Neidio i'r cynnwys

Yng Ngwres y Dydd/Beth ydyw'r Newyddion

Oddi ar Wicidestun
Pa beth sydd yn fach, a beth sydd yn fawr Yng Ngwres y Dydd

gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd)

Cilio mae'r Huan

BETH YDYW'R NEWYDDION?
[Ysgrifennwyd yng Ngwanwyn 1915]

Beth ydyw'r newyddion?—gofynant hwy,
Ar heol y ddinas fawr;
Tra llawer i galon o dan ei chlwy'
A gruddiau'n welw eu gwawr;
Beth ydyw'r newyddion? medd mam a thad
Ar aelwyd y bwthyn bach—
Oes eto un llythyr o'r estron wlad—
A ydyw y llanc yn iach?

Beth ydyw'r newyddion! chwi filwyr mwyn
Sy'n llechu'n y ffosydd llaith;
Gan wneuthur eich "gorchwyl" heb gri na chwyn―
Eich caled ddi—orffwys waith;
Beth ydyw'r newyddion? wlad weinydd mad,
Sy'n gwylio dyfodol du;
A weli dy "heulwen" ar "fryniau'th "wlad,
A gwawr y boreuddydd cu?

Beth ydyw'r newyddion? chwi arwyr rhydd
Ar heol y wybren lâs;
A chwithau mewn dirgel ystafell sydd
Yn "trydar" wrth orsedd gras;
Beth ydyw'r newyddion? ddiwinydd mwyn
Yng nghartref dy fyfyr gell;
Tra'n welw dy wedd, a phruddaidd dy gwyn
Yn ceisio'r "goleuni gwell."


"Pa beth am y bore? chwi wylwyr byd,
Ar dyrau y muriau mawr—
Cymylau tywyllwch i ni o hyd
Sy'n cuddio wybrennau 'r llawr;
Pa beth ydyw'r "newydd" o'r orsedd fry
A beth yw "arweiniad" y nef?
Mae'r diwrnod mor dywyll—Waredwr cu!
Paid heddyw a'i wrthod ef!


Nodiadau

[golygu]