Ynys y Trysor (testun cyfansawdd)
| ← | Ynys y Trysor (testun cyfansawdd) gan Robert Lloyd Jones |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Ynys y Trysor |

YNYS Y TRYSOR

YNYS Y TRYSOR
CHWEDL ANTUR I FECHGYN
GAN
R. LLOYD JONES
WRECSAM
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR
1925
Y DARLUNIAU GAN
W. MITFORD DAVIES
MADE AND PRINTED IN GREAT BRITAIN
RHAGAIR
YMGAIS geir yn y dalennau a ganlyn i ddisgrifio anturiaethau bachgen o Gymro ar y môr ac yn Ynysoedd Môr y De.
Darllennodd yr ysgrifennydd bopeth yn ei gyrraedd, yn ymwneud â bywyd yn yr Ynysoedd pellennig,—hanes cenhadon a darganfyddwyr, a hanes anturiaethau gan Stevenson, Ballantyne, Henty, ac eraill. Ceisiwyd gwneud y stori mor gywir ag oedd modd, cyn belled ag y mae yn ymwneud â ffeithiau daearyddol.
Dychmygol yw'r cyfan fel stori; ni fenthyciwyd ei chynllun o unman. Mae llawer ystori am anturiaethau yn Ynysoedd Môr y De, a llawer o debygrwydd rhwng y naill a'r llall ohonynt. Diau bod hon yn debyg mewn rhai pethau i lawer ohonynt, ond, mor bell ag y gŵyr yr awdur, y mae'r cynllun (plot) yn wreiddiol. A pha mor annhebygol bynnag y gall ambell ddigwyddiad ymddangos, credir nad oes dim ynddi y gellid ei gyfrif yn amhosibl.
Amcanwyd cyfaddasu'r stori i blant o ddeuddeg i bedair ar ddeg oed.
CYNNWYS
I. PLANT MINYMOR
II. HARRI'R DRINGWR
III. Y TRAETH
IV. CWCH Y CAPTEN
V. STORI'R CAPTEN
VI. MYND I'R MÔR
VII. YN HAMBURG
VIII. GADAEL HAMBURG
IX. YR AIL FORDAITH..
X. HARRI MEWN PERYGL
XI. Y LLONG-DDRYLLIAD
XII. BYWYD AR YR YNYS
XIII. YR YMWELWYR
XIV. STORI PETER JONES
XV. Y WAREDIGAETH
XVI. YNYS RAHITI
XVII. CAEL Y TRYSOR
XVIII. Y DYCHWELIAD
PLANT MINYMOR
Ni fu erioed fachgen mwy difater o berygl a dibris o'i fywyd na Harri, Bwlchglas, neu Harri Gwen Jos, fel yr adwaenid ef yn gyffredin ym mhentref ac ardal Minymor. Efe oedd arwr y bechgyn at ei oed, a rhai iau nag ef; ac er mai fel bachgen drwg y sonnid amdano, direidus yn hytrach na drwg ydoedd, ac yr oedd rhywbeth yn ei gymeriad a'i gwnai yn hoff gan bawb er ei holl ddireidi.
Rhaid i ni fynd yn ôl ryw ddeugain mlynedd i'r adeg yr oedd Harri'n blentyn ym Minymor; ac y mae'r pentref hwnnw fel pob man arall wedi newid cryn lawer er dyddiau mebyd Harri, er bod y boblogaeth o ran ei nifer a'i chymeriad yn dal rhywbeth yn debyg hyd heddiw. Ond yr adeg honno, nid oedd yn y pentref ysgol ddyddiol, a rhaid oedd i'r plant gerdded i ysgol Cefngwyn, pentref tipyn mwy, tua milltir oddiyno. Yr oedd yn hen arferiad gan blant Minymor, ymhell cyn dyddiau Harri, i gerdded gyda'i gilydd yn dyrfa hapus tua'r ysgol—pob un a'i ginio mewn bag ar ei gefn, neu mewn rhyw lestr bychan yn y llaw. Cyd-gyfarfyddent wrth y siop oedd ynghanol y pentref, tua'r chwarter i naw, ac yn aml iawn byddai'n tynnu'n bur agos i naw o'r gloch cyn y ceid pawb ynghyd ac yn barod i gychwyn; ac o ganlyniad, anaml iawn y cyrhaeddai mintai Minymor i'r ysgol yn brydlon. Yr oedd trên yn pasio trwy Finymor chwarter i naw, a chymrai'r plant eu hamser oddiwrth y trên, ond, druain ohonynt! yr oedd y trên hwnnw'n ddiarebol am fod ar ôl. Ond er clywed hynny drachefn a thrachefn gan rieni ac athrawon, glynnai'r plant, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, wrth adeg cyrhaeddiad y trên yng ngorsaf Minymor fel yr amser priodol i gychwyn am yr ysgol. "Mae hi'n ddigon buan: 'rwan mae'r trên naw yn y stesion," oedd ymadrodd a glywid yn fynych oddiar wefusau'r plant. Gan fod nifer pur fawr o blant o wahanol oedran yn y camwedd, nid gwiw oedd i'r athro eu curo am ddyfod yn hwyr, ac felly eu cadw i mewn amser chwarae gai plant Minymor yn fynych am eu trosedd. Nid oedd hynny'n rhyw gosb fawr yn eu golwg, gan nad oedd y teimladau gorau'n bodoli rhwng plant y ddau bentref—Cefngwyn a Minymor. Yr oedd hyn yn hen ddrwg cyn i Harri ddechrau mynd i'r ysgol, ac er na wyddai ef na'r plant yn ei amser ef beth fuasai'r achlysur i ddechrau'r elyniaeth, cadwai plant y naill bentref a'r llall y traddodiad i fyny'n ffyddlon. Anaml iawn yr anturiai plentyn o Finymor i'r Cefngwyn ar ei ben ei hun, ac nid gwiw, yn sicr, i un o'r Cefn ddangos ei wyneb ym Minymor. Ymysg y plant yn unig yr oedd yr elyniaeth—cyddynnai'r bobl mewn oed yn rhagorol â'i gilydd, a chydweithredent mewn amryw gyfeiriadau. Felly, nid oedd cael eu cadw i mewn yn gosb drom ar blant Minymor—gan mai cyfyng oedd y chwaraele i gynnwys dwy fintai elyniaethus. Gan fod plant Minymor yn bwyta'u cinio yn yr ysgol, caent hwy eu cyfle ar y chwaraele ganol dydd, cyn i blant y Cefn ddychwel oddiwrth eu cinio.
Mae rhywbeth mewn ambell blentyn (a dyn o ran hynny) fel pe'n mynnu ei wthio i'r amlwg, ac yr oedd y rhywbeth hwn yn Harri. Pan nad oedd ond crwt bychan ym mintai Minymor, gwrandewid arno a gofynnid ei fam gan blant hŷn nag ef, a phan oedd newydd droi y deg oed, efe oedd capten y plant, er, wrth gwrs, bod llawer hŷn nag ef yn perthyn i'r fintai. Daeth y swydd o arwain y plant iddo'n naturiol, heb iddo'i cheisio, gan fod y plant yn canfod yr arweinydd ynddo. Ac wedi ei ddewisiad yn arweinydd, ei air ef fyddai'n ddeddf, ac efe fyddai'r barnwr a'r cynghorwr, ac amddiffynydd y gwan yn y fintai. Pe beiddiai un o blant y Cefn gyffwrdd ei law yn un o blant Minymor, rhaid fyddai iddo wynebu Harri i roi cyfrif, ac nid oedd un o blant y Cefn a anturiai frwydr ag ef. Yn rhyfedd iawn, ni fu raid iddo ymladd â neb i gyrraedd y fath safle—er, yn ddiau, gan ei fod yn fachgen cryf a bywiog, y gallasai ymladd—ond mae'n debyg fod rhywbeth yn ei drem awdurdodol a'i lygad byw ac eofn yn rhoi iddo'r oruchafìaeth, heb iddo â'i ddyrnau orfod ei hennill.
Is-gapten y cwmni, a chyfaill mynwesol Harri oedd Dafydd Glandon, bachgen bron yr un oed ag ef. Ceid y ddau ynghyd yn wastad, ac ni allai Catrin Huws, Glandon, gadw Dafydd rhag dilyn Harri, er iddi'n fynych ei rybuddio, a dywedyd mai bachgen drwg oedd Harri; ond gwyddai Dafydd yn amgen. Deuai Dafydd heibio i Harri bob bore, gan fod y ffordd o'i gartref, Glandon, yn pasio heibio Bwlchglas. Pan gyferbyn a'r tŷ chwibanai Dafydd ar ei gyfaill. Yr oedd gan y ddau chwibaniad arbennig ar ei gilydd, nad oedd gan yr un o'r plant eraill hawl i'w ddefnyddio, a rhywbeth yn debyg i hyn oedd ei seiniau:—
Yr alwad,— |d |r :d :r |m :s :- | - :- :- |
Yr ateb,— |s :- :- |n :s :n |d :- :- |- :- :- |
Yr oedd Harri'n rhwym o aros am Dafydd hyd nes y byddai'r trên naw yn chwibanu yng nghoed y plas cyn dod i orsaf Minymor. Os na byddai Dafydd wedi cyrraedd at Fwlchglas erbyn hynny, y tebyg ydoedd na ddeuai i'r ysgol y diwrnod hwnnw, ac âi Harri ei hun at y siop i ymuno â'r plant ddisgwyliai wrtho. Ond distaw a digalon fyddai heb Dafydd, a'r un modd y byddai Dafydd pe digwyddai fod Harri ar ôl. Yr oedd y ddau yn yr un dosbarth yn yr ysgol, ac yn eistedd ochr yn ochr.
Ychydig ŵyr plant heddiw am yr ysgol ddyddiol fel y byddai ddeugain mlynedd yn ôl; a gwell, efallai, fuasai dywedyd ychydig wrthynt am yr ysgol a gafodd Harri a Dafydd, er mai brysio ymlaen raid i ni i roi hanes yr anturiaethau ddaeth i ran y ddau fachgen wedi dyddiau ysgol
Yr oedd yn y Cefngwyn ddwy ysgol yr adeg honno—Ysgol y Bwrdd neu ysgol ysgoldy fel y gelwid hi, ac Ysgol Genedlaethol a elwid yn Ysgol Penybryn. I'r gyntaf a enwyd yr âi plant Minymor. Ambell waith, ar ôl curfa gan yr athro, âi rhai drosodd i'r ysgol arall, nes cael curfa yno drachefn a'u gyrrai'n ôl yn dipyn haws eu trin. Bob dydd Llun, byddai gan bob plentyn ddwy geiniog i dalu am ei ysgol am yr wythnos, ac yn aml iawn, os byddai plentyn wedi colli'r ysgol ddydd Llun, collai'r gweddill o'r wythnos i arbed talu am yr wythnos honno. Ond yr oedd arswyd Evan Ellis, y dyn hel plant i'r ysgol, ar blant a gollai'r ysgol. Credid fod y gŵr hwnnw yn un i'w ofni, am ei fod yn gweinyddu rhyw gosbedigaethau arswydus ar blant drwg, a ffoid o'i wydd lle bynnag y gwnai ei ymddangosiad.
Unwaith yn y flwyddyn, byddai'r arholiad yn cael ei wneud ar yr ysgol gan arolygwr y llywodraeth, ac am ryw chwech wythnos neu ddeufis, byddai gweithio caled yn yr ysgol, ac ynglyn â'r gweithio yr oedd curo diarbed, a chadw i mewn am ryw awr neu chwaneg ar ôl oriau'r ysgol. Ac fel y nesâi y diwrnod mawr, trymhâi'r gwaith, cynhyddai'r fflangellu, ac ychwanegid yr oriau. Ac o'r diwedd deuai'r dydd,—dydd y praw, pan y deuai'r plant ynghyd yn eu dillad gorau i geisio pasio'r arholiad i fynd i safon uwch. Eisteddai pawb fel delwau ar y meinciau, gan wylied y drws yn agor, i ymgrymu i'r gŵr mawr oedd a'u tynged yn ei law. Ac yna, â dwylaw crynedig ac ymenyddiau wedi eu cynhyrfu, ceisiai'r plant ateb y cwestiynau a gwneud y tasgau a roid iddynt i brofi swm y wybodaeth gyfranwyd iddynt yn ystod y chwech wythnos neu ddeufis o orweithio. Ac wedi i'r arholiad fynd heibio, anedlid yn rhydd gan athrawon a phlant hyd nes y deuai cwmwl yr arholiad dilynol i dywyllu eu ffurfafen. Yn Saesneg, wrth gwrs, y profid gwybodaeth y plant. Gymaint dedwyddach ydych chwi yn yr ysgolion heddiw rhagor eich tadau a'ch mamau ddeugain mlynedd, mwy neu lai, yn ôl!
II. HARRI'R DRINGWR
ER bod ffordd weddol i'w cherdded gan blant Minymor i ysgol Cefngwyn, ni cherddai Harri ar hyd-ddi ond cyn lleied byth ag oedd modd, gan mai ar hyd pen y cíawdd yr hoffai ymlwybro. Yr oedd ynddo ryw ysfa gynhenid am ddringo ac anturio'n wastad, a hyn a'i tynnai i ben y clawdd lle y dilynid ef yn aml gan lawer o'r bechgyn eraill, tra'r genethod a'r bechgyn ieuangaf yn cerdded y ffordd. Ond nid oedd yr un o'r bechgyn i fyny â Harri am gerdded y wal mewn lleoedd anodd, pan fyddai crib y wal yn gul, neu ambell garreg rydd ynddo, neu pan ddeuid at fwlch yn y wal. Mewn lleoedd peryglus o'r fath, i lawr i'r ffordd yr âi'r lleill, ond ymorfoleddai Harri mewn peryglon ac anawsterau, ac er ei rybuddio gan lawer o dro i dro i gerdded y ffordd rhag torri 'i goesau, clust fyddar roi Harri i'r rhybuddion, a rhywsut deuai drwy bob perygl yn ddianaf.
Diau mai ei ragoriaeth fel pencampwr y plant oedd un o seiliau sicraf ei frenhiniaeth arnynt. Yr oedd yn arwr yng nghyfrif y plant, ac nid oedd neb fel ef yn eu golwg. Os byddai ryw gamp nas gallai Harri Bwlchglas ei wneud, nid oedd ond ofer i neb arall geisio. Ond nid oedd ei orchestion mewn cerdded cloddiau yn ddim wrth ei fedr dihafal i ddringo coed. Cerddai ben y wal wrth fynd a dod o'r ysgol am nad oedd yno goed i'w dringo. Ond o gwmpas Minymor yr oedd digon o goed, yn enwedig yn y cae o flaen tŷ Bwlchglas, lle'r oedd nifer o goed derw, masarn, onen, a bedw—y rhan fwyaf ohonynt yn goed talgryf, tewfrig, ac yno'n aml iawn yn y gwyliau a chyda'r nos y ceid Harri a Dafydd ac eraill o'r plant. Yn wir, yr oedd plant Minymor yn edrych ar y cae hwn—y cae eithin y gelwid ef ganddynt, am fod cryn lawer o'r rhywogaeth pigog hwnnw o goed yn tyfu ar un rhan ohono—fel eu chwaraele, a rhyw fath o hawl ganddynt arno, ond pell iawn oedd Huw Tomos, yr Ynyswen, yr hwn a ddaliai'r cae ar rent, o gydnabod hawl y plant arno, ac weithiau deuai'n annisgwyliadwy gyda'i gi i'r fan, pan fyddai llu o blant y pentref yn ymddifyrru arno; ond nid cynt y gwelent ei wyneb neu y clywent ei lais nag y gwasgarent i bob cyfeiriad. Ac er i Huw Tomos chwythu bygythion dychrynllyd, os nad hefyd gelanedd, yn erbyn y plant, i'r cae y mynnent fyned i chwarae, gan wneud difrod nid bychan yn aml ar y borfa. Harri gai'r bai gan Huw Tomos am fod y plant yn ymdyrru yno, gan mai Bwlchglas oedd y tŷ agosaf, ond gwyddai'r amaethwr, neu fe allai wybod pes mynnai, nad oedd a wnelai Harri ddim a'r peth, ond mai i'r cae eithin y daethai tadau a mamau'r plant hyn pan oeddent hwythau gynt yn blant.
Dringo'r coed fel rheol fyddai difyrrwch y bechgyn yno. Gallai bron bob bachgen ddringo rhai o'r coed—yn wir, gallai'r genethod hynaf ddringo ambell un ohonynt, ond nid oedd neb ond Harri a allai ddringo bob un ohonynt. Ac nid yn unig eu dringo, ond eu dringo i'w brigau uchaf, nes gallu edrych allan drostynt. Yr oedd fel gwiwer rhwng y canghennau—gallai neidio'n wisgi o gangen i gangen, ac hyd yn oed daflu ei hun o'r naill goeden i'r llall mewn llwyn, a hynny uwchben dyfnder mor fawr ag i beri i wallt y sawl a'i gwyliai ar y llawr sefyll ar eu pennau gan arswyd iddo golli ei afael a syrthio nes cael ei ddarnio ar y creigiau neu'r ddaear galed islaw.
Llawer gwaith y ceisiodd ei fam ganddo beidio dringo, a mawr fyddai ei phryder amdano pan na byddai yn ei golwg. Ceisiodd dynnu'r ysfa ohono trwy ei guro, ac wedi methu'r ffordd honno, trodd i geisio ei berswadio, ond aflwyddiant fu'r naill gynllun fel y llall. Yr oedd yr ysfa i ddringo fel pe wedi meddiannu bob migwrn ac asgwrn ohono, ac ni allai beidio dringo coeden pan y'i gwelai mwy nag y gall hwyaden beidio nofio pan ddelo at ddwfr. Wylodd Gwen Jones lawer tro uwchben ei ddillad rhwygedig wedi iddo fod yn dringo, wrth geisio eu pwytho a'u clytio; ac wrth weld ei fam yn wylo, wylai Harri, ac addunedai i roi gorau i'r arferiad; ond pan âi allan drachefn i'r coed gyda Dafydd neu arall, byddai'r demtasiwn i ddringo'n ormod iddo allu ei gorchfygu, ac anghofiai'i adduned. Ceisiai wneud iawn am ei aml droseddau, drwy hel coed tân i'w fam, ac nid oedd ei hafal yn y fro am dorri cangau crin. Nid casglu'r manwydd hyd y ddaear y byddai Harri—ystyriai hynny'n beth annheilwng ohono, ac yn gweddu'n unig i eneth ei wneud. O! na! torri cangau praff, crin oedd ei bleser pennaf. Weithiau byddai Dafydd ac yntau'n defnyddio rhaff i'w thaflu oddiar y llawr am flaen cangen grin, a'i thynnu i lawr; ond pan fyddai'r gangen o gyrraedd tafiiad rhaff, âi Harri i fyny'r goeden fel gwiwer, a chan hongian oddiar frigyn uwchben yr un crin, tarawai hi â'i droed, neu tynnai ynddi ag unllaw nes ei thorri. Mae'n syn na buasai wedi syrthio a chael ei anafu, trwy golli ei afael neu trwy i frigyn dorri tano, ond yr oedd Rhagluniaeth o'i du. Deuai drwy bob perygl yn ddianaf a chroeniach—ei ddillad yn unig dystiai i angerddoldeb y frwydr y buasai ynddi.
Nid yn y cae eithin yn unig y byddai Harri'n dringo coed i gael tanwydd crin. O! na, gosodai holl goed y fro dan dreth iddo yn hyn o beth. Ac er na ddaeth anhap i'w ran trwy ei hoffder o ddringo, bu fwy nag unwaith mewn trybini o'r herwydd. Byddai Dafydd ac yntau'n tresmasu hyd dir yr amaethwyr i hel coed crin, a byddent am eu gwaed; ac onibai bod y ddau fachgen ar well telerau â chŵn yr amaethwyr nag a'u meistri, diau y buasent wedi dioddef cosb fwy nag unwaith. Fel y crybwyllwyd, teimlai Huw Tomos, yr Ynyswen, yn ddig iawn tuag at "hogyn Gwen Jos 'na," a beiai Harri am fod y plant yn dod i chwarae i'r cae eithin. Un hwyrnos yn nechreu'r hydref, daeth i'r cae yn sydyn, a Harri ar y pryd ar ben coeden, a Dafydd Glandon, a Huw a Jac, dau fab y siop, ar lawr odditano. Digwyddodd Huw y siop droi ei ben, a gweld Huw Tomos yn dod tuag atynt o fewn ychydig lathenni iddynt a golwg ffyrnig arno. Nid oedd dim i'w wneud ond hysbysu'r ddau arall yn frysiog, a gwadnu nerth eu traed rhag cael eu dal, gan adael Harri i gymryd ei siawns. Ar ben uchaf y goeden yr oedd Harri'n torri coed crin, ac yn eu taflu neu eu cicio i lawr heb wybod bod Huw Tomos yno, a'i dri chyfaill wedi ffoi. Chwarae teg i Dafydd, fe geisiodd chwibianu ar Harri i'w rybuddio, ond ni chlywodd Harri ef gan ei fod yntau'n chwibianu'n ddifyr fel aderyn mewn llwyn, wrth ei hoff orchwyl.
"Dyma i chi frigyn da, hogia," gwaeddai cyn hir, gan daflu cangen grin anferth i'r llawr, a'r munud nesaf clywodd rêg arswydus, a ddywedai wrtho fod rhywun amgen na'i gyfeillion wrth fôn y pren. Adwaenodd Harri'r llais garw fel eiddo Huw Tomos, a chasglodd oddiwrth y rêg fod y pren naill ai wedi'i daro neu wedi'i ddychrynu'n anghyffredin.
"Chdi sydd 'na, Harri?" meddai Huw Tomos mewn llais digofus, "aros di, ngwas i, nes doi di i lawr. Mi ddysga i i ti dresmasu ar fy nhir i, a cheisio fy lladd."
Tremiodd Harri mewn distawrwydd i lawr rhwng y cangau, ac er ei bod yn dechrau tywyllu, nid oedd yn rhy dywyll iddo allu gweld Huw Tomos yn edrych i fyny tuag ato, a bod ganddo bastwn mawr yn ei law. "Tyrd i lawr. Waeth i ti'n fuan nag yn hwyr. 'Rydw i'n siwr ohonot ti," meddai Huw Tomos drachefn ar ôl ysbaid o ddistawrwydd.
Ond nid oedd Harri mewn brys i ddisgyn.
Cyn hir, gwelai Huw Tomos yn eistedd wrth fôn y goeden, ac yn paratoi i gymryd mygyn. Profai hynny fod yr amaethwr am ei waed, ac am aros yn amyneddgar hyd nes y disgynnai.
Ond nid oedd Harri'n awyddus i ddisgyn i grafangau Huw Tomos, os gallai beidio. Ac fe allai, ond iddo frysio cyn iddi fynd yn rhy dywyll. Llithrodd yn ysgafn ar hyd cangen nes cael gafael ar gangen o'r goeden agosaf ato, a thynnodd ei hun i'r goeden honno. O honno drachefn, ymgripiodd i'r nesaf ati, ac felly yn y blaen, nes cyrraedd i'r goeden bellaf yn y llwyn oddiwrth Huw Tomos. Yna llithrodd i'r llawr yn ddistaw, a gwnaeth ei ffordd tuag adref mor llechwraidd ag oedd modd, a chyn pen hanner awr yr oedd yn ei wely, a Gwen Jones braidd yn synnu ei weld yn bwyta'i swper mor gyflym.
Ymhen tipyn wedi iddo fynd i'w wely, clywai gnoc ar y drws, a phan glywodd oddiyno lais Huw Tomos, daeth yn ddistaw o'i wely, ac i ben y grisiau i wrando'r ymddiddan rhwng yr amaethwr a'i fam.
"Mae'r hogyn yn ei wely ers meityn," clywai ei fam yn dweud, "does dim posib mai fo sydd yn y goeden, Huw Tomos."
"Mi faswn i 'n cymryd fy llw mai fo oedd yno, sut bynnag gebyst y daeth oddiyno," ebe'r amaethwr digllon.
"'Doedd dim ôl dringo ar 'i ddillad o heno, a ddaeth o ddim a choed tân adre, ac mae'n siwr gin i'ch bod chi wedi methu am unwaith, Huw Tomos," ebe'i fam drachefn, a chwarddai Harri rhyngddo ag ef ei hun wrth wrando arni.
"Wel, Gwen Jos," meddai Huw Tomos, gan ddechrau amau ei hun wrth weld pendantrwydd y wraig, "hwyrach mai chi sy'n iawn. Ond yn wir, y fo feddylis i oedd o. Coblyn ydi o am ddringo, fel y gwyddoch chi."
"Mi wn hynny'n eitha," ebe Gwen Jones, "ac 'rydw i 'n dweud digon wrtho fo, taswn i rywfaint haws, ond mae'n arw o dro iddo gael y bai heb ei haeddu. Mae'r creadur bach amddifad yn cael llawer o'i feio am bechodau rhai eraill. Y fo sy'n cael bai gynnoch chi am fod y plant yn chwarae yn y cae eithin, ond mi wyddoch mai yno y byddai'r plant yn mynd cyn geni Harri."
"Nos dawch, Gwen Jos," oedd gair olaf yr amaethwr, a'r munud nesaf, wedi clywed cau y drws, aeth Harri yn Ô1 i'w wely, a phan ddaeth Gwen Jones i'w ystafell ar ei ffordd i'w gwely'n fuan wedyn, yr oedd y bachgen yn chwymu'n drwm, fel pe'n cysgu ers meityn. Wrth gwrs, ffugio'r oedd, rhag i'w fam sôn wrtho am ymweliad Huw Tomos.
Bore trannoeth, adroddodd ei fam wrtho hanes yr ymweliad, heb ofyn iddo a oedd yn euog, ac er y buasai wedi cyfaddef pe gofynasai, ni thybiai bod angen iddo roi'r wybodaeth iddi'n wirfoddol.
Pan yn mynd i nôl llefrith i Ynyswen y bore hwnnw, gwnaeth Harri'n sicr fod Huw Tomos allan yn y caeau cyn mynd at y tŷ, a bu'n ddigon ffodus i osgoi'r amaethwr am rai dyddiau—nes iddo anghofio'r helynt.
Ond ni bu Harri mor ffodus bob tro i osgoi'r gosb am ddringo. Cystwywyd ef yn dost un tro gan yr heddgeidwad am ddringo polion y teligraff, a chafodd driniaeth gyffelyb yn yr ysgol fwy nag unwaith am ddringo'r pibellau hyd ochr yr ysgol, i gyrraedd pêl oedd wedi aros yn y lander.
III. Y TRAETH
HOFF gyrchfan Harri a phlant Minymor, yn enwedig ym misoedd yr haf, oedd glan y traeth. Er mai Minymor y gelwid y pentref, nid oedd yr enw'n un hollol briodol, gan fod dipyn o bellter rhynddo a'r môr. Afon led fawr oedd yn rhedeg heibio'r pentref tua'r môr, ac yn ymarllwys iddo rhyw ddwy filltir yr ochr isaf i'r pentref. Deuai'r llanw i fyny'r traeth hyd at Finymor, ac hyd yn oed at Gefngwyn, os nad ychydig yn uwch i fyny'r afon na hynny, nes llanw'r gwastadedd llydan a'i orchuddio â dwfr, a'i wneud i ymddangos fel môr. Dyna o bosibl a rydd gyfrif am enw'r pentref, er nad oedd yn llythrennol ar fin hynny o fôr ychwaith. Ar y llechwedd tua chwarter milltir o'r traeth y safai'r pentref, a'r tir yn rhedeg i lawr yn raddol oddiyno hyd at y traeth. Pan y byddai'n drai drachefn yn y traeth, ymestynnai gwastadedd o dywod am bellter mawr, a'r afon yn ymddolennu trwyddo tua'r dyfnfor Ond pa un bynnag ai trai ai llanw fyddai, yr oedd rhyw swyn hudolus yn y traeth i Harri a'i gyfoedion ym misoedd yr haf, a llawer o hwyl a gaed yno o dro i dro. Arweiniai ffordd o ymyl y siop yn y pentref heibio Bwlchglas i lawr i lan y traeth, ac yn y fan lle y deuai'r ffordd i'r traeth, yr oedd bau bychan neilltuol o brydferth ar ffurf hanner crwn,—yn dywod sych glân ar drai hyd at lan yr afon, gydag ymyl lydan o gerrig mân llyfn rhynddo â'r clogwyni coediog cysgodol, lle terfynai'r tir. Ar y naill ben a'r llall i'r bau, safai craig ddanheddog fel gwyliedydd. Pan y byddai llanw uchel, golchai'r môr hyd at y clogwyni, fel na ellid tramwy glan y traeth o graig i graig. Ar lan y bau, yn ymyl y fan lle deuai'r ffordd iddo, y safai Glandon, cartref Dafydd. Pan welai Harri blant o'r pentref yn pasio'i gartref tua'r traeth, ni allai orchfygu'r demtasiwn i'w dilyn, ac os na byddai Dafydd ar y traeth eisoes, chwibaniad gan Harri gyferbyn â Glandon a'i dygai mewn amrantiad at ei ochr.
Draw ar y traeth gyferbyn â bau Glandon, safai ynys gron—un ddigon mawr i gynnal amaethwr ar ei thir. Dywedai"r hen drigolion mai ar hyd y ffordd o Finymor at Glandon yr âi pobl yn yr amser gynt i groesi'r traeth, ac mai arweinydd i dywys y teithwyr drosodd yn ddiogel i'r lan arall drigai yng Nglandon. Dywedent hefyd y cofìent adeiladu llongau yn y bau. Ond nid oedd y naill na'r llall o'r pethau hyn yn bod erbyn amser Harri,—cedwid ychydig gychod yn y bau fel y cawn sylwi eto; ar wahân i hynny, chwaraele plant dedwydd oedd y bau, ac nid oedd neb a fwynhai'r lle'n fwy na Harri a Dafydd.
Ni chaed hwyl heb fod perygl ynglŷn wrtho—yn wir, yn y perygl yn aml yr oedd yr hwyl. Lle peryglus iawn i rai anghynefin ag ef oedd y traeth, hynny yw, os gadewid y lan, a rhybuddid y plant yn aml gan eu rhieni i beidio mynd yno, ac i beidio ymdrochi ar un cyfrif. Ond gwyddai Harri a Dafydd ddaearyddiaeth a "moryddiaeth" y traeth i'r dim. Gwyddent am y mannau diogel i ymdrochi ynddynt, ac am bob trobwll a llyn peryglus. Gwyddent hefyd am y mannau lle y gellid croesi'r afon fawr ar ddistyll trai i Ynys Hwyfar neu i'r lan arall heb fynd dros eu penliniau, ac ni ddaethant i feddu'r wybodaeth hon heb wynebu peryglon y traeth twyllodrus.
Gellid croesi'r traeth, fel y crybwyllwyd, ar ddistyll trai heb fynd dros y pen lin yn y dwfr, ond gwybod y mannau; ac oherwydd mai tywod ansicr oedd glannau'r afon yn y traeth, nid yn yr un mannau y gellid croesi bob amser. Newidiai'r afon ei gwely o flwyddyn i flwyddyn, a rhaid wrth rhywun pur gynefin â'r lle i wybod y mannau i groesi, ac nid oedd neb wyddai'n well na Harri a Dafydd. Ond er eu cynefindra â'r lle, buont mewn perygl droeon.
Tra y chwaraeai'r plant eraill tua'r glannau, naill ai yn y tywod, neu yn y cerrig, gwell gan Harri a Dafydd oedd anturio at yr afon fawr a'i chroesi. Weithiau, aent mor bell ag Ynys Hwyfar, gan ofalu dychwelyd cyn i'r llanw ddod i mewn. Un tro, bu iddynt aros ar yr ynys yn rhy hir. Daeth y llanw i mewn, a gorfu iddynt fynd drosodd o'r ynys i'r lan arall (ni fyddai'r llanw'n dod i fyny mor gyflym yr ochr honno), a cherdded adref dros y bont a groesai'r afon ryw dair milltir yn uwch i fyny, lle yr oedd yr afon gryn lawer yn gulach. Buont yn fwy gofalus ar ôl y daith faith honno o chwe milltir rhag cael eu cau ar Ynys Hwyfar, ond aethant i fwy o berygl i'w bywydau un tro ar ochr eu cartref i'r afon.
Digwyddodd un prynhawn yng ngwyliau'r haf, pan oedd Harri'n un ar ddeg oed, fod y ddau wedi mynd ar drai i chwarae mewn tywod yn bur bell o'r lan, a'r fath oedd eu diddordeb yn y chwarae fel y daeth y llanw i mewn heb yn wybod iddynt. Bloedd oddiar y lan barodd iddynt godi eu golygon o'r tywod, a gweld bod y llanw ar eu gwarthaf a'r môr eisoes wedi cau rhyngddynt â'r lan. Yn y traeth hwnnw, daw'r llanw i mewn gyda rhyw gyflymder aruthrol, a byr amser gymer y dwfr i ordoi'r gwastadedd fuasai ar drai'n dywod. Sylweddolodd y ddau fachgen y perygl—nid oedd ond ychydig o wyneb y darn tywod y chwaraeent arno heb ei orchuddio, ac yr oedd yr ynys fechan o dywod y safent arni'n mynd yn llai bob eiliad. Gwyddent fod y dwfr rhyngddynt â'r lan yn ddwfn mewn rhai mannau, a'r llanw'n ysgubo i fyny'r traeth gyda grym arswydus. Nid oedd y ddau ar y pryd ond newydd ddysgu nofio, a gwyddai Harri na allent obeithio cyrraedd y lan pe ceisient nofio—buasai'r llanw'n sicr o'u hysgubo ymlaen yn ddi-drugaredd. Ni allent weld neb ond geneth ar y lan; ni allai honno eu hachub gyda chwch, a phe buasai'n mynd i chwilio am gymorth iddynt, ni allai hwnnw ddod mewn pryd. Nid oedd neb adref yng Nglandon—yr unig dŷ o fewn cyrraedd.
Yn sydyn, fflachiodd i feddwl Harri y buasent yn ddiogel pe gallent fynd i'r Graigddu. Darn o graig oedd honno'n ymgodi o'r tywod ynghanol y traeth, ac ar spring tide yn unig y gorchuddid hi â dwfr, ac i ychydig ddyfnder yn unig ar yr adeg honno, hyd y gwyddai'r bechgyn. Gwyddai Harri fod llain o dywod heb fod ond ychydig ddwfr arno rhyngddynt â'r graig, y gallent gerdded ar hyd-ddo i ddiogelwch y graig, er bod perygl o golli'r lle bas, a mynd i bwll dwfn y naill ochr a'r llall.
Nid oedd amser i'w golli. Symiodd Harri'r sefyllfa i fyny mewn dau eiliad—llai o lawer nag a gymer y darllenydd i wneud hynny wrth ddarllen y disgrifiad uchod.
"Tyrd ar f'ôl i, Dafydd," meddai, "a chymer ofal."
Ymlaen â hwy'n ofalus, a llwyddasant i gyrraedd y graig. Yr oedd wyneb y dŵr ar y pryd gryn droedfedd yn is na man uchaf y graig, ond yn prysur ymgripio'n uwch, uwch. Ar y man uchaf ar y graig nid oedd ond prin le i'r ddau fachgen sefyll.
"Does dim peryg i ni foddi yn y fan hyn, Dafydd," meddai Harri, ar ôl iddo gael ei anadl.
"Nag oes, ond mi fydd y graig dan ddŵr heno. Yr oedd hi o'r golwg neithiwr, a fory mae'r dŵr ucha, meddai nhad," oedd ateb digalon Dafydd.
"O! fyddwn ni ddim llawer gwaeth o wlychu tipyn," meddai Harri'n galonnog, "ac efallai y daw rhywun i lawr i'r traeth cyn hir, ac y cawn ni'n hachub heb wlychu."
"Os na ddaw rhywun, mi fydd raid i ni aros yma'n hir iawn. Daiff y dŵr ddim i lawr am oriau. Mi fydd yn nos dywyll."
"O! dydi hynny ddim llawer o bwys," ebe Harri, gan gymryd arno fod yn fwy difater nag ydoedd mewn gwirionedd, er cysuro'i gyfaill. Nid oedd wedi ystyried y posibilrwydd y gallent fod yno am oriau hyd nes i'w gyfaill ei grybwyll, ac nid oedd ganddo ryw archwaeth gref i fynd adre ar hyd y ffordd unig arweiniai o lan y traeth at Fwlchglas, rhwng hanner nos a thoriad gwawr.
"Waeth gin inna am aros yma," meddai Dafydd. "Nid dyna sy'n fy mhoeni i, ond meddwl am y gweir ga i gin nhad pan a i i'r tŷ yr ydw i. Mae hi'n braf arnat ti heb yr un tad."
A gwelodd Harri amddifad, druan, fod rhyw fantais weithiau o fod heb dad.
Erbyn hyn yr oedd y dŵr wedi cyrraedd i ben y graig, ac yn dal i godi a'r ddau'n dechrau pryderu, tybed a fuasai'n codi lawer iawn yn uwch. Erbyn ystyried, sylweddolodd Harri nad oedd erioed wedi sylwi nac wedi clywed pa mor ddwfn yn y dŵr fyddai'r Graigddu ar ben llanw. Gallent fod yn ddihangol pe deuai hyd yn oed at eu penliniau, er mai lled anghysurus fyddai eu cyflwr, ond beth pe codai'n uwch na hynny? Beth, yn wir, pe daliai i godi nes bod yn uwch na'u pennau? Yn ffodus, yr oedd yn olau, a chryn bellter gan yr haul i'w gerdded i'r gorwel yn y gorllewin.
"Fasa'n well i ni geisio rhoi un floedd iawn efo'n gilydd? gofynnodd Dafydd mewn tôn bryderus wrth weld y dwfr yn parhau i godi.
"Chlyw neb mohonom, waeth i ni heb," ebe Harri, "ond peth rhyfedd na fase rhywun yn y traeth ar noson mor braf."
"Efo'r gwair y mae pawb, wyddost ti," ebe Dafydd, "a ffŵl fum innau i beidio mynd i'r gwair. Mi faswn yn cael mynd i'r Ynyswen."
Rhyw dipyn o sŵn digalonni oedd yn lleisiau'r ddau erbyn hyn wrth iddynt deimlo'r dŵr yn dringo'n uwch i fyny eu coesau
"Dacw gwch! Weli! " ebe Harri, ar ôl ennyd o ddistawrwydd, yn gyffrous, gan bwyntio i'r cyfeiriad arall oddiwrth eu cartref, sef tua'r môr, "cwch yn dod i fyny o'r Aber. Fasa'n well i ni waeddi?"
Ac nid cynt yr awgrymwyd nag y dechreuodd y ddau floeddio â'u holl egni, "Ahoi! Ahoi! " Yr oedd y cwch pan ddechreuasant waeddi heb gyrraedd lawn gyferbyn â hwynt, ond, i bob golwg, am fynd heibio iddynt yr oedd,—y cychwyr heb eu clywed. Pan oedd y cwch bron wedi cyrraedd gyferbyn â hwynt ar yr afon fawr rhyw ddau can llath oddiwrthynt, a hwythau'n gweld gobaith eu hachubiaeth yn diflannu, unasant mewn un floedd galon-rwygol, ac er mawr lawenydd iddynt, gwelsant fod y cychwyr wedi eu clywed. Trowyd pen y bad tuag atynt, ond ysgubid ef i fyny'r afon wysg ei ochr gan y llanw cryf, a buasai wedi methu dod atynt onibai fod ynddo rwyfwyr cydnerth ac ewyllysgar.
Cymrwyd y ddau i'r cwch, a glaniwyd hwy'n ddiogel ar lan y traeth o dan Glandon. Cawsant fod y llanw wedi cyrraedd at eu hesgidiau a'u hosanau adawsent ar y lan, ac y buasent wedì mynd i ganlyn y lli pe baent hanner awr yn ddiweddarach. Yr oeddynt yn wlyb diferol, ac yn dystion yn eu herbyn yn eu cartrefi. Tynnwn y llen dros hanes y derbyniad roed iddynt ar yr aelwyd, ond yn unig ddweud bod Harri'n amau'n gryf ar ôl y noswaith honno a ydyw tad yn gallu gweinyddu cosb yn drymach na mam ddigllon.
Bu'r ddau'n ddieithr i'r traeth am rai dyddiau ar ôl y digwyddiad hwn, ac ni bu iddynt wedi hynny ymgolli gormod yn eu chwarae i anghofio agoshad y llanw, a'r perygl o gael eu cau i mewn.
IV. CWCH Y CAPTEN
YM mau Glandon, cedwid dau neu dri o gychod perthynol i hen forwyr drigai ym Minymor, a themtasiwn fawr i'r plant oedd chwarae gyda'r cychod, gan nad oedd plant ddeugain mlynedd yn ôl yn wahanol yn hyn o beth i blant y dyddiau hyn. Hen gapten byr ei dymer ac afrywiog ei natur o'r enw Capten Morris y "Lark oedd perchennog un ohonynt, a defnyddiai ef i osod rhwydau ac i bysgota hyd y traeth, ac weithiau i forio i lawr i'r Aber ac yn ôl pan fyddai'r llanw'n caniatau hynny. Porthladd prysur oedd yr Aber, rhyw ddwy filltir o Finymor, lle y deuai llongau i lwytho llechi am wahanol borthladdoedd. Afon arall redai drwy borthladd yr Aber, ac ymunai honno ag afon Minymor cyn ymarllwys i'r môr.
Hen sea-dog, ys dywed y Sais, oedd Capten Morris, wedi morio i bob rhan o'r byd am flynyddoedd, ond bellach, oherwydd ei fod yn mynd i oed, wedi ymneilltuo o'r môr ac yn bodloni ei hun trwy forio gyda'i gwch ar y traeth. Ni byddai dim yn fwy wrth fodd Harri na chael mynd gyda'r Capten allan i bysgota neu i godi'r rhwydau. Byddai hynny'n orchwyl wrth fodd ei galon, yn enwedìg pan y byddai'r Capten mewn tymer dda, fel y digwyddai weithiau, ac yr adroddai iddo hanes rhai o'i helyntion ar y cefnfor. Byddai Harri'n glust i gyd i glywed yr ystraeon hyn.
Ond nid bob amser y byddai'r Capten ar delerau da gyda Harri—yn wir, lled anfynych y byddai, gan mai Harri oedd un o'r rhai gwaethaf am chwarae gyda'r cwch yn absenoldeb y Capten, ac yn aml iawn byddai'r Capten yn bygwth ryw gosbedigaethau dychrynllyd i "hen hogyn Gwen Jos " 'na am ymyrryd â'r cwch. Gofalai Harri am gadw o ffordd y Capten pan fyddai'r tymer hwnnw arno.

Un prynhawn, pan yr oedd Harri'n ddeuddeg oed, yr oedd tua dwsin o blant y pentref ar lan y traeth—Harri a Dafydd yn eu plith—a chwch Capten Morris, y "Wennol" fel y'i gelwid, yn ganolbwynt eu difyrrwch. Yr oedd y Capten wedi bod allan y bore hwnnw'n gosod ei rwyd, a chan y bwriadai fynd i'w chodi cyn yr hwyr, nid oedd wedi tynnu'r "Wennol" i dir sych. Nofiai'r cwch o fewn ychydig lathenni i'r lan mewn rhyw ddeunaw modfedd o ddwfr, a rhaff ohono wedi ei chylymu am garreg go fawr yn y dwfr. Dyna'r dull gymrid i sicrhau cychod am amser byr i arbed y. drafferth o'u tynnu i dir, a'u gwthio'n ôl drachefn
Yr oedd Harri wedi mynd i'r cwch, ac yno'n chwarae "gŵr pen y domen," yn ceisio cadw'r plant eraill rhag dod iddo, ac, fel y digwydd weithiau, yn gwneud dipyn o orchest o'i oruchafiaeth amynt, a rhai o'r plant mewn hwyl yn ei gyfarch fel Capten Jones y "Wennol" I gadw'r plant eraill i ffwrdd, gwthiai Harri'r cwch hyd y rhaff i'r dwfn, a thynnai'r plant yn y rhaff i'w dynnu'n ôl i'r lan. Rhywfodd yn y chwarae,—pa un ai o fwriad un o'r plant, ynteu trwy ddamwain, ni wyddai Harri,—daeth y rhaff yn rhydd oddiwrth y garreg y cylymasid hi wrthi; ac, er ei fraw, gwelodd Harri fod y cwch yn llithro ymaith gyda'r lli, a gwaeth na'r cwbl, fod y dwfr yn treio, ac mai'n mynd tua cheg yr afon a'r môr mawr llydan yr oedd. Cyn gynted ag y sylweddolodd ei berygl, edrychodd dros ymyl y cwch i weled dyfnder y dwfr—gwelodd ei fod yn ddwfn iawn, rhy ddwfn iddo allu gweld y gwaelod. Edrychodd yn wyllt i'r cwch am ryw foddion ymwared, ond nid oedd yno rwyf o fath yn y byd. Byddai Capten Morris yn gofalu mynd a'r rhwyfau gydag ef adref rhag i ryw anhap ddigwydd iddynt hwy, neu i'r cwch yn ei absenoldeb.
Edrychai'r plant ar y lan mewn braw ar Harri yn y cwch yn mynd yn bellach, bellach oddiwrthynt hwy a'r lan, a gwaeddai rhai ohonynt arno, "Neidia i'r dŵr, Harri." Gallasai Harri neidio i'r dŵr a nofio i'r lan, ond golygasai hynny golli'r cwch, ac yr oedd yn well ganddo wynebu unrhyw berygl na wynebu Capten Morris wedi colli ei gwch.
Pan oedd wedi mynd rhyw ddau neu dri chan llath oddiwrth y plant, edrychodd Harri'n ôl, a gwelai hwynt yn dianc i bob cyfeiriad fel cwningod i'w tyllau, a chlywodd Capten Morris yn bloeddio, fel y gall hen forwr floeddio, " Hei, tyrd â'r cwch 'na i'r lan, neu mi dy dagaf di."
Ped ystyriasai'r Capten nwydwyllt am eiliad, buasai wedi sylweddoli fod yn ei orchymyn a'i fygythiad groes-ddywediad amlwg, ac na allai Harri druan ddod a'r cwch yn ôl yn erbyn lli'r afon; ond yr oedd y Capten mewn gormod cyffro i feddwl, neu buasai wedi ceisio gwthio un o'r cychod eraill i'r dwfr i geisio achub Harri a'r "Wennol."
Cyn hir, gwelai Harri ei fod yn mynd heibio i drwyn y Borthlas—y graig oedd yn terfynu bau Glandon rhyngddo â'r môr,—ac yn mynd o olwg y bau yr oedd môr gyfarwydd ag ef, i ran dipyn mwy dieithr iddo o'r traeth. Pan yn amgylchu'r trwyn, cymrodd yr olwg olaf (am byth fel y dechreuai ofni) ar yr hen fau annwyl, a'r peth olaf a welodd yno oedd yr hen Gapten yn dawnsio o amgylch mewn cynddaredd fel dyn wedi dechrau gwallgofi.
Yr oedd calon Harri'n bur isel erbyn hyn, ac, yn ei ddychryn, collodd yntau am ysbaid ei bresenoldeb meddwl—peth na ddigwyddai'n fynych iddo ef. Pan adfeddiannodd ei hun, canfyddodd fod y cwch yn cyflymu ymlaen, a'i fod bellach yn yr afon fawr yn mynd gyda'r llifeiriant. Gwelai ei hun yn pasio heibio'r creigiau a adwaenai ar y lan, ac Ynys Hwyfar yn graddol edrych yn llai o'r tu ôl iddo. Ychydig o'i flaen, ar y dde iddo, gwelai drwyn y Wylan, yr olaf o greigiau y traeth, a gwyddai y byddai, wedi mynd heibio i hwnnw, a'i wyneb ar y cefnfor yn ei gwch bregus. Yn ei arswyd, dechreuodd feddwl am ei fam a'i gartref, a bron na thorrodd allan i wylo wrth feddwl na chai eu gweled mwy. Ond ymwrolodd drachefn, a dechreuodd feddwl beth mewn difrif a allai ei wneud er achub ei hunan a'r cwch. Wedi ystyried am ychydig, gwelodd fod un gobaith gwan yn aros iddo allu achub ei hun rhag mynd i'r cefnfor. Yr oedd' sedd ôl y cwch bron a dod yn rhydd. Gafaelodd ynddi, a chydag ychydig ymdrech, tynnodd hi'n rhydd. Yna, ar ei ddeulin ymhen blaen y cwch, ceisiodd rwyfo gyda'r darn pren i droi pen y cwch o'r afon tua'r lan. Yr oedd yr afon yn rhedeg yn gryf tua'r môr, ac os na allai droi y cwch ohoni i ddwfr redai'n llai cyflym, gwyddai y byddai yn nhonnau'r eigion yn fuan iawn, a thuhwnt i obaith ei achub. Er ei lawenydd, gwelodd ei fod yn llwyddo ryw gymaint yn ei ymdrech. Gydag egni adnewyddol wrth weld ei lwyddiant, dyblodd ei ymdrechion, ac o'r diwedd gwelodd ei fod wedi gadael yr afon, a bod cyflymder ei symudiad yn llawer llai. Nid oedd bellach berygl iddo gael ei gludo i'r môr, a rhoes ochenaid o ollyngdod wrth feddwl am hynny. Ond sut i fynd yn ôl, ac i gael y cwch yn ôl oedd y broblem fawr. Yr oedd cryn ddwy filltir rhyngddo â bau Glandon, a thua hanner milltir, fel y barnai, rhyngddo â'r lan ar ei gyfer. Amhosibl fuasai iddo fynd a'r cwch yn ôl nes i'r llanw droi, ac ni byddai hynny cyn canol nos, a sut y gallai ffeindio'i ffordd i'r bau a diogelu'r cwch yn y tywyllwch? A phe gallai wneud hynny, wynebu'r Capten fyddai raid wedi'r cyfan.
Wedi ystyried y cwestiwn ymhob agwedd arno, yn frysiog, mae'n wir, fel yr oedd raid iddo dan yr amgylchiadau, penderfynodd Harri mai ceisio dwyn y cwch i'r lan ar ei gyfer fyddai orau iddo, ac wedyn ystyried y cwestiwn ymhellach. Dechreuodd rwyfo gyda'r darn sedd am y lan, ond gorchwyl anodd ydoedd, gan fod raid iddo rwyfo bob yn ail ochr yn barhaus er symud dim.
Cyn hir canfu Harri ei fod mewn lle bas—gallai weld y tywod glân dan y dŵr. Neidiodd dros ymyl y cwch i'r dwfr, a dechreuodd ei dynnu ar ei ôl, gan edrych o'i flaen rhag mynd i ddwfr dwfn yn sydyn. Ac yr oedd yn dda iddo ei fod yn cadw gwyliadwriaeth ofalus, neu buasai'n sicr wedi mynd dros ei ben fwy nag unwaith. Pan ddeuai at ymyl pwll dwfn, dringai i'r cwch a rhwyfai drosto; yna, wedi ei groesi, a dod i dywod, âi yn ôl i'r dwfr i dywys. Mesul tipyn gwelai'r lan fel pe'n nesu ato, ac o'r diwedd daeth i dir a'r cwch yn ddihangol. Tynnodd y cwch mor agos i'r tywod sych ag y gallai, ac yna eisteddodd i orffwys ac i feddwl beth i'w wneud nesaf.
Ond wedi cyrraedd diogelwch, y peth cyntaf y daeth yn ymwybodol ohono oedd bod arno eisiau bwyd, ond sut i'w gael ni wyddai. Ar draethell unig y safai dan gysgod creigiau bygythiol. O'r tu ôl i'r creigiau yr oedd llechwedd—y tir yn codi'n raddol i ben bryn bychan. Gwyddai fod ffermdy o'r enw Bryneryr ar yr ochr arall i'r bryn—yr oedd wedi bod yno yn cael picnic gydag Ysgol Sul Minymor, ond nid oedd yn gydnabyddus a'r amaethwr, nac, yn wir, yn gwybod ei enw. Ond yr oedd yn rhaid iddo gael rhywbeth i'w fwyta—teimlai ei hun ymron llewygu. Yr oedd awyr y môr wedi rhoi min ar ei archwaeth, a phenderfynodd fynd i'r fferm i ofyn am lymaid o laeth enwyn, gan deimlo'n lled sicr y cawsai hynny, ac o bosibl fwy na hynny. Felly i fyny'r graig ag ef, a thrwy'r caeau at y tŷ. Nid oedd neb yn y golwg, ac felly aeth at y drws, a churodd yn wannaidd. Yr ateb cyntaf gafodd oedd cyfarthiad ci oddimewn, a chlywai'r creadur yn chwyrnu'n ffyrnig yr ochr arall i'r drws. Yna clywodd sŵn clocsiau'n dynesu, a llais yn dweud, "Sa'n ôl, Pero! Beth ddaru ti, dywed?" ac ar hynny agorwyd y drws gan wraig radlon yr olwg, a gwyddai Harri ar ei hwyneb y trugarhâi wrtho.
"Os gwelwch chi'n dda, ga i lymaid o laeth enwyn?" gofynnodd Harri'n wylaidd.
"Tyrd i'r tŷ, machgen i," ebe'r wraig. " Hogyn bach pwy wyt ti, dywed?"
"Hogyn Gwen Jones, Bwlchglas," ebe Harri.
"O! hogyn o Finymor wyt ti! Beth ddaeth a chdi mor bell o dy gartre, dywed?"
"Dwad am dro hyd y traeth," ebe Harri mewn llais isel, gan deimlo'n euog mai hanner y gwir ddywedai.
"Hyd y traeth? A mi ddoist yr holl ffordd dros y creigiau a thrwy leoedd peryg?" ebe'r wraig, gan dybied mai ar hyd glan y traeth y daethai'r bachgen. " Wyddost ti be, mae eisio dy chwipio di'n reit dda. Mae arnat ti eisio bwyd, 'rydw i 'n siwr."
"Oes, dipyn," meddai Harri, gan ddweud llai na'r holl wir unwaith eto.
Tra'r ymddiddanai, yr oedd y wraig garedig yn brysur yn arlwyo bwyd i'r bachgen newynog, ac yntau'n dilyn ei symudiadau gyda llygaid lefarai gyfrolau am ei gylla gwag. "Tyrd," meddai, wedi peri iddo eistedd, "bwyta, machgen i. Mae llaeth enwyn yn o oer i dy stumog di, a chditha wedi chwysu. Mae gin i dê reit dda yn y tebot."
A dodwyd pentwr anferth o fara menyn a chaws a thê o flaen y bachgen newynog, a dechreuodd yntau ymosod amynt fel y gall bachgen ar ei gythlwng.
"Bwyta di d'orau. Rhaid i mi fynd i alw'r dynion i'r tŷ," meddai, ac allan a hi.
Manteisiodd Harri ar ei habsenoldeb i wthio ryw bum neu chwe tafell o'r bara i'w logell rhag y byddai eu hangen arno cyn y gwelai eilwaith fwrdd wedi'i hulio, a phan ddaeth y wraig yn ôl, yr oedd y plât yn wag, er syndod dirfawr iddi.
"Yr achlod fawr," meddai, â'i dwylo i fyny, a'i hwyneb i gyd yn tystio i'w syndod, "pryd y cefaist ti fwyd ddweutha, machgen i?"
"Chefais i ddim er amser brecwast," ebe Harri, ac yr oedd hynny'n wir. Yr oedd i lawr yn y traeth er y bore, a gormod trafferth ganddo oedd mynd i fyny i nôl ei ginio, gan mor felys oedd y chwarae.
Torrodd y wraig ychwaneg o fara menyn, ac o'r diwedd, tynnodd Harri tua'r terfyn, a chododd i fynd allan, gan fwmian diolch yn swil i'r wraig am ei charedigrwydd.
Wedi mynd drwy'r drws, safodd am ychydig i edrych ar yr olygfa o'i gwmpas. Draw ar y dde, ymhell tuhwnt i Finymor a'r Cefngwyn, gwelai fynyddoedd cribog yn ymestyn yn rhes o'r Wyddfa yn y gogledd heibio i'r Cynicht a'r Moelwyn ac yn cyrraedd ymlaen i Feirion. Ar ei aswy gwelai'r môr yn ymledu rhwng arfordir Meirion a Lleyn, ac ambell long fechan yma a thraw ar ei wyneb. O'r fan y safai gwelai'r ddwy afon yn ymgyfarfod cyn ymgolli yn y dyfnfor. Odditano, tua'i aswy, gwelai borthladd yr Aber yn llawn o longau, a thrên yn cychwyn oddiyno am Finymor. Pan oedd bron wedi ymgolli yn y golygfeydd, sylwodd fod y dynion yn dod at y tŷ o'r cae gwair, ac, i osgoi cwestiynau, ymaith ag ef ar hyd y ffordd drol a arweiniai o'r ffermdy i'r briffordd redai rhwng yr Aber a Minymor; ond wedi mynd o olwg y tŷ, trodd o'r ffordd, gan gyfeirio'i wyneb tua'r traeth a'r man y gadawsai'r cwch. Yr oedd y trai wedi gwneud ei ôl ar y traeth erbyn hyn—y cwch ar dir sych, a dim ond ychydig ddwfr i'w weld yn unman oddieithr yn yr afon fawr redai drwy ganol y gwastad tywodlyd tua'r môr.
Beth i'w wneud nesaf? dyna'r cwestiwn. Yr oedd wedi cael pryd da o fwyd, a chyda'r hyn oedd ganddo yn ei logell, gallai wneud yn burion tan drannoeth. Gwyddai fod y newydd bellach wedi cyrraedd clustiau ei fam, ac mai cosb oedd i'w ddisgwyl ganddi hi a Chapten Morris pa bryd bynnag y dychwelai. Yr unig ffordd i leihau y gosb, o bosibl, fyddai mynd a'r cwch yn ôl yn ddiogel i'r angorfa. Ond gwyddai Harri adeg y llanw'n bur dda; ni wnai'r llanw ddechrau rhedeg cyn deg o'r gloch, a byddai'n hanner nos cyn y nofìai'r cwch. A sut byth y gallai ffeindio'r bau ynghanol y tywyllwch? Byddai hynny'n hollol amhosibl, ac felly dau gynllun yn unig oedd yn agored iddo—naill ai gadael y cwch yno a mynd adref i wynebu ei fam a'r Capten digllon, neu aros yno tros y nos a cheisio mynd a'r cwch i fyny'r afon ar y llanw prynhawn trannoeth. Pe gallai ddiogelu'r cwch dros y nos, gwell fuasai ganddo'r cynllun cyntaf, ond er mwyn ceisio achub y cwch, penderfynodd ar y diweddaf, er y golygai hynny iddo orfod wynebu noson o ofn, unigedd, ac anghysur, a dioddef pangfeydd o newyn, o bosibl, drannoeth. Wedi penderfynu, aeth ati o ddifrif i geisio diogelu'r cwch rhag cael ei gludo ymaith, neu gael ei guro'n erbyn y creigiau pan ddeuai'r llanw i fyny. Cerddodd hyd y traeth i chwilio am garreg fawr, ac wedi ei chael, llusgodd hi dros y tywod at y cwch, ac yna cylymodd y rhaff amdani mor dyn ag y gallai. Tynnodd yn y rhaff a'i holl nerth i'w phrofi, ac yr oedd y cwlwm yn dal. Ond i gael dwbl sicrwydd, dygodd garreg arall, a gosododd hi i bwyso ar y rhaff yn ymyl y llall. Gofalodd ddodi'r cerrig ar yr ochr agosaf i'r afon i'r cwch, a mwy na hyd y rhaff oddiwrth y creigiau fel na churid y cwch yn eu herbyn pan godai'r llanw. Gwelai fantais arall o hyn. Byddai i'r llanw gyrraedd hyd at y cwch ynghynt drannoeth, ac felly cyrhaeddai yntau adref ynghynt.
Erbyn hyn yr oedd yn dechrau nosi. Penderfynodd Harri fynd i eistedd yn y cwch dros y nos, a bwriadai gadw'n effro hyd y gallai. Pan oedd y tywyllwch yn dechrau cau amdano, aeth i'r cwch i eistedd. Teimlai yn bur hyderus ei fod wedi diogelu'r cwch, ac y byddai i'r anturiaeth ddiweddu'n llwyddiannus. Yr unig beth y gresynai o'i herwydd oedd na b'ai Dafydd Glandon gydag ef, ond meddyliai am yr hwyl gai wrth adrodd yr hanes i Dafydd, ac am syndod Dafydd a'r plant eraill pan ddychwelai drannoeth. Teimlodd fod arno dipyn o eisiau bwyd, a chofiodd am y lluniaeth yn ei logell. Tynnodd ef allan, ac er ei fod yn dechrau sychu, ac wedi ei falurio yn ei logell, yr oedd yn dda iawn, a chydag anhawster y gallodd y bachgen orchfygu ei hun i gadw ychydig ohono hyd y bore. Wedi bwyta, cofiodd yn sydyn fod cist fechan gan y Capten o dan y sedd ymhen ôl y cwch, lle y cedwid gwahanol gelfi hwylus ynglŷn â'r cwch. Yr oedd yn rhy dywyll, bellach, i chwilio'r gist, ond addawodd Harri wrtho'i hun mai dyna fyddai'r gorchwyl cyntaf drannoeth, a gobeithiai gael rhywbeth ynddi a'i cynorthwyai i lunio rhyw fath ar rwyf i'w helpu i fynd yn ôl.
Nid oedd ganddo ddim i'w wneud bellach ond eistedd yn llonydd, ac O! yr oedd yn unig arno. Bron nad oedd y distawrwydd yn codi arswyd arno—dim math o sŵn yn unman ond si yr awel ysgafn yn nail y coed oedd ar y llechwedd uwch ei ben. Yr oedd yn haws lled-orwedd nac eistedd, gan fod y cwch ar ei ochr, ac yr oedd yr ystum yn fantais i gwsg ei orchfygu, gan ei fod yn arferol a noswylio yn gynnar, ac yn fuan iawn, er ei benderfyniad i ddal yn effro, yr oedd yn cysgu'n drwm ar ben ôl y cwch, wedi llwyr flino gan helyntion y dydd. Er i'r dwfr godi nes siglo'r cwch yn ystod y nos, huno'n dawel wnai'r anturiaethwr ieuanc fel pe'n ei wely clyd gartref. Ni wyddys pa un ai melys ynteu chwerw fu ei freuddwydion, os yn wir y breuddwydiodd o gwbl, ond deffrowyd ef yn fore gan lais fel taran nad oedd yn ddieithr iddo, a theimlai rhywun yn ei ysgwyd yn arw. Bu am ychydig rhwng cwsg ac effro'n methu sylweddoli ymha le yr oedd, ond o'r diwedd daeth helynt y diwrnod cynt i'w gof, a chan rwbio'i lygaid, trodd i edrych pwy neu beth oedd yn ei ysgwyd, ac er ei syndod a'i ddychryn, pwy oedd yno ond Capten Morris! Meddyliodd mai ei ladd a gaffai gan yr hen Gapten; a phe'n bosibl, buasai wedi dianc i rywle o'i gyrraedd. Ond yr oedd y Capten yn gafael yn dyn yn ei ysgwydd, ac yr oedd dianc yn amhosibl. Gwargrymodd gan ddisgwyl teimlo pwys dwm y Capten ar ei gefn, ond yn lle hynny, er ei syndod dirfawr, beth glywodd ond y Capten yn chwerthin yn galonnog, ac yn gofyn mewn tôn garedig, "Ac yn y fan hyn y buost ti trwy'r nos, aie? Oes arnat ti ddim eisiau bwyd, dywed?"
"Oes, dipyn, atebodd Harri'n ofnus, heb fod yn hollol sicr paham yr oedd y Capten yn ymddwyn tuag ato mewn dull mor wahanol i'r hyn a ddisgwyliai.
"Tyrd hefo mi i Fryneryr am damad o frecwast, on'te," ebe'r Capten, gan afael ynddo a'i godi o'r cwch, a'i ddwyn yn ei freichiau i'r lan. Erbyn iddo sylwi, gwelodd fod y Capten wedi tynnu am ei draed i ddod at y cwch oedd ar y pryd yn nofìo mewn dŵr bas, a bod y dŵr yn treio'n gyflym. Wedi i'r Capten wisgo am ei draed, cychwynnodd y ddau am y ffermdy ar y bryn, ac wedi cyrraedd yno, digonwyd y bachgen â phryd o fwyd maethlon.
Ar y ffordd tuag at y tŷ, yr oedd y Capten yn bur dawedog, a cheisiai Harri ddyfalu sut y daethai i wybod ymha le yr oedd, a sut y daethai i fod yno mor fore, oblegid tybiai'r bachgen ei bod yn fore iawn, er nad oedd ganddo syniad beth oedd o'r gloch. Ond gwyddai wrth sylwi ar yr haul oedd bron yn gorffwys ar ben y mynyddoedd tua'r dwyrain, ac yn anweledig hyd nes y daethant i ochr y bryn, mai cynnar iawn ydoedd ar y dydd. Yn ymyl llidiart buarth Bryneryr, meddai'r Capten wrtho, "Mae Lisa'n dy ddisgwyl di, ddyliwn," gan bwyntio at y mwg esgynnai'n syth o simdde'r tŷ, ac, ar y gair, cofiodd Harri fod gwraig Bryneryr yn chwaer i wraig y Capten, a thybiodd mai trwyddi hi, rywfodd, er na wyddai sut, y daethai'r Capten i ddod o hyd iddo.
Ac ar ôl iddo gael bwyd, holwyd ef am yr anturiaeth gan y Capten, yr hwn a fwynhai'n fawr adroddiad Harri o'r hanes, ac wedi iddo orffen, meddai, dan chwerthin yn galonnog, " Wyddost ti beth, 'rydw i 'n meddwl mai ail Robinson Crusoe fyddi di."
Bob yn dipyn, daeth Harri i ddeall y modd y deuthpwyd o hyd iddo ef gan y Capten. Ymddengys bod mab Bryneryr wedi mynd i Finymor y noson gynt at y Côr Meibion, ac iddo ddeall bod berw mawr yn y pentref am fod bachgen ar goll. Galwodd i weld ei ewythr, y Capten, a chan ei fod wedi clywed gan ei fam hanes ymweliad Harri â'i gartref, adroddodd yr hyn wyddai wrth y Capten. Daeth y Capten i'r casgliad mai'n rhywle yng nghymdogaeth Bryneryr yr oedd Harri a'r cwch, ac ar ôl galw gyda Gwen Jones i'w hysbysu o'i ddamcaniaeth, a'i chynghori i beidio pryderu, daeth gyda'i nai i Fryneryr dros y nos, ac yn blygeiniol drannoeth yr oedd ar y traeth yn chwilio am y cwch, gyda'r canlyniad iddo'i gael fel yr adroddwyd.
"A'r cwestiwn nesaf," meddai'r Capten, "ydyw sut yr awn ni adref."
"Roeddwn i 'n meddwl mynd hefo llanw'r pnawn," ebe Harri.
"Ond beth wnawn ni am rwyfau?" gofynnodd y Capten.
"Meddwl chwilio am ddwy gangen go dda, 'roeddwn i," ebe Harri, "a'u gwneud mor atebol i'r pwrpas ag y gallwn."
"Mae yma ddwy hen rwyf er pan fu gennym ni gwch," ebe John, mab Bryneryr.
"Dyna ni felly i'r dim. Ond ni thry'r llanw am rai oriau. Weli di, Harri, mi wn i beth wnawn ni i aros y llanw. Mae 'na rwyd reit dda yn y gist yn y cwch. Mi rwydwn ni dipyn hyd y traeth o dan y Bryn 'ma, a siawns na ddaliwn ni, gan mai go 'chydig o rwydo sydd ar y rhan yma o'r traeth."
Ac felly fu. Aed i lawr i'r traeth, a Harri mor llawen a'r gog yn cario un rwyf ar ei ysgwydd, ac yn cerdded wrth ochr yr hen Gapten. Ac yn wir, fe gaed hwyl dda ar rwydo. Gwthiwyd y cwch i'r dwfr, a gosodwyd y rhwyd i lawr ymhob lle tebygol, ac erbyn i'r llanw droi tua hanner dydd, yr oeddynt wedi cael helfa dda, digon yn ôl y Capten i dalu am sedd newydd i'r cwch yn lle'r un gymrasai Harri i was'naethu fel rhwyf.
Yr oedd nifer mawr o blant yn chwarae ym mau Glandon, pan ddaeth y "Wennol i mewn gyda blaen y llanw, a syndod a llawenydd oedd yn argraffedig ar eu hwynebau wrth weld Harri wedi dychwelyd yn ddiogel. Ond yr oedd Harri'n rhy brysur yn helpu'r Capten i sicrhau'r cwch i gymryd fawr o sylw ohonynt. Ond synnodd at un peth—fod Dafydd Glandon yn cadw'n ôl, ac yn ymddangos yn swil neu'n euog.
"'Rwan," ebe'r Capten, wedi sicrhau'r cwch, "pwy ddaw hefo chdi, Harri, i werthu'r pysgod 'ma?
"Dafydd Glandon," ebe Harri. "Ddoi di, Dafydd?"
"Do' i," ebe Dafydd, ond nid yn ryw ewyllysgar iawn ei dôn, fel y tybiai Harri.
Ac ymaith a'r ddau, Harri wrth fynd yn adrodd hanes y fordaith, a Dafydd, er yn gwrando'n astud, yn ymddangos fel pe bai rhywbeth yn pwyso ar ei feddwl. O'r diwedd sylwodd Harri nad oedd Dafydd fel efe ei. hun, ac meddai, gan ollwng y bocs pysgod ar lawr, ac edrych ym myw ei lygaid, " Beth sy arnat ti, Dafydd? Gwenwyn na basa ti hefo mi?"
Achosodd y sylw i Dafydd wrido hyd at fôn ei wallt.
"Nage, Harri," meddai, " ond—ond. Wn i ddim sut i ddweud wrthat ti," ac fel pe'n ail ymwroli, ac yn penderfynnu dweud, ychwanegodd, "Wnei di faddeu i mi, Harri?"
"Am beth, dywed?" gofynnodd Harri mewn syndod.
"Am ollwng y cwch yn rhydd pnawn ddoe. Fi dynnodd y rhaff oddiam y garreg o ran hwyl. Ond ddaru mi ddim meddwl y basa'r cwch yn mynd i ffwrdd fel yr aeth o. Chysgais i ddim trwy'r nos gan boeni—meddwl dy fod di wedi boddi, ac na chawn i byth dy weld di eto."
"Paid a phoeni 'chwaneg, 'r hen ddyn. Mae'r cwbwl drosodd. Sut y bydd y scẃl yn dweud, dywed, All's well that ends well.Tyrd yn dy flaen i werthu rhain, neu mi fyddan' wedi drewi cyn i ni'u gwerthu nhw."
Ac ymlaen yr aed, ac wedi gorffen gwerthu, aed a'r arian, deg swllt, i'r Capten. Rhoddodd yntau swllt yr un i'r bechgyn am werthu, ac yna meddai wrth Harri, "Hwda, dyma bedwar swllt i ti—dy shâr di o'r helfa. A thyrd di hefo mi i bysgota bob tro y byddi di'n rhydd. Ond cofia—'dwyt ti ddim i golli'r ysgol i ddwad."
Cymaint oedd syndod Harri fel nad allai yngan gair o ddiolch, ac wedi cael y drws, ymaith ag ef nerth ei draed am ei gartref, ac wedi cyrraedd y tŷ, taflodd y pum swllt ar y bwrdd.
"Wel, Harri," ebe'i fam, gan godi ei llygaid oddiar y gwniadwaith oedd yn ei llaw, ac edrych trwy ei dagrau ar y bachgen, "lle buost ti mewn difri? Rwyt ti bron a thorri nghalon i. A beth ydi'r arian 'ma sy gin ti?"
"Arian enillais i wrth bysgota," meddai yntau'n goeglyd. Yna, gan daflu ei freichiau am ei gwddf, meddai, trwy ei ddagrau, "O! mam, 'roedd yn ddrwg gin i'ch poeni chi, ond doedd gin i ddim help."
"Wel, machgen annwyl i," meddai 'i fam wedi toddi'n llymaid wrth weld serch y bachgen tuag ati, "mae'n dda iawn gin i dy gael di'n ôl. Mi atebodd yr Arglwydd fy ngweddîau drosot ti. Ond tyrd, 'rwan, i ti gael bwyd."
A thra'n cael bwyd, adroddodd Harri wrthi hanes ei anturiaeth, hithau'n holi'n fanwl pan nad oedd yn iawn-ddeall ryw bwynt yn ei stori. Felly, heb dderbyn y gosb ddisgwyliai gan y Capten na'i fam, y terfynodd yr anturiaeth hon o eiddo Harri—anturiaeth fu'n drobwynt pwysig yn ei fywyd fel y cawn weld.
V. STORI'R CAPTEN
PARHAU a dyfnhau ddarfu'r cyfeillgarwch ddechreuasai mewn dull mor ryfedd cydrhwng Capten Morris a Harri. Treuliodd y bachgen lawer hwyrnos ha' yn y cwch gyda'r hen Gapten, a dysgodd cyn hir i drin y cwch a dal pysgod gystal a'r hen Gapten ei hun. Yr oedd yn gymaint ffrindiau ag erioed a Dafydd Glandon, ac yn ei gwmni bob dydd yn mynd a dod i'r ysgol, ac weithiau goddefai'r hen Gapten i'r ddau fachgen ddod allan gydag ef yn y "Wennol," er mai Harri oedd y ffefryn. Teimlai ei fam yn fwy diofal yn ei gylch yng nglan y traeth erbyn hyn, gan mai gyda Chapten Morris yr oedd. Ond pe gwybuasai'r cyfan, diau na buasai mor ddibryder, oblegid nid gyda'r Capten ysywaeth y byddai bob amser yno. Ymdrochi y byddai Harri a'r bechgyn eraill bob cyfle gaent ym misoedd yr haf, ac yr oedd Harri erbyn hyn (pan yn dair ar ddeg oed) yn nofiwr diguro. Pwy bynnag arall fyddai am fynd i'r dŵr, byddai Harri am fynd, ac efe bob amser âi bellaf i'r dwfn. Yn wir, wedi iddo ddysgu nofio'n iawn, nid oedd fawr o bleser iddo os na byddai mewn dŵr oedd dros ei ben. Ac yn sicr, yn Ô1 bam y bechgyn, nofiwr da ydoedd. Gallai blymio oddiar graig neu o gwch i bwll, a nofio ar ei fron neu ar ei gefn, neu wysg ei ochr, a gallai orffwys ar y dŵr, yn yr hyn yr oedd ar y blaen i bawb o'r bechgyn. Bu yn dda iddo lawer gwaith wedyn ei fod wedi dysgu nofio.
Ond heblaw y byddai'n mynd allan i bysgota gyda'r hen Gapten, byddai'n fynych yn mynd ato i'r tŷ, i'w helpu i gyweirio'r rhwydau, ac i glywed ei straeon morwrol. Yr oedd gan y Capten ystafell yng nghefn ei dŷ, lle y cadwai bethau cysylltiedig a'r môr, ac i'r ystafell honno yr âi Harri ato. Weithiau byddai Mrs. Morris yno gyda hwynt, yn gwau neu'n gwnïo, ond fel rheol ymneilltuai hi i ystafell arall, neu âi i dŷ ei chwaer drigai mewn tŷ arall yn ei hymyl, gan adael yr hen ŵr a'r bachgen i drafod eu hoff bwnc. Yr oedd map o'r byd yn crogi ar fur yr ystafell, a chyda chymorth hwnnw yr eglurai'r Capten rai o'i straeon. Yr oedd ganddo gwmpawd ac offerynnau morwrol hefyd, a byddai'r bachgen wrth ei fodd yn dysgu eu trin, sut i gymryd yr haul, a sut i lywio llong wrth y cwmpawd. Wrth weld y bachgen mor awyddus ac mor gyflym i ddysgu, yr oedd y Capten yn ymroddi i'w hyfforddi, ac wrth ei fodd yn y gorchwyl. Dywedai gyda phwyslais na welsai erioed fachgen mor addawol, a phroffwydai y byddai Harri'n gapten cyn bod yn ugain oed. " Ond wyt ti'n gwybod bron ddigon i basio'r arholiad 'rwan," meddai. " Does arnat ti ddim ond eisio tipyn o brofiad ar y môr."
Tua dechrau mis Tachwedd, ychydig gyda blwyddyn ar ôl yr anturiaeth gyda'r cwch, bu llifogydd anghyffredin tuag ardal Minymor, a sonia'r hen drigolion hyd heddiw am y genllif o law ddisgynnodd y pryd hwnnw, a'r difrod wnaeth llifogydd yn yr ardal. Dechreuodd wlawio ar nawn Mawrth, a disgynnodd yn ddibaid hyd nawn lau, nes yr oedd y Uwybrau a'r ffyrdd ymhob man yn yr ardal bron fel afonydd, a phob llecyn gweddol wastad yn llyn. A'r un adeg digwyddai fod yn spring-tíde trwy fod y lleuad newydd basio'r llawn.
Daeth plant Minymor adref o'r ysgol nawn Mawrth yn wlyb at eu crwyn, a gartref y cadwyd hwynt i gyd ddydd Mercher a dydd lau. Tipyn o garchar oedd y tŷ am ddeuddydd i fachgen fel Harri, a phrynhawn Iau ar ôl cinio, llwyddodd i berswadio'i fam i ganiatau iddo fynd i dŷ'r Capten. Yr oedd yr hen ŵr wrthi ar y pryd yn trwsio'i rwydau, er nad oedd arwydd y byddai arno'u hangen rhawg, a siriolodd ei wyneb pan ddaeth Harri i mewn i gynnig ei help iddo.
"Hidia befo hi," meddai'r Capten, gan daflu'r rhwyd o'i law, " mi gaiff aros tan ryw dro eto. Mae'n dda iawn gin i dy weld di i gael sgwrs. Tyrd at y tân i ni gael bod yn gysurus," a thra y siaradai, llwythai ei bibell i gael mygyn.
Ar ôl tynnu ychydig ar y bibell mewn mwynhad distaw, meddai'n sydyn, " Wyddost ti beth, 'rwyt ti'n mynd yn fachgen mawr. Mi fyddi'n gadael yr ysgol yn o fuan, mae'n debyg?
"Rhaid i mi aros yno tan yr ha' nesa, meddai mam," oedd ateb Harri.
"O! wnaiff ysgol ddim drwg i ti. Taswn inna wedi cael chwaneg, mi fasa'n fantais i mi. Ond i'r môr 'rwyt ti am fynd, mae'n debyg, wedi 'madael?"
"Mae mam yn deud na cha i ddim mynd, am fod nhad wedi colli ar y môr."
"Mae'n naturiol i dy fam, druan, deimlo felly. Ond i'r môr yr âi di er hynny. Elfen môr sy ynot ti, 'rydw i 'n gwybod. A 'rwan, mae gin i rywbeth i'w ddangos i ti, nad oes neb arall ym Minymor wedi'i weld. Ond 'rydw i am ei ddangos o i ti heddiw, am fod rhywbeth yn dweud wrtha i na fydda i ddim byw yn hir iawn eto."
"Capten Morris," ebe Harri, mewn braw a syndod, "pam 'rydach chi'n deud fel 'na? Mae golwg byw'n hir amoch chi."
"Wel, da waeth am hynny. 'Dwyr neb beth all ddigwydd mewn diwmod. 'Rydw i am ddangos hwn i ti heddiw. 'Rwyt ti'n ddigon abl i'w ddeall o, a mae'n well gin i i ti ei gael o na neb arall, am na fydd o dda i ddim i mi bellach."
A chan ollwng ochenaid ddwys, cerddodd at y gist fawr oedd ganddo wrth y mur pellaf, a datglodd hi. Wedi cloddio i lawr i'w gwaelod, tynnodd allan amlen hir wedi melynu gan henaint, ac amneidiodd ar y bachgen ato at y bwrdd.
"Aros di i mi gloi'r drws," meddai, " rhag ofn i rhywun ddod yma."
Ac wedi cloi'r drws, tynnodd o'r amlen bapur cyn felyned â'r amlen, a thaenodd ef ar y bwrdd. Gwelodd Harri arno plan neu map o rywbeth, ac ysgrif dano, a safodd yn fud i glywed beth oedd gan yr hen Gapten i'w ddweud. "Dyma i ti yn y fan hyn," meddai, gan bwyntio â'i fys, " map o ynys yn y Môr Tawelog. Un o'r Samoa Islands ydyw yn ôl y disgrifìad, un o'r rhai lleiaf ohonynt. Mi wyddost lle mae'r Samoa Islands?"
"Gwn," ebe Harri.
"Wel, Rahiti ydyw enw hon. Mae'r ysgrif yma'n dweud—Hispaneg ydyw—fod trysor wedi ei guddio ers rhyw oes ar yr ynys hon, a dyma'r ffordd i ffeindio'r lle. Weli di'r trwyn tir yma'n ymestyn i'r gogledd? Mae ar y trwyn yma nifer o goed yn sefyll yn gylch. Mae dwy ohonynt yn agos iawn i'w gilydd, a rhwng y ddwy yna mae'r trysor cuddiedig. Dyma groes ar y map, weli, yn dangos y lle."
Edrychodd Harri i wyneb y Capten ag anghrediniaeth wedi'i argraffu ar ei wedd. Ai tybed fod y Capten yn dechrau drysu? Ni welsai ef erioed mor ryfedd a'r prynhawn hwn.
"Mae o 'n ddigon gwir i ti," ebe'r Capten, gan sylwi ar wyneb anghrediniol Harri. " Pe bawn i 'n iau, mi faswn wedi bod yno cyn hyn."
"Synnu 'rydw i," ebe Harri, " na basach chi wedi bod yno, a'r papur 'ma gynoch chi ers talwm."
"Does dim cymaint a hynny ers pan y mae'r papur gennyf. Gwrando, mi ddweda i wrthat ti sut y cefais i o. Ar fy mordaith olaf hefo'r hen long, y "Lark," 'roedd Hispaenwr yn un o'r criw, ac fe fu farw ar y môr. Ganddo ef y cefais i'r papur, ac yr oedd yn sicrhau bod y peth yn wir. A 'rwan, 'rydw i 'n disgwyl y gelli di fynd yno—nid ar dy fordaith gyntaf, mae'n siwr; ond pan basi di'n gapten, a chennyt long dy hun, mi elli fynd, ac os byddi di'n llwyddiannus, mi gofi, mae'n siwr gennyf, am yr hen wraig 'ma, os bydda i wedi mynd. Mi gadwa i 'r papur yn saff, nes y bydd arnat ti ei eisio fe." A chyda hynny plygodd ef yn ofalus yn yr amlen, a dododd ef yn Ô1 yn y gist, gan ei chloi'n ddiogel fel cynt. Wedi hynny edrychodd drwy'r ffenestr, ac meddai, wrth weld y glaw yn dal i ddisgyn, "Wyddost ti be, mae hi wedi bwrw'n ofnadwy, fachgen. Welais i 'rioed gymaint o law o'r blaen tuallan i'r tropics."
"Mi fydd yn bwrw'n arw yno, fydd hi, Capten Morris?" gofynnai Harri.
"Bwrw! f'aswn i 'n meddwl, wir. Fasa ambarel na chôt law'n dda i ddim yno. Tywallt fel o grwc y bydd hi pan fydd hi wrthi hi. Ond mi fydd 'na le garw yn y traeth heno pan ddaw'r llanw i fyny."
"Ydach chi'n meddwl y bydd y Morfa'n saff, Capten?"
"Yn wir, mae'n amheus gennyf i," oedd ateb swta'r Capten, ar ôl ennyd o ystyriaeth, a'r bibell yn dyn rhwng ei ddannedd. Er mwyn i'r rhai nad ydynt gyfarwydd â chymdogaeth Minymor gael syniad gweddol glir am yr hanes sy'n dilyn, dylem ddweud mai tŷ bychan oedd y Morfa, digon drwg ei gyflwr, ar lan y traeth. tipyn yn uwch i fyny'r afon na bau Glandon, cyrchfan trigolion Minymor. O gwmpas y Morfa, yr oedd gwastadedd y traeth yn lletach, a darn o dir gwastad—glasdraeth lle y porai defaid—ryw ychydig droedfeddi'n uwch nag arwynebedd y tywod. Ar ymyl y glasdraeth— yr ymyl nesaf i'r tywod, y safai y Morfa, amaethdy bychan pur henafol, lle y preswyliai dyn o'r enw John Thomas, a'i wraig a'i blant. Pan gyd-ddigwyddai llanw mawr a lli, codai'r dŵr nes gorchuddio'r glasdraeth, a chau teulu'r Morfa i mewn.
Wedi syn-fyfyrio am ennyd, gan gnoi blaen y bibell yn ffymig, tynnodd yr hen forwr y bibell o'i enau'n sydyn, a chan boéri ar lawr, meddai mewn llais cynhyrfus,
"Taswn i 'n lle John Thomas, arhoswn i ddim yn y Morfa heno."
"Mae'n debyg gin i y bydd o 'n ddigon call i fynd oddiyno," ebe Harri.
"Wn i ddim, ond dyna fyddai'r goreu iddo fo," ebe'r Capten, ar ôl dwys ystyriaeth am funud neu ddau.
Ac ar hynny, newidiwyd testun yr ymddiddan, ac aed yn Ô1 at y papur a dirgelwch y trysor cuddiedig. Pan ddaeth Mrs. Morris i mewn i ddweud bod tê'n barod, pwysodd yr hen Gapten ar Harri i aros yno i dê yn lle mynd adre drwy'r glaw; ac ar ôl tê, cafwyd gwers ar yr offerynnau morwrol ac enwau'r gwahanol hwyliau. Tuag wyth o'r gloch cododd Harri i fynd adre, a daeth y Capten i'w hebrwng i'r drws. Erbyn agor y drws, cawsant fod y glaw wedi peidio, a'r ystorm fawr drosodd, a'r cymylau duon fuasai ers deuddydd yn crogi uwchben, ac yn tywallt eu cynnwys ar y fro, wedi cilio, a'r lloer wen gron yn edrych i lawr fel pe i weld faint y difrod a wnaethai'r glawogydd.
"Tyrd i lawr i'r traeth, Harri, am dro, i ni gael gweld sut mae pethau'n edrych yno," ebe'r Capten, gan estyn ei het oddiar yr hoel y tu ôl i'r drws.
Bodlon oedd Harri i fynd, ac i ffwrdd a hwy. Yr oedd yr olygfa ar y traeth yn werth cerdded milltiroedd i'w gweld—y dyfroedd yn llanw'r traeth o gwr i gwr, ac yn trochioni'n gynhyrfus. Yr oedd y llanw'n uwch nag y gwelsai Harri ef erioed. Er bod y Capten a pherchenogion y cychod eraill yn ôl eu harfer wedi tynnu'r cychod ymhell i'r tir, ac wedi eu troi a'u hwynebau i waered i auafu, yr oedd y dyfroedd y noson honno wedi cyrraedd bron hyd atynt.
"Mae hi'n ddrwg yn y Morfa heno, yn siwr i ti," ebe'r hen Gapten. " Mae hi ar ben ar y teulu os ydyn' nhw yno, a synnwn i bin na chwelir yr hen dŷ gan bwysau'r dŵr pan dry'r llanw i lawr. Tyrd i ben y graig i weld sut olwg sydd ar bethau'r ochr draw 'cw."
Nid oedd y Morfa i'w weld o'r gilfach lle y cedwid y cychod, ond ped aent i ben y graig oedd yn terfynu'r bau ar yr ochr uchaf, gellid gweld yr hen dŷ a'r glasdraeth yng ngoleuni'r lloer. Gellid mynd ar draws cae hyd i ben y graig, ac yno yr aeth y ddau. Ac oddiyno yng ngoleuni llachar y lloer, gwelent yr hen dŷ'n sefyll ynghanol môr tonnog, a'r glasdraeth eang oll dan ddẁr am bellter mawr.
"Weli di olau acẃ, Harri?" gofynnodd y Capten.
"Na, does dim ffenest yn y tŷ yn wynebu tuag yma," ebe Harri.
"Nag oes, siwr. Mae hi'n ddrwg ar yr hen dŷ heno. Mae i ti o bedair i bum troedfedd o ddŵr yn y tŷ," ebe'r Capten, " a does acw 'run lofft. Ust! gwrando."
Safodd y ddau i wrando, ac uwch twrf y dyfroedd, clywent o gyfeiriad y Morfa gri galon-rwygol—cri a swniai yn union fel cri bod dynol mewn ing neu ofn marwol.
"Glywaist ti?" ebe'r Capten yn gynhyrfus.
"Do," meddai Harri. " Mae'n rhaid bod rhywun yn y tŷ."
"Harri,"' ebe'r Capten, dewr ei fron er ei henaint, "wyt ti'n ddigon o ddyn i fentro acw hefo mi? Os wyt ti, rhed i fyny i'r tŷ am y rhwyfau. Mi wyddost yn lle ma' nhw. Mi dreia inna gael y cwch i'r dŵr tra byddi di. Fedra i ddim meddwl am i neb golli ei fywyd, os medra i wneud rhywbeth i'w achub."
Nid cynt y daeth y gair dros fin yr hen ŵr nag yr oedd Harri wedi cychwyn ar ei neges, a byr o dro fu nad oedd yn ôl yn helpu'r hen Gapten i gael y cwch i'r dŵr. Nid oedd yn hawdd gyrru'r cwch drwy'r tonnau. Cwch ysgafn wedi ei wneud ar gyfer dwfr tawel fel a geid fel rheol ar y traeth ydoedd, a thipyn o ryfyg oedd anturio ynddo ar ddwfr digllon wedi ei gythruddo am ddeuddydd gan yr elfennau.
Wedi mynd o gysgod cymharol y bau, ac amgylchu'r graig y safasent arni i edrych ar y Morfa, sylweddolodd y ddau rwyfwr fod y llanw wedi troi i lawr, a bod angen am eu holl nerth os oeddynt am gyrraedd at y Morfa.
Rhoisant bob gewyn ar waith i rwyfo, a gwelsant eu bod yn symud ryw gymaint er yn araf iawn. Ond parhau i ymdrechu wnaethant, nes o'r diwedd, wedi iddynt ddod o fewn ergyd carreg at y tŷ, y clywsant sŵn dieithrol,—sŵn muriau'n chwalu a cherrig yn syrthio i'r dwfr.
"Dyna'r Morfa wedi mynd i ti," ebe'r Capten, "'roeddwn i 'n ofni na ddalia fo mo bwysa'r dŵr wedi

i'r llanw droi i lawr. 'Does dim ond i ni geisio mynd yn ôl bellach. 'Doedd 'na neb yn y tŷ, mae'n siwr. Rhyw 'dderyn glywsom ni yn gwneud y sŵn dieithr. Rhaid i ni fod yn ofalus wrth droi pen y cwch at i lawr, rhag iddo gael ei ddymchwel."
A dyna'r gair olaf a ddywedodd yr hen Gapten. Yn sydyn, wrth iddynt geisio troi cyfeiriad y cwch tuag i lawr, dymchwelwyd ef gan rym y lli, a chafodd y ddau wron eu hunain yn y dwfr, ac yn cael eu hysgubo ymaith gan y llifeiriant. Ofer ceisio help trwy gyfrwng y cwch; yr oedd hwnnw'n cael ei ysgubo ymaith gyda'r lli a'i wyneb i waered. Yr oedd y Capten yn hen a'i nerth yn pallu, fel na allai nofio yn y fath lifeiriant. Ond llwyddodd Harri i gael gafael ynddo, ac ymdrechodd yn wrol i'w ddal i fyny ag un fraich, tra a'r llall y ceisiai gyfeirio am y lan. Ymdrechfa ofnadwy fu,—yr hen frawd yn swrth a diymadferth, a Harri bron diffygio. Ond daeth i dir, a thynnodd ei hen gyfaill gydag ef i gilfach o fân gerrig ar lecyn y ciliasai'r dwfr oddiarno. Ond yn yr ymdrech am ei fywyd, yr oedd wedi gordrethu ei hun—wedi cyrraedd diogelwch, cwympodd yn anymwybodol ar ei hyd ar y llawr. Pan ddaeth ato'i hun ymhen ysbaid, cymrodd dipyn o amser iddo ddwyn i gof yr amgylchiadau a'i dygodd i fod ar y traeth oer yng ngoleu'r lloer. Aeth rhyw ias oer drosto wrth gofio am yr ymdrech ofnadwy y buasai ynddi, ac yna cofiodd fod y Capten wrth ei ochr. Cododd i fyny, a gwelodd fod yr hen ŵr yn gorwedd yn hollol lonydd, a'i wyneb tuag i fyny, a'i lygaid ynghau. Galwodd arno wrth ei enw, ond nid oedd ateb. Gwaeddodd yn uwch, ac ysgydwodd ef, ond nid oedd dim arwyddion o fywyd ynddo. Ychydig a wyddai Harri am y moddion ddefnyddid i ddadebru rhai wedi bod ym min boddi, ond gwelsai osod rhai felly ar eu hyd ar lawr, a symud eu breichiau ôl a blaen. Ceisiodd wneud hyn am ychydig funudau i'r Capten, ond er ei holl ymdrechion, nid oedd unrhyw arwyddion o fywyd yn ymddangos. Ar hyn brawychodd, a dechreuodd ofni fod y Capten wedi marw. Ni chroesodd y syniad o bosibilrwydd hynny ei feddwl hyd y munud hwn. Ni wyddai beth i'w wneud. Aeth rhyw ias o arswyd drosto wrth feddwl fod corff marw ei hen ffrind wrth ei ochr. Plygodd unwaith eto uwch ei ben, ysgydwodd ef, a llefodd yn ddychrynedig, " Capten Morris! Capten Morris! deudwch rhywbeth wrtha i." Mewn cyflwr a ymylai ar wallgofrwydd, gwaeddodd fel hyn droeon, gan ysgwyd y Capten gerfydd ei ysgwyddau, a chraffu ar ei wyneb oedd yn welw las yn yr angau. Yna daeth y teimlad o'i unigedd dros ei ysbryd, a rhedodd am Glandon, y tŷ agosaf, gan lamu tros y graig a thrwy y cae uwchben y bau at y tŷ. Yr oedd pawb yn eu gwelyau yno ers meityn, ond curodd Harri'r drws â'i holl egni, ac ni bu'n hir yn eu deffroi. William Huws, tad Dafydd, ddaeth i'r drws, wedi gwaeddi drwy ffenestr y llofft i ofyn pwy oedd yno, a beth oedd y mater. Ceisiodd Harri adrodd ei stori, fod y Capten yn gorwedd ar lan y traeth yr ochr draw i'r graig rhyngddo â'r glasdraeth. Ond stori fratiog, hannerog a gaed ganddo, a sylwodd William Huws fod y bachgen ar fin anymwybodolrwydd. Erbyn i Harri orffen ei stori a rhoi ar ddeall i William Huws ymhle'r oedd y Capten, yr oedd Catrin Huws wedi dod i lawr y grisiau atynt. Gwaeddwyd ar Dafydd i godi, sisialodd y gŵr rywbeth yng nghlust ei wraig, ac ymaith ag ef a Dafydd i chwilio am y Capten.
Byr o dro fu Catrin Huws yn rhoi Harri yng ngwely Dafydd yng Nglandon. Gwyddai ar olwg y bachgen ei fod mewn twymyn,—yr oedd ei wres yn codi, ac yntau'n dechrau siarad yn ddryslyd. Disgwyliodd y wraig yn bryderus am ddychweliad ei gŵr a Dafydd, ond yr oeddynt hwy mewn helbul gyda chorff y Capten, oblegid wedi marw ers cryn amser yr oedd yr hen forwr dewr. Yr oedd ôl cael ei daro ar ei ben arno, a thybid i'r cwch neu rywbeth ei daro pan syrthiodd i'r dwfr. Cymrodd gryn amser iddynt i gael cynhorthwy i symud y corff i gartref y Capten. Pan o'r diwedd y cwblhawyd hyn o orchwyl, ac iddynt ddychwelyd, rhaid fu iddynt ill dau ail gychwyn ar daith—Dafydd i gyrchu'r meddyg o'r Cefngwyn, a William Huws i'r Bwlchglas i hysbysu Gwen Jones o'r digwyddiad.
Achosodd y digwyddiad gryn gyffro yn ardal Minymor. Methid deall yr amgylchiadau, er i lawer dyfaliad gael ei wneud, ond nid cyn i Harri wella o'i afiechyd y deallwyd mai ar neges o drugaredd i deulu'r Morfa y collwyd Capten Morris. Gresynid oherwydd i fywyd dewr gael ei aberthu'n ofer, gan nad oedd neb yn y Morfa i'w achub. Methid deall beth oedd y cri a glywsid gan y ddau oddiar y graig, er y cytunid mai cri aderyn ydoedd yn ôl pob tebyg.
Bu Harri'n wael iawn, a'r meddyg am ysbaid bron anobeithio am ei adferiad. Ond aeth yr argyfwng heibio, a throdd ar wella. Bu wythnosau lawer cyn adennill ei nerth, a bu Dafydd yn gyfaill cyson iddo ar hyd yr amser, gan weini arno ymhob modd posibl. Wedi iddo droi ar wella yr hysbyswyd ef am farw'r Capten, a galarodd lawer ar ôl ei hen gyfaill. Gwnaethai'r hen Gapten ei ewyllys, gan adael y cwch a'r offerynnau morwrol i Harri. Yr oedd y cwch wedi mynd i ganlyn y lli, ond llawen iawn oedd Harri o dderbyn yr offerynnau, a thrysorai hwynt uwchlaw popeth a feddai.
VI MYND I'R MOR
NID aeth Harri i'r ysgol ar ôl ei waeledd. Bu am wythnosau'n bur wan ei iechyd, a chyngor y meddyg oedd iddo beidio mynd i'r ysgol, ond bod allan yn yr awyr agored gymaint ag oedd modd. Yn raddol daeth ei nerth yn ôl, a chymrodd Huw Tomos, yr Ynyswen, ef yno'n was bach. Gwnaeth bwyd maethlon y fferm ac awyr iach y meysydd les mawr iddo, ond nid oedd yn hoffi gwaith y fferm,—yr oedd ei fryd ef ar fynd i'r môr. Diau bod anian morwr ynddo o'i febyd, gan mai morwr oedd ei dad a'i daid. Darluniau o longau oedd yn grogedig hyd furiau ei gartref, a glan y môr fuasai ei hoff chwaraele. Ac yr oedd cwmni ac addysg yr hen Gapten wedi cryfhau ei awydd am fynd i'r môr. Yn yr ysgol hefyd, daearyddiaeth oedd ei hoff wers. Er y gwnai gynnydd gweddol gyda'r pynciau eraill, dysgu hanes gwahanol wledydd y byd, a darllen neu wrando am arferion y gwahanol genhedloedd, a roddai fwyaf o foddhad iddo. Yr oedd Mr. Evans, y prifathro, yn uchel iawn yn ei olwg am y byddai'n arfer adrodd hanesion difyr am anturiaethwyr aethai allan i ddarganfod ac archwilio rhannau anadnabyddus o'r byd. Ac onid oedd Arolygwr yr ysgolion, yn yr arholiad blynyddol pan oedd Harri yn y chweched safon, wedi sylwi ar ei wybodaeth o ddaearyddiaeth, ac wedi proffwydo mai capten llong fyddai?
Yr oedd gryn nifer o forwyr yn byw ym Minymor, rhai yn parhau yn yr alwedigaeth, a llawer eraill wedi bod yn forwyr yn eu hienctid, ond wedi dewis cymryd gwaith yn y chwarel oedd yn ymyl y pentref, wedi mynd ohonynt i dipyn o oed. A byddai Harri'n mwynhau bod yng nghymdeithas rhai o'r dynion hyn, os byddai sawyr y môr ar eu hymddiddanion, fel y digwyddai'n fynych. Dwy filltir o ffordd oedd o'r pentref i'r Aber, y porthladd bychan prysur a allforiai lechau at doi tai. Bu Harri yno droeon, a thrwy rai o'r llongau pan y byddai rhywun o'i gydnabod o Finymor ymhlith y dwylo.
Ond yr oedd ei fam yn bendant yn erbyn i'w hunig blentyn fynd i'r môr, a cheisiodd ymhob ffordd ei berswadio i lynu wrth waith fferm, neu ddewis rhyw waith arall ar y tir. Naturiol oedd iddi hi deimlo'n wrthwynebol iddo fynd i'r môr, gan mai morwr fuasai ei phriod, tad Harri. Ar y môr y collwyd ef pan nad oedd Harri ond pump oed, ac atgof wan oedd gan Harri am ei dad. O Lerpwl yr hwyliasai Peter Jones ar ei fordaith olaf fel prif swyddog ar lestr hardd o'r enw "Maritana " (darlun o'r hon oedd ar fur y gegin orau, a darlun o dad Harri wrth ei ochr). Am ynys bell Awstralia yr hwyliasai, ac ni ddaethai gair o hanes y llong na'r un o'r dwylo byth oddiar hynny. Disgwyliodd Gwen Jones yn ddyfal am fisoedd am newydd, hyd yn oed wedi iddi dderbyn gair oddiwrth y perchenogion fod yn rhaid bod y llong wedi colli mewn ffordd nas gwyddid. Nid rhyfedd felly, gan iddi golli priod tyner a gofalus ar y môr, fod Gwen Jones yn bendant yn erbyn i'w hunig fachgen ddewis yr unrhyw alwedigaeth beryglus. A hyderai y deuai i hoffi ei le yn yr Ynyswen, ac i lynu wrth y tir am ei fywoliaeth.
Gartref y cysgai Harri bob nos, gan nad oedd ond lled dau gae rhyngddo a'r ffermdy. A phob nos bron, gyda map neu lyfr yn ymwneud â'r môr y byddai'r bachgen. Yr oedd llyfrgell dda yn perthyn i gapel Minymor y dyddiau hynny, ac yn hyn yr oedd yr ardaL ymhell o flaen yr oes. Cyrchai Harri lyfrau oddiyno i'w darllen, a gofid i'w fam oedd gweld mai hanesion am y môr a ddygai adref. Codai hynny ddadl frwd rhyngddynt yn bur fynych. Llyfrau Saesneg fyddent gan mwyaf, ac er na ddeallai Gwen Jones lawer o'r iaith honno, dywedai'r darluniau ynddynt wrthi beth oedd eu nodwedd.
Arhosodd Harri i weini ar y fferm o ddechrau'r gwanwyn wedi ei adfer i'w iechyd hyd ddechrau'r gaeaf. Ond un noson yn nechrau Tachwedd, blwyddyn ar ôl colli'r hen Gapten, daeth Harri i'r tŷ, ac meddai wrth ei fam, " Mam, 'rydw i wedi 'madal oddiwrth Huw Tomos."
"Be' di'r mater, machgen i?" gofynnodd ei fam mewn syndod a pheth braw.
"O!" oedd yr ateb, " mi wyddoch o'r gore nad ydi'n dda gin i mo waith ffarm, ac mai i'r môr y mae arna i eisio mynd. Mae Huw Tomos yn mynd i'r ffair fory i gyflogi gwas at y gaeaf."
"Machgen annwyl i, 'dydi o 'n ddim iws i ti feddwl mynd i'r môr at ddechrau'r gaea' mawr 'ma," ebe'r fam, gan geisio gohirio'r trychineb, os nad ei rwystro.
Ar hyn, pwy ddaeth i'r tŷ ond Huw Evans, brawd i Gwen Jones, saer yn y pentref wrth ei alwedigaeth. Gwelodd yn union fod rhyw anghydwelediad rhwng y fam a'r mab, wrth weld y naill yn plygu'i phen yn drist uwchben ei gweill, tra'r llall wrth y ford â golwg anniddig arno.
"Beth ydi'r mater yma heno? Be' sy', Gwen?" gofynnodd yn ei ffordd wyllt, sydyn.
"Harri sy' wedi 'madael o'r Ynyswen, ac am fynd i'r môr," ebe'r weddw'n wylofus, " a 'rydw inna'n treio'i berswadio fo i aros adra dros y gaea', beth bynnag."
"Dy fam sy'n iawn, Harri," ebe'r ewythr, " tir sych ai piau hi yn y gaea', beth bynnag am yr ha'. Fasa ti ddim yn leicio gwaith saer, dywed, hefo mi? Mi cymra i o, os leici di, Gwen."
"Wel, leicia wir, Huw. Ai di i weithio at dy ewythr, Harri?"
"Mi a' i am y gaea', os ca' i fynd i'r môr yn y gwanwyn. Ga' i?"
"Rhaid i ti beidio poeni dy fam, machgen i," ebe'r ewythr. " Cofia di nad oes ganddi hi, mwy na minna', ddim llawer o feddwl o'r môr. Tyrd acw bore fory. Ydi o 'no dda am godi'n fore, Gwen?"
"O! ydi'n eitha. Mae o 'n ddifai bachgen i mi, ond ei fod o wedi drysu'i ben hefo'r hen fôr 'na."
"Be' sy' gin ti'n ddarllen 'rwan, dywed?" ebe'r ewythr.
"Edrych y map 'rydw i," ebe Harri.
"Mae o hefo hwn'a bob nos. Wedi cael hyd i ryw lyfr oedd gin ei dad o, druan, mae o," ebe Gwen Jones, gan ochneidio'n ddwys.
A dyna, yn ychwanegol at hanesion am anturiaethau, oedd hoff astudiaeth Harri. Byth oddiar yr adeg y soniasai'r hen Gapten am Rahiti a'r trysor, yr oedd wedi astudio llawer ar y mapiau, yn enwedig y map o'r Môr Tawelog ac Ynysoedd Môr y De, ac wedi dychmygu ei hun ganwaith ar yr ynys, ac yn dod o hyd i'r trysor. Nid meddwl am y trysor er ei fwyn ei hun yr oedd, ond breuddwydiai am y palas hardd a adeiladai i'w fam pan ddychwelai'n ŵr cyfoethog, canys yr oedd Harri'n hoff iawn o'i fam.
Yn y llofft fechan lle y cysgai yr oedd ganddo focs bychan â chlo arno, lle y cadwai ei drysorau. Yno yr oedd yr offerynnau morwrol a gawsai gan yr hen Gapten, a'r ysgrif a ddwedai am y trysor cuddiedig, oblegid wedi marw Capten Morris, rhoddasai'r weddw iddo, nid yn unig yr offerynnau, oedd yn eiddo iddo trwy'r ewyllys, ond hefyd ei ddewis o bapurau'r Capten er cofio amdano, ac yn naturiol yr ysgrif ynghylch y trysor oedd ei ddewis. Lawer gwaith wrth fynd i'r gwely, yr agorodd Harri'r bocs, ac y tynnodd allan yr hen ddarn papur, gan graffu arno a'i astudio orau gallai. Er mai mewn iaith estronol yr oedd yr ysgrif, dysgodd Harri hi bob gair heb ddeall dim ohoni, ond yr hyn a ddeallai oddiwrth y plan, a'r hyn a ddwetsai'r hen Gapten wrtho. Ond wrth ei fynych edrych, yr oedd cynnwys y darn papur wedi llosgi i mewn i'w gof, gan wneud argraff annileadwy.
Cyn pen yr wythnos wedi iddo ymadael o'r Ynyswen, yr oedd Harri wedi dechrau gweithio gyda'i ewythr yng ngweithdy'r saer. Nid oedd yn ddieithr i'r gweithdy cyn hyn, a gwyddai enwau llawer o'r arfau, a meddai syniad gweddol sut i ddefnyddio rhai ohonynt. Saer ar ystâd y Plas mawr oedd Huw Evans, ei ewythr, ac atgyweirio adeiladau'r ffermydd, gwneud tai gwair, llidiardau, a'r cyfryw at wasanaeth yr amaethwyr oedd ei waith. Nid oedd Harri'n dygymod o gwbl â'r gweithdy, ond byddai wrth ei fodd pan yn gweithio ar ryw fferm fel Bryneryr oedd yng ngolwg y môr. Ond ychydig o waith a wnai yno, gan mai gwell ganddo fyddai troi ei olygon tua'r cefnfor a gwylio'r llongau yn ymsymud ar ei wyneb, neu edrych tua phorthladd yr Aber, ac ymgolli wrth feddwl am y prysurdeb oedd yno—y llongau'n cael eu harchwilio a'u hatgyweirio i'w paratoi i'w teithiau—nes y deuai ei ewythr heibio i'w alw'n ôl i fyd y llif a'r morthwyl.
Ymadawsai Dafydd Glandon, o'r ysgol yn fuan ar ôl Harri, a'i fryd yntau ar fynd i'r môr, ond ei rieni mor wrthwynebol â mam Harri iddo anturio'r weilgi i ennill ei fywioliaeth, ac felly i'r chwarel y gorfu iddo fynd yn erbyn ei ewyllys. Byddai'r ddau fachgen yn fynych gyda'i gilydd gyda'r nos, a'r ddau yn adrodd eu cwyn y naill wrth y llall, ac yn datgan eu penderfyniad i fynnu eu ffordd eu hunain pan ddeuai'r gwanwyn. Ond yn rhyfedd iawn, ni soniodd Harri wrth ei gyfaill am bapur y Capten—er ei fod yn hoff iawn o Dafydd, teimlai fod y dirgelwch yn fwy diogel wrth ei gadw iddo'i hun, o'r hyn lleiaf, nes y byddai Dafydd ac yntau wedi mynd i'r môr a chryn dipyn yn hŷn.
Yn ystod y gaeaf darllennodd Harri'n ddyfal hanes anturiaethau. Dewisai lyfrau a soniai am fywyd Ynysoedd Môr y De—hanes bywyd Capten Cook ac eraül tebyg. Trwy ddarllen y cyfryw'n ofalus daeth i feddu syniad gweddol glir am amodau byw yn y rhannau hynny o'r byd—yr hinsawdd, y cynnyrchion, ac arferion y brodorion.
O ganlyniad, aeth y gaeaf heibio heb i'w gariad at fainc y saer gynhyddu, nac i'w benderfyniad i fynd i'r môr wanhau; a phan ddaeth y gwanwyn a mwy o brysurdeb nag erioed i'r Aber, ac y gwelodd forwyr Minymor yn paratoi i fordaith ar ôl gaeafu ar y tir, cynhyddodd yr anesmwythdra yn ei fynwes, a chyda chalon ai beunydd yn drymach yr âi at ei waith y naill ddydd ar ôl y llall. Anodd ganddo oedd ail-agor y drafodaeth gyda'i fam, gan na fynnai ei phoeni, ond yn ffodus iddo, cafodd help gan ei ewythr, a hynny'n hollol annisgwyliadwy. Un noswaith yn nechrau mis Mawrth, daeth i'r Bwlchglas, a Harri wrth y ford gyda'i lyfr, tra'i fam yn gwau wrth y tân. Wedi i Huw Evans eistedd, cododd Gwen Jones ei phen, ,a gofynnodd iddo, " Sut mae Harri'n dwad ymlaen, Huw?"
"Symol," ebe Huw Evans, "mi wnai lawer iawn gwell tasa fo'n rhoi ei feddwl ar y gwaith. Ond mae ama i ofn na wnaiff o byth saer—elfen môr sydd ynddo fo."
Clustfeiniai Harri am ateb ei fam, gan gymryd arno ddarllen yn ddiwyd,—ond ni chlywodd ddim ond ochenaid ddwys.
"Gad'wch i mi fynd i'r môr, mam," ebe'r bachgen yn erfyniol, gan weld ei gyfle i yrru'r ergyd adre.
"Ẃaeth i ti ildio'n fuan nag yn hwyr," meddai Huw Evans, " i'r môr y myn o fynd, mi gei di weld. Ac os felly mae hi, gorau po gyntaf iddo fynd, er mwyn iddo fo ddwad ymlaen yno."
"Wyt ti'n meddwl mewn difri?" gofynnodd Gwen Jones yn ddigalon. " Roeddwn i 'n gobeithio y basa ti wedi medru ei ddiddyfnu oddiwrth awydd y môr hefo gwaith saer."
"Rydw i wedi gwneud 'y ngore," oedd yr ateb, "ond nid hefo gwaith saer mae 'i galon o. Gwneud llonga' bach ydi 'i ddifyrrwch pennaf yn y gweithdy, ac yn wir, mae o'n medru gwneud rhai da. Gad iddo fynd i'w elfen, wir, Gwen."
Gwrandawai Harri'n astud ar yr ymddiddan, a theimlai fwy o hoffter at ei ewythr am iddo gymryd ei ran nag a deimlasai erioed cyn hyn. Ac wedi i'w ewythr fynd adref, ni bu Gwen Jones yn hir iawn cyn ildio, er yn anfodlon, i ddymuniad y bachgen, ond erfyniodd arno chwilio am le gydag un o'r capteniaid a drigai ym Minymor. Credai nad oedd y môr yn agos mor beryglus i'w bachgen gyda chapten o'r fro, ac aeth hithau trannoeth i ymofyn am le iddo gyda rhai o'i chydnabod ymhlith y capteniaid. Er dirfawr lawenydd i Harri, addawodd Capten Roberts, Caegwyn, ei gymryd gydag ef yn y " Blodwen," scwner newydd, hardd, oedd ar fin cychwyn am Hamburg yn yr Almaen, a'r bore dilynol yr oedd Harri'n mynd i lawr i'r Aber i " shippio," ac i ddechrau ar ei ddyletswyddau, a theimlai yn dipyn o ddyn am y gallai bellach alw 'i hun yn forwr. Llong yn cludo rhyw dri chan tunnell oedd y " Blodwen," ac un o'r rhai mwyaf a hwyliai o'r Aber.
Y noson honno yr oedd ar dân i dorri'r newydd i Dafydd, ond pan ddaeth o hyd iddo wrth y capel, yr oedd Dafydd yn gwybod eisoes, a hawdd oedd gweld ar ei wyneb fel y cenfigennai bod Harri'n cael mynd i'r môr.
"Paid a synnu, 'r hen ddyn, na weli di finna wedi shippio cyn y byddi di wedi hwylio," oedd gair olaf Dafydd wrth Harri cyn iddynt ymadael.
Ac, yn wir, prynhawn trannoeth, pan oedd Harri wrthi'n brysur ar fwrdd y " Blodwen " yn helpu un o'r dwylo i gadw rhaffau, a'r dynion wrthi'n llwytho'r llong, pwy a welai Harri ar y cei'n sefyll ac yn edrych tuag ato ond Dafydd Glandon. Gan fod llygad y Capten ar Harri ar y pryd, ni chafodd gyfle i gyfnewid gair a'i gyfaill, nac hyd yn oed i chwibianu arno.
Ond pan oedd yn cychwyn am ei gartref y noson honno, pwy oedd yn ei ddisgwyl ym mhen y cei ond Dafydd a llawenydd yn argraffedig ar ei wyneb, a chyn i Harri gael cyfle i ddweud dim, meddai Dafydd,
"Rydw inna wedi shippio, Harri."
"Taw, fachgen," ebe Harri, mor llawen ei dôn a Dafydd, "Hefo pa long? I ble mae hi'n mynd?"
"Hefo'r 'Gwalia,' 'n mynd i Hamburg."
"Hen dwb ydi honno, ond hidia befo, 'r hen ddyn, dyna ni'n dau'n mynd i'r un fan. Ond biti na fasa ni ar yr un llong, on'te?"
"Ie, ond un bachgen fydd ar long bob amser. Ni fydd yr un Capten yn cymryd dau."
"Na fydd, ond waeth i ti am hynny. Mi gawn weld ein gilydd yn Hamburg, a siawns na chawn ni hwyl iawn yno."
Ac yr oedd raid i'r ddau gysuro eu hunain yn y gobaith hwnnw, ac ar hyd y ddwy filltir i'w cartrefi, dyna fu testun eu hymddiddansut le oedd Hamburg, tybed, a pha long a gyrhaeddai yno gyntaf, a beth a brynnent yno'n anrhegion i'w teuluoedd. Yr oedd amrywiaeth barn rhyngddynt parthed yr ail gwestiwn. Tra y daliai Harri'n gryf y byddai'r " Blodwen " yno ymhell cyn y "Gwalia," taerai Dafydd y dibynnai hynny ar y tywydd, ac y curai'r "Gwalia" o flaen awel gref, er yr addefai mai'r "Blodwen" oedd piau hi gydag awel ysgafn. Cyn ymadael oddiwrth ei gilydd, adroddodd Dafydd hanes yr ystorm a fu yn ei gartref y bore hwnnw i gael gan ei rieni ildio iddo i fynd i'r môr, ac fel y proffwydai ei fam y byddai'n sicr o edifarhau am ei ystyfnigrwydd.
Digalon iawn oedd Gwen Jones wrth baratoi dillad Harri i'r fordaith. Gwlychodd bob dilledyn o'i eiddo â'i dagrau wrth eu plygu a'u rhoi ymaith yn y bag, ond ni ddywedodd air mewn gwrthwynebiad iddo fynd. Rhoddodd ei athro yn yr Ysgol Sul Feibl iddo, ac addawodd Harri i'w fam y darllennai gyfran ohono bob dydd hyd y gallai. "A chofia di, machgen i," meddai, a'r dagrau'n perlio yn ei llygad, "am weddio bob dydd. Yr Un fydd yn edrych ar d'ôl di ar y môr ag oedd gartref;" ac addawodd Harri wneud fel y gofynnai.
Noson fawr i Harri a'i fam oedd y noson olaf cyn i'r llestr hwylio—haws ei dychmygu na'i disgrifio— noson a gofiodd Harri am ei oes, ac a adawodd argraff ddofn arno. Nid oedd y ffarwelio'n blygeiniol drannoeth mor drwm, yr oedd hyder yng nghalon ac ar wyneb Gwen Jones y caffai ei hannwyl fachgen yn ôl yn ddiogel, a'r bachgen yntau'n credu'n ddiysgog y cadwai gweddïau ei fam ef ymhob rhyw berygl.
Y noson honno, yn ei ystafell cyn mynd i orffwys, cymrodd Harri olwg ffarwel ar bapur y Capten, ac yna clodd ef yn ofalus gyda'r offerynnau morwrol yn y gist, gan guddio'r agoriad mewn twll o'r tu ôl i bren yn y nenfwd, a dodi'r bocs dan y gwely. Gwyddai ei fam am gynnwys y bocs ond y papur—nid oedd Harri wedi yngan gair wrthi am hwnnw. Ond nid ei gloi rhag i'w fam ei weld oedd ei amcan, ond rhag digwydd i rywun arall ddod o hyd iddo tra y byddai oddicartref. Nid bod ganddo achos i amau neb yn neilltuol, ond pwy fedrai ddweud beth a allai ddigwydd tra byddai ef i ffwrdd?
Ar fore hyfryd yn y gwanwyn cynnar yr hwyliai'r llongau ar fron y spring-tide o borthladd yr Aber—gwenai'r haul yn siriol ar y cwmni o geraint a chyfeillion y rhai hwyliai, oedd wedi ymgasglu ar y cei i ganu'n iach i'w hanwyliaid. Nid oedd yno neb i ffarwelio â Harri, a diau y buasai'n teimlo'n hiraethus a digalon onibai bod cyffro a bywiogrwydd yr ymadawiad wedi mynd a'i feddwl yn llwyr. Yr oedd saith o longau'n hwylio'r bore hwnnw, a'r agerfad bychan ond cryf—y "Wave of Life," coffa da amdano—oedd i'w tynnu i lawr yr afon i'r bar, i fin y cefnfor,—yn ôl a blaen yn brysur nes cael y llongau i gyd ynglŷn wrthi â rhaffau, a'r pilots, un ar fwrdd pob llestr, yn crochlefain cyfarwyddiadau er cael y llongau yn glir o'r cei heb unrhyw anhap. Ac yna i ffwrdd a hwy, gan nofio'n urddasol ar y don, a'r cadachau'n cael eu chwifio o'r lan arnynt. Wrth fynd i lawr yr afon, gwelai Harri draw yn y pellter ar ei aswy fro ei faboed. Nid oedd pentref Minymor yn weledig, gan fod pen y bryn rhyngddo ag ef. Ond gwelai drwyn y Wylan, ac ar y llechwedd tudraw iddo ffermdy Bryneryr, lle y bu gynt mor falch o'r brecwast ar ôl ei noson yn y cwch, ac wrth edrych ar y lan, daeth iddo atgof hiraethus am ei hen gyfaill, Capten Morris. Ac wrth fynd yn nês i'r môr, ymagorai mwy o'r hen draeth yr oedd mor gynefin ag ef, o flaen ei lygaid; ond pan yr oedd bron wedi ymgolli wrth syllu ar fro ei faboed, galwyd arno at ei waith mewn tôn awdurdodol gan y mate, "Rwan, Harri, tyrd at y rhaff 'ma; paid a sefyll i synnu."
Ac erbyn edrych, er ei syndod, gwelai fod y morwyr wrthi'n brysur o'i gwmpas tra y bu ef yn synfyfyrio. Yr oeddynt yn agoshau at y bar, a'r gwynt yn ffafriol, a'r dwylo oherwydd hynny wrthi'n lledu'r hwyliau i'r awel.
Neidiodd Harri i gynorthwyo ar yr alwad, a chyda hynny, clywai'r pilot yn gorchymyn gollwng y rhaff a ddaliai y llestr wrth yr agerfad. Trodd yr agerfad yn ôl am y porthladd, a daeth cwch i nôl y pilot o'r Blodwen ac ychydig gyfeillion i'r Capten a ddaethai allan i'r bar i'w hebrwng. Ac yn awr yr oedd yr holl longau'n cymryd cwrs deheuol yng ngrym yr awel, ac yn dechrau dawnsio ar y tonnau. Hardd oedd eu golwg gyda'r hwyliau gwynion wedi eu lledu arnynt. Erbyn hyn, teimlai Harri'r llong yn ysgwyd yn rhyfedd dano—cerddai ar hyd y dec fel dyn meddw, a llawer gwaith bu ymron mesur ei hyd ar y dec. Edrychodd Blodwen wedi am y llongau eraill, a gwelai fod y cael y blaen arnynt i gyd. Y "Gwalia" oedd yr agosaf atynt. Ceisiodd weld Dafydd ar y bwrdd, a chododd ei gadach gan ddisgwyl cael amnaid o ffarwel oddiwrtho, ond nid oedd neb i'w weld yn chwifio'n ôl.
Wyth oedd nifer criw y "Blodwen," a gwaith pennaf Harri oedd cynorthwyo'r cogydd gyda gweini i anghenion corfforol y criw. Rhag fod rhai o'r darllenwyr yn ddieithr i fywyd ar longau hwyliau bychain, feallai y byddai'n well dweud dipyn am y dull o fyw ar y bwrdd tra ar fordaith. Yn agos i ben ôl y llong yr oedd y caban—yno y bwytai ac y cysgai'r capten a'r mate, a'r gweddill o'r dwylo ymhen blaen y llong—yn y forecastle. Ar ganol y dec yr oedd math ar gwt bychan, gwyn—y galley, lle y paratoid yr ymborth, ac y golchid y llestri, etc. Wedi mynd i'r môr, rhannwyd y criw yn ddwy wyliadwriaeth, pedwar ymhob un i gymryd gofal y llong bob yn ail. Pedair awr fyddai hyd pob gwyliadwriaeth, ond yr un rhwng pedwar ac wyth o'r gloch yn yr hwyr. Rhennid honno'n ddwy wyliadwriaeth o ddwy awr yr un—y dog-watch fel y'i gelwid i'r amcan o newid trefn y ddwy wyliadwriaeth, fel, os byddai Harri'n gwylio un diwrnod, dyweder, rhwng hanner nos a phedwar y bore, o wyth y bore hyd hanner dydd, o bedwar hyd chwech y prynhawn, ac o wyth yr hwyr hyd hanner nos, byddai ei oriau'n wahanol y diwrnod dilynol. Heb y dog—watches ni buasai'n digwydd felly. Yng ngwyliadwriaeth y mate y rhoed Harri, a drwg oedd ganddo hynny. Dyn o'r Aber o'r enw William Jones oedd y mate—dyn bychan, byr, nwydwyllt, gyda wyneb cul, a braidd yn goch, a thusw o flew ar ei en fel gafr. Nid oedd Harri'n hidio fawr amdano—yr oedd wedi bod dipyn yn chwyrn ac annymunol wrtho yn ystod ei ddyddiau cyntaf ar y llong. Y ddau arall yn yr un wyliadwriaeth a Harri oedd John Evans, morwr yn tynnu at ganol oed, gyda gwallt a barf felyngoch, ac yn gwisgo clust dlysau, a Sam Thomas, morwr ieuanc tuag ugain oed, bachgen eithaf dymunol a charedig.
Rhyw ysgwyd mwy dano yr oedd y llong fel y cerddai'r dydd ymlaen, ac y cryfhai'r awel, a theimlai Harri cyn hir ryw anghysur yn dechrau yn ei goluddion. Clywsai lawer am salwch y môr, a chyn y nos daeth i wybod drwy brofiad chwerw beth ydoedd. O! yr oedd yn sâl, a rhoisai unrhyw beth am gael ei draed ar dir sych. O! na fuasai ei fam yno gydag ef i weini amo—mor ofalus y byddai hi â'i dwylo tyner pan fyddai rhyw anhwyl arno. Ond ychydig sylw a gymrid ohono gan neb o'r criw—yr oeddynt i gyd wedi bod drwy'r unrhyw brofiad, ac wedi caledu o'r herwydd. Tra y parhaodd y salwch, nid oedd Harri'n cymryd diddordeb mewn dim. Pe dywedasid wrtho fod y llong ar suddo, ni chredai y buasai'n werth ganddo wneud unrhyw ymdrech i achub ei hun. Da fuasai ganddo gael marw i ddianc o'r pangfeydd, ac wrth gwrs, ni feddai archwaeth o gwbl at fwyd.
Ond fel popeth, aeth y salwch heibio, ac ar y trydydd dydd gallodd Harri godi a mynd ar y dec. Yr oedd min ar ei archwaeth erbyn hyn—teimlai y gallai fwyta unrhyw beth a phopeth a roid iddo. Yr oedd hefyd yn alluog i rodio'r bwrdd heb syrthio, a chyfaddasu'i hun yn weddol lwyddiannus i symudiadau ansicr y llong. Bellach yr oedd y llong yng nghanol yr eigion— dim golwg ar dir yn unman, dim ond y tonnau'n codi ac yn gostwng o'u cwmpas, a'r llestr bychan un munud yn dawnsio fel pluen ar frig ton, a'r munud nesaf yn ymgladdu ar ei ben rhwng dwy don, nes bod y dŵr yn torri drosti. Tybiai Harri fod y llong yn hwylio'n gyflym yn ei blaen, ac nid oedd ganddo syniad ymha le ar y cefnfor yr oeddynt. Gofynnodd i John Evans am oleuni ar y mater, ac atebodd hwnnw eu bod wedi troi Pen Tir (Land's End), trwyn terfynol Cernyw, ond bod gwynt gwrthwynebus yn codi i'w rhwystro i fyny'r Sianel. Wyt ti ddim yn gweld bod y gwynt yn groes?" meddai, "mae hi am ystorm fawr cyn y nos. Mae arna i ofn mai i'r America y chwythir ni yn lle i Hamburg." Ac erbyn i Harri sylwi, gwelai fod y wybr yn llawn cymylau bygythiol yn dod o'r dwyrain, a bod y tonnau fel pe'n ymgynddeiriogi fwyfwy, ac i'w dyb ef, yn bygwth dinistrio'r llestr bychan.
A chyn y nos yr oeddynt mewn ystorm fawr— cymaint fel y bu raid tynnu'r hwyliau i lawr bob un, rhag eu rhwygo'n chwilfriw. A dyna orchwyl fu hynny yn yr ystorm! Ac er mai newydd wella o salwch y môr yr oedd Harri, danghosodd fod defnydd dyn ynddo trwy ei fedr a'i ddewrder yn cynorthwyo. Gorchmynwyd ef gan y mate i ddringo i fyny'r mast ac hyd i flaen hwylbren i ollwng rhaff, ac i fyny ag ef ar hyd y rigging fel y byddai'n dringo coed yng nghae Ynyswen gynt. Ysgydwai'r llestr dano nes peri ei fod weithiau'n crogi uwch y dyfnder, a thro arall mewn perygl o ddisgyn ar y dec a chael ei chwilfriwio, ond ag un troed ar raff, plygai dros yr hwylbren gan ddal ei afael ag un llaw a datod y rhaff a'r llall. Cryn gamp oedd hynny yn yr ystorm, a'r tywyllwch yn dechrau gordoi popeth, a rhuad yr ystorm yn y rhaffau, a thwrf y tonnau cynddeiriog yn ei gwneud yn amhosibl iddo glywed gorchymyn oddiar y dec. Ond yn awr daeth yr addysg a dderbyniasai gan Capten Morris yn ddefnyddiol iddo. Er nad oedd wedi bod ar y môr ond ychydig ddiwrnodiau, gwyddai cystal a hen forwr beth oedd eisiau ei wneud, a gwnaeth ef, a disgynnodd yn ôl i'r dec yn ddiogel. Gwelodd ei fod drwy ei fedr a'i ddewrder wedi gwneud argraff ffafriol ar y mate. Wyddost ti beth," meddai hwnnw, "mae mwy o blwc ynot ti nag oeddwn i wedi feddwl, fachgen. Roeddwn i wedi amau ar d'olwg di mai rhyw dipyn o fabi mami oeddet ti." Ffordd William Jones o siarad oedd hyn; nid oedd dim yn ymddangosiad Harri i roi sail i'r fath dybiaeth.
Gwaethygu ddarfu'r ystorm drwy'r nos, a thrwy'r dydd dilynol, a chyn nos trannoeth yr oedd y llestr yn hollol at drugaredd yr elfennau. Y noswaith honno, gymaint oedd gerwinder yr ystorm, fel y barnwyd yn ddoeth i gadw'r holl ddwylo ar y bwrdd, yn hytrach na bod y naill hanner yn gorffwys tra'r hanner arall yn gwylio. Yr oedd popeth symudol ar y dec wedi ei ddwyn ymaith gan y tonnau a ysgubai drosti o'r naill ben i'r llall, a'r dwylo, mewn perygl bob munud am eu hoedl, yn cydio'n dyn mewn rhywbeth sefydlog rhag cael eu hysgubo dros y bwrdd i ddyfrllyd fedd, oblegid nid oedd obaith achub neb a olchid drosodd. Tra y gwyliai rhai ymlaen ac yn ôl rhag iddynt gael eu rhedeg i lawr gan long arall, yr oedd eraill wrthi gyda'r pwmp yn ceisio gwaghau'r dwfr ohoni rhag iddynt suddo, ac un, wrth gwrs, wrth y llyw yn wastad i geisio cadw pen y llong i'r tonnau, oblegid pe troai ei hystlys i'r gwynt, buasai ar ben arnynt yn fuan. Noson ofnadwy ydoedd i'r holl ddwylo-dim siawns am gwsg na fawr drefn ar fwyd, oddigerth rhyw gwpanaid o goffi yn awr ac yn y man. Prin yr oedd neb ohonynt yn disgwyl cael byw i weld gwawr diwrnod arall. Yr oedd ysbryd anturiaethus Harri yn ei afiaeth yn y peryglon, fel pe bai'r ystorm yn deffro rhywbeth cydnaws â hi ei hunan yn ei natur, a phrofodd ei hun yn forwr da er mor ieuanc. Gwnaeth ei ran wrth y pwmp, ac mewn gwylio'r llestr, ac erbyn tua phedwar o'r gloch y bore, yr oedd pawb ond ef wedi bod wrth y llyw, ac wedi llwyr ddiffygio ar ôl y trymwaith. Pan welodd Harri'r Capten yn cymryd y llyw'r adeg honno, aeth ato i gynnig ei wasanaeth. Gyda pheth petruster, rhoddodd y Capten y llyw i'w ofal, gan orchymyn iddo'i gadw rhag symud i gadw pen y llong i'r tonnau, a dyna orchwyl a alwai am ei holl nerth a phenderfyniad. Ond cyflawnodd ef yn ddewr, a phan ddaeth yr adeg i un arall gymryd ei le, yr oedd y wawr yn torri; a diau na bu neb erioed yn llawenhau mwy am doriad gwawr na'r criw helbulus ar fwrdd y Blodwen." Parhai'n ystorm fawr o hyd-ond teimlent raddau mwy o hyder i'w hwynebu yng ngoleuni'r dydd. Anfonwyd adran y mate i orffwys ychydig, wedi gweld arwyddion bod yr ystorm yn agoshau i'w therfyn, a'r gwynt yn dechrau gostegu, gan mai hwynt- hwy oedd wedi bod ar eu traed hwyaf-heb gael cau eu llygaid am dros bedair awr ar hugain-a da oedd gan Harri gael rhoi ei ben i lawr, er mai caled oedd ei obennydd yn y bunk. Yr oedd yn rhy luddedig i geisio newid ei ddillad gwlyb, a melys oedd yr hûn. Ond ber fu-yn wir credai Harri nad oedd ond newydd gysgu pan glywodd y gloch yn cael ei chanu i'w galw i fyny drachefn, ond yr oedd wedi bod yng nghwsg am dros dair awr. Rhuthrodd i fyny'r grisiau i'r dec cyn gynted ag y gallai, ac wedi cyrraedd i fyny, gwelai'r holl ddynion wedi ymgasglu ynghyd i un ochr, yn edrych ar lestr arall oedd wedi bod yn llai ffodus na'r "Blodwen yn yr ystorm. Gwelai long hwyliau ychydig bellter oddiwrthynt, yn gorwedd bron ar ei hochr yn y dwfr, ac yn ymddangos mewn cyflwr enbydus iawn. "Mae hi'n debyg iawn i'r Gwalia'," clywai'r Capten, a safai gydag ysbien- ddrych yn ei law, yn ddweud wrth y mate a safai wrth ei ochr, a theimlai Harri ei galon yn rhoi naid o'i fewn wrth y dywediad, gan feddwl am Dafydd Glandon, druan. Beth os oedd ei gyfaill wedi colli ei fywyd yn yr ystorm? oedd y cwestiwn a ofynnai iddo'i hun. 'Dydi hi'n ddim math o ffit i feddwl gollwng cwch mewn môr fel hyn," ebe'r mate, "'does ganddo ddim siawns i gadw ar y wyneb."
"Ond fedrwn ni ddim edrych arnynt yn boddi," oedd ateb y Capten, "pwy ddaw hefo mi yn y cwch? Tri a minnau wnaiff y tro, ac fe gewch chwithau gymryd gofal y 'Blodwen,' William Jones."
Harri oedd y cyntaf i gynnig mynd, ond ysgydwai Capten Roberts ei ben. Na, 'rwyt ti'n rhy ifanc," meddai, "a 'rydw i wedi addo i dy fam i gymryd d'ofal di."
Gwelodd Harri wên wawdlyd yn chwarae ar wyneb William Jones wrth y geiriau hyn, ac apeliodd yn daer am gael mynd, nes o'r diwedd i'r Capten ildio. Yr oedd pob un o'r criw'n barod i fynd, ond detholodd y Capten dri at Harri, a chyda chryn anhawster y gollyngwyd y cwch drosodd, ac y cadwyd ef rhag taro'n erbyn y llong. Ond fe lwyddwyd, ac ymaith â hwynt ar eu hynt beryglus. Mor wahanol ydoedd mewn cwch ar y weilgi aflonydd rhagor nag ar y traeth. Teflid ef fel pluen gan y tonnau, a disgynnai weithiau i ddyfnder a'r tonnau fel mynyddoedd o'i gwmpas. Anodd oedd rhwyfo mewn môr mor aflonydd, ond wedi hir ymdrech, a mwy nag unwaith fod mewn perygl i'r cwch gael ei ddymchwel, cyrhaeddwyd yn ddigon agos at y llestr i weld i sicrwydd mai y "Gwalia ydoedd, a bod y dwylo wedi mynd am loches i'r man uchaf posibl ar y llong o gyrraedd y môr trochionog. Wedi gweld y perygl yr oedd criw y Gwalia" ynddo, rhwyfwyd yn fwy egnïol nag erioed, nes gallu mynd yn ddigon agos i daflu rhaff i'r trueiniaid. Peryglus i'r eithaf oedd mynd a chwch mor agos i'r llong, gan y gallai ton godi'r cwch a'i daro yn erbyn ei hochr " nes ei ddryllio'n chwilfriw. Ond yr oedd yn rhaid mynd yn agos iawn i daflu'r rhaff, ac nid ar y cynnig cyntaf na'r ail y llwyddwyd i'w thaflu i gyrraedd y dynion. Ond fe lwyddwyd, ac wedi gweld bod pen y rhaff yn ddiogel ar y "Gwalia," ciliwyd y cwch dipyn pellach yn ôl er mwyn diogelwch. O un i un daeth y dynion, druain, o'r llong ddrylliedig ar hyd y rhaff i'r cwch, a llawen iawn oedd Harri pan gyrhaeddodd Dafydd yn ddiogel, ac yr oedd llawenydd Dafydd yn sicr yn fawr, yn enwedig wrth weld Harri ar y cwch yn ei dderbyn. Y capten oedd y diweddaf i adael y llong. Sicrhaodd ef y rhaff am ei ganol, a thaflodd ei hun i'r eigion i'w dynnu i mewn i'r cwch gan ddwylo ewyllysgar er maint eu lludded. Cyrhaeddwyd yn ôl i'r Blodwen " yn ddiogel, ac yno chwiliwyd am bob diddanwch a chysur posibl i'r dynion a fuasai mewn cymaint cyni.
Erbyn hyn yr oedd y gwynt wedi lleddfu, er bod y tonnau'n dal yn derfysglyd, ac at yr hwyr trodd yr awel ryw gymaint o'u tu,—digon ffafriol iddynt allu lledu rhai o'r hwyliau, a cheisio gwneud am Plymouth i lanio'r dynion a achubwyd o'r Gwalia," ac i wneud Blodwen," dipyn o atgyweiriadau bychain ar y ar ôl difrod yr ystorm. Cyn iddynt gyrraedd i'r porth— ladd, clafychodd un o griw y "Blodwen,"—Sais o'r enw Robson, fel effaith gwlychu ac oeri yn yr ystorm,—a bu raid ei gludo yntau i'r ysbyty yn Plymouth a'i adael yno. Ni allai Capten y Blodwen" hwylio ymlaen yn fyr o ddyn, ac er llawenydd i Harri, cymrodd Capten Roberts Dafydd i lanw'r bwlch. Er ei fod wedi colli ei ddillad yn y "Gwalia," crefodd yn daer am gael hwylio gyda'r "Blodwen," ac addawodd Harri rannu ei ddillad ag ef hyd nes y cyrhaeddent ben y daith.
Ni chymrai'r mate yn garedig at y ddau fachgen, er y cymrai ofal rhag dangos hynny yng ngwydd y Capten. Ond clywodd Harri ef yn mwmian wrtho'i hun rywbeth am yr hen hogia Minymor "na" mewn tôn a arwyddai nad oedd yn rhyw bleidiol iawn iddynt. Rhoed Dafydd yng ngwyliadwriaeth y Capten yn lle Robson, ac yn hynny yr oedd yn ffodus. Ychydig a welai'r bechgyn ar ei gilydd gan y byddai'r naill yn cysgu pan y byddai'r llall yn gwylio oddieithr yn y dog-watch, pan y byddai'r holl ddwylo ar ddihun.
VII. YN HAMBURG
CYRHAEDDWYD i Hamburg heb i ddim neilltuol iawn ddigwydd, a da oedd gan y bechgyn gael bod mewn porthladd unwaith yn rhagor. Yn un peth, yr oedd yr ymborth yn well yn y porthladd, ac nid peth bychan oedd hynny yng nghyfrif bechgyn o oed Harri a Dafydd, ac ar eu mordaith gyntaf. Nid oedd dim ond bara caled a chig hallt i'w gael ar y fordaith, ond yn y porth- ladd ceid cig ffres ac aml enllyn blasus. Edrychai'r bechgyn ymlaen hefyd at gael mynd i'r lan, i weld golygfeydd y dref dramor; ond am rai dyddiau wedi cyrraedd, gwaharddodd y Capten iddynt adael y bwrdd rhag iddynt fynd i dramgwydd mewn lle estronol.
Yr oedd Harri wedi torri cryn nifer o lestri ar y fordaith, wedi ymgodymu ar y dec ansefydlog ar ei ffordd ôl a blaen a bwyd i'r caban, ac wrth olchi'r llestri; a dywedasai'r Capten y cai brynu rhai yn eu lle yn Hamburg. Un prynhawn, wedi dadlwytho'r llong, daeth cyfle hir-ddisgwyliedig y bechgyn i fynd i'r dref. Aethai'r Capten yn fore i'r dref ar fusnes, a'r mate a ofalai am y llestr yn ei absenoldeb. Yr oedd John Evans, y morwr yr oedd y bechgyn ar delerau neilltuol o gyfeillgar ag ef, yn ymwisgo i fynd allan, a gofynnodd y bechgyn a gaent fynd gydag ef i brynu llestri. Cewch," ebe John Evans, "ond gwell i chi ofyn i'r mate." Gwnaed hynny, a chafwyd ei ganiatâd, ac ymaith a'r ddau yn llawen eu bron yng nghwmni John Evans, ar y dealltwriaeth eu bod i ddychwelyd yn ddiymdroi wedi prynnu'r llestri. Yr oedd John Evans yn bur gyfarwydd â Hamburg—wedi bod yno droeon o'r blaen gyda llongau o'r Aber, ac aeth a hwynt i siop lestri.
Ychydig Saesneg oedd gan y siopwraig, ond llwyddodd John i wneud ei hun yn ddealladwy iddi, a chafodd y llestri. Yr oedd ar John Evans eisiau mynd ymlaen i'r dref i fwynhau ei hun am y prynhawn, ac ar ôl dod o'r siop, dywedodd wrth y bechgyn, Gwell i chi fynd a'r llestri i'r llong. Mi wyddoch y ffordd yn ôl, mae'n debyg. Dim ond i lawr y stryd yma, a throi ar y dde yn y pendraw, a mi fyddwch yno.
Dilynwyd y cyfarwyddiadau, a deuwyd yn ôl i'r llong. Yr oedd William Jones yn eu disgwyl yn ôl, a gofynnodd yn awdurdodol am gael gweld y llestri. Archwiliodd hwynt yn fanwl fel pe i chwilio am fai ynddynt (a diau mai dyna ei amcan), ac, o'r diwedd, wrth edrych powlen (basin) brynasid, meddai, "Mae crac yn hon. Ewch â hi'n ôl i'w ffeirio'r munud yma." Ac i'r lan a'r ddau yn ebrwydd, ac am y siop. Erbyn cyrraedd yno, ni wyddent sut i ddweud eu neges wrth y siopwraig, a dyna lle'r oeddynt: Harri'n curo'r bowlen a'i fysedd i arwyddo nad oedd ynddi'r sŵn priodol, a Dafydd yntau'n pwyntio ati â'i fys, ac yn dweud, "Crac! crac!" Edrychai'r wraig yn fileinig arnynt, a dechreuodd ddweud rhywbeth, ond nid oedd ganddynt syniad beth a ddywedai. Wrth i'r wraig siarad, curai Harri'n galetach, a gwaeddai Dafydd yn uwch yn ddiarwybod iddo'i hun, nes peri i'r wraig hithau godi ei llef, ac o'r diwedd, cododd ei breichiau'n fygythiol, a daeth tuag atynt o'r tu ôl i'r cownter, ac ymlaen at ddrws y siop. Tybiodd y bechgyn mai ei bwriad oedd galw am heddgeidwad atynt, ac ymaith a'r ddau heibio iddi fel mellten. Yn eu brys i ddianc, nid edrychasant i ble 'roeddynt yn mynd, a phan arosasant o'r diwedd wedi colli eu hanadl, gwelsant eu bod mewn lle hollol ddieithr iddynt, ac ni wyddent pa ffordd i droi am y llong. Wrth gwrs, ni allent ofyn i neb am gyfarwyddyd, ac eisteddasant i lawr ill dau ar garreg drws yn eu penbleth. Daeth heddgeidwad heibio iddynt, a thaflodd drem amheus tuag atynt pan yn eu pasio. Wedi mynd ryw ugain lath rhagddo, trodd yn ôl a phasiodd hwynt drachefn, a'r amheuaeth ar ei wedd lawer cryfach erbyn hyn. "Mae hwn yn ein hamau ni," ebe Harri, "gwell i ni fynd oddiyma."
Ac i ffwrdd â'r ddau, gan gerdded yn gyflym, a throi llygad ofnus dros eu hysgwydd. Wedi mynd dipyn ymlaen, edrychodd Harri'n llechwraidd yn ôl, ac er ei fraw, gwelai fod y swyddog yn parhau i'w dilyn o hirbell. Beth wnawn ni, Dafydd?" meddai, mae o ar ein hôl ni." "Mi rown ni draed dani hi,' meddai Dafydd, ac ymaith a'r ddau nerth eu carnau. Cyn gynted ag iddynt gychwyn rhedeg, clywsant chwythu pib o'r tu ôl iddynt, ac er iddynt droi am y gongl gyntaf y daethant ati, cawsant eu hunain yn y ddalfa gan ddau swyddog yn bur fuan, a'r swyddog a'u dilynasai o'r cychwyn yn brysio o'r tu ôl iddynt wedi colli ei anadi. Gwelodd y bechgyn eu bod yn y ddalfa am nas gwyddent pa beth, ac yn eu dychryn, dechreuodd y ddau geisio dadleu eu diniweidrwydd mewn Cymraeg â'r swyddogion. Gwrandawai'r swyddogion Ellmynaidd yn syn ar yr iaith estronol, ac ni wyddent beth i'w wneud o'r bechgyn. Ond cydiodd y swyddog a'u gwelodd gyntaf yn y bowlen ddaliai Harri yn ei law o hyd, a siaradai â'i gyd- swyddogion mewn dull a barai i'r bechgyn feddwl yr amheuid hwy o ladrata'r bowlen. Pan yr oedd y swyddogion yn gwneud osgo i gychwyn â hwynt i'r carchar, edrychodd y bechgyn dychrynedig i bob cyfeiriad am ymwared o'u cyfyngder, ac er ei lawenydd, pwy a welai Dafydd yn dod oddidraw ond Capten Roberts! Bron wedi colli arno ei hun rhwng dychryn a llawenydd, crochlefodd, "Capten Roberts annwyl, dowch yma," nes tynnu sylw cryn lawer o bobl heblaw'r Capten, yr hwn a safodd yn syn wrth glywed ei alw mewn Cymraeg ar stryd Hamburg, ac ni allai ddirnad pwy a alwai arno. Tynnwyd ei sylw at y twr swyddog- ion, a brysiodd tuag atynt, a synnodd yn aruthr pan welodd pwy oedd yn y ddalfa. Ychydig fu cyn deall yr amgylchiadau gan y bechgyn, ac er eu llawenydd, wedi iddo siarad ychydig eiriau â'r swyddogion, cawsant eu hunain yn rhydd, ac yn mynd i gyfeiriad y llong gyda'r Capten. Chwarddodd y Capten yn galonnog wedi clywed holl hanes y bowlen grac, a phan ddaeth at y siop lestri, meddai, "'Rhoswch chi, rhaid i ni gael powlen gyfa yn lle hon." Aeth i'r siop, ac mewn byr amser, llwyddodd i gael gan y wraig ei newid. Meddwl mai gwerthu llestri roeddech chi oedd y wraig, meddai hi, ac yn ceisio dweud nad oedd arni eisiau powlia," meddai, dan chwerthin, ar y ffordd i'r doc:
Wedi cyrraedd yn ôl i'r llong, rhoes wers lem i John Evans am adael y bechgyn wrthynt eu hunain yn y dref, ac i'r mate am eu hanfon yn ôl eu hunain i'r dref. Ac wrth y bechgyn dywedodd, "Rhaid i chi gofio mai nid ym Minymor yr ydach chi. Peidiwch chi a mynd i'r lan eto heb gwmpeini i edrach ar 'ch ôl chi." Prin yr oedd angen y cyngor ar y ddau fachgen, gan eu bod wedi cael gwers i'w chofio gyda'r bowlen grac. Ni wnaeth y digwyddiad hwn unrhyw ddaioni i'r berthynas anhyfryd oedd eisoes cydrhwng Harri a'r mate.
Ychydig gawsant weld ar dref Hamburg yn ystod eu harosiad yno. Cymrodd Capten Roberts y ddau gydag ef un prynhawn i weld prif adeiladau'r dref, a chawsant fynd gyda John Evans i'r lan un hwyrnos, a dyna'r oll. Ond digwyddodd un peth cyn iddynt ymadael â Hamburg, a ddylanwadodd i fesur helaeth ar gwrs dilynol bywyd Harri.
Y noson olaf iddynt yn y porthladd, a'r llong bron yn barod i hwylio i ffwrdd gyda glo i Bordeaux yn Ffrainc, digwyddai bod pawb o'r dwylo wedi mynd i'r lan, oddieithr y mate a'r ddau fachgen. Nid oedd gwaith gan neb i'w wneud, ond bod angen un o leiaf i wylio'r llong. Yn eu hystafell ymhen blaen y llong yr oedd y bechgyn, yn ysgrifennu llythyrau adref at eu teuluoedd, a dyletswydd y mate oedd gwylio'r llong. Wedi gorffen ei lythyr at ei fam, aeth Harri ar y dec am gegaid o awyr iach, gan adael Dafydd i orffen ei lythyr. Yr oedd rhwng wyth a naw o'r gloch, ond yn noson serennog, hyfryd, a rhodiodd Harri unwaith neu ddwy ar hyd y dec heb weld y mate yn unman, ond tybiodd mai i lawr yn y caban yr oedd, er nad oedd goleuni i'w weld yno. Aeth yn ôl at Dafydd i'r forecastle, ac erbyn hynny yr oedd yntau wedi gorffen ei lythyr. Dywedodd Harri wrth Dafydd nad oedd William Jones yn y golwg yn unman. Mae'n rhaid mai wedi mynd i'r lan y mae," ebe Dafydd. "Os nad i lawr yn y caban y mae," oedd ateb Harri. "Wel," ebe Dafydd, "lle bynnag y mae o, tyrd i mi dy lythyr : mi reda i â nhw i'r post; fydda i ddim dau funud."
Ac i ffordd ag ef i fyny'r grisiau, a thros ochr y llong i'r lan. Ymhen ysbaid wedi iddo fynd, daeth Harri i fyny grisiau'r forecastle, a phan o fewn ychydig i ben y grisiau, ac yn ddigon uchel i weled allan, heb fod ei hunan yn y golwg, digwyddodd droi ei olygon, yn hollol ddifwriad, tuag at y cei, a gwelai rywun yn sefyll yno yng nghysgod un o'r pileri a ddaliai'r ystordy mawr ar y cei. Ciliodd y bachgen i lawr un gris, rhag i'r dyn, pwy bynnag ydoedd, ei weled. Tybiodd, ar y cyntaf, mai'r mate ydoedd, ac mai yno'r ydoedd i'w gwylio hwy, i edrych beth a wnaent wedi cael y dec a'r caban iddynt eu hunain. Ond nid hir y bu'r dyn cyn dod o'r cysgod, a gwelodd Harri nad y mate ydoedd, ond rhywun llawer talach a theneuach nag ef. Daeth y dyn yn araf at ymyl y llong, ac wedi edrych i bob cyfeiriad, neidiodd yn ysgafn dros ymyl y llong i'w bwrdd, a Harri o'i guddfan yn gwylio bob symudiad o'i eiddo. Daeth i gyfeiriad y forecastle, a chiliodd Harri i lawr y grisiau, gan dybied ei fod am ddod i lawr. Ond, tra'n disgwyl yn bryderus iddo ddyfod i'r golwg, clywodd Harri sŵn ei draed yn troi yn ôl o ben y grisiau. Daeth yntau yn lladradaidd i fyny'r grisiau drachefn i'w wylio, a gwelodd ef yn mynd gyfeiriad y caban. Clustfeiniodd a cheisiodd dremio i weld ei symudiadau ymhellach, ond nid oedd dim i'w glywed na'i weled oddiwrtho, a chasglodd Harri mai wedi mynd i'r caban yr oedd. Penderfynodd mai lleidr ydoedd, ac mai ei ddyletswydd ef, fel yr unig un o'r criw oedd ar y bwrdd, oedd amddiffyn y llestr. Cofiodd fod gan Jim, y cook, law-ddryll dan ei obennydd. Yr oedd Jim a Harri'n gyfeillgar â'i gilydd, ac yr oedd Jim wedi dangos y llaw-ddryll lawer gwaith i Harri, ac wedi egluro iddo'r ffordd i'w ddefnyddio, er nad oedd Harri erioed wedi bod yn ei danio. Hen forwr ydoedd Jim, wedi morio llawer gyda dynion na buasai'n ddiogel cysgu'n yr un ystafell â hwy heb law-ddryll llwythog wrth law, ac ni chymrai Jim lawer a chysgu yn unman heb fod y llaw-ddryll ganddo dan ei obennydd. Aeth Harri i lawr i'r forecastle ac at wely Jim. Nid oedd ond prin wedi cydio yn y llaw-ddryll pan y clywodd sŵn traed yn dynesu at ben grisiau'r forecastle. Paratodd ei hun i wynebu'r gelyn, ac i ymladd am ei fywyd, gan gwbl gredu mai'r dyn a welsai'n mynd tua'r caban oedd yn dod tuag ato ar amcan drwg. Safodd gyferbyn a throed y grisiau yn ddigon crynedig, mae'n wir, a'r llaw-ddryll yn ei law a'i ffroen tuag at yr agorfa. Daeth esgidiau rhywun i'r golwg, ac yna'i goesau. Cyn gynted ag y bydd ei ben yn y golwg, mi daniaf," meddai Harri wrtho'i hun wrth weld y rhannau isaf o'r corff yn dod i'r golwg; a diau y buasai wedi tanio, onibai i Dafydd, canys Dafydd ydoedd, ddigwydd gwaeddi, "Harri, ple 'rwyt ti?" Teimlodd ryw chwys oer drosto wrth feddwl mor agos y bu i ladd ei gyfaill annwylaf, a synnai ato'i hun na bai wedi adnabod esgidiau a llodrau Dafydd cyn iddo ddigwydd gwaeddi. Ond aeth y teimlad heibio, adfeddiannodd ei hun, a cheisiodd egluro mor glir ac mor gyflym ag y gallai, i Dafydd, am y dyn a welsai'n mynd tua'r caban.
"Mae'n siwr i ti mai lleidr ydi o," meddai wrth ddiweddu ei stori, "ac mae'n rhaid i ni ei ddal."
"Ond sut?" gofynnodd Dafydd. "Cymer ofal o hwn'a, tro 'i ben o oddiwrtha i," ychwanegodd gan fwrw golwg pur amheus ar yr arf peryglus.
Dododd Harri ddarn o bren yn llaw Dafydd.
"Tyrd," meddai, "mi awn ni am y caban, un bob ochr i'r llong, ac os daw o i dy gyfarfod di, rho un iddo hefo'r pastwn 'na, ac os daw o i fy nghyfarfod i, mi dania i hwn arno fo. Tyrd reit ddistaw 'rwan," gan gychwyn i fyny'r grisiau, a Dafydd yn ei ddilyn,

a'i galon yn curo'n bryderus. Daeth y ddau i gyfarfod ei gilydd wrth ddrws y caban heb weld neb. Yr oedd y drws yn agored, a gwelent oleuni gwan yn ystafell y mate, a chlywent sŵn rhywun yn symud islaw iddynt yn awr ac eilwaith.
"William Jones sydd yna," sibrydai Dafydd. Ond ysgydwai Harri ei ben, ac amneidiai ar Dafydd i fod yn berffaith ddistaw. Cyn hir, clywent sŵn traed yn dynesu at y grisiau i ddod o'r caban, a dododd Harri Dafydd i sefyll ar un tu i ben y grisiau, gan sefyll y tu arall ei hun.
"Saf di'r ochr yna," meddai yn ei glust, "a bydd yn barod efo'r pastwn 'na os na fedra i 'i ddychryn o hefo hwn."
"Paid a'i saethu o, Harri," ebe Dafydd, a chydag iddo ddweud y gair, daeth pen y dyn i'r golwg, a chyn gynted a'r fellten, daliodd Harri'r llaw-ddryll yn ei wyneb.
"Back," ebe Harri'n awdurdodol, ac ufuddhaodd y dyn a'i freichiau i fyny, Harri'n ei ddilyn i lawr o ris i ris, a Dafydd wrth ei gwt yntau.
"Goleu'r lamp, Dafydd," ebe Harri, wedi iddynt gyrraedd gwaelod y grisiau (gan mai goleuni gwannaidd roddid gan y gannwyll oedd yn olau ar y bwrdd), " i ni gael chwilio am raff i'w rwymo fo nes daw'r Capten yma."
"Peidiwch a fy rhwymo, wir, hogia bach," meddai'r dyn mewn Cymraeg glân, gloyw, nes syfrdanu'r bechgyn, a bod agos i Dafydd ollwng gwydr y lamp o'i law.
"Ai Cymro ydach chi?" oedd cwestiwn Harri, pan ddaeth ato'i hun, er mai prin yr oedd angen gofyn y fath gwestiwn yn wyneb yr hyn lefarasai'r dyn eisoes. " Beth ydi'ch busnes chi yng nghaban y 'Blodwen'?"
"Tyn di'r dryll i lawr, machgen i," meddai'r dyn, "'rwyt ti'n fy nychryn i; ac mi ddweda i wrthoch chi beth oedd ama i eisio 'ma."
Hanner ufuddhaodd Harri i'w ddymuniad trwy ollwng ei fraich i lawr, ond cadwai ei fys ar y trigger, ac yr oedd Dafydd ac yntau'n gwylio'n fanwl bob ysgogiad o eiddo'r dyn, rhag iddo geisio dianc neu wneud rhyw niwed iddynt.
"Ai o'r Aber yr ydach chi'ch dau?" gofynnodd y dyn,—dyn, fel y gwelai'r bechgyn erbyn hyn, at oed y mate, a golwg lled afler arno, a llygaid bychain aflonydd arwyddai nad oedd yn gymeriad i ymddiried ynddo.
"O ymyl yno, o Finymor," ebe Harri.
"Mi wn i am y lle," ebe'r dyn. "Tuag wyth mlynedd yn ôl, yr oedd William Jones, y mate sy hefo chi, a minnau'n hwylio ar yr un llong, y 'Lark.'
"Glywsoch chi sôn amdani hi?"
"Llong Capten Morris," ebe Harri'n agor ei lygaid gan syndod cynhyddol, "'roeddem ni yn ei adnabod ef yn dda iawn."
"O," ebe'r dyn, a'i lygaid yn tanio," 'roeddwn inna'n ei adnabod o—yn well na chi, mae'n debyg; a mae yntau'n siwr o'm hadnabod inna pan wêl o fi eto."
"Wêl o monoch chi yn ei fyw," ebe Harri, " mae o wedi marw."
"O 'n wir; mae'n dda iddo fo hynny," ebe'r dyn, gyda threm a ddychrynai'r bechgyn.
Teimlai Harri ei waed yn twymo wrth glywed y dyn yn siarad mor ddiystyrilyd am ei hen gyfaill, ond ymataliodd rhag dweud dim i'w amddiffyn rhag cythruddo'r dyn, ac arosodd iddo fynd ymlaen efo'i stori.
"Roedd gin i bapura o werth mawr, a wyddai neb ond William Jones a Chapten Morris amdanyn nhw. Yn Hambro 'ma roedd y 'Lark,' a mi es i 'sgarmes yn y dre ryw noswaith. Mi laddwyd dyn, a fi gafodd y bai. Mi ges fy ngyrru i garchar am naw mlynedd, a'r wythnos ddweutha y gollyngwyd fi'n rhydd. Mi welais William Jones ar y stryd y noson o'r blaen heb iddo fo ngweld i, a 'rydw i wedi gwylio'r llong 'ma byth er hynny, a phan glywis i 'ch bod chi'n hwylio fory, mi benderfynis y mynnwn i gael chwilio am fy mhapura i edrach oeddan nhw gin William Jones, Ac mi feddylis i fod pawb wedi mynd i'r lan heno; dwn i ddim o ble'r andros y deuthoch chi."
"Gawsoch chi'ch papura?" oedd cwestiwn parod Harri, wrandawai'n astud ar stori a'i tarawai fel un anhygoel bron.
"Naddo," meddai'r dyn," ond 'rydw i'n siŵr ohonyn nhw. Dyna chi wedi clywed f'ystori fi, a 'rydw i 'n disgwyl y gad'wch chi i mi fynd, rhag i mi gael fy ngyrru'n ôl eto i'r carchar."
Edrychodd Harri a Dafydd ar ei gilydd fel pe mewn amheuaeth beth i'w wneud, a pha un ai i gredu'r stori ai peidio. Y munud nesaf, yr oedd y ddau'n mesur eu hyd ar lawr y caban, wedi'u taro i lawr gan y dyn dieithr, yr hwn a fanteisiodd ar eu heiliad o ddiffyg gwyliadwriaeth, a chyn iddynt ddod atynt eu hunain, yr oedd y dyn wedi dianc. Edrychai'r ddau fachgen yn syn ar ei gilydd, nes i Dafydd chwerthin yn galonnog, a dweud, " Wel, rydan ni'n ddau blismon nobl. Tyrd, Harri, mynd o'r caban ydi'r gorau i ni, cyn y daw William Jones yn ôl." Ond pan yr oedd y ddau'n cychwyn i fyny'r grisiau, clywent sŵn cerddediad trwm yn agoshau at ddrws y caban, a rhedasant i freichiau'r mate.
"O felly! " meddai, mewn tôn sarrug, " dyma beth sy'n mynd ymlaen. Mynd i'r caban wedi i mi droi fy nghefn, ai e? Mae arna i awydd rhoi blaen y rhaff ar 'ch cefna chi'ch dau." Ac yna, mewn tôn fwy amheus, " Beth fuoch chi'n wneud yma?"
"Rhyw ddyn fuo yma eisio'ch gweld chi, William Jones," meddai Harri. " Welsoch chi mono fo yn 'ch cyfwr chi? Newydd fynd o 'ma mae o."
"O, thâl rhyw stori wneud fel 'na ddim," ebe'r mate yn anghrediniol, "dyn eisio ngweld i! Pwy oedd o?"
"Wn i ddim," ebe Harri, " ddeudodd o mo'i enw; dim ond deud ei fod o'n 'ch nabod chi, a'i fod o hefo chi ar y ' Lark ' wyth mlynedd yn ôl."
"Beth! fuo Twm Dafis yma?" gofynnodd y mate yn gynhyrfus, "beth oedd arno fo eisio?"
"Wn i ddim beth oedd ei enw fo, ond eisio rhyw bapura oedd arno fo."
"O!" meddai'r mate, mewn tôn a arwyddai ollyngdod, "ydi'r hen stori honno gyno fo o hyd felly? Ffwrdd a chi allan 'rwan, neu mi fydd y Capten i mewn."
Ac allan y bu raid mynd heb gael chwaneg o oleuni ar ddirgelwch y papurau gan y mate. Gwyddai'r bechgyn nad oedd fawr o berygl i'r Capten gael clywed gan y mate am yr helynt, gan na allai achwyn arnynt am fynd i'r caban, heb orfod dweud ei fod yntau wedi esgeuluso'i ddyletswydd trwy adael y llong. Felly, aeth yr helynt heibio, ond siaradodd y ddau fachgen yn hir y noswaith honno am y digwyddiad rhyfedd. Pwy oedd Twm Dafis, tybed, a beth oedd ei gysylltiad â William Jones a Chapten Morris? Ceisiai Dafydd ddyfalu beth allsai'r papurau fod, tra y ceisiai Harri ei berswadio mai twyll oedd holl stori'r dyn, ac mai lladrata oedd ei amcan yn dod i'r llong. Ond ynddo 'i hun ni wyddai'n iawn beth i'w gredu, ond yr oedd stori Twm Dafis wedi ei wneud yn bur anesmwyth. Ai tybed fod y stori'n wir, a bod rhyw gysylltiad rhwng y papurau a gawsai ef gan yr hen Gapten â'r dirgelwch? Os mai am y papurau hynny y chwiliai Twm Dafis, yna nid oedd gan yr hen Gapten hawl amynt, ac felly nid ei eiddo ef (Harri) oeddynt, ond eiddo Twm Dafis. Dyfalodd lawer yn ei wely y noson honno ar y mater, a pho fwyaf a feddyliai amdano, sicraf yn y byd y teimlai mai ganddo ef yr oedd y papurau y chwihai Twm Dafis amdanynt. Awyddai am fwy o oleuni ar y dirgelwch, a phenderfynòdd holi Wiíliam Jones yn gynnil, pe digwyddai ei gael mewn tymer rywiog.
VIII. GADAEL HAMBURG
Y BORE wedi'r digwyddiad ddisgrifiwyd yn y bennod ddiweddaf, hwyliai'r "Blodwen" o Hamburg am Bordeaux yn Ffrainc, a thybiai Harri iddo weld Twm Dafis yn sefyll ar y cei pan gychwynent.
Un noson dawel, pan yr oedd y "Blodwen" yn hwylio drwy Fôr y Gogledd a'i phen tua'r de, digwyddai fod Harri'n sefyll ym mhen blaen y llong yn bur agos i William Jones, y mate. Yr oedd y mate wedi bod mewn tymer neilltuol o addfwyn trwy'r dydd, ac yn awr edrychai'n bur dymherus, wrth ysmygu a'i bibell glai, a'i bwysau ar ymyl y llong. Penderfynodd Harri geisio gael allan dipyn o hanes y papur a pherthynas Twm Dafis ag ef. " 'Rydw i 'n methu peidio meddwl am y dyn hwnnw welsom ni yn Hamburg," meddai, wedi gwylio 'i gyfle, " ydych chi'n meddwl mai yn Hamburg y bydd o weddill ei oes?" "O! na," oedd ateb y mate, "mae'n debyg y bydd o yng Nghymru cyn y byddwn ni. Ond gin Capten Morris y mae'r papurau, neu gyno fo 'roeddan nhw tra 'roedd o 'n fyw." Yr oedd Harri yn falch o weled y mate mor dafod-rydd, a manteisiodd ar y cyfle i gael chwaneg ohono os gellid. "Pwy oedd pia nhw?" gofynnodd drachefn.
"Mi ddeuda i ti'r hanes gan dy fod yn cymryd y fath ddiddordeb ynddo fo," ebe'r mate, gan aillwytho'r bibell. "Faint sy—ryw wyth mlynedd neu naw yn ôl—dydw i ddim yn siwr iawn faint sydd—beth bynnag i ti, mordaith ola' Capten Morris oedd hi—'roedd Twm Dafis a minnau'n hwylio ar y 'Lark' hefo fo. Ymhfith y criw yr oedd Hispaenwr, ac ar y daith o Cadiz yn yr Hispaen i Hamburg, fe'i tarawyd yn wael iawn. Ganddo fo yr oedd y papura. Wn i ddim yn iawn beth oeddan nhw, ond mai sôn am ryw arian wedi'u cuddio oedd ynddyn' nhw. Mi wydda' Twm Dafis yn dda amdanyn nhw—mi fu yn eu hastudio lawer gwaith hefo'r dyn. A rhyw noswaith, cyn i'r dyn farw, mi dreiodd Twm ddwyn y papura odditan y gobennydd lle'r oedd o yn 'u cadw nhw, pan oedd yr Hispaenwr yn cysgu, ond mi fethodd. Ac wedi iddo fo farw, mi aeth yno i chwilio amdanyn nhw, a mi wnaeth andros o row am iddo fethu cael hyd iddyn' nhw. 'Roedd o'n cyhuddo'r Capten a minna o fod wedi'u dwyn nhw, a wydda' fo ddim prun ohonon ni'n dau. Ond mi wyddwn i fod y Capten wedi'u cael nhw gin yr Hispaenwr cyn marw, ond wyddai Twm mo hynny, a doeddwn i ddim am ddweud wrtho fo. A rhyw ddiwmod wedi i ni gyrraedd Hamburg, mi ddaeth i mewn i'r llong wedi cael diod, a mi ymosododd yn ffymig ar yr hen Gapten, ac am hynny y cafodd o 'i yrru i'r carchar. Creadur gwyllt ofnadwy ydi o. Dyna hi'r stori i ti."
"Felly," ebe Harri, " does gin Twm Dafis ddim hawl i'r papura?"
"Dim o gwbl," ebe'r mate, "dim mwy na finne, er ei fod o 'n dweud fod y dyn wedi eu haddo iddo. Ond mi welais i 'r hen Gapten â'm llygaid fy hun yn eu cael nhw gan Dimetro, 'r Hispaenwr. Cofia di, 'dydw i ddim yn deud nad alla fod Dimetro wedi eu haddo i Twm, ond yn siwr i ti, mi ddigiodd wrtho fo wedi iddo fo dreio'u dwyn nhw."
"Peth rhyfedd iawn oedd iddo fo dreio'u dwyn nhw, a nhwtha wedi'u haddo iddo."
"O! gweld y dyn yn wael 'roedd o, ac ofn i'r Capten neu fi gael gafael ynddyn nhw. Ond dydw i ddim yn meddwl fod gwerth yn y byd ynddyn nhw. Ond, dywed i mi, pam yr wyt ti'n cyrnryd ' cymaint o ddiddordeb yn yr hanes?"
"Dim ond mod i 'n methu deall beth oedd yn cymell Twm Dafis i ddod i'r caban y noson o'r blaen, ac yn meddwl, faint, tybed, o'i stori o oedd yn wir," ebe Harri, dan wrido wrth gofio nad oedd yn dweud yr holl wir, ond yr oedd yn rhy dywyll i'r mate allu gweld ei wyneb.
"Mi ga i 'i weld o 'n yr Aber eto," ebe'r mate, "a mi fydd yn iawn hefo mi wedi deall nad oes a wnelo fi ddim a'i bapura fo. Hen fachgen eitha ydi Twm, ond ei fod o'n un gwyllt gynddeiriog."
Ac ar hynny, terfynodd yr ymddiddan, ac ni fu gair arall weddill y fordaith rhyngddynt ar y pen. Amlwg iawn nad oedd y papurau'n pwyso fawr ar feddwl y mate, ond anodd oedd gan Harri beidio meddwl amdanynt, er y teimlai'n fwy bodlon yn eu cylch ar ôl cael sicrwydd gan y mate mai eiddo Capten Morris oeddynt i'w rhoddi iddo.
Caed awel ffafriol a môr caredig ar y daith nes cyrraedd i dueddau gogleddol Ffrainc, ond yno un prynhawn amgylchynwyd y llestr â niwl na welsai Harri cyn hynny ei debyg. Yn hollol ddirybudd, cauwyd y llong i mewn gan niwl mor drwchus fel mai'n brin y gellid gweled wyneb y môr o'u deutu. Cenid y niwlgom yn barhaus, a chedwid gwyliadwriaeth fanwl yn y naill ben a'r llall i'r llong. Clustfeinid am sŵn niwlgom o"'longau eraill, ac os clywid sŵn un, cenid y niwlgom yn uwch er rhybuddio'r llong arall. Yr oedd y glust yn llawer mwy defnyddiol i wylio wrthi na'r llygad dan y fath amgylchiadau. Niwl haf ydoedd heb chwythiad o awel i gynhyrfu wyneb yr aig, a safai'r llong yn berffaith lonydd ar y dyfnfor, a'r hwyliau'n hongian i lawr yn llipa oddiwrth yr hwylbrennau. Pryderus iawn oedd bron y Capten—gweU ganddo'r dymestl gref a'i pheryglon y gallai ymladd â hwynt na pherygl Uonydd, distaw'r niwl—pan na wyddai pa funud y rhedid hwy i lawr gan agerlong gyflym; ac adlewyrchid ei bryder angerddol ef ar wynebau'r dynion, dewred oeddynt. Yn sydyn, tua thri o'r gíoch yn y prynhawn, chwalodd y niwl mor ddisymwth ag yr ymgasglasai ganol dydd, a beth welent o fewn ychydig beUter iddynt—lîai na chwarter miUtir— ond agerlong fawr yn dod yn syth amdanynt. Pe na chodasai'r niwl pan y gwnaeth, diau y buasai'r agerlong wedi mynd drwy'r " Blodwen," ac ni buasai mwy i'w ysgrifennu am Harri a Dafydd. Yn brin yn wir y gallodd ei hosgoi wedi clirio o'r niwl, gan mor agos y daethai ati. Gwnaeth y waredigaeth argraff ddofn ar feddwl y ddau fachgen.
Ni chawsant groesi Bau Biscay—y bau enwog am ei dymhestloedd—heb iddo ddangos rhai o'i branciau iddynt. Am ddeuddydd taflwyd hwy o gwmpas gan donnau aruthrol, ac onibai fod y " Blodwen " o wneuthuriad da, diau y buasent wedi gwneud niwed iddi. Buont mewn perygl am eu bywydau oddiwrth y tonnau a olchai fwrdd y llong, gan ysgubo popeth symudol dros y bwrdd. Er mawr brofedigaeth i Jim, y cook, daeth y dŵr i'r galley, gan ddiffoddi'r tân, a bygwth ei foddi yntau, a gorfu iddo wneud hynny a allai yn y ffordd o dwymo bwyd ar y stôf yn y forecastle. A da iddo mai yno yr oedd, oblegid cyn hir wedi diffoddi'r tân, daeth ton anferth dros flaen y llong; tarawodd y galley oddiar ei sylfeini, ac ymaith âg ef dros y bwrdd i ganlyn y lli. Balch iawn oeddynt o gyrraedd yr hafan ar ôl y fath ystorm, pe na bai i ddim ond i gael galley newydd i alluogi Jim i baratoi ei flasus fwydydd iddynt.
O Bordeaux hwyliodd y llong i Lerpwl, ac oddiyno i'r Aber, ac ymhen y tri mis o'r diwrnod y gadawsai ei gartref, yr oedd Harri'n glanio'n ôl yn yr Aber o'i fordaith gyntaf, a phrysur iawn oedd Dafydd ac yntau i fynd adref wedi sicrhau'r llong, i weld eu teuluoedd a chyfeillion eu mebyd.
Cyn mynd i'r gwely y noswaith gyntaf gartref, rhaid oedd cael agor y gist a thynnu allan y trysorau. Yr oedd y papurau wedi pwyso cymaint ar ei feddwl wedi ymweliad Twm Dafis fel mai prin y disgwyliai eu cael yn ddiogel yn y gist. Ond yno yr oeddynt. Agorodd hwynt i adgyfnerthu ei gof, a sicrhau eu cynnwys, gan yr ofnai y deuai Twm Dafis i ymholi yn eu cylch, ac y gwnai bob ymdrech i'w had-feddiannu, a barnu oddiwrth yr hyn gymrasai le yn Hamburg a'r hyn a glywsai gan William Jones.
Yr ail ddiwmod wedi cyrraedd i'r Aber, pan aeth Harri i lawr i'r llong yn y bore, cyfarfyddwyd ef gan y mate.
"'Roeddwn i 'n deud wrthat ti y byddai Twm Dafis yma o'n blaena ni," meddai.
Gwelwodd Harri wrth glywed ei eiriau, a gofynnodd mewn llais crynedig, "Ydi o yma?"
"Mi fu hefo mi neithiwr," oedd yr ateb, " a mae o wedi credu nad ydi'r papura ddim gin i. A wyddost ti be, mae o wedi f'argyhoeddi fi fod yna ryw werth ynddyn' nhw, a minnau wedi arfer meddwl mai lol oeddan nhw."
Ofnai Harri iddo ofyn a glywsai ef rywbeth amdanynt, a bron na thybiai fod y mate yn amau ei fod yn gwybod, ond yn ffodus iddo daeth y Capten heibio i roi pen ar yr ymddiddan. Tipyn yn gynhyrfus fu mynwes Harri trwy'r dydd tra'n ceisio cyflawni'i waith. Yn y prynhawn yr oedd y criw yn cael eu talu i ffwrdd, gan fod y fordaith drosodd; ond yn gymysg a'i lawenydd o fynd a dyrnaid go dda o aur i'w fam, yr oedd yr anesmwythyd o berthynas i'r papurau, ac ar y ffordd adref, temtid ef i ddweud yr holl hanes wrth Dafydd Glandon. Yr oedd ganddo berffaith ffydd yn ei gyfaill. ond rhywfodd anodd oedd ganddo ddweud y gyfrinach wrth neb—hyd yn oed wrth ei fam ei hun, ac ymataliodd rhag dweud wrth Dafydd.
Trannoeth yr oedd yn rhydd wedi cwblhau ei fordaith gyntaf, ac heb ail shippio, ac aeth Dafydd ac yntau yn y prynhawn am dro i'r chwarel oedd yn ymyl y pentref i gael ymgom gyda rhai o'u cyfëillion a weithiai yno.
"Wyt ti am shippio hefo'r 'Blodwen' eto?" gofynnodd Harri i Dafydd, tra ar y ffordd tua'r chwarel. "Ydw, os medra i. Wyt ti?" oedd yr ateb. "Nac ydw," ebe Harri'n benderfynol, "rydw i am fynd ymhellach na Hamburg, os ca i gyfle. Wyddost ti fod Capten Evans y Morfa adre?"
"Na wyddwn i," ebe Dafydd.
"Wel, mae o, a mae'i long o yn Lerpwl. Dyna i ti long nobl sy gyno fo—llong bedwar mast—a mae hi'n mynd i Awstralia a llefydd pell felly. 'Rydw i am ofyn ga i fynd hefo fo. Ddoi di?" "Wel, na ddof wir! Awstralia! Mi fyddi i ffwrdd am flynyddoedd, os doi di'n ôl o gwbl. Mae'n well gin i fentro mywyd ar longau bach yr Aber, a bod adra yn o aml na mynd i lefydd pell."
"Does dim mwy o beryg mynd y ffordd honno nag sy yn ymyl cartre. Yr un un ydi'r môr ymhob man. A meddwl, ngwas i, gymaint o betha newydd sy i'w gweld ffordd honno."
"Waeth i ti heb siarad ddim, ddo i ddim i ti. Mi fasa mam yn codi'r pentre taswn i'n deud y gair Awstralia wrthi hi."
Pe bai Dafydd wedi dangos yr awydd lleiaf i ffafrio mynd i Awstralia, diau y buasai Harri wedi crybwyll wrtho am ynys y trysor, ond gan ei fod mor benderfynol yn erbyn, ni ddywedodd air am y peth, a thipyn yn oeraidd fu rhyngddynt am y gweddill o'r prynhawn.
Diau y dealla'r darllenydd beth a gymhellai Harri i awyddu am fynd i dueddau Awstralia. Rywle y ffordd honno yr oedd Rahiti, ynys y trysor, am yr hon y meddyliai mor aml. Yn ychwanegol at hynny, cofiai'r bachgen yn barhaus mai yn rhywle y ffordd honno y collasid ei dad; ac er efallai y gellid disgwyl i'r ystyriaeth hwnnw ei dueddu i beidio mynd y ffordd honno, cryfhau ei awydd i fynd tuag yno a wnai.
Tra bu'r ddau fachgen yn y chwarel, daeth dau ymwelydd pur ddieithr i Finymor—un dyn byr, corffol, a'r llall yn dal a theneu, ac argraff y môr yn drwm ar osgo'r ddau. Holasant am drigle gweddw Capten Morris, ac wedi cael eu cyfarwyddo, aethant tuag yno. Agorwyd y drws iddynt gan y weddw, a gwahoddwyd hwy i mewn wedi iddi ddeall mai dau hen gydymaith i'r Capten ar lawer mordaith oeddynt.
"'Roedd yn ddrwg gin i glywed am ei farw," ebe'r dyn byr, "yr oeddwn i 'mhell oddicartref ar y pryd, neu b'aswn yn sicr o fod yn yr angladd."
Buont wrthi bob yn ail yn adrodd eu hatgofion am yr hen Gapten, y naill a'r llall yn ei ganmol fel Capten ac fel dyn, ac yn ceisio dweud mor hoff oeddynt ohono. Ac o'r diwedd, wedi hysbyddu ei ragoriaethau, meddai'r cyhyrog,
"Wyddoch chi, Mrs. Morris, mi cymrwyd fi'n wael yn Hamburg y tro diweddaf yr oedd y 'Lark' yno, a mi gadawyd fi yno yn yr ysbyty. 'Roedd gin i bapura pwysig yn fy meddiant, a mi gadewis nhw yng ngofal y Capten. Ac wedi i mi wella, chefais i ddim cyfle i ddod y ffordd hyn o gwbl hyd heddiw. Ai tybed fod fy mhapurau i yma ar ei ôl?
Pe buasai Mrs. Morris yn wraig graff, diau y sylwasai ar anghysonderau amlwg y stori a adroddid wrthi, ond gwraig syml, garedig, gredinol ydoedd. Yn siriol, gwahoddodd hwynt i chwilio'r gist fawr lle cadwai'r Capten ei bapurau, ac meddai, " Mae'r cwbl o'i bapurau yma, ond y rhai gafodd Harri bach, Bwlchglas."
"Pwy?" ebe William Jones, oblegid efe, fel y mae'r darllenydd yn ddiau wedi casglu oedd y gŵr byr, a Twm Dafis, ei gyfaill mynwesol erbyn hyn, oedd y llall, "Harri fu ar y ' Blodwen'? Wyr o rywbeth am bapurau'r Capten?"
"'Does neb ŵyr yn well," ebe'r weddw, "'roedd y ddau'n gyfeillion mawr, a Harri oedd hefo fo pan y collwyd o."
Chwiliwyd y gist mewn distawrwydd, ac meddai Twm Dafis, ar ôl mynd yn lled agos i'w gwaelod, gan gydio mewn rhyw hen chart diwerth, "Dyma fo mhapur i. Diolch yn fawr i chi, Mrs. Morris."
Ac allan a'r ddau, a thrwy'r pentref heb yngan gair wrth ei gilydd. Ond wedi cyrraedd i fan unig ar y ffordd, tynnodd Twm Dafis y papur gawsai yn y gist o'i boced, ac wedi ei rwygo'n fân ddamau, taflodd ef ar lawr.
"Wyt ti'n gweld bod y pry' wedi bod yn ein gafael ni a ninnau heb wybod?" meddai.
"'Roeddwn i'n amau arno fo y gwyddai fo rywbeth am y busnes. 'Rydw i 'n gwel'd 'rwan pam yr oedd o 'n holi gymaint o hanes y papurau," ebe'i gydymaith. "Rhaid i ni gadw'n llygaid ar y gwalch bach, a rhwystro iddo gael y blaen arnom, a chael y papur oddiarno os oes modd. Rydan ni'n ddau ymhen un," ebe Twm Dafis.
Daeth hanes yr ymweliad i glustiau Harri gyda'r nos pan alwodd i edrych am Mrs. Morris, a chynhyddodd ei anesmwythyd. Gwyddai bellach fod y gelynion ar ei warthaf, ond penderfynodd y gwnai ei orau i'w trechu. Bu'n gorwedd yn effro'n ei wely am oriau y noson honno yn ceisio penderfynu sut orau i ddiogelu'r papurau gwerthfawr rhag ei elynion. Rhaid, wrth gwrs, fyddai mynd â hwy i'w ganlyn pan ai i'r môr, oblegid pwy wyddai beth allai ddigwydd i'w fam yn ystod ei absenoldeb? A rhaid fyddai mynd â hwy, os y caffai le fel y disgwyliai gyda Chapten Evans ar daith i Awstralia, rhag y digwyddai y deuai cyfle iddo ymweled â Rahiti, ynys y trysor. Ond beth i'w wneud â hwy yn y cyfamser—hyd yr âi i'r môr? Prin y credai y byddent yn ddiogel yn ei gist yn y llofft, hyd yn oed wedi ei chloi, oblegid pwy wyddai nad allai'r ddau ddihiryn dorri i'r tŷ a'u lladrata? Meddyliodd am guddfanau diogel tuallan i'r tŷ, ac wedi dwys ystyriaeth, penderfynodd o blaid hen geubren y gwyddai amdano yn y cae eithin fel y lle diogelaf i'w guddio. Yn blygeiniol drannoeth, tynnodd yr amlen o'r gist fach, ac wedi edrych i bob cyfeiriad i sicrhau nad oedd neb yn ei wylio, aeth i'r cae eithin, a dododd ef mewn twll dirgelaidd mewn hen geubren, gan deimlo ei fod yn hollol ddiogel yno.
Rhyw fis a fu'r "Blodwen " yn yr Aber cyn hwylio drachefn am yr Almaen gyda llechau. Yn ystod yr amser yna byddai Harri'n ymwelydd lled fynych a'r Aber, a chyfarfyddai â William Jones a Twm Dafis yno bron bob tro. Siaradent yn gyfeillgar ag ef— yn ymddangosiadol felly—ond gwyddai Harri mai brad oedd yn eu calon tuag ato. Rhoisant ar ddeall iddo eu bod ill dau yn hwylio ar y "Mona" am Hamburg o Gaernarfon, cyn gynted ag y byddai'n barod, a chymrent amynt ei wawdio'n ysgafn eifod wedi cael digon ar y môr, ac am lynu ar y tir. Ni ddywedasai Harri hynny wrthynt, ond yr oedd yn fodlon iddynt gredu felly, ac ni cheisiodd eu cywiro. Ond druan o Harri! yr oedd Dafydd Glandon yn hollol anfwriadol a difeddwl-ddrwg wedi ei fradychu iddynt, a gwyddai'r ddau mai gyda'r "Arfonia," llong fawr Capten Evans, y bwriadai hwylio o Lerpwl. Daeth y dydd i'r " Blodwen " hwylio, ac aeth Harri i lawr i'r Aber gyda Dafydd i'w weld yn cychwyn. Ni welodd yr un o'i ddau elyn y bore hwnnw, a chymrodd yn ganiataol eu bod hwythau wedi eu galw at y "Mona." Ymhen deuddydd wedi i'r "Blodwen" hwylio, ymadawodd Capten Evans am Lerpwl at ei long, wedi addo lle i Harri, ac y cai air pan fyddai angen iddo ymuno â'r llong. Teimlai Harri raddau o ollyngdod wedi i'w ddau elyn ddiflannu fel y tybiai, a chyrchodd yr amlen a'i chynnwys oll-bwysig i'r tŷ, a dododd ef yn ofalus yng ngwaelod y gist fawr oedd ganddo'n mynd i'r môr—cist gref o wneuthuriad ei ewythr, y saer.
IX. YR AIL FORDAITH
NEWYDD drwg iawn i Gwen Jones oedd fod Harri am fynd mor bell oddicartref. Yr oedd wedi rhyw ledobeithio ei fod wedi cael digon ar y môr ar ôl y fordaith gyntaf, a loes i'w chalon oedd deall am ei fwriad i fynd gyda'r "Arfonia," Yr oedd rhyw atgasedd i'w 'chalon ynglŷn â'r enw Awstralia. Wyddai hi ddim am y lle, ond mai yno yr hwyliasai ei phriod hawddgar, Peter Jones, ar ei fordaith olaf, a chredai fod yno ryw beryglon anghyffredin yn y rhan hwnnw o'r byd, a phrin y credai weithiau y deuai Harri'n ôl. Ceisiodd ymhob modd ei ddarbwyllo rhag mynd, ond yn ofer. Pe gwybuasai am bapur y Capten, diau y dyblasai ei hymdrechion i'w atal. Yr oedd y bachgen rywfodd yn ystod ei arosiad byr adref wedi mynd yn anwylach nag erioed yn ei golwg, a'r bachgen yntau, er yn garedig wrth ei fam gynt, wedi dangos mwy o serch ac anwyldeb tuag ati ar ôl dod o'r fordaith nag a ddangosasai erioed o'r blaen, gan ei fod yn mynd yn hŷn, ac yn gallu sylweddoli cariad mam yn well.
Ymhen yr wythnos wedi i Capten Evans fynd i Lerpwl, daeth gair oddiyno i Harri yn erchi iddo ddod yno yn ddioed. Trwm i'r fam oedd y ffarwelio, a thrwm fuasai i'r bachgen onibai bod gobaith—gobaith llwyddiant yn y wlad bell a dychweliad gorfoleddus—; yn ei gynnal. "Peidiwch a phoeni, mam," meddai wrth gychwyn, "mi ddo i 'n ôl i chi wedi gwneud fy ffortiwn, a mi wnawn ni blas hardd ar y cae eithin, a mi fyddwch yn meddwl y byd o'ch bachgen wedyn."
Gwenu'n bruddaidd wnai'r fam wrth ei eiriau.
"Wel, machgen i," meddai, a dagrau'n perlio yn ei llygaid, " does dim ond rhoi d'ofal di i'r Brenin Mawr. Yn Ei law O y byddi di ymhob man. Cofia fod yn fachgen da, a chymer ofal ohonot dy hun."
Dyna'i chyngor olaf iddo pan gychwynai am y trên, a llawer gwaith wedi hynny y daeth golygfa'i ffarwelio a'i fam yn fyw i gof Harri.
Cyn y nos, yr oedd ar fwrdd yr "Arfonia," llong hardd bedwar mast, yn un o ddociau Lerpwl, yn rhwym i Valparaiso ar ochr orllewinol de'r Amerig, ac oddi yno, fel y tybid, i Awstralia. Er ei syndod a'i fraw, pwy welai Harri ar y dec yn ei ddisgwyl ond William Jones cyn-fate y "Blodwen," gyda gwên fuddugoliaethus ar ei wyneb. Ceisiodd Harri guddio'i deimladau rhagddo, ond synnodd fwy nag erioed at sirioldeb ei groesawiad iddo. Yr oedd mor wahanol i'r hyn a ddisgwyliai oddiwrth William Jones, ac amheuai— yn wir, gwyddai—fod rhyw gynllun ar dro. Ond yr oedd y dyn yn ymddangos mor onest yn ei lawenydd o weld Harri. Os mai ffug ydoedd, rhaid ei fod yn rhagrithiwr digymar.
"'Roeddwn i 'n meddwl 'ch bod chi wedi shippio ar y ' Mona,' " ebe Harri'n ddiniwed.
"'Roeddwn i wedi shippio, ond Capten Evans ddaru bwyso'n daer arna i a Thwm Dafis i ddod hefo'r 'Arfonia.'"
"Twm Dafis! ydi yntau yma hefyd? ebe Harri, gan fradychu ei syndod.
Amheuai Harrí fod gwên watwarus yn chwarae am eiliad ar wyneb William Jones wrth weld fel yr oedd y newydd am Dwm Dafis wedi peri syndod i'r bachgen. Ond os oedd gwawd ar ei wyneb, am eiliad y bu, ac atebodd mewn tôn eithaf naturiol.
"Ydi,—neu mi ddaw yma cyn hir. Wyt ti wedi synnu?" gofynnodd William Jones.
"Nac ydw i, erbyn meddwl," ebe Harri, gan ail-feddiannu ei hun yn dda.
Nid oedd ball ar garedigrwydd William Jones i Harri y noson honno. Gwnaeth ei orau i'w wneud yn gartrefol ar y llestr, a'r fath oedd ei fwyneidd-dra fel yr amheuai Harri ei fod wedi ei gam-farnu yn y gorffennol.
Bore trannoeth y daeth Twm Dafis i'r llong, ychydig oriau cyn iddi hwylio, ac yr oedd yntau'n dangos yr un sirioldeb tuag at Harri ag a wnaethai William Jones. Methai Harri eu deall. Er ei fod ar brydiau bron credu yn eu gonestrwydd a'u didwylledd, eto ofnai mai ar ddrwg amcan yr oeddynt. Gwelai ddarfod iddynt fod yn rhy gyfrwys iddo hyd yn hyn, ac wedi gwylio 'i symudiadau pan nad amheuai hynny. Ond yr oedd y papur gwerthfawr yn ei feddiant, a phenderfynodd gadw meddiant arno hyd y gallai. Gwelai, neu tybiai, ei fod wedi gwneud camgymeriad trwy ddod a'r papur i'w ganlyn, ac y buasai'n. fwy diogel gartref yn y gist, ond pe gwybuasai'r cyfan, ni thybiasai hynny. Dyfalai pam y bu Twm Dafis mor hwyr yn ymuno â'r llong, ond dywedasai William Jones mai wedi aros gyda chyfeillion iddo dros y nos yn Lerpwl yr oedd, ond anwiredd oedd hynny. Pan oedd Harri'n mynd o Fwlchglas i stesion Minymor, yr oedd Twm Dafis o'r tu ôl i'r gwrych yn ei wylio, a phah aeth Gwen Jones ymhen ychydig wedi hynny i'r siop i negeseua, aeth Twm drwy'r ffenestr i'r tŷ, ac i ystafell Harri. Ni bu'n hir cyn dod o hyd i'r gist (gwyddai amdani'n flaenorol drwy holi a gwylio), a thorri'r clo, a'i harchwilio'n fanwl, ond, fel y gwyddom, heb gael yr hyn a geisiai. Yna, wedi methu cael y papur yno, penderfynodd mai gan Harri yr ydoedd, a chyda'r trên hwyrol aeth am Lerpwl, lle'r oedd eisoes wedi anfon ei ddillad dan ofal William Jones. Dyna'r cynllun yr oedd y ddau ddihiryn wedi cytuno arno ymlaenllaw, er mwyn ceisio sicrhau meddiant o'r papur a geisient.
Ond, fel y dywedwyd eisoes, siriol a chyfeillgar oedd ymddygiad y ddau at Harri ar fwrdd yr "Arfonia," ac ni allai Harri na ddangosai'r unrhyw sirioldeb tuag atynt hwythau, er yr ofnai mai dichell ddieflig tuag ato oedd yn eu calonnau ill dau.
Yn ffodus iddo, ni roed ef yn yr un wyliadwriaeth a'r ddau, neu ni wyddai sut y gallai gadw'r papur rhagddynt. Ond y cyfle cyntaf a gafodd i gael eu cefnau, gweithredodd ar yr unig gynllun ymddangosai iddo ef yn debyg o fod yn llwyddiannus, i gadw'i feddiant o'r papur oll-bwysig. Tynnodd yr hen amlen felen o'i gist, a dododd hi mewn bag bychan llian oedd ganddo. Yna cylymodd y bag am ei wddf fel y gorweddai ar ei fron o dan ei ddillad isaf, a theimlai fesur o ollyngdod wedi gwneud hyn nas teimlasai er ys talm, ac aeth ynghylch ei ddyletswyddau'n ysgafn-galon.
Cyn pen nemor o ddyddiau wedi gadael Lerpwl, pan yn estyn rhyw ddilledyn o'i gist, canfu arwyddion bod rhywun wedi bod yn ei harchwilio, er bod yn amlwg fod y neb fu wedi ceisio dodi popeth yn ôl yn drefnus. Ond fel y digwydd yn fynych mewn amgylchiadau o'r fath, peth bychan iawn a brofodd i Harri fod archwiliad wedi ei wneud. Ar dop ei ddillad, yn y gongl hwylusaf iddo'i gyrraedd. dodasai ei Feibl, ac arferai ddarllen cyfran ohono bob dydd yn ôl ei addewid i'w fam. Arferai ddodi'r Beibl yn ôl bob tro a'i wyneb i lawr, a'r arysgrif " Y Beibl " ar yr amlen tuag i waered. Ond y noswaith hon, pan agorodd y gist, gwelodd fod yr arysgrif tuag i fyny, yr hyn a brofai'n eglur iddo fod rhywun wedi bod yno. Symudodd rai o'r dillad, a gwelodd ychwaneg o arwyddion ymyriad. Pan ar ganol chwilio, trodd ei ben yn sydyn, a gwelodd fod llygaid un o'r criw—Sais yn yr un wyliadwriaeth ag ef—arno. Teimlai'n sicr yn ei galon mai William Jones a Thwm Dafis oedd wedi ei osod ar waith i'w wylio yn eu habsenoldeb hwy. Ond cadwodd yr amheuaeth iddo ei hun,—ni ddangosodd i'r un o'r ddau ei fod yn amau bod neb wedi bod yn chwilio'i gist.
Parhai'r ddau i broffesu cyfeillgarwch mawr â Harri yr wythnosau cyntaf o'r fordaith, pan yr hwylient tua'r De ar hyd arfordir yr Hispaen a gogledd orllewin yr Affrig i ddod i afael a'r trade winds i'w gyrru dros y Werydd, a cheisient, pan y caent gyfle, ei hyfforddi mewn materion morwrol. Y Capten a'r tri hyn oedd yr unig Gymry ar fwrdd y llestr, a phroffesai William Jones, a chadarnhai Twm Dafis hynny gyda phwyslais, mai am mai bachgen o Gymro fel hwythau oedd Harri, y cymerent y fath ddiddordeb ynddo. Morwr cyffredin oedd William Jones ar y llestr mawr hwn, ac nid swyddog fel a fuasai ar y "Blodwen," a rhyfeddai Harri ato'n dewis lle ymhlith y dynion cyffredin yn hytrach na glynu yn ei swydd. A'r unig eglurhad a gynnigiai 'i hun i feddwl Harri oedd mai rhyw amcan yn ei erbyn ef oedd o'r tu ôl i hynny.
Ond er mor gryf oedd ei amheuaeth ohonynt ar y cychwyn, lleihau yn hytrach na chryfhau yr oedd fel yr ai'r dyddiau heibio, a'u caredigrwydd hwythau'n parhau. Ac erbyn i Harri bwyso popeth yn ei feddwl, teimlai nad oedd ganddo seiliau pendant dros eu hamau. Nid oedd yr un o'r ddau wedi yngan gair wrtho ef am ei feddiant o'r papur. Y cwbl a wyddai i sicrwydd oedd eu bod wedi ymholi amdano gyda gweddw yr hen Gapten Morris. At hyn, wrth gwrs, yr oedd eu gwaith yn hwylio gyda'r "Arfonia," wedi rhoi ar ddeall iddo eu bod yn mynd gyda'r "Mona," yn anodd ei esbonio, a'i amheuaeth gref iddynt fod yn chwilio'i gist yn aros o hyd yn ei feddwl. Y ffaith amdani oedd na wyddai'r bachgen mo'i feddwl ei hun ar y mater: weithiau byddai yn eu hamau ar gyfrif y pethau hyn a'i adnabyddiaeth blaenorol o William Jones, a thro arall beiai ei hun am eu hamau a'u drwg-dybio ar gam, a hwythau mor garedig wrtho.
Ni ddigwyddodd dim anghyffredin yn ystod y rhan gyntaf o'r fordaith—tebyg yw pob mordaith ar hyd y rhan hon o'r cefnfor—tipyn o wyntoedd croes ar dueddau Ffrainc a'r Hispaen—yna wedi cyrraedd i afael a'r trade winds, gwynt ffafriol drosodd i ymyl India'r Gorilewin, ac yna rai dyddiau tawel, heb awel o fath yn y byd, yn nhueddau'r cyhydedd (equator), a'r gwres yn arteithiol. Llawer o sôn a glywsai Harri yn yr ysgol ers llawer dydd am yr equator, ac yr oedd ei ddiddordeb yn fawr yn y llinell bwysig a wahana Dde a Gogledd, er y gwyddai mai ar y map yn unig y mae, ac nad oes dim ohoni i'w weld ar wyneb y môr, fel y tybia rhai plant bach. Diddorol iawn hefyd iddo tua'r cyhydedd oedd gwylio'r pysgod hedegog (flying fish) godai o'r dwfr o gwmpas y llong, gan ehedeg gyda wyneb y dwfr. Yna wedi llwyddo i groesi'r llinell, gweithio i lawr arfordir De'r Amerig, a'r gwynt yn ansicr, ond gan mwyaf yn anffafriol hyd nes cyrraedd yn agos i benrhyn deheuol y cyfandir eang—trwyn yr Horn fel y'i gelwir. Gorchwyl anodd i longau hwyliau yw mynd heibio Cape Horn, gan groeswyntoedd cryfion, ac felly y bu'r fordaith hon. Buont mewn enbydrwydd mawr wrth geisio mynd drwy'r culfor creigiog, a thybiai Harri na chai fyw i ddychwelyd at ei f am, nac ychwaith i weld Ynys Rahiti. Ond drwy fedr y Capten ac ufudd-dod a diwydrwydd y dwylo, aethant trwodd yn ddiogel i'r Môr Tawelog, a deuthpwyd wedi pum mis o fordeithio i borthladd Valparaiso dan gysgod trumau'r Andes. Yno proffesai William Jones a Thwm Dafis fwy o gyfeillgarwch nag erioed â Harri; gwahoddasant ef i ddod i'r lan gyda hwynt, ac aeth yntau yn eu cwmni i weld y dref un noswaith. Ond wedi bodyn dangos iddo rai o olygfeydd y dref, cymhellasant ef i dafarn. Gwrthododd yn bendant fynd gyda hwy i mewn, gan ei fod wedi ei fagu yn y Band of Hope, ac wedi addo i'w fam na chyffyrddai ddiferyn o'r ddiod feddwol. Buont yn daer iawn, ond ni ildiodd Harri, a'r diwedd fu iddynt fynd i mewn hebddo, gan ei adael i fynd yn ôl i'r llong ei hun. Ar y ffordd yn ôl, prynodd lyfr Hispaneg, gan ei fod yn awyddus i ddysgu'r iaith honno, er mwyn gallu dehongli'r ysgrif ar y papur. Yr oedd wedi pigo i fyny ychydig eiriau o'r iaith oddiwrth Alffonso, Hispaenwr ymhlith y criw.
Daeth William Jones a Thwm Dafis i'r llong yn hwyr wedi yfed yn drwm. Yr oedd Harri'n ei wely, ond yn effro, a chlywodd ddigon o'u geiriau yn eu meddwdod i brofi mai ffug oedd yr holl gyfeillgarwch ddangosasent tuag ato ar y fordaith. Galwasant ef yn bob enw, a soniasant am y trysor cuddiedig, a'u penderfyniad i ddod o hyd iddo. Drannoeth, daeth y ddau at Harri i'w gymell i'r dref gyda hwynt drachefn, ond gwrthododd yn bendant fynd. Yr oedd eu geiriau y noson cynt wedi eu bradychu iddo. Gwelai mai eu hamcan oedd ei ennill i fod yn un ohonynt, ac i gael gafael yn y papur trwy deg os yn bosibl. Wedi methu'r ffordd honno, gwyddai y gallai ddisgwyl iddynt geisio trwy drais.
Un noswaith, tra'r "Arfonia" yn Valparaiso, cafodd Harri ei hun yn y forecastle gyda'r ddau Gymro a neb arall yno gyda hwynt, a theimlai cyn iddynt ddweud yr un gair wrtho fod rhywbeth ar ddigwydd yn ei hanes. Wrthi'n ysgrifennu llythyr at ei fam yr oedd Harri pan ddaeth y ddau i mewn, a chyn hir wedi iddynt eistedd, gofynnodd William Jones iddo:
"Glywaist ti i ble mae'r llong yn mynd oddiyma, Harri?"
"Do, i Awstralia," ebe yntau.
"Ie, i Brisbane," ebe William Jones.
Yna bu distawrwydd am ennyd tra'r ddau ddihiryn yn edrych ar ei gilydd, a Harri'n parhau i ysgrifennu gan gymryd arno fod yn hollol ddifater o'u presenoldeb,—er y curai'i galon gan bryder.
"Paid ag ysgrifennu am funud, Harri," ebe Twm Dafis i dorri ar y distawrwydd, ac ufuddhaodd y bachgen yn ebrwydd, gan droi i edrych arnynt.
"Mi wyddost," ychwanegodd Twm Dafis gan graffu' yn wyneb y bachgen, "mae'n debyg, pam y daeth William Jones a minnau ar y llong yma?"
"Sut y gŵn i hynny?" meddai Harri. "Capten Evans ddaru'ch cymell chi, on'tê?"
"Wel mi ddeuda i wrthat ti," ebe Twm Dafis, "a gofala am wrando'n ofalus ar bob gair ddeuda i; gan' fod hynn yn bwysig i ti."
Teimlai Harri ei hun yn dechrau crynu a gwelwi, ond ymwrolodd i wynebu unrhyw berygl allsai ddod i'w ran, gan fod yr helynt yn amlwg yn dod i bwynt.
Pesychodd Twm Dafis i glirio'i wddf, ac aeth ymlaen.
"Wyt ti'n cofio yn Hamburg pan ddois i i'r 'Blodwen' i chwilio am rywbeth oeddwn i 'n feddwl oedd gin William Jones?" gofynnodd.
"Ydw," ebe Harri.
"'Doeddwn i fawr feddwl yr adeg honno mai gin ti yr oedd y peth oeddwn i 'n chwilio amdano, ond mi wn hynny 'rwan."
"Ewch ymlaen," ebe Harri, gan ffugio llawer mwy o ddifaterwch nag a deimlai.
"Does dim ymlaen ohoni hi. Y cwbl sy gin i i'w ddeud ydi fod arnom eisio'r papur hwnnw gin ti," ebe Twm Dafis mewn tôn a chyda threm fygythiol.
"A'r cwbl sy gin inna i'w ateb ydi na fedra i mo'u rhoi nhw i chi," ebe Harri'n ddewr.
Trodd Twm Dafis ei lygaid yn awgrymiadol ar William Jones, ac yna cymrodd hwnnw'r mater i fyny mewn ffordd mwy cyfeillgar.
"Gwrando ar reswm, Harri bach," meddai. " Caru dy les di 'rydan ni. Wn i ddim wyddost ti beth ydi'r papur 'ma, a faint ydi 'i werth o?
"Wn i ddim am ba bapur yr ydach chi'n sôn, William Jones," ebe Harri.
"O! gwyddost o'r gore mai'r papur gefaist ti gan hen Gapten y 'Lark' sy gyno ni mewn golwg," meddai Willlam Jones.
"Mae'n wir y cefais i bapur ar ôl Capten Morris, ond wn i ddim beth sydd a wneloch chi â hwnnw," ebe Harri, gan ddal atynt yn ddewr.
"Rwyt ti'n ffol iawn bod mor gyndyn, gan y gallwn ni dy wneud yn ŵr bonheddig, ond i ti eu rhoi nhw i ni."
"Sut felly?" gofynnodd Harri, gan broffesu anwybodaeth.
"Wel, sôn mae'r papur am arian sy wedi eu cuddio yn un o Ynysoedd Môr y De. 'Rydan ni'n mynd yn agos i'r lle ar y daith i Awstralia, ond wyddom ni ddim ymhle ar yr ynys y mae'r cuddfan heb weld y papur. Mi ŵyr Tom Davies pa ynys ydi hi, ac ond i ti ddangos y papur, 'rydan ni'n fodlon i dy gymryd di yn bartner yn y busnes."
"Dydw i ddim yn barod i addef bod gan yr un ohonoch ddim i'w wneud a'r papur gefais i gan Capten Morris," atebodd Harri, mor gadarn ei lais ag erioed, ac aeth ymlaen i ddiweddu ei lythyr, gan nad ymddangosai bod gan yr un o'r ddau ychwaneg i'w ddweud.
Teimlai Harri ei fod wedi gorchfygu'r ddau gynllwynwr am y tro, beth bynnag, ond ni chafodd fynd o'r forecastle heb i Twm Dafis ddweud mewn tôn fygythiol, a tharo ei ddwrn ar y bwrdd i gadamhau ei eiriau, "'Rydw i 'n gwybod mai gin ti y mae nhw'n rhywle, ac yr ydan ni'n bownd ohonyn nhw'n hwyr neu hwyrach, trwy drais, os na chawn ni nhw trwy deg. 'Rwyt ti wedi gwrthod cynnig teg heno, a chei di mo'i gystal eto. Ond 'dydan ni ddim yn bwriadu d'ollwng di o'n golwg nes cael gafael amyn nhw, a waeth i ti ildio'n fuan nag yn hwyr, ildio fydd raid i ti. 'Dydi Wil Jos a finna ddim yn mynd i gymryd ein concro gin rhyw gyw—fel chdi."
Gwyddai Harri fod y ffug gyfeillgarwch bellach ar ben, ac mai gelyniaeth agored oedd i'w ddisgwyl oddiwrthynt o hyn allan, a phenderfynodd gadw'i lygaid amynt. Gofidiai erbyn hyn ddarfod iddo ddod ar yr "Arfonia," wedi gweld bod y ddau ddihiryn ymhlith y criw, a gofidiai fwy na buasai wedi hysbysu dirgelwch y papur i'w gyfaill, Dafydd Glandon. Ond yr oedd yn rhy hwyr i gywiro'r camgymeriadau, 'doedd dim ond ceisio gwneud y gorau o'r gwaethaf bellach. Nid oedd ond ieuanc iawn, a pha ryfedd iddo gael rhai munudau o ddigalondid wrth feddwl am y peryglon oedd o'i flaen? Pan yn teimlo felly, temtid ef i ddweud ei gŵyn wrth y Capten er mwyn diogelu'i hun. Deuai ei benderfyniad yn ôl drachefn i'w rwystro i wneud hynny. Teimlai y buasai hynny'n llwfrdra ynddo: gwell ganddo ymladd ei frwydr ei hun. Ar ôl y digwyddiad a groniclwyd uchod, ansefydlog fel hyn oedd ei feddwl—weithiau bron ildio a thorri'i galon, a phryd arall yn ymwroli. Ond O! teimlai ei hun yn unig, heb neb ar fwrdd y llong y gallai ymddiried ynddo, a gofyn cyngor ganddo.
O! na bai Dafydd yno: buasai'n sicr o orchfygu'r ddau gynllwynwr gyda chymorth Dafydd.
Am y ddau ddihiryn, yr oeddynt hwythau mewn cryn benbleth wedi'r drafodaeth gyda Harri yn y forecastle. Tueddai Twm Dafis i gredu nad oedd y papur oll-bwysig gan Harri gydag ef ar y fordaith, ond ei fod wedi ei guddio neu wedi ei roi i rywun i'w gadw ym Minymor, a beiai ei hun am na buasai wedi chwilio'n fanylach pan gafodd gyfle ym Mwlchglas. Ond yr oedd William Jones o'r farn yn gadarn, mai'n eu twyllo yr oedd Harri, a bod y papur ganddo yn rhywle—ond ymha le, dyna'r cwestiwn. " Mae'r papur gyno fo'n siwr i ti," meddai'n ateb i Twm Dafis, "a mae o 'n meddwl mynd i'r ynys cyn mynd adre. Pam 'rwyt ti'n meddwl 'roedd o mor awyddus i ddod hefo'r 'Arfonia,' ond gyda rhyw amcan fel hyn? Cofia di mod i 'n ei nabod o 'n well na chdi. Mae o 'n hogyn go beniog, a mi gwnaiff ni dan ein trwyna, os na dendiwn ni."
Cyn gadael Valparaiso ar y daith faith dros y Môr Tawelog, prynnodd Harri law-ddryll, gan y tybiai y byddai arno'i angen er amddiffyn ei hun.. Gwyddai'n weddol sut i'w ddefnyddio ar ôl gwersi Jim, y cook, ar y " Blodwen " ers llawer dydd.
X HARRI MEWN PERYGL
O'R diwedd daeth y dydd i adael harbwr Valparaiso, ac i ledu hwyliau ymhellach eto i'r gorllewin i groesi'r Tawelfor eang am ynys Awstralia. Bu i rai o'r dwylo adael y llong yn Valparaiso—un neu ddau ohonynt i fynd yn ôl gyda llong arall i Brydain, ac eraill i geisio gwneud eu ífortiwn mewn gwaith aur yn yr Andes,— a thramorwyr digon hyll yr olwg arnynt a gafwyd yn eu lle. Mewn canlyniad i'r cyfnewidiad, dodwyd Harri yn yr un wyliadwriaeth â William Jones a Thwm Dafis, a phur atgas ganddo oedd hynny, er nad anfantais fu iddo fel y ceir gweled.
Fel y sylwyd, yr oedd rhai o wehilion tref Valparaiso ymhlith y criw erbyn hyn, a'r iaith a'r ymddygiad yn y forecastle ar brydiau'n aflan a gwrthun i'r eithaf. Amherchid rhai o'r pethau y dysgasid Harri i'w hystyried yn gysegredig, a llawer o ddirmyg a daflwyd arno am ddarllen y Beibl a mynd ar ei liniau. Yr oedd bellach wedi colli nodded y ddau Gymro—bu eu cyfeillgarwch hwy'n amddiffyn iddo y rhan gyntaf o'r fordaith, ac er na chymerasant ran yn y gwaith o'i wawdio, ni chymerasant ei blaid chwaith. Ond glynodd y bachgen yn benderfynol wrth ei arferion da, a chan ei fod yn bur gymeradwy fel bachgen siriol ac wyneb lawen, a thipyn o ddyn ynddo, aeth yr erlid heibio bob yn dipyn. Morwr ieuanc, Parsons wrth ei enw, ddaethai i'r llong yn Valparaiso, oedd ei ddirmygydd pennaf, ac efe a ddefnyddiai'r iaith fwyaf anystyriol am y Beibl a phethau crefydd. Ond ychydig gydag wythnos wedi hwylio, bu digwyddiad a wnaeth wahaniaeth enfawr ym mherthynas Harri â Parsons.
Yr oedd y llestr y diwrnod dan sylw'n hwylio'n esmwyth ymlaen o flaen awel ysgafn, a dau o'r dynion, Simpson, Sais, a Parsons yn rhwymo hwyl ar y bowsprit gyda Harri. Rhywfodd neu gilydd, pan ddaeth chwythiad sydyn o wynt, tarawyd Parsons gan yr hwyl, nes iddo golli ei afael, a disgyn i'r môr ar ei ben. Nid oedd neb wedi gweld y digwyddiad ond Harri a Simpson, ond tra y gwaeddai'r Sais yn groch fod dyn dros y bwrdd, yr oedd Harri'n gwylio am i'r truan ddod i'r wyneb, a chyn gynted ag y gwelodd ei ben yn ymddangos, neidiodd i lawr i'r dwfr, a nofiodd yn gyflym tuag ato. Ni fu'n hir cyn cael gafael arno, a daliodd ef rhag suddo nes i gwch gael ei ollwng drosodd i achub y ddau. Nid oedd terfyn ar ddiolch Parsons i Harri am y waredigaeth, oblegid ni allai nofio, ac felly wedi boddi y buasai onibai am ddewrder Harri. Arweiniodd hyn i gyfeillgarwch mawr rhwng y ddau; daeth y gelyn yn amddiffynydd. Bu hyn yn fantais i Harri, ac yn fendith amhrisiadwy i Parsons. Bachgen o Americanwr ydoedd, wedi ei fagu'n dda, ac wedi cael addysg uwchraddol, ond wedi mynd ar gyfeiliom trwy ddilyn cwmni drwg, ac wedi dianc i'r môr ar ôl tynnu gwarth ar ei rieni, y rhai na wyddent ddim o'i hanes ers blynyddoedd. Dyna'r hanes a glywodd Harri ganddo wedi'i achub. Dangosai arwyddion amlwg o edifeirwch, a chafodd Harri ganddo addo ysgrifennu at ei rieni o Awstralia, a mynd adref y cyfle cyntaf a gaffai.
Wedi bod tua pythefnos ar y môr, cafodd Harri achos i amau bod William Jones a Thwm Dafis unwaith eto'n cynllwyn i'w erbyn. Yr oeddynt yn barhaus gyda'i gilydd, a sylwodd Harri eu bod yn newid testun eu hymddiddan pan ddeuai ef yn agos atynt. Ond er yr holl ofal a gymerent rhag iddo'u clywed, clywodd y bachgen ddigon i ddeall mai'r trysor cuddiedig oedd dan sylw ganddynt.
Un diwmod hyfryd, pan yr oedd y llestr yn llithro'n ddifyr trwy'r don o don wybr ddigwmwl, ac awel dyner falmaidd yn llanw'r hwyliau, a dim i'w wneud gan neb o'r dwylo, ond yr un oedd wrth y llyw, cafodd gyfle annisgwyfiadwy i glywed mwy o'u bwriadau dirgelaidd. Yr oedd yr hin yn drymllyd, a gorweddai llawer o'r dynion yma ac acw hyd y dec yn cysgu, pan yn sydyn y meddyliodd Harri yr âi i lawr i'r forecastle i gyrchu'r llyfr a brynasai yn Valparaiso at ddysgu Hispaneg. Pan ar ben grisiau'r forecastle, clywai siarad odditano, ac heb feddwl dim drwg, safodd i wrando, ac er ei syndod, pwy oedd yno ond ei ddau elyn. Tremiodd i lawr yn ochelgar gan blygu'i ben ymlaen, a gwelodd fod ganddynt 'chart' wedi ei thaenu ar y bwrdd o'u blaen.
"Hon ydi'r ynys yn siwr i ti," clywai Twm Dafis yn ddweud. " Rahiti, 'rydw i 'n cofio, oedd ei henw hi, ac yr ydan ni'n siwr o basio'n bur agos iddi hi cyn wythnos i heddiw, os daliwn ni ar y cwrs yma." "Faint haws fyddwn ni o wybod ei henw heb wybod ymhle y cuddiwyd y trysor," oedd ateb grwgnachlyd William Jones.
"'Rydw i 'n cofio'r plan," ebe Twm Dafis, " ond dydw i ddim yn hollol siwr. Mae yno goeden "Oes, lawer o goed, mae'n debyg," meddai William Jones yn wawdlyd.
"Ond mae'r plan, os ydw i 'n cofio'n iawn," ebe Twm Dafis, " yn dangos rhyw un goeden, ac yn ymyl honno mae'r trysor."
"A job ddifyr fydd chwilio am dani ynghanol degau o goed, mae'n debyg," ebe William Jones. "Rhaid i ni gael rhywbeth i'n helpu ni i gael hyd iddi hi."
"Mae'n werth treio'n siwr i ti, hyd yn oed heb y plan, gan na allwn ni mo'i gael o," meddai Twm Dafis, " chawn ni byth gystal cyfle. Wyt ti ddim am dynnu'n ôl, wyt ti?
Gostyngodd William Jones dôn ei lais i ateb, fel na allai Harri ei glywed. Ceisiodd blygu fwy ymlaen, ond trwy ryw anhap, llithrodd ei droed, a syrthiodd yn bendramwnwgl i'r llawr yn bur agos atynt. Pe buasai wedi disgyn o'r lleuad, ni allai ei ddyfodiad sydyn achosi mwy o fraw a synedigaeth iddynt. Nid yw'r iaith ddefnyddiwyd ganddynt yn gymwys i'w hargraffu. Gan yngan rhegfeydd arswydus, gafaelodd y ddau yn Harri gan feddwl yn sicr ei guro am wrando ar eu hymddiddan. Nid oedd amheuaeth yn eu meddwl nad wedi bod yn ceisio gwrando yr oedd y bachgen, a'r hyn a'u blinent oedd na wyddent faint a glywsai. Cydiodd William Jones ynddo gerfydd ei wddf, a dechreuodd Twm Dafis ei gicio'n ddi-drugaredd; ac wedi iddynt orffen eu brynt-waith arno, gorweddai'r bachgen yn anymwybodol yng nghongl yr ystafell o dan y bunk lle'r arferai gysgu. "Wyt ti'n meddwl y clywodd o ni?" gofynnodd William Jones.
"'Does dim sy'n fwy sicr," ebe Twm Dafis, " 'rydw i wedi sylwi ei fod o'n ein gwylio ni bob cyfle. Ond mi gofith o'r gweir yma, mi wranta, a mi gymrith fwy o ofal beth fydd o 'n wneud rhagllaw."
Syllai William Jones ar wyneb gwelw'r bachgen, a dechreuodd ofni eu bod wedi ei ladd. Croesodd yr ystafell ato i edrych a oedd yn anadlu, ac wrth blygu uwch ei ben, beth welodd ond y llinyn am ei wddf. Daeth Twm Dafis at ei ochr, a gwelodd yntau'r llinyn. "Be' di hwn?" meddai, gan afael ynddo, " dydi hwn ddim yn rhan o wisg morwr. Hwyrach mai yn y fan hyn y mae'n cadw'r papur."
Datododd y cwlwm, a thynnodd yn araf yn y llinyn. Yr oedd llygaid y ddau'n serenu pan welsant ben y bag yn dod i'r golwg, ac wedi tynnu'r amlen o'r bag, a gweld mai y papur a geisient oedd ynddo, prin y gallent feddiannu eu hunain gan lawenydd. Mewn brys mawr, a chyda dwylo'n crynu gan gyffro, lledwyd y papur ar y bwrdd, a phlygodd y ddau eu pennau uwch ei ben i'w astudio. Yn eu diddordeb dwfn yn yr ysgrif a'r cynllun oedd ar y papur, anghofiasant bawb a phopeth—anghofiwyd yn hollol am Harri druan, ac ymhen ysbaid, daeth ef ato'i hun heb yn wybod iddynt. Yn raddol y daeth i'w gof ddigwyddiadau y prynhawn—y modd y curasid ef gan y ddau forwr; a phan ddaeth ato'i hun i sylweddoli lle'r oedd a beth a'i dygodd yno, clywodd leisiau yn ei ymyl, a thybiai y swnient yn debyg i leisiau a adwaenai. Trodd ei ben yn llechwraidd i edrych tuag atynt, a gwelodd pwy oeddynt. Gorweddai o'r tu ôl iddynt, a gwelai'r ddau'n astudio rhywbeth gyda diddordeb anghyffredin, a chlywodd William Jones yn dweud, "Biti na fasan ni'n deall yr iaith; mi fydd raid i ni ofyn i Alffonso ei egluro i ni."
Teimlodd Harri dan ei wasgod am ei fag gwerthfawr. Nid oedd yno. Ei bapur ef oedd ganddynt yn ei astudio! Er ei holl ofal yr oeddynt wedi ei drechu, ac wedi cael ei bapur. Ond bachgen o feddwl cyflym ydoedd Harri. Penderfynodd ar amrantiad na chymrai ei orchfygu ganddynt—cododd ar ei ddeulin yn ddidrwst i estyn y llaw-ddryll oedd tan ei obennydd; ac wedi ei gael i'w law heb iddynt sylwi, safodd ar ei draed a'i wyneb tuag atynt, gan bwyntio atynt a'r dryll yn ei law estynedig. Llwyddodd i wneud hyn hefyd heb iddynt sylwi—gan fel yr oeddynt wedi ymgolli yn eu hastudiaeth. I dynnu eu sylw, tarawodd ei droed yn sydyn ar y llawr. Trodd y ddau eu hwynebau tuag ato, a phan welsant pwy oedd yno, a beth oedd ganddo yn ei law, bron na syrthiasant i'r llawr yn eu braw disyfyd. Gwelent ryw oleu rhyfedd a dieithr yn llygaid y bachgen, a ddywedai wrthynt am benderfyniad i danio arnynt, os nad ufuddhaent iddo. Yr oedd y bachgen yn ei gyflwr presennol, gyda dryll yn ei law, yn un i'w ofni. Taflodd y ddau eu dwylo i fyny tan lefain, " Paid tanio, Harri." A'i lais yn crynnu gan ddigllonedd, meddai yntau'n awdurdodol. "Ewch at y drws ac i fyny i'r dec; peidiwch cyffwrdd dim sydd ar y bwrdd,"
Gwelent nad oedd dim i'w wneud ond ufuddhau, ac i fyny â hwynt, Harri â'i lygaid ac â'i law-ddryll yn eu gwylio bob cam nes iddynt fynd o'r golwg. Yna cymrodd y papur yr oedd mor gyfarwydd ag ef, ac ar ôl taflu cipdrem brysiog dros ei gynnwys, dododd ef yn ôl yn yr amlen, ac yna gyda'i gyllell agorodd ddigon ar yr ochr isaf i'w mattress i ddodi'r amlen ynddo, a gwthiodd ef i mewn, gan arfaethu gwnio'r rhwyg pan gai hamdden. Sylweddolai nad diogel ei fywyd mwyach tra cuddiai'r papur ar ei gorff, a gwell oedd ganddo na pheryglu ei fywyd, i anturio colli'r papur o'r gwely, gan na theimlai ei fod yn anhepgor iddo bellach tuagat ddarganfod y trysor, er bod dipyn o gywreinrwydd ynddo i ddehongli'r ysgrifen estronol. Ni chafodd ond prin amser i guddio'r papur nad oedd rhai o'r dynion yn dod i lawr i'r forecastle.
Nid oedd yn syndod yn y byd i Harri ar ôl y digwyddiad hwn yn y forecastle weld Twm Dafis a William Jones yn troi cryn lawer o gwmpas Alffonso'r Hispaenwr. Gwyddai'n dda beth oedd ganddynt mewn golwg. Nid oeddynt wedi rhoi i fyny obeithio cael gafael yn y papur, ac yr oeddynt am hudo'r Hispaenwr i ymuno â hwynt er mwyn iddo egluro'r ysgrif iddynt. Gwyddai Harri o'r gorau y gwnaent ymdrech eto mwy penderfynol nag erioed i gael y papur oddiamo. Ganol dydd drannoeth, pan oedd y Capten yn cymryd yr haul, ys dywedir, hynny yw, yn ffeindio safle'r llong ar y cefnfor trwy sylwi ar yr haul, safai Harri'n ei ymyl. Yr oedd y Capten yn bur hoff o Harri,—yn un peth am ei fod yn Gymro ac o Finymor, ac hefyd am ei fod yn fachgen ufudd a deallus; a chan ei fod wedi cael gwersi gan yr hen Gapten Morris gyda'r offerynnau, cymerai ddiddordeb byw yn y busnes o gymryd yr haul. Gwnai'r Capten safle'r llong ar ar y pryd yn 12°S a 155°W. " Bydd raid cadw look-out ofalus heno," meddai, " gan ein bod yn agoshau at dwr o ynysoedd bychain."
"Faint sydd o ffordd rhyngom â Rahiti?" gofynnodd Harri.
"Rahiti!" ebe'r Capten, " chlywis i 'rioed sôn amdani. Pam 'rwyt ti'n holi amdani hi?"
"Dim ond mod i wedi clywed yr enw," ebe Harri, tra plygai'r Capten uwchben y chart yn edrych amdani.
"Dyma hi," meddai ar ôl ennyd, "un fechan ydi hi. Dydi hi ddim yn y twr sydd yn ein hymyl ni, ond yn y twr nesaf. Byddwn yn bur agos iddi hi cyn pen yr wythnos os na thry'r gwynt. Dyma hi—weli, Rahiti, un o'r Samoa Islands—un fechan ydyw yn ôl hwn, a neb yn byw arni."
Y noson honno, yr oedd Harri'n dod allan ar ei wyliadwriaeth gydag adran y mate am hanner nos, a gorchmynnwyd ef i "nyth y fran" ar ben y mast blaen i gadw look-out. Gwnai'r tro fel rheol i wylio oddiar ben blaen y dec, ond gan eu bod yn agoshau at ynysoedd a chreigiau peryglus, rhaid oedd wrth ofal manylach, ac felly wylied o uchter lle y gellid gweld ymhellach. Yr oedd yn noson glir, ddigwmwl, ac eisteddodd y bachgen i lawr i wylio ymlaen ac o'i ddeutu. Gwyddai mai'r mate oedd wrth y llyw am yr awr gyntaf, a'r gweddill o'r wyliadwriaeth mewn amrywiol fannau ar hyd y dec. Nid oedd Harri wedi bod yn ei orsaf uchel ond prin ddeng munud nag y clywai sŵn rhywun yn dringo i fyny'r rigging ar y chwith iddo. Ni allai ddyfalu pwy oedd yno, gan nad oedd gan neb neges i fod yno, a chwiliodd am ei lawddryll gan yr amheuai berygl. (Yr oedd wedi ei gadw ar ei berson er adeg y digwyddiad yn y forecastle.) Gwelai drwy'r gwyll rywun yn dringo tuag ato'n lladradaidd, a gwyliai'n ofalus er ceisio gweld pwy ydoedd. Ond tra 'roedd wedi ymgolli'n gwylio'r hwn a ddringai'n araf ar y chwith iddo, gafaelwyd ynddo'n sydyn gan rywun o'r tu ôl, a phan drodd ei ben, gwelodd law-ddryll yn cael ei ddal yn ei wyneb gan Twm Dafis.
"Paid dweud yr un gair," meddai Twm Dafis rhwng ei ddannedd, "neu byddi'n ddyn marw. A rho'r pistol 'na i mi."
Gwelai Harri nad gwiw iddo anufuddhau, ac felly ildiodd y dryll.
"Wnei di ddim chwaneg o niwed hefo hwn'na, machgen i," meddai Twm Dafis, gan ei daro'n ei wregys.
Erbyn hyn yr oedd y dringwr arall, William Jones, fel y gellwch dybied, wedi cyrraedd hyd at ei ochr, a dyna lle'r oedd Harri rhwng ei ddau elyn ar ddemyn o bren lathenni uwchben bwrdd y llong ac yn meddwl yn sicr fod ei awr olaf wedi dod.
"'Rydan ni am roi un cynnig i ti eto i ildio'r papur 'na i ni," ebe William Jones, " ac os gwrthodi di, mi elli ddweud dy bader."
"Dydi o ddim gin i," ebe Harri.
"Dywed ymhle mae o, ynteu," ebe Twm Dafis.
"A beth ga i os dweda i?" gofynnodd Harri'n wylaidd.
Aeth y llaw-ddryll bygythiol i lawr wrth dôn ostyngedig Harri, a chlosiodd y ddau ato'n gyfeillgar. "Dyna ti'n dy iawn bwyll, ac yn siarad rheswm rwan," ebe Twm Dafis, " mi gei fod yn y busnes hefo ni, a gwneud dy ffortiwn ar drawiad."
"Mi fyddi'n ôl ym Minymor cyn pen hanner blwyddyn," ebe William Jones, "a digon o aur gin ti i brynu'r holl bentra."
Gwyliai Harri ei gyfle, a phan yr oedd William Jones yn gorffen siarad, yr oedd dwrn chwith Harri yng nghanol ei wyneb, nes yr oedd yn gweld mwy o sêr nag a welsai'n ei fywyd, a da iddo oedd fod ei afael yn dynn ar y rhaff, neu buasai wedi syrthio'n bendramwnwgl i fwrdd y llong. A'r un amrantiad, yr oedd Harri wedi gweld ei gyfle ar Twm Dafis, ac wedi cipio'r llaw-ddryll o'i afael, ac wedi troi ei ffroen ato cyn iddo gael amser i sylweddoli beth oedd wedi digwydd. Yna neidiodd yn wisgi i'r hwylbren, lle'r eisteddodd â'i ddryll yn ei law i wynebu'r ddau. Ond yr oedd y ddau wedi cael mwy na digon. Gwelsant eu bod wedi eu gorchfygu unwaith eto gan y bachgen dewr, ac aethant ill dau i lawr y rigging gan ysgyrnygu dannedd arno yn eu cynddaredd.
Wedi gorffen ei awr yn y pinacl uchel, aeth Harri i lawr i'r dec, a gwyliodd symudiadau y ddau elyn yn fanwl heb gymryd arno wneud hynny. Trwy'r dydd dilynol, ni chymerasant sylw ohono, ond yr oedd gwg tuag ato ar eu hwynepryd. Gwelai Harri eu bod yn cynllwyn yn fwy prysur nag erioed. Diau, fel y bamai, fod agoshad y llestr at ynys y trysor yn peri eu bod yn fwy awyddus i weithio allan gynllun llwyddiannus. Gwyliai Harri hwynt yn eu symudiadau ymhlith y dynion. Yr oedd yn amlwg bod rhywbeth mawr ar dro ganddynt, a'u bod yn ceisio cael mwy o'r criw i ymuno â hwynt yn y cynllwyn, beth bynnag ydoedd. Aent i mewn ac allan ymhlith y dynion, a dywedai eu hwynebau fod ganddynt rywbeth pwysig ar y gweill. Ond er ceisio ei orau, ni allai ffeindio beth oedd yn bod. Am dridiau a theirnos ceisiodd yn ddyfal ddadrys y dirgelwch, ond yn ofer,—a'r llong yn mynd ymlaen yn hwylus ar ei hynt, a rhyw ynys neu arall yn y golwg ar y naill law neu'r llall bron bob awr o'r dyddiau.
Y bedwaredd noson wedi helynt nyth y fran, yr oedd golwg gyffrous anghyffredin ar William Jones a Thwm Dafis, pan ddaethant allan i wylio o wyth yr hwyr hyd hanner nos. Tybiai Harri fod rhyw wên fuddugoliaethus ar eu hwynebau fel pe baent eisoes wedi cael y trysor, a pharai hyn iddo feddwl bod eu bwriad, beth bynnag ydoedd, ar gael ei gyflawni. Gwelodd y ddau Gymro a dau arall o'r wyliadwriaeth yn mynd yn lladradaidd at ei gilydd i ben blaen y llong, a dilynodd hwynt mor llechwraidd ag y gallai er ceisio clywed yr ymddiddan, a darganfod y brad, oblegid yr oedd yn credu'n sicr mai rhyw frad yn erbyn y llong a'r gweddill o'r criw oedd ganddynt mewn golwg, ac nid dim yn ei erbyn ef yn bersonol. Rhaid bod y llong erbyn hyn yn bur agos i Rahiti, a diau mai rhyw gynllun i fynd i'r ynys oedd gan y pedwar mewn golwg, a dyna pam y ceisiai wrando er mwyn gwybod eu cynllun, ac, os yn bosibl, ei orchfygu.
Ond y tro hwn, methodd yn ei amcan. Yr oedd William Jones wedi amau ei fwriad, ac yn ei wylio gyda'r canlyniad iddo'i ddal. Cyn pen pum munud, yr oedd y pedwar dihiryn anfad wedi ei rwymo draed a dwylo, a chlywai un yn cynghori rhoi cyllell ynddo. "Na, mi rhown i o fel y mae o i'r pysgod," ebe Twm Dafis. " 'Rwan, dros y bwrdd a fo."
A diau y buasai wedi mynd dros y bwrdd onibai i Parsons ddigwydd dod tuag atynt yn rhagluniaethol y munud hwnnw. Sylweddolodd yn union beth oedd yn mynd ymlaen, a neidiodd ar y pedwar, heb wneud cyfrif o'r perygl, gyda'r canlyniad iddynt ollwng Harri a dianc gynted gallent gan adael Harri i Parsons ddatod ei rwymau. Methai Parsons ddeall pam y bwriadent daflu Harri dros y bwrdd; ac wedi cael rhyddhad o'r rhwymau, adroddodd Harri wrtho yr holl hanes, a'i amheuaeth fod ganddynt ryw gynllwyn ar dro i ddrygu'r llestr. Rhyfeddai Parsons at y stori adroddai Harri; prin y gallai ei chredu ar y cyntaf, gan mor ddieithriol y swniai. Ond wedi ei chredu, addawodd ei help i geisio gorchfygu'r cynllwynwyr. Bamai'r ddau mai eu bwriad oedd gwneud rhuthr ar y swyddogion a'r dynion ffyddlon, a'u lladd o bosibl, a chymryd meddiant o'r " Arfonia " er mwyn mynd i Rahiti.
Erbyn prynhawn y dydd dilynol, yr oedd y llong yn mordwyo yn ymyl y Samoa Islands. Geliid gweld amlinelliad niwliog o rai o'r ynysoedd draw ar y gorwel ar du dehau'r llong. Hawdd gweld bod rhyw gyffro eithriadol ym mynwesau William Jones a Thwm Dafis. Ceisiodd Parsons a Harri ddarganfod beth oedd yn mynd ymlaen, ond yn ofer. Y cwbl allent ei ddarganfod oedd bod rhyw ddealltwriaeth cyd-rhwng William Jones, Twm Dafis, Simpson y Sais, ac Alffonso'r Hispaenwr,— y pedwar wnaethant y cais y noson cynt i fwrw Harri i'r môr. Bu Harri a Parsons yn cyd-ymgynghori'n ddifrifol ynghylch beth a allasai fod yn y gwynt, a chytunai'r ddau i feddwl bod rhywbeth i ddigwydd y noson honno. Yr oedd yn amlwg ddigon bod rhyw gyd-fwriad rhwng y pedwar a enwyd, ac efallai bod y llong mewn perygl oddiwrthynt.
Y prynhawn hwnnw, peidiodd y gwynt yn hollol, a safai'r llestr ar yr wyneb yn berffaith lonydd—y tro cyntaf iddynt gael y profiad hwnnw er gadael Valparaiso.
Tua phump o'r gloch y prynhawn hwnnw, galwyd Harri i'r caban at y Capten, ac aeth tuag yno yn ddigon cythryblus ei fron, yn methu deall beth a allasai fod yr achos. Hyd y gwyddai, nid oedd wedi gwneud dim o'i le, ond er hynny, teimlai'n bryderus wrth ufuddhau i'r alwad.
"Eistedd i lawr," ebe'r Capten, " mae ama i eisio gair neu ddau efo ti."
Ufuddhaodd Harri, a disgwyliodd i'r Capten fynd ymlaen.
"Tipyn o gŵyn ydw i wedi gael yn d'erbyn di," ebe'r Capten, ar ôl syllu tipyn i wyneb y bachgen. "Mae rhai o'r dynion yn cwyno dy fod yn ceisio ymyrryd yn eu busnes, a 'roeddwn i 'n meddwl bod yn well i mi dy rybuddio di'n garedig i beidio aflonyddu ar y dynion, dim ond gwneud dy ddyletswydd yn syml. Mae mor hawdd gan rai feddwl dy fod yn cael ffafriaeth gennyf i am dy fod yn Gymro ac o Finymor."
"Capten Evans, syr," meddai Harri, gan wrido oherwydd yr hyn a deimlai'n gyhuddiad annheg, " ga i ofyn pwy sy wedi achwyn ama i?"
"'Dydw i ddim am enwi neb, dim ond rhoi rhybudd caredig i ti gadw ar delerau da gyda'r dynion," ebe'r Capten.
"Raid i chi mo'u henwi, syr;—'rydw i 'n gwybod pwy ydyn nhw,—William Jones a Tom Davies, ond peidiwch chi a chymryd eich twyllo, syr, mae nhw ar ryw fwriad drwg, yn siwr i chi, a wnes i ddim byd ond fy nyletswydd er lles y llong."
"Gad i'r mater bellach. Treia fod yn fachgen da. 'Rydw i wedi sylwi nad wyt ti a'r ddau Gymro'n cyd-dynnu'n dda iawn."
"Nac ydan, syr; 'does dim posib i mi wneud, a phe ba'ech chi'n gwybod y cwbwl sy'n mynd ymlaen, syr, mi fasach yn rhoi mwy o'r bai amyn nhw nag arna i. Ond gan 'ch bod chi wedi fy ngalw fi yma, ga i ddeud wrthoch chi, sir, mod i 'n credu bod y llong mewn perygl oddiwrth y ddau yma, a rhyw un neu ddau arall, a hynny, heno nesa."
"Paid a chyboli, fachgen," ebe'r Capten yn anghrediniol ei dôn, " chdi sy'n dychmygu. 'Roeddwn i 'n meddwl eu bod nhw wedi bod yn dweud petha i dy ddychryn di."
"Coeliwch chi fi neu beidio, syr," ebe Harri, â difrifwch yn ei lais a brofai ei fod yn credu'n onest yr hyn a ddywedai, " ond fy marn i ydyw eu bod yn bwriadu dwyn y llong oddiarnoch." Ar hyn chwarddodd y Capten yn wawdlyd.
"Dwyn fy llong oddiamaf, wir," meddai, " mi hoffwn eu gweld yn gwneud y cais."
Yna, mewn tôn fwy caredig, ychwanegodd, " Mae rhywbeth wedi effeithio ar dy nerfs di, machgen i. Rhaid i ti gymryd gofal o dy iechyd."
Aeth Harri i fyny o'r caban yn bur ddigalon, gan deimlo ei fod wedi gwneud argraff anffafriol ar y Capten gyda'i stori.
Ond er i'r Capten chwerthin am ben stori Harri, nid anghofiodd mohoni, a chyn y nos adroddodd hi wrth y mate. Ond ni fynnai ef fod sail o fath yn y byd iddi ond dychymyg byw y bachgen, effaith darllen ystraeon morwrol, yn ôl pob tebyg.
Wedi'r ymgom â'r Capten, aeth Harri tua'r forecastle, gan ei fod yn pryderu am ddiogelwch y papur a guddiasai yn y matiress. Nid oedd wedi ei weld er y dydd y gwniasai'r rhwyg i fyny wedi ei ddodi yno, ond teimlai â'i law amdano bob tro cyn cysgu Pan gafodd gyfle heb fod neb yno i'w weld, edrychodd y mattress. Teimlodd hi—yr oedd yr amlen yno. Ond daeth amheuaeth fel saeth i'w feddwl nad y pwythau a wnaethai ef oedd yn y rhwyg. Yn gyffrous ei feddwl, rhwygodd y llian. Tynnodd allan yr amlen—yr hen un melyn ydoedd, ond O! papur arall oedd o'i fewn. Yr oeddynt wedi cael gafael ar y papur gwerthfawr—sut, ni allai ddirnad. Dyna gyfrifai am y wên fuddugoliaethus ar eu hwynebau, a'u parodrwydd i'w daflu i'r môr. Pan yr oedd yn ceisio cynllunio sut i'w gael oddiamynt, canodd y gloch i alw'r watch wyth o'r gloch, a daeth y dynion oedd yn yr un wyliadwriaeth a Harri i lawr i gysgu, ac aeth Harri i'w wely. Ond nid i gysgu. Pell oedd cwsg oddiwrtho'r noson honno gyda'i feddwl cythryblus. Teimlai fod rhywbeth yn mynd i ddigwydd cyn y bore, a phan ddaeth Parsons ac yntau allan gyda'r gweddill ar eu gwyliadwriaeth ar ganiad y gloch hanner nos, yr oedd y ddau'n benderfynol o wylio'r pedwar dihiryn a amheuent o fod yn coleddu brad at y llestr, a Harri'n benderfynol hefyd o geisio ad-feddiannu 'i bapur.
Deunaw oedd holl nifer y criw ar y llong—heblaw'r cogydd a'r saer—naw ymhob gwyliadwriaeth. Felly naw oedd ar ddyletswydd o hanner nos hyd bedwar y bore, tra'r lleill yn cysgu. Heblaw Harri a Parsons a'r pedwar cynllwynwr—William Jones, Twm Dafis, Simpson ac Alffonso,—yr oedd y mate a dau eraill— Saeson—yn gwneud i fyny'r wyliadwriaeth. Aeth Harri i'w wylfa ar ben y mast am yr awr gyntaf. Er nad oedd mymryn o awel i symud y llong nac i gynhyrfu wyneb yr aig, rhaid oedd gwylio, gan y gallai awel godi'n sydyn, neu gallai llestr arall ddod yn agos atynt. Teimlai Harri'n fwy digalon nag a deimlasai erioed. Nid oedd ganddo syniad sut i gael ei bapur yn ôl— methai feddwl am unrhyw gynllun boddhaol. Yn y cyflwr meddyliol hwn yr oedd ar yr wylfa—nid y cyflwr gorau, mae'n sicr, i wylio'n effeithiol. Ond tra yr oedd ef fry a'i feddwl yn gwibio i bob man, yr oedd gweithrediadau pur ddieithr yn mynd ymlaen ar fwrdd y llong. Yr oedd y pedwar lledfegyn wedi perffeithio'u cynlluniau, a daethai'r awr i'w rhoi mewn gweithrediad. Gwyliodd Simpson a Thwm Dafis eu cyfle ar Parsons ymhen blaen y llong, a byr o dro fuwyd yn ei rwymo'n sicr wrth fôn y mast blaen a chadach yn ei safn rhag iddo waeddi. A thra yr oedd hyn yn mynd yrnlaen, yr oedd William Jones ac Alffonso wedi gwneud yr un peth a'r mate, a'i rwymo yntau'n ddiogel wrth y mast ôl. A gorchwyl gymharol hawdd iddynt fu sicrhau'r ddau arall ar y dec heb i Harri na neb o'r rhai oedd yn cysgu glywed dim oddiwrthynt. Yna cymerodd Simpson ofal y llyw (er nad oedd angen am hynny a'r llong yn llonydd) tra'r tri eraill yn brysur yn cludo bwydydd ac angenrheidiau eraill i un o'r cychod. Yr oeddynt wedi cael agoriad yr ystorfa ym mhoced y mate yn union fel y disgwylient, ac erbyn un o'r gloch, pan ddisgynnai Harri o'r wylfa, yr oedd yr holl baratoadau i adael y llong wedi eu cwblhau. Oblegid gadael y llong i fynd am yr ynys oedd eu bwriad, ac nid cymryd meddiant ohoni, fel y tybiasai Harri a Pharsons. Pan oedd yn un o'r gloch, aeth Alffonso i fyny i gymryd arno gymryd lle Harri ar yr wylfa, a daeth y bachgyn druan i lawr y rigging i'r dec, heb ddychmygu'r driniaeth a'i harosai yno. Synnodd at un peth pan yn disgyn, a hynny ydoedd gwaith Alffonso'n rhoi dau ganiad byr ar bib. Ni allai ddirnad beth oedd ystyr hynny, gan nad oedd yn beth arferol ar y llong, ond arwydd ydoedd i'r tri ar y dec i ddweud ar hyd pa ochr yr oedd Harri'n disgyn. Pan oedd ei draed yn cyffwrdd y dec, rhuthrwyd arno'n ddirybudd, a gwnaed iddo yntau fel i'r pedwar eraill. Rhwymwyd ef wrth y rigging a chadach yn ei safn fel nad allai roi bloedd. Ond cymerasant fwy o amser i boenydio Harri, a thrwy hynny ymddial arno am ei oruchafiaeth hyd yma arnynt. "Ddoi di hefo ni?" ebe Twm Dafis, " 'rydan ni'n mynd i Rahiti i wneud ein ffortiwn."
"Oes gin ti ryw neges i Finymor?" gofynnodd William Jones yn watwarus. " Mi fyddwn ni yno ymhello dy flaen di."
Tybiodd Harri, fel y tybiasai ers dyddiau, mai eu bwriad oedd cymryd meddiant o'r llong, a hwylio i'r ynys, a dyfalai tra'n cael ei rwymo beth fyddai ei dynged ef a gweddill y criw. Ond gwelodd y pedwar (Alffonso wedi ymuno â hwynt erbyn hyn) yn paratoi i ollwng y cwch mawr drosodd i'r môr. Synnai at y distawrwydd o'i gwmpas—neb yn symud ar y bwrdd ond y pedwar hyn, a dyfalai beth a wnaethpwyd i ffyddloniaid eraill y wyliadwriaeth. Ymhle'r oedd Parsons, tybed? Ai tybed fod y pedwar eraill wedi eu lladd? Ac meddai Twm Dafis wrtho unwaith eto i geisio'i boenydio, "'Rydw i wedi cymryd gofal o'r papur rhag ofn i ti ei golli, Harri. 'Dydi mattress gwely ddim yn lle diogel i gadw peth mor werthfawr wyddost ti." A chwarddodd yn wyneb Harri.
Gwyddai'r bachgen i sicrwydd bellach ymhle'r oedd y papur, a gwelai fod pob gobaith iddo'i adfeddiannu wedi darfod. O!'r loes a deimlai wrth feddwl eu bod wedi ei orchfygu, a'u bod yn cychwyn am yr ynys i chwilio am y trysor. Ond yr oedd y bachgen yn teimlo mwy o golli'r papur nag o golh'r trysor. Iddo ef, y papur oedd y trysor.
Ond er gwaethed oedd William Jones a Thwm Dafis, diolchai nad oeddynt mor ddieflig a'u dau gydymaith. Mynnasai Alffonso, pe cai, wneud twll

yng ngwaelod y llong cyn ei gadael, rhag iddynt eu dilyn i'r ynys, a chefnogai Simpson ef. Ond ni chydsyniai William Jones a Thwm Dafis.
"Faint well fyddwn ni o suddo'r llestr?" meddent, "'does dim peryg i Capten Evans ddod ar ein hôl. 'Dwyr o ddim am yr ynys."
"Ond mi ŵyr hwn," ebe Simpson.
"Mynd a fo hefo ni ydi'r gore i ni," ebe William Jones.
Gwelai Harri Alffonso'n gafael yng ngham ei gyllell. "Ffwrdd a fo i'r cwch, ynteu," ebe Twm Dafis, "Mae'r amser yn mynd, a rhaid i ni dreio bod o'r golwg cyn iddi oleuo."
Rhyddhawyd ef oddiwrth y rigging yn frysiog, er na ddatodwyd y rhwymau am ei draed a'i ddwylo, a gollyngwyd ef i'r cwch, lle y dodwyd ef yn swp i orwedd yn y pen ôl. Yna rhwyfwyd yn gryf ac yn gyflym ymaith, a gwelai Harri trwy'r gwyll y llestr hardd yn gorwedd yn berffaith lonydd yn y dwfr. Llawen iawn oedd y pedwar cnaf oherwydd llwyddiant eu cynlluniau, ac ymorfoleddent yn y gobaith o feddiannu'r cyfoeth oedd wedi ei guddio yn Rahiti. Cymaint oedd eu llawenydd fel yr anghofiwyd yn llwyr am Harri. Ond yr oedd ef wrthi'n brysur. Darganfu nad oedd y rhwymau am ei draed a'i ddwylo agos mor dyn a phan yr oedd yn rhwym wrth y rigging, a chyn pen ychydig iawn llwyddodd i gael ei hun yn rhydd. Yna, gan wylio'i gyfle, gollyngodd ei hun mor ddistaw ag y gallai dros gefn y cwch i'r dŵr, ond, er ei ddistawed, clywyd y sŵn, a throdd y pedwar i edrych yn ôl. Rhegodd Twm Dafis yn arswydus pan welodd fel yr oedd Harri wedi dianc, a mynnai ollwng ergyd ato yn y dwfr. Ond haws dweud na gwneud hynny. Nofiodd Harri dan y dŵr am rai llathenni, a phan gododd i'r wyneb, nid oedd yn hawdd iddynt ei leoli o'r cwch yn y gwyll. Ffolineb fuasai iddynt ei ddilyn, gan mai mynd o olwg y llong cyn toriad gwawr oedd yn bwysig iddynt. Felly dywedodd William Jones, "Gad'wch iddo fo; mi fydd siarc wedi cael gafael ynddo cyn y cyrhaedda'r llong," ac i ffwrdd a hwy ar eu hynt am yr ynys. Ni ddaeth i feddwl Harri bosibilrwydd perygl oddiwrth siarc, a nofiodd yn gyflym i gyfeiriad y llong. Yn ffodus iddo, yr oedd y llestr yn drwmlwythog, ac yn gorwedd yn isel yn y dwfr, a gallodd gael gafael yn ei hochr, a thynnu ei hun i fyny i'r dec. Yno cafodd bopeth fel cynt—neb yn symud a pherffaith ddistawrwydd. Cyn tynnu ei ddillad gwlyb, aeth at y llyw, a gwelodd y mate yn rhwym wrth y mast ôl. Gyda'i gyllell, torrodd y rhaffau, i'w ollwng yn rhydd, a gwnaeth yr un modd a'r tri eraill wedi dod o hyd iddynt. Yr oedd yn falch iawn nad oedd dim gwaeth na chael eu rhwymo wedi digwydd iddynt. Yna aeth Harri i'r forecastle i newid ei ddillad, ac nid hir y bu yno nag y teimlai ryw syrthni rhyfedd yn gafael ynddo, a chanfyddodd fod yno ryw arogl hyfryd ond dieithr yn llanw'r lle. Cysgai pawb yn drwm yno, ac amheuodd Harri, oddiwrth fel y teimlai ei hun, mai un o'r pedwar cnaf oedd wedi taenu rhyw gyffyr yn y lle gyda'r amcan o wneud i'r dynion gysgu'n drwm. Pan aeth yn ôl i'r dec, yr oedd y Capten yno gyda'r mate, ac yn wyllt iawn ei dymer oherwydd yr hyn a ddigwyddasai. Diau ei fod yn ddig wrtho'i hun am na wrandawsai ar rybudd Harri. Ond cysurodd ei him trwy ddweud mai da oedd cael gwared o'r giwaid er colli cwch.
"Ac yn awr," meddai, " yr ydym yn fyr o ddynion, a bydd yn ddrwg amom os digwydd storm. Rhaid fydd ail-drefnu'r gwyliadwriaethau."
Deffrowyd y cysgadwyr gyda chryn drafferth, a synnent yn fawr glywed beth a ddigwyddasai tra y cysgent. Siaradwyd llawer am yr helynt, a chanmolwyd Harri am ei ddewrder a'i fedr. Gresynai rhai na b'ai'r Capten yn penderfynu eu hymlid er mwyn i bawb gael cyfranogi o'r trysor, ac i gosbi'r troseddwyr, a beiddiodd rhywun awgrymu hynny wrtho. Ond ni fynnai'r Capten sôn am hynny. I Awstralia yr oedd yn rhwym, ac i Awstralia yr ai, os gallai, ac nid i unlle arall.
XI. Y LLONG-DDRYLLIAD
YR oedd y bore hwnnw—y bore cyntaf wedi'r digwyddiad dieithr—yn fore tesog, yr haul yn bwrw'i belydrau tanbaid arnynt o wybr ddigwmwl, a'r môr cyn llonydded a llyn melin. Nid oedd ton yn cynhyrfu'i wyneb, a safai'r llestr fel pe wedi ei cherfio ynddo. Yr oedd rhyw drymder annaturiol yn effeithio ar bawb—rhyw ddistawrwydd bygythiol, ac edrychai'r Capten yn bryderus. Tua chanol dydd, cododd awel wannaidd o'r tu ôl iddynt, awel boeth fel o ffwrn, ond awel o wynt ydoedd, ac yr oedd yn dda ganddynt ei chael er mwyn cael symud o'u hunfan. Lledwyd rhai o'r hwyliau i dderbyn yr awel, a gwelwyd y llestr yn mynd rhagddi. Ond yn sydyn, duodd y ffurfafen o'u hôl. Gwelent y gorwel fel pe yn agoshau atynt yn gyflym, ac nid cymylau, ond un cwmwl mawr, du fel inc, yn dod tuag atynt gyda rhyw gyflymder arswydus. Dolefai adar yn bruddaidd yn yr hwylbrennau. Duodd y ffurfafen fwy-fwy, a chuddiwyd yr haul gan y duwch. Ni welsai ac ni theimlasai Harri ddim cyffelyb o'r blaen yn ei fywyd. Os ystorm oedd yn dod, yr oedd yn hollol wahanol i'r ystormydd a brofasai ym Môr y Werydd. Ond yn sydyn, tra'r oedd pawb yn gwylio agoshad y cwmwl du, ac wedi eu cyfareddu ganddo fel na allent wneud dim arall, disgynnodd yr ystorm arnynt gyda rhyw ruthr ofnadwy. Chwibianai'r gwynt yn yr hwylbrennau, fflachiai'r mellt a rhuai'r daran, a disgynnai'r glaw yn genllif. Nid oedd modd symud ar hyd y dec heb berygl i fywyd, ac yr oedd y llestr yn gwbl at drugaredd yr elfennau dinistriol. Chwipid y môr i fyny'n donnau mwy a mwy bob munud, a chodid y llestr bron oddiar wyneb y dŵr gan rym y gwynt; ac er mai cynnar yn y prynhawn ydoedd, yr oedd yn dywyll fel y fagddu. Teimlent eu bod yn cael eu cludo ymlaen yn gyflym i rywle, ond nid oedd ganddynt syniad i ble. Mae'n wir y gallent lywio, ond pa faint gwell fyddent o lywio heb chart na help o fath yn y byd i lywio wrtho? Gwaeth na'r cyfan, yr oeddynt yng nghymdogaeth Ynysoedd Môr y De. Yn y rhan hwnnw o'r byd, y mae miloedd lawer o ynysoedd wedi eu gwasgaru yn fân dyrrau ar hyd y môr—ynysoedd cwrel, gan mwyaf—ynysoedd a'r graig honno, cwrel yn sylfaen iddynt—adeiledir gan filiynnau afrifed o fân bryfaid dan wyneb y dwfr, ag sy'n ffurfio'n ynysoedd trwy i bethau gael eu cludo ar y creigiau, gan y môr ac adar a thrwy gyfryngau eraill. Ac yng nghymdogaeth ynysoedd o'r fath, mae llawer o greigiau cudd—y pryfaid heb gwblhau eu gwaith arnynt—rhai peryglus iawn i long daro a thorri arnynt. Ni wyddent ar fwrdd yr Arfonia" pa eiliad y dryllid eu llestr yn erbyn craig o'r fath, ac yr hyrddid hwy i dragwyddoldeb. Amser ydoedd i'r mwyaf anystyriol ddifrifoli. Os gweddiodd Harri ryw bryd, dyna'r pryd y gwnaeth. Meddyliai am y pedwar yn y cwch. Ai tybed eu bod wedi cyrraedd i ddiogelwch cyn i'r ystorm dorri arnynt? Os nad oeddynt, druain ohonynt!
Gwaethygu'n hytrach na gwella 'roedd y storm fel y cerddai'r dydd ymlaen, a chyn y nos yr oedd yr ychydig hwyliau oedd heb eu plygu wedi eu rhwygo'n ribannau. Yr oedd pawb o'r dwylo yn bryderus wrth wynebu'r nos (er nad oedd modd iddi fod yn llawer tywyllach), ac wedi ymgasglu ynghyd ym mhen ôl y llong yn ymyl y llyw, lle y ceisient gysgodi orau gallent. Yr oedd y Capten wedi eu gorchymyn i'r fan honno, gan y tybiai eu bod yn fwy diogel yno rhag i rywbeth ddisgyn arnynt.
Rywdro yn y nos, pa bryd ni allai neb ddweud, clywyd trwst mawr ym mhen blaen y llong. "Dyna'r mast blaen wedi mynd," ebe'r Capten, "rhaid torri'r rhaffau sydd ynglŷn wrtho rhag iddo fod yn achos i suddo'r llong."
Rhedodd nifer o ddynion ymlaen, Harri yn eu plith, gyda chyllill a bwyeill i dorri'r rhaffau, ac wedi gwneud hynny, syrthiodd y mast drosodd i'r dŵr, gan fynd a rhan o ymyl ochr y llong i'w ganlyn. Wrth iddynt geisio dychwelyd i'r pen ôl wedi gorffen y gwaith hwn, daeth ton anferth dros y bwrdd, a chipiwyd Parsons druan i'w chanlyn. Yr oedd Harri wrth ei ochr ar y pryd, a diau y buasai wedi ceisio'i achub pe bai'r rhithyn lleiaf o obaith y gellid gwneud hynny. Druan o Parsons! ni chafodd gyflawni'i addewid i ysgrifennu at ei rieni, ond yn ei hiraeth ar ei ôl, llawenhai Harri ei fod yn gymeriad newydd, ac wedi edifarhau am ei fywyd drwg blaenorol.
Noson ofnadwy fu i'r trueiniaid ar yr "Arfonia." Gweddient a hiraethent am i'r wawr dorri, ac i'r ystorm fawr ostegu. Er yn wlyb at eu crwyn, yn newynog, ac mewn angen gorffwystra, dalient i obeithio am eu bywydau. Pan, ar ôl hir ddisgwyl, yr aeth y nos heibio, ac y torrodd y wawr, gan roddi iddynt ryw gymaint o oleuni, yr oedd golwg dorcalonnus ar y llestr a fuasai mor hardd cyn y ddrycin—y galley wedi mynd, popeth symudol ar y dec wedi ei ysgubo ymaith, rhai o gaeadau yr hatches hwythau wedi eu codi o'u lle, er eu trymed, gan y gwynt a'r tonnau, ac wedi eu hyrddio dros y bwrdd, a'r dŵr yn llifo i mewn i grombil y llong. Amheuai'r Capten fod y llong yn gorwedd yn is yn y dwfr nag a ddylasai, ac anfonwyd y saer i lawr i edrych faint o ddŵr oedd ynddi. Daeth yn ôl a'r newydd drwg fod ynddi dros lathen o ddwfr, ac amheuai ei bod yn gollwng. Gwaeddodd y Capten am ddynion at y pump rhag soddi o'r llestr danynt. Cafwyd pawb yn ewyllysgar i wneud eu rhan er eu bod yn lluddedig ar ôl eu gwylnos heb na chwsg na lluniaeth. Ychydig enillent ar y dwfr oedd yn dal i drochioni i'r llong, ond yr oedd ennill rhyw ychydig yn ennyn gobaith, a'r Capten yn eu calonogi i barhau'r ymdrech. Suddo oherwydd y dwfr yn y llong oedd y perygl mwyaf uniongyrchiol iddynt, ac aeth hwn a'u holl sylw, nes iddynt anghofio'r perygl arall oedd lawn cymaint, os nad mwy,—o daro yn erbyn craig. Ond, o ran hynny, ni allent, er gwylio, wneud dim i atal i hynny ddigwydd,—dim ond ymddiried mewn Rhagluniaeth, oblegid yr oedd y llyw wedi mynd yn ddifudd erbyn hyn.
Parhau'r oedd y storm yr ail ddiwmod, ond gobeithiai y Capten y gostegai at yr hwyr. Parhawyd i weithio gyda'r pwmp drwy'r prynhawn, pawb yn eu tro, i gadw'r dwfr i lawr. Ond yn bur bell yn y prynhawn,— ni wyddai neb pa bryd,—teimlwyd ysgytiad rhyfedd drwy'r llong. Clywyd a theimlwyd ei gwaelod yn crafu yn erbyn rhywbeth, ac yna tarawodd yn erbyn rhywbeth nes y crynnai pob pren ohoni. Bron na thybid yr ai oddiwrth ei gilydd. Syrthiodd y dynion ar draws ei gilydd hyd y dec gan yr ysgytiad, a syrthiodd y mast ôl, gan hollti yn ymyl ei fôn.
"Yr ydym ar graig," dolefai'r Capten yn dorcalonnus, a'i ddwylo trwy 'i wallt fel pe bron mynd yn wallgof. Yr oedd berw a chynnwrf ar y bwrdd, a rhai o'r tramorwyr a gymerasid i mewn yn Valparaiso fel pe wedi colll'u pennau'n lân gan ddychryn marwol. Ond chwarae teg i'r Prydeinwyr, yr oeddynt hwy, fel bob amser, yn hunan-feddiannol a than lywodraeth y Capten.
Yr oedd y llong ar osgo, a rhediad mawr ynddi o'r pen blaen tua'r pen ôl. Yr oedd yn amlwg bod y pen blaen ar graig, ond pa mor sicr arni, ac a oedd y graig wedi ei thrywanu, nid oedd yn hawdd dweud. Ond mor uchel oedd y pen blaen wedi ei godi o'r dwfr fel yr oedd y pen ôl tan ddwfr, a'r tonnau'n torri drosto. Ceisiodd pawb o'r dynion wneud eu ffordd i'r pen blaen, ac nid gorchwyl hawdd oedd hynny; a rhaid oedd hefyd wrth ofal mawr wedi cyrraedd yno rhag mynd i lawr y llithrigfa i'r dwfr. Neidiodd y Capten i flaen eithaf y llong i edrych beth oedd y rhagolygon am waredigaeth. Rhyw gan llath—mwy neu lai oddiwrtho, gwelai ynys,—ynys cwrel isel a'r coed palmwydd yn ymestyn ar hyd ei glannau. Rhwng y llestr a'r lan yr oedd llyn tawel—lagoon—tawel hyd yn oed yng nghanol yr ystorm ofnadwy. Gwelai'r Capten fod y llong wedi taro ar coral reef—fel a geir yn aml yn amgylchynu ynysoedd ym Môr y De—fel gwrthglawdd naturiol i amddiffyn yr ynysoedd rhag llid y don. Gwelai oddiwrth y llinell wen o ewyn y tonnau'n torri, fod y reef yn ymestyn am bellter mawr ar ei aswy—llinell wen o ewyn y don a welid mor bell ag y cyrhaeddai'r llygad, ond ar yr ochr dde, gwelai agorfa yn y reef—bwlch gweddol lydan trwy yr hwn y torrai'r tonnau mawr i aflonyddu ar dawelwch y lagoon. Pe gellid gollwng cwch i'r dwfr, feallai y gellid ei arwain trwy'r bwlch i ddiogelwch yr ynys. Ond antur beryglus fyddai; yr unig beth i gyfiawnhau'r ymgais oedd y ffaith bod mwy o berygl o aros yn y llong. Galwodd y Capten ar y mate ato i ymgynghori ag ef, ac wedi siarad dipyn â'i gilydd, daeth y ddau i egluro'r amgylchiadau i'r dynion. Wrth gwrs, ni ellid dweud pa faint o niwed oedd wedi ei wneud i'r llong gan y creigiau. O bosibl yr arhosai yno yn eithaf sefydlog hyd nes i'r ystorm ostegu. Pe baent yn sicr o hynny, aros ar y bwrdd fyddai'r cynllun diogelaf. Ond gan fod y rhan blaen yn sefydlog ar y graig, a'r rhan ôl yn gorffwys ar, neu yn y dwfr, heb ddim arall yn ei gynnal, y perygl oedd i'r llong dorri ac ymollwng yn y canol; i'r rhan ôl wedi hynny suddo yn y dyfnder, ac i'r rhan blaen wedi colli'r cydbwysedd ei ddilyn i'r dyfnder. Cyd-olygai'r ddau swyddog mai dyna'r hyn oedd debycaf o ddigwydd. Yr oedd y nos yn dyfod, a'r ystorm fel pe am barhau ddiwrnod arall. Nid oedd dim amser i'w golli; yr oedd pob tôn fel pe'n bygwth dinistrio'r llestr, a phenderfynwyd i wneud yr ymgais beryglus gyda dau gwch, y naill dan ofal y Capten, a'r llall dan ofal y mate, gan hyderu y llwyddid i gael un o'r cychod, os nad y ddau, i ddiogelwch. Ac yna aed ati i baratoi'r cychod. Anodd oedd clywed gair gan ruad y tonnau'n torri ar y reef, a gorchwyl anodd, yn ymylu ar amhosibl, oedd cael y cychod i'r dŵr dan y fath amgylchiadau dychrynllyd. Cafwyd cwch y mate i'r dwfr yn gyntaf, a llwyddodd i adael ochr y llong gyda saith o'r dwylo ynddo. Yna prysurwyd i gael cwch y Capten yn barod, a'r un modd llwyddwyd i adael y llong gyda'r gweddill o'r criw, a Harri yn eu plith. Amhosibl bron oedd rhwyfo gan fel y teflid y cwch fel pluen ar y tonnau, a rhaid oedd iddynt afael yn dyn yn eu seddau rhag mynd drosodd i'r dwfr. Ond byr hoedl gafodd cwch y Capten. Cyn ei fod wedi mynd ugain llath oddiwrth y llestr, tarawyd ef dan ei ystlys gan don aruthrol. Dymchwelwyd y cwch, a thaflwyd pawb i'r môr. Ceisiodd pawb wneud ati i nofio—ond, druain ohonynt! gobaith gwan oedd i'r nofiwr gorau yn y fath ystorm. Yr oedd y tonnau'n chwarae â hwynt, ac yn eu taflu fel y mynnent. Teimlai Harri ei hun yn cael ei godi gan don fawr. Am amrantiad, ar frig y don, gwelai ei hun yn cael ei gludo tua'r llestr, a chauodd ei lygaid mewn dychryn gan ddisgwyl cael ei hyrddio yn erbyn ei hochr a'i ladd. Ond, er ei syndod, cafodd fod y don wedi ei godi'n ôl i'r llong,—i'r rhan ôl oedd eisoes yn y dŵr! Teimlodd goed y dec dan ei draed; neidiodd i gydio gafael yn rhywbeth rhag cael ei gludo'n ôl i'r môr gan y don wrth iddi gilio, a llwyddodd. O! drugaredd! yr oedd unwaith eto'n ddiangol, er mai prin y gallai gredu hynny, gan yr ymddangosai'r peth bron yn wyrthiol. Offrymodd ddiolch i'r Hwn sydd yn eistedd ar y llifeiriant ac yn marchog gwynt y nen am ei arbed. Daeth hen gegin Bwlchglas a'i fam ar ei deulin yn gweddïo dros y bachgen, a'r Beibl mawr yn agored ar y ford, yn fyw i'w feddwl y munud hwnnw. Ond nid gwiw iddo ymgolli mewn synfyfyrdod; cofiodd nad oedd diogelwch parhaol iddo yn y fan honno, beth bynnag am ben blaen y llong. Ymgripiodd yn araf a chyda chryn anawster ar hyd ystlys y llong i'w phen blaen oedd ar y graig ac yn uchel o'r tonnau. Ac wedi cyrraedd yno, trodd i edrych beth a ddaethai o gwch y mate, ond ow! nid oedd i'w weld yn unman. Rhaid bod hwnnw hefyd wedi cyfarfod â'r unrhyw dynged a chwch y Capten. Edrychodd yn hir ac yn fanwl i weled a oedd rhywun o'r dynion yn y weilgi'n ceisio nofio, ond ni allai weled neb. Neb! Yr oedd ei hunan o'r holl griw, ac wedi ei achub mewn modd gwyrthiol. Pan dorrodd ystyr llawn ei sefyllfa ar ei feddwl, torrodd y bachgen dewr i wylo'n hidl. Wylai wrth feddwl am golli'r Capten Evans fuasai mor garedig wrtho ef ar hyd y fordaith, ac am y dynion eraill gyfarfuasai â dyfrllyd fedd mor bell o'u cartrefi, a Parsons, ei gyfaill cu, a ysgubwyd i'ẅ ddiwedd mor ddirybudd. Ac yntau'n unig ar y llestr o'r holl ddwylo! Tra'n diolch am ei waredigaeth, wylai wrth feddwl am ei unigedd—wedi ei adael ei hunan ar y llong ddrylliedig. Hyd yn oed ped arbedid ef dros yr ystorm, ac iddo allu mynd i'r ynys, ni wyddai beth a allai ddigwydd iddo yno, a gobaith gwan oedd ganddo i weld Minymor, a'i fam a chyfeillion ei febyd byth mwy. Teimlai ei galon ymron torri—yr oedd y digwyddiadau ofnadwy yr aethai trwyddynt wedi gwneud eu hôl arno. Eisteddodd ar ddam o bren yn ei ddigalondid, a daeth cwsg i'w gymryd yn ei breichiau, iddo anghofio ei holl ofidiau. Ynghanol yr ystorm, er gwaethaf y peryglon yr oedd ynddynt, cysgodd fel y cwsg y lluddedig—yn drwm, yn dawel, ac yn hir. A phan ddeffrodd, yr oedd gwawr diwrnod arall wedi torri arno, a'r haul yn siriol wenu, a'r ystorm fawr drosodd, er bod y tonnau'n dal yn gynhyrfus fel effaith y chwipio fu arnynt. Nid hir y bu cyn sylweddoli ei sefyllfa; ac er yr arosai atgofion trist am y dydd blaenorol a'i drychinebau, yr oedd gobaith newydd dan ei fron, a gwaed bywyd ieuanc hoyw yn rhedeg yn ei wythiennau. Rhaid oedd iddo gael lluniaeth; yr oedd wedi bod ers deuddydd heb damaid, a'i gylla'n wag. Aeth i'r forecastle, a gwnaeth fwyd iddo'i hun. Wedi ei ddigoni, daeth yn ôl i'r bwrdd, a dechreuodd edrych yn fanylach o'i amgylch, er mwyn penderfynu beth i'w wneud ymhellach. Er y gwelai nad oedd bellach berygl uniongyrchol iddo yn y llong, gan fod yr ystorm wedi gostegu, eto ni wyddai pa mor fuan y deuai ystorm arall a gwblhai ddrylliad y llong, ac felly nid oedd dinas barhaus iddo ar y llong. Rhaid edrych felly sut y gellid mynd i'r ynys, ond cwestiwn pwysig arall cyn hwnnw ydoedd, A ydoedd yn ddiogel iddo fynd i'r ynys? Ai tybed fod arni drigolion? Clywsai a darllenasai hanesion dychrynllyd am greulonderau a barbareiddiwch ynyswyr Môr y De,—y modd y lladdent ac y bwytaent ddynion gwynion,—a gwell ganwaith ganddo drengi ar y llong na mynd i'r ynys i gyfarfod â diwedd o'r fath hynny.
Aeth at ymyl y llong i edrych yn fanylach ar yr ynys. Synnodd at ei phrydferthwch. Yr oedd fel darn o baradwys yng nghanol yr eigion, gyda thywod gwyn, ariannaidd ar ei glan, a'r planwydd yn tyfu ymron hyd i lan y môr, a'u cysgod i'w weld yn nyfroedd tawel y lagoon. Isel ydoedd yr ynys gyferbyn ag ef, ond draw yn y pellter gwelai fod y tir yn ymgodi i fryn tra uchel. Edrychai'r lan yn ei ymyl; gallai nofio yno yn hawdd, pe bai angen. Ond ei amcan cyntaf oedd ceisio sicrhau a oedd trigolion ar yr ynys ai peidio. Nid oedd arwyddion o fywyd dynol mor bell ag y gwelai, ond wrth gwrs, nid oedd hynny yn profi dim. Gallent fod fwy i mewn yn yr ynys, neu ar ochr arall iddi. Penderfynodd aros ar y llong hyd drannoeth, deued a ddeuai, a chymryd y diwrnod hwnnw i wneud paratoadau tuag at lanio y pryd hwnnw, os na welai yn y cyfamser bobl ar yr ynys. Ac erbyn ystyried, gwelai na allai fynd i'r ynys ond drwy nofio hyd nes i'r môr dawelu, gan mai trwy'r un bwlch yn y reef ag y bwriadai'r Capten fynd, y byddai raid iddo yntau fynd, gan nad oedd modd mynd oddiar y llong i'r lagoon ar ei gyfer trwy fod y llong, hyd y gallai weled, ar yr ochr agosaf i'r môr o'r graig. Aeth ati i gynllunio ar gyfer trannoeth. Gwnaeth ymchwiliad manwl trwy'r llong am y pethau a garai fynd ag ef i'r lan. Y peth cyntaf i feddwl amdano oedd ymborth. Aeth i'r ystorfa, a chafodd fod yno sŵm da o ddefnydd ymborth, heb ond ychydig ohono wedi ei wlychu, a llawenhai wrth weld fod yno ddigon i'w gynnal ef am fisoedd. Rhaid fyddai iddo hefyd wrth lestri, a chasglodd ynghyd yr hyn a dybiai y byddai arno eu hangen. Gwelai y byddai arno angen am lu o bethau eraill os oedd i fyw'n hir ar yr ynys, ond rhaid oedd yn gyntaf gynllunio sut i'w cael i'r lan. Yr oedd un cwch yn aros ar y llong o'r pedwar oedd ganddi'n cychwyn, ond yn crogi uwchben y dec yr oedd, a sut byth y gallai un bachgen ei dynnu oddiyno a'i gael i'r dwfr? Ymddangosai'r gorchwyl yn amhosibl, ac aeth i chwilio am ddarnau o goed gan feddwl gwneud raft. Cafodd mewn gwahanol fannau chwech o blanciau cryfion, a chludodd neu yn hytrach llithrodd hwynt i ben ôl y llong, i'r lle y golchai y dwfr i mewn dros ei phen ôl. Ond tra'n gwneud hynny, daeth i'w feddwl yn sydyn y gallai o bosibl lithro'r cwch i lawr y goriwaered ond ei gael o'r lle y crogai i'r dec. Yr oedd yr ymgais yn sicr yn werth ei gwneud, ac nid cynt y meddyliodd hynny nag y dechreuodd ar y gorchwyl anodd. Cymrodd dipyn o amser iddo ryddhau'r cwch, ond fe lwyddodd, a chaed ef i'r dŵr yn y pen ôl. Ni chafodd ond amser i'w sicrhau wrth ochr y llong na ddisgynnodd y nos arno, ac aeth i'r forecastle, wedi llwyr flino, i gysgu. Darllenasai Harri fod y nos yn disgyn yn sydyn wedi i'r haul fynd i lawr yn nhueddau y cyhydedd, ac yn sicr yr oedd wedi cael profiad o hynny o'r blaen ar fwrdd y llong yn ystod y fordaith, ond nid oedd erioed wedi sylweddoli'r sydynrwydd fel y gwnaeth y tro hwn.
Aeth i'w wely'n fwy calonnog y noson honno wedi llwyddo mor dda yn ei gynlluniau, a phan gododd yn blygeiniol drannoeth, cafodd fwy o achosion i godi ei galon ac ymwroli. Yr oedd yn fore hyfryd, a'r tonnau wedi gostegu, a'r môr yn ymddangos mor ddof fel y gellid tybied na buasai'n boddi undyn byth —pob arwydd o'r ystorm fawr wedi diflannu ond y llong ddrylliedig. Nid oedd dim gwahaniaeth i'w weld yn sefyllfa y llong—rhaid bod rhan dda o'i phen blaen wedi mynd ar y graig, a'i bod yn bur sefydlog yno. Aeth i ben eithaf blaen y llong i edrych a welai ryw arwydd o fywyd dynol ar yr ynys. Nid oedd dim i'w weld. Edrychodd i lawr dros ochr y llong, a gwelai fod y graig yr oedd y llong arni yn ymyl y wyneb— nid oedd ond modfedd neu ddwy o ddwfr arni, a rhyw ddwy lath o wyneb y graig rhyngddo a'r lagoon. Parodd hyn lawenydd mawr iddo. Rhaid fyddai iddo fynd a'r cwch i'r ynys y tro cyntaf trwy y bwlch oedd draw yn y reef, ond wedi cael y cwch unwaith i'r lagoon, gallai fyrha.u y daith rhwng yr ynys a'r llong trwy y darganfyddiad hwn, ond iddo gael rhyw gynllun i fynd i lawr o'r llong i'r graig. Sicrhaodd raff-ysgol dros ochr y llong i gyrraedd i'r graig, hyd yr hon y gallai fynd a dod yn rhwydd rhwng y cwch a'r llong. Wedi trefnu fel hyn ar gyfer ei ymweliadau dyfodol a'r llestr, aeth at y gwaith mwy uniongyrchol a alwai am ei sylw, sef llwytho'r cwch a mynd drwy'r bwlch am yr ynys. Casglodd ddefnyddiau ymborth a dododd hwynt yn y cwch mewn baril. Cymrodd gydag ef dipyn o arfau saer rhag y byddai eu hangen arno i wneud cysgod iddo'i hun tros y nos, ei wely, a thipyn o ddillad. Ac yna 'roedd yn barod i gychwyn. Teimlai braidd yn sicr erbyn hyn nad oedd neb yn byw ar yr ynys; nid oedd wedi gweld yr arwydd lleiaf er wedi gwylio'n fanwl. Trwm oedd y cwch iddo ei yrru'i hunan trwy'r dwfr; ond yr oedd yn fachgen cydnerth, a llwyddodd heb or-lafur i gyrraedd i'r lan gyferbyn â blaen y llong. Wedi cyrraedd y lan a sicrhau'r cwch, ymostyngodd ar ei liniau ar y tywod fel Robinson Crusoe gynt i ddiolch am ei waredigaeth, ac i ofyn am nodded y Goruchaf drosto eto. Yna, wedi cymryd ychydig luniaeth, penderfynodd fynd i gael golwg ar yr ynys, gan adael y cwch a'i lwyth lle yr oedd. Y peth cyntaf a'i tarawodd oedd prydferthwch anghyffredin yr ynys —edrychasai'n brydferth oddiar fwrdd y llong, ond yr oedd y tlysni'n ymddangos yn fwy fyth wedi cael golwg agos arni—llwyni o goed—palmwydd ac eraill, yn ymestyn i bob cyfeiriad mor bell ag y gallai weled, ac adar amryliw yn eu canghennau. O! na bai ganddo rywun i gyd-fwynhau'r lle ag ef! Cymrodd ei law-ddryll i'w ganlyn a phastwn yn ei law chwith i fynd i'r daith. Cerddodd ar hyd glan y lagoon am gryn bellter—tua milltir fel y tybiai, a gwelai oddiyno ynys arall—a ymddangosai yn un bur fawr—draw yn y pellter tua'r gorllewin—mor bell ag y gallai farnu wrth yr haul. Ychydig ymhellach ymlaen, daeth at geg afon fechan yn ymarllwys i'r lagoon, a sylwodd bod bwlch yn y reef gyferbyn â cheg yr afon. Gwyddai'r achos—nad yw y pryfaid bychain yn gallu adelladu mewn dŵr hanner croyw—dim ond mewn dŵr hallt
Trodd i mewn i'r ynys gyda glan yr afon fechan, ac wedi mynd rhyw ddau can llath o lan y môr, safodd yn sydyn. O'i flaen gwelai adeilad bychan, tebyg i dŷ o goed. Teimlai ei galon yn dechrau curo'n gyflym, a neidiodd o'r tu ôl i goeden i ymguddio, Gwasgai goes y pastwn yn dyn yn ei law dde, a'r dryll yn ei law chwith. Wedi gwylio am rai munudau heb weld neb, na dim arwydd o fywyd, anturiodd yn ochelgar ymlaen, ac felly o goeden i goeden nes cyrraedd hyd at y bwthyn. Yn lladradaidd agoshaodd at yr agorfa iddo, a syllodd i mewn. Yr oedd yn wag a dim arwydd bod neb wedi bod yno ers cryn amser. Ond yr oedd yn amlwg iddo fod yn drigfa i rywun rywdro, pa beth bynnag a achosodd i'r cyfryw fynd oddiyno. Wedi archwilio'r bwthyn yn fanwl, gwelodd y gwnai eithaf cartref iddo yntau am ysbaid, hynny yw, os na chai fod rhywun arall yn ei hawlio. Gan ei bod bellach wedi mynd ymhell i'r prynhawn, penderfynodd ddychwelyd i'r man y gadawsai y cwch, ac yn hytrach na mynd yn ôl y ffordd y daethai, ceisiodd unioni am y lle er mwyn gweld mwy o'r ynys a'i ragolygon ar y ffordd. Trwy goedwig 'yr aeth bron bob cam o'r daith—y coed mewn rhai mannau yn llwyni, a mân ddrysgoed yn atal ei daith. Gwelai fod yr ynys yn neilltuol o ffrwythlon; yr oedd yno goed cocoanuts a bananas afrifed, a rhoes hyn sicrwydd iddo nad oedd berygl iddo newynu yno. Gwelodd hefyd nifer o greaduriaid tebyg i foch yn dianc o'i flaen i ymguddio, a dyna'r unig fath ar greadur a welodd. Ni byddai raid iddo felly fyw ar ffrwythau'n unig, ond cael rhyw foddion i ddal y moch.
Wedi cyrraedd at y cwch, cludodd y llwyth ohono i'r lan, ac wedi eu dodi mewn man y tybiai y byddent ddiogel hyd drannoeth, penderfynodd ddychwelyd i'r llong dros y nos i gysgu, gan f od arno eisiau dudo llawer eto o bethau o'r llong i'r lan at ei wasanaeth. Aeth yn ôl yn syth at ben y llong dros y lagoon, ac nid drwy'r bwlch i ochr y môr i'r reef. Rhwyfai yn ôl yn hamddenol gan syllu i ddyfroedd y lagoon. Rhyfeddai weld y dwfr mor glir; er ei fod yn ddwfn iawn, yr oedd yn glir fel y grisial, a gallai weld y planhigion ar ei waelod, a phob math o greaduriaid, rhyfedd a dieithr iddo, ynddo. Wedi cyrraedd at ymyl yr ysgol, glaniodd ar y graig. Nid oedd ond ychydig o ddwfr arni fel yn y bore. Rhyfeddai at hyn, na buasai trai a llanw yn gwneud mwy o wahaniaeth yn arwynebedd y môr. Mor wahanol i'r hen draeth gartref lle yr oedd troedfeddi lawer o wahaniaeth rhwng uchter y dŵr bob rhyw chwe awr. Sicrhaodd y cwch wrth yr ysgol. Gan fod dwfr y lagoon mor dawel, nid oedd perygl i'r cwch daro yn erbyn y graig. Gwelai yn awr yn glir sefyllfa y llong ar y graig. Yr oedd wecÚ rhedeg i fath o fwlch rhwng dau ddarn o'r graig, ac yn edrych yn bur sefydlog yno.
Cysgodd yn dda y noson honno, a chododd yn blygeiniol drannoeth wedi ymadnewyddu, ac yn barod i waith, i gludo ychwaneg o bethau angenrheidiol, i'r ynys. Rhaid oedd cael ei gist i'r lan, os yn bosibl. Ond nid oedd dim wedi bod yn amhosibl iddo hyd yn hyn, ac nid oedd am i'r gorchwyl hwn ei orchfygu chwaith. Rhaid fu arno dynnu allan holl gynnwys y gist, ac yna bob yn ris fe'i cafodd i fyny i'r bwrdd. Gyda chymorth rhaff, llwyddodd i ollwng y gist drosodd i'r graig. Yna ceisiodd ychwaneg o ddefnyddiau ymborth, a'r offerynnau morwrol, etc. Er bod yr haul, erbyn hyn, wedi codi yn uchel yn y ffurfafen, a'r gwres bron yn annioddefol, llwythodd y cwch, ac ymaith ag ef dros y lagoon am y lan gyferbyn ag ef. Yr oedd eisoes wedi penderfynu gwneud ei gartref yn y bwthyn a welsai y diwrnod cynt, ac felly, wedi cyrraedd y lan, dododd y pethau a ddygasai yno'n flaenorol, yn y cwch i fynd ar hyd y dŵr hyd at geg yr afon fechan, lle yr oedd y bwthyn. Gwaith caled oedd rhwyfo'r cwch trwm, ac yntau wedi blino eisoes. Ond yr oedd yn benderfynol o gyflawni'r rhaglen a drefnasai am y diwrnod, ac wedi mynd a'r cwch i fyny'r afon mor bell ag y gallai gan ddyfnder y dwfr (ac ychydig lathenni oedd hynny), cludodd yr oll o'r llwyth i fyny i'r bwthyn, ac erbyn iddo orffen, prin y gallai symud gan ludded. Wedi cymryd tamaid i'w fwyta, trefnodd ei wely yng nghanol yr ystafell, a chysgodd o dan dô ar ddaear gadarn am y waith gyntaf er ys pan adawsai ei gartref; ac mor felys oedd yr hûn i'r unig blinedig, fel yr oedd yr haul wedi symud amryw raddau o'r gorwel cyn iddo agor ei lygaid.
Am dair wythnos, bu'n mynd ôl a blaen ar hyd y lagoon i'r llong gyda'r cwch—mynd un bore, aros ar y llong dros y nos, a dychwel drannoeth gyda llwyth o angenrheidiau; ac erbyn diwedd y tair wythnos, yr oedd wedi cludo ystorfa dda o'r llong, o ymborth, dillad, llyfrau, arfau, llestri, offerynnau, etc.,—mewn gair, credai ei fod wedi cludo popeth a fyddai'n debyg o fod yn ddefnyddiol iddo yn ei fywyd ar yr ynys. Yna cymrodd bleser mewn trefnu'r tŷ, a'i wneud mor gartrefol yr olwg ag y gallai. Yn ei gist 'roedd ganddo ddarlun o'i dad a'i fam, a chrogodd ef ar fur y bwthyn uwchben ei wely. Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd dilynol, cafodd lawer o bleser o ddarllen y llyfrau a ddygasai gydag ef o'r llong. Dechreuodd hefyd gadw dyddiadur, a chofnodai'n fanwl bob dydd ei weithrediadau, ac yn aml iawn, ei fyfyrdodau a'i brofiad. Gellir meddwl iddo wneud defnydd, y cyfle cyntaf posibl, o offerynnau'r capten i gymryd yr haul er mwyn penderfynu ymhle yr oedd. Gwnai safle'r ynys yn 174°W, 12°S., ond wrth iddo ymgynghori a'r chart, nid oedd ynys o fath yn y byd wedi ei nodi i gyfateb i'r lle hwnnw! Methai'n lân a deall y dirgelwch; yr oedd yn ddigon sicr ei fod yn defnyddio'r offerynnau'n briodol, ac eto nid oedd ynys wedi ei marcio i fod yno. Ai tybed ei fod wedi darganfod ynys oedd heb ei darganfod hyd hynny? Prin y credai hynny; ond yr oedd yn sicr o un peth: os oedd ei gyfrif ef yn gywir, yr oedd dros ddau can mifltir i'r gorllewin o Rahiti, ac felly rhaid fod yr hyrddwynt wedi chwythu'r llong y pellter hwnnw cyn ei dryllio.
XII. BYWYD AR YR YNYS
YCHYDIG hamdden a gymrodd Harri yn ystod yr wythnosau cyntaf ar yr ynys i'w harchwilio, gan mor brysur ydoedd yn trefnu'r tŷ. Ond wedi gorffen y gwaith hwnnw, penderfynodd gymryd taith trwy'r ynys er mwyn dod i wybod ychwaneg yn ei chylch. Cyn cychwyn, gwnaeth iddo'i hun fwa a saethau, gan y gallent fod o wasanaeth iddo er hunan-amddiffyniad, neu o bosibl i sicrhau cig ffres pe digwyddai gyfarfod rhai o'r moch a welsai y diwrnod cyntaf. Ymboenodd hefyd dipyn i ddysgu defnyddio'r bwa—arf anghynefin iddo—cyn cychwyn i'w daith. Gwir bod y llaw-ddryll ganddo, ond prin oedd ei ergydion, a byddai raid iddo eu cynilo, rhag ofn y byddai'n dda iddo wrthynt yn erbyn gelynion.
Un bore'n blygeiniol, cychwynodd ar ei bererindod, gan gymryd ychydig fwyd gydag ef. Ni wyddai faint yr ynys, a phosibl y cymrai fwy nag un diwrnod iddo wneud ei daith. Cychwynodd i fyny gyda'r afon fechan a redai heibio'r bwthyn, gan fwriadu gwneud am y bryn uchel a welsai oddiar fwrdd y llong. Fel y disgwyliai, gwelai'r holl ynys o ben y bryn, a'r môr yn ei hamgylchu. Ynys gymharol fechan ydoedd— rhyw bedair milltir o hyd, ac ychydig yn llai ar ei thraws. Gwelai ei bod yn ynys goediog, a bod cors yn ymestyn ar ei thraws, gan ei rhannu bron yn ddwy. Gwelai fod y rhan oedd y tu draw i'r gors—y pen dwyreiniol—yn ymddangos yn fwy coediog a ffrwythlon na'r rhan gorlleẃinol lle 'roedd y bwthyn, ac yn hwnnw codai'r tir i fryn pur uchel. Draw tua'r gorllewin a'r gogledd-orllewin, gwelai'r ynys arall a welsai o'r blaen —ymddangosai'n ynys fawr—cryn lawer yn fwy na'r un yr oedd ef arni, a mynydd-dir lled uchel arni, ar yr hwn y gorffwysai cwmwl gwyn.

Yr ochr draw i'r gors, ar ochr ogleddol ei ynys, gwelai fau bychan prydferth, tebyg iawn ei ffurf i fau Glandon.
Carasai fynd i'r ochr draw i'w chwilio'n fanylach, ond nid oedd arno awydd mynd yn agos iawn i'r gors, gan y clywsai am berygl afiechydon oddiwrth gorsydd yn y gwledydd poeth, ac felly ymfoddlonodd ar chwilio un ran o'r ynys yn unig y diwrnod hwnnw. Darllenasai gryn lawer am Ynysoedd Môr y De byth oddiar yr adeg y clywsai am ynys y trysor, fel y crybwyllwyd, a gwyddai fod dau fath o ynysoedd yno, sef rhai wedi eu ffurfio gan y mân bryfaid—y coral polyps—a'r rhai wedi eu ffurfio fel effaith llosg fynyddoedd a chynhyrfiadau tan-ddaearol (volcanic). Ynysoedd isel, gwastad yw ynysoedd y coral, ac felly er bod reef coral o amgylch yr ynys y cartrefai arni, volcanic ydoedd yn ei tharddiad, a dyna a gyfrifai am ei ffrwythlondeb. A'r rheswm fod y pen dwyreiniol yn ymddangos yn fwy coediog a ffrwythlon na'r pen gorllewinol ydoedd, mai o'r dwyrain y deuai'r gwynt a'r glaw fynychaf, er yn ddiau y ceid ambell ystorm o'r gorllewin.
Wedi cael rhyw gipdrem frysiog ar yr ynys a'i hamgylchiad o ben y bryn, trodd Harri i ddychwelyd, ond cymrodd lwybr gwahanol er mwyn astudio'n fanylach y pen gorllewinol. Ar ei ffordd âi heibio i lwyni trwchus o goed, ac ar y brigau gwelai adar prydferth, amryliw, ond yr oeddynt yn od o ddi-gân o'u cymharu ag adar Cymru. Sylwodd hefyd yma ac acw ôl turio neu dyllu pur ffres yn y ddaear, a methai am ysbaid ddyfalu beth allsai fod yn gwneud y tyllau. Ond cafodd oleuni ar y dirgelwch pan ddaeth ar draws cenfaint o foch yn pori. Ar ei ymddangosiad ef, troisant i ddianc, ond anelodd Harri atynt â'i fwa, a chlywodd ysgrech gan un wrth iddo syrthio ar y ddaear.
Llawenhai'n fawr yn ei lwyddiant i drin y bwa, a rhedodd ymlaen i orffen lladd a sicrhau'r ysglyfaeth, ond gwelodd y fam—hen hwch anferth—yn rhedeg tuag ato â golwg ffyrnig arni. Ni chaffai Harri fynd yn agos at y mochyn truan i'w ryddhau o'i boenau, nes iddo gofio am y dryll. Taniodd hwnnw gan ei bwyntio tuag i fyny, a bu sŵn yr ergyd yn ddigon i ddychrynu'r fam, ac i'w gyrru nerth ei chamau ar ôl ei thorllwyth. Wedi trywanu'r mochyn â'i gyllell, cylymodd Harri'r traed, a dygodd ef ar ei bastwn tua'r bwthyn yn fuddugoliaethus, gan addaw iddo'i hun wledd ddigymar drannoeth. Yn fuan wedi lladd y mochyn, daeth at nifer o fythynod bregus, ac wedi edrych yn ofalus o'i amgylch, nesaodd atynt braidd yn ofnus, ond cafodd hwynt yn wag, fel y cyntaf. Nid oedd bellach amheuaeth yn ei feddwl nad efe oedd unig breswylydd yr ynys.
Darganfyddiad arall a wnaeth cyn cyrraedd y bwthyn oedd natur yr hyn a durid gan y moch o'r ddaear. Cafodd allan mai rhyw wreiddiau oeddynt, a phenderfynodd mai yr yams y darllenasai amdanynt oeddynt, gwreiddiau ag iddynt flas tebyg i datws. Nid oedd yn hollol sicr, ond penderfynodd eu profi. Gwyddai nad allai dim oedd yn llesol i fochyn fod yn wenwyn i ddyn. Profodd hwynt yn amrwd, ac yr oedd yn hoffi'r blas, er yn ddiau y buasent yn well wedi eu coginio. Dychwelodd i'r bwthyn yn llon ei ysbryd yn y rhagolwg am ddigon o datws a chig tra byddai ar yr ynys. Yr oedd digon o fan-wydd hyd y ddaear i wneud tân, ac yr oedd wedi darganfod ffordd effeithiol i gynneu'r tân trwy ddal darn bychan o wydr yn ymyl papur a chael fflam oddiwrth wres yr haul. Yr oedd hefyd wedi darganfod ffynnon o ddwfr blasus o dan y graig yn ymyl y bwthyn. Fel rhwng popeth, teimlai fod ganddo achos i fod yn ddiolchgar ei bod mor dda arno ar yr ynys unig.
Wedi darganfod y bryn y gellid gweld o amgylch yr ynys oddiamo, cyrchai yno'n fynych i edrych a welai long yn rhywle yn y cyffiniau, ond siomid ef bob tro. Nid oedd dim tebyg i long i'w gweld yn unman ar y môr mawr, liydan. Ofnai fod yr ynys allan o lwybr cyffredin trafnidaeth, ac na chai byth ei waredu oddiyno. Unwaith neu ddwy, tybiodd iddo weld ryw bethau duon draw ar y môr yn agos i'r ynys fawr grybwyllwyd—yr oedd yn sicr fod yno rywbeth yn ymsymud ar y dwfr, a bamai mai badau (canoes) y trigolion oeddynt. Beth pe baent yn glanio ar ei ynys ef, ac yn ei ddal a'i fwyta, fel y clywsai amdanynt yn gwneud gyda dynion gwyn? Byddai yr ofn hwn dan ei fron yn fynych, ac edrychai bob dydd tua'r ynys fawr, rhag ofn iddynt ddod yno heb yn wybod iddo.
Ymhen y deufis wedi iddo gyrraedd i'r ynys, a dechrau ymgartrefu yno, daeth yn ystorm debyg i'r hon a'i dygodd i'r ynys. Yr oedd wedi bod yn boeth annioddefol trwy'r bore, ac yn y prynhawn teimlai'r awyr yn drymaidd anarferol. Gostegodd yr awel, a daeth rhyw ddistawrwydd llethol a bygythiol trwy'r holl le. Distawodd yr adar hynny o gân oedd ganddynt; deuai sŵn arswydlawn o'r môr—crafai ei waelod, ys dywedir, yn anniddig. Duodd y ffurfafen, a chyn hir wele fellten yn rhwygo'r awyr a sŵn y daran yn dilyn yn ddioed. Ac yna disgynnodd y storm arno, nes ei atgofio'n fyw o'r storm fawr a'i gyrasai yno. Cododd yr awel, ond y tro hwn o'r gorllewin, a disgynnodd y glaw yn genlli. Deuai'r glaw yn llifeiriant trwy nen bregus ei fwthyn. Ond da iddo fod ganddo dŷ ar y fath ystorm, a da fod y tŷ hwnnw mewn lle cysgodol, neu buasai wedi ei falu'n ysgyrion. Clurai'r coed yn clecian o'i gwmpas gan y gorwynt. At y nos gwaethygodd; ofnai na ddaliai'r tŷ tan y bore gan rym y corwynt difaol. Yn sydyn, cofiodd am ei gwch oedd yng ngheg yr afon fach, a phenderfynodd fynd yno drwy'r ystorm i geisio'i ddiogelu. Nid oedd ganddo ond tua dau can llath i fynd yno, ond yr oedd y gwynt i'w wyneb, ac amhosibl braidd oedd symud. Yr oedd yn dywyllwch dudew; ni allai weld modfedd o'i flaen, a rhwng rhuad y môr yn torri ar y lan, a rhuad y gwynt yn y coed, a sŵn y coed yn cael eu torri i lawr o'i amgylch, yr oedd yn ddigon i ddychryn unrhyw un. Wedi cwympo unwaith neu ddwy ar draws coed a daflesid ar ei lwybr, rhoes i fyny mewn anobaith, a cheisiodd ymbalfalu'i ffordd yn ôl i'w fwthyn coed, ac nid hawdd oedd dod o hyd iddo yn y tywyllwch oedd fel y fagddu.
Parhaodd yr ystorm trwy'r nos a thrwy'r dydd dilynol, a rhaid fu arno aros yn y bwthyn. Erbyn y trydydd dydd yr oedd trosodd, ac O! olygfa gafodd Harri pan aeth allan. Yr oedd cannoedd o'r coed wedi cwympo a brigau'n gorchuddio'r ddaear ymhob cyfeiriad. Ei ofal cyntaf oedd y cwch. Aeth i lawr i edrych amdano, a beth oedd ei syndod, debygwch, o'i gael wedi ei gario gryn hanner can llath i'r tir! Rhaid mai ton a'i cododd yno. Diolchai erbyn hyn nad oedd wedi ceisio mynd ato trwy'r ystorm neu buasai'n sicr wedi boddi. Sut byth y cai'r cwch yn ôl i'r dwfr dros hanner can llath o dir? oedd y cwestiwn ddaeth i'w feddwl. Wel! gallai wneud heb y cwch am ysbaid, beth bynnag, ac yr oedd ganddo bethau eraill i feddwl yn eu cylch. Y prynhawn hwnnw, penderfynodd fynd draw i edrych sut olwg oedd ar yr hen long oedd wedi bod am ddeufis ar y creigiau. Ond, fel yr ofnai, nid oedd hanes amdani,—yr oedd yr ystorm fawr wedi gwneud diwedd arni. Chwiliodd hyd y glannau am ryw ddamau ohoni allsai fod wedi eu golchi i'r lan, ond nid oedd dim i'w weld. Rhaid felly ei bod wedi suddo i'r môr o'r tu allan i'r reef. Daeth ton o ddigalondid dros ei ysbryd wrth feddwl am yr hen long wedi mynd na welai mohoni byth mwy, ac wrth feddwl amdani daeth iddo atgofion melys a chwerw am yr amser a dreuliasai ar ei bwrdd. Ond ieuanc ydoedd, ac ni phery digalondid i flino'r ieuanc iach yn hir.
Wedi dychwel i'r bwthyn, penderfynodd y mynnai geisio symud ei gwch yn ôl i'r dwfr. Mae'n wir nad oedd wedi gwneud unrhyw ddefnydd ohono ar ôl gorffen cludo'r nwyddau o'r llong, ond ei brysurdeb gyda threfnu'r bwthyn ac archwilio'r ynys a gyfrifai am hynny, a meddyliai y buasai awr neu ddwy yn y cwch ambell ddiwmod yn ddifyr odiaeth, yn enwedig os gallai osod hwyl arno. A phe deuai llong i'r golwg ryw ddiwmod, fel y parhai i obeithio er ei siom aml, sut y gallai fynd allan ati ond yn ei gwch? Felly, rhaid oedd cael y cwch yn ôl i'r dwfr, ac aeth ati o ddifrif i geisio'i gael yn ôl. Hanner can llath oedd o ffordd, a'r tir yn bur wastad, heb fod ond ychydig o rediad ynddo. Ceisiodd osod y rhan crwn o goes y rhwyf o dan y cwch, a gwthio'r cwch i rowlio drosto, modd y gwnaent gyda chychod Minymor ers llawer dydd i'w cael i'r dwfr, ond methiant fu'r cynllun hwn. Yr oedd y cwch yn rhy drwm iddo allu ei ysgwyd, chwaethach ei symud. Felly rhaid wrth gynllun arall. Yr un ffordd arall welai'n bosibl oedd trwy agor ffos ddofn o'r cwch at y môr, a nofio'r cwch i lawr. Golygai hyn waith caled a blin, ond nid un oedd Harri i gymryd ei ddigalonni gan anawsterau, a dechreuodd ar y gwaith gyda'i gaib a'i raw. Daliodd ati am wythnosau'n ddiwyd, nes llwyddo yn ei amcan. Yr oedd ganddo ffos ddofn o'r môr at y cwch, y gallai symud y cwch yn hawdd ar hyd-ddi i'r môr pan fynnai. Penderfynodd gadw'r cwch yn y ffos hyd nes y byddai arno ei angen, gan fod yno le mwy cysgodol na cheg yr afon fach pe digwyddai ystorm arall ysgubo'r ynys. Fel y crybwyllwyd eisoes, cadwai Harri gofnodion dyddiol o'i weithrediadau mewn llyfr,—gwell cynllun o gadw cyfrif o'r amser nag eiddo Robinson Crusoe o dorri nôd mewn pren am bob diwrnod. Gwyddai mai ar y 13eg o Fedi, 1893 y collasid yr "Arfonia," a chyn iddo orffen y ffos, yr oedd yn tynnu at ddiwedd Mawrth 1894, ac felly yr oedd wedi bod dros chwe mis ar yr ynys heb weld undyn byw, na gweld llestr o fath yn y byd yn hwylio heibio'r ynys.
Yr oedd yr hin erbyn diwedd Mawrth ryw gymaint yn haws ei oddef nag a fuasai hyd hynny, gan nad oedd pelydrau'r haul yn disgyn yn unionsyth arno, a theimlai awydd ymafael mewn rhyw orchwyl arall. Llunio mast i'r cwch i ledu hwyl arno'n sicr oedd y gorchwyl a hawliai sylw gyntaf, gan na wyddid pa mor fuan y byddai'r angen pe deuai llong i olwg yr ynys. Felly aeth ati o ddifrif. Yr oedd yn dda iddo wrth arfau'r saer i lunio mast, a gwnîo nifer o hen lieiniau yn ei gilydd wnaeth i gael hwyl. Ac, wrth gwrs, wedi cael mast a hwyl, yr oedd yn dra awyddus i roi praw arnynt. Nid oedd wedi archwilio'r ynys y trigai ynddi—yr 'oedd heb fod o gwbl yn y pen dwyreiniol—yr ochr draw i'r gors.
Felly, pan ddaeth awel ysgafn ffafriol un bore, cychwynodd yn ysgafn ei fron am y cwch, i wneud taith ynddo o amgylch yr ynys os gallai. Ychydig drafferth a gafodd i gael y cwch ar hyd y ffos i'r môr, ac yna i fyny â'r hwyl, ac i ffwrdd ag ef gan hwylio oddimewn i'r reef. Yr oedd yr hwyl yn ateb y diben yn dda a Harri'n eistedd yn ôl wrth y llyw, wrth ei fodd ar y dwfr! Nid oedd dim neilltuol yn tynnu ei sylw ar y lan—prydferth ddigon, ond yn bur debyg ymhob man. Wedi hwylio gyda'r lan ddeheuol, heibio lle bu'r llong-ddrylliad, gwelodd yr ochr draw i'r gors fod glan y môr yn greigiog—craig galch, a thyllau ac ogofeydd lawer ynddi, a llu afrifed o adar môr yn cartrefu yno,—adar mawr lawer ohonynt, ac yn aros yn dawel ar ei ymddangosiad. Wedi mynd heibio'r graig, a throi am ochr ogleddol yr ynys, daeth at drwyn o dir coediog yn ymestyn i'r môr, ac wedi amgylchu hwnnw, cafodd ei hun yn y bau prydferth a welsai o ben y bryn. Nid oedd yn ei weld mor debyg i fau Minymor erbyn mynd iddo, ond yr oedd yn debyg iawn i rhyw fau welsai Harri o'r blaen, er na allai yn ei fyw gofio ymhle y gwelsai ef.
Wedi cyrraedd i'r bau, glaniodd i archwiho'r lle'n fanylach. Hoffodd olwg y lle yn fawr. Yr oedd yno ddigon o goedydd, a ffrwythau arnynt—mwy nag oedd yn y pen gorllewinol. Sylwodd fod yno un goeden na welsai o'r blaen, ac wedi profi ei ffrwyth, cafodd fod blas tebyg i flas bara arno, ac adwaenodd y goeden fel y mango—neu y bread-fruit tree. Yr oedd digonedd o cocoanuts a bananas yao hefyd— ffrwythau aeddfed wedi disgyn hyd lawr, a rhai anaeddfed ar y canghennau.
Rhyw gan llath o lan y bau, yr oedd craig pur uchel yn codi ei phen, a theimlai Harri y buasai'n lle dymunol i wneud tŷ Yn y graig canfu ogof fechan, a meddianwyd ef gan y syniad y buasai'n lle rhagorol i gadw'i fwydydd ynddo. (Yr oedd ganddo eto lawer o fwydydd y llong yn aros, a chadwent yn llawer gwell yn yr ogof nag yn unman arall.) Penderfynodd yr âi ati'n ddioed i wneud tŷ iddo'i hun wrth odre'r graig. Byddai'r graig yn gysgod iddo rhag y dymestl,— a mwy na hynny, o'r fan honno wynebai'r môr mawr llydan. Haws lawer fyddai iddo weld llong, pe digwyddai un basio, o ben y graig nag o ymyl ei fwthyn, a theimlai'n fwy diogel wrth wynebu'r môr. Byddai'n bellach hefyd oddiwrth yr ynys arall. Nid oedd wedi teimlo'n gysurus yn y bwthyn er pan welsai'r badau ar y môr, gan ofn i'r barbariaid lanio a'i gymryd yn garcharor. Ond yn y fan hon, teimlai y byddai'n ddiogel rhagddynt.
Wedi meddwl am y cynllun, nid oedd dim amser i'w golli. Rhaid oedd dechrau ar y gwaith. Wedi gwneud pryd o'r ffrwythau blasus, aeth yn ôl i'r cwch i gwblhau ei fordaith o amgylch yr ynys. Yn fuan trodd yr awel yn ei erbyn, a rhaid fu arno dynnu'r hwyl i lawr a chymryd at y rhwyfau. Gorchwyl caled oedd rhwyfo'n ôl, ond nid oedd arno angen brysio am y byddai adref cyn y nos. Gwnaeth un darganfyddiad pwysig ar y ffordd yn ôl, sef nad oedd y gors yn cyrraedd ar draws yr ynys, ond y gellid cerdded o'i fwthyn i'r fangre newydd ddewisasai i wneud ei gartref. Llawenhai am hynny, gan y golygai na byddai raid iddo ddibynnu ar y gwynt a'r môr i allu mynd ôl a blaen.
Wedi cyrraedd i'w fwthyn yn bur lluddedig, aeth ati.i gynllunio tŷ newydd, ac i gasglu'r arfau ynghyd i gychwyn trannoeth. Mor llawen y teimlai erbyn hyn ei fod wedi achub celfi'r saer o'r llong, a'i fod yn weddol fedrus gyda hwynt.
Bore drannoeth, aeth a'r arfau gydag ef yn y cwch i ben arall yr ynys, a dechreuodd ar y gwaith. Torri pedair coeden i gael un ymhob congl oedd y gwaith cyntaf, ac yna llifio coed ar hyd eu canol i wneud ochrau. Gwaith caled i'r bachgen oedd symud y coed a'u gosod i sefyll yn ddiysgog yn y conglau, ond llwyddodd trwy benderfyniad a dyfal-barhad. Yr oedd wedi gafael yn y gwaith o ddifrif, a'r anturiaeth newydd wedi mynd a'i fryd yn llwyr. Ar y dechrau, âi ôl a blaen nos a bore rhwng y tŷ newydd a'r hen dŷ, naill ai gyda chwch neu ar draed, ond cyn hir blinodd ar hyn, gan y golygai ludded di-alw amdano, a gwastraff ar amser. Gwnaeth le iddo'i hun i gysgu'n yr ogof, ond âi i'w gartref i fwrw pob seithfed dydd. Bob bore, cyn dechrau gweithio, âi i ben y graig i daflu golwg dros y môr am long, ond y naill fore ar ôl y llall deuai i lawr heb weld dim yn hwylio'r cefnfor llydan. Ond ni ddigalonnai. Ai ymlaen gyda'i waith er pob siom, gan gredu'n gryf y gwaredid ef ryw ddiwrnod, a hyd hynny nid oedd dim ond ceisio gwneud y gorau o'r gwaethaf.
Ar ffrwythau yr ymborthai ymron yn hollol yn ystod cyfnod adeiladu'r tŷ, ac yr oeddynt yn dygymod yn dda ag ef. Yr oedd yn rhy brysur i gael amser i hela'r moch, er bod digon ohonynt yn y pen hwnnw i'r ynys. Mwynhai y bananas a'r cocoanuts, a digonent ef. Dysgodd un peth newydd ynghylch y cocoanuts. Yr oedd yn ddigon cynefin â blas y rhai aeddfed cyn gadael cartref erioed—gwelsai hwynt ym Minymor adeg yr arddangosfa anifeiliaid bob mis Mai, pan fyddai yno bob math o stondins i wario arian wrthynt. Ond sylwodd fod lliw y ffrwyth anaeddfed ar y coed yn wyrdd, a dringodd goeden i dynnu ffrwyth anaeddfed er cael profi ei flas. Wedi gwneud twll trwy'r plisgyn, dododd ei enau wrtho, ac O! llifodd i'w geg y ddiod orau gawsai erioed, llawer mwy blasus a gwell at dorri syched na'r ddiod geir o'r ffrwyth aeddfed. Felly cafodd o'r un goeden fwyd a diod, a phob tro y teimlai'n sychedig (a byddai hynny'n bur fynych), dringai'r goeden dal-syth i dynnu diod.
Yn rhyfedd iawn, nid oedd wedi gweld unrhyw greaduriaid ar yr ynys ond y moch, a rhyfeddach na hynny, nid oedd yno ymlusgiaid o fath yn y byd. Rhyfeddai na fuasai yno nadroedd gwenwynig yn y fath hinsawdd ffafriol iddynt.
Cymrodd fisoedd lawer iddo orffen ei dŷ, a symud rhai o'i bethau yno. Ac wedi iddo ei orffen, teimlai rhyw ymlyniad rhyfedd wrth yr hen fwthyn, a gadawodd rai pethau yno. Hoffai fynd yno i dreulio diwedd yr wythnos, a dychwelai i'w gartref newydd wedi derbyn budd o'r newid.
Ofer fyddai gwastraffu amser i ddisgrifio'i fywyd beunyddiol ar yr ynys. Ond cai bachgen o natur fywiog Harri rywbeth i'w wneud yn barhaus. Y peth cyntaf bob bore oedd ymdrochi yn y bau o flaen y tŷ. Nid âi ymhell o'r lan gan yr ofnai y gallai fod siarc heb fod ymhell. Unwaith bu agos iddo syrthio'n ysglyfaeth i'r anghenfil hwnnw, a'i gyflymder i droi yn sydyn yn y dwfr a'i hachubodd rhagddo. Byth wedi hynny, cadwai'n agos i'r lan, a gwyliai am symudiad ar wyneb y dŵr arwyddai bresenoldeb siarc yn y bau.
Wedi'r ymdrochi âi i ben y graig o'r tu ôl i'w dŷ i edrych allan tua'r môr. Wedi hynny, dychwelai i wneud rhyw waith tua'r tŷ, neu i ddarllen, ac ambell brynhawn âi am dro ar hyd yr ynys, naill ai i'w harchwilio'n fanylach, neu i hela'r moch. Weithiau, âi allan gyda'r cwch. Fel hyn, rhwng y naill beth a'r llall, treuliai ei amser yn ddifyr ddigon ag ystyried mai unig ydoedd.
Ymhen y ddwy flynedd i'r diwrnod wedi iddo gael ei fwrw ar yr ynys, aeth i ben y graig fel arfer, ac er ei syndod a'i lawenydd, beth a welai draw ar y gorwel tua'r dwyrain oddiwrtho ond rhywbeth tebyg i long. Prin y gallai gredu ei lygaid; rhwbiodd hwynt fwy nag unwaith i fod yn sicr ei fod yn effro, ac nad breuddwydio yr oedd. Ie'n sicr, llong ydoedd; nid oedd modd ei bod yn ddim amgen. Ond yr oedd ymhell iawn—barnai fod ugain milltir neu ragor rhyngddi ag ef. Wedi aros am ysbaid i graffu tua'r llong, aeth i lawr i edrych y cwch, a'i baratoi i'r môr, gan mor sicr y credai fod awr ei waredigaeth wedi dod. Yn fuan iawn, yr oedd i fyny ar ben y graig drachefn, ac O! yr oedd y llong yn nês, ac fel pe am basio'r ynys ar yr ochr ogleddol iddi. Penderfynodd mai ceisio mynd ati gyda'r cwch fyddai orau, gan na allai wneud arwydd oddiar yr ynys i'r rhai ar fwrdd y llong. Aeth i lawr drachefn, a brysiodd i gludo i'r cwch bopeth a farnai fyddai'n angenrheidiol arno, a chyn bod yr haul wedi codi i'w anterth, yr oedd yn barod i gychwyn. Cyn cychwyn, aeth i fyny unwaith eto i edrych ar y llong. Yr oedd yn ddigon agos erbyn hyn iddo weld mai llong hwyliau pur fawr ydoedd, a barnai ar ei chyfeiriad y pasiai o fewn rhyw bedair neu bum milltir i'r ynys. Wedyn ymaith ag ef yn y cwch, a gobaith gwaredigaeth a gweld ei anwyliaid yn llanw'i fron. Ond er mor llawen ydoedd gan y gobaith, teimlai fesur o chwithdod wrth adael yr ynys a fuasai'n gartref iddo dros ysbaid dwy flynedd. Gofidiai'n arbennig orfod gadael rhai pethau ar ôl y carasai eu cymryd i'w ganlyn. Ond yr oedd y cyfle hir-ddisgwyliedig wedi dod i fynd adref, ac nid oedd dim arall yn werth gwneuthur cyfrif ohono yn ymyl hynny.
Nid oedd y llong, wrth gwrs, yn weledig iddo o'r cwch, ond ceisiai lywio i'r cyfeiriad y tybiai a'i dygai i'w chyfarfod—tua'r gogledd orllewin. Yr oedd y gwynt yn deg iddo, a symudai'n gyflym dros y tonnau. Wedi mynd am ysbaid pur faith, synnai na bai'r llong yn y golwg. Rhaid ei fod wedi croesi'i chwrs, neu yn rhywle o'i gwmpas. Edrychai'n ôl,—gwelai bennau'r ddau fryn uchel yn yr ýnys y cychwynasai ohoni draw yn y pellter, a'r ynys fawr yn bur agos iddo ar ei aswy. Daliodd i hwylio ymlaen gan newid ychydig ar ei gyfeiriad, ond suddai ei obeithion wrth fethu ganddo weled un arwydd o'r llong. Rhaid ei bod wedi newid ei chyfeiriad wedi iddo ef gychwyn. Nid oedd bellach ond troi'n ôl yn siomedig. Nid gorchwyl mor hawdd oedd mynd yn ôl gan nad oedd y gwynt mor ffafriol iddo, er nad oedd yn hollol groes. Ond fel yr âi'r prynhawn yn hwyr, trodd yr awel i'w erbyn, a chryfhaodd. Rhaid fu arno dynnu'r hwyl i lawr, a cheisio rhwyfo. A phan oedd eto gryn filltir o'r ynys, disgynnodd y nos arno'n sydyn, a gwelodd mai yn y cwch y byddai raid iddo aros hyd y bore. Noson ofnadwy fu honno iddo. Cododd yr awel, a thrwy gydol y nos taflwyd ef a'i gwch gan y tonnau fel y mynnent. Golchai'r tonnau i'r cwch, a bu am oriau'n taflu'r dŵr allan rhag i'r cwch suddo.
Ni bu neb yn fwy llawen o weld toriad gwawr na Harri wedi'r fath noson. Cafodd fod y gwynt a'r môr wedi ei yrru bellter mawr oddiwrth yr ynys. Yn wir, ni fuasai'n sicr i ba gyfeiriad i lywio, onibai weled ohono ben y ddau fryn ar ei ynys fach ef. Yr oedd yn lluddedig, yn newynog ac yn siomedig, ond ymdrechodd yn ddewr i gyrraedd yn ôl i'w ynys, a glaniodd yn hwyr yn y prymhawn. Wedi cyrraedd i'w dŷ, taflodd ei hun ar ei wely dail i wylo gan chwerwder y siom, a than wylo yr aeth i gysgu, druan bach, ac i freuddwydio am ei fam, a Bwlchglas, a chyfeillion a bro ei febyd.
Effeithiodd y siomedigaeth yn fawr ar Harri. Tra heb weld llong, yr oedd yn gallu dal i obeithio y deuai llong ryw ddiwrnod; ond wedi i long ddod, ac iddo yntau fethu cael iddi, teimlai'n ddigalon iawn. Am rai dyddiau wedi hyn, nid oedd fawr o ynni ynddo i weithio, nac awydd o gwbl i fynd i ben y graig i edrych am long. Ymhen pedwar diwrnod wedi'r siom, yr oedd yn cychwyn am yr hen fwthyn i orffwyso dros y seithfed dydd, ac yn teimlo yn bur ddiysbryd: bron na theimlai ar rai prydiau mai gorwedd i lawr a marw fyddai orau iddo. Dros y tir yr aeth adref y tro hwn, a'i feddwl bob cam o'r daith yng Nghymru annwyl, nes mai prin yr oedd yn ymwybodol o ddim o'i amgylch.
XIII. YR YMWELWYR
OND wedi cyrraedd i'r bwthyn, cafodd ei alw'n ôl mewn dull sydyn a brawychus o'i fyd breuddwydiol at amgylchiadau ei fywyd ar yr ynys. Wedi agor drws y bwthyn, gwelai fod rhywun wedi bod yno. Yr oedd digon o arwyddion bod rhywun wedi bod yn symud y pethau o gwmpas, ac yn chwilota'n ei gist. Safodd yn syn pan sylweddolodd hyn. Pwy allsai fod wedi bod yno? Ar y cyntaf meddyliodd am ei hen elynion, William Jones a Thwm Dafis, ond cofiodd eu bod hwy'n ddigon pell oddiyno. Ai tybed mai rhai o drigolion yr ynys fawr a fu yno? Os mai ie, diolchai nad oedd ef yno ar y pryd. Hyd y gwelai, ar gipolwg frysiog o amgylch, nid oedd dim wedi ei gymryd oddiyno, ond o sylwi'n fanylach, canfu fod un peth—peth diwerth i bawb ond ei hunan, ond amhrisiadwy yn ei olwg ef—wedi difiannu, a hwnnw ydoedd y darlun o'i dad a'i fam, a grogai ar y mur. Ni allai ddimad pam yr oedd hwnnw, yn anad unpeth, wedi ei gymryd.
Tipyn yn gythryblus ei feddwl ydoedd wrth ei osod ei hun i geisio cysgu, a chadwai'i feddwl terfysglyd gwsg oddiwrth ei emrynt. Po fwyaf y myfyriai ar y digwyddiad, cryfaf yn y byd y credai mai ymwelwyr o'r ynys gyfagos a gawsai, ac yn hyn yr oedd yn gywir. A gwell i ni egluro i'r darllenydd, cyn mynd ymhellach, sut y bu iddynt ymweled ag ef. Cofir i ni ddweud i Harri, pan yn y cwch yn ceisio croesi cwrs y llong yn y gobaith am waredigaeth, hwylio'n bur agos i'r ynys fawr, ac yn ddiarwybod iddo, gwelwyd y cwch gan rai o'r ynyswyr. Gwyliwyd ef yn dychwelyd y dydd dilynol i'r ynys fechan. Synnai'r brodorion fod neb yn byw ar yr ynys, a'r dydd dilynol, deuwyd yno i archwilio gyda'r canlyniad a nodwyd,—iddynt weld arwyddion digamsyniol bod rhywun yn preswylio yn y bwthyn coed, er iddynt fethu gweld y preswylydd.

Noson anesmwyth a gafodd Harri. Deffrodd o gwsg annifyr fwy nag unwaith gan dybied fod yr anwariaid yn y tŷ, a bore trannoeth yr oedd ar ei draed yn blygeiniol. Aeth i lawr i lan y môr, ac ar y tywod gwelodd ôl llawer o draed noethion. Rhaid felly mai'r ynyswyr fuasai yno, ond pam y cymerasent y darlun diwerth ymaith gyda hwynt? Ni allai feddwl am unrhyw esboniad ar hyn, er dyfalu mwy na mwy. Ond yn sicr, yr oedd pen arall yr ynys yn fwy diogel iddo, ac felly credai mai gorau po gyntaf iddo symud ei breswyl yn gyfangwbl yno. Yn wir, teimlai'n bur anesmwyth ei feddwl i aros yno'r diwrnod hwnnw rhag cael ymweliad. Ond y Sabboth ydoedd, ac yr oedd hyd yn hyn wedi ei gadw hyd y gallai, a mynnai wneud hynny'r tro hwn, onibai bod perygl uniongyrchol. Felly penderfynodd aros yno dros y Sabboth, ond edrychodd ugeiniau o weithiau yn ystod y dydd tua'r ynys draw, mewn ofn gweled badau'r anwariaid yn dod tuag ato. Ond cafodd heddwch; ni ddaeth dim, ac aeth i gysgu'r noswaith honno'n dawelach ei feddwl. A chan iddo fethu cysgu'r noson flaenorol, cysgodd y noson honno'n drwm ac yn hir; a phan ddeffrodd, canfu ei bod yn llawer o'r dydd. Brysiodd i gychwyn dros y tir am ei dŷ newydd, i gyrchu'r cwch i gludo popeth o'r hen fwthyn i ddiogelwch mwy y newydd.
Ni allai gychwyn heb daflu golwg tua'r ynys arall, ac er dychryn mawr iddo, beth welai o fewn llai na hanner milltir i'r lan, ond tri o fadau mawr yn llawn o ddynion, yn dod am geg yr afon fach. Cyfareddwyd ef gan yr olygfa, fel na allai dynnu ei lygaid oddiarnynt. Yna sylweddolodd yn llawn y perygl yr oedd ynddo. Yr oedd yn rhy hwyr i ddianc; byddent yn sicr o'i weld. Ond gallai ymguddio rhagddynt, a gwerthu ei fywyd mor ddrud ag oedd modd pe deuent o hyd iddo. Ciliodd oddiwrth y bwthyn gyda'i fwa a phastwn cryf yn ei law i ganol llwyn tew o goed, lle y gallai, rhwng y dail, weld y llwybr o'r lan i'r bwthyn heb fod ei hunan yn weledig. Teimlai y byddai'n ddiogel yno onibai iddynt wneud ymchwil manwl amdano. Curai ei galon tan ei fron nes yr ofnai o'r bron iddynt ei chlywed, pan y glaniodd y cychod, ac y daeth y dynion ohonynt. Siaradent yn uchel â'i gilydd, er na allai, wrth gwrs, ddeall yr un gair ddywedent. Daeth oddeutu eu hanner i fyny gyda'r afon tua'r bwthyn, tra'r lleill yn aros gyda'r cychod. Pasient o fewn ychydig lathenni i'w ymguddfa, a gallai weld eu bod yn ddynion tal, cydnerth, tywyll iawn eu crwyn, ond sylwodd nad oedd golwg agos mor ffyrnig arnynt ag a ddisgwyliasai weld, er eu bod yn cario rhyw fath o arfau na welsai ef o'r blaen eu tebyg.
Edrychent i bob cyfeiriad ac agoshaent at y bwthyn mewn distawrwydd. Ond yr hyn a dynnodd sylw neilltuol Harri oedd bod dyn gwyn yn eu plith, neu o'r hyn lleiaf, un llawer gwynnach na'r gweddill. Dyn tal, a'i wallt yn dechrau britho, a barf laes ganddo. Nid oedd gan y lleill wisg ond rhwymyn ynghylch eu lwynau, ond meddai hwn ryw fath ar wisg oedd yn efelychiad o wisg Brydeinig. Ai tybed mai carcharor ydoedd, a'u bod ar fedr ei gosbi mewn rhyw ffordd farbaraidd? Na, ni allai hynny fod, oblegid cerddai'n ŵr rhydd, a gwelodd Harri'n fuan ei fod yn wrthrych parch y dynion duon, ac yn debycach i bennaeth arnynt na dim arall. Yn ei law dygai rywbeth a ymddangosai i Harri fel y darlun a gollasai o'r bwthyn, ond ni allai ddweud i sicrwydd.
Aeth y parti i mewn i'r bwthyn, a buont yno am gryn amser. Clywai Harri sŵn siarad yn dod oddiyno, a thybiai mai ei absenoldeb ef oedd yn eu poeni. Pan o'r diwedd y daethant allan, gwelai Harri'r dynion duon yn mynd ymlaen i gyfeiriad canol yr ynys, ond A beth safodd y dyn gwyn yn ymyl drws y bwthyn. a glywai Harri yn y munud, ond y dyn gwyn yn mwmian canu'r hen don a glywsai ganwaith yng Nghapel Minymor" Bryn Calfaria."
A mwy na hynny. Bron na thybiai mai ar y geiriau Cymraeg y canai hi. Bu agos iddo ymuno o'r d'ryslwyn yn y ddwy linell olaf,
"Pen Calfaria,
Nac aed hwnnw byth o'm cof "
ond cafodd ddigon o hunan-feddiant i ymatal.
Pwy allai'r dyn gwyn fod? oedd y cwestiwn ddaeth i'w feddwl. Ai tybed mai Cymro ydoedd? Gwrthodai'r syniad fel un amhosibl. Rhaid mai ei ddychymyg byw ef oedd wedi cydio'r dôn a ganai'r dyn wrth y geiriau a glywsai ef ar y dôn gartref. Ac eto, pwy ond Cymro allsai ganu'r hen dôn? os nad oedd gan yr ynyswyr ryw fesur tebyg iddi. Tra yr ymresymai Harri'r broblem newydd hon, gwelodd y dyn gwyn yn mynd yn arafaidd ar ôl ei gymdeithion, ac wedi ysbaid pur faith, daeth yr holl gwmni heibio iddo'n ôl at y badau, a thybiai Harri glywed sŵn siom yn nhôn y dyn gwyn pan yn mynd heibio iddo. Yn fuan wedyn, gwelodd y badau yn cychwyn yn ôl, ac wedi iddynt fynd ddigon pell, daeth allan o'i guddfan gan dynnu anadliad dwfn o ollyngdod fod yr ymwelwyr wedi ymadael.
Wedi gweld yr ynyswyr, ni theimlai arno gymaint o'u hofn, yn enwedig wedi gweld y dyn gwyn yn eu cymdeithas. Rhaid eu bod yn dra gwahanol i'r ynyswyr y darllenasai ef amdanynt. Yr un pryd, penderfynodd na ddeuai mor aml i'r hen fwthyn i aros, a pharatodd i symud ychwaneg o'i bethau oddiyno i'w dŷ newydd, gan adael yn yr hen yn unig y pethau trymaf a mwyaf anhylaw i'w symud. Ar ei ffordd yn ôl trwy'r ynys y tro hwn, daeth ar draws cenfaint o foch yn pori. Ffoisant ar ei ymddangosiad, ac ni wnaeth ymgais i ladd yr un, gan nad oedd agos mor hoff o gig ag y bu. Ond gwelodd fod un porchell bychan yn methu dilyn y lliaws. Wedi mynd ato a'i godi, gwelodd ei fod wedi torri'i goes. Aeth ag ef adref yn ei freichiau, a'r mochyn yn gwichian yn enbyd gan boen ac ofn, ac wedi cyrraedd y tŷ, er na wyddai ddim am waith mil-feddyg, rhwymodd goes y mochyn gystal ag y gallai, a dododd ef i orwedd ar swp o ddail crin yng nghongl yr ystafell. Yr oedd yn amlwg yn fuan fod y driniaeth wedi lliniaru'r boen, oblegid cysgodd y mochyn yn dawel. Gweinyddodd Harri arno'n ofalus am rai dyddiau, a daeth y mochyn i fod yn bur gartrefol yn y bwthyn, ac yn gyfeillgar iawn â Harri, fel pe bai'n sylweddoli'r drugaredd a wnaethai ag ef. Dilynai ef o gwmpas y tŷ, pan âi ynghylch ei orchwylion. Cymrodd y bachgen yntau ddiddordeb yn y creadur. Llawen oedd o ryw gymdeithas wedi bod cyhyd heb un o fath yn y byd. Aeth ati i wneud cut iddo i gysgu'r nos yn ymyl y tŷ. Daeth y mochyn cyn hir i adnabod ei enw; dim ond i Harri alw Dic" arno, deuai ato o ba le bynnag y digwyddai fod. Daeth moch gwyllt eraill i droi mwy o gwmpas Harri, ac i beidio dianc rhagddo, ac wedi mabwysiadu Dic, anodd oedd ganddo feddwl am ladd yr un mochyn.
Er ei fod wedi gorffen y tŷ newydd ers cryn amser, parhai i wneud rhyw welliantau arno ac ynddo, fel y gwawriai syniadau newydd ar ei feddwl. Ac un darganfyddiad roes fawr foddhad iddo oedd ffordd i gau tyllau yn ochrau y tŷ rhwng y coed. Gwyddai mai math o garreg galch oedd y cwrel, ond aeth cryn amser heibio cyn iddo feddwl y gallai ddefnyddio'r cwrel i amcanion calch. Ond un diwrnod, digwyddodd wneud tân coed yn agos i dwr o gerrig cwrel sychion, a chraswyd y cerrig heb iddo amcanu hynny. Pan ddaeth glaw wedi hynny, canfu'r cerrig yn mygu ac yn chwalu'n llwch. Gwelodd y gallai yn y ffordd honno-drwy eu crasu, a'u gwlychu wedyn-gael calch i blastro muriau ei dŷ, a gwnaeth hynny, nes gwneud y tŷ'n glyd. Gwnaeth do da o frigau a dail i'r tŷ, a'r unig ddiffyg mawr ar ei breswyl oedd nad oedd ynddo ffenestri. Ni allai wneud rhai gan nad oedd ganddo ddigon o wydr, ac felly nid oedd dim i'w wneud i gael goleuni ac awyriad, ond gadael darn ysgwar ar ffurf ffenestr yn agored ar ddwy ochr i'r tŷ, a'u gorchuddio â chaeadau (shutters) pan ddeuai ystorm.
Nid aeth Harri i'r hen fwthyn am gryn amser wedi ymweliad yr ynyswyr-dim ond unwaith gyda'r cwch i gyrchu rhai o'i bethau oddiyno. Ond meddyliai lawer am y dyn gwyn a welsai, a thynnai rhyw chwilfrydedd ef yn aml i ben y bryn uchel i edrych tua'r ynys draw. Disgwyliai weld y badau ar y môr, neu'n glanio ar ei ynys, ond nid oedd dim arwydd ohonynt. O'r diwedd anturiodd, gyda Dic y mochyn wrth ei draed, i'r hen fwthyn, a chafodd bopeth fel y gadawsai hwynt. Nid oedd arwydd bod neb wedi croesi'r rhiniog yr holl amser, ac os bu ymwelwyr, nid oedd dim wedi ei gymryd oddiyno.
Wedi hyn daeth yn amlach i ben gorllewinol yr ynys, er y cadwai wyliadwriaeth fanwl rhag i'r ynyswyr ddod a'i ddal yno. Ac un diwrnod, wrth fynd i edrych am yr hen fwthyn, bu i rywbeth dynnu ei sylw yn y gors ar fin ei lwybr, gyda'r canlyniad iddo ymdroi mwy yn ei hymyl nag y gwnaethai hyd hynny. Ei arferiad oedd brysio heibio iddi, a chadw mor bell oddiwrthi ag oedd modd. Ond y tro hwn, fel y dywedwyd, torrodd ar ei arfer dda. Erbyn iddo gyrraedd i ben y bryn yr ochr draw, teimlai rhyw gryndod dieithr yn gafael ynddo, a beiai ei hun am ei ffolineb yn aros cyhyd yng nghymdogaeth y gors afiach. Aeth ymlaen tua'r bwthyn, a theimlai ei hun yn gwaethygu bob cam o'r daith. Erbyn iddo gyrraedd, teimlai ei draed yn ei ollwng, a da oedd ganddo gael taflu ei hun ar y llawr, mewn poenau dirfawr,—rhyw gur yn ei ben fel pe bai bron hollti. Gorweddai ar lawr dan riddfan, ac heb awydd symud i wneud na bwyd na dim iddo'i hun, nac i gymryd sylw o gwbl o Dic ffyddlon, yr hwn a droai o'i amgylch, yn methu dirnad, mae'n debyg, beth oedd y mater ar ei feistr. Yn y prynhawn, syrthiodd y bachgen i drwmgwsg. Ni wyddai am ba hyd y cysgodd, na sut y deffrodd; ond pan ddeffrodd, gwelodd dri dyn dieithr yn y bwthyn-—dau ddu o'r ynys, a'r dyn gwyn a welsai o'r blaen. Ond yr oedd mewn gormod o boen i synnu nac i ddychrynu rhagddynt. Nid oedd ond hanner-ymwybodol, ond gwelai'r tri yn sefyll ac yn ei wylio, a phan ysgydwodd, plygodd y dyn gwyn i lawr, a dododd ei law'n dyner ar ei dalcen.
"O! mam bach, 'rydw i 'n sâl," ebe'r bachgen, dan riddfan. "O! 'mhen bach i," a llithrodd yn ôl i dir anymwybodolrwydd.
Dywedodd y dyn gwyn rywbeth wrth y ddau arall, ac aethant allan o'r bwthyn. Yr oeddynt yn ôl yn fuan gyda dail a gwreiddiau, a bu'r tri'n brysur yn paratoi rhyw gyffyr gyda hwynt, a rhoisant beth ohono i'r bachgen i'w yfed. Pan ddeffrodd eilwaith ymhen rhai oriau, teimlai lawer yn well—yn wir, yr oedd y boen wedi mynd. Edrychai'n syn ar y dynion dieithr, ond nid oedd eu hofn arno bellach. Daeth y dyn gwyn a rhywbeth iddo i'w yfed, ac yfodd yntau heb ofni dim brad. Amneidiodd y dyn gwyn ar i'r ddau arall fynd allan, ac wedi iddynt fynd, daeth y dyn gwyn ato, a chydag edrychiad caredig, meddai wrtho,
"Rydach chi'n well, on'd ydach chi?"
Trodd y bachgen ddau lygad syn arno, ac meddai, "Beth! Ai Cymro ydach chi?
"Ie, siwr, Cymro glân gloyw fel chitha. Ond rhaid i chi beidio siarad llawer nes byddwch chi'n well."
"Ond 'rydw i'n teimlo iawn. Mae'r ffisig roisoch chi i mi wedi fy ngwella i."
"Rhaid i chi ddod drosodd hefo ni i'r ynys arall fory. Does yma ddim lle iach efo'r gors 'ma. Ond fuoch chi ddim yma'n hir?"
"'Rydw i yma ers yn agos i dair blynedd."
"Tair blynedd! Gymaint a hynny. Mae'n syn na b'asan ni wedi'ch gweld chi, a ninna mor agos, ac mae'n fwy o syndod na fasa chi wedi marw yma.
Mi fu rhai o'r bobol acw'n byw yma flynyddoedd yn ôl, ond o achos y gors fe fu'n rhaid iddynt fynd oddiyma." Bu'r dyn gwyn a'r brodorion yn gweini'n garedig ar Harri nes yr oedd yn ddigon cryf i fynd gyda hwy i'r ynys arall. Nid oedd yn fodlon i fynd gyda hwy nes iddynt addo y caffai ddod yn ôl i'w ynys ei hun pryd y mynnai.
Pan oedd ar fedr cychwyn yn y cwch gyda'i ffrynd newydd, cofiodd am Dic, y mochyn, a mynnai gael mynd yn ôl i edrych amdano. Waeth i chi heb," ebe'r dyn gwyn, mi fu o gwmpas y bwthyn am dipyn pan oeddech chi'n sâl, ond mae o wedi troi'n fochyn gwyllt yn ei ôl, mae'n sicr, bellach."
Ac felly, mynd fu raid heb Dic.
XIV. STORI PETER JONES
YR oedd tyrfa ar y lan yn disgwyl y cwch yn ôl. Codent eu dwylo a gwaeddent mewn llawenydd wrth weld y cwch yn agoshau, a rhedodd rhai ohonynt i'r dwfr i'w gyfarfod i'w dynnu i'r lan. Gwelai Harri fod y dyn gwyn yn cael ei barchu ganddynt, a thybiodd yn sicr mai rhyw genhadwr ydoedd.
Wedi glanio aeth Harri-yn ddigon swil, gan y teimlai ei hun yn wrthrych sylw cyffredinol—i fyny hyd lwybr gyda'r dyn gwyn, a'r brodorion yn canlyn. Wedi mynd rhyw ddeucan llath, daethant at ddarn o dir wedi ei glirio'n weddol lwyr o goed, ac yno 'roedd y pentref brodorol. Synnodd Harri'n fawr weld y lle mor lân a threfnus-by thynnod coed a gwiail yn sefyll yn rhesi trefnus, a llu o blant yn chwarae o'u cwmpas. Yma, wrth gwrs, syllwyd gyda chywrein- rwydd ar Harri; peidiodd y plant a'u chwarae, a daeth y merched i ddrysau'r bythynnod, ond aeth y dyn gwyn ymlaen heibio iddynt, dan amneidio ei ben a gwenu ar hwn ac arall, a chadwodd Harri wrth ei ochr. mynd drwy'r pentref, gwelodd Harri o'i flaen dŷ o goed-mwy a gwell ei ymddangosiad na bythynnod y pentref.
"Dacw fy nhŷ i," ebe'r dyn gwyn wrtho.
Wedi mynd i'r tŷ, ac eistedd a bwyta, heb i air gael ei ddweud rhyngddynt, ond yr hyn oedd yn angenrheidiol ynglŷn â bwyta, gofynnodd Harri i'r dyn gwyn,
"O ba ran o Gymru ydach chi'n dod? Ddaru mi fawr feddwl bod Cymro mor agos i mi."
Edrychodd y dyn ar Harri heb ddweud dim am rai munudau. Yn wir, yr oedd wedi syllu i'w wyneb ers pan oeddynt yn y tŷ, nes y teimlai'r bachgen braidd yn anghysurus gydag ef. Yna cododd ar ei draed, a chan dynnu o gist, y darlun o'i rieni a gollasai Harri o'r bwthyn, a'i ddal tuagat Harri, meddai,
"Ga i ofyn i chi gyntaf darluniau o bwy ydi rhain?"
"Fy nhad a mam ydynt," ebe Harri mewn llais hiraethlawn, gan feddwl, wrth weld y darlun, am ei fam yn ei chartref tawel dros y tonnau.
Bron na ollyngodd y dyn y darlun pan glywodd hyn. Safodd yn syth i fyny, gan lygad rythu ar Harri, nes y tybiodd (Harri) y bachgen ei fod yn dechrau colli i synwyrau.
"Machgen annwyl i," meddai'r dyn, gan roi naid at Harri, a thaflu ei freichiau am ei wddf a'i wasgu i'w fynwes. "Wyt ti ddim yn nabod dy dad? Dy dad ydw i. Dy dad."
Yna daliodd ef o hyd braich oddiwrtho, fel pe i edrych yn fanylach arno, ac wedyn gwasgodd ef drachefn i'w fynwes. Methai gan Harri sylweddoli'r hyn a glywai. Ei dad yn y fan hyn! Ei dad yn fyw, a hwythau wedi galaru mor hir amdano! Ni allai ddweud gair gan ei syndod,—yr oedd ei dafod fel pe wedi mynd yn ddiymadferth yn ei enau.
"Dywed i mi," ebe'r tad drachefn, wrth weld y bachgen yn fud, dwyt ti ddim yn llawen o weld dy dad? Ond, o ran hynny, 'dwyt ti ddim yn cofio dy dad. 'Doeddet ti ddim ond pump oed pan euthum oddicartref am y tro diweddaf. Ond dywed i mi, sut mae dy fam? Ydi hi'n fyw?
"Ydi," ebe Harri, "neu 'roedd hi pan gychwynais i oddicartref, ond mae hynny ers dros dair blynedd yn ôl. Mae arna i ofn ei bod hi wedi torri'i chalon wedi'n colli ni'n dau." Tra'n siarad, syllai Harri o hyd ar ei dad ac ar y darlun ohono a ddaliai yn ei law, fel pe'n methu credu mai ei dad ydoedd. Yr oedd cryn wahaniaeth rhwng y dyn a safai o'i flaen, ag ôl bywyd mewn hinsawdd boeth ar ei wynepryd, a'r morwr ieuanc, hawddgar, ddangosid yn y darlun. Ond wrth graffu, sylwodd Harri fod tebygrwydd hefyd rhynddynt —yr un llygad, yr un wyneb, a sylweddolai mai ei dad, y credid ei fod wedi boddi ers blynyddoedd, a safai o'i flaen. Teimlai hefyd rywbeth tumewn iddo'i hun yn tystio mai ei dad ydoedd. Tro'r bachgen oedd hi'n awr i ddangos ei lawenydd.
"O! nhad annwyl," meddai, gan daflu ei hun i'w freichiau," a dyma fi wedi cael hyd i chwi. Ond biti na fasa mam yma hefo ni, neu na fedrem ni fynd adref ati hi," a thorrodd i wylo'n hidl gan lawenydd a galar yn gymysg.
Wylai'r tad hefyd dan yr un teimladau, ond daeth cnoc ar y drws i dorri ar eu neilltuedd. Yr oedd ar rywun yn y pentref eisiau gweld "Pedru " fel y galwent Peter Jones, a rhaid oedd iddo fynd allan. "Aros di yma," ebe wrth Harri, dan sychu ymaith arwyddion yr wylo oddiar ei wyneb, "fydda i ddim yn hir. Mae gennym ni lawer i'w ddweud wrth ein gilydd." Ac ymaith ag ef, gan deimlo'i hun ddeng mlynedd yn iau ar ôl ei ddarganfyddiad.
Tra y bu allan, myfyriodd Harri'n ddwys ar ddigwyddiadau rhyfedd y dydd, a gwelai fod Rhagluniaeth yn gweithio mewn ffordd ddirgelaidd iawn. Ac wrth feddwl fel hyn, daeth iddo ryw ymdeimlad bod ei fam yn fyw, ac y caffai ei dad ac yntau fyw i ddychwel ati.
Pan ddaeth Peter Jones yn ôl, dywedodd wrth Harri, "Mae'r trigolion bron wedi dyrysu gan lawenydd wedi clywed dy fod yn fab i mi. Welaist ti erioed y fath firi sydd yn y pentref. Mi ddon yma wedi iddi nosi i ganu ac i ddawnsio o gwmpas y tŷ. Mi gei glywed canu pur wahanol i ganu Cymru.
Ac wedi iddi dywyllu, safodd y ddau Gymro, y tad a'r mab, yn nrws y tŷ, a chafodd Harri weld golygfa fythgofiadwy. Daeth y brodorion gyda fflamdorchau tuag yno, ac am ysbaid awr buont yn canu ac yn dawnsio ar y lawnt o flaen y tŷ i ddangos eu llawenydd. Ofer ceisio disgrifio'r ddawns na'r gân—rhaid eu gweld a'u clywed i ffurfio syniad amdanynt,—ond credai Harri eu bod wedi blino erbyn iddynt orffen eu perfformiadau, gan faint yr ynni roisant yn eu gwaith. Neidient i fyny, ymrolient hyd lawr, a phlygent eu cyrff i bob ffurf dychmygol fel pe na bai ynddynt esgyrn o gwbl. Ar y diwedd, siaradodd Peter Jones ychydig eiriau wrthynt; ac ar ôl rhoi tair bonllef fyddarol, a churo tympanau, aethant yn ôl i'w bythynnod, ac aeth Peter Jones a Harri i'r tŷ.
A'r noson honno, ymgomio am Finymor fu cyd-rhyngddynt nes i gwsg eu gorchfygu. Rhaid oedd Harri ddweud wrth ei dad hanes popeth ddigwyddasaf yn y pentref a'r ardal ers pan ymadawsai. Holodd ef am yr hen bobl a adwaenai ef yno, ac atebodd Harri bopeth iddo hyd y gallai.
"Ac yfory, mae hi'n rhy hwyr heno bellach," meddai Peter Jones, "rhaid i ti ddweud wrthyf sut y daethost i'r ynys, ac mae'n sicr dy fod dithau'n awyddus iawn wybod sut y deuthum innau yma, a hanes fy mywyd yma ymhlith y brodorion."
Yr oedd hynny'n ddigon gwir. Gwell lawer gan Harri fuasai clywed stori ei dad nag adrodd helyntion Minymor, ond dyna oedd dymuniad ei dad, ac ildiodd y bachgen i'w ddymuniad.
Drannoeth, wedi i Harri roi cyfrif manwl o'i fordaith anffodus yn yr Arfonia" (ond heb sôn am William Jones a Thwm Dafis, nac am ynys y trysor), adroddodd Peter Jones ei hanes ei hun rywbeth yn debyg i hyn: Yr wyf wedi bod yma ers tua phymtheng mlynedd, ac mae'n rhyfedd gennyf siarad Cymraeg gyda Chymro, a hwnnw'n fab i mi, wedi bod cyhyd heb siarad na chlywed gair o'r hen iaith.
Mi wyddost mai ar fwrdd y 'Maritana' yr hwyliais o Lerpwl yn brif swyddog. Cawsom fordaith eithaf hwylus a hapus hyd nes dod trwodd i'r Môr Tawelog. Yno aeth yn ddrwg rhwng y capten a rhai o'r dynion. Ni fyddai o ddiddordeb yn y byd i ti wybod yr achos o ddechreuad yr helynt; ond yr oedd peth bai o bosibl ar y Capten, ac yr oedd dau neu dri o ddynion anodd eu trin ymhlith y criw. Aeth y peth o ddrwg i waeth, a chyn pen llawer o ddyddiau yr oedd y dynion mewn gwrthryfel agored. Wrth gwrs, yr oedd raid i mi fel mate gymryd ochr y Capten. Dyn penderfynol ac ystyfnig ydoedd, ac yn hytrach na cheisio cymodi a'r dynion, mynnai eu gorchfygu. Bygythiodd eu dodi i gyd yng ngharchar wedi cyrraedd Awstralia. 'Doedd hynny'n ddim ond temtio'r dynion i ymddwyn fel na chyrhaeddai byth i Awstralia. Y diwedd fu i'r gwrthryfelwyr gymryd meddiant o'r llong, a phan ddeuwyd yn agos i ynys, dodwyd y Capten a minnau a'r is-swyddog ar yr ynys. Cefais gynnig ganddynt i aros ar y llong, ond ymuno â hwynt, ond yn naturiol gwrthodais. Eu bwriad oedd troi'n fôr-ladron. Gadawsant ein dillad i ni yn yr ynys, a chist fechan feddygol (medicine chest)—yn hyn o beth buont yn bur drugarog wrthym.
"Gwyddost trwy brofiad beth yw bywyd ar ynys unig, fel na raid i mi ddisgrifio i ti sut y bu arnom yno. Ni bu'r Capten fyw ond rhyw ddeufis. Un ai fel effaith poeni oherwydd colli ei long, neu trwy gael rhyw afiechyd dieithr, bu farw yno, a chladdwyd ef gennyf fi a'm cyd-swyddog. Wedi marw'r Capten, ni allem ddygymod a'r syniad o aros ar yr ynys. Nid oedd. ynys arall yn y golwg, ond credem fod llawer heb fod ymhell oddiyno. Felly, gan ddisgwyl dod ar draws llong, neu gael hyd i ynys arall fwy dymunol, dodasom bopeth oedd gennym, ynghŷd â bwyd a dwfr, yn y cwch, a hwyliasom ymaith i'r cefnfor.
Am ddyddiau, buom yn hwylio'n ddiamcan heb weld na llong nac ynys, a darfyddodd y dwfr. Un bore, yn fuan wedyn, pan ddeffrois o gwsg (cysgem bob yn ail er cadw gwyliadwriaeth) cefais fy mod fy hunan ar y cwch. Beth a ddigwyddodd i'm cyfaill—pa un ai ynteu syrthio i'r môr yn ddamweiniol, ynteu bwrw ei hun drosodd mewn anobaith neu amhwylledd a wnaeth, ni wn i, ond mae'n sicr mai i'r môr yr aethai rywdro pan yr oeddwn i yn cysgu.
"Cofiaf i mi ddioddef arteithiau oddiwrth syched, ond euthum yn anymwybodol, a'r peth nesaf wyf yn gofio yw dod ataf fy hun ar yr ynys hon, a thwr o'r brodorion yn fy nghylchynnu. Deallais wedyn sut y bu. Ymddengys i'r cwch gael ei ddwyn yma gan y gwynt a'r tonnau. Un bore, gwelwyd y cwch gan rai o'r dynion, yn nofio yn bur agos i'r lan, ac aed ato. Mawr oedd eu syndod i gael dyn gwyn—y cyntaf a welsent erioed yn cysgu'n dawel ynddo. Deuthpwyd â mi i'r lan lle y deuthum ataf fy hun yn raddol. Cofia mai gan bobl yr ynys y cefais yr hanes wedyn, a hynny ymhen blynyddoedd wedi'r digwyddiad—wedi i mi ddysgu eu hiaith.
Ond dyma'r peth rhyfedd yn yr hanes. Yr oeddwn i wedi colli fy nghof yn hollol. Nid oeddwn yn cofio pwy oeddwn, nac o ba le y daethwn nac hyd yn oed f'enw. Yr oedd y gorffennol fel pe wedi ei ddileu'n llwyr oddiar lechau fy nghof.
"Bu'r brodorion yn garedig iawn wrthyf. Ymddengys oddiwrth yr hyn a glywais wedyn, i mi ddod atynt ar adeg nodedig yn eu hanes. Yr oedd eu hen bennaeth newydd farw, ac ymrafael rhwng dau am gael cymryd ei le fel pennaeth. Pan gafwyd o hyd i mi yn y cwch, dywedodd rhyw henadur y gwrandewid ar ei lais, mai'r duwiau oedd wedi'm hanfon yno i lywodraethu arnynt. Nid wyf yn gwybod beth feddylient oeddwn, ond edrychent arnaf fel pe bawn ryw fod uwchraddol, os nad goruwch-naturiol. Diau fod fy nghyflwr gresynus yn ennyn eu tosturi tuag ataf, ond yn ddios, y syniad mai'r duwiau a'm hanfonodd yma i fod yn bennaeth ac i atal tywallt gwaed a'm hachubodd. Feallai mai fy mwyta a gawswn ganddynt onibai hynny, oblegid arferent fwyta cyrff eu gelynion y dyddiau hynny. Yn raddol adenillais fy nerth corfforol, ond ni ddaeth y cof yn ôl. Bum am gryn amser heb allu deall dim o'u hiaith, a thrwy arwyddion â'n dwylaw ar ein gilydd y deallem ein gilydd. Ond bob yn dipyn, deuthum i bigo i fyny rai o'u geiriau, fel ag i allu ymddiddan â hwynt. Gwelais eu bod yn edrych arnaf fel eu pennaeth, a bod fy ngair yn ddeddf yn eu golwg. Pan ddeuthum i yma, paganiaid oedd y bobl, a chanddynt lawer o arferion gwrthun ac aflan. Byddent yn mynd i ryfel yn bur aml â phobl sy'n trigo mewn ynys sy ychydig i'r gogledd oddiyma, ond maent bellach ers llawer blwyddyn yn gyfeillgar. Wedi i mi ddysgu'r iaith yn weddol, dechreuais sôn wrthynt am Iesu Grist, ond glynent wrth eu heilunod. Nid oedd y grefydd newydd yn tycio dim, er bod eu parch a'u hufudd-dod i mi'n parhau yr un. Ond, yr adeg honno, daeth haint difaol i'r ynys, fel y bu nifer mawr o'r trigolion farw. Gweddïent am i'r duwiau eu gwaredu, ond gwaethygu 'roedd y clefyd. Wyt ti'n cofio i mi ddweud bod criw y Maritana' wedi rhoi cist feddygol i ni yn yr ynys? Wel, 'roedd honno gennym yn y cwch, ac fe ddaeth i'r ynys hon. A thrwyddi hi yr ateliais y clefyd. Dechreuais weini ar y cleifion, a chynhyddodd fy mharch trwy fy llwyddiant. A dyna fu'r help mwyaf i'w cael i adael eu hen grefydd, a chofleidio'r grefydd newydd. Maent i gyd yn Gristnogion selog ers blynyddoedd. Diwrnod mawr oedd hwnnw pan losgwyd yr hen eilunod yn un goelcerth.
"Mi gei weld pan awn ni allan, dipyn o bethau eraill a ddysgais iddynt, ond dyma'r peth rhyfeddaf sydd gennyf i'w ddweud wrthyt. Bum yma am flynyddoedd yn byw gyda'r bobl hyn, wedi anghofio popeth o'm bywyd cyn i mi agor fy llygaid ar yr ynys hon. Mae'r dywediad yn dy daro fel un anhygoel, mi wn, ond mae'n ddigon gwir. A wyddost ti beth ddaeth a'r gorffennol yn ôl i mi? Wyt ti'n cofio rhai o'r dynion yn dod drosodd i d'ynys di ac yn cymryd darlun o'r bwthyn— y darlun a ddangosais i ti neithiwr? Wyt yn siwr. Daethant a'r darlun hwnnw i mi, a phan welais y darlun o'm hannwyl wraig a minnau, daeth y cyfan yn ôl ar darawiad. Cofiais fy nghartref yng Nghymru, a'm priod hoff a'm hunig fachgen, cofiais y fordaith yn y Maritana,' a daeth drosof ryw hiraeth angerddol am fy nghartref a'm hanwyliaid. Deuthum drosodd i'r ynys i geisio rhyw oleuni ar y darlun heb gael dim. Mae'r hiraeth wedi bod bron a'm llethu byth er hynny, a'r nos o'r blaen cefais freuddwyd anesmwyth a'm gyrrodd drosodd drachefn i'r ynys, lle y cefais di, fy mab, ymron marw. Llwyddais i achub dy fywyd heb ameu ar y pryd pwy oeddit, oblegid yr oedd y darlun gennyf ar y Maritana,' ac un o griw y llong honno a ddisgwyliwn i ei gael ar yr ynys. Ac y mae fy hiraeth am gartref yn fwy eto wedi dy gael di yma, ond sut i fynd adref nis gwn. Mae ar y bobl yma ofn i mi eu gadael, ac os wyf yn frenin arnynt, yr wyf hefyd yn garcharor iddynt."
Dyna'r hanes rhyfedd a glywodd Harri gan ei dad, a pharodd iddo gryn syndod.
Ond chawsoch chi ddim cyfle i fynd adref yn ystod yr holl amser y buoch yma?" gofynnodd.
"Dim o gwbl. Wn i ddim a yw yr ynysoedd hyn ar y chart, ond y maent yn sicr allan o lwybr trafnidiaeth. Ni fu yma'r un llong erioed, ac felly sut y mae modd mynd oddiyma?
Yr oedd y cwestiwn yn ormod i Harri allau ei ateb, ac eisteddodd mewn myfyrdod dwys, bron anobeithio unwaith eto y cai weld ei fam a'i gartref.
Gwelodd Harri lawer o bethau i'w synnu, pan aeth allan gyda'i dad i gael golwg ar yr ynys, ac i sylwi ar arferion y trigolion. Aeth ei dad ag ef y naill ddydd ar ôl y llall i weled rhyfeddodau newyddion, a chafodd ddigon o brofion bod arosiad ei dad ar yr ynys wedi bod o fendith fawr i'r trigolion.
Yr oedd yr ynys yn un fawr—lawer eangach na'r ynys y bu ef yn byw arni. Dywedai ei dad ei bod yn ugain milltir o hyd, ac yn ddeng milltir ar ei thraws, a golygai i fynd o'i hamgylch ar y môr dros hanner can milltir o daith. Nid oedd yn agos mor wastad a'r ynys fechan—yr oedd y mynydd-dir tua'i chanol yn codi i dros fil o droedfeddi o uchter, ac o ben y mynydd, pan na byddai niwl, gellid gweld o amgylch yr ynys. Yr oedd ynddi ddyffrynnoedd coediog, prydferth, ac afonydd yn llifo trwyddynt tua'r môr. O'i hamgylch yr oedd reef cwrel, ar yr hwn y torrai'r tonnau brigwyn, gan adael culfor tawel, dwfn, rhyngddo a'r lan. Amrywiai'r culfor mewn lled-gwelai ei fod mewn mannau yn hanner milltir o led ac mewn lleoedd eraill dim ond ychydig ddegau o lathenni; ond bod agoriad ynddo gyferbyn â cheg pob afon. Yr achos o hynny, fel y gwyddai, ydoedd nad all y pryfyn sy'n adeiladu'r graig fyw mewn dŵr croyw.
Yr oedd yn ynys doreithiog-prin bod angen i'r bobl weithio am eu cynhaliaeth, gan fod gwres yr haul a'r cyflawnder o law yn peri i'r tir ffrwythlon gynhyrchu'n rhagorol. Yr oedd y naill hanner iddi—yr hanner mwyaf agored i'r gwynt, yn goediog anarferol—prin y gellid gwneud llwybr drwyddynt mewn rhai mannau. Er nad adwaenai Harri lawer o'r coed, gwelai fod yn eu plith lawer o'r cocoanuts, banana, a mango,—welsai yn yr ynys arall. Yr oedd coeden arall, na welsai mohoni o'r blaen—coeden aruthrol yn gorchuddio darn eang o dir, a gwreiddiau lawer heblaw y prif wreiddyn o dan ei changhennau. Dywedodd ei dad wrtho mai'r banyan y'i gelwid. Ar yr ynys yr oedd cannoedd lawer o foch yn byw'n wyllt, ac er y lladdai'r trigolion lawer ohonynt i'w bwyta, nid aent yn llai eu nifer.
Teithiodd Harri lawer trwy'r ynys, naill ai ei hunan, neu yng nghwmni ei dad, yr hwn a eglurodd iddo lawer nas gwyddai o'r blaen am y defnydd a wnai'r brodorion o'r coed ymhob rhyw fodd. Rhyfeddodd glywed mai o risgl (bark) y goeden mango a roddai fwyd fel bara iddynt y gwnai'r trigolion eu dillad, ac mai dyna oedd defnydd y wisg oedd gan ei dad. Gwyliodd gyda diddordeb y brodorion yn tynnu'r rhisgl, yn ei guro i'w ystwytho a'i ledu allan. Yna sychent y defnydd— tappa, fel y galwent ef—yn yr haul, a throai'r gwres a'r goleuni ef i liw gwyn. Gallent ei liwio wedi hynny â thrwyth a sudd coed i wahanol liwiau.
Taith ddiddorol dros ben i Harri fu taith ym mad y brodorion o amgylch yr ynys ar hyd dyfroedd y Lagoon. Dewisodd ei dad bedwar brodor cryf i'w rhwyfo, a chymerwyd digon o luniaeth am rai dyddiau, gan y bwriadent gymryd eu hamser ar y daith i weld popeth o ddiddordeb. Hoff gan y bachgen oedd syllu trwy ddyfroedd clir y lagoon ar y cwrel prydferth canghennog ar y gwaelod a'r pysg amryliw yn ymsymud drwyddynt. Ar arch ei dad, neidiodd un o'r dynion dros y bwrdd, a rhoddodd arddangosiad o nofio a gwneud campau tan ddŵr i Harri na ddychmygasai'r bachgen eu bod yn bosibl. Wedi mynd rhyw ddwy filltir, daethant at glogwyn uchel ar lan y mor, ac ogof fawr ynddo. Aed a'r cwch i mewn i'r ogof am bellter a goleuwyd fflamdorchau i weld ardderchowgrwydd y graig oddimewn, a rhai o'r cerrig yn y nenfwd yn disgleirio yng ngoleuni'r fflam fel perlau drudfawr. Wedi mynd yn agos i ben arall yr ynys, gwelai'r bachgen graig fawr yn sefyll ychydig oddiwrth yr ynys yn y dwfr; ac fel y nesaent ati, gwelai ryw bethau rhyfedd ar y graig yn sefyll yn rhengau yn union fel milwyr, a thybiodd ar y dechrau mai bodau dynol oeddynt. Edrychent fel pa bai ganddynt bob un gôt ddu a llodrau gwynion. Wedi i'w dad ddweud wrtho mai adar elwid pengwyniaid oeddynt, y cofiodd ei fod wedi darllen amdanynt. Wedi mynd at y graig, cawsant fod yr adar mawr yn bur ddof—prin y symudent o'u blaen. Creaduriaid afrosgo iawn oeddynt yn cerdded, ond plymient (plunged) i'r môr a nofient yn urddasol fel adar dŵr yn gyffredin. Amcangyfrifai ef fod yno filoedd lawer ohonynt.
"Maent yma drwy'r blynyddoedd," eb ei dad, "ac mae digon o wrtaith (guano) ar y graig yma wnai'r tro i holl ffermwyr Minymor am oesoedd."
Cydolygai'r bachgen, a gresynai na bai modd mynd a llwyth ohono adref.
Ar y daith yn ôl ar hyd glan arall yr ynys, cafwyd eto olygfeydd prydferth—ambell glogwyn tal ac ogofeydd, ac ambell fau prydferth cysgodol gyda'r coed yn amgylchu glan y dŵr. O'r ochr hon, hefyd, gwelai Harri draw dros y don yr ynys fechan a fu'n gartref iddo am amser mor faith, ac edrychai'n hiraethlawn tuagati.
Ond yr hyn a dynnai sylw Harri'n fwy na golygfeydd yr ynys er mor ddiddorol oedd y rhai hynny—oedd y brodorion a'u dull o fyw. Yr oedd tŷ ei dad wedi ei wneud o goed yn ddestlus, yn debyg i bungalow, gyda math o verandah o'i amgylch. Bythynnod crynion oedd gan y brodorion wedi eu gwneud o bren y bambw gan mwyaf, a dail llydain y palmwydd yn do arnynt. Gwelodd y gwnaent frethyn o'r cocoanut yn ogystal ag o goeden y mango. Yr oedd rhyw ddefnydd—fibre—yn tyfu yn gylch am y cyswllt rhwng y gangen a'r cyff, a gwnaent o hwn y matiau y cysgent arnynt. Gwyddent nodweddion a gwerth y gwahanol goed a phlanhigion dyfai ar yr ynys, a dysgodd y bachgen lawer oddiwrthynt. Diddorol iawn iddo oedd eu gwylio'n coginio eu bwydydd. Ei dad, fel y deallai, a'u dysgodd i'w goginio—ei fwyta'n amrwd y byddent gynt. Eu hoff gigfwyd oedd cig y moch redai'n wyllt yn y goedwig, a rhostient ef ar dân coed. Gwnaent dwll yn y ddaear yn ymyl y tân, i grasu'r yams a'r taro, —y gwreiddiau maethlon gaent yn y ddaear, a blasus odiaeth oeddynt wedi eu paratoi felly. Y cocoanut oedd y goeden y gwnaent fwyaf o ddefnydd ohoni. Rhoddai hi iddynt fwyd a diod, heblaw y defnydd gwisg. Tyfai'r coed hyn ymhob man hyd yr ynys i uchter mawr—yn brennau syth, diganghennau, gyda thusw o ddail a ffrwythau ar eu blaen. Yn wir, tyfai'r coed hyn mewn rhai mannau ar y reef cwrel—lle bynnag yr oedd ychydig ddaear wedi sefyll ar ben y graig, gwelid y coed cocoanut yn tyfu, a'r dwfr yn golchi eu rhan isaf. Os am brawf nad oedd ar yr ynys dymhorau fel yn ein gwlad ni, nid oedd ond eisiau edrych ar goeden y cocoanut, oblegid gwelid ffrwythau o wahanol liwiau—gwyrdd a melyn a brown ar yr un goeden—praw ei bod yn wanwyn, haf, a hydref arni ar unwaith. Brown yw lliw y ffrwyth aeddfed, fel y gŵyr pob bachgen fu mewn ffair. Gwyddai Harri am ddiod flasus y ffrwyth anaeddfed—cofiwch iddo ddarganfod hynny drosto ei hun pan ar yr ynys arall. Gwyddai'r brodorion hynny hefyd, a dringent y coed yn fynych i gael y ffrwyth gwyrdd. (Nid oedd angen dringo am y ffrwyth brown, oblegid fe ddisgyn, fel afal aeddfed, i'r llawr.) A medr y brodorion i ddringo'r coed hyn barodd fwyaf o syndod iddo o ddim a welodd ar yr ynys. Cyfrifai ei hun yn gryn gampwr yn y gelfyddyd o ddringo coed cyn gweld y brodorion wrthi—efe, fel y cofiwch, oedd y pen campwr yn y cae eithin ym Minymor—ond wedi eu gweld yn dringo, teimlai nad oedd i'w gymharu â hwynt. Bron na ellid dweud y cerddent i fyny'r coed fel y gwelir gwybed ar fur neu ffenestr. Cymerent wib ar hyd y llawr at y goeden, ac yna, gan afael amdani â'u dwylo, a dal eu cyrff yn ôl, fel ag i gael gwadnau eu traed yn erbyn y goeden, aent i fyny o gam i gam mewn byr amser gan symud traed a dwylo bob yn ail. Wrth weld Harri'n cymryd diddordeb yn eu campau, gwnaent orchestion anhygoel o'r bron yn y coed i'w foddhau.
A'r un modd drachefn yn y dwfr, yr oeddynt yn gallu nofio fel pysgod a gwneud pob math o gampau yn nyfroedd y lagoon. Suddent i'r gwaelod, a dygent gregyn prydferth, a chwrel cywrain ei ffurf i fyny oddiyno. Sylwodd Harri'n arbennig ar y cregyn, a dywedodd wrth ei dad y credai fod perlau ynddynt. Nid oedd ei dad wedi meddwl am y posibilrwydd o'r blaen, ond wedi hynny aed ati i gasglu cregyn, a dodwyd hwy i sychu yn yr haul, nes ymagor ohonynt eu hunain, ac yna gwelwyd fod Harri'n gywir yn ei ddamcaniaeth. Darllenasai ryw dro fod yn well gadael i'r cregyn sychu yng ngwres yr haul, ac agor ohonynt eu hunain, nag i neb eu hagor, gan fod hynny'n niweidio'r perl oddimewn. Ac ymhob cragen caed perl gwerthfawr. Wedi darganfod gwerth y cregyn, casglwyd nifer mawr ohonynt, a'r brodorion yn cynorthwyo'n ewyllysgar. Er nad oeddynt o werth yn y byd i neb ar yr ynys, gellid cael pris da amdanynt, pe deuai cyfle i fynd a hwy i wlad wareiddiedig.
Un diwrnod, pan yr oedd nifer o'r dynion yn y dwfr yn casglu cregyn, a Harri mewn cwch yn eu gwylio ac yn derbyn y cregyn ganddynt, yn sydyn clywodd floedd "Mao oddiar y lan. Gwyddai mai'r gair brodorol am siarc ydoedd "Mao." Neidiodd ar ei draed yn y cwch, a gwelai ryw ugain llath oddiwrtho don fechan ar wyneb y dwfr, a llun rhywbeth yn ymsymud yn y dwfr odditani, ac yn dod yn brysur tuag ato. Gwelsai hyn unwaith o'r blaen yn y bau yn yr ynys arall pan yn ymdrochi. Pan glywyd y waedd, brysiodd y nofwyr am y lan, ond gwelai Harri fod un oedd mewn perygl yn cyrchu am y cwch a'r siarc ar ei ôl. Pan oedd y dyn dychrynedig yn yr act o afael yn ochr y cwch, gwelai Harri'r siarc yn troi drosodd i gymryd gafael yn ei goes (rhaid i'r siarc droi felly i gydio â'i safn mewn rhywbeth, gan mai ar yr ochr isaf i'w ben y mae ei safn.) Plygodd Harri dros ochr y cwch, a phan oedd y pysgodyn yn agor ei safn, hyrddiodd flaen ei rwyf i mewn iddi gyda'i holl nerth. Bu raid iddo ollwng ei afael o'r rhwyf ar frys, neu buasai wedi mynd drosodd i'r dwfr ar ei ben, ac o bosibl wedi cyfarfod y dynged yr achubasai'r nofiwr druan rhagddo. Yr oedd dagrau diolchgarwch yn llygaid y brodor tlawd pan ddaeth i'r cwch yn crynu gan ofn, ac o'r dydd hwnnw yr oedd Harri'n fwy arwr nag erioed yng nghyfrif y brodorion.
A pheth arall dynnodd sylw Harri'n arbennig oedd y gwasanaeth crefyddol ar yr ynys. Fel yn ynysoedd eraill Môr y De (ac y mae yno, fel y gwyddoch, gannoedd lawer ohonynt) paganiaid mewn dygn anwybodaeth oedd y brodorion cyn dyfod tad Harri yno. Addolent dduwiau pren o waith eu dwylo eu hunain, ac yr oedd ganddynt deml i'r prif dduw. Ond fel y dywedwyd yn stori Peter Jones, enillodd hwynt i gofleidio Cristnogaeth. Chwalwyd y deml, a dechreuwyd adeiladu addoldy. Gan na wyddai Peter Jones sut i ysgrifennu iaith y brodorion, ni allai eu dysgu i ddarllen, ond dysgodd hwynt i ganu, a chyfieithodd rywsut fel y gallai rai o'r adnodau a gofiai i iaith yr ynys, a gwnaeth ryw lun o eiriau iddynt i'w canu ar rai o hen donau annwyl Cymru. Oblegid yr oedd Peter Jones yn gryn gerddor, ac yn hoff iawn o ganu, fel y rhan fwyaf o forwyr cymdogaeth yr Aber. (Eu hoff bleser, pan fyddai nifer o longau'r Aber mewn porthladd dieithr fyddai cydgyfarfod ar fwrdd un o'r llongau i ganu emynau Cymraeg ar nos Saboth.)
A dyna le rhyfedd i Harri oedd yr addoldy diaddurn y Saboth cyntaf iddo ar yr ynys. Clywed y tonau a glywsai ym Minymor ers llawer dydd yn cael eu canu ar eiriau hollol ddieithr iddo, a gweld y gwasanaeth yn cael ei ddwyn ymlaen yn hollol fel y gwneid gartref, ond bod yr amgylchiadau yn hollol wahanol—yr iaith yn ddieithr iddo, a'r wynebau duon mor wahanol i'r rhai welsai gynt ym Minymor. Ond yr oedd yr un ysbryd yno, ac ysbryd y peth byw ydoedd hwnnw. Er mai syml oedd y gwasanaeth, teimlai Harri fod yno wir addoliad, ac os rhywbeth, fwy o ddifrifwch a pharchedigaeth yn nodweddu yr holl gynulleidfa nag a welsai yn ei gartref.
Penderfynodd y diwrnod hwnnw y mynnai ddysgu i'r bobl ddarllen, wedi dysgu'r iaith. Ar y tywod y dechreuodd gynnal ei ddosbarth, gan dorri'r llythrennau yno â'i fys, a dysgu'r plant i'w swnio a'u hysgrifennu. Wrth gwrs, ffurfiau'r llythrennau yn y wyddor Gymraeg â ddysgodd iddynt, ac nid oedd unrhyw sain yn iaith yr ynys na ellid ei gyfleu trwy'r ffurfiau hynny. Gallodd wneud sialc yn ddiweddarach o'r cwrel, ac ysgrifennu â hwnnw ar bren wedi ei dduo. Gofidiai nad oedd ganddo bapur glân a phwyntil, ac addunedai, os byth y cai ddychwel i wlad wareiddiedig, y mynnai anfon llyfrau i'r ynyswyr. Bu llwyddiant mawr ar yr ysgol, a dysgodd i nifer dda ddarllen.
Aeth yr amser heibio'n gyflym i'r bachgen gyda'i dad, er y deuai aml don o hiraeth dwys am ei fam dros ei ysbryd. Ai tybed ei bod yn fyw? oedd ei gwestiwn mynych iddo'i hun. O! na bai gyda hwynt ar yr ynys, neu na chai wybod eu bod ill dau yn fyw. Meddyliai hefyd yn aml am ei hen gyfaill, Dafydd, a dychmygai'r hwyl a gaent gyda'i gilydd ar yr ynys pe bai yno.
Ni bu Harri'n ddieithr i'r ynys fechan wedi mynd at ei dad i fyw. Wedi bod rhyw ddeufis ar yr ynys fawr, cafodd ganiatâd ei dad i ymweled â'i hen gartref, ac i aros yno am rai dyddiau; a rhwyfwyd ef drosodd gan y brodorion. Arosodd yno rai dyddiau i wneud dipyn o drefn ar ei eiddo yno. Teimlai ryw hoffder neilltuol at yr ynys a fu'n gartref iddo am gyfnod mor faith, er gwaethaf y gors afiach. Yr oedd wedi arfer cymaint i fod ar ei ben ei hun, fel y dymunai aros mewn neilltuedd am rai dyddiau cyn dychwelyd at ei dad. Wedi gwneud trefn ar y tŷ cyntaf (Bwlchglas fel y galwai ef), aeth tua'r tŷ newydd (Glandon oedd ei enw ar hwnnw), ac ar y ffordd daeth ar draws cenfaint o foch. Pan oedd yn mynd heibio iddynt, ac yn meddwl am Dic, gwelodd un o'r genfaint yn rhedeg tuag ato. Dic ydoedd, wedi ei adnabod, ac yn dangos cymaint o lawenydd wrth ei weld ag a all mochyn. Canlynodd Dic ef ar ei daith, a glynodd wrtho tra bu yn yr ynys. Wedi bod yno am wythnos, aeth yn ôl i'r ynys arall yn ei gwch ei hun.
Yr ail dro iddo fynd yno, ymhen deufis arall, cafodd Dic yn y cut a wnaethai iddo, ac yn amlwg yn dioddef oddiwrth ryw anhwyl. Erbyn trannoeth, yr oedd wedi trengi, a theimlai Harri'n ddwys wrth gloddio twll i gladdu'r unig gyfaill gawsai ar yr ynys. Fel hyn, bob rhyw ddeufis, âi Harri drosodd i'w gartref cyntaf am ychydig ddyddiau o lonyddwch a seibiant, a dychwelai wedi adnewyddu'i nerth at ei dad a'r brodorion.
XV. Y WAREDIGAETH
AETH pum mlynedd heibio yn y dull hwn o fyw, ac yr oedd Harri bron wedi anobeithio cael dychwel i Gymru a gweld ei fam byth mwy. Wyth mlynedd wedi llithro heibio er y llong-ddrylliad! Sut olwg oedd ar ei fam bellach, tybed? Beth ddaethai o Dafydd Glandon? Ai tybed ei fod yn fyw?
Rhyw gwestiynau fel yna oedd yn troi trwy'i feddwl un bore pan y codai gyda'r haul i ymdrochi yn y bau o flaen ei dŷ. Yn y tŷ newydd, Glandon, ar ei ynys ei hun yr oedd, yn treulio ychydig ddyddiau o seibiant. Aethai i'w wely y nos cynt yn fwy hiraethus nag y teimlasai ers misoedd, a breuddwydio am ei gartref y bu drwy'r nos. Yn ei freuddwyd, gwelai Ddafydd Glandon wedi syrthio i'r môr, ac yntau'n ei achub ac yn mynd ag ef i Glandon, a'i fam a Chatrin Huws yno yn eu derbyn. Erioed ni chawsai freuddwyd mwy byw, gwelai ei fam yn y tŷ, a chlywai hi'n siarad. Mor fyw ydoedd y digwyddiadau hyn yn y breuddwyd, fel y deffrodd ynghynt nag arfer, a siomedig ydoedd i gael ei hun ar yr ynys bellennig. Yr oedd wedi meddwl yn sicr mai adref yr oedd, a braw iddo oedd deffro yn y caban coed. Ond yr oedd y breuddwyd yn aros yn y cof. Ni allai yn ei fyw ei anghofio—gartref i Finymor y mynnai'r meddwl redeg y bore hwnnw.
Wedi ymdrochi a gwneud rhyw fân ddyletswyddau tua'r tŷ, aeth i ben craig yr wylfa o'r tu ôl i'r tŷ i edrych allan i'r môr. Yr oedd wedi mynd i'r arferiad o edrych i gyfeiriad ei gartref; a mynd i fyny yr oedd y bore hwn i gyfeirio'i lygaid i'r gogledd-ddwyrain—i gyfeiriad bro ei faboed yn hytrach na chan feddwl gweld gobaith gwaredigaeth. Ond, er ei syndod, draw ar y gorwel, tua chodiad haul, gwelai linell o fwg du yn esgyn i fyny. Beth oedd yno? Agerlong yn sicr. Beth arall allai fod? Arosodd yno, gan gadw'i lygaid yn sefydlog ar y mwg. Cyn hir, daeth ffurf y llestr i'r golwg. Ie'n sicr, agerlong fawr ydoedd, yn nesu'n gyflym tuagat yr ynys. Dyma obaith gwaredigaeth unwaith eto. Ai tybed y siomid ef y tro hwn fel cynt? Nid oedd amser iddo feddwl mynd i ben arall yr ynys i gyrchu'r cwch i fynd i gyfarfod y llestr. Buasai wedi mynd o'r golwg yn y gorllewin cyn y gallai gychwyn o'r lan. Heblaw hynny, yr oedd yn berffaith dawel, heb chwa o wynt i lanw'r hwyliau, a sut y gallai rwyfo pellter mawr ei hunan? Nid oedd ond un peth i'w wneud, a gobaith gwan oedd am lwyddiant y ffordd honno. Rhedodd i lawr i nôl polyn, a chlymodd arno'r darn llian gwynaf a feddai. Yna, yn ôl i ben y graig i chwifio'r darn llian gymaint fyth ag a allai gan obeithio tynnu sylw rhywun ar fwrdd yr agerlong.
Deuai'r agerlong ar union gyrch am yr ynys. Ai tybed eu bod wedi ei weled? Na'n sicr, nid oedd hynny'n bosibl o'r fath bellter—yr oedd eto gryn ddwy filltir oddiwrtho, ond yn gwneud llinell unionsyth am y man y safai. Rhaid mai dyfod am yr ynys yr oedd. Ar ryw neges o bosibl. Ac yna gwawriodd ar ei feddwl y syniad ofnadwy, Beth os mai llong rhyw elyn ydoedd? Môrladron, feallai. A fuasai'n well iddo ymguddio? Na, gwell fyddai iddo gymryd ei siawns—yr oedd digon o brofion o'i bresenoldeb tua'r tŷ, fel y byddent yn sicr o ddod o hyd iddo, pe glanient a chwilio'r ynys.
Yr oedd y llong erbyn hyn wedi dod yn agos iawn, a gwelodd Harri rywun ar y bwrdd yn chwifio cadach. Yr oeddynt wedi ei weld. O! diolch!
Cyn pen ychydig funudau yr oedd y llong wedi dod gyferbyn ag ef tuallan i'r reef, y peiriannau wedi eu hatal fel y tystiai'r mwg du, trwchus a ddeuai o'r simdde, a chwch yn cael ei ollwng i'r dwfr. Gwelai'r cwch yn gadael ochr y llong ac yn cyfeirio am y bau yn ei ymyl. Rhedodd i ymguddio i'r ogof o'r tu ôl i'w fwthyn, heb wybod pam y gwnai hynny. Cyn hir, clywai siarad ar y lan. Clustfeiniodd a deallodd mai Saesneg oedd yr iaith. Gwrandawodd drachefn. Clywai lais clir yn gorchymyn yn Saesneg i rywrai fyned un ffordd i chwilio, ac yna meddai'r un llais yn Gymraeg. "Tyrd di'r ffordd hyn hefo mi, Jac." Daeth ton o lawenydd tros ei ysbryd pan glywodd y Gymraeg, ond yr hyn a dynnodd ei sylw'n arbennig oedd y llais. Onid oedd wedi clywed llais tebyg o'r blaen? Teimlai'n sicr ei fod yn gynefin âg ef, a cheisiodd ddyfalu llais pwy ydoedd. Ac yn sydyn cofiodd. Pwy ond Dafydd Glandon? Ie'n sicr, Dafydd ydoedd.
Ond Dafydd yn y fan hyn—ramhosibl,—rhaid mai ei ddychymyg oedd yn chwarae tric ag ef. Na, dyna'r llais drachefn o'r coed ar y dde iddo. Dafydd ydoedd,—'doedd dim amheuaeth pellach ar y pen. Chwardded y neb fynn at freuddwyd; mae peth gwir ynddo weithiau.
Heb aros i ystyried yr olwg farbaraidd oedd arno, rhedodd i'r cyfeiriad y deuai'r llais ohono, gan waeddi, "Dafydd! Dafydd Glandon." Safodd Dafydd a'i gydymaith (canys yr oedd dyfaliad Harri'n gywir, Dafydd Glandon, a neb amgen, oedd yno yn y cnawd), wrth glywed y llef ddieithr, a gwelsant ryw greadur, rhyfedd yr olwg arno yn rhuthro tuag atynt o'r coed. Ond pan welodd Harri'r ddau ddyn ieuanc, yng ngwisg swyddogion morwrol—rglas gyda botymau melyn— swiliodd a safodd yn fud, gan dybied yn sicr ei fod wedi camgymeryd. Parhaodd i syllu arnynt a hwythau arno yntau, ac yna, heb wybod pam, aeth ymlaen tuag atynt yn araf. Safai'r ddau arall yn eu hunfan, gan ofyn iddynt eu hunain, "Ai tybed mai'r creadur yma oedd yn gwaeddi?" Erbyn hyn yr oedd Harri wedi adnabod Dafydd er y wisg anghynefin.
"Dafydd," meddai, dan deimlad dwys, "wyt ti ddim yn fy 'nabod i?"
Edrychodd Dafydd arno mewn dieithrwch mud am funud, ac yna torrodd y goleuni ar ei feddwl. Rhedodd ymlaen ato â'i freichiau i fyny.
"Harri," meddai, "Harri Bwlchglas wyt ti, dywed, mewn difri, ai ynteu fi sydd yn breuddwydio? A chofleidiodd y ddau gyfaill ei gilydd gan anghofio bob gwahaniaeth yn eu hymddangosiad.
"Ond yr ydw i'n methu deall," ebe Dafydd, wedi i'r don gyntaf o synedigaeth fynd heibio, "Wyt ti wedi byw yn y fan hyn yr holl amser, a phawb wedi meddwl dy fod di wedi boddi hefo'r 'Arfonia'? Pawb ond dy fam. Fe fyn hi dy fod yn fyw." Ydi mam yn fyw?" gofynnodd Harri'n awchus, a'r dagrau'n llanw ei lygaid, sut mae hi? "Mae hi'n reit dda ei hiechyd," oedd yr ateb, "ond y farn ym Minymor ydi y basa hi wedi marw ers llawer dydd onibai ei bod hi'n dweud yn bendant y caiff hi fyw i dy weld di adra. Mae rhai'n meddwl ei bod hi'n dechrau colli yn ei phen,-y profedigaethau wedi effeithio arni hi, ond mi wn i fod yr hen wraig yn eithaf iawn yn ei choryn. Mae hi'n gallach na'u hanner nhw. Ond, fachgen, 'rydw i 'n methu credu'n bod ni wedi cael hyd i ti'n fyw. Rhaid i mi gael yr hanes gin ti."
"O! mi ga amser i ddweud y stori i gyd, ac mae hi'n un ryfedd iawn. Mae nhad yma hefyd, wyddost ti." Neidiodd Dafydd yn ei ôl mewn syndod.
"Beth ddeudist ti? dy dad yma hefyd?" "Ydi, ar yr ynys agosa at hon."
"Bobol annwyl, chlywis i'r fath beth erioed. Sôn am wyrthiau. Dyma godi'r marw'n fyw, yn siwr. Ond dywed yr hanes. 'Rydw i ar dân eisio gwybod."
O, mae hi'n stori rhy faith i mi ei dweud 'rwan. Dywed di i mi, un peth sydd yn ddirgelwch i mi, sut y doist ti i gael hyd i mi?"
"Wel, mae hynny'n beth rhyfedd hefyd. Mae'n rhaid ein bod wedi ein harwain yma. Ond dyma'r stori'n fyr. Ar ein taith i Awstralia 'roeddym ni, a'r wythnos ddiwedda, mi gawsom dywydd ofnadwy, a mi aeth dŵr hallt i rai o'n casgia dŵr croyw ni. Wel, 'roeddym ni'n mynd ar lawr o ddŵr, a mi benderfynis redeg am yr ynys agosa i gael cyflenwad."
O, 'rydw i'n gweld. A hon oedd yr agosa."
"Wel, nage, fachgen. Wn i ar y ddaear pa ynys ydi hon. Gwneud am yr Ellice Islands yr oeddwn i. A dyma ni ar draws hon, heb ddisgwyl ei gweld hi. 'Dydi hi ddim ar y chart, wyddost ti."
Ddim ar y chart? Wyt ti'n siwr. Mae hynny'n beth rhyfedd."
Dydi hi ddim, yn siwr i ti. Rhaid i ti beidio amau ngair i ar fater fel hyn, wyddost ti. Cofia di mai Capten Huws ydw i 'rwan, 'r hen ddyn."
"Yn gapten, a minnau'n y fan hyn wedi gwastraffu'r holl flynyddoedd," meddai Harri'n bruddaidd ei dôn.
"Paid a sôn am wastraffu. Mi faswn i 'n ffeirio mhrofiad hefo chdi'r munud yma, pe medrwn i."
"Tyrd yma, Jac," meddai wrth ei gydymaith oedd wedi sefyll o ddechrau'r ymddiddan o'r tu ôl iddynt, wyt ti'n adnabod hwn? 'Rwyt ti'n cofio Harri Bwlchglas, on'd wyt ti. Dyma Jac y siop, Harri. Y fo ydi f'ail swyddog i ar y 'Dwyryd.'
Ysgydwodd Harri a Jac ddwylo'n gynnes, ac yna meddai Dafydd.
"Tyrd, Harri, mi awn ni i'r llong i ti gael tamaid o fwyd. Mi fydd yn beth amheuthun i ti weld llian bwrdd gwyn, mae'n debyg."
"Wel bydd," ebe Harri, "ond mae yma gyflawnder o fwyd ar yr ynys 'ma. 'Does dim peryg i neb newynu yma. Cig moch, adar, pysgod, ffrwythau, a bara a thatws. Beth feddyliet ti o hynny?
"Waeth i ti er hynny. 'Rydw i'n siwr na chefaist ti ddim cwpanaid o dê a brechdan ers llawer o amser. Tyrd yn dy flaen."
"Fasa'n well i mi ddangos y ffynnon i chi gael dŵr?" gofynnodd Harri.
"Wel, ie; chwibiana ar y dynion, Jac."
Ac felly i ffwrdd a'r ddau gyfaill am y llong, wedi llenwi'r llestri o ddwfr yr ynys, ac yno yn y caban huliwyd gwledd ddanteithiol i Harri, ond ychydig heddwch a gafodd i'w mwynhau gan y cwestiynau diddiwedd ofynnai Dafydd. Tra'n cymell ei gyfaill i ymroi i'r bwyd, gofynnai Dafydd gwestiwn nad oedd modd ei ateb a dal i fwyta, ond rhywsut llwyddodd i lyncu tamaid bob yn ail ag ateb cwestiwn, a digonwyd ef. Ac yno yn y caban trwy'r prynhawn eisteddodd y ddau gyfaill-Harri i adrodd ei helyntion, tra Dafydd yn gwrando'n astud, ac yn gofyn ambell gwestiwn. Wedi i Harri o'r diwedd orffen ei adroddiad, meddai Dafydd, "Wyddost ti beth, rhaid i ti gyhoeddi llyfr o hanes dy fywyd yma. Mi wnei dy ffortiwn. A chofia, 'rwyt ti'n siwr o gael dy wa'dd i roi darlith ar hanes dy fywyd yn Ynysoedd Môr y De i Gymdeithas Lenyddol Minymor."
Chwarddodd Harri'n galonnog at y syniad iddo ef sefyll o flaen Cymdeithas ddysgedig Minymor i roi hanes ei helyntion oddicartref. Gwyddai am y Gymdeithas, er ei fod ef, pan oedd gartref, yn rhy ieuanc i fod yn aelod ohoni.
Yr oedd wedi mynd yn bur bell i'r prynhawn cyn i Harri orffen ei adroddiad, ac yna aeth y ddau'n ôl i'r ynys i wneud gwibdaith drwyddi,-Harri'n dangos i'w gyfaill ryfeddodau'r ynys, ac yn adrodd hanes rhyw ddigwyddiadau yn ei fywyd ynglŷn â gwahanol fannau. Gwrandawai Dafydd yn fud a syn ar hanes y dull y bu'n byw yno am gyhyd o amser, a rhyfeddai at brydferthwch yr ynys a'i chyfoeth naturiol mewn coed, ffrwythau a llysiau. Wedi gwneud taith frysiog trwy'r ynys, aed yn ôl i'r llong i gysgu ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac yn blygeiniol drannoeth, codwyd yr angor i hwylio am yr ynys fawr i weld Peter Jones. Mawr oedd syndod y brodorion pan welsant agerlong yn dod at eu hynys—y gyntaf iddynt weld erioed, a safent yn rhengoedd ar lan y môr i syllu'n syn ar yr olygfa ddieithr. Cyn gynted ag y daeth i mewn trwy'r bwlch i'r lagoon ac angori yno, yr oedd degau o'r trigolion yn rhwyfo ati yn y cychod i'w hedrych yn ofalus o bob ochr, ond pur swil oedd neb ohonynt i ddod i'r bwrdd, nes iddynt, er eu dirfawr syndod, weld Harri yno. Yna ciliodd yr ofn, a daeth rhai ohonynt i'r bwrdd. Edrychent yn ddychrynedig iawn ar y mwg du yn dod o'r corn, ac yr oedd golwg ryfedd ar eu hwynebau pan yn edrych ar y peiriannau nerthol oddimewn iddi. Ond pan wnaeth y peirianydd i'r chwibanogl gael ei chanu, bu bron iddynt oll neidio drosodd i'r môr yn eu dychryn, a chafodd Harri gryn drafferth i'w perswadio nad oedd perygl. Wedi dangos iddynt rai o ryfeddodau'r llong, aeth Harri a Dafydd drosodd i'r ynys i weld Peter Jones. Synnent na bai wedi dod i'r bwrdd, nes iddynt ddeall gan y brodorion mai wedi mynd i'r ochr draw i'r ynys yr oedd er y prynhawn cynt i'r blanhigfa siwgr oedd ganddo yno.
Aeth Harri a Dafydd i'r tŷ i aros ei ddychweliad, gan feddwl ei synnu pan ddeuai'n ôl. Ond ar y ffordd trwy'r pentref, clywodd am y llong ryfedd a dieithr oedd wedi galw heibio iddynt, a bod gŵr dieithr yn y tŷ gyda Harri. Synnodd, er hynny, ddeall mai bachgen o Finymor oedd yr ymwelydd, ac yr oedd ei lawenydd yn fawr. Er nad oedd yn cofio Dafydd (nid oedd ond plentyn bychan pan ymadawsai ef o Finymor), cofiai ei rieni'n dda. Estynnodd groesaw cynnes i Dafydd i'r ynys, a mynnai iddo aros yno am ysbaid.
Na, rhaid i mi fynd ymlaen am Awstralia," meddai Dafydd, "yr wyf wedi colli gormod o amser ar y daith eisoes.'
Ond llwyddwyd i'w berswadio i aros hyd drannoeth, ac aeth y tri am dro i gael golwg ar yr ynys. Rhyfeddai Dafydd weled cymaint o ôl daionus Peter Jones ar y trigolion a'u dull o fyw. Ryw filltir o'r pentref, craffodd ar goeden fawr, a gofynnodd,
"Pa goeden yw hon?"
"Yn wir, mae hi'n ddieithr i mi," ebe Peter Jones. Wn i fawr am goed," meddai Dafydd, "ond 'rydw i wedi darllen am y goeden mae nhw'n cael rubber ohoni hi, a mae hi'n debyg iawn i hon. Wyddoch chi, mai ar y rubber y mae mwyaf o fynd o bopeth ym Mhrydain y dyddiau hyn. Gadewch i ni edrych ai dyna ydi hi."
Ac fe wnaeth i'r goeden, fel y clywsai y gwneid. Torrodd ddam o'i rhisg ymaith, a gwelodd y sudd yn rhedeg allan, yn afon felen, ac yn caledu yn union fel y disgwyliasai.
"Ie, rubber ydi hi," meddai.'n llawen. "Mae 'ma ugeiniau a channoedd o rai 'run fath a hi yr ochr acw i'r ynys," ebe Peter Jones.
"Wel, mae 'na ffortiwn yn eich aros chi felly," ebe Dafydd, " heb sôn am y cyfoeth o bethau eraill sydd yma."
Y nos honno, gwnaed cynlluniau at y dyfodol. Penderfynwyd fod i Harri fynd gyda Dafydd i Awstralia, a chymryd gydag ef y perlau gasglesid, i'w gwerthu yno. Sicrhai Dafydd ef y caffai swm da amdanynt, a phenderfynwyd mai nwyddau at wasanaeth y brodorion a brynnid â hwy, megis offer, arfau seiri, hoelion, a'r cyfryw allai fod yn ddefnyddiol iddynt. " Mi ddo inna'n ôl o Awstralia yma'n wag," ebe Dafydd, " a mi awn ni a chi'ch dau adref a llwyth o gynnyrch yr ynys,—rubber, siwgr, a chnau coco."
Ac felly y trefnwyd. Peter Jones i roi'r brodorion ar waith i gasglu llwyth, tra byddai'r llong ar ei thaith i Awstralia ac yn ôl.
Chwith oedd gan y brodorion feddwl am ffarwelio â Harri, ond siriolodd eu hwynebau pan ddeallasant y deuai'n ôl, a hynny'n fuan
Yn Awstralia, cafodd Harri bris da am y perlau, a phrynodd bopeth y gallai feddwl amdano, fyddai'n debyg o fod o fantais i'r brodorion. Aeth hefyd at argraffydd, a chafodd ganddo wneud llyfrynau bychain i gynnwys y wyddor, a rhai adnodau a phenillion yn yr iaith frodorol.
Rhaid hefyd oedd anfon gair o Awstralia i Finymor, i hysbysu fod y ddau golledig wedi eu cael. Bu trafodaeth faith rhwng Harri a Dafydd ar y cwestiwn— at bwy i anfon y newydd, a sut i'w anfon. Barnent mai peryglus fuasai anfon yn uniongyrchol at Gwen Jones, rhag ofn i sydynrwydd y fath newydd effeithio'n ormodol arni. Gwell fyddai anfon at rywun arall, ac i hwnnw dorri'r newydd iddi yn araf. Cytunodd y ddau mai anfon at William Gruffydd, yr hen flaenor fyddai'n ymdrafferthu gyda hwynt yn y Band of Hope, fyddai orau, gan y gellid dibynnu arno ef i dorri'r newydd i Gwen Jones yn y ffordd ddoethaf, ac felly ato ef yr anfonwyd,—Dafydd yn ysgrifennu llythyr i ddweud am y darganfyddiad, a Harri'n amgau nodyn ynddo i gadarnhau'r ffaith.
Wedi gorffen eu busnes yn Sydney, y porthladd pwysig yn Awstralia, ac i Dafydd hysbysu perchenogion y llong, trwy lythyr, sut y bwriadai gael llwyth i ddychwelyd, hwyliwyd yn ôl am yr ynysoedd, ac yr oeddynt yno ymhen deufis o'r amser y cychwynasent. Gwelwyd fod Peter Jones a'r brodorion wedi bod wrthi'n ddiwyd yn ystod eu habsenoldeb yn casglu ynghyd lwyth gwerthfawr.
Rhoed iddynt dderbyniad cynnes yn ôl, a mawr oedd y diddordeb gymrid yn y nwyddau a ddygasai Harri iddynt. Cafodd dipyn o drafferth i egluro iddynt amcan y gwahanol offer a'r dull o'u trin, a bu amryw berfformiadau digrifol ynglŷn â hwynt ar y cychwyn. Trysorid y llyfrau'n arbennig gan yr adran fwyaf meddylgar yn eu phth, a gellid gweld y rhai hyn mewn conglau neilltuedig yn astudio'u dalennau. Yr oeddynt mor falch ohonynt a phlentyn o degan newydd, a'r rhai oedd wedi dysgu'r gelfyddyd o ddarllen, yn darllen y geiriau ar uchaf eu llais er mawr foddhad iddynt hwy eu hunain, beth bynnag am yr effaith ar eraill a'u clywent. A chaed canu i'w gofio'r Saboth dilynol, a'r olwg ar rai o'r cantorion fel pe mai'r llyfryn oedd y trysor pennaf yn y byd yn eu golwg.
Ond yr oedd cysgod tristwch dros yr holl llawenydd. Yr oeddynt wedi deall bod Pedru a Pedratu, fel y galwent Harri, yn mynd i'w gadael, ac nid oedd modd eu cysuro. Er iddynt weithio i gludo'r gwahanol bethau—y rubber a'r cnau a'r siwgr—o'r coed i'r llong, yr oedd eu calonnau'n drist wrth feddwl y byddai raid iddynt bellach fyw heb y ddau ddyn gwyn. Ac er mor llawen oedd Peter Jones a Harri o gael mynd adref i'w henfro annwyl, teimlent hwythau fesur o dristwch wrth feddwl gadael y bobl oedd mor hoff ohonynt. Noson fawr yn hanes yr ynys oedd y noson olaf cyn codi angor i hwylio am Brydain.
Ar ganol y pentref, ymgasglodd yr holl drigolion ynghyd, a thristwch yn argraffedig ar eu hwynebau, a chododd Peter Jones i'w hannerch.
"F'annwyl frodyr a chwiorydd," meddai, "mae'r amser wedi dod i mi ymadael oddiwrthych i fynd yn ôl i'm gwlad fy hun. Am ddeunaw mlynedd a throsodd, yr wyf wedi byw yn eich plith fel un ohonoch, ac yr wyf yn teimlo'n chwith gennyf ymadael â chwi ar lawer cyfrif. Buoch yn garedig iawn wrthyf, a da gennyf feddwl fy mod wedi gallu bod o ryw wasanaeth i chwithau. Er fy mod yn mynd ymhell iawn oddiwrthych, i wlad y dyn gwyn, ni allaf byth eich anghofio, a gobeithiaf allu dod yn ôl eto i'ch gweled. Byddwch heddychlon â'ch gilydd. Yr wyf am ofyn i chwi dderbyn Tarato yn bennaeth arnoch wedi i mi fynd. Y mae ef, er yn un ohonoch, o deulu'r hen benaethiaid, yn ddyn ieuanc sy'n gymwys i'ch llywodraethu, a gobeithiaf y byddwch yn ufudd iddo. Yr ydym yn mynd a llwyth o gynnyrch yr ynys gyda ni oddiyma, i'w werthu yng ngwlad y dyn gwyn. Anfonwn eu gwerth yn ôl i chwi o bethau fydd yn ddefnyddiol i chwi. Bendith fo arnoch."
Dan deimlad dwys y llefarai Peter Jones, a bu agos iddo dorri i lawr fwy nag unwaith. Gydag anhawster y llwyddodd i ddiweddu ei araith, a phan ddiweddodd, nid oedd llygad sych yn y gynulleidfa. Ysgydwai'r bobl fel coedwig dan wynt nerthol, a dolefent rhyw gri gwynfanus leddf.
Wedi i'w dad eistedd, cododd Harri, a dywedodd, wedi cael distawrwydd: "Mae'n ddrwg iawn gennyf finnau eich gadael, ond gobeithiaf ddod yn ôl yn fuan. 'Rydw i 'n disgwyl y cawn ni ddigon am y cynnyrch i brynu agerlong gyda rhan ohonynt i gario masnach ymlaen rhwng yr ynys hon a Phrydain. 'Rydw i'n disgwyl y bydd fy nghyfaill, Capten Huws, a minnau yma'n ôl cyn pen y flwyddyn. Ceisiaf gael llyfrau yn eich iaith, ac athro i ddod yma i ddysgu'ch plant. Gwnewch eich gorau hyd hynny gyda'r llyfrau gawsoch." Yr oedd araith Harri dipyn yn fwy calonogol ei thôn nag eiddo'i dad, a chiliodd y prudd-der i fesur o'u hwynebau wrth glywed ei addewidion. Yr oedd yr addewid i brynu agerlong yn enwedig yn eu boddhau, ac nid ymddangosai blwyddyn yn amser maith i aros amdani, dan gyfaredd yr araith.
Ond bore drannoeth, pan godid yr angorion i gychwyn, prudd-der oedd wedi eu meddiannu un ac oll, a wylent yn hidl ar y lan. Safai Peter Jones a Harri ar fwrdd y llong gyda Dafydd yn edrych yn ôl ar yr ynys fel y pellhai'r agerlong yn gyflym oddiwrthi. Chwifient eu cadachau cyhyd ag y gallent weled y dyrfa ar y lan, a phan o'r diwedd, yr oedd yr ynys yn suddo o'r golwg dros y gorwel, yr oedd dagrau'n llifo i lawr gruddiau Peter Jones.
"Hogia," meddai, "nid ydyw yn debyg y caf ddod yn ôl yma byth eto, ond fe hoffwn i chwi'ch dau, os gellwch, gadw'ch addewidion i'r bobl. Pobl garedig a charuaidd dros ben ydynt, ac ni wyddoch faint o les eto ellwch chwi wneud iddynt. Ond wyddoch chwi beth sydd ama i ofn?"
"Na wyddom ni," ebe'r ddau ddyn ieuanc.
"Ofn i fasnach a'r dyn gwyn eu damnio. Mi wn na wnewch chi'ch dau ddim niwed iddynt, ond ofn sydd arna i i ddynion gwynion eraill ddechrau masnachu â'r ynys, a dwyn y ddiod felltigedig yno i ddamnio'r bobl, gyrff ac eneidiau. Y dyn gwyn sydd yn mynd a chrefydd Iesu Grist, y fendith fwyaf, i bobl yr ynysoedd hyn. Onid yw'n drueni meddwl mai'r dyn gwyn sydd hefyd yn mynd a'r ddiod feddwol, melltith fwyaf y ddynoliaeth iddynt? Y nefoedd a'u gwaredo rhag y dyn gwyn didduw."
"Amen," meddai'r ddau ŵr ieuanc o'u calonnau.
XVI. YNYS RAHITI
Ychydig feddyliasai am y trysor tra'n byw ar yr ynys, ac ni soniasai wrth ei dad am y mater. Ond yn awr, wedi cael ei hun ar fwrdd llong, ac yn mynd i gyfeiriad Rahiti, daeth y peth yn fyw i'w feddwl, a phenderfynodd ddweud yr holl hanes wrth ei dad a Dafydd,—yntau hefyd, fel y cofir, hyd yn hyn heb glywed gair am y dirgelwch. A'r cyfle cyntaf gafodd ar y ddau gyda'i gilydd, adroddodd iddynt yr hanes yn llawn—o'r adeg y clywsai gyntaf gan yr hen Gapten Morris am y trysor hyd ymadawiad y pedwar lledfegyn yn y cwch o'r "Arfonia" am yr ynys. Gwrandawai Dafydd yn astud. Wrth i Harri ddweud yr hanes, deuai i'w gof y digwyddiad yn y "Blodwen" yn Hamburg ers llawer dydd; ac yn awr, wrth wrando'r stori, deallai lawer peth fuasai'n ddirgelwch iddo hyd hynny.
"Rhaid i ni alw heibio'r ynys," ebe Dafydd, wedi i Harri orffen ei adroddiad, "nid ydyw ymhell o'n cwrs. Gad'wch i ni weld y chart."
Ac ar ôl astudio'r chart am ychydig, ychwanegodd, "Dyma hi. Yr ydym o fewn llai na chan milltir iddi." Plygai'r ddau arall dros ei ysgwydd i sylwi ar safle'r ynys, ac ar safle'r llong ar y pryd, fel y dangosai Dafydd ef â'i fys. Cyn pen ychydig iawn o oriau, daeth yr ynys i'r golwg ar y gorwel, a dwy awr arall a'u dug hwynt at y reef a gylchynai'r ynys, ac yno gollyngwyd yr angor.
Aeth y tri—Dafydd, Harri, a Peter Jones—i'r lan gyda chwch.
Ynys debyg o ran ei hwyneb a'i chynnyrch i ynysoedd eraill Môr y De ydoedd, ac nid oedd dim ynddi i synnu rhai mor gyfarwydd â hwynt a Peter Jones a Harri. Yn y pen gorllewinol y glaniasant, a cherddasant ymlaen am ychydig heb nôd arbennig o'u blaen, gan osgoi'r dyryslwyni isel hyd y gallent.
"Onid gwneud am y lle y cuddiwyd y trysor fyddai orau i ni?" gofynnodd Peter Jones. "Lle dwedaist ti oedd o? Pwynt tua'r gogledd, on'tê?"
"Ie," ebe Harri.
Symudwyd tua'r lan ogleddol, ac yn fuan safent ar lan y lagoon.
"'Does 'ma ddim golwg am bwynt o gwbl, dim ond glanmor gwastad, unffurf," meddai Harri mewn cryn benbleth.
"Mi awn ni ymlaen dipyn," ebe Dafydd, " feallai fod yna fau ymhellach ymlaen, a phwynt o dir yr ochr draw iddo."
Ac ymlaen yr aed.
"Mae 'cw rywun yn sefyll draw ar y tywod yn y fan acw," ebe Dafydd yn sydyn, wedi iddynt fynd dipyn o ffordd, gan bwyntio â'i fys i'r cyfeiriad. "Welwch chi o?" Yr oedd yn hawdd ei weled, ond am eiliad yn unig y gwelwyd ef. Yr oedd y dyn, neu beth bynnag ydoedd, wedi eu gweld hwythau, oblegid diflannodd yn sydyn i gysgod y coed.
"Pwy all o fod, tybed?" ebe Dafydd, "dyma ni heb na dryll nac arf o unrhyw fath, ac feallai fod mwy nag un, ac mai wedi mynd am help y mae."
"O! mi fentrwn ni ymlaen," ebe Peter Jones.
Ac ymlaen â hwy unwaith eto. Ond 'doedd dim golwg am dir yn pwyntio tua'r gogledd. Wedi mynd heibio i lwyn tew o goed, gwelsant y dyn a welsent o'r blaen, yn eistedd ar ddarn o bren, ac yn edrych yn ofnus tuag atynt, ac fel pe ar gychwyn rhedeg oddiarnynt.
Safodd y tri rhyw gan llath oddiwrtho i edrych arno. Ie, dyn ydoedd, ond yr oedd golwg druenus arno, ei wallt a'i farf yn llaes, a rhyw ddernyn o wisg garpiog ynghylch ei lwynau, a lliw ei groen rywbeth rhwng du a gwyn.
Wedi craffu arno am ychydig, a cheisio amneidio arno mai heddychlawn eu dyfodiad, dechreuasant symud tuag ato'n araf, a chododd y dyn i ddianc.
Cyn gynted ag y cychwynodd redeg, adwaenodd Harri ef ar ei osgo, ac meddai'n gynhyrfus wrth ei gymdeithion, "Wil Jones ydyw."
"Hei, William Jones," gwaeddodd yn uchel, gan godi ei law a chychwyn rhedeg.
Trodd y dyn ei ben wrth glywed y waedd, ac wedi i Harri waeddi drachefn, safodd.
"Ydach chi ddim yn fy 'nabod i, William Jones?" gofynnodd Harri, gan nesu ato, tra y safai ei gymdeithion o'r tu ôl. Ond nid oedd y dyn yn dweud dim—dim ond edrych yn syn ar Harri.
"Harri ydw i," ebe Harri drachefn. " Ydach chi ddim yn ein cofio ni ar yr 'Arfonia?' "
Agorodd y dyn ei lygaid yn syn, a daeth mwy o arwyddion ofn nag o'r blaen i'w wyneb. Aeth Harri ato, a gafaelodd yn ei law, er y ceisiai symud oddiwrtho. Torrodd y dyn, truan, i wylo a griddfan, a datodwyd rhwymau ei dafod.
"Harri wyt ti, dywed?" meddai, gan deimlo ei wyneb â'i law.
"Ie siwr, a dyma nhad, a Dafydd. 'Rydach chi'n cofio Dafydd, William Jones, ar y 'Blodwen?'"
Gwelodd Harri ar ei lygad ei fod yn ei gofio, a bod ei ddeall pŵl yn dechrau adfywio.
"Ple mae Twm Dafis, a'r lleill, a'r trysor, William Jones?" gofynnodd Harri, wedi i'r lleill ddod ato, ac iddynt oll eistedd.
Edrychodd William Jones yn wyllt o'i amgylch, fel pe'n hanner gwallgof, ac ar ôl ennyd o ddwys ddistawrwydd, adroddodd ei stori'n debyg i hyn: "Faint o amser sy er pan yr ydw i yma? 'Rydw i wedi colli'r cyfri'n lân ers talwm."
"Tipyn dros wyth mlynedd," ebe Harri.
"Ie, wyth mlynedd," murmurai William Jones wrtho'i hun yn synfyfyriol, " ac mae Twm Dafis wedi fy ngadael ers mwy na hanner hynny'n siwr i chi. Ond mi ddechreua i 'r hanes o'r dechrau. Wedi i ni gyrraedd yma'r noson honno yn y cwch, mi dorrodd ystorm ofnadwy dros yr ynys, a bu raid i ni geisio llechu'n rhywle orau allem. Wedi i'r storm fynd heibio, gwneud ddaru ni, wrth gwrs, am y pwynt tua'r gogledd yn ôl y plan. Ond fel yr ydach chi feallai wedi sylwi, 'does 'ma 'run trwyn o dir yn rhedeg tua'r gogledd. Mae'r ynys bron yn gron, heb na bau na thrwyn, a choed yn tyfu ar bob rhan ohoni. Fe welsom felly'n union fod rhyw gamgymeriad yn rhywle. Hon ydyw Rahiti, 'does dim amheuaeth, ond nid plan o'r ynys hon oedd ar y papur. Wel, mi aeth yn ddrwg iawn rhyngom ein pedwar. Yr oedd y ddau arall am waed Twm Dafis a minnau am eu twyllo a'u camarwain, ac yn ein bygwth â'u cyllill. Barnodd Twm a minnau nad oedd yn ddiogel i ni gysgu yn eu hymyl y noson honno, ac aethom ym min yr hwyr oddiwrthynt i ran arall o'r ynys. A dyna'r tro diweddaf i ni weld y ddau. Pan ddaethom ymhen rhai dyddiau i'r lle y gadawsem y cwch, 'doedd dim golwg ohono, nac o'r ddau filain ychwaith. Yr oedd yn eithaf gennym eu bod hwy wedi diflannu, ond beth wnaem heb y cwch? Yr oedd ar ben arnom i fynd oddiyma, oddeithr i ryw long ddod heibio i ni. Wn i ddim i ble'r aeth y ddau— pa un ai boddi fu eu hanes, ynteu a gawsant i ryw ynys arall.
Wel 'does dim angen i mi ddweud sut y buom byw. Mae yma gyflawnder o ryw fath o fwyd, ac fe wnaethom ryw gwt bychan i'n cysgodi. Er edrych bob dydd am long, nid oedd yr un yn dod, a phenderfynasom geisio llunio rhyw fath o gwch i geisio mynd oddiyma. Ond gwaith go anodd oedd hynny heb arfau na dim pwrpasol at y gwaith. Ond yr oeddym wrthi'n ceisio gwneud un pan darawyd Twm yn wael. Yr oeddwn wedi sylwi ers dyddiau fod rhywbeth arno. Yr oedd yn ddistaw a diysbryd, ond yn rhyw dreio llusgo ymlaen hefo'r gwaith. Ond ildio fu raid iddo, a mynd i orwedd. Ychydig ddyddiau fu na ddaeth y diwedd, er i mi geisio gwneud popeth fedrwn i iddo fo. Ac O! wedi claddu Twm yr oedd yn unig arnaf. Wn i ddim sut yr ydw i wedi byw. Yr wyf wedi meddwl rhoi diwedd ar fy mywyd lawer gwaith, ac wedyn yn rhy lwfr ac yn methu gwneud hynny. Peth ofnadwy ydyw bod mewn ynys heb weld neb am flynyddoedd. 'Roedd Twm Dafis yn dweud mai barn ydoedd arnom am gamdrin Harri a dwyn y papur oddiarno. Yr hen Dwm! wyddoch chi, 'roedd o wedi newid cyn marw, ac wedi gweld ei bechod. Ei ddymuniad olaf oedd cael gweld Harri i ofyn ei faddeuant. "Wil," meddai wrthyf, y noson olaf y bu fyw, a bron yn methu siarad, " os cei di fyw i fynd o'r ynys 'ma, a gweld Harri, cofia ddweud wrtho fo mod i wedi 'difaru am yr hyn wnes i iddo fo."
Bu distawrwydd dwys wedi i William Jones orffen ei adroddiad, a Harri'n amlwg wedi ei orchfygu gan ei deimladau wrth glywed hanes marw ei hen elyn, a'r dagrau'n llifo i lawr ei ruddiau. Nid oedd lle i amau gwirionedd y stori glywsent, gan fod tinc gonestrwydd yn llais William Jones wrth lefaru.
Torrwyd ar y distawrwydd ymhen ennyd gan Dafydd. "Wel, codwch eich calon, William Jones," meddai, "mi gewch ddod hefo ni'n ôl i Gymru."
"Na, gad'wch fi yma,"—ebe'r truan, "'dydw i ddim yn haeddu dim cymwynas felly oddiar 'ch llaw chi."
"Ydi'r papur a'r plan gynnoch chi, William Jones?" ebe Harri'n sydyn, fel pe bai rhyw syniad newydd wedi taro i'w feddwl.
"Ydyn, mae nhw yn y cwt lle 'rydw i 'n byw. Mi â 'i i'w nhôl nhw i chi," ebe William Jones, ac ymaith ag ef.
"Yr hen greadur, mae'n biti gin i drosto," ebe Harri, " mae'n amlwg ei fod o 'n ddyn gwahanol i'r hyn oedd o ers talwm."
"Mae o 'n edrych yn wael iawn," ebe'i dad, " 'does dim golwg arno y bydd o byw i gyrraedd Cymru."
"O! mi ddaw ato'i hun wedi bod ddeuddydd neu dri ar y môr," ebe Dafydd, " wn i ddim sut y mae o wedi dal yn fyw cyhyd ar yr ynys unig yma."
Ar hyn daeth William Jones yn ôl a'r plan yn ei law grynedig, a rhoddodd ef i Harri.
"Ti bia hwn, Harri, a neb arall, os gelli gael rhywbeth drwyddo," meddai.
"Ddaru Twm Dafis gyfaddef hynny cyn marw? gofynnodd Harri, dan agor y papur a'i ledu ar ei lin.
"Do," meddai William Jones, " dyna oedd yn pwyso fwyaf ar ei feddwl—ei fod o wedi f'arwain i i gredu mai ganddo ef yr oedd yr hawl gyfreithiol arno. Capten Morris oedd pia'r papur i'w roi i'r neb a fynnai."
Tra y siaradai William Jones, astudiai Harri'r papur yr oedd mor gydnabyddus ag ef, a phlygai ei dad a Dafydd dros ei ysgwydd i edrych arno. Yn sydyn, cododd Harri ei ben, a gwawr goleuni newydd yn ei lygad.
"I beth 'rydech chi'n gweld y plan yma'n debyg?" gofynnodd i'w dad a Dafydd.
Nid oedd yr un o'r ddau'n gallu ateb.
"Wrth gwrs, nid yw' mor hawdd i chi weld y tebygrwydd ag ydyw i mi," ebe Harri'n gyffrous, "ond plan hollol gywir ydyw o'r ynys lle y bum i 'n byw. Dyma'r bau lle glaniaist ti, Dafydd, gyferbyn â Glandon, fy nhŷ wrth y graig, a dyma'r trwyn yn pwyntio tua'r gogledd wrth ochr y bau. 'Rwyf wedi bod yn cerdded dros y lle lawer gwaith, ond ni ddaeth y syniad erioed i fy meddwl i y gallai bod trysor yno. Mae'n rhyfedd na feddyliais o'r blaen am y tebygrwydd. Ond sut i gyfrif am yr enw? Hon ydyw Rahiti, ond plan o'm hynys i ydyw hwn."
Cymerodd Dafydd y plan yn ei law, ac wedi craffu arno, meddai,
"Edrych ar yr ysgrif. Nid ydyw'r gair Rahiti yn yr un llaw ysgrif a'r gweddill, ac y mae ôl rhwbio rywbeth allan yma."
"'Rydw i 'n meddwl y galla i egluro'r anawster," ebe Peter Jones, " chlywaist ti erioed mo enw'r brodorion ar d'ynys di, Harri?"
Ysgydwodd Harri ei ben.
"Bahiti ydyw'r hen enw brodorol arni. Felly yno y cuddiwyd y trysor gan rywun a wyddai'r enw brodorol, ond gan nad yw'r enw na'r ynys honno ar y chart, a bod ynys Rahiti arni, fe dybiodd rhywun doeth mai Rahiti ddylasai fod, ac fe newidiodd yr enw a'r ffigyrau gan feddwl eu cywiro."
Ymddangosai yr eglurhad hwn yn hollol naturiol i'r tri, a diau ei fod yn gywir, fel y ceir gweled. Am William Jones, druan, nid ymddangosai ef fel pe'n cymryd diddordeb yn y mater. Eisteddai â'i ben ar ei fynwes fel pe bron syrthio i gysgu, ac ochneidiai'n ddwys rhyngddo ag ef ei hun. " Dowch, William Jones," meddai Harri, gan blygu'r papur a'i gadw, "mi awn ni am y llong," ac i ffwrdd â hwynt am y lle y gadewsid y cwch. Ar y ffordd trodd Harri i ofyn i William Jones, " A oes gennych rywbeth garech ddod gyda chwi o'r ynys?" ond ysgydwodd yr hen frawd ei ben heb ddweud yr un gair.
Y noson honno yn y caban, bu'r ddau gyfaill a Peter Jones yn trafod y cwestiwn beth i'w wneud â'r trysor cuddiedig, a pha un a eid yn ôl i chwilio amdano ar Bahiti. Golygai hynny fynd yn ôl gryn bellter i'r gorllewin. Parod ac awyddus ydoedd Dafydd i droi'r llong yn ôl er mwyn dadrys y dirgelwch, rhag ofn i rywbeth ddigwydd i beri na chaent byth mo'r cyfle wedi hynny. Yr oedd Harri wedi colli pob awydd i feddiannu'r trysor iddo'i hun, nac hyd yn oed er mwyn ei fam, ond carai yntau wybod i sicrwydd a oedd ei ddamcaniaeth yn gywir. Felly, penderfynwyd troi'r llong yn ei hôl heb egluro'r rheswm i neb o'r dwylo.
XVII. CAEL Y TRYSOR
PAN ddaeth ei hen gartref i'r golwg unwaith eto dros y gorwel, teimlai Harri atgofion y gorffennol yn codi rhyw hiraeth arno. Dodwyd yr angor i lawr ryw hanner milltir o'r lan, ac o olwg y bau yr oedd y cuddfan tybiedig yn ei ymyl, ac aeth Harri a Dafydd yn y cwch i'r ynys. Yr oedd yn hwyr yn y prynhawn arnynt yn cyrraedd y tir, ac ni chollasant amser i fynd i'r fan cyn iddi nosi. Yr oedd y coed yno yn ôl y plan, er gwaethaf yr ystormydd gurasai ar yr ynys er pan guddiasid y trysor.
"Dyma'r lle," ebe Harri, gan sefyll rhwng dwy goeden dyfai o fewn rhyw lathen i'w gilydd.
"Beth wnawn ni?" ebe Dafydd, " a gloddiwn ni 'rwan liw dydd, ynteu dod yma wedi nos? Mae lampau gennym."
"Mae'r haul bron mynd i lawr," ebe Harri, " mi ddaw yn nos cyn y dechreuwn."
"Does dim arwydd bod neb wedi bod yma ers oesoedd," ebe Dafydd, " os claddwyd rhywbeth yma, y tebyg ydyw mai yma y mae."
A chyda hynny taflodd y nos ei mantell drostynt, fel na welent mo'r naill y llall. Goleuwyd y lanternau, a dechreuwyd cloddio mewn distawrwydd. Yn araf yr oedd y gwaith yn mynd ymlaen—y ddau yn anghynefin â gwaith o'r fath, a'r tir wedi caledu ac yn llawn o wreiddiau gwydn.
Daliwyd i gloddio. Fel yr aent yn is, nid oedd lle i'r ddau weithio, ac felly gweithiai un gyda'r rhaw a'r gaib, tra'r llall yn dal y goleuni iddo.
"Does yma ddim yn y fan hyn," ebe Harri, wedi cloddio i lawr tua dwy droedfedd.
"Gad i ni dreio dipyn yn nês i fôn hon," ebe Dafydd, "mae rhywbeth yn dweud wrtha i mai'r ffordd hyn y mae o."
Symudwyd yn ôl awgrym Dafydd, ac yn wir, cyn pen hanner awr, teimlodd Harri 'i gaib yn taro'n erbyn carreg. Brysiwyd gyda'r rhaw i glirio hyd ati. " Mae hon yn garreg fawr, ebe Harri, " mae'n sicr mai o dan hon y mae'r trysor, os yw yma o gwbl.
Cafwyd cryn drafferth i glirio'r pridd a'r gwreiddiau oddiar y garreg, ond wedi cryn galedwaith, fe gaed ei hwyneb yn glir.
"Nid peth hawdd fydd codi hon, mae cryn bwysau ynddi; rho'r golau i lawr i edrych a allwn ei chodi rhyngom," ebe Harri drachefn, a'r ddau erbyn hyn mewn cryn gyffro wrth feddwl bod y trysor mor agos atynt. Wedi ymdrech galed, llwyddwyd i'w chodi.
"Dal y golau yma 'rwan," ebe Dafydd, efe erbyn hyn yn cymryd y rhan flaenllaw yn y gwaith.
Danghosodd y goleuni gist yn y twll o dan y garreg, ond erbyn edrych yn f anylach, yr oedd clo arni. "Rhaid torri'r clo," ebe Dafydd, gan ei daro a'r rhaw nes ei dorri, a gwneud y fath sŵn yn nistawrwydd y nos nes y teimlai Harri ryw ias o arswyd yn cerdded trwy ei gyfansoddiad, rhag bod rhai o ysbrydion y tywyllwch yn eu gwylio yn y fangre unig. Wedi torri'r clo, plygodd y ddau i lawr i godi'r caead, gyda chalonnau yn curo'n gyflym gan eu cyffro. Ac wedi codi'r caead, beth a welent dano ond barau o aur ac arian, a channoedd o ddarnau arian gwahanol wledydd, blith drafflith.
"Mae 'ma werth miloedd ar filoedd," ebe Dafydd, wedi edrych yn frysiog trwy gynnwys y gist. "Beth wnawn ni hefo nhw?" gofynnodd Harri mewn petruster.
"Rhaid mynd a nhw i'r llong, yn sicr, i ddechrau," ebe Dafydd, " ond fedrwn ni wneud dim chwaneg nes daw hi'n ddydd, a fedrwn ni byth fynd a nhw yn y gist i'r cwch. Rhaid i ni fynd a rhai o'r barau yma yno'n gyntaf, a'u rhoi yn ôl yn y gist wedyn." "Oes yma ddim ysgrif, tybed, yn dweud pwy a'u dododd yma?" gofynnodd Harri.
"Wela i 'r un," ebe Dafydd, " ond mae'n sicr i ti mai rhyw fôr-ladron welodd le unig yma i guddio'u trysor, ac wedyn, feallai, ladd ei gilydd."
"Y cwestiwn nesa," meddai Harri, " ydyw, pwy a'i piau nhw?"
"Chdi, siwr iawn," ebe Dafydd, " pwy arall sydd a hawl arnynt?"
"Fedra i gyffwrdd â dim ohonynt. Mae'n sicr mai eiddo lladrad ydynt, a fydd dim bendith i neb drwyddynt."
"Mi awn ni a nhw i'r llong, beth bynnag," ebe Dafydd, " a mi gawn benderfynu eto beth wnawn ni â nhw."
Ac felly, pan dorrodd y wawr, cludwyd y cyfoeth i'r cwch, ac yna fe ddodwyd y cwbl yn ôl yn y gist fel na wyddai neb beth oedd ynddi pan godwyd hi i fwrdd y llong, ac oddiyno i'r caban. Yno fe agorwyd y gist i ddangos ei chynnwys i Peter Jones, a mawr oedd ei syndod yntau pan welodd y fath gyfoeth.
XVIII. Y DYCHWELIAD
Ni ddaeth proffwydoliaeth Dafydd am effaith daionus awel y môr ar iechyd William Jones yn wir. Prudd oedd ei ysbryd, ac ychydig oedd ganddo i'w ddweud wrth neb. Ceisiai wenu'n wannaidd pan sonient wrtho y byddai yng Nghymru cyn hir. Cymdeithas Harri a geisiai fwyaf, ac wrtho ef dywedodd, cyn pen yr wythnos wedi iddynt hwylio, nad oedd yn meddwl y cai fyw i weld pen y siwrnai. Ceisiai Harri ei gysuro a'i galonogi, ond yn ofer.
"Na, Harri bach," meddai, " mae fy sailing Orders i wedi dod i ymadael am wlad arall," ac ymhen tridiau bu farw.
Effeithiodd marw William Jones yn drwm ar Harri. Er wedi bod mor gas wrtho gynt, yr oedd wedi newid llawer er pan y caed hyd iddo'n unig yn Rahiti, a Harri cyn y diwedd wedi mynd yn dra hoff ohono. Claddwyd yr hyn oedd farwol ohono drannoeth yn nyfroedd y Môr Tawelog,—Peter Jones yn darllen y gwasanaeth claddu yngwydd holl aelodau'r criw.
Caed mordaith lwyddiannus i afon Llundain. Yr oedd Harri a Dafydd wedi cytuno mai rhoi adroddiad i swyddogion y Llywodraeth am yr ynysoedd a'r trysor gloddiwyd fyddai orau, a phan fyrddiwyd y llestr gan swyddogion y dollfa (Custom House) adroddwyd yr hanes wrthynt, a chyflwynwyd y gist i'w gofal. Er cymaint brys oedd ar bob un ohonynt i fynd adref i Finymor, bernid mai ysgrifennu at William Gruffydd fyddai orau'n gyntaf i'w hysbysu o'u dyfodiad, ac i gael gwybod ganddo sut y daliasai Gwen Jones y newydd rhyfedd. Daeth gair yn ôl yn hysbysu ei bod yn ddiogel iddynt ddychwel i Finymor, a bod y newydd wedi creu syndod a llawenydd mawr trwy'r ardal.
Cychwynnwyd am Ogledd Cymru gyda'r trên cyflym, ond symudai lawer yn rhy araf i fodloni Harri, gan ei awydd angerddol i weld ei fam.
Ni fu erioed y fath dderbyniad i neb ym Minymor ag a gafodd y tri gwron. Yr oedd degau o bobl yn y stesion yn eu disgwyl, a banerau yn chwifio o bob tŷ yn y pentref. Hebryngwyd hwynt i Fwlchglas gan dorf liosog ynghanol banllefau o lawenydd, a bu braich dde Harri'n boenus am ddyddiau ar ôl ysgwyd llaw gyda chynifer. Ni raid dweud am lawenydd Gwen Jones o dderbyn y ddau golledig yn ôl, ond tynnwn y llen dros yr olygfa yn y gegin y noson honno rhag gwneud cam â hi wrth geisio ei disgrifio.
Bu'r ddau ddychweledig yn wrthrychau sylw a siarad am ddyddiau, a llawer o holi fu arnynt am y profiadau yr aethent trwyddynt. Llithrodd ryw gymaint o hanes y trysor allan rywsut, yn anghywir iawn, wrth gwrs, ac yr oedd cryn gywreinrwydd i wybod y gwir amdano.
Ymhen rhai wythnosau, daeth gwys i Peter Jones a Harri i fynd i Lundain at yr awdurdodau ynghylch yr ynysoedd ddarganfyddasent a'r trysor a ddygasent adref. Yr oedd Dafydd wedi dychwel yno o'u blaen i ofalu am ei long a'r llwyth, a daeth i'w cyfarfod i fynd gyda hwynt at swyddogion y Llywodraeth. Derbyniodd y tri gyfran sylweddol bob un o werth y trysor, a gwrandawyd yr hyn oedd ganddynt i'w ddweud am y ddwy ynys y proffesent eu bod wedi eu darganfod. Ond er i Harri a Peter Jones roi disgrifiad manwl o'r ynysoedd, ac i Dafydd geisio profi eu lleoliad, ac nad oeddynt ar y chart, ysgwyd eu pennau'n anghrediniol a wnai'r swyddogion.
"Mae'n anhygoel i ni," meddent, "fod ynysoedd eto heb eu darganfod ym Môr y De, a chymaint o fasnachu sydd y ffordd honno. Mae'n rhaid mai ar rai o'r ynysoedd sydd yn cael eu nodi ar y chart y buoch, ond eich bod heb leoli eich hunain yn briodol." Ac ar hynny y bu raid bodloni. Teimlai'r tri dipyn yn dost na chredid eu tystiolaeth gan yr awdurdodau, ond wedi mynd allan o'r swyddfa, meddai Peter Jones, "Hwyrach mai gwell i ni eu bod yn gwrthod ein credu. Fe gawn, felly, ryddid i fasnachu å'r brodorion, a cheisio gwneud lles iddynt yn ein ffordd ein hunain." Ac a hyn ar ôl ystyriaeth y cytunai'r ddau arall.
Anfoddlawn oedd Dafydd a Peter Jones i dderbyn dim o werth y trysor, gan y teimlent mai eiddo Harri ydoedd. Ond mynnai Harri iddynt gadw'u cyfran. Cafwyd o'r anhawster trwy i'r tri roddi swm da o'u cyfran i bwrcasu agerlong i fasnachu â'r ynysoedd, Dafydd i fod yn gapten arni. A chyda'r arian gaed am y llwyth, prynwyd nwyddau at wasanaeth yr ynyswyr. Ni anghofiodd Harri am eu hangenion meddyliol ac ysbrydol. Aeth at Gymdeithas Genhadol Llundain i weld beth oedd ganddynt yn iaith ynyswyr Môr y De, a phrynodd nifer mawr o lyfrynnau yn yr iaith rhannau o'r Ysgrythur, emynau, a llyfrau da eraill. Hefyd, lechau a llyfrau i ysgrifennu ynddynt, ac argraff-wasg fechan, syml at ei wasanaeth ei hun ar yr ynys.
Wedi cael rhai wythnosau ar y lan, daeth yr adeg i'r llong newydd—y Pedru, fel y bedyddiwyd hi—i hwylio eilwaith am yr ynysoedd pell. Er y carasai Peter Jones eilwaith weld y brodorion y buasai mor gartrefol ar eu hynys, gwell oedd ganddo, wedi ei hir alltudiaeth, aros gartref na wynebu'r daith bell. Ond am Harri, yr oedd ef yn eiddgar i fynd yn ôl i Hakiti (enw'r brodorion ar yr ynys fawr) i barhau'r gwaith da a ddechreuasid ganddo ymhlith y brodorion, ac i ddatblygu masnach yr ynys. Cyn ymadael â'i gartref, bu raid iddo annerch cyfarfodydd ym Minymor a'r Cefngwyn ar hanes ei anturiaethau, ac ar ôl yr areithiau anogwyd ef i gyhoeddi llyfr yn rhoi'r hanes. Bu hefyd yn dweud yr hanes wrth blant yr ysgol yn y Cefngwyn. Ymadawodd Dafydd ac yntau ar eu taith hirfaith ynghanol dymuniadau da eu cyfeillion a'u cydnabod.
Mae Dafydd wedi gwneud llawer mordaith er hynny rhwng Hakiti a Phrydain, a Harri wedi dod gydag ef ambell dro i edrych am ei rieni. Ond cymaint yw ei ddiddordeb yn ei waith ymhlith y brodorion fel na fyn hyd yn hyn ymsefydlu gartref.
Ryw bedair blynedd yn ôl, ymwelwyd â'r ynys gan long ryfel Brydeinig, a mawr y stwr yn newyddiaduron y wlad hon pan ddaeth capten y llong honno adref a chyhoeddi ei fod wedi darganfod ynys newydd ym Môr y De, a dyn gwyn, a hwnnw'n Gymro, yn frenin arni.
Sibrydir, a disgwylir yn eiddgar ym Minymor, fod ein brenin am anrhydeddu Harri â theitl urddasol pan y dychwel adref eto ar gyfrif y gwaith mawr y mae wedi gyflawni yn ei ynys fabwysiedig.
Y DIWEDD.

Nodiadau
[golygu]|
|
Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1931, ac mae felly yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi. | |