Yng Ngwres y Dydd/Diolch Iddo, Gwlad y Ddaear
Gwedd
| ← Cyfodai Blodyn Bach ei Ben | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Dal fi Arglwydd dal fi ronyn → |
"DIOLCH IDDO" GWLAD Y DDAEAR!
PAN ddaw'r Barnwr a'i osgorddion,
Fore'r olaf ddydd,
Gyda myrddiwn o angylion,
"Ffrynd pechadur" fydd;
Saint y ddaear—llawen floeddiant
Drwy'r wybrennau fry,
Gwr yr orsedd adnabyddant
Fel eu cyfaill cu.
Pwy fydd ffryndiau draw yng Ngwynfa,
Mewn hapusrwydd pur,
Ond y rhai fu'n ffryndiau yma,
Yn cyd-ddwyn y cur;
Pwy gyd-chwery aur delynau
Gylch yr orsedd wen,
Ond y rhai gyd-ddringodd riwiau,
Dan gymylog nen?
Beth fydd cân nefolaidd hyfryd
Y gymanfa fawr?
Beth fydd gwych anthemau Gwynfyd,
Ond emynau'r llawr?
Wedi dod o'r teulu'n gyfan
Melys fydd y gân—
"Diolch iddo" gwlad y ddaear,
Rydd y nef ar dân!