Neidio i'r cynnwys

Yng Ngwres y Dydd/Y Manna a hen yd y wlad

Oddi ar Wicidestun
Pe tawai y rhai hyn Yng Ngwres y Dydd

gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd)

Y Llanc o Gymro

Y "MANNA" A "HEN YD Y WLAD."
[A'r manna a beidiodd drannoeth ar ol iddynt fwyta o hen yd y wlad.]

Fe beidia manna'r llawr
Ryw "drannoeth" gwyn sy'n dod;
Pan dyr y nefol wawr,
A newid trefn y rhod;
Mil henffych iddo "drannoeth" gwyn,
Medd teulu'r llawr a phlant y glyn.

Fe dderfydd cwmni'r saint
Yr ochor hyn i'r bedd,
Er cymaint fu eu braint,
Rol dod i'r nefol wledd;
"Hen ŷd y wlad"—ffrwyth Canaan dir,
Fydd ar y "byrddau" cyn bo hir.

Angenrhaid teithiwr yw
Y manna ar y llawr;
I bererinion Duw
Mor werthfawr yw yn awr;
Ni fedrem ddringo "rhiwiau'r" daith,
Pe heb ei gymorth lawer gwaith.

Chwenychwn "ŷd" y nef,
Yn fynych ar y llawr;
Ond Duw nis dyry ef—
Mae'r manna'n well yn awr;
Mae'n rhaid i'r teulu gartref gwrdd,
Cyn rhoi'r danteithion ar y bwrdd.


Cyfeillach fach y llawr,
A chwmni'r "dau neu dri,"
Fu hyfryd lawer awr,
A melys iawn i ni;
Ond pan gyrhaeddwn Ganaan wlad,
Nid hyn fydd croesaw Tŷ ein Tad.

Gyd-bererinion mwyn,
Sy'n awr ym mhell o dref,
Rhaid yma gyd-dymddwyn-
Nid cartref ydyw ef;
Ond plant y manna ar y llawr,
Fydd "dewis gwmni'r "neithior fawr!


Nodiadau

[golygu]