Neidio i'r cynnwys

Ynys y Trysor/Y Waredigaeth

Oddi ar Wicidestun
Stori Peter Jones Ynys y Trysor

gan Robert Lloyd Jones

Ynys Rahiti

XV. Y WAREDIGAETH

AETH pum mlynedd heibio yn y dull hwn o fyw, ac yr oedd Harri bron wedi anobeithio cael dychwel i Gymru a gweld ei fam byth mwy. Wyth mlynedd wedi llithro heibio er y llong-ddrylliad! Sut olwg oedd ar ei fam bellach, tybed? Beth ddaethai o Dafydd Glandon? Ai tybed ei fod yn fyw?

Rhyw gwestiynau fel yna oedd yn troi trwy'i feddwl un bore pan y codai gyda'r haul i ymdrochi yn y bau o flaen ei dŷ. Yn y tŷ newydd, Glandon, ar ei ynys ei hun yr oedd, yn treulio ychydig ddyddiau o seibiant. Aethai i'w wely y nos cynt yn fwy hiraethus nag y teimlasai ers misoedd, a breuddwydio am ei gartref y bu drwy'r nos. Yn ei freuddwyd, gwelai Ddafydd Glandon wedi syrthio i'r môr, ac yntau'n ei achub ac yn mynd ag ef i Glandon, a'i fam a Chatrin Huws yno yn eu derbyn. Erioed ni chawsai freuddwyd mwy byw, gwelai ei fam yn y tŷ, a chlywai hi'n siarad. Mor fyw ydoedd y digwyddiadau hyn yn y breuddwyd, fel y deffrodd ynghynt nag arfer, a siomedig ydoedd i gael ei hun ar yr ynys bellennig. Yr oedd wedi meddwl yn sicr mai adref yr oedd, a braw iddo oedd deffro yn y caban coed. Ond yr oedd y breuddwyd yn aros yn y cof. Ni allai yn ei fyw ei anghofio—gartref i Finymor y mynnai'r meddwl redeg y bore hwnnw.

Wedi ymdrochi a gwneud rhyw fân ddyletswyddau tua'r tŷ, aeth i ben craig yr wylfa o'r tu ôl i'r tŷ i edrych allan i'r môr. Yr oedd wedi mynd i'r arferiad o edrych i gyfeiriad ei gartref; a mynd i fyny yr oedd y bore hwn i gyfeirio'i lygaid i'r gogledd-ddwyrain—i gyfeiriad bro ei faboed yn hytrach na chan feddwl gweld gobaith gwaredigaeth. Ond, er ei syndod, draw ar y gorwel, tua chodiad haul, gwelai linell o fwg du yn esgyn i fyny. Beth oedd yno? Agerlong yn sicr. Beth arall allai fod? Arosodd yno, gan gadw'i lygaid yn sefydlog ar y mwg. Cyn hir, daeth ffurf y llestr i'r golwg. Ie'n sicr, agerlong fawr ydoedd, yn nesu'n gyflym tuagat yr ynys. Dyma obaith gwaredigaeth unwaith eto. Ai tybed y siomid ef y tro hwn fel cynt? Nid oedd amser iddo feddwl mynd i ben arall yr ynys i gyrchu'r cwch i fynd i gyfarfod y llestr. Buasai wedi mynd o'r golwg yn y gorllewin cyn y gallai gychwyn o'r lan. Heblaw hynny, yr oedd yn berffaith dawel, heb chwa o wynt i lanw'r hwyliau, a sut y gallai rwyfo pellter mawr ei hunan? Nid oedd ond un peth i'w wneud, a gobaith gwan oedd am lwyddiant y ffordd honno. Rhedodd i lawr i nôl polyn, a chlymodd arno'r darn llian gwynaf a feddai. Yna, yn ôl i ben y graig i chwifio'r darn llian gymaint fyth ag a allai gan obeithio tynnu sylw rhywun ar fwrdd yr agerlong.

Deuai'r agerlong ar union gyrch am yr ynys. Ai tybed eu bod wedi ei weled? Na'n sicr, nid oedd hynny'n bosibl o'r fath bellter—yr oedd eto gryn ddwy filltir oddiwrtho, ond yn gwneud llinell unionsyth am y man y safai. Rhaid mai dyfod am yr ynys yr oedd. Ar ryw neges o bosibl. Ac yna gwawriodd ar ei feddwl y syniad ofnadwy, Beth os mai llong rhyw elyn ydoedd? Môrladron, feallai. A fuasai'n well iddo ymguddio? Na, gwell fyddai iddo gymryd ei siawns—yr oedd digon o brofion o'i bresenoldeb tua'r tŷ, fel y byddent yn sicr o ddod o hyd iddo, pe glanient a chwilio'r ynys.

Yr oedd y llong erbyn hyn wedi dod yn agos iawn, a gwelodd Harri rywun ar y bwrdd yn chwifio cadach. Yr oeddynt wedi ei weld. O! diolch!

Cyn pen ychydig funudau yr oedd y llong wedi dod gyferbyn ag ef tuallan i'r reef, y peiriannau wedi eu hatal fel y tystiai'r mwg du, trwchus a ddeuai o'r simdde, a chwch yn cael ei ollwng i'r dwfr. Gwelai'r cwch yn gadael ochr y llong ac yn cyfeirio am y bau yn ei ymyl. Rhedodd i ymguddio i'r ogof o'r tu ôl i'w fwthyn, heb wybod pam y gwnai hynny. Cyn hir, clywai siarad ar y lan. Clustfeiniodd a deallodd mai Saesneg oedd yr iaith. Gwrandawodd drachefn. Clywai lais clir yn gorchymyn yn Saesneg i rywrai fyned un ffordd i chwilio, ac yna meddai'r un llais yn Gymraeg. "Tyrd di'r ffordd hyn hefo mi, Jac." Daeth ton o lawenydd tros ei ysbryd pan glywodd y Gymraeg, ond yr hyn a dynnodd ei sylw'n arbennig oedd y llais. Onid oedd wedi clywed llais tebyg o'r blaen? Teimlai'n sicr ei fod yn gynefin âg ef, a cheisiodd ddyfalu llais pwy ydoedd. Ac yn sydyn cofiodd. Pwy ond Dafydd Glandon? Ie'n sicr, Dafydd ydoedd.

Ond Dafydd yn y fan hyn—ramhosibl,—rhaid mai ei ddychymyg oedd yn chwarae tric ag ef. Na, dyna'r llais drachefn o'r coed ar y dde iddo. Dafydd ydoedd,—'doedd dim amheuaeth pellach ar y pen. Chwardded y neb fynn at freuddwyd; mae peth gwir ynddo weithiau.

Heb aros i ystyried yr olwg farbaraidd oedd arno, rhedodd i'r cyfeiriad y deuai'r llais ohono, gan waeddi, "Dafydd! Dafydd Glandon." Safodd Dafydd a'i gydymaith (canys yr oedd dyfaliad Harri'n gywir, Dafydd Glandon, a neb amgen, oedd yno yn y cnawd), wrth glywed y llef ddieithr, a gwelsant ryw greadur, rhyfedd yr olwg arno yn rhuthro tuag atynt o'r coed. Ond pan welodd Harri'r ddau ddyn ieuanc, yng ngwisg swyddogion morwrol—rglas gyda botymau melyn— swiliodd a safodd yn fud, gan dybied yn sicr ei fod wedi camgymeryd. Parhaodd i syllu arnynt a hwythau arno yntau, ac yna, heb wybod pam, aeth ymlaen tuag atynt yn araf. Safai'r ddau arall yn eu hunfan, gan ofyn iddynt eu hunain, "Ai tybed mai'r creadur yma oedd yn gwaeddi?" Erbyn hyn yr oedd Harri wedi adnabod Dafydd er y wisg anghynefin.

"Dafydd," meddai, dan deimlad dwys, "wyt ti ddim yn fy 'nabod i?"

Edrychodd Dafydd arno mewn dieithrwch mud am funud, ac yna torrodd y goleuni ar ei feddwl. Rhedodd ymlaen ato â'i freichiau i fyny.

"Harri," meddai, "Harri Bwlchglas wyt ti, dywed, mewn difri, ai ynteu fi sydd yn breuddwydio? A chofleidiodd y ddau gyfaill ei gilydd gan anghofio bob gwahaniaeth yn eu hymddangosiad.

"Ond yr ydw i'n methu deall," ebe Dafydd, wedi i'r don gyntaf o synedigaeth fynd heibio, "Wyt ti wedi byw yn y fan hyn yr holl amser, a phawb wedi meddwl dy fod di wedi boddi hefo'r 'Arfonia'? Pawb ond dy fam. Fe fyn hi dy fod yn fyw." Ydi mam yn fyw?" gofynnodd Harri'n awchus, a'r dagrau'n llanw ei lygaid, sut mae hi? "Mae hi'n reit dda ei hiechyd," oedd yr ateb, "ond y farn ym Minymor ydi y basa hi wedi marw ers llawer dydd onibai ei bod hi'n dweud yn bendant y caiff hi fyw i dy weld di adra. Mae rhai'n meddwl ei bod hi'n dechrau colli yn ei phen,-y profedigaethau wedi effeithio arni hi, ond mi wn i fod yr hen wraig yn eithaf iawn yn ei choryn. Mae hi'n gallach na'u hanner nhw. Ond, fachgen, 'rydw i 'n methu credu'n bod ni wedi cael hyd i ti'n fyw. Rhaid i mi gael yr hanes gin ti."

"O! mi ga amser i ddweud y stori i gyd, ac mae hi'n un ryfedd iawn. Mae nhad yma hefyd, wyddost ti." Neidiodd Dafydd yn ei ôl mewn syndod.

"Beth ddeudist ti? dy dad yma hefyd?" "Ydi, ar yr ynys agosa at hon."

"Bobol annwyl, chlywis i'r fath beth erioed. Sôn am wyrthiau. Dyma godi'r marw'n fyw, yn siwr. Ond dywed yr hanes. 'Rydw i ar dân eisio gwybod."

O, mae hi'n stori rhy faith i mi ei dweud 'rwan. Dywed di i mi, un peth sydd yn ddirgelwch i mi, sut y doist ti i gael hyd i mi?"

"Wel, mae hynny'n beth rhyfedd hefyd. Mae'n rhaid ein bod wedi ein harwain yma. Ond dyma'r stori'n fyr. Ar ein taith i Awstralia 'roeddym ni, a'r wythnos ddiwedda, mi gawsom dywydd ofnadwy, a mi aeth dŵr hallt i rai o'n casgia dŵr croyw ni. Wel, 'roeddym ni'n mynd ar lawr o ddŵr, a mi benderfynis redeg am yr ynys agosa i gael cyflenwad."

O, 'rydw i'n gweld. A hon oedd yr agosa."

"Wel, nage, fachgen. Wn i ar y ddaear pa ynys ydi hon. Gwneud am yr Ellice Islands yr oeddwn i. A dyma ni ar draws hon, heb ddisgwyl ei gweld hi. 'Dydi hi ddim ar y chart, wyddost ti."

Ddim ar y chart? Wyt ti'n siwr. Mae hynny'n beth rhyfedd."

Dydi hi ddim, yn siwr i ti. Rhaid i ti beidio amau ngair i ar fater fel hyn, wyddost ti. Cofia di mai Capten Huws ydw i 'rwan, 'r hen ddyn."

"Yn gapten, a minnau'n y fan hyn wedi gwastraffu'r holl flynyddoedd," meddai Harri'n bruddaidd ei dôn.

"Paid a sôn am wastraffu. Mi faswn i 'n ffeirio mhrofiad hefo chdi'r munud yma, pe medrwn i."

"Tyrd yma, Jac," meddai wrth ei gydymaith oedd wedi sefyll o ddechrau'r ymddiddan o'r tu ôl iddynt, wyt ti'n adnabod hwn? 'Rwyt ti'n cofio Harri Bwlchglas, on'd wyt ti. Dyma Jac y siop, Harri. Y fo ydi f'ail swyddog i ar y 'Dwyryd.'

Ysgydwodd Harri a Jac ddwylo'n gynnes, ac yna meddai Dafydd.

"Tyrd, Harri, mi awn ni i'r llong i ti gael tamaid o fwyd. Mi fydd yn beth amheuthun i ti weld llian bwrdd gwyn, mae'n debyg."

"Wel bydd," ebe Harri, "ond mae yma gyflawnder o fwyd ar yr ynys 'ma. 'Does dim peryg i neb newynu yma. Cig moch, adar, pysgod, ffrwythau, a bara a thatws. Beth feddyliet ti o hynny?

"Waeth i ti er hynny. 'Rydw i'n siwr na chefaist ti ddim cwpanaid o dê a brechdan ers llawer o amser. Tyrd yn dy flaen."

"Fasa'n well i mi ddangos y ffynnon i chi gael dŵr?" gofynnodd Harri.

"Wel, ie; chwibiana ar y dynion, Jac."

Ac felly i ffwrdd a'r ddau gyfaill am y llong, wedi llenwi'r llestri o ddwfr yr ynys, ac yno yn y caban huliwyd gwledd ddanteithiol i Harri, ond ychydig heddwch a gafodd i'w mwynhau gan y cwestiynau diddiwedd ofynnai Dafydd. Tra'n cymell ei gyfaill i ymroi i'r bwyd, gofynnai Dafydd gwestiwn nad oedd modd ei ateb a dal i fwyta, ond rhywsut llwyddodd i lyncu tamaid bob yn ail ag ateb cwestiwn, a digonwyd ef. Ac yno yn y caban trwy'r prynhawn eisteddodd y ddau gyfaill-Harri i adrodd ei helyntion, tra Dafydd yn gwrando'n astud, ac yn gofyn ambell gwestiwn. Wedi i Harri o'r diwedd orffen ei adroddiad, meddai Dafydd, "Wyddost ti beth, rhaid i ti gyhoeddi llyfr o hanes dy fywyd yma. Mi wnei dy ffortiwn. A chofia, 'rwyt ti'n siwr o gael dy wa'dd i roi darlith ar hanes dy fywyd yn Ynysoedd Môr y De i Gymdeithas Lenyddol Minymor."

Chwarddodd Harri'n galonnog at y syniad iddo ef sefyll o flaen Cymdeithas ddysgedig Minymor i roi hanes ei helyntion oddicartref. Gwyddai am y Gymdeithas, er ei fod ef, pan oedd gartref, yn rhy ieuanc i fod yn aelod ohoni.

Yr oedd wedi mynd yn bur bell i'r prynhawn cyn i Harri orffen ei adroddiad, ac yna aeth y ddau'n ôl i'r ynys i wneud gwibdaith drwyddi,-Harri'n dangos i'w gyfaill ryfeddodau'r ynys, ac yn adrodd hanes rhyw ddigwyddiadau yn ei fywyd ynglŷn â gwahanol fannau. Gwrandawai Dafydd yn fud a syn ar hanes y dull y bu'n byw yno am gyhyd o amser, a rhyfeddai at brydferthwch yr ynys a'i chyfoeth naturiol mewn coed, ffrwythau a llysiau. Wedi gwneud taith frysiog trwy'r ynys, aed yn ôl i'r llong i gysgu ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac yn blygeiniol drannoeth, codwyd yr angor i hwylio am yr ynys fawr i weld Peter Jones. Mawr oedd syndod y brodorion pan welsant agerlong yn dod at eu hynys—y gyntaf iddynt weld erioed, a safent yn rhengoedd ar lan y môr i syllu'n syn ar yr olygfa ddieithr. Cyn gynted ag y daeth i mewn trwy'r bwlch i'r lagoon ac angori yno, yr oedd degau o'r trigolion yn rhwyfo ati yn y cychod i'w hedrych yn ofalus o bob ochr, ond pur swil oedd neb ohonynt i ddod i'r bwrdd, nes iddynt, er eu dirfawr syndod, weld Harri yno. Yna ciliodd yr ofn, a daeth rhai ohonynt i'r bwrdd. Edrychent yn ddychrynedig iawn ar y mwg du yn dod o'r corn, ac yr oedd golwg ryfedd ar eu hwynebau pan yn edrych ar y peiriannau nerthol oddimewn iddi. Ond pan wnaeth y peirianydd i'r chwibanogl gael ei chanu, bu bron iddynt oll neidio drosodd i'r môr yn eu dychryn, a chafodd Harri gryn drafferth i'w perswadio nad oedd perygl. Wedi dangos iddynt rai o ryfeddodau'r llong, aeth Harri a Dafydd drosodd i'r ynys i weld Peter Jones. Synnent na bai wedi dod i'r bwrdd, nes iddynt ddeall gan y brodorion mai wedi mynd i'r ochr draw i'r ynys yr oedd er y prynhawn cynt i'r blanhigfa siwgr oedd ganddo yno.

Aeth Harri a Dafydd i'r tŷ i aros ei ddychweliad, gan feddwl ei synnu pan ddeuai'n ôl. Ond ar y ffordd trwy'r pentref, clywodd am y llong ryfedd a dieithr oedd wedi galw heibio iddynt, a bod gŵr dieithr yn y tŷ gyda Harri. Synnodd, er hynny, ddeall mai bachgen o Finymor oedd yr ymwelydd, ac yr oedd ei lawenydd yn fawr. Er nad oedd yn cofio Dafydd (nid oedd ond plentyn bychan pan ymadawsai ef o Finymor), cofiai ei rieni'n dda. Estynnodd groesaw cynnes i Dafydd i'r ynys, a mynnai iddo aros yno am ysbaid.

Na, rhaid i mi fynd ymlaen am Awstralia," meddai Dafydd, "yr wyf wedi colli gormod o amser ar y daith eisoes.'

Ond llwyddwyd i'w berswadio i aros hyd drannoeth, ac aeth y tri am dro i gael golwg ar yr ynys. Rhyfeddai Dafydd weled cymaint o ôl daionus Peter Jones ar y trigolion a'u dull o fyw. Ryw filltir o'r pentref, craffodd ar goeden fawr, a gofynnodd,

"Pa goeden yw hon?"

"Yn wir, mae hi'n ddieithr i mi," ebe Peter Jones. Wn i fawr am goed," meddai Dafydd, "ond 'rydw i wedi darllen am y goeden mae nhw'n cael rubber ohoni hi, a mae hi'n debyg iawn i hon. Wyddoch chi, mai ar y rubber y mae mwyaf o fynd o bopeth ym Mhrydain y dyddiau hyn. Gadewch i ni edrych ai dyna ydi hi."

Ac fe wnaeth i'r goeden, fel y clywsai y gwneid. Torrodd ddam o'i rhisg ymaith, a gwelodd y sudd yn rhedeg allan, yn afon felen, ac yn caledu yn union fel y disgwyliasai.

"Ie, rubber ydi hi," meddai.'n llawen. "Mae 'ma ugeiniau a channoedd o rai 'run fath a hi yr ochr acw i'r ynys," ebe Peter Jones.

"Wel, mae 'na ffortiwn yn eich aros chi felly," ebe Dafydd, " heb sôn am y cyfoeth o bethau eraill sydd yma."

Y nos honno, gwnaed cynlluniau at y dyfodol. Penderfynwyd fod i Harri fynd gyda Dafydd i Awstralia, a chymryd gydag ef y perlau gasglesid, i'w gwerthu yno. Sicrhai Dafydd ef y caffai swm da amdanynt, a phenderfynwyd mai nwyddau at wasanaeth y brodorion a brynnid â hwy, megis offer, arfau seiri, hoelion, a'r cyfryw allai fod yn ddefnyddiol iddynt. " Mi ddo inna'n ôl o Awstralia yma'n wag," ebe Dafydd, " a mi awn ni a chi'ch dau adref a llwyth o gynnyrch yr ynys,—rubber, siwgr, a chnau coco."

Ac felly y trefnwyd. Peter Jones i roi'r brodorion ar waith i gasglu llwyth, tra byddai'r llong ar ei thaith i Awstralia ac yn ôl.

Chwith oedd gan y brodorion feddwl am ffarwelio â Harri, ond siriolodd eu hwynebau pan ddeallasant y deuai'n ôl, a hynny'n fuan

Yn Awstralia, cafodd Harri bris da am y perlau, a phrynodd bopeth y gallai feddwl amdano, fyddai'n debyg o fod o fantais i'r brodorion. Aeth hefyd at argraffydd, a chafodd ganddo wneud llyfrynau bychain i gynnwys y wyddor, a rhai adnodau a phenillion yn yr iaith frodorol.

Rhaid hefyd oedd anfon gair o Awstralia i Finymor, i hysbysu fod y ddau golledig wedi eu cael. Bu trafodaeth faith rhwng Harri a Dafydd ar y cwestiwn— at bwy i anfon y newydd, a sut i'w anfon. Barnent mai peryglus fuasai anfon yn uniongyrchol at Gwen Jones, rhag ofn i sydynrwydd y fath newydd effeithio'n ormodol arni. Gwell fyddai anfon at rywun arall, ac i hwnnw dorri'r newydd iddi yn araf. Cytunodd y ddau mai anfon at William Gruffydd, yr hen flaenor fyddai'n ymdrafferthu gyda hwynt yn y Band of Hope, fyddai orau, gan y gellid dibynnu arno ef i dorri'r newydd i Gwen Jones yn y ffordd ddoethaf, ac felly ato ef yr anfonwyd,—Dafydd yn ysgrifennu llythyr i ddweud am y darganfyddiad, a Harri'n amgau nodyn ynddo i gadarnhau'r ffaith.

Wedi gorffen eu busnes yn Sydney, y porthladd pwysig yn Awstralia, ac i Dafydd hysbysu perchenogion y llong, trwy lythyr, sut y bwriadai gael llwyth i ddychwelyd, hwyliwyd yn ôl am yr ynysoedd, ac yr oeddynt yno ymhen deufis o'r amser y cychwynasent. Gwelwyd fod Peter Jones a'r brodorion wedi bod wrthi'n ddiwyd yn ystod eu habsenoldeb yn casglu ynghyd lwyth gwerthfawr.

Rhoed iddynt dderbyniad cynnes yn ôl, a mawr oedd y diddordeb gymrid yn y nwyddau a ddygasai Harri iddynt. Cafodd dipyn o drafferth i egluro iddynt amcan y gwahanol offer a'r dull o'u trin, a bu amryw berfformiadau digrifol ynglŷn â hwynt ar y cychwyn. Trysorid y llyfrau'n arbennig gan yr adran fwyaf meddylgar yn eu phth, a gellid gweld y rhai hyn mewn conglau neilltuedig yn astudio'u dalennau. Yr oeddynt mor falch ohonynt a phlentyn o degan newydd, a'r rhai oedd wedi dysgu'r gelfyddyd o ddarllen, yn darllen y geiriau ar uchaf eu llais er mawr foddhad iddynt hwy eu hunain, beth bynnag am yr effaith ar eraill a'u clywent. A chaed canu i'w gofio'r Saboth dilynol, a'r olwg ar rai o'r cantorion fel pe mai'r llyfryn oedd y trysor pennaf yn y byd yn eu golwg.

Ond yr oedd cysgod tristwch dros yr holl llawenydd. Yr oeddynt wedi deall bod Pedru a Pedratu, fel y galwent Harri, yn mynd i'w gadael, ac nid oedd modd eu cysuro. Er iddynt weithio i gludo'r gwahanol bethau—y rubber a'r cnau a'r siwgr—o'r coed i'r llong, yr oedd eu calonnau'n drist wrth feddwl y byddai raid iddynt bellach fyw heb y ddau ddyn gwyn. Ac er mor llawen oedd Peter Jones a Harri o gael mynd adref i'w henfro annwyl, teimlent hwythau fesur o dristwch wrth feddwl gadael y bobl oedd mor hoff ohonynt. Noson fawr yn hanes yr ynys oedd y noson olaf cyn codi angor i hwylio am Brydain.

Ar ganol y pentref, ymgasglodd yr holl drigolion ynghyd, a thristwch yn argraffedig ar eu hwynebau, a chododd Peter Jones i'w hannerch.

"F'annwyl frodyr a chwiorydd," meddai, "mae'r amser wedi dod i mi ymadael oddiwrthych i fynd yn ôl i'm gwlad fy hun. Am ddeunaw mlynedd a throsodd, yr wyf wedi byw yn eich plith fel un ohonoch, ac yr wyf yn teimlo'n chwith gennyf ymadael â chwi ar lawer cyfrif. Buoch yn garedig iawn wrthyf, a da gennyf feddwl fy mod wedi gallu bod o ryw wasanaeth i chwithau. Er fy mod yn mynd ymhell iawn oddiwrthych, i wlad y dyn gwyn, ni allaf byth eich anghofio, a gobeithiaf allu dod yn ôl eto i'ch gweled. Byddwch heddychlon â'ch gilydd. Yr wyf am ofyn i chwi dderbyn Tarato yn bennaeth arnoch wedi i mi fynd. Y mae ef, er yn un ohonoch, o deulu'r hen benaethiaid, yn ddyn ieuanc sy'n gymwys i'ch llywodraethu, a gobeithiaf y byddwch yn ufudd iddo. Yr ydym yn mynd a llwyth o gynnyrch yr ynys gyda ni oddiyma, i'w werthu yng ngwlad y dyn gwyn. Anfonwn eu gwerth yn ôl i chwi o bethau fydd yn ddefnyddiol i chwi. Bendith fo arnoch."

Dan deimlad dwys y llefarai Peter Jones, a bu agos iddo dorri i lawr fwy nag unwaith. Gydag anhawster y llwyddodd i ddiweddu ei araith, a phan ddiweddodd, nid oedd llygad sych yn y gynulleidfa. Ysgydwai'r bobl fel coedwig dan wynt nerthol, a dolefent rhyw gri gwynfanus leddf.

Wedi i'w dad eistedd, cododd Harri, a dywedodd, wedi cael distawrwydd: "Mae'n ddrwg iawn gennyf finnau eich gadael, ond gobeithiaf ddod yn ôl yn fuan. 'Rydw i 'n disgwyl y cawn ni ddigon am y cynnyrch i brynu agerlong gyda rhan ohonynt i gario masnach ymlaen rhwng yr ynys hon a Phrydain. 'Rydw i'n disgwyl y bydd fy nghyfaill, Capten Huws, a minnau yma'n ôl cyn pen y flwyddyn. Ceisiaf gael llyfrau yn eich iaith, ac athro i ddod yma i ddysgu'ch plant. Gwnewch eich gorau hyd hynny gyda'r llyfrau gawsoch." Yr oedd araith Harri dipyn yn fwy calonogol ei thôn nag eiddo'i dad, a chiliodd y prudd-der i fesur o'u hwynebau wrth glywed ei addewidion. Yr oedd yr addewid i brynu agerlong yn enwedig yn eu boddhau, ac nid ymddangosai blwyddyn yn amser maith i aros amdani, dan gyfaredd yr araith.

Ond bore drannoeth, pan godid yr angorion i gychwyn, prudd-der oedd wedi eu meddiannu un ac oll, a wylent yn hidl ar y lan. Safai Peter Jones a Harri ar fwrdd y llong gyda Dafydd yn edrych yn ôl ar yr ynys fel y pellhai'r agerlong yn gyflym oddiwrthi. Chwifient eu cadachau cyhyd ag y gallent weled y dyrfa ar y lan, a phan o'r diwedd, yr oedd yr ynys yn suddo o'r golwg dros y gorwel, yr oedd dagrau'n llifo i lawr gruddiau Peter Jones.

"Hogia," meddai, "nid ydyw yn debyg y caf ddod yn ôl yma byth eto, ond fe hoffwn i chwi'ch dau, os gellwch, gadw'ch addewidion i'r bobl. Pobl garedig a charuaidd dros ben ydynt, ac ni wyddoch faint o les eto ellwch chwi wneud iddynt. Ond wyddoch chwi beth sydd ama i ofn?"

"Na wyddom ni," ebe'r ddau ddyn ieuanc.

"Ofn i fasnach a'r dyn gwyn eu damnio. Mi wn na wnewch chi'ch dau ddim niwed iddynt, ond ofn sydd arna i i ddynion gwynion eraill ddechrau masnachu â'r ynys, a dwyn y ddiod felltigedig yno i ddamnio'r bobl, gyrff ac eneidiau. Y dyn gwyn sydd yn mynd a chrefydd Iesu Grist, y fendith fwyaf, i bobl yr ynysoedd hyn. Onid yw'n drueni meddwl mai'r dyn gwyn sydd hefyd yn mynd a'r ddiod feddwol, melltith fwyaf y ddynoliaeth iddynt? Y nefoedd a'u gwaredo rhag y dyn gwyn didduw."

"Amen," meddai'r ddau ŵr ieuanc o'u calonnau.

Nodiadau

[golygu]