Yng Ngwres y Dydd/Cwrdd tu yma i'r Afon
| ← Mi'i Gwelais Hi | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Pe tawai y rhai hyn → |
"CWRDD TU YMA I'R "AFON."
[Ymson gwraig y milwr).
"GAWN ni gwrdd" tu yma i'r "afon,"
Cyn cyfarfod fry?—
Dyna ydyw iaith fy nghalon
Heddyw briod cu;
Hyfryd fu dy gwmni filwaith—
Melys llawer awr;
Gawn ni ennyd fechan unwaith
Eto, ar y llawr?
Gwir fod gwlad heb boen na thrallod,
Mewn tragwyddol hedd;
Gwir fod dydd o fwyn gyfarfod,
Ar Ei "newydd wedd;"
Ond mae serch yn methu cefnu
Ar hen gartre'r byd;
"Gawn ni gwrdd" unwaith ond hynny,
Yw ei chri o hyd.
Cyn gwel'd gwenau anfarwoldeb,
Ar dy wyneb cu;
Gaf fi eto wel'd dy wyneb,
Fel mewn dyddiau fu?
Siarad eto iaith y ddaear,
Dros ryw fyr brydnawn;
Er yn eiriau poen a galar
Maent yn annwyl iawn.
Gawn ni ar y llawr gyfarfod,
Gofyn serch o hyd;—
Methu'n lan a llwyr ddygymod
A'r tragwyddol fyd;
Ond os yma briod tirion
Daw'r "ffarwel" a'i glwy;
Henffych gwrdd tu draw i'r "afon,"
Heb ymadael mwy!