Neidio i'r cynnwys

Ynys y Trysor/Yr Ail Fordaith

Oddi ar Wicidestun
Gadael Hamburg Ynys y Trysor

gan Robert Lloyd Jones

Harri Mewn Perygl

IX. YR AIL FORDAITH

NEWYDD drwg iawn i Gwen Jones oedd fod Harri am fynd mor bell oddicartref. Yr oedd wedi rhyw ledobeithio ei fod wedi cael digon ar y môr ar ôl y fordaith gyntaf, a loes i'w chalon oedd deall am ei fwriad i fynd gyda'r "Arfonia," Yr oedd rhyw atgasedd i'w 'chalon ynglŷn â'r enw Awstralia. Wyddai hi ddim am y lle, ond mai yno yr hwyliasai ei phriod hawddgar, Peter Jones, ar ei fordaith olaf, a chredai fod yno ryw beryglon anghyffredin yn y rhan hwnnw o'r byd, a phrin y credai weithiau y deuai Harri'n ôl. Ceisiodd ymhob modd ei ddarbwyllo rhag mynd, ond yn ofer. Pe gwybuasai am bapur y Capten, diau y dyblasai ei hymdrechion i'w atal. Yr oedd y bachgen rywfodd yn ystod ei arosiad byr adref wedi mynd yn anwylach nag erioed yn ei golwg, a'r bachgen yntau, er yn garedig wrth ei fam gynt, wedi dangos mwy o serch ac anwyldeb tuag ati ar ôl dod o'r fordaith nag a ddangosasai erioed o'r blaen, gan ei fod yn mynd yn hŷn, ac yn gallu sylweddoli cariad mam yn well.

Ymhen yr wythnos wedi i Capten Evans fynd i Lerpwl, daeth gair oddiyno i Harri yn erchi iddo ddod yno yn ddioed. Trwm i'r fam oedd y ffarwelio, a thrwm fuasai i'r bachgen onibai bod gobaith—gobaith llwyddiant yn y wlad bell a dychweliad gorfoleddus—; yn ei gynnal. "Peidiwch a phoeni, mam," meddai wrth gychwyn, "mi ddo i 'n ôl i chi wedi gwneud fy ffortiwn, a mi wnawn ni blas hardd ar y cae eithin, a mi fyddwch yn meddwl y byd o'ch bachgen wedyn."

Gwenu'n bruddaidd wnai'r fam wrth ei eiriau.

"Wel, machgen i," meddai, a dagrau'n perlio yn ei llygaid, " does dim ond rhoi d'ofal di i'r Brenin Mawr. Yn Ei law O y byddi di ymhob man. Cofia fod yn fachgen da, a chymer ofal ohonot dy hun."

Dyna'i chyngor olaf iddo pan gychwynai am y trên, a llawer gwaith wedi hynny y daeth golygfa'i ffarwelio a'i fam yn fyw i gof Harri.

Cyn y nos, yr oedd ar fwrdd yr "Arfonia," llong hardd bedwar mast, yn un o ddociau Lerpwl, yn rhwym i Valparaiso ar ochr orllewinol de'r Amerig, ac oddi yno, fel y tybid, i Awstralia. Er ei syndod a'i fraw, pwy welai Harri ar y dec yn ei ddisgwyl ond William Jones cyn-fate y "Blodwen," gyda gwên fuddugoliaethus ar ei wyneb. Ceisiodd Harri guddio'i deimladau rhagddo, ond synnodd fwy nag erioed at sirioldeb ei groesawiad iddo. Yr oedd mor wahanol i'r hyn a ddisgwyliai oddiwrth William Jones, ac amheuai— yn wir, gwyddai—fod rhyw gynllun ar dro. Ond yr oedd y dyn yn ymddangos mor onest yn ei lawenydd o weld Harri. Os mai ffug ydoedd, rhaid ei fod yn rhagrithiwr digymar.

"'Roeddwn i 'n meddwl 'ch bod chi wedi shippio ar y ' Mona,' " ebe Harri'n ddiniwed.

"'Roeddwn i wedi shippio, ond Capten Evans ddaru bwyso'n daer arna i a Thwm Dafis i ddod hefo'r 'Arfonia.'"

"Twm Dafis! ydi yntau yma hefyd? ebe Harri, gan fradychu ei syndod.

Amheuai Harrí fod gwên watwarus yn chwarae am eiliad ar wyneb William Jones wrth weld fel yr oedd y newydd am Dwm Dafis wedi peri syndod i'r bachgen. Ond os oedd gwawd ar ei wyneb, am eiliad y bu, ac atebodd mewn tôn eithaf naturiol.

"Ydi,—neu mi ddaw yma cyn hir. Wyt ti wedi synnu?" gofynnodd William Jones.

"Nac ydw i, erbyn meddwl," ebe Harri, gan ail-feddiannu ei hun yn dda.

Nid oedd ball ar garedigrwydd William Jones i Harri y noson honno. Gwnaeth ei orau i'w wneud yn gartrefol ar y llestr, a'r fath oedd ei fwyneidd-dra fel yr amheuai Harri ei fod wedi ei gam-farnu yn y gorffennol.

Bore trannoeth y daeth Twm Dafis i'r llong, ychydig oriau cyn iddi hwylio, ac yr oedd yntau'n dangos yr un sirioldeb tuag at Harri ag a wnaethai William Jones. Methai Harri eu deall. Er ei fod ar brydiau bron credu yn eu gonestrwydd a'u didwylledd, eto ofnai mai ar ddrwg amcan yr oeddynt. Gwelai ddarfod iddynt fod yn rhy gyfrwys iddo hyd yn hyn, ac wedi gwylio 'i symudiadau pan nad amheuai hynny. Ond yr oedd y papur gwerthfawr yn ei feddiant, a phenderfynodd gadw meddiant arno hyd y gallai. Gwelai, neu tybiai, ei fod wedi gwneud camgymeriad trwy ddod a'r papur i'w ganlyn, ac y buasai'n. fwy diogel gartref yn y gist, ond pe gwybuasai'r cyfan, ni thybiasai hynny. Dyfalai pam y bu Twm Dafis mor hwyr yn ymuno â'r llong, ond dywedasai William Jones mai wedi aros gyda chyfeillion iddo dros y nos yn Lerpwl yr oedd, ond anwiredd oedd hynny. Pan oedd Harri'n mynd o Fwlchglas i stesion Minymor, yr oedd Twm Dafis o'r tu ôl i'r gwrych yn ei wylio, a phah aeth Gwen Jones ymhen ychydig wedi hynny i'r siop i negeseua, aeth Twm drwy'r ffenestr i'r tŷ, ac i ystafell Harri. Ni bu'n hir cyn dod o hyd i'r gist (gwyddai amdani'n flaenorol drwy holi a gwylio), a thorri'r clo, a'i harchwilio'n fanwl, ond, fel y gwyddom, heb gael yr hyn a geisiai. Yna, wedi methu cael y papur yno, penderfynodd mai gan Harri yr ydoedd, a chyda'r trên hwyrol aeth am Lerpwl, lle'r oedd eisoes wedi anfon ei ddillad dan ofal William Jones. Dyna'r cynllun yr oedd y ddau ddihiryn wedi cytuno arno ymlaenllaw, er mwyn ceisio sicrhau meddiant o'r papur a geisient.

Ond, fel y dywedwyd eisoes, siriol a chyfeillgar oedd ymddygiad y ddau at Harri ar fwrdd yr "Arfonia," ac ni allai Harri na ddangosai'r unrhyw sirioldeb tuag atynt hwythau, er yr ofnai mai dichell ddieflig tuag ato oedd yn eu calonnau ill dau.

Yn ffodus iddo, ni roed ef yn yr un wyliadwriaeth a'r ddau, neu ni wyddai sut y gallai gadw'r papur rhagddynt. Ond y cyfle cyntaf a gafodd i gael eu cefnau, gweithredodd ar yr unig gynllun ymddangosai iddo ef yn debyg o fod yn llwyddiannus, i gadw'i feddiant o'r papur oll-bwysig. Tynnodd yr hen amlen felen o'i gist, a dododd hi mewn bag bychan llian oedd ganddo. Yna cylymodd y bag am ei wddf fel y gorweddai ar ei fron o dan ei ddillad isaf, a theimlai fesur o ollyngdod wedi gwneud hyn nas teimlasai er ys talm, ac aeth ynghylch ei ddyletswyddau'n ysgafn-galon.

Cyn pen nemor o ddyddiau wedi gadael Lerpwl, pan yn estyn rhyw ddilledyn o'i gist, canfu arwyddion bod rhywun wedi bod yn ei harchwilio, er bod yn amlwg fod y neb fu wedi ceisio dodi popeth yn ôl yn drefnus. Ond fel y digwydd yn fynych mewn amgylchiadau o'r fath, peth bychan iawn a brofodd i Harri fod archwiliad wedi ei wneud. Ar dop ei ddillad, yn y gongl hwylusaf iddo'i gyrraedd. dodasai ei Feibl, ac arferai ddarllen cyfran ohono bob dydd yn ôl ei addewid i'w fam. Arferai ddodi'r Beibl yn ôl bob tro a'i wyneb i lawr, a'r arysgrif " Y Beibl " ar yr amlen tuag i waered. Ond y noswaith hon, pan agorodd y gist, gwelodd fod yr arysgrif tuag i fyny, yr hyn a brofai'n eglur iddo fod rhywun wedi bod yno. Symudodd rai o'r dillad, a gwelodd ychwaneg o arwyddion ymyriad. Pan ar ganol chwilio, trodd ei ben yn sydyn, a gwelodd fod llygaid un o'r criw—Sais yn yr un wyliadwriaeth ag ef—arno. Teimlai'n sicr yn ei galon mai William Jones a Thwm Dafis oedd wedi ei osod ar waith i'w wylio yn eu habsenoldeb hwy. Ond cadwodd yr amheuaeth iddo ei hun,—ni ddangosodd i'r un o'r ddau ei fod yn amau bod neb wedi bod yn chwilio'i gist.

Parhai'r ddau i broffesu cyfeillgarwch mawr â Harri yr wythnosau cyntaf o'r fordaith, pan yr hwylient tua'r De ar hyd arfordir yr Hispaen a gogledd orllewin yr Affrig i ddod i afael a'r trade winds i'w gyrru dros y Werydd, a cheisient, pan y caent gyfle, ei hyfforddi mewn materion morwrol. Y Capten a'r tri hyn oedd yr unig Gymry ar fwrdd y llestr, a phroffesai William Jones, a chadarnhai Twm Dafis hynny gyda phwyslais, mai am mai bachgen o Gymro fel hwythau oedd Harri, y cymerent y fath ddiddordeb ynddo. Morwr cyffredin oedd William Jones ar y llestr mawr hwn, ac nid swyddog fel a fuasai ar y "Blodwen," a rhyfeddai Harri ato'n dewis lle ymhlith y dynion cyffredin yn hytrach na glynu yn ei swydd. A'r unig eglurhad a gynnigiai 'i hun i feddwl Harri oedd mai rhyw amcan yn ei erbyn ef oedd o'r tu ôl i hynny.

Ond er mor gryf oedd ei amheuaeth ohonynt ar y cychwyn, lleihau yn hytrach na chryfhau yr oedd fel yr ai'r dyddiau heibio, a'u caredigrwydd hwythau'n parhau. Ac erbyn i Harri bwyso popeth yn ei feddwl, teimlai nad oedd ganddo seiliau pendant dros eu hamau. Nid oedd yr un o'r ddau wedi yngan gair wrtho ef am ei feddiant o'r papur. Y cwbl a wyddai i sicrwydd oedd eu bod wedi ymholi amdano gyda gweddw yr hen Gapten Morris. At hyn, wrth gwrs, yr oedd eu gwaith yn hwylio gyda'r "Arfonia," wedi rhoi ar ddeall iddo eu bod yn mynd gyda'r "Mona," yn anodd ei esbonio, a'i amheuaeth gref iddynt fod yn chwilio'i gist yn aros o hyd yn ei feddwl. Y ffaith amdani oedd na wyddai'r bachgen mo'i feddwl ei hun ar y mater: weithiau byddai yn eu hamau ar gyfrif y pethau hyn a'i adnabyddiaeth blaenorol o William Jones, a thro arall beiai ei hun am eu hamau a'u drwg-dybio ar gam, a hwythau mor garedig wrtho.

Ni ddigwyddodd dim anghyffredin yn ystod y rhan gyntaf o'r fordaith—tebyg yw pob mordaith ar hyd y rhan hon o'r cefnfor—tipyn o wyntoedd croes ar dueddau Ffrainc a'r Hispaen—yna wedi cyrraedd i afael a'r trade winds, gwynt ffafriol drosodd i ymyl India'r Gorilewin, ac yna rai dyddiau tawel, heb awel o fath yn y byd, yn nhueddau'r cyhydedd (equator), a'r gwres yn arteithiol. Llawer o sôn a glywsai Harri yn yr ysgol ers llawer dydd am yr equator, ac yr oedd ei ddiddordeb yn fawr yn y llinell bwysig a wahana Dde a Gogledd, er y gwyddai mai ar y map yn unig y mae, ac nad oes dim ohoni i'w weld ar wyneb y môr, fel y tybia rhai plant bach. Diddorol iawn hefyd iddo tua'r cyhydedd oedd gwylio'r pysgod hedegog (flying fish) godai o'r dwfr o gwmpas y llong, gan ehedeg gyda wyneb y dwfr. Yna wedi llwyddo i groesi'r llinell, gweithio i lawr arfordir De'r Amerig, a'r gwynt yn ansicr, ond gan mwyaf yn anffafriol hyd nes cyrraedd yn agos i benrhyn deheuol y cyfandir eang—trwyn yr Horn fel y'i gelwir. Gorchwyl anodd i longau hwyliau yw mynd heibio Cape Horn, gan groeswyntoedd cryfion, ac felly y bu'r fordaith hon. Buont mewn enbydrwydd mawr wrth geisio mynd drwy'r culfor creigiog, a thybiai Harri na chai fyw i ddychwelyd at ei f am, nac ychwaith i weld Ynys Rahiti. Ond drwy fedr y Capten ac ufudd-dod a diwydrwydd y dwylo, aethant trwodd yn ddiogel i'r Môr Tawelog, a deuthpwyd wedi pum mis o fordeithio i borthladd Valparaiso dan gysgod trumau'r Andes. Yno proffesai William Jones a Thwm Dafis fwy o gyfeillgarwch nag erioed â Harri; gwahoddasant ef i ddod i'r lan gyda hwynt, ac aeth yntau yn eu cwmni i weld y dref un noswaith. Ond wedi bodyn dangos iddo rai o olygfeydd y dref, cymhellasant ef i dafarn. Gwrthododd yn bendant fynd gyda hwy i mewn, gan ei fod wedi ei fagu yn y Band of Hope, ac wedi addo i'w fam na chyffyrddai ddiferyn o'r ddiod feddwol. Buont yn daer iawn, ond ni ildiodd Harri, a'r diwedd fu iddynt fynd i mewn hebddo, gan ei adael i fynd yn ôl i'r llong ei hun. Ar y ffordd yn ôl, prynodd lyfr Hispaneg, gan ei fod yn awyddus i ddysgu'r iaith honno, er mwyn gallu dehongli'r ysgrif ar y papur. Yr oedd wedi pigo i fyny ychydig eiriau o'r iaith oddiwrth Alffonso, Hispaenwr ymhlith y criw.

Daeth William Jones a Thwm Dafis i'r llong yn hwyr wedi yfed yn drwm. Yr oedd Harri'n ei wely, ond yn effro, a chlywodd ddigon o'u geiriau yn eu meddwdod i brofi mai ffug oedd yr holl gyfeillgarwch ddangosasent tuag ato ar y fordaith. Galwasant ef yn bob enw, a soniasant am y trysor cuddiedig, a'u penderfyniad i ddod o hyd iddo. Drannoeth, daeth y ddau at Harri i'w gymell i'r dref gyda hwynt drachefn, ond gwrthododd yn bendant fynd. Yr oedd eu geiriau y noson cynt wedi eu bradychu iddo. Gwelai mai eu hamcan oedd ei ennill i fod yn un ohonynt, ac i gael gafael yn y papur trwy deg os yn bosibl. Wedi methu'r ffordd honno, gwyddai y gallai ddisgwyl iddynt geisio trwy drais.

Un noswaith, tra'r "Arfonia" yn Valparaiso, cafodd Harri ei hun yn y forecastle gyda'r ddau Gymro a neb arall yno gyda hwynt, a theimlai cyn iddynt ddweud yr un gair wrtho fod rhywbeth ar ddigwydd yn ei hanes. Wrthi'n ysgrifennu llythyr at ei fam yr oedd Harri pan ddaeth y ddau i mewn, a chyn hir wedi iddynt eistedd, gofynnodd William Jones iddo:

"Glywaist ti i ble mae'r llong yn mynd oddiyma, Harri?"

"Do, i Awstralia," ebe yntau.

"Ie, i Brisbane," ebe William Jones.

Yna bu distawrwydd am ennyd tra'r ddau ddihiryn yn edrych ar ei gilydd, a Harri'n parhau i ysgrifennu gan gymryd arno fod yn hollol ddifater o'u presenoldeb,—er y curai'i galon gan bryder.

"Paid ag ysgrifennu am funud, Harri," ebe Twm Dafis i dorri ar y distawrwydd, ac ufuddhaodd y bachgen yn ebrwydd, gan droi i edrych arnynt.

"Mi wyddost," ychwanegodd Twm Dafis gan graffu' yn wyneb y bachgen, "mae'n debyg, pam y daeth William Jones a minnau ar y llong yma?"

"Sut y gŵn i hynny?" meddai Harri. "Capten Evans ddaru'ch cymell chi, on'tê?"

"Wel mi ddeuda i wrthat ti," ebe Twm Dafis, "a gofala am wrando'n ofalus ar bob gair ddeuda i; gan' fod hynn yn bwysig i ti."

Teimlai Harri ei hun yn dechrau crynu a gwelwi, ond ymwrolodd i wynebu unrhyw berygl allsai ddod i'w ran, gan fod yr helynt yn amlwg yn dod i bwynt.

Pesychodd Twm Dafis i glirio'i wddf, ac aeth ymlaen.

"Wyt ti'n cofio yn Hamburg pan ddois i i'r 'Blodwen' i chwilio am rywbeth oeddwn i 'n feddwl oedd gin William Jones?" gofynnodd.

"Ydw," ebe Harri.

"'Doeddwn i fawr feddwl yr adeg honno mai gin ti yr oedd y peth oeddwn i 'n chwilio amdano, ond mi wn hynny 'rwan."

"Ewch ymlaen," ebe Harri, gan ffugio llawer mwy o ddifaterwch nag a deimlai.

"Does dim ymlaen ohoni hi. Y cwbl sy gin i i'w ddeud ydi fod arnom eisio'r papur hwnnw gin ti," ebe Twm Dafis mewn tôn a chyda threm fygythiol.

"A'r cwbl sy gin inna i'w ateb ydi na fedra i mo'u rhoi nhw i chi," ebe Harri'n ddewr.

Trodd Twm Dafis ei lygaid yn awgrymiadol ar William Jones, ac yna cymrodd hwnnw'r mater i fyny mewn ffordd mwy cyfeillgar.

"Gwrando ar reswm, Harri bach," meddai. " Caru dy les di 'rydan ni. Wn i ddim wyddost ti beth ydi'r papur 'ma, a faint ydi 'i werth o?

"Wn i ddim am ba bapur yr ydach chi'n sôn, William Jones," ebe Harri.

"O! gwyddost o'r gore mai'r papur gefaist ti gan hen Gapten y 'Lark' sy gyno ni mewn golwg," meddai Willlam Jones.

"Mae'n wir y cefais i bapur ar ôl Capten Morris, ond wn i ddim beth sydd a wneloch chi â hwnnw," ebe Harri, gan ddal atynt yn ddewr.

"Rwyt ti'n ffol iawn bod mor gyndyn, gan y gallwn ni dy wneud yn ŵr bonheddig, ond i ti eu rhoi nhw i ni."

"Sut felly?" gofynnodd Harri, gan broffesu anwybodaeth.

"Wel, sôn mae'r papur am arian sy wedi eu cuddio yn un o Ynysoedd Môr y De. 'Rydan ni'n mynd yn agos i'r lle ar y daith i Awstralia, ond wyddom ni ddim ymhle ar yr ynys y mae'r cuddfan heb weld y papur. Mi ŵyr Tom Davies pa ynys ydi hi, ac ond i ti ddangos y papur, 'rydan ni'n fodlon i dy gymryd di yn bartner yn y busnes."

"Dydw i ddim yn barod i addef bod gan yr un ohonoch ddim i'w wneud a'r papur gefais i gan Capten Morris," atebodd Harri, mor gadarn ei lais ag erioed, ac aeth ymlaen i ddiweddu ei lythyr, gan nad ymddangosai bod gan yr un o'r ddau ychwaneg i'w ddweud.

Teimlai Harri ei fod wedi gorchfygu'r ddau gynllwynwr am y tro, beth bynnag, ond ni chafodd fynd o'r forecastle heb i Twm Dafis ddweud mewn tôn fygythiol, a tharo ei ddwrn ar y bwrdd i gadamhau ei eiriau, "'Rydw i 'n gwybod mai gin ti y mae nhw'n rhywle, ac yr ydan ni'n bownd ohonyn nhw'n hwyr neu hwyrach, trwy drais, os na chawn ni nhw trwy deg. 'Rwyt ti wedi gwrthod cynnig teg heno, a chei di mo'i gystal eto. Ond 'dydan ni ddim yn bwriadu d'ollwng di o'n golwg nes cael gafael amyn nhw, a waeth i ti ildio'n fuan nag yn hwyr, ildio fydd raid i ti. 'Dydi Wil Jos a finna ddim yn mynd i gymryd ein concro gin rhyw gyw—fel chdi."

Gwyddai Harri fod y ffug gyfeillgarwch bellach ar ben, ac mai gelyniaeth agored oedd i'w ddisgwyl oddiwrthynt o hyn allan, a phenderfynodd gadw'i lygaid amynt. Gofidiai erbyn hyn ddarfod iddo ddod ar yr "Arfonia," wedi gweld bod y ddau ddihiryn ymhlith y criw, a gofidiai fwy na buasai wedi hysbysu dirgelwch y papur i'w gyfaill, Dafydd Glandon. Ond yr oedd yn rhy hwyr i gywiro'r camgymeriadau, 'doedd dim ond ceisio gwneud y gorau o'r gwaethaf bellach. Nid oedd ond ieuanc iawn, a pha ryfedd iddo gael rhai munudau o ddigalondid wrth feddwl am y peryglon oedd o'i flaen? Pan yn teimlo felly, temtid ef i ddweud ei gŵyn wrth y Capten er mwyn diogelu'i hun. Deuai ei benderfyniad yn ôl drachefn i'w rwystro i wneud hynny. Teimlai y buasai hynny'n llwfrdra ynddo: gwell ganddo ymladd ei frwydr ei hun. Ar ôl y digwyddiad a groniclwyd uchod, ansefydlog fel hyn oedd ei feddwl—weithiau bron ildio a thorri'i galon, a phryd arall yn ymwroli. Ond O! teimlai ei hun yn unig, heb neb ar fwrdd y llong y gallai ymddiried ynddo, a gofyn cyngor ganddo.

O! na bai Dafydd yno: buasai'n sicr o orchfygu'r ddau gynllwynwr gyda chymorth Dafydd.

Am y ddau ddihiryn, yr oeddynt hwythau mewn cryn benbleth wedi'r drafodaeth gyda Harri yn y forecastle. Tueddai Twm Dafis i gredu nad oedd y papur oll-bwysig gan Harri gydag ef ar y fordaith, ond ei fod wedi ei guddio neu wedi ei roi i rywun i'w gadw ym Minymor, a beiai ei hun am na buasai wedi chwilio'n fanylach pan gafodd gyfle ym Mwlchglas. Ond yr oedd William Jones o'r farn yn gadarn, mai'n eu twyllo yr oedd Harri, a bod y papur ganddo yn rhywle—ond ymha le, dyna'r cwestiwn. " Mae'r papur gyno fo'n siwr i ti," meddai'n ateb i Twm Dafis, "a mae o 'n meddwl mynd i'r ynys cyn mynd adre. Pam 'rwyt ti'n meddwl 'roedd o mor awyddus i ddod hefo'r 'Arfonia,' ond gyda rhyw amcan fel hyn? Cofia di mod i 'n ei nabod o 'n well na chdi. Mae o 'n hogyn go beniog, a mi gwnaiff ni dan ein trwyna, os na dendiwn ni."

Cyn gadael Valparaiso ar y daith faith dros y Môr Tawelog, prynnodd Harri law-ddryll, gan y tybiai y byddai arno'i angen er amddiffyn ei hun.. Gwyddai'n weddol sut i'w ddefnyddio ar ôl gwersi Jim, y cook, ar y " Blodwen " ers llawer dydd.

Nodiadau

[golygu]