Neidio i'r cynnwys

Yr Argyfwng/J. E. Daniel

Oddi ar Wicidestun
← Cynnwys Yr Argyfwng

gan William Ambrose Bebb

D. J. Williams →

II.

Prynhawn Mercher, yr wythnos ddiwethaf, minnau yn f'ystafell yn gweithio. Clywed y teliffôn yn canu a'm gwraig yn ei ateb; gwrando a diolch nad i mi yr oedd yr alwad y waith hon beth bynnag. Mynd ymlaen â'm gwaith, a throi fy mhen yn ddigon swta pan ddaeth fy ngwraig i mewn ataf. "Paid â chynhyrfu, mae newydd drwg." "Ie ?" "Mae Ambrose wedi marw."

Anodd gennyf gredu i Ambrose Bebb erioed golli cyfaill, fe'u cydiai yn rhy dynn wrtho. O'r noson honno, saith mlynedd ar hugain yn ôl wrth y bwrdd bwyd yn y Coleg Normal ym Mangor, pan droes yr enw a welswn wrth lawer ysgrif yn gig a gwaed o ŵr hirfain, trwm ei ael a gwridog ei rudd, ac, fel y deuthum yn fuan i wybod, bras ei gam, ni phallodd ein cyfeillgarwch na'i wanhau gan na gwahaniaeth barn, na phellter lle na chyfnewid amgylchiadau.

Mwynder Maldwyn bro ei hynafiaid; gwytnwch Ceredigion bro ei fabwysiad; hyblyg ac ystwyth gyda phobl, anhyblyg a diysgog ar fater o argyhoeddiad erioed ni fradychodd egwyddor er mwyn wyneb dyn; gweithiwr diarbed a arbedai amser i bawb a alwai arno; diwylliant Cymru a gwrtaith Ffrainc ; cerddediad y ffriddoedd ar balmant y ddinas a'u hysbryd yn ei chynghorau; chwilotwr gorffennol ei genedl ac adeiladydd ei dyfodol; cannwyllyn goleuo a thân yn gwresogi; Cymro heb ynddo dwyll, onest i'w niwed ei hun-hawdd yn wir oedd ei hoffi.

Bu'n gydymaith i mi ar droed ac ar olwyn, ar fôr ac ar fynydd, yng Nghymru ac ar y Cyfandir, ar lwyfan ac ar bwyllgor, cyn ei briodas ac wedyn, yn ei gartref a thu allan iddo, mewn gwaith ac mewn hamdden, a chasglasom lu o atgofion, nad oes neb mwyach,—dyma, angau, dy golyn,—a all eu rhannu â mi.

Cof gennyf i ni unwaith, ar ôl teithio'n hir dros wastatir Picardy a bryniau Bwrgwyn, heb unrhyw arwydd nac argoel ein bod ar fin un o funudau mawr ein bywyd, weled o ryw Ben-y-pas uwchlaw llyn Genefa, frenin mynyddoedd Ewrop, arglwydd fryn yr Alpau, fry yn yr entrych, gwyn a dihalog, ymhell uwchlaw sŵn a dwndwr trefi, priodol arwydd y tragwyddol a'r arhosol. Felly, mi gredaf, heb argoel na rhybudd, y daeth Ambrose Bebb i olwg y sylwedd tragwyddol.

Mae bob amser radd o hunanoldeb mewn gofid a cholled. Onid y golled a gawsom ni ydyw yn gyntaf, onid yw'r esgid yn gwasgu mewn man nas gwyddoch chwi ? Erbyn hyn, wedi ymbwyllo, gallaf ymwybod rhyw gymaint â thrallod anaele ei deulu, a dechrau plymio'r golled a gafodd ei eglwys, ei goleg, ei ddinas, ei blaid, ei genedl, pan aeth i'w hir hedd; a da y gwn y daw eraill cymhwysach lawer na mi i sôn am ddyled llawer sefydliad a chymdeithas iddo. Collwyd priod a thad, athro a gwleidydd, blaenor a llenor. Collais innau gyfaill, a dyna'r golled a'm gwanodd ac a'm gwân. Fy nheyrnged i, teyrnged i gyfaill ydyw.

J. E. DANIEL.

Nodiadau

[golygu]