Neidio i'r cynnwys

Yng Ngwres y Dydd/Gwyn Fyd y Dyn

Oddi ar Wicidestun
Yng Ngwres y Dydd Yng Ngwres y Dydd

gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd)

Y Melys a'r Chwerw

GWYN FYD Y DYN!

GWYN fyd y dyn fedd lygaid byw,
A chalon gref ac iach:—
Y dyn all ddarllen meddwl Duw
Yng ngwenau blodyn bach:—
Y dyn glyw lais angylion mwyn
Yn llais aderyn glân—
Wêl anfeidrolder—dwyfol swyn,
Ym mhlith y glaswellt mân.

Gwyn fyd y dyn all edrych fry,
Dros ben mynyddau'r llawr;
All weled drwy y cwmwl du,
Y nefol ddisglair wawr;
Y dyn sy'n mesur pethau'r byd
A mesuriadau'r nef—
Mae tragwyddoldeb ar ei hyd
O fewn ei "gyfrif" ef.

Y "tiroedd pell !" fe'u cenfydd hwy,
A'r Brenin ar ei sêdd;
Nid oes all roddi iddo glwy,
Na thorri ar ei hedd;
"Perswylfa'r creigiau!" ei gastell yw—
Ni chwelir byth ei nyth;
Mae'n wynfydedig heddyw'n byw
Bydd wynfydedig byth.

Nid meistr arno yw y byd,
Ond gostyngedig was;
A'r "troion blin" yn ffryndiau i gyd
Sy'n arfer bod mor gas;
Mae'n "crwydro'r" eangderau mawr,
A'r niwl islaw i gyd;
Mae'n wynfydedig medd y llawr,
A'r nef dd'wed—"Gwyn ei fyd!"


Nodiadau

[golygu]