Ynys y Trysor/Y Dychweliad
| ← Cael y Trysor | Ynys y Trysor gan Robert Lloyd Jones |
→ |
XVIII. Y DYCHWELIAD
Ni ddaeth proffwydoliaeth Dafydd am effaith daionus awel y môr ar iechyd William Jones yn wir. Prudd oedd ei ysbryd, ac ychydig oedd ganddo i'w ddweud wrth neb. Ceisiai wenu'n wannaidd pan sonient wrtho y byddai yng Nghymru cyn hir. Cymdeithas Harri a geisiai fwyaf, ac wrtho ef dywedodd, cyn pen yr wythnos wedi iddynt hwylio, nad oedd yn meddwl y cai fyw i weld pen y siwrnai. Ceisiai Harri ei gysuro a'i galonogi, ond yn ofer.
"Na, Harri bach," meddai, " mae fy sailing Orders i wedi dod i ymadael am wlad arall," ac ymhen tridiau bu farw.
Effeithiodd marw William Jones yn drwm ar Harri. Er wedi bod mor gas wrtho gynt, yr oedd wedi newid llawer er pan y caed hyd iddo'n unig yn Rahiti, a Harri cyn y diwedd wedi mynd yn dra hoff ohono. Claddwyd yr hyn oedd farwol ohono drannoeth yn nyfroedd y Môr Tawelog,—Peter Jones yn darllen y gwasanaeth claddu yngwydd holl aelodau'r criw.
Caed mordaith lwyddiannus i afon Llundain. Yr oedd Harri a Dafydd wedi cytuno mai rhoi adroddiad i swyddogion y Llywodraeth am yr ynysoedd a'r trysor gloddiwyd fyddai orau, a phan fyrddiwyd y llestr gan swyddogion y dollfa (Custom House) adroddwyd yr hanes wrthynt, a chyflwynwyd y gist i'w gofal. Er cymaint brys oedd ar bob un ohonynt i fynd adref i Finymor, bernid mai ysgrifennu at William Gruffydd fyddai orau'n gyntaf i'w hysbysu o'u dyfodiad, ac i gael gwybod ganddo sut y daliasai Gwen Jones y newydd rhyfedd. Daeth gair yn ôl yn hysbysu ei bod yn ddiogel iddynt ddychwel i Finymor, a bod y newydd wedi creu syndod a llawenydd mawr trwy'r ardal.
Cychwynnwyd am Ogledd Cymru gyda'r trên cyflym, ond symudai lawer yn rhy araf i fodloni Harri, gan ei awydd angerddol i weld ei fam.
Ni fu erioed y fath dderbyniad i neb ym Minymor ag a gafodd y tri gwron. Yr oedd degau o bobl yn y stesion yn eu disgwyl, a banerau yn chwifio o bob tŷ yn y pentref. Hebryngwyd hwynt i Fwlchglas gan dorf liosog ynghanol banllefau o lawenydd, a bu braich dde Harri'n boenus am ddyddiau ar ôl ysgwyd llaw gyda chynifer. Ni raid dweud am lawenydd Gwen Jones o dderbyn y ddau golledig yn ôl, ond tynnwn y llen dros yr olygfa yn y gegin y noson honno rhag gwneud cam â hi wrth geisio ei disgrifio.
Bu'r ddau ddychweledig yn wrthrychau sylw a siarad am ddyddiau, a llawer o holi fu arnynt am y profiadau yr aethent trwyddynt. Llithrodd ryw gymaint o hanes y trysor allan rywsut, yn anghywir iawn, wrth gwrs, ac yr oedd cryn gywreinrwydd i wybod y gwir amdano.
Ymhen rhai wythnosau, daeth gwys i Peter Jones a Harri i fynd i Lundain at yr awdurdodau ynghylch yr ynysoedd ddarganfyddasent a'r trysor a ddygasent adref. Yr oedd Dafydd wedi dychwel yno o'u blaen i ofalu am ei long a'r llwyth, a daeth i'w cyfarfod i fynd gyda hwynt at swyddogion y Llywodraeth. Derbyniodd y tri gyfran sylweddol bob un o werth y trysor, a gwrandawyd yr hyn oedd ganddynt i'w ddweud am y ddwy ynys y proffesent eu bod wedi eu darganfod. Ond er i Harri a Peter Jones roi disgrifiad manwl o'r ynysoedd, ac i Dafydd geisio profi eu lleoliad, ac nad oeddynt ar y chart, ysgwyd eu pennau'n anghrediniol a wnai'r swyddogion.
"Mae'n anhygoel i ni," meddent, "fod ynysoedd eto heb eu darganfod ym Môr y De, a chymaint o fasnachu sydd y ffordd honno. Mae'n rhaid mai ar rai o'r ynysoedd sydd yn cael eu nodi ar y chart y buoch, ond eich bod heb leoli eich hunain yn briodol." Ac ar hynny y bu raid bodloni. Teimlai'r tri dipyn yn dost na chredid eu tystiolaeth gan yr awdurdodau, ond wedi mynd allan o'r swyddfa, meddai Peter Jones, "Hwyrach mai gwell i ni eu bod yn gwrthod ein credu. Fe gawn, felly, ryddid i fasnachu å'r brodorion, a cheisio gwneud lles iddynt yn ein ffordd ein hunain." Ac a hyn ar ôl ystyriaeth y cytunai'r ddau arall.
Anfoddlawn oedd Dafydd a Peter Jones i dderbyn dim o werth y trysor, gan y teimlent mai eiddo Harri ydoedd. Ond mynnai Harri iddynt gadw'u cyfran. Cafwyd o'r anhawster trwy i'r tri roddi swm da o'u cyfran i bwrcasu agerlong i fasnachu â'r ynysoedd, Dafydd i fod yn gapten arni. A chyda'r arian gaed am y llwyth, prynwyd nwyddau at wasanaeth yr ynyswyr. Ni anghofiodd Harri am eu hangenion meddyliol ac ysbrydol. Aeth at Gymdeithas Genhadol Llundain i weld beth oedd ganddynt yn iaith ynyswyr Môr y De, a phrynodd nifer mawr o lyfrynnau yn yr iaith rhannau o'r Ysgrythur, emynau, a llyfrau da eraill. Hefyd, lechau a llyfrau i ysgrifennu ynddynt, ac argraff-wasg fechan, syml at ei wasanaeth ei hun ar yr ynys.
Wedi cael rhai wythnosau ar y lan, daeth yr adeg i'r llong newydd—y Pedru, fel y bedyddiwyd hi—i hwylio eilwaith am yr ynysoedd pell. Er y carasai Peter Jones eilwaith weld y brodorion y buasai mor gartrefol ar eu hynys, gwell oedd ganddo, wedi ei hir alltudiaeth, aros gartref na wynebu'r daith bell. Ond am Harri, yr oedd ef yn eiddgar i fynd yn ôl i Hakiti (enw'r brodorion ar yr ynys fawr) i barhau'r gwaith da a ddechreuasid ganddo ymhlith y brodorion, ac i ddatblygu masnach yr ynys. Cyn ymadael â'i gartref, bu raid iddo annerch cyfarfodydd ym Minymor a'r Cefngwyn ar hanes ei anturiaethau, ac ar ôl yr areithiau anogwyd ef i gyhoeddi llyfr yn rhoi'r hanes. Bu hefyd yn dweud yr hanes wrth blant yr ysgol yn y Cefngwyn. Ymadawodd Dafydd ac yntau ar eu taith hirfaith ynghanol dymuniadau da eu cyfeillion a'u cydnabod.
Mae Dafydd wedi gwneud llawer mordaith er hynny rhwng Hakiti a Phrydain, a Harri wedi dod gydag ef ambell dro i edrych am ei rieni. Ond cymaint yw ei ddiddordeb yn ei waith ymhlith y brodorion fel na fyn hyd yn hyn ymsefydlu gartref.
Ryw bedair blynedd yn ôl, ymwelwyd â'r ynys gan long ryfel Brydeinig, a mawr y stwr yn newyddiaduron y wlad hon pan ddaeth capten y llong honno adref a chyhoeddi ei fod wedi darganfod ynys newydd ym Môr y De, a dyn gwyn, a hwnnw'n Gymro, yn frenin arni.
Sibrydir, a disgwylir yn eiddgar ym Minymor, fod ein brenin am anrhydeddu Harri â theitl urddasol pan y dychwel adref eto ar gyfrif y gwaith mawr y mae wedi gyflawni yn ei ynys fabwysiedig.
Y DIWEDD.