Yr Argyfwng/E. Tegla Davies
| ← J. P. Davies | Yr Argyfwng gan William Ambrose Bebb |
Lewis Valentine → |
Y Parch. E. TEGLA DAVIES.
Trist, trist iawn, yw ysgrifau Mr. Bebb, a rhy wir o lawer i'n cysur. Cytunaf â hwy'n llawn, ond gan ei fod wedi trin ei fater mor loyw, diachos yw delio â'i wahanol bwyntiau ar wahân. Mewn manion, nad ydynt yn werth sylw, y gwahaniaethaf oddi wrtho, ond am ei bethau pwysig, megis ei alwad am edifeirwch trwyadl, a'r ail greadigaeth yng Nghrist Iesu, afraid dweud na ellir pwysleisio gormod arnynt. O brofiad ohonynt hwy y daw'r clirder athrawiaeth am Berson a Gwaith yr Arglwydd y sonia ef amdanynt.
Nid yw'r drwg, wrth gwrs, yn gyfyngedig i Gymru a Phrydain. Y mae Cristionogaeth fel petai'n dadfeilio drwy'r byd cyfan, a chenhedloedd a deimlai'n garuaidd tuag ati, heddiw'n ymwrthod â hi. Dyma ddyfyniad o Gyhoeddiad Cymdeithas Genhadol ynglŷn â'r Eglwys y perthynaf iddi. Dywedir bod diwygiad crefyddol Bwdhwaidd yn Burma, a'r rheswm drosto, yn ôl yr arweinwyr Bwdhwaidd yw "Because we Buddhists must do something before the Christian nations blow up the world. Within living memory the Christian nations of Europe and America have fought their bloodiest in two World Wars, and are preparing to wage a third which will put an end to man's civilization. Buddhism alone can provide the way out of this impending catastrophe." Yn agos i ddeugain mlynedd yn ôl dywedodd Buddhist ieuanc wrthyf na dderbyniai Gristionogaeth am nad oedd yn ddigon da iddo.
Aed â Christionogaeth i'r byd dan gysgod y cenhedloedd imperialaidd, fel un ffordd o ledaenu eu himperialaeth. Dyna bolisi Prydain yn ystod oes Victoria, yn union fel polisi Rhufain yn oes Custennin Fawr. Ceisiwyd Cristioneiddio moesau'r bobl cyn belled ag na wrthdrawent yn erbyn y polisi ymerodrol. Gan hynny elfennau mwyaf arwynebol Cristionogaeth a bregethid iddynt, heb fynd at wraidd y drwg,—ail greu eu hamodau byw yn ogystal â'u hail greu hwy. Nid yw Cristionogaeth yn ddim onid yw'n rym creadigol ym mhob agwedd ar fywyd. Gan hynny, nid yn hir y gall dyn, a gafodd gip ar y foeseg Gristionogol, fodloni i ddarn lwgu mewn cut nad yw'n deilwng o anifail er mwyn cyfoethogi ei feistr.
Wedi i'r gwledydd imperialaidd eu tlodi eu hunain yn anobeithiol drwy ryfeloedd, cyfyd cenhedloedd gormesedig y byd i fwrw eu hiau ymaith, yn cynnwys bwrw ymaith eu crefydd hefyd. Gwir fod Prydain a gwledydd eraill wedi lleddfu ychydig ar amodau byw y bobl hyn, ond er mwyn hyrwyddo'u buddiannau eu hunain. Gofynnodd Sais i Indiad,—"Beth yw'ch cwyn yn ein herbyn? Gwelwch fel yr ydym wedi gwella'ch amodau byw." "Ie," ebe'r Indiad," ond yr ydych wedi gwella amodau byw eich anifeiliaid hefyd, eithr pa un ai er mwyn yr anifeiliaid ai er eich mwyn eich hunain?"
Petai'r cenhedloedd gwynion wedi mynd â Christionogaeth i'r byd i'r amcan yn unig o'i drawsnewid yn ôl ei gwir safon hi—"y mae'r deillion yn gweled eilwaith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a'r byddariaid yn clywed; y mae'r meirw yn cyfodi a'r tlodion yn cael pregethu'r efengyl iddynt"—o gariad pur at y cenhedloedd, ac nid â'r naill lygad ar Grist a'r llall ar ddarostwng y bobl i bolisïau ymerodrol, nid yr olwg sydd arni a fuasai ar Gristionogaeth heddiw.
Ac olion y polisi hwn yn drwm iawn ar Gymru yw achos mawr ein cyni ysbrydol heddiw. Hyd yn oed yn nydd ysblander crefyddol Cymru, arwynebol iawn oedd y cymhwysiad ar Gristionogaeth. Y rheswm mawr dros Seisnigrwydd iaith ac ysbryd y colegau diwinyddol Cymraeg, y sonia Mr. Bebb amdano, oedd eu bod o dan gyfaredd crefydd imperialaidd Lloegr. Pan oedd y tyrfaoedd yn rhuthro ar ôl y cewri bregethwyr, trigai'r mwyafrif ohonynt mewn tai isel lloriau pridd a ffenestri bychain iddynt nad agorent, ac ar fwyd tlodaidd gan hanner newynu, heb i arweinwyr yr eglwysi fod ag unrhyw feddyginiaeth iddynt ond y cynnig o'r gwynfyd y Tu Hwnt, a hanner coron y plwy a'r tloty, i aros awr euraid yr ymddatodiad a mynd i mewn i'r ddinas â'i heolydd o aur pur. Bodlon oedd y rhai a ddaeth dan gyfaredd y pregethwyr mawr a chynyrfiadau crefyddol y dydd, i'r trefniant hwn; ond am eu plant, nad oedd y gyfaredd cyn drymed arnynt, a ddioddefai o eisiau bwyd a marw o'r diciâu, meddiennid hwy gan ryw ddadrithiad annelwig, yn enwedig gan y sicrhai arweinwyr yr eglwysi hwy mai "ewyllys Duw" oedd y diciâu, a pheth i'w dderbyn yn ddi-gŵyn. Am eu plant hwythau, na wyddent ddim am y gyfaredd, daethai iddynt hwy ddadrithiad llwyr. Iddynt hwy rhyw baent ar yr wyneb oedd Cristionogaeth i guddio tyllau gormes a gwae, a bywyd bob dydd yn cilio ymhellach, bellach oddi wrthi. Gwelent nad oedd y gormes ar y tlawd dan gysgod crefydd ond moddion duwiolaidd i hyrwyddo buddiannau'r ymerodraeth, a'i bwysau'n drymach na phwysau'r egwyddorion Cristionogol a bregethid iddynt.
I'r lliaws Cymry crefyddol, gan hynny, yn y ganrif ddiwethaf, aeth crefydd yn rhyw fath o ddihangfa rhag problemau bywyd yn lle bod yn gyfrwng i'w datrys, yn union fel y mae'r lluniau llafar ac adloniannau eraill heddiw. Y cyfarfod pregethu oedd adloniant mawr y flwyddyn, a'r cwestiwn mawr ar ei ddiwedd oedd nid faint a achubwyd ond, o'r ddau bregethwr, "pwy aeth â hi?" A fuasai apêl y math hwn o grefydd gymaint yr adeg honno, tybed, petai adloniannau mwy lliwgar heddiw wrth law?
I'r pulpud yr âi'r doniau mawr am nad oedd gyfle arall i'w hathrylith. Petai Emlyn Williams, Huw Griffith, Meredith Edwards, Richard Burton, fyw gan mlynedd a mwy yn ôl, byddent ym mhulpud Cymru yn swyno'r miloedd; a phetai John Elias, Christmas Evans, a'u tebyg o'u cyfnod yn fyw heddiw buasent yn theatrau Lloegr. Oni ddywedir yng Nghofiant John Jones, Tal y Sarn, fod y tyrfaoedd yn mathru ei gilydd yn eu rhuthr i wrando ar y pregethwr mawr hwnnw? Prin y mae mathru ei gilydd yn ffordd deilwng o fynegi ysbryd addoliad. Yr oedd John Jones ei hun, yng nghanol y berw crefyddol hwn, yn torri ei galon, oherwydd cyflwr gwir grefydd yn y tir. Cynulleidfaoedd adloniant oeddynt.
Nid oedd agoriad yng Nghymru yr adeg honno i fachgen tlawd talentog heb dafod aur ganddo ond gwaith cyffredin ei fro, onid oedd ganddo ysbryd anturiaeth anghyffredin iawn. Am hynny arhosai gartref, yn y gwaith hwnnw, a threulio oriau hamdden i ddarllen a myfyrio, a thrwy hynny ddylanwadu'n fawr ar ei gymheiriaid. O'r herwydd, i'r gwŷr hyn yr ydym yn ddyledus, gan mwyaf, am hynny o wir ddiwylliant ag a oedd gan werin Cymru yn yr oes honno, ac am raen Ysgol Sul a seiat a chyfarfod gweddi. Eithr lle na byddai gwŷr felly yr oedd yn dlawd yn wir. Dirywiai hyd yn oed y moddion diwylliant mawr—yr Ysgol Sul—i fod yn gyfrwng mân falu diystyr ar eiriau. Nid anghyffredin oedd peth fel hyn, gan y rhai a fynnai eu hystyried eu hunain yn ddoethion—dosbarth y dynion, yn treulio Suliau i geisio penderfynu pa anifail oedd "y creadur" yn Rhufeiniaid 8—"awyddfryd y creadur (y greadigaeth) sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw," gan roi'r atebion mwyaf chwithig. Bûm fy hun mewn Ysgol Sul lle y buwyd yn trafod yn hir a difrifol am Suliau, yn nosbarth y dynion, a oedd y gair "diafol " yn hanes temtiad yr Arglwydd Iesu, wedi ei ysbrydoli. Bob yn dipyn deellais mai rhywbeth oedd ysbrydoliaeth a chwistrellid i bob gair ar wahân. Gallwn ychwanegu enghreifftiau o hyn hyd ddiflastod. Trigai'r diweddar Dr. J. Lloyd Williams y drws nesaf imi pan oeddwn yn weinidog ym Mangor, a galwai heibio yn awr ac eilwaith am ymgom. Dywedodd wrthyf unwaith ei fod ef a Henry Hughes, Bryncir, wedi eu penodi rywdro i sgrifennu hanes Methodistiaeth Llŷn ac Eifionnydd. Ymhlith y llawysgrifau y daethant o hyd iddynt yr oedd Cofnodion rhyw Ysgol Sul (oni chamgofiaf, yn llawysgrif Ellis Owen, Cefn y Meysydd), ac ynddynt y penderfyniadau hyn: 1. Nad oedd yr Ysgol Sul i'w chynnal yn hwy na dwyawr. 2. Nad oedd yr athrawon i gadw eu hetiau am eu pennau yn ystod yr Ysgol Sul. 3. Nad oedd yr athrawon i fynd allan am fygyn ar ganol yr Ysgol. Mynnai Lloyd Williams eu rhoi i mewn fel dogfen bwysig yn taflu goleuni ar hanes cyfnod. Gwrthodai Henry Hughes am yr ystyriai eu cyhoeddi yn sarhad ar yr enwad, ac anrhydedd enwad yn bwysicach yn ei olwg na dweud y gwir. A dyna'r graig rwystr yr aeth y llong yn ddrylliau arni ac a roddodd ben ar ysgrifennu'r hanes hwnnw. Pethau fel yr uchod yw'r " pryf yn y pren sy'n gweithio'n ddistaw fel na welir ei ddifrod nes i'r pren ddisgyn yn sypyn o lwch, fel y gwna heddiw.
Lle ceid gwŷr o ruddin fel y rhai y cyfeiriais atynt, yr oedd y seiat a'r cyfarfod gweddi yn ogystal â'r Ysgol Sul yn eu grym. Yn y pentrefi diarffordd y ceid hwy'n gyffredin, eithr difaol oedd dylanwad eu dynwaredwyr, heb wreiddyn y mater ganddynt, ac yr oeddynt yn llu mawr. Ffugient brofiadau seiat nad oeddynt ganddynt,—"a'r swynwyr a wnaethant felly drwy eu swynion, ond ni allasant." Oni chwyna Daniel Owen yn Y Siswrn oherwydd ffuantwch seiadau ei gyfnod ef? Ger fy mron y mae cyfrol gyntaf Cylchgrawn Cylchdeithiol a gychwynnodd yn y flwyddyn 1888, a dyma frawddeg gyntaf ei ysgrif gyntaf,—" Mae un dyn mawr yn priodoli y diffyg llwyddiant sydd yn bod gydag achos yr Arglwydd i amddifadrwydd o'r hyn a ellir ei alw yn Ysbryd Ymosodol'," a dyma frawddeg gyntaf yr ail rhifyn,—"Credwn mai nid yn ddisail yr ydys yn ofni nad ydyw hyd yn oed proffeswyr crefydd, yn y dyddiau hyn, mor gydnabyddus â chynwysiad y Beibl ag y dylent fod." Felly yr oedd ym mhobman lle nad oedd ond dynwaredwyr traddodiad yn arweinwyr. Heddiw y mae pob math o agoriadau i rai fel y gwŷr grymus y soniais amdanynt. Enillant ysgoloriaethau i Ysgol Ramadeg a Choleg, yna gadawant yr henfro am swyddi bras y trefi. Fel hyn y tynnir yr hufen oddi ar wyneb bywyd bro, gan adael y sgim yn unig ar ôl.
A dyna ddau ryfel byd. Yr oedd digon o barch yng Nghymru ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf tuag at bregethwyr mawr i wrando ar ricriwtwyr parchedig a berswadiai'r bechgyn i fynd i ryfel i ymladd "dros Gristionogaeth a gwareiddiad a rhyddid " yn y "rhyfel sydd yn mynd i roi pen ar ryfel," gan eu sicrhau mai o ffosydd Ffrainc y deuai'r diwygiad nesaf, heb aros ennyd i ystyried na all rhyfel fod yn gyfrwng hyrwyddo gwir grefydd dan unrhyw amgylchiadau. Ni ellir hyrwyddo rhyfel ond pan fo pris dyn yn isel ryfeddol ym marchnad bywyd, mor isel nes gallu ohonom glywed am ladd deng mil, can mil, ar unwaith, a dinistrio dinas fawr ar drawiad â bom atomig, heb droi blewyn. Ni ellir hyrwyddo Cristionogaeth ond pan fo pris dyn mor fawr ym marchnad bywyd, oni fo'r bugail yn barod i beryglu ei fywyd er mwyn achub un ddafad, a sylweddoli ohonom fod pob dyn mor bwysig ag nad dros ddynoliaeth y bu Crist farw, ond dros bob dyn ar ei ben ei hun,—"dros yr hwn y bu Crist farw." Ni feddyliodd ein harweinwyr am hyn, oherwydd eu bod yn synio am Gristionogaeth yn nhermau eu hapêl boblogaidd hwy—yn nhermau cynulleidfaoedd mawrion a berw cyfarfodydd pregethu yn lle yn nhermau ail-greu dyn a chymdeithas drwy'r unig rym a ddatguddiwyd yn yr Efengyl sy'n gyfaddas i hynny—grym y Cariad a weddïodd dros elynion a boerasai i'w wyneb,—"O! Dad, maddau iddynt, canys ni wyddant beth y maent yn ei wneuthur." Dyna'r grym sy'n cynnal y Gwynfyd ynghyd, a chorfforiad o'r grym hwnnw—y Jerwsalem Newydd—yn dyfod i'r ddaear, yw'r unig rym a all wneud yr hyn yr honnai'r pregethwyr hynny y gellid ei wneud drwy ryfel. Yn ing cenhedloedd trodd arweinwyr crefyddol Cymru eu cefnau ar rym terfynol yr efengyl a bregethent,—na, nid yr efengyl honno, ond Efengyl eu Harglwydd. Dadrithiwyd y llanciau a ufuddhaodd i'w gorchymyn, a dychwelasant wedi colli eu ffydd yn eu crefydd.
Yna daeth yr Ail Rhyfel Byd, a phlant y gwŷr a ddadrithiwyd gan y cyntaf ac a giliodd oddi wrth grefydd o'r herwydd, yn gorfod mynd iddo, heb yr argyhoeddiad a anfonodd eu tadau i ryfela, gan ddychwelyd adref wedi colli ffydd ym mhopeth. A'r bobl hyn yr ydym yn delio wrth geisio edfryd ein safonau moesol ac ysbrydol, a'r hyn a ystyriwn yn rym yr hen gyfnod. O'r herwydd, y mae safonau moesol ar chwâl a'n gwareiddiad yn dadfeilio. Y mae rhestr bechodau'r bennod gyntaf o'r Rhufeiniaid, a barai ddychryn inni gynt, fel yr ofnem ei darllen, yn bethau cyffredin heddiw. Gwelir hyn ym manion bywyd yn ogystal ag yn ei bechodau arswydus. Meddylier am y miloedd ar filoedd bylbiau trydan a ladrateir o gerbydau'r ffordd haearn bob blwyddyn. Aeth un o'n gweinidogion i ffatri yn Lloegr yn ddiweddar i annerch y bobl ar awr ginio. Pan oedd ar ddechrau gwaeddodd un o'r dyrfa arno,—"Does mo'ch eisiau yma, 'r ydym yn hollol fodlon ar ein cyflwr,—mwy o gyflog nag erioed, amodau llafur campus, a phob pleser o fewn cyrraedd." Trodd y gweinidog at rybudd a oedd ar y mur a darllenodd ef i'r dyrfa,—"Oherwydd bod cymaint o gyllyll a ffyrc a llwyau yn cael eu lladrata yn y ffatri hon rhaid i'r gweithwyr o hyn allan ddyfod â'r eiddynt eu hunain." "Wel," ebe'r gweinidog wedi gorffen darllen," mae un peth nad yw gennych,—onestrwydd."
Pan oeddwn blentyn, arferiad cyffredin merched y fro oedd golchi ar fore Llun, a lle byddai perthi eithin wrth law, taenu'r dillad arnynt os byddai'n braf, a'u gadael allan drwy'r nos, heb feddwl mwy am y peth. Nid oes ferched pentref yng Nghymru heddiw a feiddiai wneud dim o'r fath os am gadw eu dillad.
Gweithiodd y pydredd drwy bob agwedd a gradd ar fywyd, a thaflu ei lwydni hyd yn oed ar safonau eglwysig. Yn yr awyrgylch hwn y magwyd ein harweinwyr crefyddol, yn llên a lleyg, a'i ddiymadferthedd wedi gafael ynddynt. fel haint, nes ymollwng ohonynt i gymryd pethau fel y maent, heb na gweithgarwch nac egni i ymosod ar y dryswch.
Canlyniad y diymadferthedd yw cymhwyso mân feddyginiaethau, megis cais i uno'r enwadau a phethau felly, fel ceisio gwella afiechyd angheuol drwy wasgu ploryn ar yr wyneb,—yr arwydd eiddilaf ohono. Ni fynnodd yr Arglwydd hyrwyddo'r Deyrnas drwy geisio uno enwadau crefyddol ei ddydd. Ni ellid cynnwys yr egni creu gwanwynol a gorddai yn ei enaid Ef yng nghodau hydrefol hen gyfundrefnau. Ofnaf yn wir fod angen meddyginiaeth aruthrol fwy na'r manion a gynigir. Deuir â gwŷr ar draws gwlad yn awr ac yn y man i geisio megina diwygiad. Chwŷth yr awel yn gryf am ennyd a chilio, a dychwel y myllni. Y mae'n cyflwr yn rhy arswydus o lawer i fân feddyginiaethau felly. Hiraethwn am yr hen adfywiadau, megis rhai Evan Roberts a '59, ond ni fyddent yn dda i fawr heddiw pe caem hwynt. Chwe blynedd yn ôl awn i lawr y stryd yn Lerpwl gyda chyfaill o adeiladydd, yn yr adeg pan nad oedd caniatâd i adeiladu preifat. Wrth fynd heibio i res o dai galwodd fy nghyfaill sylw ati, a dweud,—"Dyma'n gwaith yn awr, trwsio tai wedi eu blitsio." Gwelwn rai simneiau wedi eu trwsio, rhai tal—cennau ac wynebau tai, ffenestri newydd yma ac acw, craciau wedi eu plastro a thipyn o baent i'w twtio. Yng. nghanol y rhes yr oedd tŷ a ymddangosai'n gwbl ddianaf, heb y graith leiaf arno. "Pam y dihangodd 'nacw mor llwyr?" meddwn. Ateb y cyfaill oedd,—" Nacw a'i cafodd waethaf. Y mae wedi ei sgytio drwyddo fel nad oes dwy fricsen yn glynu'n dynn yn ei gilydd. Rhaid tynnu 'nacw i lawr i'r sylfaen, a bydd hynny'n job beryg i rywun." Fe gredwn y byddai i ddiwygiad fel yr eiddo Evan Roberts ddatrys ein problemau. Na fydd yn wir. Fflach olaf yr hen gyfnod oedd hwnnw, cyn marw. O'r miloedd a ddychwelwyd prin yr oedd neb heb draddodiad crefyddol iddo, a wylai'n hidl wrth glywed "Am achub hen rebel fel fi". Gwyddai am y drefn y bu'n rebel yn ei herbyn. Y mae myrddiynau heddiw heb fwy o draddodiad crefyddol na Hotentotiaid Affrica. Nid oes gan yr hen ddylanwadau ddim oll i'w ddweud wrthynt, ni wyddant beth yw ystyr "rebel," a job berygl i rywun fydd eu cyhuddo o fod yn rebeliaid. Y mae gan y Saeson ddau air am ddau beth gwahanol na ddefnyddiwn ni ond un gair amdanynt,—revival a reformation. "Protestant Reformation" y galwant ddiwygiad Martin Luther, ond "Welsh Revival" am ddiwygiad Evan Roberts. Trwsio'r craciau a gloywi tipyn ar yr adeilad oedd Adfywiad Evan Roberts; tynnu adeilad pwdr i lawr i'w sylfaen a wnaeth Luther a Wesley a Harris,—"job beryg i rywun." Arwydd o'r gwahaniaeth yw bod pob adfywiwr yn ŵr poblogaidd. Nid oedd adeilad a gynhaliai dyrfaoedd Evan Roberts, yn ei dduweiddio. Eithr y mae pob diwygiwr mewn perygl. Peth cyffredin oedd i Wesley a Harris a Phantycelyn fynd adref o'u cyhoeddiadau yn eu gwaed; ac am Luther, yr oedd mewn perygl am ei fywyd beunydd. Nid peth poblogaidd yw tynnu adeilad pwdr i lawr i'w sylfeini, a fagodd gysegredigrwydd cartref i rywun. Ofnaf yn wir mai dyna'n cyflwr heddiw, nad Adfywiad (revival) yw ein hangen, ond Diwygiad (re-formation). Eithr nid wyf yn ddiobaith hyd yn oed am hynny.
Gwelais un neu ddau ymhlith gweinidogion ieuainc Cymru, â chyflwr eu cyfnod yn wewyr trwm iddynt, a'r athrylith ganddynt sy'n anhepgor diwygiwr. Os cânt eu Heglwys yn aelwyd a noddfa iddynt, yn lle'n garchar, y mae gobaith iddynt ddyfod yn bŵerau chwyldroadol aruthrol o'i mewn a all ail greu crefydd eu cyfnod. Yn niffyg hynny gallant ddyfod yn bŵerau dinistriol i'r Eglwys a chario gwaith yr Arglwydd ymlaen o'r tu allan, fel y rhan fwyaf o'r diwygwyr mawr, yn cynnwys hyd yn oed yr Arglwydd ei Hun, neu dorri eu calonnau.
Hyd yn oed heddiw, â'r gwaith yn ei flaen " mewn modd nis gŵyr efe". Tua chan mlynedd yn ôl bu farw Ieuan Gwynedd o'r diciâu, yn ddiymgeledd,—"yn ôl ewyllys Duw," fel llu o ieuenctid ei ddydd. Heddiw buasai Ieuan Gwynedd yn gwella mewn sanatoriwm. Bedwar ugain mlynedd yn ôl trigai gŵr mewn plasty yn y cyffiniau hyn. Yr oedd yn aelod seneddol ac yn ŵr mawr mewn sasiwn a seiat a chyfarfod gweddi, a hwythau yn eu bri. Yr adeg honno yr oedd plant araf y pentrefi yn gyff gwawd a chocyn hitio i'r plant eraill, ac at drugaredd unrhyw un a gymerai ddigon o ddiddordeb ynddynt i daflu crystyn iddynt. Heddiw y mae'r gwyliau crefyddol mawr, a'r cyfarfodydd gweddi a'r seiadau yn edwino, a'r gwŷr mawr yn cadw ohonynt, ond y plasty hwnnw heddiw ac eraill tebyg yn ysgolion plant araf lle y cerir hwy a gofalu amdanynt gan ddefnyddio pob dull a modd i'w cymhwyso ar gyfer brwydr bywyd. Onid yw'r Arglwydd yn fyw iawn yn y mudiadau hynny? Y mae'r gwynt yn chwythu lle y mynno. Ni ellir ei gynnwys ef rhwng muriau cyfundrefnau a chyfundebau crefyddol, ac y mae ganddo ffordd chwithig weithiau i godi storm a'u chwythu'n garnedd os byddant ar ei lwybr, a chraciau a llwydni ynddynt, a dal i fynd yn ei flaen i wneud ei waith fel pe na bai dim o bwys wedi digwydd yn eu cwymp. Yn ei grwydradau chwŷth ar wyneb ambell Ioan, fab Sachareias, yn y diffeithwch, tra fo Annas a Chaiaffas yn esmwyth ar eu glythau, gan gredu, druain, mai hwy yw ceidwaid y pŵerau.
Ac y mae angerdd ac egni crefyddol aruthrol ar waith heddiw, a deiliaid mudiadau yn aberthu popeth er mwyn eu daliadau, a hynny hyd yn oed yng Nghymru. Eithr yn y crefyddau totalitaraidd yn unig y mae hyn,—Comiwnyddiaeth, Pabyddiaeth, Tystion Jehofa, Ysbrydegiaeth, a'u bath, totalitariaeth feddyliol bob un ohonynt. Cyfyd y math hwn ei ben bob amser pan fo cynrychiolwyr rhyddid yn ddifater. A'r egni hwn yw'r arwydd nad ydyw'n cyfnod yn anobeithiol. Galwer hwy'n chwyn os mynnir, ond ni thyf chwyn yn y gaeaf. Tyf chwyn yn unig pan fo posibilrwydd blodau a llysiau, gwair ac ŷd a ffrwythau, os trinir y tir gan rai a gweledigaeth ganddynt. Lle bo chwyn y mae egni'r gwanwyn yn galw.
A phwysig yw peidio â gwneud yr Eglwys yn gyfystyr â'r cyfundrefnau. Cododd gŵr mewn cyngor tref yn ddiweddar i gynnig gwelliant a fyddai'n fendith foesol fawr i'r cylch, a synnai wrth lefaru na buasai'r eglwysi wedi meddwl am y peth. Blaenor eglwys ydoedd, ond nid oedd wedi gwawrio arno gwawrio arno mai ef oedd yr eglwys, a'r eglwys wrth ei gwaith yn yr union fan honno. Nid sefydliad yw'r Eglwys i'w gyfyngu rhwng muriau addoldy ac i drafodaethau cyfarfod blaenoriaid. Yr Eglwys yw pob aelod ohoni, lle bynnag y bo, sy'n hyrwyddo yn y lle hwnnw egwyddorion y Deyrnas, ai ar lawr senedd neu gyngor sir neu gyngor dinas, cyngor dosbarth neu gyngor plwy, neu mewn chwarel a glofa ac ysgol a phulpud, neu o'r tu ôl i gownter siop. Petai pob aelod eglwysig yn synio nad yw'n ymddihatru o'i aelodaeth eglwysig pan yw'n aelod o sefydliad arall, ond yn hytrach mai ef yw'r Eglwys yn y lle hwnnw, fel mai'r milwr unig yn gwylio mewn congl anghysbell yw'r fyddin yn y fan honno, byddai'r pwerau sy'n tynnu'r adeilad i'w sylfeini er mwyn ailadeiladu, wedi dechrau ar eu gwaith, a'r nef newydd a'r ddaear newydd yn dechrau cymryd ffurf yn ein plith.
Eithr dyma'r cysur mwyaf. Y mae rhai yn ein plith o hyd nad yw nac undeb na diffyg undeb, na pherygl y byd na dinistr cyfundrefnau a sefydliadau, yn siglo dim arnynt, am eu bod yn sicr o'u ffydd, ac o'r herwydd yn disgwyl yn dawel a chadarn fel Anna a Simeon gynt am ddiddanwch yr Israel, gan wybod y daw. Pan ddaeth gynt, nis adnabuwyd gan yr offeiriad, ni welai hwnnw yn ei freichiau ond baban fel pob baban arall. Gwelsant hwy ynddo iachawdwriaeth yr Arglwydd. Pan ddeuai i lawr o'r mynydd yn y bore bach, heb le arall ganddo i roi ei ben i lawr, yn wrthodedig gan fyd ac eglwys, yn newynog, a'i ddillad yn llaith gan wlith neu farrug y nos, eu bath hwy a roddai groeso a chynhesrwydd aelwyd iddo, a'r hyn a oedd ar eu bwrdd yn damaid; a'u bath hwy ar hyd yr oes—oedd sy'n sicr ohono ac yn ei gadw rhag torri ei galon. Y maent hwy gyda ni o hyd, ac ni dderfydd y ffydd tra fyddant, ac ni phydra'r ddaear yn anobeithiol, canys hwy yw halen y ddaear.