Neidio i'r cynnwys

Yng Ngwres y Dydd/A'n Carodd hyd y diwedd

Oddi ar Wicidestun
Nadolig 1914 Yng Ngwres y Dydd

gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd)

Eisiau yr Iesu

A'N CARODD "HYD Y DIWEDD."

WYT ti'n fy ngharu yn y byd,
O hyd ofyna Iesu;
Ac felly'r saint ym myd y llawr,
Maent hwythau'n gofyn—"Brynwr mawr!"
Wnei Di dros byth ein caru?

Mae anghrediniaeth o bob tu
Bron llethu dy amynedd;
Ond er ei ddwndwr, er ei ru,
Nid aiff tu hwnt i'r cariad cu,
Sy'n para "hyd y diwedd."

Mae'n cariad ni o dan y rhôd
Yn myn'd a dod, mor rhyfedd:
I gynnal cariad bach y llawr,
Mae'n rhaid cael dwyfol gariad mawr,
Sy'n para "hyd y diwedd."

Mi welaf un mewn pruddaidd gwyn
Yn ceisio mwyn drugaredd;
Ac er i'r "gwadu" roddi cur,
Oedd filwaith fwy na'r hoelion dur,
Mae'n caru "hyd y diwedd."

"Fe'u cerais yn eu hisel radd,"
Medd Ef, gan ladd pob llygredd:
Anwyliaid mwyn, er maint eu bai,
Nid oedd fy nghariad ddim yn llai,
A phery "hyd y diwedd."

"Beth fydd yn nhragwyddoldeb maith,"
Yw'th iaith a'th gwestiwn rhyfedd;
Nis gellir dweud i ti yn awr,
Ond ffyddlawn byth fydd Iesu mawr,
Yn para "hyd y diwedd."


Nodiadau

[golygu]