Neidio i'r cynnwys

Yr Argyfwng/Saunders Lewis

Oddi ar Wicidestun
← D. J. Williams Yr Argyfwng

gan William Ambrose Bebb

Rhagair →

IV.

Allan o flwch y set radio y daeth imi'r newydd am farw Ambrose Bebb.

Bu cofnod angerddol amdano yn y "Faner" gan J. E. Daniel ac atgofion pwysig gan D. J. Williams. Yr oedd ef yn annwyl gan lu o gyfeillion a disgyblion, yn Llydaw ac yng Nghymru.

Ond ni chafodd ei athrylith frwd ei chydnabod fel yr haeddai,a buom anhael ein clod iddo. Yr oedd mawredd yn Ambrose Bebb. Dywedaf dri pheth amdano ac am ei waith.

Yn gyntaf, ef oedd y newyddiadurwr mwyaf lliwus a hoyw a gafwyd yn y Gymraeg wedi Emrys ap Iwan. Dysgodd ei grefft ym Mharis gan Maurras a Léon Daudet a llenorion eraill yr "Action Française" a'r "Nouvelles Litteraires", newyddiadurwyr a oedd yn ysgolheigion clasurol ac yn haneswyr dysgedig, ond yn ymdaflu hefyd i ganol miri politicaidd Paris.

Os mynnwch chi weld disgleirdeb newyddiaduraeth Gymraeg trowch at erthyglau Bebb yn y "Faner" a'r "Geninen" rhwng 1921 a 1924, neu at ei bortread o Maurras a'i ymgom gyda Charles le Goffic yn y "Llenor " cynnar. Ar ôl rhyfel 1914-18 erthyglau politicaidd Bebb a wnaeth fwyaf i atgyfodi cenedlaetholdeb Cymreig a rhoi cychwyn i fudiad Plaid Cymru. Y mae iddo le pwysig yn hanes Cymru o'r herwydd.

Yn ail, yr oedd yn hanesydd arwrol. Ef oedd yr unig hanesydd Cymreig rhwng y ddau ryfel byd yr oedd ei lyfrau yn ennyn cariad at Gymru mewn darllenwyr ifainc. Nid oedd ef chwaith heb wybodaeth ddofn. Yr oedd ganddo gymaint o ddysg â'r gwŷr academig gwyn eu gwaed, a honnai fod yn haneswyr amhleidiol.

Rhaid cydnabod nad oedd ganddo feddwl beirniadol a'i fod yn fyrbwyll. Arweiniai hynny ef i brofedigaeth fel hanesydd ac fel newyddiadurwr. Ond yr oedd oesoedd y gorffennol yn fyw iddo ef a chymeriadau enwog hanes yn bobl o gig a gwaed a meddwl ac enaid.

Yn drydydd, yr oedd yn artist ysblennydd o lenor. Yr oedd ganddo gyfoeth geirfa Ceredigion a'r cywyddwyr, ffraethebion tafodiaith, idiomau gwlad, diarhebion, penillion, rhaeadr o iaith. Tra erys neb a fedr adnabod rhin ar Gymraeg fe erys swyn dihysbydd yn llyfrau teithio Bebb.

Yn ei arddull ef priodwyd Tregaron a Pharis. Gwladwr oedd ef, mab ffarm. Un o'i benodau mwyaf yw'r disgrifiad o ffarm ei gartref ar gychwyn "Crwydro'r Cyfandir ", pennod sy'n allwedd i'w holl waith.

Gwledydd o dyddynwyr yw Ffrainc a Llydaw, a phrin fod siop ym Mharis bentrefol nad oes ganddi gyswllt â ffarm; nid rhyfedd i Bebb fedru ennill eu calonnau.

Gallai ddisgrifio dynion yn well na dinasoedd; pentrefi'n well na threfi mawrion; caeau a llafur y ddaear a lliw a sawr y pridd yn well na phensaernïaeth. Mae hynny'n brin mewn llyfrau teithio.

Ond nid er mwyn gwybod am Ffrainc na Llydaw y teithiwn ni gydag ef mwy. Eithr oblegid ein bod yn ei gael ef yn ei bererindodau, ef a'i lawenydd a'i ddawn i fyw a'i hwyl fawr, ei orfoledd mewn cwmni, mewn ymddiddan, mewn atgofion, a'i galon yn ir ynddo, a'i huodledd parod a'i fawrfrydigrwydd.

Gellir clywed ei lais ar ddail ei lyfrau. Och, nis clywir ond felly fyth mwy.

SAUNDERS LEWIS.

Nodiadau

[golygu]