Yng Ngwres y Dydd/Gwlad Well yw hi
| ← Llon Gyfarchiad diwedd Blwyddyn | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Llaw-Weithfa Telynau → |
"GWLAD WELL" YW HI!
MAE'R bardd yn son am nefol wlad,
A'i swynion aml eu rhi;
A'r cerddor yntau heb nacâd,
Alawon rydd i ni:—
Mewn awdlau ac anthemau mâd
Mawrheir ei cheinion hi.
"Telynau aur" heb dewi mwy,
Ddywedant yno sydd;
A "chanu'n iach" i boen a chlwy,
A bod yn berffaith rydd;
Ond O mor wael eu darlun hwy
O wlad tragwyddol ddydd!
"Gwlad well" y gelwir hi o hyd,
Pa faint? nis gwyddom ni;
"Gwlad well" i'r baban yn ei grud,
A'r gwron mawr ei fri;
"Gwlad well" i ŵr y palas drud,
A'r crwydryn chwerw 'i gri.
'Roedd Iesu'n paratoi y ne'
Cyn iddo seilio'r byd;
A myrdd o engyl gydag E'—
Maent wrth y gwaith o hyd;
Ond beth fydd addurniadau'r lle,
Pan adre'r plant i gyd!
Paham 'rwyt ti mor hir yn dod,
Medd mam, anwylaf un;
Paham yr oedi is y rhod
Medd llawer cyfaill cun;—
Mor hir yn cyrchu at y nod,
Medd Iesu mawr Ei hun!
Mi hoffwn am ryw ennyd fwyn
Gael gwel'd y glannau fry;
A chan ryw angel gwyn fy nwyn
I blith y dedwydd lu;
Ond sut rol hyn gwnawn gyd—ymddwyn
A byd anialwch du?
Rhyw gyfaill beunydd yn y glyn
Yn cefnu arnaf sydd—
Mae mwy o ffryndiau erbyn hyn,
I mi yng ngwlad y dydd;—
Mae mwy yn gwisgo'r gwisgoedd gwyn
Na dillad anial prudd.
Gorphwysfa'r saint! Ti gartref gwyn!
Hen drigfan engyl cu;
Mor anhawdd gwel'd trwy niwl y glyn
Dy deg ardaloedd fry;
Mor llon ac iach ar Seion fryn
Mae hen gyfeillion lu!