Ynys y Trysor/Ynys Rahiti
| ← Y Waredigaeth | Ynys y Trysor gan Robert Lloyd Jones |
Cael y Trysor → |
XVI. YNYS RAHITI
Ychydig feddyliasai am y trysor tra'n byw ar yr ynys, ac ni soniasai wrth ei dad am y mater. Ond yn awr, wedi cael ei hun ar fwrdd llong, ac yn mynd i gyfeiriad Rahiti, daeth y peth yn fyw i'w feddwl, a phenderfynodd ddweud yr holl hanes wrth ei dad a Dafydd,—yntau hefyd, fel y cofir, hyd yn hyn heb glywed gair am y dirgelwch. A'r cyfle cyntaf gafodd ar y ddau gyda'i gilydd, adroddodd iddynt yr hanes yn llawn—o'r adeg y clywsai gyntaf gan yr hen Gapten Morris am y trysor hyd ymadawiad y pedwar lledfegyn yn y cwch o'r "Arfonia" am yr ynys. Gwrandawai Dafydd yn astud. Wrth i Harri ddweud yr hanes, deuai i'w gof y digwyddiad yn y "Blodwen" yn Hamburg ers llawer dydd; ac yn awr, wrth wrando'r stori, deallai lawer peth fuasai'n ddirgelwch iddo hyd hynny.
"Rhaid i ni alw heibio'r ynys," ebe Dafydd, wedi i Harri orffen ei adroddiad, "nid ydyw ymhell o'n cwrs. Gad'wch i ni weld y chart."
Ac ar ôl astudio'r chart am ychydig, ychwanegodd, "Dyma hi. Yr ydym o fewn llai na chan milltir iddi." Plygai'r ddau arall dros ei ysgwydd i sylwi ar safle'r ynys, ac ar safle'r llong ar y pryd, fel y dangosai Dafydd ef â'i fys. Cyn pen ychydig iawn o oriau, daeth yr ynys i'r golwg ar y gorwel, a dwy awr arall a'u dug hwynt at y reef a gylchynai'r ynys, ac yno gollyngwyd yr angor.
Aeth y tri—Dafydd, Harri, a Peter Jones—i'r lan gyda chwch.
Ynys debyg o ran ei hwyneb a'i chynnyrch i ynysoedd eraill Môr y De ydoedd, ac nid oedd dim ynddi i synnu rhai mor gyfarwydd â hwynt a Peter Jones a Harri. Yn y pen gorllewinol y glaniasant, a cherddasant ymlaen am ychydig heb nôd arbennig o'u blaen, gan osgoi'r dyryslwyni isel hyd y gallent.
"Onid gwneud am y lle y cuddiwyd y trysor fyddai orau i ni?" gofynnodd Peter Jones. "Lle dwedaist ti oedd o? Pwynt tua'r gogledd, on'tê?"
"Ie," ebe Harri.
Symudwyd tua'r lan ogleddol, ac yn fuan safent ar lan y lagoon.
"'Does 'ma ddim golwg am bwynt o gwbl, dim ond glanmor gwastad, unffurf," meddai Harri mewn cryn benbleth.
"Mi awn ni ymlaen dipyn," ebe Dafydd, " feallai fod yna fau ymhellach ymlaen, a phwynt o dir yr ochr draw iddo."
Ac ymlaen yr aed.
"Mae 'cw rywun yn sefyll draw ar y tywod yn y fan acw," ebe Dafydd yn sydyn, wedi iddynt fynd dipyn o ffordd, gan bwyntio â'i fys i'r cyfeiriad. "Welwch chi o?" Yr oedd yn hawdd ei weled, ond am eiliad yn unig y gwelwyd ef. Yr oedd y dyn, neu beth bynnag ydoedd, wedi eu gweld hwythau, oblegid diflannodd yn sydyn i gysgod y coed.
"Pwy all o fod, tybed?" ebe Dafydd, "dyma ni heb na dryll nac arf o unrhyw fath, ac feallai fod mwy nag un, ac mai wedi mynd am help y mae."
"O! mi fentrwn ni ymlaen," ebe Peter Jones.
Ac ymlaen â hwy unwaith eto. Ond 'doedd dim golwg am dir yn pwyntio tua'r gogledd. Wedi mynd heibio i lwyn tew o goed, gwelsant y dyn a welsent o'r blaen, yn eistedd ar ddarn o bren, ac yn edrych yn ofnus tuag atynt, ac fel pe ar gychwyn rhedeg oddiarnynt.
Safodd y tri rhyw gan llath oddiwrtho i edrych arno. Ie, dyn ydoedd, ond yr oedd golwg druenus arno, ei wallt a'i farf yn llaes, a rhyw ddernyn o wisg garpiog ynghylch ei lwynau, a lliw ei groen rywbeth rhwng du a gwyn.
Wedi craffu arno am ychydig, a cheisio amneidio arno mai heddychlawn eu dyfodiad, dechreuasant symud tuag ato'n araf, a chododd y dyn i ddianc.
Cyn gynted ag y cychwynodd redeg, adwaenodd Harri ef ar ei osgo, ac meddai'n gynhyrfus wrth ei gymdeithion, "Wil Jones ydyw."
"Hei, William Jones," gwaeddodd yn uchel, gan godi ei law a chychwyn rhedeg.
Trodd y dyn ei ben wrth glywed y waedd, ac wedi i Harri waeddi drachefn, safodd.
"Ydach chi ddim yn fy 'nabod i, William Jones?" gofynnodd Harri, gan nesu ato, tra y safai ei gymdeithion o'r tu ôl. Ond nid oedd y dyn yn dweud dim—dim ond edrych yn syn ar Harri.
"Harri ydw i," ebe Harri drachefn. " Ydach chi ddim yn ein cofio ni ar yr 'Arfonia?' "
Agorodd y dyn ei lygaid yn syn, a daeth mwy o arwyddion ofn nag o'r blaen i'w wyneb. Aeth Harri ato, a gafaelodd yn ei law, er y ceisiai symud oddiwrtho. Torrodd y dyn, truan, i wylo a griddfan, a datodwyd rhwymau ei dafod.
"Harri wyt ti, dywed?" meddai, gan deimlo ei wyneb â'i law.
"Ie siwr, a dyma nhad, a Dafydd. 'Rydach chi'n cofio Dafydd, William Jones, ar y 'Blodwen?'"
Gwelodd Harri ar ei lygad ei fod yn ei gofio, a bod ei ddeall pŵl yn dechrau adfywio.
"Ple mae Twm Dafis, a'r lleill, a'r trysor, William Jones?" gofynnodd Harri, wedi i'r lleill ddod ato, ac iddynt oll eistedd.
Edrychodd William Jones yn wyllt o'i amgylch, fel pe'n hanner gwallgof, ac ar ôl ennyd o ddwys ddistawrwydd, adroddodd ei stori'n debyg i hyn: "Faint o amser sy er pan yr ydw i yma? 'Rydw i wedi colli'r cyfri'n lân ers talwm."
"Tipyn dros wyth mlynedd," ebe Harri.
"Ie, wyth mlynedd," murmurai William Jones wrtho'i hun yn synfyfyriol, " ac mae Twm Dafis wedi fy ngadael ers mwy na hanner hynny'n siwr i chi. Ond mi ddechreua i 'r hanes o'r dechrau. Wedi i ni gyrraedd yma'r noson honno yn y cwch, mi dorrodd ystorm ofnadwy dros yr ynys, a bu raid i ni geisio llechu'n rhywle orau allem. Wedi i'r storm fynd heibio, gwneud ddaru ni, wrth gwrs, am y pwynt tua'r gogledd yn ôl y plan. Ond fel yr ydach chi feallai wedi sylwi, 'does 'ma 'run trwyn o dir yn rhedeg tua'r gogledd. Mae'r ynys bron yn gron, heb na bau na thrwyn, a choed yn tyfu ar bob rhan ohoni. Fe welsom felly'n union fod rhyw gamgymeriad yn rhywle. Hon ydyw Rahiti, 'does dim amheuaeth, ond nid plan o'r ynys hon oedd ar y papur. Wel, mi aeth yn ddrwg iawn rhyngom ein pedwar. Yr oedd y ddau arall am waed Twm Dafis a minnau am eu twyllo a'u camarwain, ac yn ein bygwth â'u cyllill. Barnodd Twm a minnau nad oedd yn ddiogel i ni gysgu yn eu hymyl y noson honno, ac aethom ym min yr hwyr oddiwrthynt i ran arall o'r ynys. A dyna'r tro diweddaf i ni weld y ddau. Pan ddaethom ymhen rhai dyddiau i'r lle y gadawsem y cwch, 'doedd dim golwg ohono, nac o'r ddau filain ychwaith. Yr oedd yn eithaf gennym eu bod hwy wedi diflannu, ond beth wnaem heb y cwch? Yr oedd ar ben arnom i fynd oddiyma, oddeithr i ryw long ddod heibio i ni. Wn i ddim i ble'r aeth y ddau— pa un ai boddi fu eu hanes, ynteu a gawsant i ryw ynys arall.
Wel 'does dim angen i mi ddweud sut y buom byw. Mae yma gyflawnder o ryw fath o fwyd, ac fe wnaethom ryw gwt bychan i'n cysgodi. Er edrych bob dydd am long, nid oedd yr un yn dod, a phenderfynasom geisio llunio rhyw fath o gwch i geisio mynd oddiyma. Ond gwaith go anodd oedd hynny heb arfau na dim pwrpasol at y gwaith. Ond yr oeddym wrthi'n ceisio gwneud un pan darawyd Twm yn wael. Yr oeddwn wedi sylwi ers dyddiau fod rhywbeth arno. Yr oedd yn ddistaw a diysbryd, ond yn rhyw dreio llusgo ymlaen hefo'r gwaith. Ond ildio fu raid iddo, a mynd i orwedd. Ychydig ddyddiau fu na ddaeth y diwedd, er i mi geisio gwneud popeth fedrwn i iddo fo. Ac O! wedi claddu Twm yr oedd yn unig arnaf. Wn i ddim sut yr ydw i wedi byw. Yr wyf wedi meddwl rhoi diwedd ar fy mywyd lawer gwaith, ac wedyn yn rhy lwfr ac yn methu gwneud hynny. Peth ofnadwy ydyw bod mewn ynys heb weld neb am flynyddoedd. 'Roedd Twm Dafis yn dweud mai barn ydoedd arnom am gamdrin Harri a dwyn y papur oddiarno. Yr hen Dwm! wyddoch chi, 'roedd o wedi newid cyn marw, ac wedi gweld ei bechod. Ei ddymuniad olaf oedd cael gweld Harri i ofyn ei faddeuant. "Wil," meddai wrthyf, y noson olaf y bu fyw, a bron yn methu siarad, " os cei di fyw i fynd o'r ynys 'ma, a gweld Harri, cofia ddweud wrtho fo mod i wedi 'difaru am yr hyn wnes i iddo fo."
Bu distawrwydd dwys wedi i William Jones orffen ei adroddiad, a Harri'n amlwg wedi ei orchfygu gan ei deimladau wrth glywed hanes marw ei hen elyn, a'r dagrau'n llifo i lawr ei ruddiau. Nid oedd lle i amau gwirionedd y stori glywsent, gan fod tinc gonestrwydd yn llais William Jones wrth lefaru.
Torrwyd ar y distawrwydd ymhen ennyd gan Dafydd. "Wel, codwch eich calon, William Jones," meddai, "mi gewch ddod hefo ni'n ôl i Gymru."
"Na, gad'wch fi yma,"—ebe'r truan, "'dydw i ddim yn haeddu dim cymwynas felly oddiar 'ch llaw chi."
"Ydi'r papur a'r plan gynnoch chi, William Jones?" ebe Harri'n sydyn, fel pe bai rhyw syniad newydd wedi taro i'w feddwl.
"Ydyn, mae nhw yn y cwt lle 'rydw i 'n byw. Mi â 'i i'w nhôl nhw i chi," ebe William Jones, ac ymaith ag ef.
"Yr hen greadur, mae'n biti gin i drosto," ebe Harri, " mae'n amlwg ei fod o 'n ddyn gwahanol i'r hyn oedd o ers talwm."
"Mae o 'n edrych yn wael iawn," ebe'i dad, " 'does dim golwg arno y bydd o byw i gyrraedd Cymru."
"O! mi ddaw ato'i hun wedi bod ddeuddydd neu dri ar y môr," ebe Dafydd, " wn i ddim sut y mae o wedi dal yn fyw cyhyd ar yr ynys unig yma."
Ar hyn daeth William Jones yn ôl a'r plan yn ei law grynedig, a rhoddodd ef i Harri.
"Ti bia hwn, Harri, a neb arall, os gelli gael rhywbeth drwyddo," meddai.
"Ddaru Twm Dafis gyfaddef hynny cyn marw? gofynnodd Harri, dan agor y papur a'i ledu ar ei lin.
"Do," meddai William Jones, " dyna oedd yn pwyso fwyaf ar ei feddwl—ei fod o wedi f'arwain i i gredu mai ganddo ef yr oedd yr hawl gyfreithiol arno. Capten Morris oedd pia'r papur i'w roi i'r neb a fynnai."
Tra y siaradai William Jones, astudiai Harri'r papur yr oedd mor gydnabyddus ag ef, a phlygai ei dad a Dafydd dros ei ysgwydd i edrych arno. Yn sydyn, cododd Harri ei ben, a gwawr goleuni newydd yn ei lygad.
"I beth 'rydech chi'n gweld y plan yma'n debyg?" gofynnodd i'w dad a Dafydd.
Nid oedd yr un o'r ddau'n gallu ateb.
"Wrth gwrs, nid yw' mor hawdd i chi weld y tebygrwydd ag ydyw i mi," ebe Harri'n gyffrous, "ond plan hollol gywir ydyw o'r ynys lle y bum i 'n byw. Dyma'r bau lle glaniaist ti, Dafydd, gyferbyn â Glandon, fy nhŷ wrth y graig, a dyma'r trwyn yn pwyntio tua'r gogledd wrth ochr y bau. 'Rwyf wedi bod yn cerdded dros y lle lawer gwaith, ond ni ddaeth y syniad erioed i fy meddwl i y gallai bod trysor yno. Mae'n rhyfedd na feddyliais o'r blaen am y tebygrwydd. Ond sut i gyfrif am yr enw? Hon ydyw Rahiti, ond plan o'm hynys i ydyw hwn."
Cymerodd Dafydd y plan yn ei law, ac wedi craffu arno, meddai,
"Edrych ar yr ysgrif. Nid ydyw'r gair Rahiti yn yr un llaw ysgrif a'r gweddill, ac y mae ôl rhwbio rywbeth allan yma."
"'Rydw i 'n meddwl y galla i egluro'r anawster," ebe Peter Jones, " chlywaist ti erioed mo enw'r brodorion ar d'ynys di, Harri?"
Ysgydwodd Harri ei ben.
"Bahiti ydyw'r hen enw brodorol arni. Felly yno y cuddiwyd y trysor gan rywun a wyddai'r enw brodorol, ond gan nad yw'r enw na'r ynys honno ar y chart, a bod ynys Rahiti arni, fe dybiodd rhywun doeth mai Rahiti ddylasai fod, ac fe newidiodd yr enw a'r ffigyrau gan feddwl eu cywiro."
Ymddangosai yr eglurhad hwn yn hollol naturiol i'r tri, a diau ei fod yn gywir, fel y ceir gweled. Am William Jones, druan, nid ymddangosai ef fel pe'n cymryd diddordeb yn y mater. Eisteddai â'i ben ar ei fynwes fel pe bron syrthio i gysgu, ac ochneidiai'n ddwys rhyngddo ag ef ei hun. " Dowch, William Jones," meddai Harri, gan blygu'r papur a'i gadw, "mi awn ni am y llong," ac i ffwrdd â hwynt am y lle y gadewsid y cwch. Ar y ffordd trodd Harri i ofyn i William Jones, " A oes gennych rywbeth garech ddod gyda chwi o'r ynys?" ond ysgydwodd yr hen frawd ei ben heb ddweud yr un gair.
Y noson honno yn y caban, bu'r ddau gyfaill a Peter Jones yn trafod y cwestiwn beth i'w wneud â'r trysor cuddiedig, a pha un a eid yn ôl i chwilio amdano ar Bahiti. Golygai hynny fynd yn ôl gryn bellter i'r gorllewin. Parod ac awyddus ydoedd Dafydd i droi'r llong yn ôl er mwyn dadrys y dirgelwch, rhag ofn i rywbeth ddigwydd i beri na chaent byth mo'r cyfle wedi hynny. Yr oedd Harri wedi colli pob awydd i feddiannu'r trysor iddo'i hun, nac hyd yn oed er mwyn ei fam, ond carai yntau wybod i sicrwydd a oedd ei ddamcaniaeth yn gywir. Felly, penderfynwyd troi'r llong yn ei hôl heb egluro'r rheswm i neb o'r dwylo.