Yng Ngwres y Dydd/Pa beth sydd yn fach, a beth sydd yn fawr
| ← Tu yma i'r Iorddonen | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Beth ydyw'r Newyddion → |
PA BETH SYDD YN FACH, A BETH SYDD YN FAWR!
PA beth sydd yn fach, a beth sydd yn fawr
A beth sydd yn hawdd ei ddwyn?—
Efallai mai'r ysgafn i ti yn awr,
Fu'n llethu dy gyfaill mwyn;
Pa beth sydd yn troi "llifeiriant " y byd—
Yn selio "tynged" y nef?—
Fel baban yn wylo o fewn ei grud
Ni wyddost ei ystyr ef.
Pa beth sydd yn ddu, a beth sydd yn wyn?
Siaredi yn hynod rydd;
Mae'r hyn sydd i ti yn ddisglaer—wyn,
I arall yn ddu a phrudd;
Mae'r hyn sydd yn ddu a'r hyn sydd yn wyn
Yng nghysgod yr anial dir,
Yn "edrych fel arall" ar Seion fryn,
Yng ngwlad y goleuni clir.
Pa beth sydd yn wan, a beth sydd yn gryf?
Mae'n anhawdd dwedyd i ti;
Ti glywi y Corwynt yn bloeddio'n hyf,
Fel cadarn o nerthol fri;
Ond nid yw efe onid plentyn bach,
Neu lanc o anaeddfed oed—
Mae'r "Cedyrn o nerth"—y cerwi iach,
Heb siarad un gair erioed.
Pa beth sydd yn agos, a beth sy' mhell,
Ar gefnfor anfarwol fyd?
Mae'th lygaid yn wan, a thywyll dy gell,
I ddeall cyfrinion drud;
Mae'r maith eangderau o'th gylch bob llaw
Goleuni a weli fry;
Ai "yma" mae ef, ai ynte "tu draw,"
Ni wyddost fy nghyfaill cu.
Pa beth ydyw bach, a beth ydyw mawr,
Ond "termau" daearol fyd?
A'i hystyr yn unig i deulu'r llawr,
I'w deall ar hyn o bryd;
Pa beth ydyw bach, a beth ydyw mawr,
O amgylch gorseddfainc Duw?—
Rhaid aros goleuni y nefol wawr,
A rhaid myned yno i fyw.