Yr Awen Barod/Bwi, Y
Gwedd
| ← Hen Gloc Mawr, Yr | Yr Awen Barod gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) golygwyd gan John William Jones |
Insomnia → |
Y BWI.
OD anwel ei gadwynau,—rhwym o hyd
Yw er mwyn bywydau;
Deil ei ben uwch rhydle bae
At i hanner mewn tonnau.
O'i unig le, sŵn ei gloch—trwy y niwl
Tew a'r nos draidd atoch;
A hi'n ddydd, oni wyddoch
Werth y bwi, dan warth y boch.