Yng Ngwres y Dydd/Tyred a Gwêl
Gwedd
| ← Gweddi'r Pererin | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Swynion Mehefin → |
"TYRED A GWEL."
MAE'R cread yn llydan,
Tyr'd allan o'th guddfan,
I'w weled dy hunan,
Ac agor ei sêl;
Llais adar a blodau
Ar fil o lechweddau—
Hyd ddolydd a bryniau
Yw—"Tyred a gwêl."
Pwy byth feder wybod
Cyfrinach y Duwdod?—
Rhy fawr i'w hadnabod,
A chyfrin Ei sêl;
Ond byd o amheuon
Sydd lawn o angylion,
A'u galwad yn gyson
Yw—"Tyred a gwêl."
Anfeidrol feddyliau
Mewn dynol gyfrolau!—
"Toredig gostrelau"
Nid oes yn ddi-gêl;
Ond uchel yr alwad.
Hyd eithaf y cread,
A llais tyner Cariad
Yw—"Tyred a gwêl."
Agorir pyrth angau—
Rwy'n gweled y borau
A'r nefol orielau
Heb orchudd na sêl;
A galwad yr orsedd
Drwy'r oesau di-ddiwedd
Fydd dwyfol gyfaredd
Y "Tyred" a'r "gwêl."