Neidio i'r cynnwys

Yng Ngwres y Dydd/Gwthia i'r Dwfn

Oddi ar Wicidestun
Eisiau yr Iesu Yng Ngwres y Dydd

gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd)

Y Gwron

"GWTHIA I'R DWFN."

"GWTHIA i'r dwfn," fy nghyfaill tirion,
Boed o ddifrif dy ymdrechion
Yn y byd;
Paid a llechu ger y glannau,
Gwthia allan i'r dyfnderau,
Ac oddiyno dŵg drysorau
Gwerthfawr, drud.

"Gwthia i'r dwfn!"—tyr'd o gilfachau
Mân aberoedd min y tonnau,
Aml eu rhi;
Ac i'r dyfnder rho'th gyfeiriad,
Dros y gorwel, clyw ei ruad,
"Uchel—foroedd" Ffydd a Chariad—
Gwell i ti.

"Gwthia i'r dwfn," a mentra allan,
Gâd o'th ôl ddaearol drigfan,
Er mor glyd;
Hwylia am y pell ororau,
Lle mae'n tyfu bêr afalau,
A dŵg adref beth o ffrwythau
Arall fyd.

Edrych allan i'r gorwelion—
Gwel y "glannau bythol—wyrddion"
Yn eu côl;
A rhyw ddydd ar fwyn grwydriadau,
Nefol awel leinw'th hwyliau,
Ac ni ddeui dros y tonnau
Byth yn ol!


Nodiadau

[golygu]