Neidio i'r cynnwys

Yr Argyfwng/Thomas Roberts

Oddi ar Wicidestun
← Cynnwys Yr Argyfwng

gan William Ambrose Bebb

J. E. Daniel →

RHAGARWEINIAD[1]

Fe wyddys i awdur y llyfr hwn farw cyn ei gyhoeddi. Tybiwyd gan hynny nad amhriodol fyddai argraffu'r pedair erthygl a ganlyn fel bras-gofiant iddo. Rhyngddynt a'i gilydd rhoddant ddarlun gweddol gyflawn o'r dyn yn ogystal ag o'r awdur. Ys gwir na soniant ryw lawer am y crefyddwr. I gau y bwlch hwnnw nid rhaid ond darllen y llyfr.

Diolchir i awduron a chyhoeddwyr y pedair erthygl am ganiatâd i'w hadargraffu yma. Dygant nodau digamsyniol mai yn y wasg wythnosol y cyhoeddwyd hwy gyntaf, nid ydynt waeth am hynny, ac fe'u cyhoeddir yma heb gyfnewidiadau.

I.

Fel cyd-athro, braint yw cael talu teyrnged i goffadwriaeth fy nghyfaill, Ambrose Bebb, a dwyn tystiolaeth i'w wasanaeth yn y Coleg Normal, tystiolaeth sy'n seiliedig ar adnabyddiaeth ohono ef a'i waith ar hyd yr holl flynyddoedd a dreuliodd ym Mangor. Yr oeddwn yn y coleg yn ei groesawu y diwrnod y penodwyd ef yno yn Athro Hanes ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

Un o blant Ysgol Sir Tregaron ydoedd, a hen fyfyriwr o Goleg y Brifysgol yn Aberystwyth, lle y graddiodd gydag anrhydedd uchel mewn hanes a Chymraeg. Yr oedd wedi treulio peth amser yn dysgu Cymraeg i fyfyrwyr ym Mharis, ond er ei fod wedi magu cryn hoffter tuag at Ffrainc a'i phobl, yn enwedig Llydaw a'r Llydawyr, eto hawdd oedd canfod ei falchder ar ei benodi i swydd yng Nghymru, lle y caffai fwy o gyfle i gysegru ei ddoniau i wasanaethu ei bobl ei hun—a hynny yn eu gwlad eu hun. A dyna, mi gredaf, oedd rhai o'i brif nodweddion—ei syniad uchel am ei swydd, a'i awydd angerddol am gael gwasanaethu Cymru.

Rhoddodd wasanaeth teilwng i'r coleg ar hyd y blynyddoedd, a hynny yn bennaf yn yr Adran Hanes. Ond cafodd gyfle i ddarlithio ar destunau eraill hefyd. Ar un adeg gofynnwyd iddo gynorthwyo yn yr Adran Gymraeg. Afraid yw dywedyd ei fod yn gryn feistr ar yr iaith, a hyfrydwch nid bychan iddo oedd ei brofiad fel Athro Cymraeg.

Wedi rhai blynyddoedd symudodd i gymryd gofal Adran Gwybodaeth Ysgrythurol. Yr oedd y Coleg Normal wedi cynnal dosbarthiadau yn y maes hwn lawer blwyddyn cyn ei ddyfodiad ef i Fangor, o dan athrawon enwog iawn, sef y Prifathrawon John Morgan Jones a'r Dr. Gwilym Arthur Edwards. Wedi i'w tymor hwy ddyfod i ben, gwahoddwyd Ambrose Bebb i ymgymryd â'r gwaith, canys gwyddid fod y testun yn agos iawn at ei galon. Yr oedd y Beibl yn faes astudiaeth arbennig ganddo, a bu yn destun rhai o'r dosbarthiadau allanol a gynhaliwyd ganddo dan nawdd y Brifysgol a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Ymaflodd yntau yn ei gyfrifoldeb newydd â'i frwdfrydedd arferol.

Ond Hanes oedd ei brif destun yn ei flynyddoedd olaf, ac o bob Hanes, Hanes Cymru. Ysgrifennodd amryw lyfrau diddorol ar y pwnc, a bu ei gyfrolau yn gyfraniad pwysig a defnyddiol i athrawon a disgyblion yr ysgolion uwchradd. Gwir mai yn gymharol ddiweddar y rhoddwyd y lle dyladwy i Hanes Cymru yng nghyrsiau Hanes y Colegau Hyfforddi, ond pa un bynnag am hynny, megis braint aruchel y cyfrifai ef gael trafod yn ei ddosbarthiadau brif linellau hanes ei genedl ef ei hun. Bu'n llafurio felly mewn amrywiol feysydd, ond iddo ef, un arwyddair oedd i'r holl waith, sef "Er Mwyn Cymru".

Gellir tystiolaethu fod Ambrose Bebb bob amser yn llawn sêl dros lwyddiant ei fyfyrwyr. Cymerai ddiddordeb arbennig ynddynt, ac enillodd eu serch, eu parch, a'u teyrngarwch ar hyd y blynyddoedd. Gwnaeth ei ran i gyfoethogi eu bywyd cymdeithasol a chrefyddol, yn enwedig trwy ei gyfraniadau i weithrediadau'r Gymdeithas Gymraeg ac Undeb Cristnogol y Myfyrwyr, a bu yn daer bob amser yn eu hannog i fanteisio ar yr Ysgol Sul a moddion gras yn gyffredinol. Nid rhyfedd, a'r Ysgol Sul ers cenedlaethau yn un o brif gyfryngau diwylliant ein cenedl ni, i Ambrose Bebb fod yn dra eiddgar dros ei llwydd a'i lles.

Y mae cenedlaethau o fyfyrwyr tan ddyled iddo, ac y mae'n ddiau fod lluoedd ohonynt y dyddiau hyn ar hyd a lled y wlad trwy Gymru, ac mewn llawer sir y tu hwnt i Glawdd Offa hefyd, yn ymuno gyda ni i dalu teyrnged i'w goffadwriaeth.

THOMAS ROBERTS.

Nodiadau

[golygu]
  1. ↑ Nodyn: nid yw brif gorff gwaith yr awduron isod allan o hawlfraint eto (2026). Fel teyrngedau byr i awdur a fu farw tra fo ei lyfr gyda'r argraffydd, mae eu cynnwys yma yn ddefnydd teg