Yng Ngwres y Dydd/Y Gwron
| ← Gwthia i'r Dwfn | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Wedi'r Frwydr → |
Y GWRON.
"MAE'n rhaid i'r ffwrn saith poethach fod,"
Dywedai'r brenin creulawn;—
Rhyw "lanciau" ffôl, a gwael eu clôd,
Sydd wedi'm gwneud yn ddigllawn;
A dyna eto iaith y byd,
Tra'n poethi ei ffwrneisiau;
A rhaid i'r gwron fod o hyd
A'i wyneb ar y fflamau.
"Mae wedi ei selio," meddent hwy,
A diogel yw'r gorchymyn;
Pa beth a ddaw o hono mwy ?—
Rhown dan ein traed ein gelyn.
Mae rhai o'r teulu'n fyw o hyd—
Hen deulu'r llid a'r cernod,
Os Daniel ydwyt yn y byd,
Cei dithau wel'd y "llewod."
Mi welaf Wr—truanaf Un,
Heb bryd na gwedd yn gyfan,
Yn baeddu dreigiau'r fall bob un,
Ar "ben y bryn" Ei hunan;
Mae nefoedd fawr mewn braw yn fud,
Wrth wel'd y gwawd roir arno,
Ond dydd sy'n dod bydd moliant byd,
I gyd yn eiddo Iddo.
Pa le mae'r arwr ar y llawr,
Pa le mae'r cryf ei galon?
Heb ofni byddin uffern fawr,
Mae'n cario cledd y gwron;
Mae iddo sedd yn barod fry,
Agosaf at yr orsedd;
Ac wedi'r arw noson ddu,
Anfarwol ddydd anrhydedd.,