Ynys y Trysor/Y Traeth
| ← Harri'r Dringwr | Ynys y Trysor gan Robert Lloyd Jones |
Cwch y Capten → |
III. Y TRAETH
HOFF gyrchfan Harri a phlant Minymor, yn enwedig ym misoedd yr haf, oedd glan y traeth. Er mai Minymor y gelwid y pentref, nid oedd yr enw'n un hollol briodol, gan fod dipyn o bellter rhynddo a'r môr. Afon led fawr oedd yn rhedeg heibio'r pentref tua'r môr, ac yn ymarllwys iddo rhyw ddwy filltir yr ochr isaf i'r pentref. Deuai'r llanw i fyny'r traeth hyd at Finymor, ac hyd yn oed at Gefngwyn, os nad ychydig yn uwch i fyny'r afon na hynny, nes llanw'r gwastadedd llydan a'i orchuddio â dwfr, a'i wneud i ymddangos fel môr. Dyna o bosibl a rydd gyfrif am enw'r pentref, er nad oedd yn llythrennol ar fin hynny o fôr ychwaith. Ar y llechwedd tua chwarter milltir o'r traeth y safai'r pentref, a'r tir yn rhedeg i lawr yn raddol oddiyno hyd at y traeth. Pan y byddai'n drai drachefn yn y traeth, ymestynnai gwastadedd o dywod am bellter mawr, a'r afon yn ymddolennu trwyddo tua'r dyfnfor Ond pa un bynnag ai trai ai llanw fyddai, yr oedd rhyw swyn hudolus yn y traeth i Harri a'i gyfoedion ym misoedd yr haf, a llawer o hwyl a gaed yno o dro i dro. Arweiniai ffordd o ymyl y siop yn y pentref heibio Bwlchglas i lawr i lan y traeth, ac yn y fan lle y deuai'r ffordd i'r traeth, yr oedd bau bychan neilltuol o brydferth ar ffurf hanner crwn,—yn dywod sych glân ar drai hyd at lan yr afon, gydag ymyl lydan o gerrig mân llyfn rhynddo â'r clogwyni coediog cysgodol, lle terfynai'r tir. Ar y naill ben a'r llall i'r bau, safai craig ddanheddog fel gwyliedydd. Pan y byddai llanw uchel, golchai'r môr hyd at y clogwyni, fel na ellid tramwy glan y traeth o graig i graig. Ar lan y bau, yn ymyl y fan lle deuai'r ffordd iddo, y safai Glandon, cartref Dafydd. Pan welai Harri blant o'r pentref yn pasio'i gartref tua'r traeth, ni allai orchfygu'r demtasiwn i'w dilyn, ac os na byddai Dafydd ar y traeth eisoes, chwibaniad gan Harri gyferbyn â Glandon a'i dygai mewn amrantiad at ei ochr.
Draw ar y traeth gyferbyn â bau Glandon, safai ynys gron—un ddigon mawr i gynnal amaethwr ar ei thir. Dywedai"r hen drigolion mai ar hyd y ffordd o Finymor at Glandon yr âi pobl yn yr amser gynt i groesi'r traeth, ac mai arweinydd i dywys y teithwyr drosodd yn ddiogel i'r lan arall drigai yng Nglandon. Dywedent hefyd y cofìent adeiladu llongau yn y bau. Ond nid oedd y naill na'r llall o'r pethau hyn yn bod erbyn amser Harri,—cedwid ychydig gychod yn y bau fel y cawn sylwi eto; ar wahân i hynny, chwaraele plant dedwydd oedd y bau, ac nid oedd neb a fwynhai'r lle'n fwy na Harri a Dafydd.
Ni chaed hwyl heb fod perygl ynglŷn wrtho—yn wir, yn y perygl yn aml yr oedd yr hwyl. Lle peryglus iawn i rai anghynefin ag ef oedd y traeth, hynny yw, os gadewid y lan, a rhybuddid y plant yn aml gan eu rhieni i beidio mynd yno, ac i beidio ymdrochi ar un cyfrif. Ond gwyddai Harri a Dafydd ddaearyddiaeth a "moryddiaeth" y traeth i'r dim. Gwyddent am y mannau diogel i ymdrochi ynddynt, ac am bob trobwll a llyn peryglus. Gwyddent hefyd am y mannau lle y gellid croesi'r afon fawr ar ddistyll trai i Ynys Hwyfar neu i'r lan arall heb fynd dros eu penliniau, ac ni ddaethant i feddu'r wybodaeth hon heb wynebu peryglon y traeth twyllodrus.
Gellid croesi'r traeth, fel y crybwyllwyd, ar ddistyll trai heb fynd dros y pen lin yn y dwfr, ond gwybod y mannau; ac oherwydd mai tywod ansicr oedd glannau'r afon yn y traeth, nid yn yr un mannau y gellid croesi bob amser. Newidiai'r afon ei gwely o flwyddyn i flwyddyn, a rhaid wrth rhywun pur gynefin â'r lle i wybod y mannau i groesi, ac nid oedd neb wyddai'n well na Harri a Dafydd. Ond er eu cynefindra â'r lle, buont mewn perygl droeon.
Tra y chwaraeai'r plant eraill tua'r glannau, naill ai yn y tywod, neu yn y cerrig, gwell gan Harri a Dafydd oedd anturio at yr afon fawr a'i chroesi. Weithiau, aent mor bell ag Ynys Hwyfar, gan ofalu dychwelyd cyn i'r llanw ddod i mewn. Un tro, bu iddynt aros ar yr ynys yn rhy hir. Daeth y llanw i mewn, a gorfu iddynt fynd drosodd o'r ynys i'r lan arall (ni fyddai'r llanw'n dod i fyny mor gyflym yr ochr honno), a cherdded adref dros y bont a groesai'r afon ryw dair milltir yn uwch i fyny, lle yr oedd yr afon gryn lawer yn gulach. Buont yn fwy gofalus ar ôl y daith faith honno o chwe milltir rhag cael eu cau ar Ynys Hwyfar, ond aethant i fwy o berygl i'w bywydau un tro ar ochr eu cartref i'r afon.
Digwyddodd un prynhawn yng ngwyliau'r haf, pan oedd Harri'n un ar ddeg oed, fod y ddau wedi mynd ar drai i chwarae mewn tywod yn bur bell o'r lan, a'r fath oedd eu diddordeb yn y chwarae fel y daeth y llanw i mewn heb yn wybod iddynt. Bloedd oddiar y lan barodd iddynt godi eu golygon o'r tywod, a gweld bod y llanw ar eu gwarthaf a'r môr eisoes wedi cau rhyngddynt â'r lan. Yn y traeth hwnnw, daw'r llanw i mewn gyda rhyw gyflymder aruthrol, a byr amser gymer y dwfr i ordoi'r gwastadedd fuasai ar drai'n dywod. Sylweddolodd y ddau fachgen y perygl—nid oedd ond ychydig o wyneb y darn tywod y chwaraeent arno heb ei orchuddio, ac yr oedd yr ynys fechan o dywod y safent arni'n mynd yn llai bob eiliad. Gwyddent fod y dwfr rhyngddynt â'r lan yn ddwfn mewn rhai mannau, a'r llanw'n ysgubo i fyny'r traeth gyda grym arswydus. Nid oedd y ddau ar y pryd ond newydd ddysgu nofio, a gwyddai Harri na allent obeithio cyrraedd y lan pe ceisient nofio—buasai'r llanw'n sicr o'u hysgubo ymlaen yn ddi-drugaredd. Ni allent weld neb ond geneth ar y lan; ni allai honno eu hachub gyda chwch, a phe buasai'n mynd i chwilio am gymorth iddynt, ni allai hwnnw ddod mewn pryd. Nid oedd neb adref yng Nglandon—yr unig dŷ o fewn cyrraedd.
Yn sydyn, fflachiodd i feddwl Harri y buasent yn ddiogel pe gallent fynd i'r Graigddu. Darn o graig oedd honno'n ymgodi o'r tywod ynghanol y traeth, ac ar spring tide yn unig y gorchuddid hi â dwfr, ac i ychydig ddyfnder yn unig ar yr adeg honno, hyd y gwyddai'r bechgyn. Gwyddai Harri fod llain o dywod heb fod ond ychydig ddwfr arno rhyngddynt â'r graig, y gallent gerdded ar hyd-ddo i ddiogelwch y graig, er bod perygl o golli'r lle bas, a mynd i bwll dwfn y naill ochr a'r llall.
Nid oedd amser i'w golli. Symiodd Harri'r sefyllfa i fyny mewn dau eiliad—llai o lawer nag a gymer y darllenydd i wneud hynny wrth ddarllen y disgrifiad uchod.
"Tyrd ar f'ôl i, Dafydd," meddai, "a chymer ofal."
Ymlaen â hwy'n ofalus, a llwyddasant i gyrraedd y graig. Yr oedd wyneb y dŵr ar y pryd gryn droedfedd yn is na man uchaf y graig, ond yn prysur ymgripio'n uwch, uwch. Ar y man uchaf ar y graig nid oedd ond prin le i'r ddau fachgen sefyll.
"Does dim peryg i ni foddi yn y fan hyn, Dafydd," meddai Harri, ar ôl iddo gael ei anadl.
"Nag oes, ond mi fydd y graig dan ddŵr heno. Yr oedd hi o'r golwg neithiwr, a fory mae'r dŵr ucha, meddai nhad," oedd ateb digalon Dafydd.
"O! fyddwn ni ddim llawer gwaeth o wlychu tipyn," meddai Harri'n galonnog, "ac efallai y daw rhywun i lawr i'r traeth cyn hir, ac y cawn ni'n hachub heb wlychu."
"Os na ddaw rhywun, mi fydd raid i ni aros yma'n hir iawn. Daiff y dŵr ddim i lawr am oriau. Mi fydd yn nos dywyll."
"O! dydi hynny ddim llawer o bwys," ebe Harri, gan gymryd arno fod yn fwy difater nag ydoedd mewn gwirionedd, er cysuro'i gyfaill. Nid oedd wedi ystyried y posibilrwydd y gallent fod yno am oriau hyd nes i'w gyfaill ei grybwyll, ac nid oedd ganddo ryw archwaeth gref i fynd adre ar hyd y ffordd unig arweiniai o lan y traeth at Fwlchglas, rhwng hanner nos a thoriad gwawr.
"Waeth gin inna am aros yma," meddai Dafydd. "Nid dyna sy'n fy mhoeni i, ond meddwl am y gweir ga i gin nhad pan a i i'r tŷ yr ydw i. Mae hi'n braf arnat ti heb yr un tad."
A gwelodd Harri amddifad, druan, fod rhyw fantais weithiau o fod heb dad.
Erbyn hyn yr oedd y dŵr wedi cyrraedd i ben y graig, ac yn dal i godi a'r ddau'n dechrau pryderu, tybed a fuasai'n codi lawer iawn yn uwch. Erbyn ystyried, sylweddolodd Harri nad oedd erioed wedi sylwi nac wedi clywed pa mor ddwfn yn y dŵr fyddai'r Graigddu ar ben llanw. Gallent fod yn ddihangol pe deuai hyd yn oed at eu penliniau, er mai lled anghysurus fyddai eu cyflwr, ond beth pe codai'n uwch na hynny? Beth, yn wir, pe daliai i godi nes bod yn uwch na'u pennau? Yn ffodus, yr oedd yn olau, a chryn bellter gan yr haul i'w gerdded i'r gorwel yn y gorllewin.
"Fasa'n well i ni geisio rhoi un floedd iawn efo'n gilydd? gofynnodd Dafydd mewn tôn bryderus wrth weld y dwfr yn parhau i godi.
"Chlyw neb mohonom, waeth i ni heb," ebe Harri, "ond peth rhyfedd na fase rhywun yn y traeth ar noson mor braf."
"Efo'r gwair y mae pawb, wyddost ti," ebe Dafydd, "a ffŵl fum innau i beidio mynd i'r gwair. Mi faswn yn cael mynd i'r Ynyswen."
Rhyw dipyn o sŵn digalonni oedd yn lleisiau'r ddau erbyn hyn wrth iddynt deimlo'r dŵr yn dringo'n uwch i fyny eu coesau
"Dacw gwch! Weli! " ebe Harri, ar ôl ennyd o ddistawrwydd, yn gyffrous, gan bwyntio i'r cyfeiriad arall oddiwrth eu cartref, sef tua'r môr, "cwch yn dod i fyny o'r Aber. Fasa'n well i ni waeddi?"
Ac nid cynt yr awgrymwyd nag y dechreuodd y ddau floeddio â'u holl egni, "Ahoi! Ahoi! " Yr oedd y cwch pan ddechreuasant waeddi heb gyrraedd lawn gyferbyn â hwynt, ond, i bob golwg, am fynd heibio iddynt yr oedd,—y cychwyr heb eu clywed. Pan oedd y cwch bron wedi cyrraedd gyferbyn â hwynt ar yr afon fawr rhyw ddau can llath oddiwrthynt, a hwythau'n gweld gobaith eu hachubiaeth yn diflannu, unasant mewn un floedd galon-rwygol, ac er mawr lawenydd iddynt, gwelsant fod y cychwyr wedi eu clywed. Trowyd pen y bad tuag atynt, ond ysgubid ef i fyny'r afon wysg ei ochr gan y llanw cryf, a buasai wedi methu dod atynt onibai fod ynddo rwyfwyr cydnerth ac ewyllysgar.
Cymrwyd y ddau i'r cwch, a glaniwyd hwy'n ddiogel ar lan y traeth o dan Glandon. Cawsant fod y llanw wedi cyrraedd at eu hesgidiau a'u hosanau adawsent ar y lan, ac y buasent wedì mynd i ganlyn y lli pe baent hanner awr yn ddiweddarach. Yr oeddynt yn wlyb diferol, ac yn dystion yn eu herbyn yn eu cartrefi. Tynnwn y llen dros hanes y derbyniad roed iddynt ar yr aelwyd, ond yn unig ddweud bod Harri'n amau'n gryf ar ôl y noswaith honno a ydyw tad yn gallu gweinyddu cosb yn drymach na mam ddigllon.
Bu'r ddau'n ddieithr i'r traeth am rai dyddiau ar ôl y digwyddiad hwn, ac ni bu iddynt wedi hynny ymgolli gormod yn eu chwarae i anghofio agoshad y llanw, a'r perygl o gael eu cau i mewn.