Yng Ngwres y Dydd/Rhwymo'r Asynod wrth droed y Mynydd
| ← Chwi Blant Deugain Mlynedd | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Camfa y Coed → |
RHWYMO'R ASYNOD WRTH DROED Y MYNYDD.
[Can bore Saboth.]
MAE'n ddydd i addoli, ac engyl goleuni
Gychwynant i'r ddaear ar doriad y wawr;—
Rhyw dyrfa afrifed! —ni allwn eu gweled,
Ond mwyn gymwynaswyr, at alwad y llawr;
"Porfeydd yr anialwch," lle trig yr asynod,
A hên gartref trallod, yw'r wlad 'rym yn byw;
Rhaid goddef y trallod, ond rhwymo'r asynod
O bob gradd ac enw, o bob maint a rhyw.
Rhyw feddwl anianol! gofalwn ei rwymo,
Neu fe fydd yn sicr o ganlyn o'n hol,
I gwmni angylion, a nef foneddigion—
Mor chwith fydd ei weled—mor wrthun a ffol;
Mae'n gryf ei gyhyrau—fe dyr lyfetheiriau,
O chwim ysgogiadau, fel awel y dydd—
Cyn gryfed a Samson—yn glir ei olygon—
Tair cainc fydd y rhaffau i'w atal yn rhydd.
Rhyw "asyn" o fwriad! yn nheml fawr cariad,
Yng nghanol darluniau a gemau y nef;
Lle seinia organau, a myrdd o delynau,
Mor gâs fydd ei olwg—mor atgas ei lef;
Mae'r Gŵr daflodd allan y byrddau a'r arian,
Tra "sel Tŷ ei Dad" oedd yn ysu Ei gôl,
Yn dweud am wneud eto, a phob un ddaw yno,
A'i rwymo 'n ofalus, i'w atal yn ol.
O! Dduw! mi a geisiaf y gorchwyl distadlaf,
I'th foddio tra bwyf yn anialwch y llawr—
Rhyw gân fach i'th foli, ym myd y trueni,
A cheisio cyd—gordio a'r nefol gôr mawr;
Fe'm blinir gan drallod, ond mwy gan "asynod"
Sy'n poeni'r pererin bob nos a phob dydd,
Pa bryd caf fy nghodi i wlad y goleuni,
Yn ddiogel o'u cyrraedd i fod byth yn rhydd!