Neidio i'r cynnwys

Yng Ngwres y Dydd/Camfa y Coed

Oddi ar Wicidestun
Rhwymo'r Asynod wrth droed y Mynydd Yng Ngwres y Dydd

gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd)

Ti Aderyn Bach y Mynydd

CAMFA Y COED.

MAE ambell i fwthyn,
Ac ambell i lecyn,
Ac ambell i glogwyn di-fri,
Yn frenin atgofion,
Ar orsedd y galon,
Ac felly'r hên "Gamfa" i mi.

Ar derfyn y dolydd,
Dan gesail y mynydd,
Gan ryw law anghelfydd fe'i rhoed;
Tra wedi'i anghofio.
Mae'r llaw fu'n ei llunio,
Fe erys hên "Gamfa y coed."

Hên fangre'r gwahanu,
A'r llwybrau'n terfynu-
Wrth hon llawer "ffarwel "a roed;
A geiriau anwylaf
Y galon dyneraf,
A glywodd hên "Gamfa y Coed."

Hi welodd wyryfon
Yn ysgafn eu calon-
Yn dawnsio oddeutu ei throed;
A gwelodd hên ddyddiau
Yn crymu'r ysgwyddau—
Ddiaddurn hên "Gamfa y coed"

Rwy'n gweled arwyddion,
Daw'n fuan angylion,
I losgi y byd dan fy nhroed;
Ond cedwir darluniau
Ar nefol orielau,
A chofir hên "Gamfa y coed.!"


Nodiadau

[golygu]