Neidio i'r cynnwys

Yng Ngwres y Dydd/I wel'd y Bedd

Oddi ar Wicidestun
Ymson Mam uwchben y Cryd Yng Ngwres y Dydd

gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd)

Gwroniaid Ffydd

I WEL'D Y BEDD.

'ROEDD Mair yn dod i wel'd y bedd,
Ar fore wawr;
A nodau trallod yn ei gwedd—
Bruddglwyfus awr;
I wel'd y bedd drwy oesau'r byd,
Anwyliaid sydd yn dod o hyd,
Yn dyrfa fawr.

Mae'r weddw'n dod i weled bedd
Ei phriod mwyn;
Yn cerdded llwybrau tawel hedd,
Yn brudd ei chwyn;
Mae'r byd yn oer, dywedai hi,
Nid oes a ystyr wrth fy nghri,
I gyd-ymddwyn.

Mae'r bardd yn dod i weled bedd
Ei anwyl un;
O dwrf y byd i gartref hedd,
Yr olaf hun;
Mae serch yn mynnu gwel'd y fan
Lle gorwedd ei daearol ran,
Yn wael ei llun.

Ha! garedigion!—teulu'r bedd!
'Rym ninnau'n dod;
Ni phery'n hir ddaearol hedd,
O dan y rhod;
"Nos da" y glyn roes ini glwy
Eich "Bore Da" ddisgwyliwn mwy—
Mae hwnnw'n dod.


Nodiadau

[golygu]