Neidio i'r cynnwys

Yr Awen Barod/Briwsionyn

Oddi ar Wicidestun
Iesu'n Gostegu'r Storm Yr Awen Barod

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)


golygwyd gan John William Jones
Cenedl y Cymry


BRIWSIONYN.

ERYS Swyn mewn briwsionyn—o'r lliain,
Er lleied yw'n disgyn;
Yn gymysg â'r cenllysg gwyn
Haid o'r adar a'i hedwyn.


Nodiadau

[golygu]