Neidio i'r cynnwys

Yng Ngwres y Dydd/Y Baban a Anwyd

Oddi ar Wicidestun
Adar Bach yr Almaen Fawr Yng Ngwres y Dydd

gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd)

Colli ac Ennill

Y "BABAN A ANWYD."

Y "baban a anwyd!"
Mewn preseb a roddwyd,
Fe'i gwelwyd yn Methlehem dref;
Os heb ei adnabod,
Ar ol iddo ddyfod,
Efe ydoedd Arglwydd y nef.

"Y baban a anwyd!"
Brenhinoedd ddychrynwyd,
Gorseddau a siglwyd 'r un pryd;
A theyrnas y fagddu,
Ni phery ond hynny,
Efe raid "lywyddu" y byd.

Y "baban a anwyd!"
A heddwch gyhoeddwyd,
Ar unwaith rhwng nefoedd a llawr;
Cadd hen gweryl Eden,
Yn sydyn ei orffen,
Ac enw y "baban" fydd "mawr."

Y "baban a anwyd!"
Ffordd newydd a drefnwyd,
I'r truan i fyn'd at y Tad;
O ganol ei dlodi,
Er maint ei drueni,
Heb neb all roi iddo nacâd.


Y "baban a anwyd"!
Llif-ddorau agorwyd—
Daw mwy o fendithion i lawr;
A chariad y nefoedd,
Fel llanw y moroedd,
Fydd wedi gorchuddio y llawr.

Y "baban a anwyd!"
A "brawd ini roddwyd"
I eistedd ar orsedd y nen;
"Byw byth !" fyddo'r Brenin!—
Caed ddiolch ar ddeulin:—
A choron pob byd ar Ei ben!


Nodiadau

[golygu]