Ynys y Trysor/Bywyd ar yr Ynys
| ← Y Llong-ddrylliad | Ynys y Trysor gan Robert Lloyd Jones |
Yr Ymwelwyr → |
XII. BYWYD AR YR YNYS
YCHYDIG hamdden a gymrodd Harri yn ystod yr wythnosau cyntaf ar yr ynys i'w harchwilio, gan mor brysur ydoedd yn trefnu'r tŷ. Ond wedi gorffen y gwaith hwnnw, penderfynodd gymryd taith trwy'r ynys er mwyn dod i wybod ychwaneg yn ei chylch. Cyn cychwyn, gwnaeth iddo'i hun fwa a saethau, gan y gallent fod o wasanaeth iddo er hunan-amddiffyniad, neu o bosibl i sicrhau cig ffres pe digwyddai gyfarfod rhai o'r moch a welsai y diwrnod cyntaf. Ymboenodd hefyd dipyn i ddysgu defnyddio'r bwa—arf anghynefin iddo—cyn cychwyn i'w daith. Gwir bod y llaw-ddryll ganddo, ond prin oedd ei ergydion, a byddai raid iddo eu cynilo, rhag ofn y byddai'n dda iddo wrthynt yn erbyn gelynion.
Un bore'n blygeiniol, cychwynodd ar ei bererindod, gan gymryd ychydig fwyd gydag ef. Ni wyddai faint yr ynys, a phosibl y cymrai fwy nag un diwrnod iddo wneud ei daith. Cychwynodd i fyny gyda'r afon fechan a redai heibio'r bwthyn, gan fwriadu gwneud am y bryn uchel a welsai oddiar fwrdd y llong. Fel y disgwyliai, gwelai'r holl ynys o ben y bryn, a'r môr yn ei hamgylchu. Ynys gymharol fechan ydoedd— rhyw bedair milltir o hyd, ac ychydig yn llai ar ei thraws. Gwelai ei bod yn ynys goediog, a bod cors yn ymestyn ar ei thraws, gan ei rhannu bron yn ddwy. Gwelai fod y rhan oedd y tu draw i'r gors—y pen dwyreiniol—yn ymddangos yn fwy coediog a ffrwythlon na'r rhan gorlleẃinol lle 'roedd y bwthyn, ac yn hwnnw codai'r tir i fryn pur uchel. Draw tua'r gorllewin a'r gogledd-orllewin, gwelai'r ynys arall a welsai o'r blaen —ymddangosai'n ynys fawr—cryn lawer yn fwy na'r un yr oedd ef arni, a mynydd-dir lled uchel arni, ar yr hwn y gorffwysai cwmwl gwyn.

Yr ochr draw i'r gors, ar ochr ogleddol ei ynys, gwelai fau bychan prydferth, tebyg iawn ei ffurf i fau Glandon.
Carasai fynd i'r ochr draw i'w chwilio'n fanylach, ond nid oedd arno awydd mynd yn agos iawn i'r gors, gan y clywsai am berygl afiechydon oddiwrth gorsydd yn y gwledydd poeth, ac felly ymfoddlonodd ar chwilio un ran o'r ynys yn unig y diwrnod hwnnw. Darllenasai gryn lawer am Ynysoedd Môr y De byth oddiar yr adeg y clywsai am ynys y trysor, fel y crybwyllwyd, a gwyddai fod dau fath o ynysoedd yno, sef rhai wedi eu ffurfio gan y mân bryfaid—y coral polyps—a'r rhai wedi eu ffurfio fel effaith llosg fynyddoedd a chynhyrfiadau tan-ddaearol (volcanic). Ynysoedd isel, gwastad yw ynysoedd y coral, ac felly er bod reef coral o amgylch yr ynys y cartrefai arni, volcanic ydoedd yn ei tharddiad, a dyna a gyfrifai am ei ffrwythlondeb. A'r rheswm fod y pen dwyreiniol yn ymddangos yn fwy coediog a ffrwythlon na'r pen gorllewinol ydoedd, mai o'r dwyrain y deuai'r gwynt a'r glaw fynychaf, er yn ddiau y ceid ambell ystorm o'r gorllewin.
Wedi cael rhyw gipdrem frysiog ar yr ynys a'i hamgylchiad o ben y bryn, trodd Harri i ddychwelyd, ond cymrodd lwybr gwahanol er mwyn astudio'n fanylach y pen gorllewinol. Ar ei ffordd âi heibio i lwyni trwchus o goed, ac ar y brigau gwelai adar prydferth, amryliw, ond yr oeddynt yn od o ddi-gân o'u cymharu ag adar Cymru. Sylwodd hefyd yma ac acw ôl turio neu dyllu pur ffres yn y ddaear, a methai am ysbaid ddyfalu beth allsai fod yn gwneud y tyllau. Ond cafodd oleuni ar y dirgelwch pan ddaeth ar draws cenfaint o foch yn pori. Ar ei ymddangosiad ef, troisant i ddianc, ond anelodd Harri atynt â'i fwa, a chlywodd ysgrech gan un wrth iddo syrthio ar y ddaear.
Llawenhai'n fawr yn ei lwyddiant i drin y bwa, a rhedodd ymlaen i orffen lladd a sicrhau'r ysglyfaeth, ond gwelodd y fam—hen hwch anferth—yn rhedeg tuag ato â golwg ffyrnig arni. Ni chaffai Harri fynd yn agos at y mochyn truan i'w ryddhau o'i boenau, nes iddo gofio am y dryll. Taniodd hwnnw gan ei bwyntio tuag i fyny, a bu sŵn yr ergyd yn ddigon i ddychrynu'r fam, ac i'w gyrru nerth ei chamau ar ôl ei thorllwyth. Wedi trywanu'r mochyn â'i gyllell, cylymodd Harri'r traed, a dygodd ef ar ei bastwn tua'r bwthyn yn fuddugoliaethus, gan addaw iddo'i hun wledd ddigymar drannoeth. Yn fuan wedi lladd y mochyn, daeth at nifer o fythynod bregus, ac wedi edrych yn ofalus o'i amgylch, nesaodd atynt braidd yn ofnus, ond cafodd hwynt yn wag, fel y cyntaf. Nid oedd bellach amheuaeth yn ei feddwl nad efe oedd unig breswylydd yr ynys.
Darganfyddiad arall a wnaeth cyn cyrraedd y bwthyn oedd natur yr hyn a durid gan y moch o'r ddaear. Cafodd allan mai rhyw wreiddiau oeddynt, a phenderfynodd mai yr yams y darllenasai amdanynt oeddynt, gwreiddiau ag iddynt flas tebyg i datws. Nid oedd yn hollol sicr, ond penderfynodd eu profi. Gwyddai nad allai dim oedd yn llesol i fochyn fod yn wenwyn i ddyn. Profodd hwynt yn amrwd, ac yr oedd yn hoffi'r blas, er yn ddiau y buasent yn well wedi eu coginio. Dychwelodd i'r bwthyn yn llon ei ysbryd yn y rhagolwg am ddigon o datws a chig tra byddai ar yr ynys. Yr oedd digon o fan-wydd hyd y ddaear i wneud tân, ac yr oedd wedi darganfod ffordd effeithiol i gynneu'r tân trwy ddal darn bychan o wydr yn ymyl papur a chael fflam oddiwrth wres yr haul. Yr oedd hefyd wedi darganfod ffynnon o ddwfr blasus o dan y graig yn ymyl y bwthyn. Fel rhwng popeth, teimlai fod ganddo achos i fod yn ddiolchgar ei bod mor dda arno ar yr ynys unig.
Wedi darganfod y bryn y gellid gweld o amgylch yr ynys oddiamo, cyrchai yno'n fynych i edrych a welai long yn rhywle yn y cyffiniau, ond siomid ef bob tro. Nid oedd dim tebyg i long i'w gweld yn unman ar y môr mawr, liydan. Ofnai fod yr ynys allan o lwybr cyffredin trafnidaeth, ac na chai byth ei waredu oddiyno. Unwaith neu ddwy, tybiodd iddo weld ryw bethau duon draw ar y môr yn agos i'r ynys fawr grybwyllwyd—yr oedd yn sicr fod yno rywbeth yn ymsymud ar y dwfr, a bamai mai badau (canoes) y trigolion oeddynt. Beth pe baent yn glanio ar ei ynys ef, ac yn ei ddal a'i fwyta, fel y clywsai amdanynt yn gwneud gyda dynion gwyn? Byddai yr ofn hwn dan ei fron yn fynych, ac edrychai bob dydd tua'r ynys fawr, rhag ofn iddynt ddod yno heb yn wybod iddo.
Ymhen y deufis wedi iddo gyrraedd i'r ynys, a dechrau ymgartrefu yno, daeth yn ystorm debyg i'r hon a'i dygodd i'r ynys. Yr oedd wedi bod yn boeth annioddefol trwy'r bore, ac yn y prynhawn teimlai'r awyr yn drymaidd anarferol. Gostegodd yr awel, a daeth rhyw ddistawrwydd llethol a bygythiol trwy'r holl le. Distawodd yr adar hynny o gân oedd ganddynt; deuai sŵn arswydlawn o'r môr—crafai ei waelod, ys dywedir, yn anniddig. Duodd y ffurfafen, a chyn hir wele fellten yn rhwygo'r awyr a sŵn y daran yn dilyn yn ddioed. Ac yna disgynnodd y storm arno, nes ei atgofio'n fyw o'r storm fawr a'i gyrasai yno. Cododd yr awel, ond y tro hwn o'r gorllewin, a disgynnodd y glaw yn genlli. Deuai'r glaw yn llifeiriant trwy nen bregus ei fwthyn. Ond da iddo fod ganddo dŷ ar y fath ystorm, a da fod y tŷ hwnnw mewn lle cysgodol, neu buasai wedi ei falu'n ysgyrion. Clurai'r coed yn clecian o'i gwmpas gan y gorwynt. At y nos gwaethygodd; ofnai na ddaliai'r tŷ tan y bore gan rym y corwynt difaol. Yn sydyn, cofiodd am ei gwch oedd yng ngheg yr afon fach, a phenderfynodd fynd yno drwy'r ystorm i geisio'i ddiogelu. Nid oedd ganddo ond tua dau can llath i fynd yno, ond yr oedd y gwynt i'w wyneb, ac amhosibl braidd oedd symud. Yr oedd yn dywyllwch dudew; ni allai weld modfedd o'i flaen, a rhwng rhuad y môr yn torri ar y lan, a rhuad y gwynt yn y coed, a sŵn y coed yn cael eu torri i lawr o'i amgylch, yr oedd yn ddigon i ddychryn unrhyw un. Wedi cwympo unwaith neu ddwy ar draws coed a daflesid ar ei lwybr, rhoes i fyny mewn anobaith, a cheisiodd ymbalfalu'i ffordd yn ôl i'w fwthyn coed, ac nid hawdd oedd dod o hyd iddo yn y tywyllwch oedd fel y fagddu.
Parhaodd yr ystorm trwy'r nos a thrwy'r dydd dilynol, a rhaid fu arno aros yn y bwthyn. Erbyn y trydydd dydd yr oedd trosodd, ac O! olygfa gafodd Harri pan aeth allan. Yr oedd cannoedd o'r coed wedi cwympo a brigau'n gorchuddio'r ddaear ymhob cyfeiriad. Ei ofal cyntaf oedd y cwch. Aeth i lawr i edrych amdano, a beth oedd ei syndod, debygwch, o'i gael wedi ei gario gryn hanner can llath i'r tir! Rhaid mai ton a'i cododd yno. Diolchai erbyn hyn nad oedd wedi ceisio mynd ato trwy'r ystorm neu buasai'n sicr wedi boddi. Sut byth y cai'r cwch yn ôl i'r dwfr dros hanner can llath o dir? oedd y cwestiwn ddaeth i'w feddwl. Wel! gallai wneud heb y cwch am ysbaid, beth bynnag, ac yr oedd ganddo bethau eraill i feddwl yn eu cylch. Y prynhawn hwnnw, penderfynodd fynd draw i edrych sut olwg oedd ar yr hen long oedd wedi bod am ddeufis ar y creigiau. Ond, fel yr ofnai, nid oedd hanes amdani,—yr oedd yr ystorm fawr wedi gwneud diwedd arni. Chwiliodd hyd y glannau am ryw ddamau ohoni allsai fod wedi eu golchi i'r lan, ond nid oedd dim i'w weld. Rhaid felly ei bod wedi suddo i'r môr o'r tu allan i'r reef. Daeth ton o ddigalondid dros ei ysbryd wrth feddwl am yr hen long wedi mynd na welai mohoni byth mwy, ac wrth feddwl amdani daeth iddo atgofion melys a chwerw am yr amser a dreuliasai ar ei bwrdd. Ond ieuanc ydoedd, ac ni phery digalondid i flino'r ieuanc iach yn hir.
Wedi dychwel i'r bwthyn, penderfynodd y mynnai geisio symud ei gwch yn ôl i'r dwfr. Mae'n wir nad oedd wedi gwneud unrhyw ddefnydd ohono ar ôl gorffen cludo'r nwyddau o'r llong, ond ei brysurdeb gyda threfnu'r bwthyn ac archwilio'r ynys a gyfrifai am hynny, a meddyliai y buasai awr neu ddwy yn y cwch ambell ddiwmod yn ddifyr odiaeth, yn enwedig os gallai osod hwyl arno. A phe deuai llong i'r golwg ryw ddiwmod, fel y parhai i obeithio er ei siom aml, sut y gallai fynd allan ati ond yn ei gwch? Felly, rhaid oedd cael y cwch yn ôl i'r dwfr, ac aeth ati o ddifrif i geisio'i gael yn ôl. Hanner can llath oedd o ffordd, a'r tir yn bur wastad, heb fod ond ychydig o rediad ynddo. Ceisiodd osod y rhan crwn o goes y rhwyf o dan y cwch, a gwthio'r cwch i rowlio drosto, modd y gwnaent gyda chychod Minymor ers llawer dydd i'w cael i'r dwfr, ond methiant fu'r cynllun hwn. Yr oedd y cwch yn rhy drwm iddo allu ei ysgwyd, chwaethach ei symud. Felly rhaid wrth gynllun arall. Yr un ffordd arall welai'n bosibl oedd trwy agor ffos ddofn o'r cwch at y môr, a nofio'r cwch i lawr. Golygai hyn waith caled a blin, ond nid un oedd Harri i gymryd ei ddigalonni gan anawsterau, a dechreuodd ar y gwaith gyda'i gaib a'i raw. Daliodd ati am wythnosau'n ddiwyd, nes llwyddo yn ei amcan. Yr oedd ganddo ffos ddofn o'r môr at y cwch, y gallai symud y cwch yn hawdd ar hyd-ddi i'r môr pan fynnai. Penderfynodd gadw'r cwch yn y ffos hyd nes y byddai arno ei angen, gan fod yno le mwy cysgodol na cheg yr afon fach pe digwyddai ystorm arall ysgubo'r ynys. Fel y crybwyllwyd eisoes, cadwai Harri gofnodion dyddiol o'i weithrediadau mewn llyfr,—gwell cynllun o gadw cyfrif o'r amser nag eiddo Robinson Crusoe o dorri nôd mewn pren am bob diwrnod. Gwyddai mai ar y 13eg o Fedi, 1893 y collasid yr "Arfonia," a chyn iddo orffen y ffos, yr oedd yn tynnu at ddiwedd Mawrth 1894, ac felly yr oedd wedi bod dros chwe mis ar yr ynys heb weld undyn byw, na gweld llestr o fath yn y byd yn hwylio heibio'r ynys.
Yr oedd yr hin erbyn diwedd Mawrth ryw gymaint yn haws ei oddef nag a fuasai hyd hynny, gan nad oedd pelydrau'r haul yn disgyn yn unionsyth arno, a theimlai awydd ymafael mewn rhyw orchwyl arall. Llunio mast i'r cwch i ledu hwyl arno'n sicr oedd y gorchwyl a hawliai sylw gyntaf, gan na wyddid pa mor fuan y byddai'r angen pe deuai llong i olwg yr ynys. Felly aeth ati o ddifrif. Yr oedd yn dda iddo wrth arfau'r saer i lunio mast, a gwnîo nifer o hen lieiniau yn ei gilydd wnaeth i gael hwyl. Ac, wrth gwrs, wedi cael mast a hwyl, yr oedd yn dra awyddus i roi praw arnynt. Nid oedd wedi archwilio'r ynys y trigai ynddi—yr 'oedd heb fod o gwbl yn y pen dwyreiniol—yr ochr draw i'r gors.
Felly, pan ddaeth awel ysgafn ffafriol un bore, cychwynodd yn ysgafn ei fron am y cwch, i wneud taith ynddo o amgylch yr ynys os gallai. Ychydig drafferth a gafodd i gael y cwch ar hyd y ffos i'r môr, ac yna i fyny â'r hwyl, ac i ffwrdd ag ef gan hwylio oddimewn i'r reef. Yr oedd yr hwyl yn ateb y diben yn dda a Harri'n eistedd yn ôl wrth y llyw, wrth ei fodd ar y dwfr! Nid oedd dim neilltuol yn tynnu ei sylw ar y lan—prydferth ddigon, ond yn bur debyg ymhob man. Wedi hwylio gyda'r lan ddeheuol, heibio lle bu'r llong-ddrylliad, gwelodd yr ochr draw i'r gors fod glan y môr yn greigiog—craig galch, a thyllau ac ogofeydd lawer ynddi, a llu afrifed o adar môr yn cartrefu yno,—adar mawr lawer ohonynt, ac yn aros yn dawel ar ei ymddangosiad. Wedi mynd heibio'r graig, a throi am ochr ogleddol yr ynys, daeth at drwyn o dir coediog yn ymestyn i'r môr, ac wedi amgylchu hwnnw, cafodd ei hun yn y bau prydferth a welsai o ben y bryn. Nid oedd yn ei weld mor debyg i fau Minymor erbyn mynd iddo, ond yr oedd yn debyg iawn i rhyw fau welsai Harri o'r blaen, er na allai yn ei fyw gofio ymhle y gwelsai ef.
Wedi cyrraedd i'r bau, glaniodd i archwiho'r lle'n fanylach. Hoffodd olwg y lle yn fawr. Yr oedd yno ddigon o goedydd, a ffrwythau arnynt—mwy nag oedd yn y pen gorllewinol. Sylwodd fod yno un goeden na welsai o'r blaen, ac wedi profi ei ffrwyth, cafodd fod blas tebyg i flas bara arno, ac adwaenodd y goeden fel y mango—neu y bread-fruit tree. Yr oedd digonedd o cocoanuts a bananas yao hefyd— ffrwythau aeddfed wedi disgyn hyd lawr, a rhai anaeddfed ar y canghennau.
Rhyw gan llath o lan y bau, yr oedd craig pur uchel yn codi ei phen, a theimlai Harri y buasai'n lle dymunol i wneud tŷ Yn y graig canfu ogof fechan, a meddianwyd ef gan y syniad y buasai'n lle rhagorol i gadw'i fwydydd ynddo. (Yr oedd ganddo eto lawer o fwydydd y llong yn aros, a chadwent yn llawer gwell yn yr ogof nag yn unman arall.) Penderfynodd yr âi ati'n ddioed i wneud tŷ iddo'i hun wrth odre'r graig. Byddai'r graig yn gysgod iddo rhag y dymestl,— a mwy na hynny, o'r fan honno wynebai'r môr mawr llydan. Haws lawer fyddai iddo weld llong, pe digwyddai un basio, o ben y graig nag o ymyl ei fwthyn, a theimlai'n fwy diogel wrth wynebu'r môr. Byddai'n bellach hefyd oddiwrth yr ynys arall. Nid oedd wedi teimlo'n gysurus yn y bwthyn er pan welsai'r badau ar y môr, gan ofn i'r barbariaid lanio a'i gymryd yn garcharor. Ond yn y fan hon, teimlai y byddai'n ddiogel rhagddynt.
Wedi meddwl am y cynllun, nid oedd dim amser i'w golli. Rhaid oedd dechrau ar y gwaith. Wedi gwneud pryd o'r ffrwythau blasus, aeth yn ôl i'r cwch i gwblhau ei fordaith o amgylch yr ynys. Yn fuan trodd yr awel yn ei erbyn, a rhaid fu arno dynnu'r hwyl i lawr a chymryd at y rhwyfau. Gorchwyl caled oedd rhwyfo'n ôl, ond nid oedd arno angen brysio am y byddai adref cyn y nos. Gwnaeth un darganfyddiad pwysig ar y ffordd yn ôl, sef nad oedd y gors yn cyrraedd ar draws yr ynys, ond y gellid cerdded o'i fwthyn i'r fangre newydd ddewisasai i wneud ei gartref. Llawenhai am hynny, gan y golygai na byddai raid iddo ddibynnu ar y gwynt a'r môr i allu mynd ôl a blaen.
Wedi cyrraedd i'w fwthyn yn bur lluddedig, aeth ati.i gynllunio tŷ newydd, ac i gasglu'r arfau ynghyd i gychwyn trannoeth. Mor llawen y teimlai erbyn hyn ei fod wedi achub celfi'r saer o'r llong, a'i fod yn weddol fedrus gyda hwynt.
Bore drannoeth, aeth a'r arfau gydag ef yn y cwch i ben arall yr ynys, a dechreuodd ar y gwaith. Torri pedair coeden i gael un ymhob congl oedd y gwaith cyntaf, ac yna llifio coed ar hyd eu canol i wneud ochrau. Gwaith caled i'r bachgen oedd symud y coed a'u gosod i sefyll yn ddiysgog yn y conglau, ond llwyddodd trwy benderfyniad a dyfal-barhad. Yr oedd wedi gafael yn y gwaith o ddifrif, a'r anturiaeth newydd wedi mynd a'i fryd yn llwyr. Ar y dechrau, âi ôl a blaen nos a bore rhwng y tŷ newydd a'r hen dŷ, naill ai gyda chwch neu ar draed, ond cyn hir blinodd ar hyn, gan y golygai ludded di-alw amdano, a gwastraff ar amser. Gwnaeth le iddo'i hun i gysgu'n yr ogof, ond âi i'w gartref i fwrw pob seithfed dydd. Bob bore, cyn dechrau gweithio, âi i ben y graig i daflu golwg dros y môr am long, ond y naill fore ar ôl y llall deuai i lawr heb weld dim yn hwylio'r cefnfor llydan. Ond ni ddigalonnai. Ai ymlaen gyda'i waith er pob siom, gan gredu'n gryf y gwaredid ef ryw ddiwrnod, a hyd hynny nid oedd dim ond ceisio gwneud y gorau o'r gwaethaf.
Ar ffrwythau yr ymborthai ymron yn hollol yn ystod cyfnod adeiladu'r tŷ, ac yr oeddynt yn dygymod yn dda ag ef. Yr oedd yn rhy brysur i gael amser i hela'r moch, er bod digon ohonynt yn y pen hwnnw i'r ynys. Mwynhai y bananas a'r cocoanuts, a digonent ef. Dysgodd un peth newydd ynghylch y cocoanuts. Yr oedd yn ddigon cynefin â blas y rhai aeddfed cyn gadael cartref erioed—gwelsai hwynt ym Minymor adeg yr arddangosfa anifeiliaid bob mis Mai, pan fyddai yno bob math o stondins i wario arian wrthynt. Ond sylwodd fod lliw y ffrwyth anaeddfed ar y coed yn wyrdd, a dringodd goeden i dynnu ffrwyth anaeddfed er cael profi ei flas. Wedi gwneud twll trwy'r plisgyn, dododd ei enau wrtho, ac O! llifodd i'w geg y ddiod orau gawsai erioed, llawer mwy blasus a gwell at dorri syched na'r ddiod geir o'r ffrwyth aeddfed. Felly cafodd o'r un goeden fwyd a diod, a phob tro y teimlai'n sychedig (a byddai hynny'n bur fynych), dringai'r goeden dal-syth i dynnu diod.
Yn rhyfedd iawn, nid oedd wedi gweld unrhyw greaduriaid ar yr ynys ond y moch, a rhyfeddach na hynny, nid oedd yno ymlusgiaid o fath yn y byd. Rhyfeddai na fuasai yno nadroedd gwenwynig yn y fath hinsawdd ffafriol iddynt.
Cymrodd fisoedd lawer iddo orffen ei dŷ, a symud rhai o'i bethau yno. Ac wedi iddo ei orffen, teimlai rhyw ymlyniad rhyfedd wrth yr hen fwthyn, a gadawodd rai pethau yno. Hoffai fynd yno i dreulio diwedd yr wythnos, a dychwelai i'w gartref newydd wedi derbyn budd o'r newid.
Ofer fyddai gwastraffu amser i ddisgrifio'i fywyd beunyddiol ar yr ynys. Ond cai bachgen o natur fywiog Harri rywbeth i'w wneud yn barhaus. Y peth cyntaf bob bore oedd ymdrochi yn y bau o flaen y tŷ. Nid âi ymhell o'r lan gan yr ofnai y gallai fod siarc heb fod ymhell. Unwaith bu agos iddo syrthio'n ysglyfaeth i'r anghenfil hwnnw, a'i gyflymder i droi yn sydyn yn y dwfr a'i hachubodd rhagddo. Byth wedi hynny, cadwai'n agos i'r lan, a gwyliai am symudiad ar wyneb y dŵr arwyddai bresenoldeb siarc yn y bau.
Wedi'r ymdrochi âi i ben y graig o'r tu ôl i'w dŷ i edrych allan tua'r môr. Wedi hynny, dychwelai i wneud rhyw waith tua'r tŷ, neu i ddarllen, ac ambell brynhawn âi am dro ar hyd yr ynys, naill ai i'w harchwilio'n fanylach, neu i hela'r moch. Weithiau, âi allan gyda'r cwch. Fel hyn, rhwng y naill beth a'r llall, treuliai ei amser yn ddifyr ddigon ag ystyried mai unig ydoedd.
Ymhen y ddwy flynedd i'r diwrnod wedi iddo gael ei fwrw ar yr ynys, aeth i ben y graig fel arfer, ac er ei syndod a'i lawenydd, beth a welai draw ar y gorwel tua'r dwyrain oddiwrtho ond rhywbeth tebyg i long. Prin y gallai gredu ei lygaid; rhwbiodd hwynt fwy nag unwaith i fod yn sicr ei fod yn effro, ac nad breuddwydio yr oedd. Ie'n sicr, llong ydoedd; nid oedd modd ei bod yn ddim amgen. Ond yr oedd ymhell iawn—barnai fod ugain milltir neu ragor rhyngddi ag ef. Wedi aros am ysbaid i graffu tua'r llong, aeth i lawr i edrych y cwch, a'i baratoi i'r môr, gan mor sicr y credai fod awr ei waredigaeth wedi dod. Yn fuan iawn, yr oedd i fyny ar ben y graig drachefn, ac O! yr oedd y llong yn nês, ac fel pe am basio'r ynys ar yr ochr ogleddol iddi. Penderfynodd mai ceisio mynd ati gyda'r cwch fyddai orau, gan na allai wneud arwydd oddiar yr ynys i'r rhai ar fwrdd y llong. Aeth i lawr drachefn, a brysiodd i gludo i'r cwch bopeth a farnai fyddai'n angenrheidiol arno, a chyn bod yr haul wedi codi i'w anterth, yr oedd yn barod i gychwyn. Cyn cychwyn, aeth i fyny unwaith eto i edrych ar y llong. Yr oedd yn ddigon agos erbyn hyn iddo weld mai llong hwyliau pur fawr ydoedd, a barnai ar ei chyfeiriad y pasiai o fewn rhyw bedair neu bum milltir i'r ynys. Wedyn ymaith ag ef yn y cwch, a gobaith gwaredigaeth a gweld ei anwyliaid yn llanw'i fron. Ond er mor llawen ydoedd gan y gobaith, teimlai fesur o chwithdod wrth adael yr ynys a fuasai'n gartref iddo dros ysbaid dwy flynedd. Gofidiai'n arbennig orfod gadael rhai pethau ar ôl y carasai eu cymryd i'w ganlyn. Ond yr oedd y cyfle hir-ddisgwyliedig wedi dod i fynd adref, ac nid oedd dim arall yn werth gwneuthur cyfrif ohono yn ymyl hynny.
Nid oedd y llong, wrth gwrs, yn weledig iddo o'r cwch, ond ceisiai lywio i'r cyfeiriad y tybiai a'i dygai i'w chyfarfod—tua'r gogledd orllewin. Yr oedd y gwynt yn deg iddo, a symudai'n gyflym dros y tonnau. Wedi mynd am ysbaid pur faith, synnai na bai'r llong yn y golwg. Rhaid ei fod wedi croesi'i chwrs, neu yn rhywle o'i gwmpas. Edrychai'n ôl,—gwelai bennau'r ddau fryn uchel yn yr ýnys y cychwynasai ohoni draw yn y pellter, a'r ynys fawr yn bur agos iddo ar ei aswy. Daliodd i hwylio ymlaen gan newid ychydig ar ei gyfeiriad, ond suddai ei obeithion wrth fethu ganddo weled un arwydd o'r llong. Rhaid ei bod wedi newid ei chyfeiriad wedi iddo ef gychwyn. Nid oedd bellach ond troi'n ôl yn siomedig. Nid gorchwyl mor hawdd oedd mynd yn ôl gan nad oedd y gwynt mor ffafriol iddo, er nad oedd yn hollol groes. Ond fel yr âi'r prynhawn yn hwyr, trodd yr awel i'w erbyn, a chryfhaodd. Rhaid fu arno dynnu'r hwyl i lawr, a cheisio rhwyfo. A phan oedd eto gryn filltir o'r ynys, disgynnodd y nos arno'n sydyn, a gwelodd mai yn y cwch y byddai raid iddo aros hyd y bore. Noson ofnadwy fu honno iddo. Cododd yr awel, a thrwy gydol y nos taflwyd ef a'i gwch gan y tonnau fel y mynnent. Golchai'r tonnau i'r cwch, a bu am oriau'n taflu'r dŵr allan rhag i'r cwch suddo.
Ni bu neb yn fwy llawen o weld toriad gwawr na Harri wedi'r fath noson. Cafodd fod y gwynt a'r môr wedi ei yrru bellter mawr oddiwrth yr ynys. Yn wir, ni fuasai'n sicr i ba gyfeiriad i lywio, onibai weled ohono ben y ddau fryn ar ei ynys fach ef. Yr oedd yn lluddedig, yn newynog ac yn siomedig, ond ymdrechodd yn ddewr i gyrraedd yn ôl i'w ynys, a glaniodd yn hwyr yn y prymhawn. Wedi cyrraedd i'w dŷ, taflodd ei hun ar ei wely dail i wylo gan chwerwder y siom, a than wylo yr aeth i gysgu, druan bach, ac i freuddwydio am ei fam, a Bwlchglas, a chyfeillion a bro ei febyd.
Effeithiodd y siomedigaeth yn fawr ar Harri. Tra heb weld llong, yr oedd yn gallu dal i obeithio y deuai llong ryw ddiwrnod; ond wedi i long ddod, ac iddo yntau fethu cael iddi, teimlai'n ddigalon iawn. Am rai dyddiau wedi hyn, nid oedd fawr o ynni ynddo i weithio, nac awydd o gwbl i fynd i ben y graig i edrych am long. Ymhen pedwar diwrnod wedi'r siom, yr oedd yn cychwyn am yr hen fwthyn i orffwyso dros y seithfed dydd, ac yn teimlo yn bur ddiysbryd: bron na theimlai ar rai prydiau mai gorwedd i lawr a marw fyddai orau iddo. Dros y tir yr aeth adref y tro hwn, a'i feddwl bob cam o'r daith yng Nghymru annwyl, nes mai prin yr oedd yn ymwybodol o ddim o'i amgylch.