Yng Ngwres y Dydd/Eisiau yr Iesu
Gwedd
| ← A'n Carodd hyd y diwedd | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Gwthia i'r Dwfn → |
EISIAU YR IESU.
MAE'R Iesu eisiau gweithwyr,
O fewn Ei winllan fawr—
Rhai sydd yn foddlon gweithio,
Hyd chwysu ambell awr;
I weithio "fel bo'r galw"
Heb ofn rhyw fechan loes;
Rhai sydd am ddechreu heddyw,
A dal hyd derfyn oes.
Mae'r Iesu eisiau milwyr,
I ymladd yn y gâd—
I wisgo yr arfogaeth,
Heb feddwl am ryddhad;
I ddal i fyny'r faner
Yn erbyn gŵg y llawr,
A sefyll fel gwroniaid
Yn nydd y frwydyr fawr.
Mae'r Iesu eisiau ffryndiau—
Caredig ffryndiau mwyn;
I dderbyn Ei gyfrinach,
A gwrando ar Ei gwyn;
I fod yn ffyddlon iddo
Tra yma ar y llawr;
A phara byth yn ffryndiau,
Dros dragwyddoldeb mawr.