Neidio i'r cynnwys

Ynys y Trysor/Plant Minymor

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Ynys y Trysor

gan Robert Lloyd Jones

Harri'r Dringwr

PLANT MINYMOR

Ni fu erioed fachgen mwy difater o berygl a dibris o'i fywyd na Harri, Bwlchglas, neu Harri Gwen Jos, fel yr adwaenid ef yn gyffredin ym mhentref ac ardal Minymor. Efe oedd arwr y bechgyn at ei oed, a rhai iau nag ef; ac er mai fel bachgen drwg y sonnid amdano, direidus yn hytrach na drwg ydoedd, ac yr oedd rhywbeth yn ei gymeriad a'i gwnai yn hoff gan bawb er ei holl ddireidi.

Rhaid i ni fynd yn ôl ryw ddeugain mlynedd i'r adeg yr oedd Harri'n blentyn ym Minymor; ac y mae'r pentref hwnnw fel pob man arall wedi newid cryn lawer er dyddiau mebyd Harri, er bod y boblogaeth o ran ei nifer a'i chymeriad yn dal rhywbeth yn debyg hyd heddiw. Ond yr adeg honno, nid oedd yn y pentref ysgol ddyddiol, a rhaid oedd i'r plant gerdded i ysgol Cefngwyn, pentref tipyn mwy, tua milltir oddiyno. Yr oedd yn hen arferiad gan blant Minymor, ymhell cyn dyddiau Harri, i gerdded gyda'i gilydd yn dyrfa hapus tua'r ysgol—pob un a'i ginio mewn bag ar ei gefn, neu mewn rhyw lestr bychan yn y llaw. Cyd-gyfarfyddent wrth y siop oedd ynghanol y pentref, tua'r chwarter i naw, ac yn aml iawn byddai'n tynnu'n bur agos i naw o'r gloch cyn y ceid pawb ynghyd ac yn barod i gychwyn; ac o ganlyniad, anaml iawn y cyrhaeddai mintai Minymor i'r ysgol yn brydlon. Yr oedd trên yn pasio trwy Finymor chwarter i naw, a chymrai'r plant eu hamser oddiwrth y trên, ond, druain ohonynt! yr oedd y trên hwnnw'n ddiarebol am fod ar ôl. Ond er clywed hynny drachefn a thrachefn gan rieni ac athrawon, glynnai'r plant, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, wrth adeg cyrhaeddiad y trên yng ngorsaf Minymor fel yr amser priodol i gychwyn am yr ysgol. "Mae hi'n ddigon buan: 'rwan mae'r trên naw yn y stesion," oedd ymadrodd a glywid yn fynych oddiar wefusau'r plant. Gan fod nifer pur fawr o blant o wahanol oedran yn y camwedd, nid gwiw oedd i'r athro eu curo am ddyfod yn hwyr, ac felly eu cadw i mewn amser chwarae gai plant Minymor yn fynych am eu trosedd. Nid oedd hynny'n rhyw gosb fawr yn eu golwg, gan nad oedd y teimladau gorau'n bodoli rhwng plant y ddau bentref—Cefngwyn a Minymor. Yr oedd hyn yn hen ddrwg cyn i Harri ddechrau mynd i'r ysgol, ac er na wyddai ef na'r plant yn ei amser ef beth fuasai'r achlysur i ddechrau'r elyniaeth, cadwai plant y naill bentref a'r llall y traddodiad i fyny'n ffyddlon. Anaml iawn yr anturiai plentyn o Finymor i'r Cefngwyn ar ei ben ei hun, ac nid gwiw, yn sicr, i un o'r Cefn ddangos ei wyneb ym Minymor. Ymysg y plant yn unig yr oedd yr elyniaeth—cyddynnai'r bobl mewn oed yn rhagorol â'i gilydd, a chydweithredent mewn amryw gyfeiriadau. Felly, nid oedd cael eu cadw i mewn yn gosb drom ar blant Minymor—gan mai cyfyng oedd y chwaraele i gynnwys dwy fintai elyniaethus. Gan fod plant Minymor yn bwyta'u cinio yn yr ysgol, caent hwy eu cyfle ar y chwaraele ganol dydd, cyn i blant y Cefn ddychwel oddiwrth eu cinio.

Mae rhywbeth mewn ambell blentyn (a dyn o ran hynny) fel pe'n mynnu ei wthio i'r amlwg, ac yr oedd y rhywbeth hwn yn Harri. Pan nad oedd ond crwt bychan ym mintai Minymor, gwrandewid arno a gofynnid ei fam gan blant hŷn nag ef, a phan oedd newydd droi y deg oed, efe oedd capten y plant, er, wrth gwrs, bod llawer hŷn nag ef yn perthyn i'r fintai. Daeth y swydd o arwain y plant iddo'n naturiol, heb iddo'i cheisio, gan fod y plant yn canfod yr arweinydd ynddo. Ac wedi ei ddewisiad yn arweinydd, ei air ef fyddai'n ddeddf, ac efe fyddai'r barnwr a'r cynghorwr, ac amddiffynydd y gwan yn y fintai. Pe beiddiai un o blant y Cefn gyffwrdd ei law yn un o blant Minymor, rhaid fyddai iddo wynebu Harri i roi cyfrif, ac nid oedd un o blant y Cefn a anturiai frwydr ag ef. Yn rhyfedd iawn, ni fu raid iddo ymladd â neb i gyrraedd y fath safle—er, yn ddiau, gan ei fod yn fachgen cryf a bywiog, y gallasai ymladd—ond mae'n debyg fod rhywbeth yn ei drem awdurdodol a'i lygad byw ac eofn yn rhoi iddo'r oruchafìaeth, heb iddo â'i ddyrnau orfod ei hennill.

Is-gapten y cwmni, a chyfaill mynwesol Harri oedd Dafydd Glandon, bachgen bron yr un oed ag ef. Ceid y ddau ynghyd yn wastad, ac ni allai Catrin Huws, Glandon, gadw Dafydd rhag dilyn Harri, er iddi'n fynych ei rybuddio, a dywedyd mai bachgen drwg oedd Harri; ond gwyddai Dafydd yn amgen. Deuai Dafydd heibio i Harri bob bore, gan fod y ffordd o'i gartref, Glandon, yn pasio heibio Bwlchglas. Pan gyferbyn a'r tŷ chwibanai Dafydd ar ei gyfaill. Yr oedd gan y ddau chwibaniad arbennig ar ei gilydd, nad oedd gan yr un o'r plant eraill hawl i'w ddefnyddio, a rhywbeth yn debyg i hyn oedd ei seiniau:—

Yr alwad,— |d |r :d :r |m :s :- | - :- :- |

Yr ateb,— |s :- :- |n :s :n |d :- :- |- :- :- |

Yr oedd Harri'n rhwym o aros am Dafydd hyd nes y byddai'r trên naw yn chwibanu yng nghoed y plas cyn dod i orsaf Minymor. Os na byddai Dafydd wedi cyrraedd at Fwlchglas erbyn hynny, y tebyg ydoedd na ddeuai i'r ysgol y diwrnod hwnnw, ac âi Harri ei hun at y siop i ymuno â'r plant ddisgwyliai wrtho. Ond distaw a digalon fyddai heb Dafydd, a'r un modd y byddai Dafydd pe digwyddai fod Harri ar ôl. Yr oedd y ddau yn yr un dosbarth yn yr ysgol, ac yn eistedd ochr yn ochr.

Ychydig ŵyr plant heddiw am yr ysgol ddyddiol fel y byddai ddeugain mlynedd yn ôl; a gwell, efallai, fuasai dywedyd ychydig wrthynt am yr ysgol a gafodd Harri a Dafydd, er mai brysio ymlaen raid i ni i roi hanes yr anturiaethau ddaeth i ran y ddau fachgen wedi dyddiau ysgol

Yr oedd yn y Cefngwyn ddwy ysgol yr adeg honno—Ysgol y Bwrdd neu ysgol ysgoldy fel y gelwid hi, ac Ysgol Genedlaethol a elwid yn Ysgol Penybryn. I'r gyntaf a enwyd yr âi plant Minymor. Ambell waith, ar ôl curfa gan yr athro, âi rhai drosodd i'r ysgol arall, nes cael curfa yno drachefn a'u gyrrai'n ôl yn dipyn haws eu trin. Bob dydd Llun, byddai gan bob plentyn ddwy geiniog i dalu am ei ysgol am yr wythnos, ac yn aml iawn, os byddai plentyn wedi colli'r ysgol ddydd Llun, collai'r gweddill o'r wythnos i arbed talu am yr wythnos honno. Ond yr oedd arswyd Evan Ellis, y dyn hel plant i'r ysgol, ar blant a gollai'r ysgol. Credid fod y gŵr hwnnw yn un i'w ofni, am ei fod yn gweinyddu rhyw gosbedigaethau arswydus ar blant drwg, a ffoid o'i wydd lle bynnag y gwnai ei ymddangosiad.

Unwaith yn y flwyddyn, byddai'r arholiad yn cael ei wneud ar yr ysgol gan arolygwr y llywodraeth, ac am ryw chwech wythnos neu ddeufis, byddai gweithio caled yn yr ysgol, ac ynglyn â'r gweithio yr oedd curo diarbed, a chadw i mewn am ryw awr neu chwaneg ar ôl oriau'r ysgol. Ac fel y nesâi y diwrnod mawr, trymhâi'r gwaith, cynhyddai'r fflangellu, ac ychwanegid yr oriau. Ac o'r diwedd deuai'r dydd,—dydd y praw, pan y deuai'r plant ynghyd yn eu dillad gorau i geisio pasio'r arholiad i fynd i safon uwch. Eisteddai pawb fel delwau ar y meinciau, gan wylied y drws yn agor, i ymgrymu i'r gŵr mawr oedd a'u tynged yn ei law. Ac yna, â dwylaw crynedig ac ymenyddiau wedi eu cynhyrfu, ceisiai'r plant ateb y cwestiynau a gwneud y tasgau a roid iddynt i brofi swm y wybodaeth gyfranwyd iddynt yn ystod y chwech wythnos neu ddeufis o orweithio. Ac wedi i'r arholiad fynd heibio, anedlid yn rhydd gan athrawon a phlant hyd nes y deuai cwmwl yr arholiad dilynol i dywyllu eu ffurfafen. Yn Saesneg, wrth gwrs, y profid gwybodaeth y plant. Gymaint dedwyddach ydych chwi yn yr ysgolion heddiw rhagor eich tadau a'ch mamau ddeugain mlynedd, mwy neu lai, yn ôl!

Nodiadau

[golygu]