Yng Ngwres y Dydd/Nadolig 1914
| ← Blodyn Bach y Fynwent | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
A'n Carodd hyd y diwedd → |
NADOLIG 1914.
[Nadolig cyntaf y rhyfel mawr.]
Dywysog tangnefedd! a ddoi Di eleni,
I wyl y Nadolig, fel dyddiau a fu?
A genir carolau mor fwyn i'n sirioli,
Tra'r storom mor arw, a'r wybren mor ddu?
Os "baban a anwyd" yn "frawd" mewn caledi,
Os rhoed ar "Ei ysgwydd" lywodraeth y nef;
Paham mae y ddaear mor fawr ei thrueni,
A miloedd dynolryw mor chwerw eu llef?
Blant bychain y pentref! a ddewch chwi eleni,
A mwyn gyfarchiadau, fel arfer, yn llon?
Tra wedi eu chwalu mae myrdd o gartrefi,
A llawer amddifad yn ysig ei fron?
A gawn ni eleni y "llawen" Nadolig,
Yng nghwmni cyfeillion mewn hyfryd fwynhad,
A myrdd o galonau yn llesg a chlwyfedig,
A chwynfan trueiniaid yn llenwi y wlad!
Angylion y bore! fu gynt yn cyhoeddi
Tangnefedd a heddwch, ar fore mor glir,
Ble'r ydych chwi heddyw, tra ing a thrueni,
Fel llanw dinistriol yn cuddio y tir?
Gogoniant i'r nefoedd, a chariad i'r ddaear,
Nes synnu'r bugeiliaid, eich anthem a fu,
A ddeuwch chwi ato, i hen gartref galar—
Mae'r diwrnod mor erwin, a'r noson mor ddu!
Waredwr caredig! tyr'd eto eleni,
Mae'th bobol yn disgwyl am danat o hyd;
Tawelu eu honfau, a lleddfu eu cyni,
Nis gall y daearol—ni feder y byd;
Dy fwyn bresenoldeb wasgara gymylau,
Sy' dduach nag angau, ac oerach na'r bedd;
O! dywed Dy hunan ryw air am y bore
Bo cariad yn frenin, a chartref yn hedd.