Yng Ngwres y Dydd/Mi'i Gwelais Hi
| ← Bendith y Cwmwl | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Cwrdd tu yma i'r Afon → |
MI'I GWELAIS HI.
Mr'i gwelais hi yn eneth fach,
Ar fore bywyd;
Ei gwên yn llon a'i gruddiau'n iach,
A'i chân yn hyfryd;
'Roedd hi yn medru swyno'r plant,
A llu cyfeillion;
A'i chanig fach yn taro tant
Tynera'r galon.
Mi'i gwelais hi yn wyryf lan,
A phur ei rhodiad;
A pheraidd odiaeth oedd ei chân
I dirion Geidwad;
Y "capel bach" nos waith a Sul
Oedd gartref iddi,
A thra bo "rhodio llwybyr cul,"
Bydd cof am dani.
Mi'i gwelais hi yn weddw brudd,
Yn nyffryn adfyd;
Yn araf gerdded tywyll ddydd
Mis Hydref bywyd;
"Ar hyd y glyn" y rhodiodd hi
Y llwybrau geirwon,
Melysach oedd ei chân i mi
Yn swn yr afon.
Mae heddyw fry yn fawr ei chlod,
Yng nghwmni engyl;
'Roedd hen gyfeillion wedi bod
Am dani'n disgwyl;
Chadd neb fath groesaw dros y lli-
Angyles dirion;
A heddyw newydd gân fedd hi,
Wrth "fodd ei chalon."