Neidio i'r cynnwys

Yng Ngwres y Dydd/O! Tyr'd gyda mi

Oddi ar Wicidestun
Llaw-Weithfa Telynau Yng Ngwres y Dydd

gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd)

O! Tyr'd gyda mi

O! TYR'D GYDA MI!

O! tyr'd gyda mi, angyles fach wen,
Mae'n wanwyn a'r ddôl yn werdd;
Mae murmur y lli a lleisiau di-ri,
Yn canu i ti eu cerdd;
Mae myrdd adar mân yn dyblu eu cân,
A gwenu mae ael y bryn;
O! tyr'd yn ddioed—tydi'r ysgafn droed
Mae'n fore o wanwyn gwyn!

O! tyr'd gyda mi angyles fach wen,
I lwybrau tyneraf serch,—
I feusydd y blodau, a 'gerddi'r perlysiau'
O! tyred anwylaf ferch;
Mae Tachwedd y byd a'i lwydrew i gyd—
Mae Gaeaf a Gwanwyn yr un,
Os rhoddi wnei di dy wenau i mi—
Dyneraf, hawddgaraf fun!

O! tyr'd gyda mi angyles fach wen,
Ar aden boreuol wawr;
Ni awn 'law yn llaw' gan adael o draw
Gymylau a niwl y llawr;
I wyn ddedwydd fyd, sy'n gariad i gyd,
Uwch "helynt" daearol ffyrdd,
Am ryw ennyd fach!—mae'r heulwen mor iach—
Ardaloedd y bythol-wyrdd!


Nodiadau

[golygu]