Neidio i'r cynnwys

Yng Ngwres y Dydd/Ti Aderyn Bach y Mynydd

Oddi ar Wicidestun
Camfa y Coed Yng Ngwres y Dydd

gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd)

Ar Lanau Cefnforoedd

TI ADERYN BACH Y MYNYDD!

Ti aderyn bach y mynydd—
Mab y llethrau serth;
Yna yn croesawu'r wawrddydd,
Ar y clogwyn certh;
Clir a threiddiol dy olygon,
Ysgafn fron a glân dy galon,
Grym a bywyd yr uchelion
Yn dy nwyf a'th nerth.

Ti aderyn bach y mynydd—
Cartre'r creigiau mud;
Yfed awyr iach y moelydd
Yn dy "hawlfraint" ddrud;
Crwydro'n rhydd yr eangderau,
Am ddigwmwl glir wybrenau—
Heb dy flino gan gadwynau—
Llyffetheiriau'r byd.

Fel aderyn bach y mynydd
Hoffwn innau fod;
Yn mwynhau'r tawelwch dedwydd,
Uwch daearol rôd;
Fry o gyrraedd twrf helyntion,
A thu draw i niwl amheuon
Ond yng nghwmni engyl tirion,
Yn rhoi melys glod!


Nodiadau

[golygu]