Yng Ngwres y Dydd (testun cyfansawdd)
| ← | Yng Ngwres y Dydd (testun cyfansawdd) gan Joseph Jones (J. J. Drefnewydd) |
At y Darllenydd → |
| I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Yng Ngwres y Dydd |


Joseph Jones (1856-1941 J. J. Drefnewydd)

YNG NGWRES Y DYDD.
J. J., DREFNEWYDD
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD
GAN HUGHES BROTHERS,
DOLGELLAU.1919.
AT Y DARLLENYDD.
Garedig Ddarllenydd,—
Wrth gyflwyno i ti y gyfrol fechan hon,
dymunaf ddiolch yn gynnes am y derbyniad
siriol gafodd "Min yr Hwyr," ac nid oes gennyf
eto ond gobeithio y bydd i'r caniadau hyn fod
yn gysur, ac yn adeiladaeth, i bawb a'u darlleno.
YR AWDWR.
- Drefnewydd.
- Hydref 1918.
Y CYNHWYSIAD
Yng Ngwres y Dydd
Gwyn Fyd y Dyn!
Y Melys a'r Chwerw
Blodyn Bach y Fynwent
Nadolig 1914
A'n Carodd hyd y diwedd
Eisiau yr Iesu
Gwthia i'r Dwfn
Y Gwron
Wedi'r Frwydr!
Yr Afon a'r Môr
Chwi Blant Deugain Mlynedd!
Rhwymo'r Asynod wrth droed y Mynydd
Camfa y Coed
Ti Aderyn Bach y Mynydd!
Ar Lanau Cefnforoedd
Y Pethau Mwy
Angyles Cariad
Cyfodai Blodyn Bach ei Ben!
Diolch Iddo, Gwlad y Ddaear
Dal fi Arglwydd dal fi ronyn
Cyn iddi fynd rhy hwyr
Pan ddelo misoedd cystudd oer
Llon Gyfarchiad diwedd Blwyddyn
Gwlad Well yw hi!
Llaw-Weithfa Telynau
O! Tyr'd gyda mi!
Pob Llawenydd!
Ymson Mam uwchben y Cryd
I wel'd y Bedd
Gwroniaid Ffydd
Mynydd Cartref y Bardd
Pa fodd y Darlleni?
Y Ffordd Honno
Adar Bach yr Almaen Fawr
Y Baban a Anwyd
Colli ac Ennill
Rho dy Fraich ar Riwiau Bywyd
Gweddi'r Pererin
Tyred a Gwêl
Swynion Mehefin
Tu yma i'r Iorddonen
Pa beth sydd yn fach, a beth sydd yn fawr!
Beth ydyw'r Newyddion?
Cilio mae'r Huan!
Bendith y Cwmwl
Mi'i Gwelais Hi
Cwrdd tu yma i'r Afon
Pe tawai y rhai hyn
Y Manna a hen yd y wlad
Y Llanc o Gymro!
Tra Daear Duw o dan fy nhroed
Cân y Bardd
"YNG NGWRES Y DYDD!"
"Yng ngwres y dydd!" ti gofi'r awr,
Ymleddaist yn y frwydyr fawr
Ellyllon uffern ddu:
Dy olwg godaist tua'r nef,
Ond cyn cyrhaeddyd yno'th lef,
'Roedd byddin fwy o'th du.
"Yng ngwres y dydd!" pwy wybu rym
Y saethau a'r picellau llym
Archollai'th enaid tlawd;
Yn wan a llesg, ryw ryfedd awr,
Ti godasit "groes" dy drallod mawr.
Heb gymorth câr na brawd.
"Yng ngwres y dydd!" ni thrôst yn ol,
Er crechwen i elynion ffol,
A geisient iti glwy:
Diysgog yn y tanllyd ddydd!-
Yn wron dewr, ac arwr ffydd,
A byth "orchfygwr" mwy.
Beth ydyw'r cwynfan is y nen
Am gwmni dedwydd Gwynfa wen,
Sydd heddyw'n iach a rhydd;
A hwythau'r saint ym myd y llawr.
Na feiddiant orphwys mynyd awr,
Ym mhoethder "gwres y dydd!"
GWYN FYD Y DYN!
GWYN fyd y dyn fedd lygaid byw,
A chalon gref ac iach:—
Y dyn all ddarllen meddwl Duw
Yng ngwenau blodyn bach:—
Y dyn glyw lais angylion mwyn
Yn llais aderyn glân—
Wêl anfeidrolder—dwyfol swyn,
Ym mhlith y glaswellt mân.
Gwyn fyd y dyn all edrych fry,
Dros ben mynyddau'r llawr;
All weled drwy y cwmwl du,
Y nefol ddisglair wawr;
Y dyn sy'n mesur pethau'r byd
A mesuriadau'r nef—
Mae tragwyddoldeb ar ei hyd
O fewn ei "gyfrif" ef.
Y "tiroedd pell !" fe'u cenfydd hwy,
A'r Brenin ar ei sêdd;
Nid oes all roddi iddo glwy,
Na thorri ar ei hedd;
"Perswylfa'r creigiau!" ei gastell yw—
Ni chwelir byth ei nyth;
Mae'n wynfydedig heddyw'n byw
Bydd wynfydedig byth.
Nid meistr arno yw y byd,
Ond gostyngedig was;
A'r "troion blin" yn ffryndiau i gyd
Sy'n arfer bod mor gas;
Mae'n "crwydro'r" eangderau mawr,
A'r niwl islaw i gyd;
Mae'n wynfydedig medd y llawr,
A'r nef dd'wed—"Gwyn ei fyd!"
Y MELYS A'R CHWERW.
MAE beirdd y byd
A’u cân o hyd
Mewn llon a lleddf fesurau;
Ond nid oes swyn
Mewn pennill mwyn,
Heb arno flas gofidiau.
Mae blodau ir
Y lliwiau clir
Yn tyfu 'nglyn trallodion;
A'r lili wen
Yn plygu'i phen
Ar feddrod ein gobeithion.
Ni ellid cân
Aderyn glan,
Ar fore gwyn y gwanwyn,
Heb stormydd blin
Gaeafol hin,
A misoedd oer y flwyddyn.
Ni wena'n iach
Un baban bach,
Ond trwy ffenestri dagrau;
'Does yn y byd,
Un tegwch drud,
Fel heulwen rhwng cymylau.
Os prudd ein cri,
Mae'n well i ni—
Bydd gwenau yn felysach;
A storm y byd
Sy'n gwneud o hyd
Y cwmni yn anwylach!
Byd "cystudd mawr"
Vw byd y llawr,
A'r groes o hyd i'w chodi;
Ond pur fwynhad
Y nefol wlad
Fydd diolch byth am dani!
BLODYN BACH Y FYNWENT.
Yм mynwentydd prudd y ddaear
Tyf y blodyn bach;
Ac yng nghartref ing a galar,
Llon ei wenau iach;
Sut y daethost yma flodyn,
Megis angel nef,
I hen lanerch cer y deigryn,
A'r drallodus lef?
Sut na fuasai ocheneidiau
Wedi'th lethu'n lân?
A dy wisgoedd aml liwiau
Heb y gwynder glân?
Wylaidd Frenin bach y blodau,
Gyda'th siriol wedd!
Her roi di i Frenin Angau,
Oddiwrth ddrws y bedd!
Heirdd yw'r côf-golofnau gwynion
Mawr eu maint a'u bri;
Ond mil gwell y blodyn tirion-
Rhodder ef i mi;
Amser dyn o dan eu seiliau,
Nes i'r llawr eu dwyn;
Gwenu ar eu beddau hwythau
Wna'r blodeuyn mwyn.
Nid yw bywyd a'i gymylau
Heb ei wenau byw;
Trwy ffenestri gloewon ddagrau
Gwelwn galon Duw;
A thra heulwen nef yn gwasgar
Ei phelydrau iach,
Ni fydd bedd yng ngwlad y ddaear
Heb ei flodyn bach.
Aros yma flodyn tirion,
Paid a gado'th sedd,
I'th genhadaeth bydd yn ffyddlon
Yn hen gartre'r bedd;
Yma'n ddistaw dyst i'r oesau-
Hyd yr olaf ddydd:
Tystio yn nhiriogaeth angau
Y daw'r meirw'n rhydd.
NADOLIG 1914.
[Nadolig cyntaf y rhyfel mawr.]
Dywysog tangnefedd! a ddoi Di eleni,
I wyl y Nadolig, fel dyddiau a fu?
A genir carolau mor fwyn i'n sirioli,
Tra'r storom mor arw, a'r wybren mor ddu?
Os "baban a anwyd" yn "frawd" mewn caledi,
Os rhoed ar "Ei ysgwydd" lywodraeth y nef;
Paham mae y ddaear mor fawr ei thrueni,
A miloedd dynolryw mor chwerw eu llef?
Blant bychain y pentref! a ddewch chwi eleni,
A mwyn gyfarchiadau, fel arfer, yn llon?
Tra wedi eu chwalu mae myrdd o gartrefi,
A llawer amddifad yn ysig ei fron?
A gawn ni eleni y "llawen" Nadolig,
Yng nghwmni cyfeillion mewn hyfryd fwynhad,
A myrdd o galonau yn llesg a chlwyfedig,
A chwynfan trueiniaid yn llenwi y wlad!
Angylion y bore! fu gynt yn cyhoeddi
Tangnefedd a heddwch, ar fore mor glir,
Ble'r ydych chwi heddyw, tra ing a thrueni,
Fel llanw dinistriol yn cuddio y tir?
Gogoniant i'r nefoedd, a chariad i'r ddaear,
Nes synnu'r bugeiliaid, eich anthem a fu,
A ddeuwch chwi ato, i hen gartref galar—
Mae'r diwrnod mor erwin, a'r noson mor ddu!
Waredwr caredig! tyr'd eto eleni,
Mae'th bobol yn disgwyl am danat o hyd;
Tawelu eu honfau, a lleddfu eu cyni,
Nis gall y daearol—ni feder y byd;
Dy fwyn bresenoldeb wasgara gymylau,
Sy' dduach nag angau, ac oerach na'r bedd;
O! dywed Dy hunan ryw air am y bore
Bo cariad yn frenin, a chartref yn hedd.
A'N CARODD "HYD Y DIWEDD."
WYT ti'n fy ngharu yn y byd,
O hyd ofyna Iesu;
Ac felly'r saint ym myd y llawr,
Maent hwythau'n gofyn—"Brynwr mawr!"
Wnei Di dros byth ein caru?
Mae anghrediniaeth o bob tu
Bron llethu dy amynedd;
Ond er ei ddwndwr, er ei ru,
Nid aiff tu hwnt i'r cariad cu,
Sy'n para "hyd y diwedd."
Mae'n cariad ni o dan y rhôd
Yn myn'd a dod, mor rhyfedd:
I gynnal cariad bach y llawr,
Mae'n rhaid cael dwyfol gariad mawr,
Sy'n para "hyd y diwedd."
Mi welaf un mewn pruddaidd gwyn
Yn ceisio mwyn drugaredd;
Ac er i'r "gwadu" roddi cur,
Oedd filwaith fwy na'r hoelion dur,
Mae'n caru "hyd y diwedd."
"Fe'u cerais yn eu hisel radd,"
Medd Ef, gan ladd pob llygredd:
Anwyliaid mwyn, er maint eu bai,
Nid oedd fy nghariad ddim yn llai,
A phery "hyd y diwedd."
"Beth fydd yn nhragwyddoldeb maith,"
Yw'th iaith a'th gwestiwn rhyfedd;
Nis gellir dweud i ti yn awr,
Ond ffyddlawn byth fydd Iesu mawr,
Yn para "hyd y diwedd."
EISIAU YR IESU.
MAE'R Iesu eisiau gweithwyr,
O fewn Ei winllan fawr—
Rhai sydd yn foddlon gweithio,
Hyd chwysu ambell awr;
I weithio "fel bo'r galw"
Heb ofn rhyw fechan loes;
Rhai sydd am ddechreu heddyw,
A dal hyd derfyn oes.
Mae'r Iesu eisiau milwyr,
I ymladd yn y gâd—
I wisgo yr arfogaeth,
Heb feddwl am ryddhad;
I ddal i fyny'r faner
Yn erbyn gŵg y llawr,
A sefyll fel gwroniaid
Yn nydd y frwydyr fawr.
Mae'r Iesu eisiau ffryndiau—
Caredig ffryndiau mwyn;
I dderbyn Ei gyfrinach,
A gwrando ar Ei gwyn;
I fod yn ffyddlon iddo
Tra yma ar y llawr;
A phara byth yn ffryndiau,
Dros dragwyddoldeb mawr.
"GWTHIA I'R DWFN."
"GWTHIA i'r dwfn," fy nghyfaill tirion,
Boed o ddifrif dy ymdrechion
Yn y byd;
Paid a llechu ger y glannau,
Gwthia allan i'r dyfnderau,
Ac oddiyno dŵg drysorau
Gwerthfawr, drud.
"Gwthia i'r dwfn!"—tyr'd o gilfachau
Mân aberoedd min y tonnau,
Aml eu rhi;
Ac i'r dyfnder rho'th gyfeiriad,
Dros y gorwel, clyw ei ruad,
"Uchel—foroedd" Ffydd a Chariad—
Gwell i ti.
"Gwthia i'r dwfn," a mentra allan,
Gâd o'th ôl ddaearol drigfan,
Er mor glyd;
Hwylia am y pell ororau,
Lle mae'n tyfu bêr afalau,
A dŵg adref beth o ffrwythau
Arall fyd.
Edrych allan i'r gorwelion—
Gwel y "glannau bythol—wyrddion"
Yn eu côl;
A rhyw ddydd ar fwyn grwydriadau,
Nefol awel leinw'th hwyliau,
Ac ni ddeui dros y tonnau
Byth yn ol!
Y GWRON.
"MAE'n rhaid i'r ffwrn saith poethach fod,"
Dywedai'r brenin creulawn;—
Rhyw "lanciau" ffôl, a gwael eu clôd,
Sydd wedi'm gwneud yn ddigllawn;
A dyna eto iaith y byd,
Tra'n poethi ei ffwrneisiau;
A rhaid i'r gwron fod o hyd
A'i wyneb ar y fflamau.
"Mae wedi ei selio," meddent hwy,
A diogel yw'r gorchymyn;
Pa beth a ddaw o hono mwy ?—
Rhown dan ein traed ein gelyn.
Mae rhai o'r teulu'n fyw o hyd—
Hen deulu'r llid a'r cernod,
Os Daniel ydwyt yn y byd,
Cei dithau wel'd y "llewod."
Mi welaf Wr—truanaf Un,
Heb bryd na gwedd yn gyfan,
Yn baeddu dreigiau'r fall bob un,
Ar "ben y bryn" Ei hunan;
Mae nefoedd fawr mewn braw yn fud,
Wrth wel'd y gwawd roir arno,
Ond dydd sy'n dod bydd moliant byd,
I gyd yn eiddo Iddo.
Pa le mae'r arwr ar y llawr,
Pa le mae'r cryf ei galon?
Heb ofni byddin uffern fawr,
Mae'n cario cledd y gwron;
Mae iddo sedd yn barod fry,
Agosaf at yr orsedd;
Ac wedi'r arw noson ddu,
Anfarwol ddydd anrhydedd.,
WEDI'R FRWYDR!
COLLODD gwlad ei dewraf feibion,
Mewn estronol dir—
Craith y golled ar ei chalon,
Welir ddyddiau hir;
Ond yng Nghymru gwelaf fwthyn
Bach, gerllaw y lli,
Mam sydd yno, heb ei phlentyn—
Dyna'i cholled hi.
Collodd Prydain ei rhyfelwr—
Gwr yr arfau dur;
Colled fawr oedd colli'r milwr,
Pwy all ddweud ei chur;
Ond mi welaf ddyfnach trallod—
Dagrau mwy eu rhi,
Gweddw ieuanc heb ei phriod—
Dyna'i cholled hi.
Rhodd y gwledydd aur ac arian,
Megis llwch y llawr;
Pan ddaw'r dydd gwneud cyfrif allan,
Bydd y draul yn fawr;
Ond beth ddywed plant amddifaid—
Fyrdd o dan eu clwy,
Colli tad, er maint angenrhaid,
Fu eu colled hwy.
Pan yn rhydd bydd "ffordd "y moroedd,
Heb nacad na sen;
Heddwch eto rhwng cenedloedd—
Heulwen Duw uwchben;
Rhywun fydd yn tawel huno,
Mewn estronol dref,
Anwyl byth fo'r cof am dano—
Rhoi ei hun wnaeth ef!
YR AFON A'R MOR.
MYN'D ar frys dros ael y mynydd
Wna yr afon fach;—
Rhoi ffarwel am byth i'r moelydd—
Cwmni mebyd iach;
Siarad gyda'r brwyn a'r creigiau
Am y dyfnder maith,
Ond dieithriol yw ei geiriau,
Ac estronol iaith.
Wele'r afon ar y dolydd,
Gyda'r blodau mân;
Llai ei brys mewn cwmni newydd,
A melysach cân;
Ond yr un yw iaith ei chalon,
Ac mae'n dweyd ei chwyn
Yng nghymdeithas yr awelon,
Am ei chartref mwyn.
Wele'r afon ar y morfa,
Ac yn sŵn y don;
Clyw yr alwad oddiyma—
Ddeffry serch ei bron;
Tyr'd heb oedi, fy Angyles,
Medd y Dwfn di—lŷth,
Gwna dy gartref ar fy mynwes,
A bydd foddlawn byth.
Taith yn llawn o anawsterau
Fu dy daith i gyd,
A chyn gado bro'r mynyddau
Profaist ŵg y byd;
Llamu dros glogwyni mawrion
A rhoi uchel gri,
Ond yng nghwmni'r tonnau tirion
Dedwydd fyddi di.
Minnau hefyd, fel yr afon,
Gan anniddig fron,
Gês fy swyno gan yr eigion-
Clywaf swn ei don;
Hiraeth am y dyfnder llydan-
Nid yr aber mwy;
Lle caf fod heb lan, na cheulan,
I roi imi glwy.
CHWI BLANT DEUGAIN MLYNEDD!
[Darllenwyd yn Ysgoldy Hen Gapel, Llanbrynmair, Awst 3ydd, 1914, tra yr oedd yn bresennol oddeutu 100 o'r hen ysgolheigion; wedi ail gyfarfod yn yr un ysgoldy ar ol deugain mlynedd o ymwahaniad.]
CHWI blant deugain mlynedd,
Sydd yma'n gyfanedd,
O lawer pell ddinas a gwlad,
Mae'ch gwel'd yn ddiddorol,
A'ch gwenau yn siriol,
A'ch cwmni yn llawn o fwynhad.
Prydnawn o dawelwch
Sy'n nefol hyfrydwch
Yng nghanol gwyllt gynnwrf y byd;
A chwrdd unwaith eto,
Ar ol hir ymado,
Ar lawr yr "ysgoldy" bach, clyd.
Mae gwasgiad llaw dirion
Yn deffro atgofion
Am fil o helyntion—mor iach;
Nes bron a dymuno
Cael myn'd yn ol eto—
Ail ddechreu ym myd plentyn bach.
Bu gwersi'r "ysgoldy"
Yn galed i'w dysgu,
A'r "tasgau" yn drwm lawer pryd;
Ond hên "ysgol profiad"
Rôdd gwlwm perffeithiad—
Hi ydyw prif ysgol y byd!
Os chwalwyd teganau,
Fe bery'r llanerchau,
Ac ambell i gamfa a llwyn;
Ac ni all helyntion
Y byd a'i drallodion
Ddifetha atgofion mor fwyn.
Chwi hen ysgol feistriaid!
Garedig wroniaid!
Bu'ch gofal am danom yn fawr;
Boed tawel eich huno,
Ni wnawn eich anghofio
Fel hoff garedigion y llawr.
Mae'n felys cael cwrddyd,
Ac adrodd am ennyd,
Am lawer tro digrif a ffôl;
Ond beth am y diwrnod,
Cawn eto gyfarfod,
A dim "ysgolheigion" ar ol!
RHWYMO'R ASYNOD WRTH DROED Y MYNYDD.
[Can bore Saboth.]
MAE'n ddydd i addoli, ac engyl goleuni
Gychwynant i'r ddaear ar doriad y wawr;—
Rhyw dyrfa afrifed! —ni allwn eu gweled,
Ond mwyn gymwynaswyr, at alwad y llawr;
"Porfeydd yr anialwch," lle trig yr asynod,
A hên gartref trallod, yw'r wlad 'rym yn byw;
Rhaid goddef y trallod, ond rhwymo'r asynod
O bob gradd ac enw, o bob maint a rhyw.
Rhyw feddwl anianol! gofalwn ei rwymo,
Neu fe fydd yn sicr o ganlyn o'n hol,
I gwmni angylion, a nef foneddigion—
Mor chwith fydd ei weled—mor wrthun a ffol;
Mae'n gryf ei gyhyrau—fe dyr lyfetheiriau,
O chwim ysgogiadau, fel awel y dydd—
Cyn gryfed a Samson—yn glir ei olygon—
Tair cainc fydd y rhaffau i'w atal yn rhydd.
Rhyw "asyn" o fwriad! yn nheml fawr cariad,
Yng nghanol darluniau a gemau y nef;
Lle seinia organau, a myrdd o delynau,
Mor gâs fydd ei olwg—mor atgas ei lef;
Mae'r Gŵr daflodd allan y byrddau a'r arian,
Tra "sel Tŷ ei Dad" oedd yn ysu Ei gôl,
Yn dweud am wneud eto, a phob un ddaw yno,
A'i rwymo 'n ofalus, i'w atal yn ol.
O! Dduw! mi a geisiaf y gorchwyl distadlaf,
I'th foddio tra bwyf yn anialwch y llawr—
Rhyw gân fach i'th foli, ym myd y trueni,
A cheisio cyd—gordio a'r nefol gôr mawr;
Fe'm blinir gan drallod, ond mwy gan "asynod"
Sy'n poeni'r pererin bob nos a phob dydd,
Pa bryd caf fy nghodi i wlad y goleuni,
Yn ddiogel o'u cyrraedd i fod byth yn rhydd!
CAMFA Y COED.
MAE ambell i fwthyn,
Ac ambell i lecyn,
Ac ambell i glogwyn di-fri,
Yn frenin atgofion,
Ar orsedd y galon,
Ac felly'r hên "Gamfa" i mi.
Ar derfyn y dolydd,
Dan gesail y mynydd,
Gan ryw law anghelfydd fe'i rhoed;
Tra wedi'i anghofio.
Mae'r llaw fu'n ei llunio,
Fe erys hên "Gamfa y coed."
Hên fangre'r gwahanu,
A'r llwybrau'n terfynu-
Wrth hon llawer "ffarwel "a roed;
A geiriau anwylaf
Y galon dyneraf,
A glywodd hên "Gamfa y Coed."
Hi welodd wyryfon
Yn ysgafn eu calon-
Yn dawnsio oddeutu ei throed;
A gwelodd hên ddyddiau
Yn crymu'r ysgwyddau—
Ddiaddurn hên "Gamfa y coed"
Rwy'n gweled arwyddion,
Daw'n fuan angylion,
I losgi y byd dan fy nhroed;
Ond cedwir darluniau
Ar nefol orielau,
A chofir hên "Gamfa y coed.!"
TI ADERYN BACH Y MYNYDD!
Ti aderyn bach y mynydd—
Mab y llethrau serth;
Yna yn croesawu'r wawrddydd,
Ar y clogwyn certh;
Clir a threiddiol dy olygon,
Ysgafn fron a glân dy galon,
Grym a bywyd yr uchelion
Yn dy nwyf a'th nerth.
Ti aderyn bach y mynydd—
Cartre'r creigiau mud;
Yfed awyr iach y moelydd
Yn dy "hawlfraint" ddrud;
Crwydro'n rhydd yr eangderau,
Am ddigwmwl glir wybrenau—
Heb dy flino gan gadwynau—
Llyffetheiriau'r byd.
Fel aderyn bach y mynydd
Hoffwn innau fod;
Yn mwynhau'r tawelwch dedwydd,
Uwch daearol rôd;
Fry o gyrraedd twrf helyntion,
A thu draw i niwl amheuon
Ond yng nghwmni engyl tirion,
Yn rhoi melys glod!
AR LANAU CEFNFOROEDD.
AR lannau cefnforoedd,
Mae mynych dymhestloedd
Chwâl furiau cadarnaf y byd;
A lawr yn y dyfnder,
Ychydig o bellder,
Nid oes ond tangnefedd o hyd.
Nid ydyw y tonnau
Ond gweision y glannau,
Yn byw ar derfynau y byd;
Tra'r tawel ardaloedd,
Yng nghôl y dyfnderoedd,
Gerllaw y drycinoedd i gyd.
Taranau i ruo,
Ystormydd i ruthro,
Ar wyneb daearen a roed;
Ond encyd i fyny,
Mae'r haul yn tywynu,
Lle ni bu ystorom erioed.
Ac os du gymylau
Sy'n cuddio wybrenau
Ein bywyd, yng nghartref y llawr,
Mor deneu y llenni-
Ac agos goleuni
Haul disglair y nefoedd wen, fawr!
Y "PETHAU MWY."
[Ti a gei weled pethau mwy na'r rhai hyn.]
MAE'n hyfryd dringo bryniau'r byd,
I gwmni'r eangderau mawr;
A gwel'd dros "orwel" ambell bryd,
Belydrau clir y nefol wawr;—
Rhyw awydd am y "pethau mwy,"
A hiraeth am eu meddu hwy.
Anfeidrol ydyw cyfoeth gras,
A dwyfol rin Ei gariad drud,
A'r rhai gadd unwaith brofi'r blâs
Sy'n gofyn am y "mwy" o hyd;
A'r Duw rodd awydd "pethau mwy"
Sy'n sicr o'u diwallu hwy.
Paham 'rym heddyw'n digio'r nef
Wrth ofyn am y "bach" a'r "gwan?"—
Yn ameu grym Ei eiriau Ef,
Heb wel'd y "dwyfol" mewn un man?—
Ein Tad yn cynyg "pethau mwy,"
A ninnau yn eu gwrthod hwy!
Nid ydyw'r moroedd maith bob un,
Ond dafnau mân o foroedd mwy;
Ac nid yw'r huan mawr ei hun
Ond llusern fechan iddynt hwy;
Y pethau gwell!—y "pethau mwy!"
Tragwyddol yw eu cyfoeth hwy.
Mae anian fawr yn llawn o swyn,
A'r blodau'n gwenu'n llon i gyd;
Ond nid ynt hwy, fy nghyfaill mwyn,
Ond diflanedig bethau'r byd;
Tra'th galon ar y "pethau mwy"
Anfoddlawn byth os hebddynt hwy.
Rôl cyrraedd fry i'r drydedd nef,
A glanio'n iach yn nghartre'r saint,
Am lawnach nefoedd bydd dy lef-
Am oriel uwch a mwy ei maint;
A Duw dros byth rydd bethau "mwy"
I bawb fydd yn eu ceisio hwy.
ANGYLES CARIAD.
[Cariad ni feddwl ddrwg.]
Y TLWS a'r prydferth genfydd hi—
Angyles nefoedd fawr;
Y blodau tirion aml eu rhi,
Mor hardd a thêg eu gwawr;
Mae'n cerdded lleoedd garw'n wir,
A'i llwybrau drwy y drain,
Ond gyda'i llygaid tyner clir,
Ni chenfydd hi y rhain.
Mae drain ac ysgall anial dir
Yn flodau yn ei llaw—
Yn flodau drud, o liwiau clir,
Rhyw bell baradwys draw;
Y cas a'r aflan lle mae'r byd
Mor hoff o roi ei droed—
Ei ddewis lwybyr yw o hyd—
Ni welodd hi erioed.
Dim ond cerddoriaeth wrendy hi—
Cynghanedd nefol ryw;
Nid ydyw'r lleisiau crâs a'u cri
Yn torri ar ei chlyw;
A dyfroedd "Marah" pryd y cawn
Ei chwpan at ein min,
Trwy gyfareddol ryfedd ddawn,
Fydd y melysaf win.
Mae'n gwneud o garpiau daear lawr
Y gemwaith harddaf ryw,
Nes synnu engyl Gwynfa fawr,
O gylch gorseddfainc Duw;
Ac o ysbwrial gwael y byd—
Ei bentwr diwerth ef,
Mae'n gwneud yr addurniadau drud,
A harddaf dlysau'r nef.
Os gwlad y nef ei chartref hi—
Gwlad y llawenydd clir,
Mae'n dod i lawr i'n daear ni—
Mae'n teithio anial dir;
Angyles wen! bydd imi'n ffrynd,
Tra fyddwyf is y rhôd;
Nes i dy gartref mawr caf fyn'd,
O dan dy ddwyfol nôd!
CYFODAI BLODYN BACH EI BEN!
CYFODAI blodyn bach ei ben,
Ryw fore'n sydyn;
Ar ol hir ddisgwyl dan y llen,
Am ddydd o wanwyn;,
Bu'r Rhew-wynt mawr a'i ffrewyll gref
Yn clirio'r dyffryn;
Ac ar ei ol dywedai ef,
Nad oedd un blodyn.
O fewn ei gell bu'r blodyn cu
Yn hir ymguddio;
Tra'r storom erch a'i gosgordd fu
Yn gyrru heibio;
A thra rhoi'r Corwynt yn y nen,
Ei uchel alwad,
Roedd ef o hyd yn cuddio'i ben,
A'i ddrws yng nghauad.
Gelynion sydd ym myd y llawr,
O hyd i'r blodyn;
Maent hwy yn gryf, ac yntau'n wan,
A diamddiffyn;
Ond chwerthin mae'r awelon iach,
Wrth wel'd ei gyflwr-
Efe cyn hir-y blodyn bach
Fydd y gorchfygwr.
Daw terfyn i bob gaeaf du,
Fy mrawd caredig;
A "thaw" ar floedd pob gelyn hy'
Ym mhen ychydig;
Os estron fyd i'r lili dlos
I'w byd gaeafau,
Breuddwydio mae ar hyd y nos
Am gartre'r blodau.
Oes hedyn cariad, Gristion gwan,
O fewn dy galon?
Daw arno flodyn yn y man,
A'i lu o swynion;
Ac os yw "drain ac ysgall" byd
Yn cau dy lwybrau,
Ni allant er eu trais i gyd
Nacâu y blodau.
I ddilyn holl aeafau byd
Daw'r heulwen fwynach;
"Hyd yma dewch" medd Haf o hyd,
"A dim ym mhellach;"
A gwel'd yr wyf y Gwanwyn iach
O Nefol burdeb;
A "jibili" pob blodyn bach,
Mewn anfarwoldeb!
"DIOLCH IDDO" GWLAD Y DDAEAR!
PAN ddaw'r Barnwr a'i osgorddion,
Fore'r olaf ddydd,
Gyda myrddiwn o angylion,
"Ffrynd pechadur" fydd;
Saint y ddaear—llawen floeddiant
Drwy'r wybrennau fry,
Gwr yr orsedd adnabyddant
Fel eu cyfaill cu.
Pwy fydd ffryndiau draw yng Ngwynfa,
Mewn hapusrwydd pur,
Ond y rhai fu'n ffryndiau yma,
Yn cyd-ddwyn y cur;
Pwy gyd-chwery aur delynau
Gylch yr orsedd wen,
Ond y rhai gyd-ddringodd riwiau,
Dan gymylog nen?
Beth fydd cân nefolaidd hyfryd
Y gymanfa fawr?
Beth fydd gwych anthemau Gwynfyd,
Ond emynau'r llawr?
Wedi dod o'r teulu'n gyfan
Melys fydd y gân—
"Diolch iddo" gwlad y ddaear,
Rydd y nef ar dân!
"DAL FI ARGLWYDD, DAL FI RONYN."
"DAL, fi Arglwydd, dal fi ronyn"—
Dim ond gronyn bach;
Gwelaf rywrai fu'n cyd-ganlyn
Wedi glanio'n iach:
Mae'r cysgodau yn gorchuddio,
Ac mae'r nos yn ddu;
Dim ond ennyd fechan eto—
"Dal fi" Arglwydd cu.
"Dal fi Arglwydd, dal fi ronyn"—
Rho dy law i'm dwyn:
Wyf rhy wan i geisio'th ddilyn
Fy Arweinydd mwyn;
Ac mae'r byd yn fy nychrynu—
Chwerw yw ei gri;
Ennyd fach pâr iddo dewi―
Gwrendy arnat ti.
"Dal fi Arglwydd, dal fi ronyn"—
Ffyddlawn hyd y daith
Fuost imi, drwy helyntion
Yr anialwch maith;
Nid Dy help ofynaf heddyw,
Ar y rhiwiau mawr,
Ond Dy law i groesi'r "afon"—
Dyro imi'n awr.
Beth yw'r tyner lais a glywaf
Megis angel cu?
Pwy sydd heddyw'n galw arnaf
Yn y dyffryn du?
Llais fy Arglwydd tirion ydyw
Geiriau clir di—lyth
Ac yn dwedyd—"Annwyl blentyn !
Mi a'th ddaliaf byth!"
CYN IDDI FYN'D RHY HWYR.
(Cynghor Nadolig—Rhydd Gyfieithiad.)
Os oes genyt fam mewn pryder,
Yn y bwthyn bach di-fri,
Eistedd lawr heb golli amser
Anfon lythyr ati hi;
Paid gadael baich gofidiau'r byd,
A'i bwn ei llethu'n llwyr;
Ond "rho dy gariad" iddi hi,
Cyn iddi fyn'd rhy hwyr.
Os oes genyt genadwri,
Neu garedig air yng nghudd,
Paid a'i gadw i'w ddihoeni,
Gadael iddo fyn'd yn rhydd;
Pa adgof fel drychiolaeth ddaw
I'th erlyn?—Pwy a wyr?
Gwna heddyw'th ffryndiau'n llon i gyd,
Cyn iddi fyn'd rhy hwyr.
Y cariad ni amlygwyd
A'r "tro" ni chadd ei wneud—
Y llythyr ni anfonwyd
A'r gair ni chadd ei ddweyd
Sy'n chwerwi bywyd yn y byd—
Sy'n llethu serch yn llwyr;
Pam rhaid i ni eu hatal hwy,
Nes iddi fyn'd rhy hwyr!
"PAN DDELO MISOEDD CYSTUDD OER."
"PAN ddelo misoedd cystudd oer,"
A'r byd yn cilio draw,
Angylion lu, a'u gwenau cu'n
Agosach imi ddaw;
Os tywyll fydd f'ystafell fach,
A phruddaidd iawn i mi,
Rhyw lewyrch byw o nefoedd Duw,
Ddaw i'w goleuo hi.
"Pan ddelo misoedd cystudd oer"—
Ffarwel drallodus fyd;
Dy chwerw gwyn a'th wenau mwyn,
Fydd wedi myn'd i gyd;
Rhyw arall fyd yn llanw mryd,
Ac nid teganau mân—
Anfarwol fyd !—efe i gyd
Fy nghysur a fy nghân.
Beth ydyw "misoedd cystudd oer,"
Ond tynnu'r llenni i lawr,
I guddio i gyd helyntion byd,
Er gwel'd tragwyddol wawr;
Rhyw ddatod cudd gortynau'n rhydd,
Cymhwyso'r llygaid gwan,
I ddal heb glwy, na chau byth mwy,
Oleuni'r nefol lan.
Os annwyl un, mewn hiraeth blin,
Yn nes nag eraill ddaw,
Fe genfydd hi fod "ffrynd" i mi
Yn gafael yn fy llaw;
Os newid byd am Ganaan glyd,
Paham wylofus gwyn?
Ac os mai hyn yw "rhodio'r glyn"—
Pob croesaw ddyddiau mwyn!
LLON GYFARCHIAD DIWEDD BLWYDDYN.
GAREDIG fforddolion,
A chyd bererinion,
Sy'n teithio taith bywyd ynghyd;
Gan gario ei feichiau,
A dringo ei riwiau,
Mae'ch cwmni yn felys o hyd.
Os Canaan ni welwyd,
Rhyw lethrau gyrhaeddwyd,
Ac awyr mwy balmaidd a chlir;
Nes bron tybio weithiau,
Fod "copa y bryniau"
I'w gweled ar gwr anial dir.
Os anawdd y llwybrau,
A garw droadau,
Nes rhoi ini amal 'i glwy;
Y llwybrau a gerddwyd,
A'r rhiwiau a ddringwyd.
Ni fydd raid eu teithio byth mwy.
Os yw'r cam yn fyrrach,
Os yw'r gwallt yn wynnach,
Dan "bwysau" pryderon y byd;
Mae cariad yn burach,
A'r galon yn lanach,
A chartre'n anwylach o hyd.
Os mynych golledion,
Mae'n fwy yr enillion—
Ni raid bod yn athrist ein llef;
Os gwaelach cyfrifon,
Ar lyfrau marwolion,
Mae'r "balance" yn well yn y nef.
Ym mlaen Bererinion!
Ym mlaen ar ein hunion,
Pob cam sy'n agosach i'r wlad,
Mae hedd yn teyrnasu,
A chariad yn gwenu,
A'r "cwmni'n" dragwyddol fwynhad.
"GWLAD WELL" YW HI!
MAE'R bardd yn son am nefol wlad,
A'i swynion aml eu rhi;
A'r cerddor yntau heb nacâd,
Alawon rydd i ni:—
Mewn awdlau ac anthemau mâd
Mawrheir ei cheinion hi.
"Telynau aur" heb dewi mwy,
Ddywedant yno sydd;
A "chanu'n iach" i boen a chlwy,
A bod yn berffaith rydd;
Ond O mor wael eu darlun hwy
O wlad tragwyddol ddydd!
"Gwlad well" y gelwir hi o hyd,
Pa faint? nis gwyddom ni;
"Gwlad well" i'r baban yn ei grud,
A'r gwron mawr ei fri;
"Gwlad well" i ŵr y palas drud,
A'r crwydryn chwerw 'i gri.
'Roedd Iesu'n paratoi y ne'
Cyn iddo seilio'r byd;
A myrdd o engyl gydag E'—
Maent wrth y gwaith o hyd;
Ond beth fydd addurniadau'r lle,
Pan adre'r plant i gyd!
Paham 'rwyt ti mor hir yn dod,
Medd mam, anwylaf un;
Paham yr oedi is y rhod
Medd llawer cyfaill cun;—
Mor hir yn cyrchu at y nod,
Medd Iesu mawr Ei hun!
Mi hoffwn am ryw ennyd fwyn
Gael gwel'd y glannau fry;
A chan ryw angel gwyn fy nwyn
I blith y dedwydd lu;
Ond sut rol hyn gwnawn gyd—ymddwyn
A byd anialwch du?
Rhyw gyfaill beunydd yn y glyn
Yn cefnu arnaf sydd—
Mae mwy o ffryndiau erbyn hyn,
I mi yng ngwlad y dydd;—
Mae mwy yn gwisgo'r gwisgoedd gwyn
Na dillad anial prudd.
Gorphwysfa'r saint! Ti gartref gwyn!
Hen drigfan engyl cu;
Mor anhawdd gwel'd trwy niwl y glyn
Dy deg ardaloedd fry;
Mor llon ac iach ar Seion fryn
Mae hen gyfeillion lu!
LLAW-WEITHFA TELYNAU.
AETH cyfaill un diwrnod
I weithfa fawr hynod—
Llaw-weithfa telynau—pob maint a phob llun,
Ac yno mewn afiaeth,
Disgwyliai gerddoriaeth,
O uchel ragoriaeth, i'w foddio ei hun;
Ond wedi myn'd yno
Ni chlywai ond curo—
Olwynion yn rhuo drwy gydol y dydd,
Heb ddim ond oer seiniau,
A dadwrdd peiriannau,
Ac nid mwynion dannau ddisgwyliai mor rydd.
Mor syn y myfyriai,
A'i gyfaill atebai—
Llaw-weithfa sydd yma, ac offer i gyd
I wneuthur telynau
A threfnu y tannau,
A gosod y rhannau priodol ynghyd;
Draw acw mae'r palas,
Ar fryn ger y ddinas
Fy nghartref dywedai'r boneddwr yn rhydd;
Ac os am delynau
I swyno'th feddyliau,
Maent acw yn chwareu, i'w clywed bob dydd.
Mae yntau'r Credadyn
Yn fynych yn gofyn,
Beth ydyw gruddfanau—prudd leisiau y llawr;
Heb gofio mae "Gweithfa
Darparu sydd yma,
Ac nid lle defnyddio telynau yn awr;
Tu arall i'r "afon"
Ar ddedwydd fryn Seion.
Mae myrdd telynorion a'u cân yn ddi-lŷth;
Heb boen nac anhunedd,
Yng nghartref tangnefedd—
Pa nefol "gynghanedd" a glywir dros byth!
O! TYR'D GYDA MI!
O! tyr'd gyda mi, angyles fach wen,
Mae'n wanwyn a'r ddôl yn werdd;
Mae murmur y lli a lleisiau di-ri,
Yn canu i ti eu cerdd;
Mae myrdd adar mân yn dyblu eu cân,
A gwenu mae ael y bryn;
O! tyr'd yn ddioed—tydi'r ysgafn droed
Mae'n fore o wanwyn gwyn!
O! tyr'd gyda mi angyles fach wen,
I lwybrau tyneraf serch,—
I feusydd y blodau, a 'gerddi'r perlysiau'
O! tyred anwylaf ferch;
Mae Tachwedd y byd a'i lwydrew i gyd—
Mae Gaeaf a Gwanwyn yr un,
Os rhoddi wnei di dy wenau i mi—
Dyneraf, hawddgaraf fun!
O! tyr'd gyda mi angyles fach wen,
Ar aden boreuol wawr;
Ni awn 'law yn llaw' gan adael o draw
Gymylau a niwl y llawr;
I wyn ddedwydd fyd, sy'n gariad i gyd,
Uwch "helynt" daearol ffyrdd,
Am ryw ennyd fach!—mae'r heulwen mor iach—
Ardaloedd y bythol-wyrdd!
POB LLAWENYDD!
TRWM fy nghyfaill, faich dy ofnau,
Ambell ddydd;
Ond mae'r Iesu'n sychu'r dagrau,
Ar dy rudd;,
Beth yw angerdd y ffwrneisiau—
Yn y gwres?—
Dim ond "hawl" i'r Cyfaill gorau
Ddod yn nes.
Tywyll fyd ond disglair wybren,
Blentyn Duw;
Duach gwmwl—gloewach heulwen—
Dyna yw;
Ple mae'r nef a'i "gynnau gwynion"?—
Meddi di;
"Cario'r groes a'i chyfri'n goron"—
Dyna hi.
YMSON MAM UWCH BEN Y CRUD.
'ROEDD mam yn gwylio'i baban bach,
Ryw noson gaeaf blin;
A heulwen fwyn ei wenau iach
Yr haf o nefol rin;
"Beth fydd y bachgen hwn," medd hi,
Pa groes raid iddo'i dwyn,
A phan yn chwerw bo ei gri,
Pwy fydd ei gyfaill mwyn?
Os fi sydd heddyw'n siglo'th grud,
I'th huno faban gwan,
Fe ddaw ystormydd garw'r byd,
I'th ddeffro yn y man;
Ai hir dy daith, ai garw'th gwyn,
Cyn cyrraedd gwlad y dydd,
Ai ynte'r crud a Chanaan fwyn,
Dy ddedwydd ran a fydd?
Pwy fydd y cyntaf dros y lli,
I wlad tragwyddol hedd?
A phwy gaiff ddisgwyl-ti neu fi
Yr ochor draw i'r bedd;
Gaf fi dy golli faban cu,
A'th roi mewn beddrod bach,
Neu ti gaiff wel'd y diwrnod du,
A minnau ganu'n iach?
Bydd wych! anwylyd bach di-nam,
A bydded wyn dy fyd;
Ni wyddost eto bryder mam,
Sy'n gwylio uwch dy grud;
Na foed i'r dagrau fyn'd yn fwy
Na'r gwenau yn y byd;
Daw'r dydd rhoi "ffarwel" iddynt hwy,
Am wlad y gwenau i gyd.
I WEL'D Y BEDD.
'ROEDD Mair yn dod i wel'd y bedd,
Ar fore wawr;
A nodau trallod yn ei gwedd—
Bruddglwyfus awr;
I wel'd y bedd drwy oesau'r byd,
Anwyliaid sydd yn dod o hyd,
Yn dyrfa fawr.
Mae'r weddw'n dod i weled bedd
Ei phriod mwyn;
Yn cerdded llwybrau tawel hedd,
Yn brudd ei chwyn;
Mae'r byd yn oer, dywedai hi,
Nid oes a ystyr wrth fy nghri,
I gyd-ymddwyn.
Mae'r bardd yn dod i weled bedd
Ei anwyl un;
O dwrf y byd i gartref hedd,
Yr olaf hun;
Mae serch yn mynnu gwel'd y fan
Lle gorwedd ei daearol ran,
Yn wael ei llun.
Ha! garedigion!—teulu'r bedd!
'Rym ninnau'n dod;
Ni phery'n hir ddaearol hedd,
O dan y rhod;
"Nos da" y glyn roes ini glwy
Eich "Bore Da" ddisgwyliwn mwy—
Mae hwnnw'n dod.
GWRONIAID FFYDD.
Bu farw'r cenhadwr,
Cyn dod yn waredwr,
I'r pagan a garai mor fawr;
Dymuniad ei galon,
A'i swynol freuddwydion,
A chwalwyd fel mân us y llawr.
Fe gladdwyd y prophwyd,
A'i ganwyll ddiffoddwyd,
Cyn claddu tywyllwch y byd;
Fe'i rhoddwyd i huno
Cyn gweled yn gwawrio
Y boreu ddisgwyliodd gyhyd.
Fe gwympodd y milwr,
Cyn bod yn orchfygwr,
Yn angerdd ei boenau, a'i gur;
A chrechwen gelynion
Drywanodd ei galon,
Yn fwy na phicellau o ddur.
Ha! dirion wroniaid!
Os cauodd eich llygaid
Ar fyd o drueni, a braw;
Mae grym addewidion
Tu ol i'ch breuddwydion,
A llwyr fuddugoliaeth gerllaw.
MYNYDD CARTREF Y BARDD.
UNIGEDD y mynydd—
Bro dawel y moelydd,
A chartref cornentydd a brwyn;
Lle cân yr awelon,
Goruwch y cysgodion,
Sy'n llenwi y galon a swyn.
Ym mhell bo cerbydau
Yr anfad beiriannau,
Hyd brif—ffyrdd droadau y byd;
Mae mwswgl y mynydd
Yn well gan y prydydd,
Na melfed y trefydd i gyd.
Pa swyn sydd i'r galon
Mewn trystfawr olwynion,
Hyd lychlyd ffyrdd geirwon y byd;
A'r hen fynydd tirion
Yn gartref ysbrydion—
A chanddo gyfrinion o hyd.
Caed estron y trefydd,
Os oes mewn heolydd
Ryw fath o lawenydd, neu fri;
Ond esmwyth fwyn lwybrau,
Yn swn pell raiadrau,
A grug y mynyddau i mi.
Dan lechwedd ei "fynydd"
Rhoer bwthyn i'r prydydd,
I dreulio ei nawnddydd heb loes;
I rodio'r hen lwybrau,
Pan byr fo ei gamrau—
Hen lwybrau, gwyn fore ei oes.
Caed wel'd y llechweddau
Fu'n wel'd fil o weithiau—
Hen fynydd" serchiadau i gyd;
A'r ffarwel" ddiweddaf
Cyn iddo gael anaf,
Ar fore "dydd Sadwrn" y byd!
PA FODD Y DARLLENI?
PA fodd y darlleni, fy nghyfaill caredig,
A weli di'r gragen fach?
Anhysbydd ddirgelion o'i mewn sydd blygedig,
Er dyddiau ei mebyd iach;
Pan arall oedd hanes y dyfnder mawr, llydan,
Gwyr helynt y tonnog li,
Ac arni mae delw'r Creawdwr Ei hunan,
Os medri ei darllen hi.
A fedri di ddarllen mân ddail y coedwigoedd,
Yn llyfrgell y cread mawr?
Adnabod llaw—ysgrif dy Dad yn y Nefoedd
Ar furiau a llenni'r llawr?
A fedri di ddarllen y blodyn bach, tirion,
Yn ymyl dy lwybyr sydd!—
Mae bywyd ei hunan a'i ddwyfol gyfrinion,
Yng nghol y blodeuyn cudd.
A fedri di ddarllen y gruddiau llwyd, gwelw,
A dirnad y pruddaidd gwyn?
A fedri di olrhain llinellau'r storm arw
Ar wyneb dy gyfaill mwyn?
A fedri di ddarllen y deigryn bach distaw,
Di—rodres na welodd byd?—
Ac megys fferyllydd yn fedrus a hylaw,
Ddos—rannu ei gynnwys drud?
A fedri di ddarllen yng nghyfrol Rhagluniaeth,
A deall barddoniaeth Duw?
"Cyd—rhwng y llinellau" rhaid darllen yn helaeth
I wel'd y "meddyliau" byw;
Pwy feder sillebu y gair tirion "cariad"
Ar wyneb y cwmwl du?—
Mae hwnnw, fy nghyfaill, yn uchel ei alwad
Yng ngwersi y nefoedd fry.
Anfedrus yw dynion heb wybod na gweled
Meddyliau anfeidrol Ior;
Di-ystyr ddalennau, heb ddarlun na geiriau,
Yw'r mynydd, a'r tonnog fôr;
Os gwan yw dy lygaid, ac heb fedru gweled,
Rhaid iti gael gwella'th glwy—
Mae llyfrau y nefoedd i gyd yn agored
I'r dyn all eu darllen hwy.
Y "FFORDD HONNO."
[Canys yr oedd Efe i ddyfod y ffordd honno.]
I GEISIO gweled Iesu cu,
Mawr bryder fu, a gwylio;
Ond cyflawn dâl a gadd y dyn,
Pan wybu fod yr Iesu Ei hun
I ddyfod y "ffordd honno."
Cerdd dithau lwybyr "gras y nef"—
A gwylaidd lef ei deithio;
Os hir dy "ddisgwyl" ambell bryd
Fe fydd yn werth y draul i gyd—
Mae'r Iesu'n dod "ffordd honno."
Cawn arw riwiau yn y byd,
A rhaid o hyd eu dringo,
Bererin ar y creigiau serth,
"Yn ol dy ddydd y bydd dy nerth"—
Bu'r Iesu Ei hun "ffordd honno."
A phan ddaw'th dro i rodio'r glyn,
A thithau'n syn ymlwybro;
Nid unig fydd y dyffryn du
Tra o dy gylch bydd engyl cu—
Mae Iesu'n myn'd "ffordd honno."
Wrth borth y byd mae ambell un,
Yn flin, a bron diffygio;
Ond er mor chwerw yw ei gwyn,
Ni welir byth un angel mwyn
Yn myned y "ffordd honno."
ADAR BACH YR ALMAEN FAWR.
[Ysgrifennwyd yng Ngwanwyn 1915. Gwanwyn cyntaf y rhyfel mawr.]
ADAR bach yr Almaen fawr!
Pam y ciliwch?
Ar y dolydd têg yn awr
Nid arhoswch;
Myrdd o flodau yno sydd
Yn cyfodi,
Ond eich cân ar doriad dydd,
Wedi tewi.
Blant amddifaid Cymru lân
Pam yr wylwch?—
Cadair wâg o flaen y tân
Ddwed eich tristwch,
Geneth fach yn son bob hwyr
Am ei thada,
Ond anwylaf fam ni wyr
Pryd dychwela.
Engyl gwynion nefoedd fawr—
Gwlad tangnefedd
Beth yw "hanes" daear lawr
Wrth yr orsedd?
A yw cân hen seintiau cu
Wedi newid?—
Beth a ddwed y disglair lu
Am y "gofid."
Iesu! beth yw'th feddwl Di
Am y ddaear?
Gest ti 'th siomi ynddi hi,
Geidwad hawddgar?
Byd Dy gariad ydyw'r llawr—
Paid a'i ado;
Dangos faint Dy gariad mawr
Unwaith eto!
Y "BABAN A ANWYD."
Y "baban a anwyd!"
Mewn preseb a roddwyd,
Fe'i gwelwyd yn Methlehem dref;
Os heb ei adnabod,
Ar ol iddo ddyfod,
Efe ydoedd Arglwydd y nef.
"Y baban a anwyd!"
Brenhinoedd ddychrynwyd,
Gorseddau a siglwyd 'r un pryd;
A theyrnas y fagddu,
Ni phery ond hynny,
Efe raid "lywyddu" y byd.
Y "baban a anwyd!"
A heddwch gyhoeddwyd,
Ar unwaith rhwng nefoedd a llawr;
Cadd hen gweryl Eden,
Yn sydyn ei orffen,
Ac enw y "baban" fydd "mawr."
Y "baban a anwyd!"
Ffordd newydd a drefnwyd,
I'r truan i fyn'd at y Tad;
O ganol ei dlodi,
Er maint ei drueni,
Heb neb all roi iddo nacâd.
Y "baban a anwyd"!
Llif-ddorau agorwyd—
Daw mwy o fendithion i lawr;
A chariad y nefoedd,
Fel llanw y moroedd,
Fydd wedi gorchuddio y llawr.
Y "baban a anwyd!"
A "brawd ini roddwyd"
I eistedd ar orsedd y nen;
"Byw byth !" fyddo'r Brenin!—
Caed ddiolch ar ddeulin:—
A choron pob byd ar Ei ben!
COLLI AC ENNILL.
COLLODD bardd ei awen dirion—
Ei gydymaith mwyn;
Ac o'i cholli trist ei galon—
Chwerw fu ei gwyn;
Ond rhyw awel fach a'i cododd
Uwch amheuon ffôl
Heulwen eto a dywynodd,
Hithau ddaeth yn ol.
Collodd rhywun ei alawon—
Distaw fu ei gân;
Bu mor arw storm trallodion—
Wedi methu'n lan;
Ond rhyw noson cân angylion
Glywsai dros y lli;
Gan ddeffroi hen gân ei galon,
Ac yn ol daeth hi.
Collodd sant yng nglyn gofidiau,
Wedd ei Brynwr mawr;
Ac fel alltud yn ei ddagrau,
Bu yn crwydro'r llawr;
Ond fe chwelir niwl cysgodion,
A chymylau'r bedd—
Ffarwel byth i fyd "colledion"
Rydd dragwyddol hedd.
RHO DY FRAICH AR RIWIAU BYWYD.
RHO dy fraich ar riwiau bywyd,
I'th gydymaith mwyn;
Mae'n lluddedig gwel ei dristyd-
Clyw ei briddaidd gwyn;
Braich dy gydymdeimlad tirion,
Parod fyddo hi;
A bydd dringo'r llwybrau geirwon,
Yn fwy hawdd i ti.
Rho dy rym dan feichiau bywyd-
Grym yr ysgwydd gref;
A'th gymydog cofia hefyd,
Bydd ei gymhorth ef;
Nid breuddwydion ydyw bywyd,
Heddyw ar y llawr;
Ond "sylweddau" garw celyd,
Ac un ymdrech fawr.
Rho dy law ar lan yr 'afon"
Llaw "ffarwel fydd hi;
Ni fydd baich dy gyfaill tirion
Mwy, yn faich i ti;
Yn ystafell fechan cystudd,
Wedi'r garw ddydd,
Caled law gerwinol dywydd
Tyner law a fydd!
GWEDDI'R PERERIN.
Os oes "baich" rhy drwm i'w gario,
Os oes "croes" na fedraf ddwyn,
Paid a gadael i'm ddiffygio—
Cofia'r eiddil Iesu mwyn;
Galw fi
Dros y lli'
I Dy gartref dedwydd Di.
Wedi gorffen gwaith fy niwrnod—
Rhywun arall yn fy lle,
Gad i'm dros Iorddonen ddyfod—
"Cadw noswyl" yn y ne;
Gyda'r llu
Nefol fry'
A hen bererinion cu.
"TYRED A GWEL."
MAE'R cread yn llydan,
Tyr'd allan o'th guddfan,
I'w weled dy hunan,
Ac agor ei sêl;
Llais adar a blodau
Ar fil o lechweddau—
Hyd ddolydd a bryniau
Yw—"Tyred a gwêl."
Pwy byth feder wybod
Cyfrinach y Duwdod?—
Rhy fawr i'w hadnabod,
A chyfrin Ei sêl;
Ond byd o amheuon
Sydd lawn o angylion,
A'u galwad yn gyson
Yw—"Tyred a gwêl."
Anfeidrol feddyliau
Mewn dynol gyfrolau!—
"Toredig gostrelau"
Nid oes yn ddi-gêl;
Ond uchel yr alwad.
Hyd eithaf y cread,
A llais tyner Cariad
Yw—"Tyred a gwêl."
Agorir pyrth angau—
Rwy'n gweled y borau
A'r nefol orielau
Heb orchudd na sêl;
A galwad yr orsedd
Drwy'r oesau di-ddiwedd
Fydd dwyfol gyfaredd
Y "Tyred" a'r "gwêl."
SWYNION MEHEFIN.
MAE'r adar yn canu,
A'r blodau yn gwenu,
A phobpeth o'm deutu mor dlws;
A'r awel dyneraf
Yn holi am danaf
I'm croesaw ar riniog y drws.
Mae eithyn y mynydd,
A meillion y dolydd,
A'u gwisgoedd yn newydd bob un;
Ac nid yw'r glaswelltyn,
Yn ymyl y blodyn
Gywilydd i ddangos ei hun.
Mae'r gornant fynyddig
A'i llais mor garedig,
Yn dweud wrth y cerrig i gyd,
Am nwyf a rhialtwch—
Mwynhad a hyfrydwch—
Digymar brydferthwch y byd.
Ar wely y cefnfor
Mae'r tonnau'n dygyfor,
I ddweud am y "rhagor" ystôr;
O hyd ar y glannau,
Hyd bellaf derfynau,
Yn adsain "dyfnderau" yr Ior.
Anfeidrol ddarpariaeth,
A dwyfol lywodraeth,
Yn uno Rhagluniaeth a Gras,
A Duw pob daioni
A wên i'n sirioli
A phwy sydd heb brofi ei blas!
"TU YMA I'R IORDDONEN."
[A meibion Gad a meibion Reuben a ddywedasant, Rhodder y tir hwn i'th weision yn etifeddiaeth, na phar i ni fyned dros yr Iorddonen.]
"Tu yma i'r Iorddonen'"' mae rhywrai'n cartrefu
Ni ellir eu denu i adael y byd;
Angylion a seintiau eu cartref ganmolant,
Ond yma hwy lynant yn dynnach o hyd;
Dyffryndir a doldir, a thir anifeiliaid—
Corlannau y defaid, a llwyddiant y llawr,
Sy'n llenwi ett meddwl, yn swyno eu calon,
A'u pleser yn gyson bob dydd a phob awr.
"Tu yma i'r Iorddonen" mae rhywrai a'u trysor
Heb feddiant yn rhagor yng nghyfoeth y ne';
Ariandai y ddaear sy'n cadw eu coffrau,
Ac er maint eu dorau ansier eu lle;
Daearol fargeinion eu holl anturiaethau,
Bob hwyr a phob bore mewn pryder a chlwy'
Tragwyddol drysorau—"byd arall" feddiannau,
A nefol "ddaliadau" nid oes iddynt hwy.
"Tu yma i'r Iorddonen" mae rhywrai a'u ffryndiau
Ni feddant "gariadau" tu arall i'r lli;
Neb yno i ddwedyd cyfrinach eu calon,
I ystyr eu cwynion na gwrando eu cri,
Angylion o ffryndiau!—garedig gyfeillion,
A'u gwenau mor dirion yn lleddfu pob clwy',
A chroesaw anwyliaid tu arall i'r afon
Sydd ofer ddychymyg, di-swyn iddynt hwy.
"Tu yma i'r Iorddonen" ym myd poen ac adfyd,
Rwyf heddyw fel alltud am ennyd yn byw;
Tu arall mae'm cartref, ac yno mae'm calon,
F'anwylaf gyfeillion—fy Iesu a'm Duw;—
Tu yma o ganol anialwch Trueni
Fe gyfyd fy ngweddi dyneraf ei chri,
Pa bryd annwyl Iesu daw'r adeg i groesi?—
Tragwyddol ddihangfa fydd honno i mi!
PA BETH SYDD YN FACH, A BETH SYDD YN FAWR!
PA beth sydd yn fach, a beth sydd yn fawr
A beth sydd yn hawdd ei ddwyn?—
Efallai mai'r ysgafn i ti yn awr,
Fu'n llethu dy gyfaill mwyn;
Pa beth sydd yn troi "llifeiriant " y byd—
Yn selio "tynged" y nef?—
Fel baban yn wylo o fewn ei grud
Ni wyddost ei ystyr ef.
Pa beth sydd yn ddu, a beth sydd yn wyn?
Siaredi yn hynod rydd;
Mae'r hyn sydd i ti yn ddisglaer—wyn,
I arall yn ddu a phrudd;
Mae'r hyn sydd yn ddu a'r hyn sydd yn wyn
Yng nghysgod yr anial dir,
Yn "edrych fel arall" ar Seion fryn,
Yng ngwlad y goleuni clir.
Pa beth sydd yn wan, a beth sydd yn gryf?
Mae'n anhawdd dwedyd i ti;
Ti glywi y Corwynt yn bloeddio'n hyf,
Fel cadarn o nerthol fri;
Ond nid yw efe onid plentyn bach,
Neu lanc o anaeddfed oed—
Mae'r "Cedyrn o nerth"—y cerwi iach,
Heb siarad un gair erioed.
Pa beth sydd yn agos, a beth sy' mhell,
Ar gefnfor anfarwol fyd?
Mae'th lygaid yn wan, a thywyll dy gell,
I ddeall cyfrinion drud;
Mae'r maith eangderau o'th gylch bob llaw
Goleuni a weli fry;
Ai "yma" mae ef, ai ynte "tu draw,"
Ni wyddost fy nghyfaill cu.
Pa beth ydyw bach, a beth ydyw mawr,
Ond "termau" daearol fyd?
A'i hystyr yn unig i deulu'r llawr,
I'w deall ar hyn o bryd;
Pa beth ydyw bach, a beth ydyw mawr,
O amgylch gorseddfainc Duw?—
Rhaid aros goleuni y nefol wawr,
A rhaid myned yno i fyw.
BETH YDYW'R NEWYDDION?
[Ysgrifennwyd yng Ngwanwyn 1915]
Beth ydyw'r newyddion?—gofynant hwy,
Ar heol y ddinas fawr;
Tra llawer i galon o dan ei chlwy'
A gruddiau'n welw eu gwawr;
Beth ydyw'r newyddion? medd mam a thad
Ar aelwyd y bwthyn bach—
Oes eto un llythyr o'r estron wlad—
A ydyw y llanc yn iach?
Beth ydyw'r newyddion! chwi filwyr mwyn
Sy'n llechu'n y ffosydd llaith;
Gan wneuthur eich "gorchwyl" heb gri na chwyn―
Eich caled ddi—orffwys waith;
Beth ydyw'r newyddion? wlad weinydd mad,
Sy'n gwylio dyfodol du;
A weli dy "heulwen" ar "fryniau'th "wlad,
A gwawr y boreuddydd cu?
Beth ydyw'r newyddion? chwi arwyr rhydd
Ar heol y wybren lâs;
A chwithau mewn dirgel ystafell sydd
Yn "trydar" wrth orsedd gras;
Beth ydyw'r newyddion? ddiwinydd mwyn
Yng nghartref dy fyfyr gell;
Tra'n welw dy wedd, a phruddaidd dy gwyn
Yn ceisio'r "goleuni gwell."
"Pa beth am y bore? chwi wylwyr byd,
Ar dyrau y muriau mawr—
Cymylau tywyllwch i ni o hyd
Sy'n cuddio wybrennau 'r llawr;
Pa beth ydyw'r "newydd" o'r orsedd fry
A beth yw "arweiniad" y nef?
Mae'r diwrnod mor dywyll—Waredwr cu!
Paid heddyw a'i wrthod ef!
CILIO MAE'R HUAN!
(Ysgrifennwyd Hydref, 1917).
CILIO mae'r huan, draw dros y marian—
Prydferth yw'r lleuad, fry yn y nen;
Yno mewn lludded, bychan ei nodded,
Llencyn o filwr orphwys ei ben;
Myrdd o adgofion leinw ei galon
Am ryw wyn fwthyn, camfa, a dôl;
Cri yr awelon adsain ei gwynion—
Gofyn a gaiff ef ddychwel yn ol.
Torri mae'r wawrddydd—clir ael y mynydd
Mawr ydyw ymchwydd terfysg y gâd;
Ond dwed banllefau creulawn fagnelau,
Na chaiff y milwr ddychwel i'w wlad;
Bedd bychan dorrir, yno fe'i rhoddir,
Mwyach nis gwelir lencyn hardd bryd—
"Croes" fach i'w gofio—engyl i'w wylio,
Tawel ei huno—dedwydd ei fyd!
Chwely'r cymylau—paid y taranau—
Dyfod mae dyddiau nefol eu bri;
Haul i dywynnu—adar i ganu—
Blodau i wenu, eto fydd hi;
Cenir i'r "gwron" felys alawon,
Cynhes fydd calon hen Walia lân;
Ac fe ddaw'r bore, eto bydd yntau'n
Flaenaf y rhengau—'n uchaf ei gân.!
BENDITH Y CWMWL.
MAE rhywrai'n gofyn yn y byd—
Paham na byddai'n "haf o hyd,"
Heb ddeall ystyr pethau;
Tra bo disgleirdeb nefoedd wen,
Gerllaw'n pelydru heb un llen,
Anghenraid yw cymylau.
Rhy wan ein llygaid heddyw'n wir—
Rhy wan i ddal goleuni clir—
Maent lygaid niwl a dagrau,
A nefol Dad o'i gariad mawr,
Sy'n codi llenni uwch y llawr,
A dyna yw cymylau.
Ni fedrem gydymddwyn a'r byd,
A dim ond mwyniant ynddo'i gyd—
Dim byd ond melysderau;
Mae'n rhaid "tymeru" pob mwynhad
A chwerwderau anial wlad—
Trugaredd yw cymylau.
Trallodus ydyw plant y llawr,
Heb weled llaw Rhagluniaeth fawr,
Gan faint yr anhawsderau;
Ond nid yw'r cwmwl duaf ryw
Ond cyfaill goreu plentyn Duw.
A'i ŵg yn nefol wenau.
Diolchwn heddyw yn y byd
Am ennyd fach i lechu'n glyd—
Am fendith y cysgodau;
Ond pan gawn olwg llawn a rhydd
I ddal tragwyddol, nefol ddydd,
Afreidiol fydd cymylau.
MI'I GWELAIS HI.
Mr'i gwelais hi yn eneth fach,
Ar fore bywyd;
Ei gwên yn llon a'i gruddiau'n iach,
A'i chân yn hyfryd;
'Roedd hi yn medru swyno'r plant,
A llu cyfeillion;
A'i chanig fach yn taro tant
Tynera'r galon.
Mi'i gwelais hi yn wyryf lan,
A phur ei rhodiad;
A pheraidd odiaeth oedd ei chân
I dirion Geidwad;
Y "capel bach" nos waith a Sul
Oedd gartref iddi,
A thra bo "rhodio llwybyr cul,"
Bydd cof am dani.
Mi'i gwelais hi yn weddw brudd,
Yn nyffryn adfyd;
Yn araf gerdded tywyll ddydd
Mis Hydref bywyd;
"Ar hyd y glyn" y rhodiodd hi
Y llwybrau geirwon,
Melysach oedd ei chân i mi
Yn swn yr afon.
Mae heddyw fry yn fawr ei chlod,
Yng nghwmni engyl;
'Roedd hen gyfeillion wedi bod
Am dani'n disgwyl;
Chadd neb fath groesaw dros y lli-
Angyles dirion;
A heddyw newydd gân fedd hi,
Wrth "fodd ei chalon."
"CWRDD TU YMA I'R "AFON."
[Ymson gwraig y milwr).
"GAWN ni gwrdd" tu yma i'r "afon,"
Cyn cyfarfod fry?—
Dyna ydyw iaith fy nghalon
Heddyw briod cu;
Hyfryd fu dy gwmni filwaith—
Melys llawer awr;
Gawn ni ennyd fechan unwaith
Eto, ar y llawr?
Gwir fod gwlad heb boen na thrallod,
Mewn tragwyddol hedd;
Gwir fod dydd o fwyn gyfarfod,
Ar Ei "newydd wedd;"
Ond mae serch yn methu cefnu
Ar hen gartre'r byd;
"Gawn ni gwrdd" unwaith ond hynny,
Yw ei chri o hyd.
Cyn gwel'd gwenau anfarwoldeb,
Ar dy wyneb cu;
Gaf fi eto wel'd dy wyneb,
Fel mewn dyddiau fu?
Siarad eto iaith y ddaear,
Dros ryw fyr brydnawn;
Er yn eiriau poen a galar
Maent yn annwyl iawn.
Gawn ni ar y llawr gyfarfod,
Gofyn serch o hyd;—
Methu'n lan a llwyr ddygymod
A'r tragwyddol fyd;
Ond os yma briod tirion
Daw'r "ffarwel" a'i glwy;
Henffych gwrdd tu draw i'r "afon,"
Heb ymadael mwy!
PE TAWAI Y RHAI HYN."
[Pe tawai y rhai hyn, llefarai y cerrig yn y fan.]
CLYW gân yr aderyn,
Ar fore o wanwyn,
A'i foliant yn esgyn
I ganol y ne;'
Fe ganai y brigyn,
Dan droed yr aderyn,
Heb oedi munydyn,
Pe tawai efe.
Mae'r "wraig" wedi dyfod
A'r enaint ryw ddiwrnod,
Fe'i "torrwyd" er syndod
I'r cwmni i gyd;
Mawr ydyw y "cwyno"
Gan rywun sydd yno
Ond gwneud iddi beidio
Ni feder y byd.
Mae'u traed yn y cyffion
A'u rhwymau yn dynion,
Ond "cri'r" carcharorion
Wna'r ceidwad yn syn;
Na feier eu "trydar,"
Ni safai'r hen garchar
Ar wyneb y. ddaear
"Pe tawai'r rhai hyn."
Mae plant y trallodion
Mor fwyn eu halawon,
Nes synnu'r cantorion,
Tu arall i'r glyn;
Disgynnai angylion
I lawr ar eu hunion,
I ganol marwolion,
Pe tawai'r rhai hyn."
Clywch gân pererinion,
Dan feichiau pryderon,
Ar lwybrau trallodion,
Yn nyfnder y glyn;
Mewn adfyd yn llawen!-
Diffoddai yr heulwen,
A safai daearen,
"Pe tawai'r rhai hyn."
Y "MANNA" A "HEN YD Y WLAD."
[A'r manna a beidiodd drannoeth ar ol iddynt fwyta o hen yd y wlad.]
Fe beidia manna'r llawr
Ryw "drannoeth" gwyn sy'n dod;
Pan dyr y nefol wawr,
A newid trefn y rhod;
Mil henffych iddo "drannoeth" gwyn,
Medd teulu'r llawr a phlant y glyn.
Fe dderfydd cwmni'r saint
Yr ochor hyn i'r bedd,
Er cymaint fu eu braint,
Rol dod i'r nefol wledd;
"Hen ŷd y wlad"—ffrwyth Canaan dir,
Fydd ar y "byrddau" cyn bo hir.
Angenrhaid teithiwr yw
Y manna ar y llawr;
I bererinion Duw
Mor werthfawr yw yn awr;
Ni fedrem ddringo "rhiwiau'r" daith,
Pe heb ei gymorth lawer gwaith.
Chwenychwn "ŷd" y nef,
Yn fynych ar y llawr;
Ond Duw nis dyry ef—
Mae'r manna'n well yn awr;
Mae'n rhaid i'r teulu gartref gwrdd,
Cyn rhoi'r danteithion ar y bwrdd.
Cyfeillach fach y llawr,
A chwmni'r "dau neu dri,"
Fu hyfryd lawer awr,
A melys iawn i ni;
Ond pan gyrhaeddwn Ganaan wlad,
Nid hyn fydd croesaw Tŷ ein Tad.
Gyd-bererinion mwyn,
Sy'n awr ym mhell o dref,
Rhaid yma gyd-dymddwyn-
Nid cartref ydyw ef;
Ond plant y manna ar y llawr,
Fydd "dewis gwmni'r "neithior fawr!
Y "LLANC O GYMRO!"
[Ysgrifennwyd yn ystod misoedd y Rhyfel mawr).
AR wastadeddau'r estron wlad,
Mi wela'r "llanc o Gymro;"
Gwag yw ei le yn nhŷ ei dad,
A phrudd yw'r cof am dano.
'Roedd dydd ei fyn'd o'i gartref clyd.
Yn ddiwrnod byth i'w gofio;-
Rhyfeddaf ddiwrnod yn y byd
Fu hwn i'r "llanc o Gymro."
Mae gweddi mam a chyngor tad,
O hyd yn annwyl iddo;
Fel engyl gwyn hen Walia fad,
Yn gwylio'r "llanc o Gymro."
Tra bloedd y gâd rydd ofn a braw-
A'r fagnel fawr yn rhuo,
Drugarog Dad! bydd Di gerllaw,
A chofia'r "llanc o Gymro."
Os daw yn ol ryw fore iach,
Erioed ni fu'r fath groeso,
Ac "arwr" yn y pentref bach
A fydd y "llanc o Gymro."
Ond os mai cwympo fydd ei ran
Heb ddychwel mwy o hono
Boed gysegredig byth y fan
Lle'r huna'r "llanc o Gymro."
TRA DAEAR DUW O DAN FY NHROED.
TRA daear Duw o dan fy nhroed,
A nefoedd Duw uwchben,
Nid oes un gelyn fu erioed
All feiddio rhoddi sen;
Os niwl y llawr am ennyd fach,
Sy'n cuddio arall fyd,
Mor fuan daw'r tragwyddol iach,
I chwalu'r niwl i gyd!
Tra "cwmwl tystion" seintiau cu
Ar oriel Gwynfa fawr,
Ac yn eu plith anwyliaid fu'n
Cyd-deithio daear lawr,
Mae nefol swyn eu gwenau hwy
Yn galw'n fwyn o hyd;
Ac i mi fil o weithiau'n fwy
Na holl bleserau'r byd.
Tra Duw yn Dad a Iesu'n Frawd,
Ac Ysbryd Glan mor gu,
Yn gyfaill mwyn, nid ofnaf wawd,
Na dirmyg uffern ddu;
Ym mlaen mi af, heb ofni braw
Yr oesau maith, di-ri-
Hyd eithaf tragwyddoldeb draw,
Yng nghwmni Dwyfol Dri!
CAN Y BARDD.
AR fore o wanwyn,
Yng nghwmni aderyn,
A deilen pob brigyn yn hardd;
I Dduw pob bendithion,
Am fyd llawn o swynion,
Cân "moliant" a ganai y bardd.
Ar fore gwyn bywyd,
Ym mraich ei anwylyd,
Hyd lwybrau mân flodau yr ardd,
A'i geiriau mwyn tirion
Oedd wrth fodd ei galon,
Cân "cariad" a ganai y bardd.
Pan ddaeth cwmwl adfyd,
Dros wybren ei fywyd,
Heb flodyn, na dim byd yn hardd;
Ei lwybyr yn arw,
A'i ruddiau yn welw,
Cân "hiraeth" a ganai y bardd.
Pan chwalwyd cymylau
Cadd drem ar y borau,
A phobpeth yn brydferth a hardd;
Wrth wel'd ei anwylyd
Ar "lan afon bywyd"
Cân "gobaith" a ganai y bardd.
Byd cyfnewidiadau
Yw byd gorthrymderau,
Heb ddim ynddo'n aros yn hardd;
Ond uwch ei gymylau,
Mae cartref caniadau,
Ac yno cewch oreu y bardd!

Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.