Yng Ngwres y Dydd/Adar Bach yr Almaen Fawr
| ← Y Ffordd Honno | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Y Baban a Anwyd → |
ADAR BACH YR ALMAEN FAWR.
[Ysgrifennwyd yng Ngwanwyn 1915. Gwanwyn cyntaf y rhyfel mawr.]
ADAR bach yr Almaen fawr!
Pam y ciliwch?
Ar y dolydd têg yn awr
Nid arhoswch;
Myrdd o flodau yno sydd
Yn cyfodi,
Ond eich cân ar doriad dydd,
Wedi tewi.
Blant amddifaid Cymru lân
Pam yr wylwch?—
Cadair wâg o flaen y tân
Ddwed eich tristwch,
Geneth fach yn son bob hwyr
Am ei thada,
Ond anwylaf fam ni wyr
Pryd dychwela.
Engyl gwynion nefoedd fawr—
Gwlad tangnefedd
Beth yw "hanes" daear lawr
Wrth yr orsedd?
A yw cân hen seintiau cu
Wedi newid?—
Beth a ddwed y disglair lu
Am y "gofid."
Iesu! beth yw'th feddwl Di
Am y ddaear?
Gest ti 'th siomi ynddi hi,
Geidwad hawddgar?
Byd Dy gariad ydyw'r llawr—
Paid a'i ado;
Dangos faint Dy gariad mawr
Unwaith eto!