Neidio i'r cynnwys

Ynys y Trysor/Y Llong-ddrylliad

Oddi ar Wicidestun
Harri Mewn Perygl Ynys y Trysor

gan Robert Lloyd Jones

Bywyd ar yr Ynys

XI. Y LLONG-DDRYLLIAD

YR oedd y bore hwnnw—y bore cyntaf wedi'r digwyddiad dieithr—yn fore tesog, yr haul yn bwrw'i belydrau tanbaid arnynt o wybr ddigwmwl, a'r môr cyn llonydded a llyn melin. Nid oedd ton yn cynhyrfu'i wyneb, a safai'r llestr fel pe wedi ei cherfio ynddo. Yr oedd rhyw drymder annaturiol yn effeithio ar bawb—rhyw ddistawrwydd bygythiol, ac edrychai'r Capten yn bryderus. Tua chanol dydd, cododd awel wannaidd o'r tu ôl iddynt, awel boeth fel o ffwrn, ond awel o wynt ydoedd, ac yr oedd yn dda ganddynt ei chael er mwyn cael symud o'u hunfan. Lledwyd rhai o'r hwyliau i dderbyn yr awel, a gwelwyd y llestr yn mynd rhagddi. Ond yn sydyn, duodd y ffurfafen o'u hôl. Gwelent y gorwel fel pe yn agoshau atynt yn gyflym, ac nid cymylau, ond un cwmwl mawr, du fel inc, yn dod tuag atynt gyda rhyw gyflymder arswydus. Dolefai adar yn bruddaidd yn yr hwylbrennau. Duodd y ffurfafen fwy-fwy, a chuddiwyd yr haul gan y duwch. Ni welsai ac ni theimlasai Harri ddim cyffelyb o'r blaen yn ei fywyd. Os ystorm oedd yn dod, yr oedd yn hollol wahanol i'r ystormydd a brofasai ym Môr y Werydd. Ond yn sydyn, tra'r oedd pawb yn gwylio agoshad y cwmwl du, ac wedi eu cyfareddu ganddo fel na allent wneud dim arall, disgynnodd yr ystorm arnynt gyda rhyw ruthr ofnadwy. Chwibianai'r gwynt yn yr hwylbrennau, fflachiai'r mellt a rhuai'r daran, a disgynnai'r glaw yn genllif. Nid oedd modd symud ar hyd y dec heb berygl i fywyd, ac yr oedd y llestr yn gwbl at drugaredd yr elfennau dinistriol. Chwipid y môr i fyny'n donnau mwy a mwy bob munud, a chodid y llestr bron oddiar wyneb y dŵr gan rym y gwynt; ac er mai cynnar yn y prynhawn ydoedd, yr oedd yn dywyll fel y fagddu. Teimlent eu bod yn cael eu cludo ymlaen yn gyflym i rywle, ond nid oedd ganddynt syniad i ble. Mae'n wir y gallent lywio, ond pa faint gwell fyddent o lywio heb chart na help o fath yn y byd i lywio wrtho? Gwaeth na'r cyfan, yr oeddynt yng nghymdogaeth Ynysoedd Môr y De. Yn y rhan hwnnw o'r byd, y mae miloedd lawer o ynysoedd wedi eu gwasgaru yn fân dyrrau ar hyd y môr—ynysoedd cwrel, gan mwyaf—ynysoedd a'r graig honno, cwrel yn sylfaen iddynt—adeiledir gan filiynnau afrifed o fân bryfaid dan wyneb y dwfr, ag sy'n ffurfio'n ynysoedd trwy i bethau gael eu cludo ar y creigiau, gan y môr ac adar a thrwy gyfryngau eraill. Ac yng nghymdogaeth ynysoedd o'r fath, mae llawer o greigiau cudd—y pryfaid heb gwblhau eu gwaith arnynt—rhai peryglus iawn i long daro a thorri arnynt. Ni wyddent ar fwrdd yr Arfonia" pa eiliad y dryllid eu llestr yn erbyn craig o'r fath, ac yr hyrddid hwy i dragwyddoldeb. Amser ydoedd i'r mwyaf anystyriol ddifrifoli. Os gweddiodd Harri ryw bryd, dyna'r pryd y gwnaeth. Meddyliai am y pedwar yn y cwch. Ai tybed eu bod wedi cyrraedd i ddiogelwch cyn i'r ystorm dorri arnynt? Os nad oeddynt, druain ohonynt!

Gwaethygu'n hytrach na gwella 'roedd y storm fel y cerddai'r dydd ymlaen, a chyn y nos yr oedd yr ychydig hwyliau oedd heb eu plygu wedi eu rhwygo'n ribannau. Yr oedd pawb o'r dwylo yn bryderus wrth wynebu'r nos (er nad oedd modd iddi fod yn llawer tywyllach), ac wedi ymgasglu ynghyd ym mhen ôl y llong yn ymyl y llyw, lle y ceisient gysgodi orau gallent. Yr oedd y Capten wedi eu gorchymyn i'r fan honno, gan y tybiai eu bod yn fwy diogel yno rhag i rywbeth ddisgyn arnynt.

Rywdro yn y nos, pa bryd ni allai neb ddweud, clywyd trwst mawr ym mhen blaen y llong. "Dyna'r mast blaen wedi mynd," ebe'r Capten, "rhaid torri'r rhaffau sydd ynglŷn wrtho rhag iddo fod yn achos i suddo'r llong."

Rhedodd nifer o ddynion ymlaen, Harri yn eu plith, gyda chyllill a bwyeill i dorri'r rhaffau, ac wedi gwneud hynny, syrthiodd y mast drosodd i'r dŵr, gan fynd a rhan o ymyl ochr y llong i'w ganlyn. Wrth iddynt geisio dychwelyd i'r pen ôl wedi gorffen y gwaith hwn, daeth ton anferth dros y bwrdd, a chipiwyd Parsons druan i'w chanlyn. Yr oedd Harri wrth ei ochr ar y pryd, a diau y buasai wedi ceisio'i achub pe bai'r rhithyn lleiaf o obaith y gellid gwneud hynny. Druan o Parsons! ni chafodd gyflawni'i addewid i ysgrifennu at ei rieni, ond yn ei hiraeth ar ei ôl, llawenhai Harri ei fod yn gymeriad newydd, ac wedi edifarhau am ei fywyd drwg blaenorol.

Noson ofnadwy fu i'r trueiniaid ar yr "Arfonia." Gweddient a hiraethent am i'r wawr dorri, ac i'r ystorm fawr ostegu. Er yn wlyb at eu crwyn, yn newynog, ac mewn angen gorffwystra, dalient i obeithio am eu bywydau. Pan, ar ôl hir ddisgwyl, yr aeth y nos heibio, ac y torrodd y wawr, gan roddi iddynt ryw gymaint o oleuni, yr oedd golwg dorcalonnus ar y llestr a fuasai mor hardd cyn y ddrycin—y galley wedi mynd, popeth symudol ar y dec wedi ei ysgubo ymaith, rhai o gaeadau yr hatches hwythau wedi eu codi o'u lle, er eu trymed, gan y gwynt a'r tonnau, ac wedi eu hyrddio dros y bwrdd, a'r dŵr yn llifo i mewn i grombil y llong. Amheuai'r Capten fod y llong yn gorwedd yn is yn y dwfr nag a ddylasai, ac anfonwyd y saer i lawr i edrych faint o ddŵr oedd ynddi. Daeth yn ôl a'r newydd drwg fod ynddi dros lathen o ddwfr, ac amheuai ei bod yn gollwng. Gwaeddodd y Capten am ddynion at y pump rhag soddi o'r llestr danynt. Cafwyd pawb yn ewyllysgar i wneud eu rhan er eu bod yn lluddedig ar ôl eu gwylnos heb na chwsg na lluniaeth. Ychydig enillent ar y dwfr oedd yn dal i drochioni i'r llong, ond yr oedd ennill rhyw ychydig yn ennyn gobaith, a'r Capten yn eu calonogi i barhau'r ymdrech. Suddo oherwydd y dwfr yn y llong oedd y perygl mwyaf uniongyrchiol iddynt, ac aeth hwn a'u holl sylw, nes iddynt anghofio'r perygl arall oedd lawn cymaint, os nad mwy,—o daro yn erbyn craig. Ond, o ran hynny, ni allent, er gwylio, wneud dim i atal i hynny ddigwydd,—dim ond ymddiried mewn Rhagluniaeth, oblegid yr oedd y llyw wedi mynd yn ddifudd erbyn hyn.

Parhau'r oedd y storm yr ail ddiwmod, ond gobeithiai y Capten y gostegai at yr hwyr. Parhawyd i weithio gyda'r pwmp drwy'r prynhawn, pawb yn eu tro, i gadw'r dwfr i lawr. Ond yn bur bell yn y prynhawn,— ni wyddai neb pa bryd,—teimlwyd ysgytiad rhyfedd drwy'r llong. Clywyd a theimlwyd ei gwaelod yn crafu yn erbyn rhywbeth, ac yna tarawodd yn erbyn rhywbeth nes y crynnai pob pren ohoni. Bron na thybid yr ai oddiwrth ei gilydd. Syrthiodd y dynion ar draws ei gilydd hyd y dec gan yr ysgytiad, a syrthiodd y mast ôl, gan hollti yn ymyl ei fôn.

"Yr ydym ar graig," dolefai'r Capten yn dorcalonnus, a'i ddwylo trwy 'i wallt fel pe bron mynd yn wallgof. Yr oedd berw a chynnwrf ar y bwrdd, a rhai o'r tramorwyr a gymerasid i mewn yn Valparaiso fel pe wedi colll'u pennau'n lân gan ddychryn marwol. Ond chwarae teg i'r Prydeinwyr, yr oeddynt hwy, fel bob amser, yn hunan-feddiannol a than lywodraeth y Capten.

Yr oedd y llong ar osgo, a rhediad mawr ynddi o'r pen blaen tua'r pen ôl. Yr oedd yn amlwg bod y pen blaen ar graig, ond pa mor sicr arni, ac a oedd y graig wedi ei thrywanu, nid oedd yn hawdd dweud. Ond mor uchel oedd y pen blaen wedi ei godi o'r dwfr fel yr oedd y pen ôl tan ddwfr, a'r tonnau'n torri drosto. Ceisiodd pawb o'r dynion wneud eu ffordd i'r pen blaen, ac nid gorchwyl hawdd oedd hynny; a rhaid oedd hefyd wrth ofal mawr wedi cyrraedd yno rhag mynd i lawr y llithrigfa i'r dwfr. Neidiodd y Capten i flaen eithaf y llong i edrych beth oedd y rhagolygon am waredigaeth. Rhyw gan llath—mwy neu lai oddiwrtho, gwelai ynys,—ynys cwrel isel a'r coed palmwydd yn ymestyn ar hyd ei glannau. Rhwng y llestr a'r lan yr oedd llyn tawel—lagoon—tawel hyd yn oed yng nghanol yr ystorm ofnadwy. Gwelai'r Capten fod y llong wedi taro ar coral reef—fel a geir yn aml yn amgylchynu ynysoedd ym Môr y De—fel gwrthglawdd naturiol i amddiffyn yr ynysoedd rhag llid y don. Gwelai oddiwrth y llinell wen o ewyn y tonnau'n torri, fod y reef yn ymestyn am bellter mawr ar ei aswy—llinell wen o ewyn y don a welid mor bell ag y cyrhaeddai'r llygad, ond ar yr ochr dde, gwelai agorfa yn y reef—bwlch gweddol lydan trwy yr hwn y torrai'r tonnau mawr i aflonyddu ar dawelwch y lagoon. Pe gellid gollwng cwch i'r dwfr, feallai y gellid ei arwain trwy'r bwlch i ddiogelwch yr ynys. Ond antur beryglus fyddai; yr unig beth i gyfiawnhau'r ymgais oedd y ffaith bod mwy o berygl o aros yn y llong. Galwodd y Capten ar y mate ato i ymgynghori ag ef, ac wedi siarad dipyn â'i gilydd, daeth y ddau i egluro'r amgylchiadau i'r dynion. Wrth gwrs, ni ellid dweud pa faint o niwed oedd wedi ei wneud i'r llong gan y creigiau. O bosibl yr arhosai yno yn eithaf sefydlog hyd nes i'r ystorm ostegu. Pe baent yn sicr o hynny, aros ar y bwrdd fyddai'r cynllun diogelaf. Ond gan fod y rhan blaen yn sefydlog ar y graig, a'r rhan ôl yn gorffwys ar, neu yn y dwfr, heb ddim arall yn ei gynnal, y perygl oedd i'r llong dorri ac ymollwng yn y canol; i'r rhan ôl wedi hynny suddo yn y dyfnder, ac i'r rhan blaen wedi colli'r cydbwysedd ei ddilyn i'r dyfnder. Cyd-olygai'r ddau swyddog mai dyna'r hyn oedd debycaf o ddigwydd. Yr oedd y nos yn dyfod, a'r ystorm fel pe am barhau ddiwrnod arall. Nid oedd dim amser i'w golli; yr oedd pob tôn fel pe'n bygwth dinistrio'r llestr, a phenderfynwyd i wneud yr ymgais beryglus gyda dau gwch, y naill dan ofal y Capten, a'r llall dan ofal y mate, gan hyderu y llwyddid i gael un o'r cychod, os nad y ddau, i ddiogelwch. Ac yna aed ati i baratoi'r cychod. Anodd oedd clywed gair gan ruad y tonnau'n torri ar y reef, a gorchwyl anodd, yn ymylu ar amhosibl, oedd cael y cychod i'r dŵr dan y fath amgylchiadau dychrynllyd. Cafwyd cwch y mate i'r dwfr yn gyntaf, a llwyddodd i adael ochr y llong gyda saith o'r dwylo ynddo. Yna prysurwyd i gael cwch y Capten yn barod, a'r un modd llwyddwyd i adael y llong gyda'r gweddill o'r criw, a Harri yn eu plith. Amhosibl bron oedd rhwyfo gan fel y teflid y cwch fel pluen ar y tonnau, a rhaid oedd iddynt afael yn dyn yn eu seddau rhag mynd drosodd i'r dwfr. Ond byr hoedl gafodd cwch y Capten. Cyn ei fod wedi mynd ugain llath oddiwrth y llestr, tarawyd ef dan ei ystlys gan don aruthrol. Dymchwelwyd y cwch, a thaflwyd pawb i'r môr. Ceisiodd pawb wneud ati i nofio—ond, druain ohonynt! gobaith gwan oedd i'r nofiwr gorau yn y fath ystorm. Yr oedd y tonnau'n chwarae â hwynt, ac yn eu taflu fel y mynnent. Teimlai Harri ei hun yn cael ei godi gan don fawr. Am amrantiad, ar frig y don, gwelai ei hun yn cael ei gludo tua'r llestr, a chauodd ei lygaid mewn dychryn gan ddisgwyl cael ei hyrddio yn erbyn ei hochr a'i ladd. Ond, er ei syndod, cafodd fod y don wedi ei godi'n ôl i'r llong,—i'r rhan ôl oedd eisoes yn y dŵr! Teimlodd goed y dec dan ei draed; neidiodd i gydio gafael yn rhywbeth rhag cael ei gludo'n ôl i'r môr gan y don wrth iddi gilio, a llwyddodd. O! drugaredd! yr oedd unwaith eto'n ddiangol, er mai prin y gallai gredu hynny, gan yr ymddangosai'r peth bron yn wyrthiol. Offrymodd ddiolch i'r Hwn sydd yn eistedd ar y llifeiriant ac yn marchog gwynt y nen am ei arbed. Daeth hen gegin Bwlchglas a'i fam ar ei deulin yn gweddïo dros y bachgen, a'r Beibl mawr yn agored ar y ford, yn fyw i'w feddwl y munud hwnnw. Ond nid gwiw iddo ymgolli mewn synfyfyrdod; cofiodd nad oedd diogelwch parhaol iddo yn y fan honno, beth bynnag am ben blaen y llong. Ymgripiodd yn araf a chyda chryn anawster ar hyd ystlys y llong i'w phen blaen oedd ar y graig ac yn uchel o'r tonnau. Ac wedi cyrraedd yno, trodd i edrych beth a ddaethai o gwch y mate, ond ow! nid oedd i'w weld yn unman. Rhaid bod hwnnw hefyd wedi cyfarfod â'r unrhyw dynged a chwch y Capten. Edrychodd yn hir ac yn fanwl i weled a oedd rhywun o'r dynion yn y weilgi'n ceisio nofio, ond ni allai weled neb. Neb! Yr oedd ei hunan o'r holl griw, ac wedi ei achub mewn modd gwyrthiol. Pan dorrodd ystyr llawn ei sefyllfa ar ei feddwl, torrodd y bachgen dewr i wylo'n hidl. Wylai wrth feddwl am golli'r Capten Evans fuasai mor garedig wrtho ef ar hyd y fordaith, ac am y dynion eraill gyfarfuasai â dyfrllyd fedd mor bell o'u cartrefi, a Parsons, ei gyfaill cu, a ysgubwyd i'ẅ ddiwedd mor ddirybudd. Ac yntau'n unig ar y llestr o'r holl ddwylo! Tra'n diolch am ei waredigaeth, wylai wrth feddwl am ei unigedd—wedi ei adael ei hunan ar y llong ddrylliedig. Hyd yn oed ped arbedid ef dros yr ystorm, ac iddo allu mynd i'r ynys, ni wyddai beth a allai ddigwydd iddo yno, a gobaith gwan oedd ganddo i weld Minymor, a'i fam a chyfeillion ei febyd byth mwy. Teimlai ei galon ymron torri—yr oedd y digwyddiadau ofnadwy yr aethai trwyddynt wedi gwneud eu hôl arno. Eisteddodd ar ddam o bren yn ei ddigalondid, a daeth cwsg i'w gymryd yn ei breichiau, iddo anghofio ei holl ofidiau. Ynghanol yr ystorm, er gwaethaf y peryglon yr oedd ynddynt, cysgodd fel y cwsg y lluddedig—yn drwm, yn dawel, ac yn hir. A phan ddeffrodd, yr oedd gwawr diwrnod arall wedi torri arno, a'r haul yn siriol wenu, a'r ystorm fawr drosodd, er bod y tonnau'n dal yn gynhyrfus fel effaith y chwipio fu arnynt. Nid hir y bu cyn sylweddoli ei sefyllfa; ac er yr arosai atgofion trist am y dydd blaenorol a'i drychinebau, yr oedd gobaith newydd dan ei fron, a gwaed bywyd ieuanc hoyw yn rhedeg yn ei wythiennau. Rhaid oedd iddo gael lluniaeth; yr oedd wedi bod ers deuddydd heb damaid, a'i gylla'n wag. Aeth i'r forecastle, a gwnaeth fwyd iddo'i hun. Wedi ei ddigoni, daeth yn ôl i'r bwrdd, a dechreuodd edrych yn fanylach o'i amgylch, er mwyn penderfynu beth i'w wneud ymhellach. Er y gwelai nad oedd bellach berygl uniongyrchol iddo yn y llong, gan fod yr ystorm wedi gostegu, eto ni wyddai pa mor fuan y deuai ystorm arall a gwblhai ddrylliad y llong, ac felly nid oedd dinas barhaus iddo ar y llong. Rhaid edrych felly sut y gellid mynd i'r ynys, ond cwestiwn pwysig arall cyn hwnnw ydoedd, A ydoedd yn ddiogel iddo fynd i'r ynys? Ai tybed fod arni drigolion? Clywsai a darllenasai hanesion dychrynllyd am greulonderau a barbareiddiwch ynyswyr Môr y De,—y modd y lladdent ac y bwytaent ddynion gwynion,—a gwell ganwaith ganddo drengi ar y llong na mynd i'r ynys i gyfarfod â diwedd o'r fath hynny.

Aeth at ymyl y llong i edrych yn fanylach ar yr ynys. Synnodd at ei phrydferthwch. Yr oedd fel darn o baradwys yng nghanol yr eigion, gyda thywod gwyn, ariannaidd ar ei glan, a'r planwydd yn tyfu ymron hyd i lan y môr, a'u cysgod i'w weld yn nyfroedd tawel y lagoon. Isel ydoedd yr ynys gyferbyn ag ef, ond draw yn y pellter gwelai fod y tir yn ymgodi i fryn tra uchel. Edrychai'r lan yn ei ymyl; gallai nofio yno yn hawdd, pe bai angen. Ond ei amcan cyntaf oedd ceisio sicrhau a oedd trigolion ar yr ynys ai peidio. Nid oedd arwyddion o fywyd dynol mor bell ag y gwelai, ond wrth gwrs, nid oedd hynny yn profi dim. Gallent fod fwy i mewn yn yr ynys, neu ar ochr arall iddi. Penderfynodd aros ar y llong hyd drannoeth, deued a ddeuai, a chymryd y diwrnod hwnnw i wneud paratoadau tuag at lanio y pryd hwnnw, os na welai yn y cyfamser bobl ar yr ynys. Ac erbyn ystyried, gwelai na allai fynd i'r ynys ond drwy nofio hyd nes i'r môr dawelu, gan mai trwy'r un bwlch yn y reef ag y bwriadai'r Capten fynd, y byddai raid iddo yntau fynd, gan nad oedd modd mynd oddiar y llong i'r lagoon ar ei gyfer trwy fod y llong, hyd y gallai weled, ar yr ochr agosaf i'r môr o'r graig. Aeth ati i gynllunio ar gyfer trannoeth. Gwnaeth ymchwiliad manwl trwy'r llong am y pethau a garai fynd ag ef i'r lan. Y peth cyntaf i feddwl amdano oedd ymborth. Aeth i'r ystorfa, a chafodd fod yno sŵm da o ddefnydd ymborth, heb ond ychydig ohono wedi ei wlychu, a llawenhai wrth weld fod yno ddigon i'w gynnal ef am fisoedd. Rhaid fyddai iddo hefyd wrth lestri, a chasglodd ynghyd yr hyn a dybiai y byddai arno eu hangen. Gwelai y byddai arno angen am lu o bethau eraill os oedd i fyw'n hir ar yr ynys, ond rhaid oedd yn gyntaf gynllunio sut i'w cael i'r lan. Yr oedd un cwch yn aros ar y llong o'r pedwar oedd ganddi'n cychwyn, ond yn crogi uwchben y dec yr oedd, a sut byth y gallai un bachgen ei dynnu oddiyno a'i gael i'r dwfr? Ymddangosai'r gorchwyl yn amhosibl, ac aeth i chwilio am ddarnau o goed gan feddwl gwneud raft. Cafodd mewn gwahanol fannau chwech o blanciau cryfion, a chludodd neu yn hytrach llithrodd hwynt i ben ôl y llong, i'r lle y golchai y dwfr i mewn dros ei phen ôl. Ond tra'n gwneud hynny, daeth i'w feddwl yn sydyn y gallai o bosibl lithro'r cwch i lawr y goriwaered ond ei gael o'r lle y crogai i'r dec. Yr oedd yr ymgais yn sicr yn werth ei gwneud, ac nid cynt y meddyliodd hynny nag y dechreuodd ar y gorchwyl anodd. Cymrodd dipyn o amser iddo ryddhau'r cwch, ond fe lwyddodd, a chaed ef i'r dŵr yn y pen ôl. Ni chafodd ond amser i'w sicrhau wrth ochr y llong na ddisgynnodd y nos arno, ac aeth i'r forecastle, wedi llwyr flino, i gysgu. Darllenasai Harri fod y nos yn disgyn yn sydyn wedi i'r haul fynd i lawr yn nhueddau y cyhydedd, ac yn sicr yr oedd wedi cael profiad o hynny o'r blaen ar fwrdd y llong yn ystod y fordaith, ond nid oedd erioed wedi sylweddoli'r sydynrwydd fel y gwnaeth y tro hwn.

Aeth i'w wely'n fwy calonnog y noson honno wedi llwyddo mor dda yn ei gynlluniau, a phan gododd yn blygeiniol drannoeth, cafodd fwy o achosion i godi ei galon ac ymwroli. Yr oedd yn fore hyfryd, a'r tonnau wedi gostegu, a'r môr yn ymddangos mor ddof fel y gellid tybied na buasai'n boddi undyn byth —pob arwydd o'r ystorm fawr wedi diflannu ond y llong ddrylliedig. Nid oedd dim gwahaniaeth i'w weld yn sefyllfa y llong—rhaid bod rhan dda o'i phen blaen wedi mynd ar y graig, a'i bod yn bur sefydlog yno. Aeth i ben eithaf blaen y llong i edrych a welai ryw arwydd o fywyd dynol ar yr ynys. Nid oedd dim i'w weld. Edrychodd i lawr dros ochr y llong, a gwelai fod y graig yr oedd y llong arni yn ymyl y wyneb— nid oedd ond modfedd neu ddwy o ddwfr arni, a rhyw ddwy lath o wyneb y graig rhyngddo a'r lagoon. Parodd hyn lawenydd mawr iddo. Rhaid fyddai iddo fynd a'r cwch i'r ynys y tro cyntaf trwy y bwlch oedd draw yn y reef, ond wedi cael y cwch unwaith i'r lagoon, gallai fyrha.u y daith rhwng yr ynys a'r llong trwy y darganfyddiad hwn, ond iddo gael rhyw gynllun i fynd i lawr o'r llong i'r graig. Sicrhaodd raff-ysgol dros ochr y llong i gyrraedd i'r graig, hyd yr hon y gallai fynd a dod yn rhwydd rhwng y cwch a'r llong. Wedi trefnu fel hyn ar gyfer ei ymweliadau dyfodol a'r llestr, aeth at y gwaith mwy uniongyrchol a alwai am ei sylw, sef llwytho'r cwch a mynd drwy'r bwlch am yr ynys. Casglodd ddefnyddiau ymborth a dododd hwynt yn y cwch mewn baril. Cymrodd gydag ef dipyn o arfau saer rhag y byddai eu hangen arno i wneud cysgod iddo'i hun tros y nos, ei wely, a thipyn o ddillad. Ac yna 'roedd yn barod i gychwyn. Teimlai braidd yn sicr erbyn hyn nad oedd neb yn byw ar yr ynys; nid oedd wedi gweld yr arwydd lleiaf er wedi gwylio'n fanwl. Trwm oedd y cwch iddo ei yrru'i hunan trwy'r dwfr; ond yr oedd yn fachgen cydnerth, a llwyddodd heb or-lafur i gyrraedd i'r lan gyferbyn â blaen y llong. Wedi cyrraedd y lan a sicrhau'r cwch, ymostyngodd ar ei liniau ar y tywod fel Robinson Crusoe gynt i ddiolch am ei waredigaeth, ac i ofyn am nodded y Goruchaf drosto eto. Yna, wedi cymryd ychydig luniaeth, penderfynodd fynd i gael golwg ar yr ynys, gan adael y cwch a'i lwyth lle yr oedd. Y peth cyntaf a'i tarawodd oedd prydferthwch anghyffredin yr ynys —edrychasai'n brydferth oddiar fwrdd y llong, ond yr oedd y tlysni'n ymddangos yn fwy fyth wedi cael golwg agos arni—llwyni o goed—palmwydd ac eraill, yn ymestyn i bob cyfeiriad mor bell ag y gallai weled, ac adar amryliw yn eu canghennau. O! na bai ganddo rywun i gyd-fwynhau'r lle ag ef! Cymrodd ei law-ddryll i'w ganlyn a phastwn yn ei law chwith i fynd i'r daith. Cerddodd ar hyd glan y lagoon am gryn bellter—tua milltir fel y tybiai, a gwelai oddiyno ynys arall—a ymddangosai yn un bur fawr—draw yn y pellter tua'r gorllewin—mor bell ag y gallai farnu wrth yr haul. Ychydig ymhellach ymlaen, daeth at geg afon fechan yn ymarllwys i'r lagoon, a sylwodd bod bwlch yn y reef gyferbyn â cheg yr afon. Gwyddai'r achos—nad yw y pryfaid bychain yn gallu adelladu mewn dŵr hanner croyw—dim ond mewn dŵr hallt

Trodd i mewn i'r ynys gyda glan yr afon fechan, ac wedi mynd rhyw ddau can llath o lan y môr, safodd yn sydyn. O'i flaen gwelai adeilad bychan, tebyg i dŷ o goed. Teimlai ei galon yn dechrau curo'n gyflym, a neidiodd o'r tu ôl i goeden i ymguddio, Gwasgai goes y pastwn yn dyn yn ei law dde, a'r dryll yn ei law chwith. Wedi gwylio am rai munudau heb weld neb, na dim arwydd o fywyd, anturiodd yn ochelgar ymlaen, ac felly o goeden i goeden nes cyrraedd hyd at y bwthyn. Yn lladradaidd agoshaodd at yr agorfa iddo, a syllodd i mewn. Yr oedd yn wag a dim arwydd bod neb wedi bod yno ers cryn amser. Ond yr oedd yn amlwg iddo fod yn drigfa i rywun rywdro, pa beth bynnag a achosodd i'r cyfryw fynd oddiyno. Wedi archwilio'r bwthyn yn fanwl, gwelodd y gwnai eithaf cartref iddo yntau am ysbaid, hynny yw, os na chai fod rhywun arall yn ei hawlio. Gan ei bod bellach wedi mynd ymhell i'r prynhawn, penderfynodd ddychwelyd i'r man y gadawsai y cwch, ac yn hytrach na mynd yn ôl y ffordd y daethai, ceisiodd unioni am y lle er mwyn gweld mwy o'r ynys a'i ragolygon ar y ffordd. Trwy goedwig 'yr aeth bron bob cam o'r daith—y coed mewn rhai mannau yn llwyni, a mân ddrysgoed yn atal ei daith. Gwelai fod yr ynys yn neilltuol o ffrwythlon; yr oedd yno goed cocoanuts a bananas afrifed, a rhoes hyn sicrwydd iddo nad oedd berygl iddo newynu yno. Gwelodd hefyd nifer o greaduriaid tebyg i foch yn dianc o'i flaen i ymguddio, a dyna'r unig fath ar greadur a welodd. Ni byddai raid iddo felly fyw ar ffrwythau'n unig, ond cael rhyw foddion i ddal y moch.

Wedi cyrraedd at y cwch, cludodd y llwyth ohono i'r lan, ac wedi eu dodi mewn man y tybiai y byddent ddiogel hyd drannoeth, penderfynodd ddychwelyd i'r llong dros y nos i gysgu, gan f od arno eisiau dudo llawer eto o bethau o'r llong i'r lan at ei wasanaeth. Aeth yn ôl yn syth at ben y llong dros y lagoon, ac nid drwy'r bwlch i ochr y môr i'r reef. Rhwyfai yn ôl yn hamddenol gan syllu i ddyfroedd y lagoon. Rhyfeddai weld y dwfr mor glir; er ei fod yn ddwfn iawn, yr oedd yn glir fel y grisial, a gallai weld y planhigion ar ei waelod, a phob math o greaduriaid, rhyfedd a dieithr iddo, ynddo. Wedi cyrraedd at ymyl yr ysgol, glaniodd ar y graig. Nid oedd ond ychydig o ddwfr arni fel yn y bore. Rhyfeddai at hyn, na buasai trai a llanw yn gwneud mwy o wahaniaeth yn arwynebedd y môr. Mor wahanol i'r hen draeth gartref lle yr oedd troedfeddi lawer o wahaniaeth rhwng uchter y dŵr bob rhyw chwe awr. Sicrhaodd y cwch wrth yr ysgol. Gan fod dwfr y lagoon mor dawel, nid oedd perygl i'r cwch daro yn erbyn y graig. Gwelai yn awr yn glir sefyllfa y llong ar y graig. Yr oedd wecÚ rhedeg i fath o fwlch rhwng dau ddarn o'r graig, ac yn edrych yn bur sefydlog yno.

Cysgodd yn dda y noson honno, a chododd yn blygeiniol drannoeth wedi ymadnewyddu, ac yn barod i waith, i gludo ychwaneg o bethau angenrheidiol, i'r ynys. Rhaid oedd cael ei gist i'r lan, os yn bosibl. Ond nid oedd dim wedi bod yn amhosibl iddo hyd yn hyn, ac nid oedd am i'r gorchwyl hwn ei orchfygu chwaith. Rhaid fu arno dynnu allan holl gynnwys y gist, ac yna bob yn ris fe'i cafodd i fyny i'r bwrdd. Gyda chymorth rhaff, llwyddodd i ollwng y gist drosodd i'r graig. Yna ceisiodd ychwaneg o ddefnyddiau ymborth, a'r offerynnau morwrol, etc. Er bod yr haul, erbyn hyn, wedi codi yn uchel yn y ffurfafen, a'r gwres bron yn annioddefol, llwythodd y cwch, ac ymaith ag ef dros y lagoon am y lan gyferbyn ag ef. Yr oedd eisoes wedi penderfynu gwneud ei gartref yn y bwthyn a welsai y diwrnod cynt, ac felly, wedi cyrraedd y lan, dododd y pethau a ddygasai yno'n flaenorol, yn y cwch i fynd ar hyd y dŵr hyd at geg yr afon fechan, lle yr oedd y bwthyn. Gwaith caled oedd rhwyfo'r cwch trwm, ac yntau wedi blino eisoes. Ond yr oedd yn benderfynol o gyflawni'r rhaglen a drefnasai am y diwrnod, ac wedi mynd a'r cwch i fyny'r afon mor bell ag y gallai gan ddyfnder y dwfr (ac ychydig lathenni oedd hynny), cludodd yr oll o'r llwyth i fyny i'r bwthyn, ac erbyn iddo orffen, prin y gallai symud gan ludded. Wedi cymryd tamaid i'w fwyta, trefnodd ei wely yng nghanol yr ystafell, a chysgodd o dan dô ar ddaear gadarn am y waith gyntaf er ys pan adawsai ei gartref; ac mor felys oedd yr hûn i'r unig blinedig, fel yr oedd yr haul wedi symud amryw raddau o'r gorwel cyn iddo agor ei lygaid.

Am dair wythnos, bu'n mynd ôl a blaen ar hyd y lagoon i'r llong gyda'r cwch—mynd un bore, aros ar y llong dros y nos, a dychwel drannoeth gyda llwyth o angenrheidiau; ac erbyn diwedd y tair wythnos, yr oedd wedi cludo ystorfa dda o'r llong, o ymborth, dillad, llyfrau, arfau, llestri, offerynnau, etc.,—mewn gair, credai ei fod wedi cludo popeth a fyddai'n debyg o fod yn ddefnyddiol iddo yn ei fywyd ar yr ynys. Yna cymrodd bleser mewn trefnu'r tŷ, a'i wneud mor gartrefol yr olwg ag y gallai. Yn ei gist 'roedd ganddo ddarlun o'i dad a'i fam, a chrogodd ef ar fur y bwthyn uwchben ei wely. Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd dilynol, cafodd lawer o bleser o ddarllen y llyfrau a ddygasai gydag ef o'r llong. Dechreuodd hefyd gadw dyddiadur, a chofnodai'n fanwl bob dydd ei weithrediadau, ac yn aml iawn, ei fyfyrdodau a'i brofiad. Gellir meddwl iddo wneud defnydd, y cyfle cyntaf posibl, o offerynnau'r capten i gymryd yr haul er mwyn penderfynu ymhle yr oedd. Gwnai safle'r ynys yn 174°W, 12°S., ond wrth iddo ymgynghori a'r chart, nid oedd ynys o fath yn y byd wedi ei nodi i gyfateb i'r lle hwnnw! Methai'n lân a deall y dirgelwch; yr oedd yn ddigon sicr ei fod yn defnyddio'r offerynnau'n briodol, ac eto nid oedd ynys wedi ei marcio i fod yno. Ai tybed ei fod wedi darganfod ynys oedd heb ei darganfod hyd hynny? Prin y credai hynny; ond yr oedd yn sicr o un peth: os oedd ei gyfrif ef yn gywir, yr oedd dros ddau can mifltir i'r gorllewin o Rahiti, ac felly rhaid fod yr hyrddwynt wedi chwythu'r llong y pellter hwnnw cyn ei dryllio.

Nodiadau

[golygu]