Yng Ngwres y Dydd/Yng Ngwres y Dydd
Gwedd
| ← Y cynhwysiad | Yng Ngwres y Dydd gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
Gwyn Fyd y Dyn → |
"YNG NGWRES Y DYDD!"
"Yng ngwres y dydd!" ti gofi'r awr,
Ymleddaist yn y frwydyr fawr
Ellyllon uffern ddu:
Dy olwg godaist tua'r nef,
Ond cyn cyrhaeddyd yno'th lef,
'Roedd byddin fwy o'th du.
"Yng ngwres y dydd!" pwy wybu rym
Y saethau a'r picellau llym
Archollai'th enaid tlawd;
Yn wan a llesg, ryw ryfedd awr,
Ti godasit "groes" dy drallod mawr.
Heb gymorth câr na brawd.
"Yng ngwres y dydd!" ni thrôst yn ol,
Er crechwen i elynion ffol,
A geisient iti glwy:
Diysgog yn y tanllyd ddydd!-
Yn wron dewr, ac arwr ffydd,
A byth "orchfygwr" mwy.
Beth ydyw'r cwynfan is y nen
Am gwmni dedwydd Gwynfa wen,
Sydd heddyw'n iach a rhydd;
A hwythau'r saint ym myd y llawr.
Na feiddiant orphwys mynyd awr,
Ym mhoethder "gwres y dydd!"