Yng Ngwres y Dydd/Gweddi'r Pererin
Gwedd
| ← Rho dy Fraich ar Riwiau Bywyd | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Tyred a Gwêl → |
GWEDDI'R PERERIN.
Os oes "baich" rhy drwm i'w gario,
Os oes "croes" na fedraf ddwyn,
Paid a gadael i'm ddiffygio—
Cofia'r eiddil Iesu mwyn;
Galw fi
Dros y lli'
I Dy gartref dedwydd Di.
Wedi gorffen gwaith fy niwrnod—
Rhywun arall yn fy lle,
Gad i'm dros Iorddonen ddyfod—
"Cadw noswyl" yn y ne;
Gyda'r llu
Nefol fry'
A hen bererinion cu.