Neidio i'r cynnwys

Yng Ngwres y Dydd/Yr Afon a'r Môr

Oddi ar Wicidestun
Wedi'r Frwydr Yng Ngwres y Dydd

gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd)

Chwi Blant Deugain Mlynedd

YR AFON A'R MOR.

MYN'D ar frys dros ael y mynydd
Wna yr afon fach;—
Rhoi ffarwel am byth i'r moelydd—
Cwmni mebyd iach;
Siarad gyda'r brwyn a'r creigiau
Am y dyfnder maith,
Ond dieithriol yw ei geiriau,
Ac estronol iaith.

Wele'r afon ar y dolydd,
Gyda'r blodau mân;
Llai ei brys mewn cwmni newydd,
A melysach cân;
Ond yr un yw iaith ei chalon,
Ac mae'n dweyd ei chwyn
Yng nghymdeithas yr awelon,
Am ei chartref mwyn.

Wele'r afon ar y morfa,
Ac yn sŵn y don;
Clyw yr alwad oddiyma—
Ddeffry serch ei bron;
Tyr'd heb oedi, fy Angyles,
Medd y Dwfn di—lŷth,
Gwna dy gartref ar fy mynwes,
A bydd foddlawn byth.


Taith yn llawn o anawsterau
Fu dy daith i gyd,
A chyn gado bro'r mynyddau
Profaist ŵg y byd;
Llamu dros glogwyni mawrion
A rhoi uchel gri,
Ond yng nghwmni'r tonnau tirion
Dedwydd fyddi di.

Minnau hefyd, fel yr afon,
Gan anniddig fron,
Gês fy swyno gan yr eigion-
Clywaf swn ei don;
Hiraeth am y dyfnder llydan-
Nid yr aber mwy;
Lle caf fod heb lan, na cheulan,
I roi imi glwy.


Nodiadau

[golygu]