Yng Ngwres y Dydd/Llaw-Weithfa Telynau
| ← Gwlad Well yw hi | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
O! Tyr'd gyda mi → |
LLAW-WEITHFA TELYNAU.
AETH cyfaill un diwrnod
I weithfa fawr hynod—
Llaw-weithfa telynau—pob maint a phob llun,
Ac yno mewn afiaeth,
Disgwyliai gerddoriaeth,
O uchel ragoriaeth, i'w foddio ei hun;
Ond wedi myn'd yno
Ni chlywai ond curo—
Olwynion yn rhuo drwy gydol y dydd,
Heb ddim ond oer seiniau,
A dadwrdd peiriannau,
Ac nid mwynion dannau ddisgwyliai mor rydd.
Mor syn y myfyriai,
A'i gyfaill atebai—
Llaw-weithfa sydd yma, ac offer i gyd
I wneuthur telynau
A threfnu y tannau,
A gosod y rhannau priodol ynghyd;
Draw acw mae'r palas,
Ar fryn ger y ddinas
Fy nghartref dywedai'r boneddwr yn rhydd;
Ac os am delynau
I swyno'th feddyliau,
Maent acw yn chwareu, i'w clywed bob dydd.
Mae yntau'r Credadyn
Yn fynych yn gofyn,
Beth ydyw gruddfanau—prudd leisiau y llawr;
Heb gofio mae "Gweithfa
Darparu sydd yma,
Ac nid lle defnyddio telynau yn awr;
Tu arall i'r "afon"
Ar ddedwydd fryn Seion.
Mae myrdd telynorion a'u cân yn ddi-lŷth;
Heb boen nac anhunedd,
Yng nghartref tangnefedd—
Pa nefol "gynghanedd" a glywir dros byth!