer gollodd Desmond trwy ryfela yn erbyn y Llywodraeth, a dechreuwyd y "Plantation of Munster." Ond nid lle hapus oedd yno i elynion y Gwyddel ffarmio. Ymosodid arnynt o bob cyfeiriad gan y rhai alwent eu hunain yn Robin Hood, fel mai da oedd ganddynt droi tua Lloegr yn ol. Pwy yw y nesaf i geisio adennill yr Iwerddon,—anialwch ac anghyfanedd-dra sydd yn y de? Mae dau frawd Desmond,—John ac Iago,—wedi eu dal a thorri eu pennau, a daliwyd yntau hefyd, er ffoi o fryn i fryn, yn ei gaban cerrig gododd ar fryn Slievenish ger Tralee, a rhoddwyd ef i farwolaeth greulon. Dacw Huw Goch yn codi ei fwa,—gwae'r Saeson.
Ond rhaid gadael hanes, y mae gennym ugain milltir rhyngom a bwyd a llety. Gyda ein bod yn gadael y bont ac yn troi am gornel sydyn, dyma ergyd o ganon dros y lle, a bu ei heco yn llamu o graig i graig gyda thwrw syfrdanol yn hir. Beth ddaeth ag arfau tân i le felly?
Ai tybed i ddau bererin gael eu camgymeryd am ddau elyn? Tra y ceisiwn ddarbwyllo fy hun fod fy aelodau yn ddianaf eto, dyma ben Gwyddel i'w weld rhyngof a'r goleu dros ymyl y graig, a'i ddwy glust fel dau fotwm corn bobtu i'w geg lydan wenai a gwaeddai,—
"A triffl twards thi powdar, i ar honer?"
"A faint am y shots?" gofynnai Befan.
"O'doedd dim shots yn y gwn. Clywsoch, yn to, am Pat? Wel i chi yr oedd Pat heb ddim pres, a phenderfynodd ymosod ar ryw ddyn elai heibio. Cyn hir daeth dyn ariannog yr olwg arno ar hyd y ffordd, a neidiodd Pat o'r gwrych.
"Eich arian ne'ch bywyd' ebe Pat gan anelu â'i ddryll ato.
"Cewch fy arian oll am y pistol' ebe'r dieithr ddyn.
"O'r gore,' meddai Pat, gan dderbyn dyrnaid o aur melyn yn ei le.
"Wel,' ebe'r teithiwr, gan ddal y gwn at ben Pat, 'tyrd a'r arian yn ol ne mi saethaf di.'
"Purion! Saetha fi,' gwaeddai Pat, does yna ddim shots yn y gwn.'
"Felly finnau," ychwanegai'r Gwyddel wedi iddo orffen chwerthin am ben ei stori, "cadw swn heb shots."
"I beth y gollyngasoch yr ergyd?" "I beth? Ond i'ch honor glywed yr eco, ac mae ych honor yn rhy fawr i basio heb daflu chwech i mi yn siwr,—ac eco dda yw hi, hi yw yr ore yn y byd."
"Pam yr ydych yn galw yr eco yn hi,—ar y rhyw fenywaidd?"
"Am ei bod yr un fath a'i rhyw,— chewch chi byth y gair olaf ganddi." Gyda i ni dalu i hwn a'i adael a throi trofa arall, yr oedd yno eto ŵr o'r un llwyth, a choesau cyn feined a rhai ceiliog rhedyn, yn sefyll ar dalp o graig a chornet yn ei law. Cyn ein gweld braidd dechreuodd ganu ei gorn, ac ar hynny dyma y creigiau yn biwglo i gyd; ond nid oeddynt trwy drugaredd, yn tynnu'r ystumiau dirdynnol a wnai canwr y cornet,—elai ei fochau yn fawr fel mwdwl gwair; a disgynnent eilwaith yn ddim, fel na welid ond trwyn a chornet. Peidiodd a chanu pan welodd fod perygl i ni ei basio yn ddisylw, a daliodd ei gorn gyferbyn a'i gap, ac ebai,—
"Ceiniog neu fwy, eich honor, am yr eco?" a chulhai ei wyneb fel ffidil pan ddiweddodd ei frawddeg, a bradychai ei wên ei ddannedd pygddu; ac o'n prinder nid oedd modd ei wrthod. Mae'r Gwyddel yn bur barod i ofyn tâl am a wna, neu elusen os na wna ddim, ac mae a fynno yr Americanwr a'r Sais lawer ei fod felly, trwy geisio ei ddenu i wneyd neu ddweyd rhywbeth yn ei dylodi am arian. Mae'r Cymro o flaen ei gefnder yn hyn, nid yw ef mor hoff o gardota. Ni welais neb yng Nghymru, er crwydro o Benllyn i Benfro, ac eithrio'r gŵr wrth Fedd Gelert, yn gofyn elusen gan ddieithrddyn. Ond mae'r Gwyddel yn rhagori ar y Sais yn hyn. Y Sais yn cardota? Ydyw, yn ei wlad ei hun,—"er na welwyd y cyfiawn yn cardota ei fara." Oni fuost, ddarllennydd mwyn, yn cerdded o dref yn Lloegr am dawelwch gylch glannau'r afon dan yr helyg? Welaist ti'r hen wr hwnnw'n moes grymu cyn ised a'r llidiart agora, a'r ferch honno dâl am fenthyg baban er taro teimlad yr un a heibio yn fwy, neu'r hen wraig yr un lliw a'r ffordd ymhellach draw? Felly y Gwyddel ym mynyddoedd Kerry, er nad i'r un graddau â'r Sais. Y mae yntau yn dygn gynllunio pa fodd y caiff ryw beth oddiwrth bawb ddaw i gysylltiad âg ef o fodd neu anfodd.
Yr oedd trofa arall yn y ffordd, a chyn wired a hynny safai gŵr o gyfansoddiad cadarn ar gwr craig. Pan welodd hwn ni ymunionodd, gan osod ei ddwy law ar ei ochr, ac wedi casglu ei wefusau yn grwn at eu gilydd, fel genau potel inc, gwaeddodd â'i holl egni nes dysgu'r creigiau wneyd oernadau cyffelyb. Yna meddai, mewn llais merchedaidd fel petai dim neilltuol wedi digwydd,—
"Ceiniog am yr eco, eich honor?" Ond O! cyn i ni ddod i gyd-ddealltwriaeth ymunionodd eilwaith; cymerodd ei wynt ato ac agorodd ei enau o'n blaen nes i ni o'n hanfodd weld lining ei wasgod, a pharodd drafferth i'r eco yr ail dro lamu o graig i graig, a moes ymgrymodd o'n blaen fel petai ry wylaidd i lefaru. Ar delerau neilltuol y cafodd hwn ein hatling,—"na waeddai ond hynny yr awr nesaf," a thybiai Befan ein bod yn berthynasau agos i Job cyn y gwnaem hyd yn oed hynny âg ef.
Yn ymyl yr oedd hen ogof diriwyd er ys llawer canrif. Dywed rhai mai teml ydoedd, am fod llythrennau Ogamaidd ar y cerrig bwaog sydd yn nenfwd iddi, ac mai'r derwydd fu ynddi yn addoli. Ond aneglur iawn oedd y marciau Ogam, a thebycach oedd y lle i dŷ, ac mai'r Iberiad gwallt-ddu hoff o dawelwch fu ynddo yn byw, wedi ei erlid i fynyddoedd y gorllewin gan y Gwyddel. Nid mewn ogof yng ngwaelod mynydd y byddai'r derwydd yn arfer addoli, elai yn nes i'r nefoedd na hynny. Ar ben bryn braidd yn ddieithriad y codai efe ei allor gerrig. Cafwyd cyrff ac esgyrn dynol yn yr ogof wrth ei hagor, a chadarnha hynny syniad rhai mai bedd oedd yno unwaith. Plygai rhedyn Mair gwyn a melyn dros yr ymyl fel petai rhyw ysbryd wedi colli ei wallt wrth adael y lle, ac yn uwch i fyny tyfai bedwen arian wyrai gan henaint tua genau yr ogof, —yr oedd popeth yn gwywo gylch y lle, a dyma y rheswm, os oes coel ar air Gwyddel,—
"Mae traed 'sprydion yn oer ofnadwy, syr, a phan yn cymeryd eu nos-daith mae eu pedion rhewllyd deifio popeth ddaw i gyffyrddiad â hwy."
Yr oedd oriau rai cyn y nos, felly cawsom deithio ymhell cyn i fodau'r gwyll yn ddeffro. Yr oeddym wedi cyrraedd pen y rhiw, ac ai'r ffordd trwy lecyn gwastad creigiog cyn codi'n serth i'r Bwlch, a chaffai'r nant hamdden yma i wneyd mân lynnoedd wrth ei phwys mewn mawn-dir; Cummeer Thomeen yw enw'r llynnoedd hynny, a du fel y nos yw eu dwfr. Yngwaelod y Bwlch mae llety i'r fforddolion droi i mewn i ddadluddedu, ond rhaid fod y lludded yn fawr a'r syched yn angerddol i ddenu dyn i'r fath le diolwg, er holl hyawdledd y gŵr geisiai wrth ei swydd ddenu rhai i mewn. Yr oedd maelfa yno hefyd, lle gwneid ac y gwerthid dodrefn,—dodrefn prydferth ac o wneuthuriad cywrain o bren du'r fawnog, yr Irish bog oak sydd mor hynod.
Brynnwch chi'r un cwpwrdd, cader, neu ddreser dda?" ebe gŵr byr a'i wyneb cyn futred a'i farclod.
"Ma'r ffordd ymhell i'w cario adref."
"Ymhell! Byddwn yn anfon dodrefn i'r America ac Awstralia,—welwch chi'r gader yma? Yn hon, neu'n hytrach, mewn un yr un fath a hi, yr oedd y Sultan yn bwyta ei frecwest heddyw."
"Beth oedd ei fwyd o tybed?" gofynnai Befan.
"O! ham and eggs, 'rwy'n coelio i chwi," ebe'r byr.
Pan ganfu mai â dau hen lanc y ceisiai fargeinio, boddlonodd ar werthu cetyn i un a chyllell bapur yr un lliw a'i ddannedd i'r llall.
Gadawsom ef a'i siop, a rhythai Bwlch Dunloe arnom pan ddechreuem gerdded y ffordd gul ai rhwng ei ddwy erchwyn serth. Mae'r Gwyddel yn meddwl y byd o'i Gap of Dunloe, chwedl yntau, a hwn yn ddiau fuasai ei dduw,—ac nid fi a'i beiai-oni bai iddo glywed am Dduw gwell a charedicach. Finn Mac-Couhal dorrodd y Bwlch, medd traddodiad, â'i gleddyf, er hwylustod i'w fyddin fynd ymlaen. Fingal o' Fin yr Alltud yw enw y gwron hwn yn yr Alban ac Arthur Fawr yng Nghymru. Marw yn y frwydr, druan, wnaeth Finn cyn rhyddhau'r Gwyddel o'i gaethiwed, ac mae iau y gorthrwm yn drom ar aml i war wyredig rhwng mynyddoedd Kerry heddyw. Hwyrach y daw Finn yn ol—mae'r Gwyddel yn ei ddisgwyl beth bynnag.
I un fagwyd ym Mhenfro neu Faldwyn buasai'r Bwlch yn olygfa ddieithr a tharawiadol; ond i un o Arfon neu fynyddoedd Eryri buasai yn ei gynefin, ac ni welai ddim i gyfiawnhau'r ansoddeiriau wastreffir gan deithwyr i ddarlunio y lle. Mewn tlysni ni ddeil ei gydmharu âg Aberglaslyn, a buasai'n dychrynnu pe gwelai Fwlch Llanberis. Eto efelychiad o Fwlch Llanberis yw, a llwydda'n rhyfedd mewn ambell fan i fod yn debyg iddo. Cyfyd mynyddoedd y Tomies un ochr i'r llwybr, gan gystadlu yn noethter eu creigiau â'r Macgillicuddy Reeks sydd gyferbyn a hwy. Mae'n lle tlws, a barddonol, a thawel,—dim i'w glywed ond y nant drystiog danom, ac ambell "grawc" gras gan aderyn neu ddieflyn o'r creigiau oddi arnom, a dim i'w weled ond
Y gwrym! Dacw fod ar lun dyn yn llamu o'r mynydd i'n cyfarfod, ei shawl ymron colli oddi ar ei hysgwyddau, a'i gwallt fel pe'n ofni ei dilyn, yn disgyn gyda'r gwynt o'i hol. Meddyliais am Eliza'n croesi'r rhew, tybed fod rhyw feistr creulon yn ymlid hon? Ar hyn yr oedd yn ymyl.
"Gwd mornin, jintlmen, gwd mornin! Eily o Connor, the coleen bawn, wyf fi. Clywsoch am danaf yn to?" ac edrychai arnom yn graff.
Gwelais lawer o "bobol y tins" yn pabellu o dro i dro wrth lidiar y ffordd, ond prin y tybiwn i mi weld hon, na'i bath erioed. Yr oedd mor felen a'r canary ac mor hyll a phechod, eto galwai ei hun yn coleen bawn,— yn eneth brydferth. Yn droednoeth goesnoeth yr oedd, a rhaid fod ei gwadnau cyn galeted a chalon Pharaoh i gerdded ffordd mor garegog a hynny. Hosanau oedd gan hon ar werth,—rhyfedd mor ofalus am ereill, ac mor esgeulus o honynt eu hunain, yw rhai.
"Wel, os na phrynnwch bar o sane gennyf, mi wn," ebai gan wincio ar Befan, "y cymrwch wydriad bach, ynte," a thynnodd botel ddu a glas o'i mynwes.
"Yfed wisci? Na, ac yr wyf yn synnu
Ond i ysgoi araeth ddirwestol gofalodd am ddweyd na fyddai hi byth yn profi'r fath stwff; ond ei bod yn ei gario er mwyn y teithwyr sychedig elai dros y Bwlch. Yna danghosodd ddarlun.
"Prynnwch fy llun,—Eily o Connor, the coleen bawn. Bum ieuanc, a'r pryd hynny hynodid fi gan hoenusrwydd a harddwch, ond fel y gwelwch newidiodd priodi a helbulon byd fy ngwedd, —prynnwch fy llun."
Pan gafodd ei dymuniad, rhedodd i lawr i boeni rhyw ddieithriaid ereill a'n dilynai, a dringem ninnau i Fwlch Dunloe oedd fel drws y nefoedd o'n blaen Islaw yr oedd y Llyn Du,— Black Lough, heb grych ar ei wyneb, fel pyg rhewedig. Tebyg i Lyn Creiglyn Dyfi yw, ac fel y llyn hwnnw nid oes pysgodyn o'i fewn. I'r llyn yma y taflodd Patrig Sant sarff olaf yr Iwerddon; a hyn, ebe hwy, yw'r rheswm nad oes dim byw, ag eithrio'r sarff, ynddo. Mae ei ddyfroedd yn ddu fel angeu a distawrwydd y bedd o'i gylch. Ust! Swn canu, a'r llais yn dyfod yn syth o ganol y llyn! Dyna lais melodaidd merch a thannau telyn yn glir! Mor swynol, ond pam y fath lawenydd dan y fath lyn! Ai dan y llyn y maent, ynte yn uffern,-na, does na thelyn na merch yno. Rhaid i mi gael gweld o ba le y daw, petai raid i mi, fel Ned Puw gynt, ei ddilyn i ogof ddi-ben draw.

VII.—MYNYDDOEDD A LLYNNOEDD.
PAN fethem ddyfalu o ba le y deuai y llais swynol, gwelem rhyngom a'r goleu eneth ddeng mlwydd oed yn sefyll ar y ffordd, ac yn amneidio â'i llaw i fyny i'r creigiau. Meddyliais mai brenhines y tylwyth teg ydoedd, a'i bod yn arwain y "bodau bach" â'i llaw i ganu,—yr oedd mor hardd, gwallt melyn ysgafnach nag anadl, dannedd o liw ewyn y don, a phrydferthwch y wawr oedd ar ei gwedd hi. Ofnwn iddi ddiflannu o'm golwg neu ymguddio yn y brwyn, ac yr oeddwn ar ymddiddan â hi pan glywais lais uwch fy mhen,—
"Eich ewyllys da, jintlmen, am y gân a'r eco?"
Mewn cilfach yno gwelwn y Gwyddel hen a'n cyfarchai, gan ddal bwa ei grwth gyferbyn a'i wallt gwyn. Yr oedd yn anhawdd credu mai yr hen wr a'i grwth barodd y fath lawenydd ofnus ynnom, ac mai'r adlais barai i'w lais ddyfod atom fel o bydew erchyll; a llawen iawn oedd Pat wrth weld ein braw a'n penbleth.
"Yn y gilfach yma," meddai, "yr wyf yr haf yn chwareu fy hen grwth er difyrrwch i'r teithwyr, ac elw i minnau. Byw ar y mel mae'r wenynen y gaeaf gasgla'r haf,—felly finnau, jintlmen, ar eich elusen chwi ac ereill,"
"Sut y gwyddoch ein bod yn dyfod, a phryd i ddechreu chware?"
"O! fy nith fach sydd yn y ffordd yn gwylio, a phan fydd teithiwr wrth y Llyn Du amneidia arnaf â'i llaw. Glywsoch chwi'r canu yn y llyn?"
"Do; ond llais merch ddeuai i fyny o'r dwfr ?"
"Ie, Nora fy nith oedd yn canu gyda mi. Mae yn canu mor dlws a Siren ei hun. Siren? Wyddoch chwi ddim pwy oedd hi? Wel, hyhi roddodd y crwth a'r delyn i ni. Merch lednais, ry dlos i ddal goleuni'r dydd ydoedd, ac felly trigiannai dan y dwfr y dydd, a deuai am dro wedi'r gwyll i'r tir. Ond pan ar ei nos-daith unwaith gwelodd laslanc, a theimlodd fod ei chalon yn mynd gydag ef—mae'r merched yn hoffi colli ambell waith, wyddoch. Ac wedi gweld y bachgen dymunol hwnnw, deuai Siren am dro'n amlach,—digon naturiol, ynte? Ond nid oedd yn tycio, druan; ac un hwyr, dan bwys calon doredig,—wnaiff cariad ddim byd heb ddwy galon, ni cheisia fyw ar un, tyr hi,—plygodd ei phen wrth garreg ger y llyn, disgynnodd ei gwallt sidanaidd hir dros ei hysgwyddau gwyredig—dechreuodd y gwynt chwareu arno, a daeth cerddoriaeth ardderchog o hono. Bore drannoeth cafwyd Siren yno,— ar ffurf telyn. Ha," ebai'r hen Wyddel, "pa ryfedd fod y delyn yn taro tant tyneraf y galon,—boed lon, boed brudd, gan nad ydyw ond trawsffurfiad o ferch bur fu farw ar allor cariad ?" Tynnodd ei law trwy ei wallt didrefn, a thros y tannau eil-waith, ac heb ymwybod bron dechreuodd chware'r crwth, a chanu'r hen alaw Wyddelig "Gang fane" ar eiriau fel hyn,—
"Hence it came that this soft Harp so long hath been known To mingle love's language with sorrow's sad tone, Till thou did'st divide them, and teach the proud lay, To be love when I'm near thee, and grief when away."
Yr oedd ei lais yn doredig, a gadawai'r nodau uchaf i'r crwth eu chwareu ei hun. Canodd aml i alaw Wyddelig i ni. Yr oeddynt yn bur dlws a nodweddiadol o'r Gwyddel, ond alawon Cymru o bob alawon,—"Dyffryn Clwyd," a "Thoriad y Dydd,"—yw y mwyaf swynol i mi.
"Mae henaint yn gwneyd fy llais yn waeth," ebai'r hen grythor, "a'm crwth yn well. Cana di, Nora bach?" Canodd yr eneth fach yn swynol a naturiol. Gwyn fyd na bai pob merch yn canu mor ddirodres a hon,—dim o'r ffug-wên a'r mosiwn. Ond mor naturiol yr olwg arno oedd yr hen wr pan y canai ei grwth iddi. Elai y bwa'n naturiol o hono ei hun dros y tannau ganddo, cauai yntau ei lygaid yn dyn,—cyflyma y canai tynna yn y byd y cauai hwy. Pan redai ei fwa dros y nodau uchaf rhedai gwên dros ei wyneb melyn,—gwelid hi'n donnau ar ei dalcen crych elai dros ei goryn, a diflannai yn ei wegil. Siglai ei ben fel pendil cloc, yn ol amseriad y dôn. Ond o bob aelod, gyda'i dafod y caffai fwyaf o lafur a thrafferth,—piciai allan o'i enau yr ochr yma'n awr, yna'r ochr arall,—fel pen ffwlbart yn ei dwll pan ar gyfyng-gyngor a a allan ai peidio. Bryd arall deuai allan yn ei hyd a gorffwysai ennyd ar ben ei drwyn hir. Dedwydd iawn oedd yr olwg olaf gawsom arnynt yn eistedd ar y graig. Ymadawsom yn gyfeillion, a chanai yr hen a'r ifanc pan elem i lawr i'r ffordd, rywbeth tebyg i hyn,—
Cuishlih ma chree,
A wyddost di
Fel y gwnaeth y gwalch a fi!
Torri 'mowlen, colli fy niod,
Priodi fy merch, cusanu fy mhriod!
O Cuishlih ma chree!
"O Cuishlih ma chree," ebe'r creigiau ar eu hol, fel seindorf lawn, fel y tybiwn braidd mai rhyw Isaiah oedd yn eistedd ar gwr cwmwl du hedai uwch ben, ac yn gorchymyn "Cenwch nefoedd, gorfoledda ddaear, a bloeddiwch chwithau fynyddoedd ganu." Raid i Greawdwr y bydoedd ddim bod mewn angen moliant, —mae ganddo gyfoeth dihysbydd yn ei fynyddoedd o ddefnydd cân. Os blina hen deulu'r codwm ei foliannu tyr y creigiau allan i ganu,—"Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai y rhai hyn, y llefai y cerrig yn y fan."
Ymhellach i fyny 'roedd bwthyn,—hafoty. Ar ben y drws safai y bugail, yr oedd heb orffen cau ei esgidiau, heb wasgod am dano, nac ond un bresus wrth ei lodrau clytiog, a rhwng ei wefusau cysglyd yr oedd cetyn pridd a chauad tyllog arno.
"Myrff!" ebai wrth Befan, "tyrd a blewyn o dy baco?"
"Dydw i ddim yn smocio," atebai hwnnw.
Hir y parhaot,—bod mewn mynydd fel fi heb fygyn sydd yn arw, ac wedi arfer ei gael,—nid yw colli pryd yn ddim wrth hynny."
Yr oedd ei fwthyn yn ddigon del a glân, ac er mewn lle unig elai ugeiniau o bedestwyr heibio iddo'n ddyddiol. Yr oedd plant bach fel blodau rhwng y creigiau yn chware, a rhedai ambell un atom gan waeddi,—
"Shamrock sir, shamrock!" cherdded wrth ein hochr a gofyn elusen am y ddeilen fach gron y tybia'r Gwyddel y byd o honi. Croesai ein llwybr y nant droion dros bontydd anghelfydd, a dilynem ef igam-ogam rhwng cerrig anferth, fel welir ym mwlch Llanberis, dreiglodd o'r mynydd oddi arnom, ac wedi deng munud o gerdded dygn safem ar ben rhediad dwr, a chawsom egwyl i ffarwelio â'r Gogledd cyn edrych ar y De. O olygfa unig drannoeth diliw! cerrig a chreigiau wedi eu taflu ymhlith drafflith fel petai mynyddoedd bobtu'r Bwlch wedi bod yn brwydro â'u gilydd. Fel darlun o wawd a dialedd y safai mynydd y Purple; yr oedd yr eryr olaf wedi gadael ei nyth arno, ac ymgydiai y griafolen unig oedd rhyngom a'r goleu ar ei grimell am graig rhag syrthio. Parai yr heulwen dywynnai ar gopa y Tomies i'w gysgodion ymddangos yn fwy trwm ac erchyll, a dyrchafai y Macgillicuddy Reeks eu pen hunanol yn uwch i'r nefoedd yn unig er dangos hagred a gwyllted oedd. Rhwng yr erchwynion o fynyddoedd hyn gorweddai y Llynnoedd Duon mewn breuddwyd,—mor ddu fel na feiddiai dim grychu eu gwyneb prudd, a chyda eu glàn yr oedd llwybr llychlyd i'r mynydd. Y fath ddistawrwydd llewygol! Y fath olygfa oer,—droai haf yn aeaf ac a roddai wynrhew yn Awst ar fy mysedd! Dacw deithiwr unig yn cerdded y llwybr gydag ochr y llyn. Wrth ei weled daeth pererin Bunyan yn fyw i'm meddwl, a chofiais am hen lyn oer arall y bydd raid i mi ei deithio'n unig cyn bo hir,—y glyn garw hwnnw sydd o flaen pechadur pan dery ei draed wrth y mynyddoedd tywyll. A mi yn brudd ryfeddol clywais swn canu,—o lle deuai nis gwn, ond tybiwn mai'r pererin unig
welais yn y glyn ganai; ond clywwn y geiriau yn eglur—
"Ymdeithydd ydwyf gyda thi,—alltud fel fy holl dadau. Yr Arglwydd yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf. Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed, canys yr wyt ti gyd â mi,—dy wialen a'th ffon a'm cysurant."
Edrychais eilwaith ar Fwlch Dunloe a gwelwn wyrddlesni tragwyddol ar fryniau y gogledd drwyddo, a chwmwl gwyn fel aden angel yn sefydlog uwch ei ben, ac adlewyrchai ei liw ar y glyn du. Cofiais am gariad Gŵr na leiha, ac am waed ddiffoddodd fellt Sinai, ac aeth y glyn arall yn oleuach a lleihaodd fy ofn, a theimlwn y gallwn ei gerdded dan ganu.
Tua'r de 'roedd bryniau geisient ymguddio yng nghysgod eu gilydd,—golygfa gynhyrchai fwy o brudd-der nag o ofn. Oddi arnom rhedai nant ddu, ond eu hewyn, elwir yn Gearhameen, neu'n afon Cummeenduff, o "lyn y brithyll coch,"—Lough- na-bricdreag. Rhy flinedig oeddym i gerdded y glyn prydferth i'w tharddiad. Y Glyn Du yw enw'r cwm yma,—Cummeenduff Glen, neu Coom-a-Dhur, a therfyna yn sydyn yn y mynydd,—fel petai y cwmni a'i gwnai wedi torri ar ganol ei wneuthur. Cyflymai'r nant i'r môr, a dilynem ninnau hi â dim ond brwyn, defaid, a Duw, yn ein hamgylchu.
Gwrym! Dacw haid o ferched! Gwneyd mawn y maent,—beth arall allai eu dwyn i le mor anghyfannedd? Erbyn mynd yn nes atynt yr oedd yno luaws gyd â hwy,—Saeson ac Americaniaid, ar eu taith i gyfarfod cwch i'w cario yn ol i Killarney. O'u cylch yr oedd merched y mynyddoedd yn ceisio gwerthu rhyw fân bethau,—catiau, cadachau, hosanau, wisci, a llaeth. Amrywiai y merched o bymtheg i ugain oed; yr oeddynt yn brydferth, ond nid yn dal. Gwallt fel y nos oedd ganddynt, aeliau trymion a dau lygad llon danynt, a gwrid-goch iawn oedd eu gruddiau. Shawl fawr feddent dros eu pen, ond er eu bod yn gwerthu hosanau yn daer i ereill, yn droednoeth goesnoeth y cerddent hwy. Yr oeddynt yn ffraeth iawn, ond nid yn dafod-ddrwg,-yn weddus, pur, a diymwad; ac nid yn fuan yr anghofia y Sais anfoesgar y wers gafodd gan un o honynt, pan dybiodd oddiwrth eu gwisg ddieithr eu bod yn amgen i hynny.
Yr oedd y dyrfa, pan aethom atynt, wrth garreg fawr safai ar garreg arall, ac er ei bod yn dunelli o bwysau, nid oedd ond modfedd o honi yn cyffwrdd â'r garreg oedd dani; a dyma hanes y garreg yn ol y Gwyddel a'n harweiniai,—
"Hon, jintlmen, yw 'Carreg Loghan,' neu 'Graig y Glorian.' O ba le y daeth, nid oedd dysgedigion y dyddiau aeth heibio yn gwybod, ac yn fyr nid wyf finnau, sydd yn byw ar eu hol hwy, 'n gwybod ychwaith. Y dyb yw mai'r Derwydd a'i gosododd yma.
Mae'n ugain troedfedd o dryfesur, a phwysa dunelli lawer. A'r rhyfeddod yw, jintlmen, ei bod wedi ei gosod mor gywrain, ac i sefyll ar cyn lleied o'r garreg sydd dani, fel y gellir ei siglo'n hawdd." Tarodd ei law arni a siglodd y garreg. "Ac yn wir," ebai wedi hynny, "gallai aderyn ond anadlu ei siglo'n hawdd, a'm barn i, jintlmen, yw mai y bonheddwr gordeddodd raff o dywod ar draeth Bau Castle Gough a'i rhoddodd yma."
Deuai llynnoedd Killarney a'i gilfachau coediog i'r golwg, ac ambell i fwthyn unig yma ac acw, ac aethom gyda'r lluaws dros waen gorsiog tua'r ffordd oedd danom. Dilynai y merched ni, a phoenent rywun yn barhaus, ac ebai un lygadlon with Befan,—
"Cymerwch wydriad o wisci a llaeth."
"Y fi! Fyddaf fi ddim yn yfed dim cryfach na the."
"Choelia i mohonoch," ebai'r eneth, "neu ni fuasech mor lân a phrydferth pe buasech yn llwyrymwrthodwr!"
Ac adlewyrchai ei gwên ar wyneb Befan fel y credwn mai ef wenai dan y compliment. Cefais glywed y frawddeg ddiniwed aml i waith cyn y nos, ond pan yn adrodd yr hanes i gorach o Sais deugain oed,—dyfodd hynny wnaeth yn ei ddeng mlwydd cyntaf, ac i hwnnw ddweyd iddo yntau hefyd gael yr un compliment gan y "feri wan," ni sibrydwyd y frawddeg wrthyf mwy. Wedi i'r ferch weld nad oedd modd torri ein syched,—
"Rhoddwch swllt, ynte," ebai, "am chwe cheiniog i mi?"
"I be hynny?"
"Er mwyn i mi gael fy arian priodi;' yr wyf yn ddeunaw oed—bydd y mwyafrif yn priodi yr oed yma. A rhaid i mi ennill coron o arian cyn priodi—dyna yr arferiad."
Yr oedd pont dros afon rychiog yn ymyl a rhaid oedd talu swllt am groesi hon, a bu hynny yn foddion i ni gael gwared â'r merched a'n hebryngai dros y mynydd. Safai tyrfa o Wyddelod, bugeiliaid a llogwyr ceffylau wrth y bont, a siaradai y meibion a'r merched yn ddi daw, a deuai eu swn fel su cacynen mewn bys coch ar ein holau. Yr hen Wyddeleg sydd mor hoff ganddynt siariadent, ac yn yr iaith honno y clywais ysgwrs olaf bugeiliaid y mynyddoedd. Deuai y llyn uchaf i ymyl y bont, ac mewn cilfach ynddo yr oedd cychod i gario y gwŷr a'u llogodd adref i Killarney. Yr oedd yn braf enbyd i rwyfo, ond cofiem am yr ystorm sydyn a'n goddiweddodd pan yn croesi o ynys Innisfallen, fel nad oedd fawr siomedigaeth gennym pan ddywedodd y cychwr nad oedd ganddo le i ni. Cychwynasom ar hyd llwybr lleidiog anhygyrch. Brithid y llyn orweddai wrth ein hochr â mân ynysoedd. Yr oedd coed bythwyrddion ar ynys Mac-Carthy Moore, ac ambell gedrwydden dal yn eu mysg.
Dacw ynys Ronayne, y Sais gododd dŷ arni er cael llonyddwch a gorffwysfa; ac Ynys yr Eryr lle nythai yr aderyn hwnnw gynt; ac ynysoedd y Dderwen, y Juniper, a'r Arbutus, elwir felly am fod coed o'r un enw'n tyfu arnynt, ac yn edrych arnom yng nghwr isaf y llyn gwelem ynys Llygad Colman.
Codai "Nyth yr Eryr" yn fynydd trionglog rhyngom â'r gogledd, coed yn dryfrith gylch ei odreu a chreigiau ysgythrog yn gopa iddo. Wedi cerdded tua milltir darfyddodd ein llwybr mewn cors, ac nis gwyddem ninnau i ba gyfeiriad i gerdded. Wedi llwyddo i gamu o dwmpath i dwmpath dros y gors, daethom i goed, i dywyllwch, a dyrysni. Eisteddasom yn flinedig yn y coed wedi cerdded dros ddeg milltir ar hugain, heb fwyd er y bore, a'r gwyll yn prysur oddiweddyd y dydd. Ymha le yr oeddym—allem ni fentro cysgu yn y goedwig? Canai aderyn yn siriol uwch ben, gwenai blodeu bach gwynion gylch fy nhraed, a gorchuddiai mwswgl melyn y llawr. Gorweddais a'm pen arno. Dyna friglyn crin yn torri dan droed—troed beth? a brigau'r coed yn ysgwyd! Neidiais i fyny i gael fy llyncu gan
VIII.—TE A HANES.
YN lle creadur rheibus, fel y dychmygwn, beth edrychai arnom trwy ganghennau'r coed ond geneth. Meddai ffon fagl hir yn ei llaw, a gwisg yr un lliw a'r dail am dani, a disgynnai gwallt lliw'r nos dros ei hysgwyddau. Meddyliais am fugeiles y Wyddfa, ac fel y canai myfyriwr diddan yn ei afiaeth am dani,—
"Mi gwrddais gynt a morwynig
Wrth odreu y Wyddfa wen;
Ei grudd oedd fel y rhosyn
A'i gwallt fel y nos ar ei phen."
Ond ehedodd meddwl barddonol Befan ymhellach, nes gorffwys ar glawdd gardd Eden,—gwelai Efa, ac ofnai glywed su'r sarff yn y goeden uwch ei ben. Aethom ati ac edrychai trwy aberth arnom. Gofynnais iddi, wedi dangos, o ran ffurf, fod gennyf het a phen ar wahan, a fyddai fwyned a'n cyfeirio i'r ffordd.
"Pa ffordd?" ebai, cyn syched a checsen Awst.
Rhyw ffordd a'n dwg o'r coed a'r drysni yma."
Dilynwch fi," meddai'n swyddogol; a chychwynnodd, gan beri i ni ddyblu ein camrau.
"Ond i 'ble'r ewch a ni?" gofynnai Befan.
"Halo! Tresbaswyr?" ebai llais garw'n sydyn oddiarnom.
"Ie," ebe'r eneth, "yn y coed yn ymguddio'r oeddynt."
"Ho!" ebe'r gŵr tew, oedd erbyn hyn yn sefyll o'n blaen ar y llwybr. Nid bob dydd, yn sicr, y gwelir darn mor fawr o gorffolaeth a hwn. Yr oedd yn llenwi'r llwybr ac yn cuddio'r olygfa o'n golwg, fel na welem ddim ond llodrau, cot a'i lapedi fel cyfandir Ewrob, gwyneb mor grwn a difen ydd yr olwg a gwaelod crwc halltu, ac efelychiad o nyth brân yn orchudd arno. "Ho," ebai'r tew eilwaith, sychach os modd na'r tro cyntaf, gan dynnu dyddlyfr o'i logell. "Eich enwau, os byddwch gystal?" Pe yn gwybod am lwybr a'n dygai o'r coed, buasai cryn bellter rhyngom a'r gŵr a'i lyfr yn fuan, ond gan na wyddem nid oedd ond gwneyd y goreu o'r gwaethaf.
"Ioan ab Owen ab Owen ab Gruffudd ab Huw ab Adda."
Edrychodd y dyn ar yr eneth, a'r eneth ar y dyn, a'r ddau arnom ninnau, a dywedodd fy nghyd garcharor ei enw yntau,—
"Befan ab Tomos ab Rhisiart ab Ifan ab Gomer."
Edrychodd y ddau ar eu gilydd fel geifr ar daranau, gan fethu dyfalu beth geisiem ddwedyd. Tynnodd y gŵr tew anadliad drom, a gofynnodd trwy ei chymorth,—
"O ba le y deui ?"
"Deuaf o Landlysafobenllynym-meirionnydd," ac agorai genau'r Albanwr yn fwy fel y deuwn i ddiwedd y frawddeg. Gwelodd, er cael
rhan o'n hanes, nas gallai ei ddeall, a rhoddodd ei ymgais i fyny trwy chwerthin yn hoew, a dangos llwybr a'n dygai ni i'r ffordd fawr. Ffordd Tywysog Cymru yw enw honno, a phe dilynem hi elem i Kenmare, a thros fynyddoedd Caha i Glengariff, lle glaniodd y bod dynol cyntaf, ebe Pat, ddeugain niwrnod cyn y diluw, mewn cilfach gynnes ar lan y môr, yna i Bantry a'i thraeth gwyn lle glaniodd aml i elyn, cyn cyrraedd Cork. Ond nid oedd wiw meddwl hynny, gan fod yr haul bron ymguddio am y mynydd â ni, a milltiroedd maith rhyngom a Killarney. Unig iawn oedd y ffordd honno. Oddiarnom mae coed lawer ac o'u canol clywn rû rhaiadr Derrycunnihy, elwir felly ar enw cawr enwog nad oes amheuaeth parthed ei fodolaeth,—onid yw ol ei droed i'w ganfod eto ar y graig? Yr ochr isaf mae'r llyn, ac Ynys y Dderwen a'r Carw ynddo. A y ffordd trwy goed tlysion a lleoedd geirwon a thrwy dynel dorrwyd mewn craig iddi, a pharhai amrywiaeth golygfeydd i flinder gilio. Culhai dyfroedd y llyn uchaf yn afon, ac ymarllwysai'n ffrwd wen dan bont hen i'r llyn isaf, neu'r rhan o hono elwir Llyn Muckross, a chyda glan hwnnw y dirwynai ein ffordd. Ar ochr craig mae carreg wen, a thebyg iawn i garw'n gorwedd yw'r garreg honno, a dyna'r rheswm paham y gelwir hi'n "Garw Gwyn." Yr oeddym wedi gweld "tamed" y Gŵr Drwg, a gwelem ynys elwir eto ar ei enw yng nghanol y llyn. Tyfai gormod o goed arni i ni weld babellai y gŵr hwnnw ynddi, ac yr oedd y berthynas yn rhy bell a'r dwfr yn rhy ddwfn i ni allu mynd iddi. Gadawsom hi gan fethu dyfalu pam yr oedd ei choed yn dduach eu lliw na choed ereill, os nad oedd y gŵr a u plannodd wedi rhoddi huddigl yn eu gwraidd. Aethom trwy fawn a cheulenydd a choed am hir amser cyn dyfod at adfeilion Mynachdy Muckross. Tebyg yw'r Abaty hwn i rai Cymru,—muriau adfeiliedig ac ychydig o fwâu'r ffenestri'n sefyll; coed yn tyfu o'i ddeutu a choeden bruddglwyfus yn agos iddo. Gorchuddiai glaswellt y llawr lle byddai gwledda gynt, a gwnaeth eira aml flwyddyn garreg yr aelwyd yn oer. Syrthiai carreg ar ol carreg o'r mur er ymgais yr eiddew i'w cadw yn eu lle. Yn un rhan o honi mae beddau, a dyma'r darn mwyaf cydweddol â'r adfeilion,—huna MacCarthy Mort a'r O'Donoghue yno, a hawdd cydsynio â'r llinellau olaf oedd ar ei feddfaen,—
Oh! ere you turn, one warmer drop bestow—
If Erin's chiefs deserve thy generous tear,
Heir of their worth, O'Donoghue lies here.
Yn ochr gwŷr y cledd gorweddai gwŷr heddychlawn, a gwell fuasai gennyf, pe modd, gael ysgwrs gyda y rhai hynny, y mynachod fu fyw a marw yno,—ond
"Yn fy siom mi gaf symud
Dim ond daear fyddar fud!"
Yr oeddym heb fwyd er y glasddydd a thrymder mynwent wedi ein gwneyd yn brudd. Gadawsom y brif-ffordd ar hyd llwybr i edrych am dŷ ac ymborth, cyn hir daethom at dŷ a'i do yn wael. Yr oedd drws y ffrynt yn agored a drws y cefn oedd ar ei gyfer felly hefyd, ac yn hwnnw safai gwraig. Pell o gynyrchu archwaeth at fwyd oedd golwg y wraig yma. Safai hi yn un drws, safem ninnau yn y llall, a scwrsiem felly. Anhawdd oedd dweyd yr adeg hyn pa un ai lleihau ynte cynyddu wnai'r pellter rhyngom, ond dan siarad cawsom ein hunain ar ganol y gegin, a'r wraig garedig yn goleu canwyll i aros i'r tecell ferwi.
"Wedi bod trwy Fwlch Dunloe ac heb fwyd byth," meddai gan osod cwpanau tê ar fwrdd. Pan welais y dysglau hynny ciliodd fy newyn rywfodd; a dywedais mai'm cyfaill deimlai angen ymborth fwyaf.
"Ie, llwyd ddigon yw ei wedd," meddai, tra y taenai ymenyn a blew ar ddarn o fara du. Talodd yr awgrym roddais iddi yn dda i mi, ni roddais boen i'w theimladau trwy fethu bwyta, a throdd ei holl sylw at Befan, ac ymdrechai trwy or-garedigrwydd dorri ei newyn â'i hymborth.
"Bendith Duw arnoch," meddai'r wraig pan ffarweliem â hi, "os byth y deuwch i'r cyffiniau trowch i mewn am ddysgliaid o dê."
Yr oedd y nos yn prysur oddiweddyd y dydd, a throisom adref gan feddwl am ddyddiau fu'n hanes yr ynys.
Pan sefydlodd y Sais gyntaf yn y Pale,—cylch Seisnig ar oror yr Iwerddon sydd eto'n para yn swmbwl poenus i'r Gwyddel,—er yn byw yn ei ymyl, ychydig odiaeth wyddai am y Gwyddel, a llai na hynny oedd ei barch tuag ato, a'i gydymdeimlad âg ef. Nid oedd yn bechod i Sais ladd Gwyddel gan nad oedd dan gyfraith Lloegr, ond un y Brehon,—y Senchus Mor,—sef y cyfreithiau fel y llefarwyd hwy gan yr Ysbryd Glân trwy enau y Brehon a gwir feirdd Erin. Ond tua diwedd y drydedd ganrif ar ddeg daeth y gorthrymwyr i fabwysiadu dull y trigolion o fyw. Siaradent y Wyddeleg ddiystyrrent gynt, a gwisgent wisg y Gwyddel. Fel yntau gadawent eu gwallt dyfu'n hir ac ni eillient, ac nid oedd raid iddynt wrth gyfrwy i farchogaeth, "aethant yn fwy Gwyddelig," ebe'r croniclydd, "na'r Gwyddelod eu hunain." Er eu rhwystro, pasiwyd deddfau'n gwahardd i Sais efelychu Gwyddel mewn gwisg ac iaith neu ddefod. Ni chai farchogaeth heb gyfrwy, a rhaid oedd iddo eillio ei ên isaf o leiaf unwaith yn y pythefnos, ac ar y rheolau hyn rhoddwyd sel Senedd 1295, a gwae'r Sais a'i torrai.
Dydd tywyll ar y Pale oedd pan laniodd Richard II. a'i dair mil o wŷr gariai fwa saeth, a phedair mil o wŷr arfog, yn Waterford gyda'r amcan o orchfygu'r gelynion,—y Gwyddelod, a chael dealltwriaeth â'r gwrthryfelwyr,—y Saeson fagwyd yno. Ymdeithiodd i Dublin a daeth yno i'w gyfarfod bymtheg pennaeth a thrigain i dyngu heddwch, ac yn eu mysg yr oedd Mac Murrough beryglus dorrodd ei lw mor fuan, ac a laddodd wŷr Richard a'i bennaeth Roger Mortimer, Earl March, yn Knelis. Pan glywodd Richard II. hyn, hwyliodd dau gant o longau llawn milwyr eilwaith o Aber dau gleddyf tua Waterford, ac arweiniodd y brenin ei lu i Kilkenny a chartref Mac Murrough, gan chwenychu rhyfel. Ond ciliodd Mac Murrough a'i wŷr i gorsydd a fforestydd Carlow, gan adael y brenin i gusanu gofidiau mewn gwlad ddieithr elyniaethus bell oddi wrth fôr. Aeth aml i noswaith ddigwsg heibio cyn i Richard II. glywed su y môr a gweld ei longau gariai'r ymborth. Teithiodd i Dublin i glywed glanio Bolingbroke yn Ravenspur, i fynd a Lloegr hefyd oddiarno, a dychwelodd ar unwaith adref.
Er gorthrymu, yr oedd gorchfygu'r Iwerddon trwy lu yn ormod gwaith. Yn ystod y ganrif o'r blaen yr oedd Lloegr mewn rhyfel dramor, meddai elynion yng Nghymru a'r Alban hefyd; ond yn awr dyma ryfel gartrefol yr torri allan rhwng York a Lancaster,—rhwng y rhosyn gwyn a'r rhosyn coch. Cymerodd y Gwyddel, fel y Cymro, ran helaeth yn Rhyfel y Rhosynau, a syrthiodd aml un o honynt ym mrwydr Wakefield. Trwy fod milwyr yn cael eu galw yn barhaus o'r Iwerddon, elai'r Pale yn fwy analluog i amddiffyn ei hun, ac yn 1480 ni feddent ond chwech ugain milwr yn blaid. Ond yn fuan wedi hyn cawn fod y llanw'n troi a Harri VII. yn talu sylw manylach i'r Iwerddon, ac yn gadael y llywodraeth yn llaw Iarll Kildare. Ar ol hwnnw anfonwyd Edward Poynings, roddodd lyffetheiriau tyn ion am y Gwyddel yn Senedd Drogheda. Dechreuwyd dychrynnu arglwyddi'r Pale trwy gyhuddo Iarll Kildare o gyduno â'i frawd mewn teyrnfradwriaeth. Anfonwyd ef i Loegr, ond maddeuwyd iddo, a gosodwyd ef mewn swydd bwysig,—gwnaethpwyd y poacher yn gipar, a thalodd hynny yn dda. Bu'n gefnogwr aiddgar i Harri ac ymladdodd frwydr yn Knocklow yn erbyn ei elynion. "Nis gall holl Iwerddon reoli Iarll Kildare," meddai'r brenin, "felly rheoled ef yr Iwerddon." Wedi hyn, yr oedd Harri VIII. a Wosley yn eiddigeddus iawn o Iarll Kildare, am ei fod mor boblogaidd. Galwyd ef i Loegr deirgwaith i roddi cyfrif o'i gysylltiad â'r gelyn, ac yn y diwedd dywedwyd wrth ei Wyddelod ei fod wedi ei ladd. Cododd ei fab Thomas pan glywodd hynny mewn gwrthryfel i ddial marwolaeth tad. Cyn hyn yr oedd y Gwyddel a'r Sais yn bur gyfartal mewn brwydr; ond yn awr yr oedd y pylor yn troi'r fantol o du y Sais, a syrthiai'r hen amddiffynfeydd oedd gynt yn anchwaladwy trwy ei nerth. Pan welodd Thomas Maynooth yn llaw'r gelyn torrodd ei galon, daliwyd a thaflwyd yntau i'r Tŵr lle bu ei dad farw. Yr oedd ganddo bum brawd, a gwahoddwyd hwy trwy frad i'r Tŵr i edrych am dano-carcharwyd hwythau. Diwrnod tywyll i'r Iwerddon oedd hwnnw pan grogwyd chwe brawd cyn wroled a hwy yn Tyburn.
Tramwyodd Lord Grey wedi hyn yr ynys i ddifa a chadarnhau'r oruchafiaeth gan gymeryd castell Athlone,—"agoriad y gorllewin." Yn 1540 digwyddodd peth newydd yn hanes yr ynys, gwelwyd arglwyddi Lloegr a phenaethiaid Iwerddon yn cyd-eistedd yn Senedd-dŷ Dublin; a galwyd Harri VIII. yn frenin yn lle'n arglwydd yr Iwerddon. Priododd Harri, a thynnwyd ei holl sylw at ei wragedd a'r Pab; a chafodd y Gwyddel lonydd am ysbaid.
Safai cwmwl du bygythiol uwch castell Flesk, a gwnai'r gwyll a murmur yr afon ef yn fwy felly pan elem i mewn i Killarney trwy goed tywyll wedi diwrnod caled o gerdded.
SABOTH YN NUBLIN.
NID oedd yr haul eto wedi llwyr wasgaru niwl y bore, orweddai yn ysgafn ar donnau bau Dublin, pan
safwn, bererin unig, ar lan y Liffey, yn syllu ar ei dwfr yn ceisio treiglo ymlaen yn erbyn y môr a'i llanw oedd dan y niwl yn ei atal.
Mor nodweddiadol, tybiwn, o hanes yr Ynys yw yr ymdrech rhwng y ddeu-ddwr, hanes ymladd am ganrifoedd â gormeswr ymguddiai beunydd dan gwmwl y niwl!
Mae yn taro deg! Awr dechreu y moddion yng Nghymru! Chwythai y gwynt i fyny yr afon, a thybiwn glywed llais gwyryfon Môn yn canu:
"Tyr'd i fyny o'r anialwch,
Wedi aros yno 'n hir,
Sypiau grawnwin mawrion, addfed,
Sy 'n dy aros yn y tir."
Ond yr oedd y mil tonnau rhyngof a hwy yn ormod eu su, a berw'r bobloedd o'm cylch, yn rhwystr i hynny fod yn wir. Amlycach oedd gwaedd y gwerthwr, dwndwr y troliau elai heibio, a chnul gwynfanus y gloch alwai y Pabydd i'r offeren.
Yn y cyffro hwnnw safwn yn ddigysur—fel pelican yr anialwch, ar odreu Sackville Street—un o ystrydoedd harddaf y byd—yn hiraethu am dawelwch ac unigedd i addoli ar Saboth can brafied a hynny. Pan yn dymuno am adenydd i'm cludo at fainc mewn addoldy llwyd ar ochr y Berwyn, elai cerbyd heibio a "Glasnevin" arno.
"Glas Nefyn!" ebe fi, "dyna enw Cymraeg. Caf Gymry a chapel yno." Ar hynny eisteddwn ar ben blaen car hir-gul, yn ochr gyrrwr dyddan. Gŵr byr, amdew, oedd ef, a gwnai ei ddull a'i wisg a'i arogl im' feddwl am sach frag. Meddai ddwy foch goch, chwyddedig, a braidd y llwyddai ei drwyn smwt, amrudd i'w gwahanu. Er fod lliw y gwinwydd ar ei wyneb yn drwm, nid oedd y môroedd gwirodydd yfodd wedi effeithio yn ddrwg at ei dafod yr oedd honno yn ystwyth hynod, a thiciai fel pendil cloc yn ei enau, pa un bynnag ai siarad wnai ai peidio. Deallai mai dyeithr-ddyn oeddwn, a gwnai ei oreu i ychwanegu fy ngwybodaeth.
"Dacw ddelw O'Connell," ebai. "Ei edmygwyr a'i cododd ar ganol y stryt o barch iddo. Mae'n hardd, ond nid yw yn hanner ddigon felly i un a wnaeth gymaint dros ei wlad ag a wnaeth ef."
Delw wir ddymunol yw, a hanner cant o ddelwau llai o'i chylch. Yr amlycaf o honynt yw Erin, geneth brydferth sydd yn cynrychioli yr Iwerddon. Mae gwên blentynaidd ar ei grudd, a dyrchafa ei llaw—y llaw fu yn rhwym cyhyd yn y cadwynau toredig wrth ei thraed—at ei rhyddhawr.
"Dacw bilar Nelson. Mae yn 130 troedfedd o uchder. Ceir golygfa eang o'i ben. Oes gennych ch'i gofgolofnau yng Nghymru?"
Aeth ei ofyniad fel saeth i'm calon, wrth feddwl belled oedd y Cymro ar ol y Gwyddel yn hyn. Er hynoted ei hynafiaid, ni phrydera efe am gofadail na beddfaen iddynt. "Ai nid tlawd iawn. yw y Gwyddel?" ebe fi. "Pa fodd y llwyddodd i wneyd un o strydoedd ardderchocaf y byd, a'i harddu â delwau dlysed?"
"Tlawd ryfeddol yw, ond cyfrana ei hatling olaf er mwyn cadw mewn cof ei hynafiaid. Buasai yn well iddo, hwyrach, ei chadw at ei anghen ei hun; ond pan gred y Gwyddel mewn unrhyw beth, rhydd bopeth drosto—gwna, ei fywyd," ebe'r gyrrwr Gwyddelig yn gynhyrfus.
"Yw y Pabyddion yn lliosog yma?" gofynnais.
"Ydynt, hwy yw y cryfaf yn Nublin, a ffynna teimlad anghariadus rhyngddynt hwy ar Protestaniaid, ac Ymreolaeth yn awr yw prif asgwrn y gynnen. Yn lle bod yn ddadl wladol, aeth yn un grefyddol, a drwg iawn yw hynny. Pan ddel ymreolaeth yn destyn y dydd yng Nghymru, gwae'r dydd yr elo'n ddadl grefyddol. Dadl yw yma rhwng Pabydd a Phrotestant. Mae'r Pabydd yn eithaf, y Protestant yw'r gorthrymydd; dengys hanesyddiaeth hyn, ac efe orthryma eto, nid y Pabydd." Cyflymem ymlaen rhwng adeiladau gwych, heibio i eglwysi heirdd; croesai'm cyd-deithwyr eu talcennau a'u dwyfronnau wrth eu pasio, a delwau o Fair a'r Iesu, a gwelem y Pabyddion yn moesymgrymu yn ddefosiynol iddynt. Tynnwyd fy sylw droion at elorgerbydau, ac wrth weled llu o honynt yn mynd i'r un cyfeiriad, mi a ofynnais,—
"I ble yr a yr holl gladdedigaethau hyn?"
"Glasnevin," ebai'n swta.
"Beth sydd yno, onid Cymry?"
Cymry! Na, claddfa—prif gladdfa Dublin yw," meddai, gan ychwanegu, wrth weld fy siomiant, "mae yno bentref tlws hefyd, a byddai Swift, Sheridan ag Addison yn hoff o neilltuo iddo, a rhodio gyda glan yr afon Tolka."
"Felly, ar y Saboth y cleddir yma?"
"Ie, o saith y boreu hyd un y prydnawn. Pob Gwyddel a weddia am gael marw ar ddydd Mercher neu Iau er mwyn cael eu gladdu ar y Sul. Mae'n adeg gyfleus iawn i ni'r bobol gyffredinraid i ni ddim. colli diwrnod."
Safodd y tram, disgynnais yn brudd,—meddwl cael cwmni'r byw a'r Cymry, yn lle hynny yn cael fy hun ymysg meirw ag ochain. Gyrrai y cerbydau tua'r gladdfa yn ddidor, a dylifai'r bobl o'u hol—rhai i weld, ereill i wylo. Wrth y fynedfa mae capel bychan, ac iddo y cymerid pob arch yn ei thro o'r elor-gerbyd, a gosodid hi ynddo ar fwrdd. Oddeutu iddi daliai dau fachgennyn ganwyll hir, oleuedig. Darllennai yr offeiriad mewn llais cras rywbeth anealledig i'r dorf benliniai o'i flaen, gan daflu'r dwfr sanctaidd deirgwaith dros y marw. Yna cymerid yr arch allan gan bedwar dyn cyflogedig trwy ddrws arall, er hwylusdod i'r gladdedigaeth nesaf, i'w rhoddi ar gerbyd dwy olwyn i'w chario tua'r bedd. Weithiau cariai cyfeillion hi ar eu hysgwyddau; ond cerbyd ddefnyddir yn fynychaf, am fod y fynwent mor fawr—pum' cyfer ar hugain. Dilynnais hwy i weld eu dull. Wrth fynd heibio'r beddau, gwelwn, ar gangau'r coed, deganau a hoff bethau yr ymadawedig hunai danynt. Rhoddent yr arch ar ei ben yn y bedd i ddyn safai yn ei waelod i'w osod yn wastad. Er fod y fynwent yn sych a graiog, torrir y bedd i ddyfnder mawr. Tybiai yr hen ŵr gladdai ei wraig nad oedd bedd ei anwylyd yn ddigon dwfn, a gofynnodd yn amheus i'r gŵr a'i torrodd, "Pa mor ddwfn ydi o?"
"Dros naw troedfedd." "O, da iawn!"
Gyda hynny dechreuodd naw gŵr dibris, gyda naw rhaw mor hir a cham a hwythau, lenwi'r bedd; tra y safai pawb o'u cylch yn fud. Wedi iddynt orffen, taflasant eu rhawiau draws y beddrod; gwnaethant arwydd croes ar eu talcenau a'u dwyfronau, a phenliniai pawb yno am ennyd, yna ymadawant, os na fyddai yno wirodydd i'w cael. Ni ddywedai neb air wrth y bedd, yr unig gysur gai'r trallodedig oedd ychydig eiriau anealledig yr offeiriad wrth borth y fynwent. O, gladdu prudd! Diolch fod gobaith cael marw yng Nghymru, a'm claddu yno fel Cristion, yn lle 'nhaflu i'r ddaear mor ddigysur a hynny.
Mae claddfa Glasnevin yn hynod am ei harddwch. Myn y Pabydd, fel y Pharisead o'i flaen, yr allanol beth bynnag yn iawn. Rhed llwybrau afrifed trwyddi wedi eu torri allan yn ddestlus, a thyf prennau byth-wyrddion o'u deutu yn dlws, a gwelir y cerryg marmor gwyn yn wynach trwy eu dail tywyll. Ac nid oes un pren mwy cydnaws na'r yw i dyfu ymysg y meirw. Yr oedd unwaith yn gysegredig i dduw'r gwyll. Cred y Pabydd eto fod a fynno â'r marw, a rhoddai rybudd yma ac acw ar gangau y coed i'r un elai heibio i beidio a'u cyffwrdd.
"Na chyffwrdd y prennau,—
Cysegredig ydynt i'r marw."
Cleddir y Protestaniaid mewn man neilltuol o'r fynwent, ond Pabyddion yw mwyafrif y rhai hunant yno, a hawdd iawn gwahanu bedd y naill oddiwrth y llall. Symlrwydd yr efengyl nodweddai un; balchder a thrahauster y Babaeth hynodai'r llall. Gwelais gapel bychan o farmor gwyn ar un bedd, a chroes glaerwen o'r un defnydd ar un arall. Ar ambell garreg yr oedd D.M., D.O.M. neu D.S.M.—Deis Sacris Manibus, yn dangos mai Pabydd sydd dani yn huno, ac mai i dduw'r gwyll y gorchymynnodd ei ysbryd. Ar feddfaen arall yr oedd I.H.S. a R.I.P., yn dyweyd mai yr Iesu oedd Gwaredwr yr un orweddai yno, ac mai mewn heddwch y gorffwysai. Wrth gerdded felly ymhlith y meirw daethum i fryn gwyrddlas crwn, yn dryfrith gan rithod a blodau gwyw. "Yma y gorwedd y gŵr goreu yn y byd," ebe dyn byr bywiog wrthyf.
"A phwy yw ef?"
"Pwy yw ef, wir, ond Parnell! Ydech chi ddim yn credu hynny, a chwithau yn un o'i ganlynwyr?"
Yr oedd gennyf gadach gwyrdd, a gwyrdd yw lliw y Parnelliaid, a damcanai y gŵr fy hanes oddiwrth hwnnw. Yn ymyl mae bedd Daniel O'Connor, a chofadail anferth arno, ar ddull y Tŵr Crwn, adfeilion pa un welir ymhob man trwy'r ynys bron. Mae yn 160 troedfedd o uchder, a saif croes wyth troedfedd ar ei phen. Yn ei ymyl huna ei gynorthwywr, y gonest Tom Steele, a William Dargan, wnaeth gymaint er dyrchafu masnach yr Iwerddon.
Yr oedd bron yn un pan adewais y gladdfa, ac eto dylifai'r byw a'u meirw tuag yno. Tynnwyd fy sylw yn un stryt at eglwys hardd. Un tu iddi 'roedd bryn o waith llaw dyn a delw o ŵr gariai groes arno, ac o wraig wrth ei odreu'n sefyll; y tu arall 'roedd croes uchel a gŵr ynghrog arni. Oddi fewn yr oedd gwychder yr adeilad yn llawer mwy,—delwau prydferth, lineiniau amryliw, a cholofnau caboledig. Terfynai'r gwasanaeth a chrynai'r llawr danaf gan dwrf yr organ. Wrth ymadael rhennid cardiau tlysion i blant tlysach yn wobr am ffyddlondeb.
Mawr yw gofal y Pabydd am y plant, dysg hwy'n ofalus a dilledir hwy'n ddestlus. Synnais eanged eu gwybodaeth wrth eu holi'n dŵr. Darllenent o'm Testament yn rhigl, a hyddysg iawn oeddynt yn hanes plant bach Anathoth, Bethlehem, a Nazareth. Gwyddent y gwahaniaeth rhwng eu crefydd hwy ag un y Protestant, a dadleuent yn ffraeth rinweddau'r Pab.
Dydd o lawen chwedl oedd hi yn heolydd y ddinas, a thyrrai'r Pabyddion a'u offeiriaid i Phoenix Park i ddathlu dydd cyntaf rhedegfeydd ceffylau. Mor debyg i Gymru'n y ganrif o'r blaen! O na oleuai rhyw hen Ficar "Ganwyll" iddynt, ac na chodai un tebyg i Daniel Rowland neu Howell Harris ei lef i'w diwygio. Dyna'r ymreolaeth oreu i'r Iwerddon.
Yr oedd y niwl wedi gadael y Liffey pan groeswn bont O'Connell tua'r Cathedral. Yn agos i'r lle hwn y ganwyd y bardd Moore,—roddodd gymaint o swyn yn alawon y Gwyddel. Awn heibio i hen Senedd-dy'r Ynys, adeilad gorwych; ond yr oedd lleisiau'r areithwyr,— Curran, Grattan, Plunkell, a Flood, wedi hen ddystewi, a'r lle wedi ei droi'n ariandy. Am y ffordd saif Coleg y Drindod a delwau o Burke a Goldsmith o'i flaen. Eiddil a gwan yw'r olwg ar Goldsmith. ac fel llawer arall ddarlunia mor fyw yn ei Deserted Village, bu farw fel alltud o'i wlad, er dymuno cael ei gladdu yn y man y ganwyd ef.
"I still had hopes, my latest hours to crown,
Amidst these humble bowers to lay me down,
And as a hare, whom hounds and horns persue,
Pants to the place from whence at first she flew.
I still had hopes, my long vexations pass'd,
Here to return,—and die at home at last."
Nid oes ond un tŵr o'r hen gastell gododd Ioan Frenin, tua 1213, yn aros, a phe meddai dafod dywedai hanes aml frwydr waedlyd.
Ni chefais ond cipolwg arno a'r gwyliwr gerddai'n barhaus wrth y Porth, gan fod tair cloch ar ddeg yr Eglwys Gadeiriol yn dystewi. Yr oedd y canu'n swynol ryfeddol yn yr Eglwys, a gwnai hynny i fyny am y bregeth sech ddiraen wrandewais. Wedi gwel'd bedd Strongbow, da oedd gennyf droi am fy llety. Ataliwyd fy nghamrai am ennyd gan dorf anferth wrth lysoedd y Gyfraith, wrandawai'n gyffrous ar ddau areithiwr. Gwr hawddgar a gweddus yr olwg arno oedd un, a phregethai'n efengylaidd; gwr hagr oedd y llall, a'i ddull yn fygythiol,—dadlu hawliau'r werin wnai ef i gynulleidfa hagred ag yntau. Pan orffennodd yr Efengylwr, ysgyrnygai gwrandawyr y llall arno, a chilgwthient ei ganlynwyr parchus, ac oni bai am yr heddlu buasai'n derfysg mawr. Tua'r un adeg, ar lan y Shannon, yr ochr arall i'r Ynys, cafodd dau, ddadleuent hawliai'r groes a'r Un fu'n dyoddef arni, eu herlid yn greulawn gan y Pabyddion-mor greulawn agos ag y llabyddiwyd Howell Harris gan drigolion y Bala. Wrth weld hyn daeth hen adnod i'm meddwl gyda grym angerddol:—"O Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio y rhai a anfonir atat: pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iar ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynech?" Yn Seville Place tarawais ar Gymro, a bu garediced a'm harwain i ystafell Genadol y Cymry.
"Nid oes yma ryw lawer o Gymry," meddai, "yn byw, ond bydd morwyr lawer yn aml yn aros dros y Saboth fel hyn. Bydd Mr. Owen, y gweinidog, mae yng Nghymru heddyw,—a'i holl egni yn holi am bob Cymro, ac mae'n hynod lwyddiannus yn eu denu atom i'r moddion. Nid oes," ychwanegai'n ddwys, "ond Duw wyr y daioni wnaeth yr achos Cymraeg yma—yr unig Gapel Cymraeg yn yr Ynys. Yma y clywodd aml forwr gyhoeddi'r Iesu'n Geidwad cyn ei gyfarfod fel Barnwr. Bychan a llwyd oedd yr ystafell, ond llawn o wrandawyr astud,—morwyr gan fwyaf. Ehedodd fy meddwl ar unwaith i ystafell gyffelyb, yn un o strydoedd cefn dinas Jerusalem, lle'r oedd pysgotwyr mor Galilea yn addoli ryw ddeunaw canrif cyn hynny. Canwyd emyn yn araf, araf, fel symudiad llong wrth angor mewn porthladd tawel, ac amlygwyd mwy o deimlad nag o gerddoriaeth. Cododd y pregethwr Darluniodd yr anialwch a'r pererin yn dlws, ac ai ei lais yn fwy soniarus pan ddywedai am ffordd agorwyd i'r llesg, a'r Gwr a'i gwnaeth. Crist marw amlygai popeth welais yn ystod y Saboth, ond yn yr Ystafell Genadol daeth y Crist fu farw'n fyw i'r golwg.
GWRECSAM: HUGHES A'I FAB.

Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.