Ynys y Trysor/Cwch y Capten
| ← Y Traeth | Ynys y Trysor gan Robert Lloyd Jones |
Stori'r Capten → |
IV. CWCH Y CAPTEN
YM mau Glandon, cedwid dau neu dri o gychod perthynol i hen forwyr drigai ym Minymor, a themtasiwn fawr i'r plant oedd chwarae gyda'r cychod, gan nad oedd plant ddeugain mlynedd yn ôl yn wahanol yn hyn o beth i blant y dyddiau hyn. Hen gapten byr ei dymer ac afrywiog ei natur o'r enw Capten Morris y "Lark oedd perchennog un ohonynt, a defnyddiai ef i osod rhwydau ac i bysgota hyd y traeth, ac weithiau i forio i lawr i'r Aber ac yn ôl pan fyddai'r llanw'n caniatau hynny. Porthladd prysur oedd yr Aber, rhyw ddwy filltir o Finymor, lle y deuai llongau i lwytho llechi am wahanol borthladdoedd. Afon arall redai drwy borthladd yr Aber, ac ymunai honno ag afon Minymor cyn ymarllwys i'r môr.
Hen sea-dog, ys dywed y Sais, oedd Capten Morris, wedi morio i bob rhan o'r byd am flynyddoedd, ond bellach, oherwydd ei fod yn mynd i oed, wedi ymneilltuo o'r môr ac yn bodloni ei hun trwy forio gyda'i gwch ar y traeth. Ni byddai dim yn fwy wrth fodd Harri na chael mynd gyda'r Capten allan i bysgota neu i godi'r rhwydau. Byddai hynny'n orchwyl wrth fodd ei galon, yn enwedìg pan y byddai'r Capten mewn tymer dda, fel y digwyddai weithiau, ac yr adroddai iddo hanes rhai o'i helyntion ar y cefnfor. Byddai Harri'n glust i gyd i glywed yr ystraeon hyn.
Ond nid bob amser y byddai'r Capten ar delerau da gyda Harri—yn wir, lled anfynych y byddai, gan mai Harri oedd un o'r rhai gwaethaf am chwarae gyda'r cwch yn absenoldeb y Capten, ac yn aml iawn byddai'r Capten yn bygwth ryw gosbedigaethau dychrynllyd i "hen hogyn Gwen Jos " 'na am ymyrryd â'r cwch. Gofalai Harri am gadw o ffordd y Capten pan fyddai'r tymer hwnnw arno.

Un prynhawn, pan yr oedd Harri'n ddeuddeg oed, yr oedd tua dwsin o blant y pentref ar lan y traeth—Harri a Dafydd yn eu plith—a chwch Capten Morris, y "Wennol" fel y'i gelwid, yn ganolbwynt eu difyrrwch. Yr oedd y Capten wedi bod allan y bore hwnnw'n gosod ei rwyd, a chan y bwriadai fynd i'w chodi cyn yr hwyr, nid oedd wedi tynnu'r "Wennol" i dir sych. Nofiai'r cwch o fewn ychydig lathenni i'r lan mewn rhyw ddeunaw modfedd o ddwfr, a rhaff ohono wedi ei chylymu am garreg go fawr yn y dwfr. Dyna'r dull gymrid i sicrhau cychod am amser byr i arbed y. drafferth o'u tynnu i dir, a'u gwthio'n ôl drachefn
Yr oedd Harri wedi mynd i'r cwch, ac yno'n chwarae "gŵr pen y domen," yn ceisio cadw'r plant eraill rhag dod iddo, ac, fel y digwydd weithiau, yn gwneud dipyn o orchest o'i oruchafiaeth amynt, a rhai o'r plant mewn hwyl yn ei gyfarch fel Capten Jones y "Wennol" I gadw'r plant eraill i ffwrdd, gwthiai Harri'r cwch hyd y rhaff i'r dwfn, a thynnai'r plant yn y rhaff i'w dynnu'n ôl i'r lan. Rhywfodd yn y chwarae,—pa un ai o fwriad un o'r plant, ynteu trwy ddamwain, ni wyddai Harri,—daeth y rhaff yn rhydd oddiwrth y garreg y cylymasid hi wrthi; ac, er ei fraw, gwelodd Harri fod y cwch yn llithro ymaith gyda'r lli, a gwaeth na'r cwbl, fod y dwfr yn treio, ac mai'n mynd tua cheg yr afon a'r môr mawr llydan yr oedd. Cyn gynted ag y sylweddolodd ei berygl, edrychodd dros ymyl y cwch i weled dyfnder y dwfr—gwelodd ei fod yn ddwfn iawn, rhy ddwfn iddo allu gweld y gwaelod. Edrychodd yn wyllt i'r cwch am ryw foddion ymwared, ond nid oedd yno rwyf o fath yn y byd. Byddai Capten Morris yn gofalu mynd a'r rhwyfau gydag ef adref rhag i ryw anhap ddigwydd iddynt hwy, neu i'r cwch yn ei absenoldeb.
Edrychai'r plant ar y lan mewn braw ar Harri yn y cwch yn mynd yn bellach, bellach oddiwrthynt hwy a'r lan, a gwaeddai rhai ohonynt arno, "Neidia i'r dŵr, Harri." Gallasai Harri neidio i'r dŵr a nofio i'r lan, ond golygasai hynny golli'r cwch, ac yr oedd yn well ganddo wynebu unrhyw berygl na wynebu Capten Morris wedi colli ei gwch.
Pan oedd wedi mynd rhyw ddau neu dri chan llath oddiwrth y plant, edrychodd Harri'n ôl, a gwelai hwynt yn dianc i bob cyfeiriad fel cwningod i'w tyllau, a chlywodd Capten Morris yn bloeddio, fel y gall hen forwr floeddio, " Hei, tyrd â'r cwch 'na i'r lan, neu mi dy dagaf di."
Ped ystyriasai'r Capten nwydwyllt am eiliad, buasai wedi sylweddoli fod yn ei orchymyn a'i fygythiad groes-ddywediad amlwg, ac na allai Harri druan ddod a'r cwch yn ôl yn erbyn lli'r afon; ond yr oedd y Capten mewn gormod cyffro i feddwl, neu buasai wedi ceisio gwthio un o'r cychod eraill i'r dwfr i geisio achub Harri a'r "Wennol."
Cyn hir, gwelai Harri ei fod yn mynd heibio i drwyn y Borthlas—y graig oedd yn terfynu bau Glandon rhyngddo â'r môr,—ac yn mynd o olwg y bau yr oedd môr gyfarwydd ag ef, i ran dipyn mwy dieithr iddo o'r traeth. Pan yn amgylchu'r trwyn, cymrodd yr olwg olaf (am byth fel y dechreuai ofni) ar yr hen fau annwyl, a'r peth olaf a welodd yno oedd yr hen Gapten yn dawnsio o amgylch mewn cynddaredd fel dyn wedi dechrau gwallgofi.
Yr oedd calon Harri'n bur isel erbyn hyn, ac, yn ei ddychryn, collodd yntau am ysbaid ei bresenoldeb meddwl—peth na ddigwyddai'n fynych iddo ef. Pan adfeddiannodd ei hun, canfyddodd fod y cwch yn cyflymu ymlaen, a'i fod bellach yn yr afon fawr yn mynd gyda'r llifeiriant. Gwelai ei hun yn pasio heibio'r creigiau a adwaenai ar y lan, ac Ynys Hwyfar yn graddol edrych yn llai o'r tu ôl iddo. Ychydig o'i flaen, ar y dde iddo, gwelai drwyn y Wylan, yr olaf o greigiau y traeth, a gwyddai y byddai, wedi mynd heibio i hwnnw, a'i wyneb ar y cefnfor yn ei gwch bregus. Yn ei arswyd, dechreuodd feddwl am ei fam a'i gartref, a bron na thorrodd allan i wylo wrth feddwl na chai eu gweled mwy. Ond ymwrolodd drachefn, a dechreuodd feddwl beth mewn difrif a allai ei wneud er achub ei hunan a'r cwch. Wedi ystyried am ychydig, gwelodd fod un gobaith gwan yn aros iddo allu achub ei hun rhag mynd i'r cefnfor. Yr oedd' sedd ôl y cwch bron a dod yn rhydd. Gafaelodd ynddi, a chydag ychydig ymdrech, tynnodd hi'n rhydd. Yna, ar ei ddeulin ymhen blaen y cwch, ceisiodd rwyfo gyda'r darn pren i droi pen y cwch o'r afon tua'r lan. Yr oedd yr afon yn rhedeg yn gryf tua'r môr, ac os na allai droi y cwch ohoni i ddwfr redai'n llai cyflym, gwyddai y byddai yn nhonnau'r eigion yn fuan iawn, a thuhwnt i obaith ei achub. Er ei lawenydd, gwelodd ei fod yn llwyddo ryw gymaint yn ei ymdrech. Gydag egni adnewyddol wrth weld ei lwyddiant, dyblodd ei ymdrechion, ac o'r diwedd gwelodd ei fod wedi gadael yr afon, a bod cyflymder ei symudiad yn llawer llai. Nid oedd bellach berygl iddo gael ei gludo i'r môr, a rhoes ochenaid o ollyngdod wrth feddwl am hynny. Ond sut i fynd yn ôl, ac i gael y cwch yn ôl oedd y broblem fawr. Yr oedd cryn ddwy filltir rhyngddo â bau Glandon, a thua hanner milltir, fel y barnai, rhyngddo â'r lan ar ei gyfer. Amhosibl fuasai iddo fynd a'r cwch yn ôl nes i'r llanw droi, ac ni byddai hynny cyn canol nos, a sut y gallai ffeindio'i ffordd i'r bau a diogelu'r cwch yn y tywyllwch? A phe gallai wneud hynny, wynebu'r Capten fyddai raid wedi'r cyfan.
Wedi ystyried y cwestiwn ymhob agwedd arno, yn frysiog, mae'n wir, fel yr oedd raid iddo dan yr amgylchiadau, penderfynodd Harri mai ceisio dwyn y cwch i'r lan ar ei gyfer fyddai orau iddo, ac wedyn ystyried y cwestiwn ymhellach. Dechreuodd rwyfo gyda'r darn sedd am y lan, ond gorchwyl anodd ydoedd, gan fod raid iddo rwyfo bob yn ail ochr yn barhaus er symud dim.
Cyn hir canfu Harri ei fod mewn lle bas—gallai weld y tywod glân dan y dŵr. Neidiodd dros ymyl y cwch i'r dwfr, a dechreuodd ei dynnu ar ei ôl, gan edrych o'i flaen rhag mynd i ddwfr dwfn yn sydyn. Ac yr oedd yn dda iddo ei fod yn cadw gwyliadwriaeth ofalus, neu buasai'n sicr wedi mynd dros ei ben fwy nag unwaith. Pan ddeuai at ymyl pwll dwfn, dringai i'r cwch a rhwyfai drosto; yna, wedi ei groesi, a dod i dywod, âi yn ôl i'r dwfr i dywys. Mesul tipyn gwelai'r lan fel pe'n nesu ato, ac o'r diwedd daeth i dir a'r cwch yn ddihangol. Tynnodd y cwch mor agos i'r tywod sych ag y gallai, ac yna eisteddodd i orffwys ac i feddwl beth i'w wneud nesaf.
Ond wedi cyrraedd diogelwch, y peth cyntaf y daeth yn ymwybodol ohono oedd bod arno eisiau bwyd, ond sut i'w gael ni wyddai. Ar draethell unig y safai dan gysgod creigiau bygythiol. O'r tu ôl i'r creigiau yr oedd llechwedd—y tir yn codi'n raddol i ben bryn bychan. Gwyddai fod ffermdy o'r enw Bryneryr ar yr ochr arall i'r bryn—yr oedd wedi bod yno yn cael picnic gydag Ysgol Sul Minymor, ond nid oedd yn gydnabyddus a'r amaethwr, nac, yn wir, yn gwybod ei enw. Ond yr oedd yn rhaid iddo gael rhywbeth i'w fwyta—teimlai ei hun ymron llewygu. Yr oedd awyr y môr wedi rhoi min ar ei archwaeth, a phenderfynodd fynd i'r fferm i ofyn am lymaid o laeth enwyn, gan deimlo'n lled sicr y cawsai hynny, ac o bosibl fwy na hynny. Felly i fyny'r graig ag ef, a thrwy'r caeau at y tŷ. Nid oedd neb yn y golwg, ac felly aeth at y drws, a churodd yn wannaidd. Yr ateb cyntaf gafodd oedd cyfarthiad ci oddimewn, a chlywai'r creadur yn chwyrnu'n ffyrnig yr ochr arall i'r drws. Yna clywodd sŵn clocsiau'n dynesu, a llais yn dweud, "Sa'n ôl, Pero! Beth ddaru ti, dywed?" ac ar hynny agorwyd y drws gan wraig radlon yr olwg, a gwyddai Harri ar ei hwyneb y trugarhâi wrtho.
"Os gwelwch chi'n dda, ga i lymaid o laeth enwyn?" gofynnodd Harri'n wylaidd.
"Tyrd i'r tŷ, machgen i," ebe'r wraig. " Hogyn bach pwy wyt ti, dywed?"
"Hogyn Gwen Jones, Bwlchglas," ebe Harri.
"O! hogyn o Finymor wyt ti! Beth ddaeth a chdi mor bell o dy gartre, dywed?"
"Dwad am dro hyd y traeth," ebe Harri mewn llais isel, gan deimlo'n euog mai hanner y gwir ddywedai.
"Hyd y traeth? A mi ddoist yr holl ffordd dros y creigiau a thrwy leoedd peryg?" ebe'r wraig, gan dybied mai ar hyd glan y traeth y daethai'r bachgen. " Wyddost ti be, mae eisio dy chwipio di'n reit dda. Mae arnat ti eisio bwyd, 'rydw i 'n siwr."
"Oes, dipyn," meddai Harri, gan ddweud llai na'r holl wir unwaith eto.
Tra'r ymddiddanai, yr oedd y wraig garedig yn brysur yn arlwyo bwyd i'r bachgen newynog, ac yntau'n dilyn ei symudiadau gyda llygaid lefarai gyfrolau am ei gylla gwag. "Tyrd," meddai, wedi peri iddo eistedd, "bwyta, machgen i. Mae llaeth enwyn yn o oer i dy stumog di, a chditha wedi chwysu. Mae gin i dê reit dda yn y tebot."
A dodwyd pentwr anferth o fara menyn a chaws a thê o flaen y bachgen newynog, a dechreuodd yntau ymosod amynt fel y gall bachgen ar ei gythlwng.
"Bwyta di d'orau. Rhaid i mi fynd i alw'r dynion i'r tŷ," meddai, ac allan a hi.
Manteisiodd Harri ar ei habsenoldeb i wthio ryw bum neu chwe tafell o'r bara i'w logell rhag y byddai eu hangen arno cyn y gwelai eilwaith fwrdd wedi'i hulio, a phan ddaeth y wraig yn ôl, yr oedd y plât yn wag, er syndod dirfawr iddi.
"Yr achlod fawr," meddai, â'i dwylo i fyny, a'i hwyneb i gyd yn tystio i'w syndod, "pryd y cefaist ti fwyd ddweutha, machgen i?"
"Chefais i ddim er amser brecwast," ebe Harri, ac yr oedd hynny'n wir. Yr oedd i lawr yn y traeth er y bore, a gormod trafferth ganddo oedd mynd i fyny i nôl ei ginio, gan mor felys oedd y chwarae.
Torrodd y wraig ychwaneg o fara menyn, ac o'r diwedd, tynnodd Harri tua'r terfyn, a chododd i fynd allan, gan fwmian diolch yn swil i'r wraig am ei charedigrwydd.
Wedi mynd drwy'r drws, safodd am ychydig i edrych ar yr olygfa o'i gwmpas. Draw ar y dde, ymhell tuhwnt i Finymor a'r Cefngwyn, gwelai fynyddoedd cribog yn ymestyn yn rhes o'r Wyddfa yn y gogledd heibio i'r Cynicht a'r Moelwyn ac yn cyrraedd ymlaen i Feirion. Ar ei aswy gwelai'r môr yn ymledu rhwng arfordir Meirion a Lleyn, ac ambell long fechan yma a thraw ar ei wyneb. O'r fan y safai gwelai'r ddwy afon yn ymgyfarfod cyn ymgolli yn y dyfnfor. Odditano, tua'i aswy, gwelai borthladd yr Aber yn llawn o longau, a thrên yn cychwyn oddiyno am Finymor. Pan oedd bron wedi ymgolli yn y golygfeydd, sylwodd fod y dynion yn dod at y tŷ o'r cae gwair, ac, i osgoi cwestiynau, ymaith ag ef ar hyd y ffordd drol a arweiniai o'r ffermdy i'r briffordd redai rhwng yr Aber a Minymor; ond wedi mynd o olwg y tŷ, trodd o'r ffordd, gan gyfeirio'i wyneb tua'r traeth a'r man y gadawsai'r cwch. Yr oedd y trai wedi gwneud ei ôl ar y traeth erbyn hyn—y cwch ar dir sych, a dim ond ychydig ddwfr i'w weld yn unman oddieithr yn yr afon fawr redai drwy ganol y gwastad tywodlyd tua'r môr.
Beth i'w wneud nesaf? dyna'r cwestiwn. Yr oedd wedi cael pryd da o fwyd, a chyda'r hyn oedd ganddo yn ei logell, gallai wneud yn burion tan drannoeth. Gwyddai fod y newydd bellach wedi cyrraedd clustiau ei fam, ac mai cosb oedd i'w ddisgwyl ganddi hi a Chapten Morris pa bryd bynnag y dychwelai. Yr unig ffordd i leihau y gosb, o bosibl, fyddai mynd a'r cwch yn ôl yn ddiogel i'r angorfa. Ond gwyddai Harri adeg y llanw'n bur dda; ni wnai'r llanw ddechrau rhedeg cyn deg o'r gloch, a byddai'n hanner nos cyn y nofìai'r cwch. A sut byth y gallai ffeindio'r bau ynghanol y tywyllwch? Byddai hynny'n hollol amhosibl, ac felly dau gynllun yn unig oedd yn agored iddo—naill ai gadael y cwch yno a mynd adref i wynebu ei fam a'r Capten digllon, neu aros yno tros y nos a cheisio mynd a'r cwch i fyny'r afon ar y llanw prynhawn trannoeth. Pe gallai ddiogelu'r cwch dros y nos, gwell fuasai ganddo'r cynllun cyntaf, ond er mwyn ceisio achub y cwch, penderfynodd ar y diweddaf, er y golygai hynny iddo orfod wynebu noson o ofn, unigedd, ac anghysur, a dioddef pangfeydd o newyn, o bosibl, drannoeth. Wedi penderfynu, aeth ati o ddifrif i geisio diogelu'r cwch rhag cael ei gludo ymaith, neu gael ei guro'n erbyn y creigiau pan ddeuai'r llanw i fyny. Cerddodd hyd y traeth i chwilio am garreg fawr, ac wedi ei chael, llusgodd hi dros y tywod at y cwch, ac yna cylymodd y rhaff amdani mor dyn ag y gallai. Tynnodd yn y rhaff a'i holl nerth i'w phrofi, ac yr oedd y cwlwm yn dal. Ond i gael dwbl sicrwydd, dygodd garreg arall, a gosododd hi i bwyso ar y rhaff yn ymyl y llall. Gofalodd ddodi'r cerrig ar yr ochr agosaf i'r afon i'r cwch, a mwy na hyd y rhaff oddiwrth y creigiau fel na churid y cwch yn eu herbyn pan godai'r llanw. Gwelai fantais arall o hyn. Byddai i'r llanw gyrraedd hyd at y cwch ynghynt drannoeth, ac felly cyrhaeddai yntau adref ynghynt.
Erbyn hyn yr oedd yn dechrau nosi. Penderfynodd Harri fynd i eistedd yn y cwch dros y nos, a bwriadai gadw'n effro hyd y gallai. Pan oedd y tywyllwch yn dechrau cau amdano, aeth i'r cwch i eistedd. Teimlai yn bur hyderus ei fod wedi diogelu'r cwch, ac y byddai i'r anturiaeth ddiweddu'n llwyddiannus. Yr unig beth y gresynai o'i herwydd oedd na b'ai Dafydd Glandon gydag ef, ond meddyliai am yr hwyl gai wrth adrodd yr hanes i Dafydd, ac am syndod Dafydd a'r plant eraill pan ddychwelai drannoeth. Teimlodd fod arno dipyn o eisiau bwyd, a chofiodd am y lluniaeth yn ei logell. Tynnodd ef allan, ac er ei fod yn dechrau sychu, ac wedi ei falurio yn ei logell, yr oedd yn dda iawn, a chydag anhawster y gallodd y bachgen orchfygu ei hun i gadw ychydig ohono hyd y bore. Wedi bwyta, cofiodd yn sydyn fod cist fechan gan y Capten o dan y sedd ymhen ôl y cwch, lle y cedwid gwahanol gelfi hwylus ynglŷn â'r cwch. Yr oedd yn rhy dywyll, bellach, i chwilio'r gist, ond addawodd Harri wrtho'i hun mai dyna fyddai'r gorchwyl cyntaf drannoeth, a gobeithiai gael rhywbeth ynddi a'i cynorthwyai i lunio rhyw fath ar rwyf i'w helpu i fynd yn ôl.
Nid oedd ganddo ddim i'w wneud bellach ond eistedd yn llonydd, ac O! yr oedd yn unig arno. Bron nad oedd y distawrwydd yn codi arswyd arno—dim math o sŵn yn unman ond si yr awel ysgafn yn nail y coed oedd ar y llechwedd uwch ei ben. Yr oedd yn haws lled-orwedd nac eistedd, gan fod y cwch ar ei ochr, ac yr oedd yr ystum yn fantais i gwsg ei orchfygu, gan ei fod yn arferol a noswylio yn gynnar, ac yn fuan iawn, er ei benderfyniad i ddal yn effro, yr oedd yn cysgu'n drwm ar ben ôl y cwch, wedi llwyr flino gan helyntion y dydd. Er i'r dwfr godi nes siglo'r cwch yn ystod y nos, huno'n dawel wnai'r anturiaethwr ieuanc fel pe'n ei wely clyd gartref. Ni wyddys pa un ai melys ynteu chwerw fu ei freuddwydion, os yn wir y breuddwydiodd o gwbl, ond deffrowyd ef yn fore gan lais fel taran nad oedd yn ddieithr iddo, a theimlai rhywun yn ei ysgwyd yn arw. Bu am ychydig rhwng cwsg ac effro'n methu sylweddoli ymha le yr oedd, ond o'r diwedd daeth helynt y diwrnod cynt i'w gof, a chan rwbio'i lygaid, trodd i edrych pwy neu beth oedd yn ei ysgwyd, ac er ei syndod a'i ddychryn, pwy oedd yno ond Capten Morris! Meddyliodd mai ei ladd a gaffai gan yr hen Gapten; a phe'n bosibl, buasai wedi dianc i rywle o'i gyrraedd. Ond yr oedd y Capten yn gafael yn dyn yn ei ysgwydd, ac yr oedd dianc yn amhosibl. Gwargrymodd gan ddisgwyl teimlo pwys dwm y Capten ar ei gefn, ond yn lle hynny, er ei syndod dirfawr, beth glywodd ond y Capten yn chwerthin yn galonnog, ac yn gofyn mewn tôn garedig, "Ac yn y fan hyn y buost ti trwy'r nos, aie? Oes arnat ti ddim eisiau bwyd, dywed?"
"Oes, dipyn, atebodd Harri'n ofnus, heb fod yn hollol sicr paham yr oedd y Capten yn ymddwyn tuag ato mewn dull mor wahanol i'r hyn a ddisgwyliai.
"Tyrd hefo mi i Fryneryr am damad o frecwast, on'te," ebe'r Capten, gan afael ynddo a'i godi o'r cwch, a'i ddwyn yn ei freichiau i'r lan. Erbyn iddo sylwi, gwelodd fod y Capten wedi tynnu am ei draed i ddod at y cwch oedd ar y pryd yn nofìo mewn dŵr bas, a bod y dŵr yn treio'n gyflym. Wedi i'r Capten wisgo am ei draed, cychwynnodd y ddau am y ffermdy ar y bryn, ac wedi cyrraedd yno, digonwyd y bachgen â phryd o fwyd maethlon.
Ar y ffordd tuag at y tŷ, yr oedd y Capten yn bur dawedog, a cheisiai Harri ddyfalu sut y daethai i wybod ymha le yr oedd, a sut y daethai i fod yno mor fore, oblegid tybiai'r bachgen ei bod yn fore iawn, er nad oedd ganddo syniad beth oedd o'r gloch. Ond gwyddai wrth sylwi ar yr haul oedd bron yn gorffwys ar ben y mynyddoedd tua'r dwyrain, ac yn anweledig hyd nes y daethant i ochr y bryn, mai cynnar iawn ydoedd ar y dydd. Yn ymyl llidiart buarth Bryneryr, meddai'r Capten wrtho, "Mae Lisa'n dy ddisgwyl di, ddyliwn," gan bwyntio at y mwg esgynnai'n syth o simdde'r tŷ, ac, ar y gair, cofiodd Harri fod gwraig Bryneryr yn chwaer i wraig y Capten, a thybiodd mai trwyddi hi, rywfodd, er na wyddai sut, y daethai'r Capten i ddod o hyd iddo.
Ac ar ôl iddo gael bwyd, holwyd ef am yr anturiaeth gan y Capten, yr hwn a fwynhai'n fawr adroddiad Harri o'r hanes, ac wedi iddo orffen, meddai, dan chwerthin yn galonnog, " Wyddost ti beth, 'rydw i 'n meddwl mai ail Robinson Crusoe fyddi di."
Bob yn dipyn, daeth Harri i ddeall y modd y deuthpwyd o hyd iddo ef gan y Capten. Ymddengys bod mab Bryneryr wedi mynd i Finymor y noson gynt at y Côr Meibion, ac iddo ddeall bod berw mawr yn y pentref am fod bachgen ar goll. Galwodd i weld ei ewythr, y Capten, a chan ei fod wedi clywed gan ei fam hanes ymweliad Harri â'i gartref, adroddodd yr hyn wyddai wrth y Capten. Daeth y Capten i'r casgliad mai'n rhywle yng nghymdogaeth Bryneryr yr oedd Harri a'r cwch, ac ar ôl galw gyda Gwen Jones i'w hysbysu o'i ddamcaniaeth, a'i chynghori i beidio pryderu, daeth gyda'i nai i Fryneryr dros y nos, ac yn blygeiniol drannoeth yr oedd ar y traeth yn chwilio am y cwch, gyda'r canlyniad iddo'i gael fel yr adroddwyd.
"A'r cwestiwn nesaf," meddai'r Capten, "ydyw sut yr awn ni adref."
"Roeddwn i 'n meddwl mynd hefo llanw'r pnawn," ebe Harri.
"Ond beth wnawn ni am rwyfau?" gofynnodd y Capten.
"Meddwl chwilio am ddwy gangen go dda, 'roeddwn i," ebe Harri, "a'u gwneud mor atebol i'r pwrpas ag y gallwn."
"Mae yma ddwy hen rwyf er pan fu gennym ni gwch," ebe John, mab Bryneryr.
"Dyna ni felly i'r dim. Ond ni thry'r llanw am rai oriau. Weli di, Harri, mi wn i beth wnawn ni i aros y llanw. Mae 'na rwyd reit dda yn y gist yn y cwch. Mi rwydwn ni dipyn hyd y traeth o dan y Bryn 'ma, a siawns na ddaliwn ni, gan mai go 'chydig o rwydo sydd ar y rhan yma o'r traeth."
Ac felly fu. Aed i lawr i'r traeth, a Harri mor llawen a'r gog yn cario un rwyf ar ei ysgwydd, ac yn cerdded wrth ochr yr hen Gapten. Ac yn wir, fe gaed hwyl dda ar rwydo. Gwthiwyd y cwch i'r dwfr, a gosodwyd y rhwyd i lawr ymhob lle tebygol, ac erbyn i'r llanw droi tua hanner dydd, yr oeddynt wedi cael helfa dda, digon yn ôl y Capten i dalu am sedd newydd i'r cwch yn lle'r un gymrasai Harri i was'naethu fel rhwyf.
Yr oedd nifer mawr o blant yn chwarae ym mau Glandon, pan ddaeth y "Wennol i mewn gyda blaen y llanw, a syndod a llawenydd oedd yn argraffedig ar eu hwynebau wrth weld Harri wedi dychwelyd yn ddiogel. Ond yr oedd Harri'n rhy brysur yn helpu'r Capten i sicrhau'r cwch i gymryd fawr o sylw ohonynt. Ond synnodd at un peth—fod Dafydd Glandon yn cadw'n ôl, ac yn ymddangos yn swil neu'n euog.
"'Rwan," ebe'r Capten, wedi sicrhau'r cwch, "pwy ddaw hefo chdi, Harri, i werthu'r pysgod 'ma?
"Dafydd Glandon," ebe Harri. "Ddoi di, Dafydd?"
"Do' i," ebe Dafydd, ond nid yn ryw ewyllysgar iawn ei dôn, fel y tybiai Harri.
Ac ymaith a'r ddau, Harri wrth fynd yn adrodd hanes y fordaith, a Dafydd, er yn gwrando'n astud, yn ymddangos fel pe bai rhywbeth yn pwyso ar ei feddwl. O'r diwedd sylwodd Harri nad oedd Dafydd fel efe ei. hun, ac meddai, gan ollwng y bocs pysgod ar lawr, ac edrych ym myw ei lygaid, " Beth sy arnat ti, Dafydd? Gwenwyn na basa ti hefo mi?"
Achosodd y sylw i Dafydd wrido hyd at fôn ei wallt.
"Nage, Harri," meddai, " ond—ond. Wn i ddim sut i ddweud wrthat ti," ac fel pe'n ail ymwroli, ac yn penderfynnu dweud, ychwanegodd, "Wnei di faddeu i mi, Harri?"
"Am beth, dywed?" gofynnodd Harri mewn syndod.
"Am ollwng y cwch yn rhydd pnawn ddoe. Fi dynnodd y rhaff oddiam y garreg o ran hwyl. Ond ddaru mi ddim meddwl y basa'r cwch yn mynd i ffwrdd fel yr aeth o. Chysgais i ddim trwy'r nos gan boeni—meddwl dy fod di wedi boddi, ac na chawn i byth dy weld di eto."
"Paid a phoeni 'chwaneg, 'r hen ddyn. Mae'r cwbwl drosodd. Sut y bydd y scẃl yn dweud, dywed, All's well that ends well.Tyrd yn dy flaen i werthu rhain, neu mi fyddan' wedi drewi cyn i ni'u gwerthu nhw."
Ac ymlaen yr aed, ac wedi gorffen gwerthu, aed a'r arian, deg swllt, i'r Capten. Rhoddodd yntau swllt yr un i'r bechgyn am werthu, ac yna meddai wrth Harri, "Hwda, dyma bedwar swllt i ti—dy shâr di o'r helfa. A thyrd di hefo mi i bysgota bob tro y byddi di'n rhydd. Ond cofia—'dwyt ti ddim i golli'r ysgol i ddwad."
Cymaint oedd syndod Harri fel nad allai yngan gair o ddiolch, ac wedi cael y drws, ymaith ag ef nerth ei draed am ei gartref, ac wedi cyrraedd y tŷ, taflodd y pum swllt ar y bwrdd.
"Wel, Harri," ebe'i fam, gan godi ei llygaid oddiar y gwniadwaith oedd yn ei llaw, ac edrych trwy ei dagrau ar y bachgen, "lle buost ti mewn difri? Rwyt ti bron a thorri nghalon i. A beth ydi'r arian 'ma sy gin ti?"
"Arian enillais i wrth bysgota," meddai yntau'n goeglyd. Yna, gan daflu ei freichiau am ei gwddf, meddai, trwy ei ddagrau, "O! mam, 'roedd yn ddrwg gin i'ch poeni chi, ond doedd gin i ddim help."
"Wel, machgen annwyl i," meddai 'i fam wedi toddi'n llymaid wrth weld serch y bachgen tuag ati, "mae'n dda iawn gin i dy gael di'n ôl. Mi atebodd yr Arglwydd fy ngweddîau drosot ti. Ond tyrd, 'rwan, i ti gael bwyd."
A thra'n cael bwyd, adroddodd Harri wrthi hanes ei anturiaeth, hithau'n holi'n fanwl pan nad oedd yn iawn-ddeall ryw bwynt yn ei stori. Felly, heb dderbyn y gosb ddisgwyliai gan y Capten na'i fam, y terfynodd yr anturiaeth hon o eiddo Harri—anturiaeth fu'n drobwynt pwysig yn ei fywyd fel y cawn weld.