Yng Ngwres y Dydd/Angyles Cariad
| ← Y Pethau Mwy | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Cyfodai Blodyn Bach ei Ben → |
ANGYLES CARIAD.
[Cariad ni feddwl ddrwg.]
Y TLWS a'r prydferth genfydd hi—
Angyles nefoedd fawr;
Y blodau tirion aml eu rhi,
Mor hardd a thêg eu gwawr;
Mae'n cerdded lleoedd garw'n wir,
A'i llwybrau drwy y drain,
Ond gyda'i llygaid tyner clir,
Ni chenfydd hi y rhain.
Mae drain ac ysgall anial dir
Yn flodau yn ei llaw—
Yn flodau drud, o liwiau clir,
Rhyw bell baradwys draw;
Y cas a'r aflan lle mae'r byd
Mor hoff o roi ei droed—
Ei ddewis lwybyr yw o hyd—
Ni welodd hi erioed.
Dim ond cerddoriaeth wrendy hi—
Cynghanedd nefol ryw;
Nid ydyw'r lleisiau crâs a'u cri
Yn torri ar ei chlyw;
A dyfroedd "Marah" pryd y cawn
Ei chwpan at ein min,
Trwy gyfareddol ryfedd ddawn,
Fydd y melysaf win.
Mae'n gwneud o garpiau daear lawr
Y gemwaith harddaf ryw,
Nes synnu engyl Gwynfa fawr,
O gylch gorseddfainc Duw;
Ac o ysbwrial gwael y byd—
Ei bentwr diwerth ef,
Mae'n gwneud yr addurniadau drud,
A harddaf dlysau'r nef.
Os gwlad y nef ei chartref hi—
Gwlad y llawenydd clir,
Mae'n dod i lawr i'n daear ni—
Mae'n teithio anial dir;
Angyles wen! bydd imi'n ffrynd,
Tra fyddwyf is y rhôd;
Nes i dy gartref mawr caf fyn'd,
O dan dy ddwyfol nôd!