Yng Ngwres y Dydd/Wedi'r Frwydr
| ← Y Gwron | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Yr Afon a'r Môr → |
WEDI'R FRWYDR!
COLLODD gwlad ei dewraf feibion,
Mewn estronol dir—
Craith y golled ar ei chalon,
Welir ddyddiau hir;
Ond yng Nghymru gwelaf fwthyn
Bach, gerllaw y lli,
Mam sydd yno, heb ei phlentyn—
Dyna'i cholled hi.
Collodd Prydain ei rhyfelwr—
Gwr yr arfau dur;
Colled fawr oedd colli'r milwr,
Pwy all ddweud ei chur;
Ond mi welaf ddyfnach trallod—
Dagrau mwy eu rhi,
Gweddw ieuanc heb ei phriod—
Dyna'i cholled hi.
Rhodd y gwledydd aur ac arian,
Megis llwch y llawr;
Pan ddaw'r dydd gwneud cyfrif allan,
Bydd y draul yn fawr;
Ond beth ddywed plant amddifaid—
Fyrdd o dan eu clwy,
Colli tad, er maint angenrhaid,
Fu eu colled hwy.
Pan yn rhydd bydd "ffordd "y moroedd,
Heb nacad na sen;
Heddwch eto rhwng cenedloedd—
Heulwen Duw uwchben;
Rhywun fydd yn tawel huno,
Mewn estronol dref,
Anwyl byth fo'r cof am dano—
Rhoi ei hun wnaeth ef!