Yng Ngwres y Dydd/Pob Llawenydd
Gwedd
| ← O! Tyr'd gyda mi | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Ymson Mam uwchben y Cryd → |
POB LLAWENYDD!
TRWM fy nghyfaill, faich dy ofnau,
Ambell ddydd;
Ond mae'r Iesu'n sychu'r dagrau,
Ar dy rudd;,
Beth yw angerdd y ffwrneisiau—
Yn y gwres?—
Dim ond "hawl" i'r Cyfaill gorau
Ddod yn nes.
Tywyll fyd ond disglair wybren,
Blentyn Duw;
Duach gwmwl—gloewach heulwen—
Dyna yw;
Ple mae'r nef a'i "gynnau gwynion"?—
Meddi di;
"Cario'r groes a'i chyfri'n goron"—
Dyna hi.