Neidio i'r cynnwys

Yng Ngwres y Dydd/Llon Gyfarchiad diwedd Blwyddyn

Oddi ar Wicidestun
Pan ddelo misoedd cystudd oer Yng Ngwres y Dydd

gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd)

Gwlad Well yw hi

LLON GYFARCHIAD DIWEDD BLWYDDYN.

GAREDIG fforddolion,
A chyd bererinion,
Sy'n teithio taith bywyd ynghyd;
Gan gario ei feichiau,
A dringo ei riwiau,
Mae'ch cwmni yn felys o hyd.

Os Canaan ni welwyd,
Rhyw lethrau gyrhaeddwyd,
Ac awyr mwy balmaidd a chlir;
Nes bron tybio weithiau,
Fod "copa y bryniau"
I'w gweled ar gwr anial dir.

Os anawdd y llwybrau,
A garw droadau,
Nes rhoi ini amal 'i glwy;
Y llwybrau a gerddwyd,
A'r rhiwiau a ddringwyd.
Ni fydd raid eu teithio byth mwy.

Os yw'r cam yn fyrrach,
Os yw'r gwallt yn wynnach,
Dan "bwysau" pryderon y byd;
Mae cariad yn burach,
A'r galon yn lanach,
A chartre'n anwylach o hyd.


Os mynych golledion,
Mae'n fwy yr enillion—
Ni raid bod yn athrist ein llef;
Os gwaelach cyfrifon,
Ar lyfrau marwolion,
Mae'r "balance" yn well yn y nef.

Ym mlaen Bererinion!
Ym mlaen ar ein hunion,
Pob cam sy'n agosach i'r wlad,
Mae hedd yn teyrnasu,
A chariad yn gwenu,
A'r "cwmni'n" dragwyddol fwynhad.


Nodiadau

[golygu]